Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
FY YMWELIAD A SHARON. PA.
FY YMWELIAD A SHARON. PA. Gan Wm. M. Jones, Martin's Ferry, O. Dechreuais ysgrifenu y nodiadau canlynol yn union wedi dychwelyd, ond fe'm lluddiwyd gan swmbwl yn fy nghawd, ac er ei symud, gorfu i mi fyned dan oruchwyliaeth y gwr ag sy'n cymeryd arno i adgyweirio y felin falu. Amcan fy ymweliad a Sharon y waith hon oedd cael mwynhau cyfar- fodydd cyhoeddus Cymanfa Bedydd- wyr Cymreig Dwyrain Ohio a Gorllew- inbarth- Penn. Gadewais Martin's Ferry am 5:30 foreu Sadwrn, Mai 13; cyraeddwyd Sharon erbyn 10.50 foreu yr un dydd. Wedi cyraedd y capel, a chael fy adwaen gan nifer fawr o'm brodyr o'r un ffydd, cefais wahoddiad i gydeistedd a hwy yn y cynadleddau a chyd gyfranogi a hwy oddiar fwrdd gwleddoedd y Gyrpanfa. Y peth cyn- taf a deimlais wedi eistedd ac edrych o amgylch oedd gweled absenoldeb y brawd anwyl, y diweddar Barch. J. T. Lloyd, Youngstown; gwr llawn mewni cynadledd oedd y brawd Lloyd, a theimlwn fel pe buasai rhywbeth yn eisieu yn y gynadledd o herwydd ei absenoldeb. 0 herwydd symudiad Dr. Lloyd trwy farwolaeth, cymerwyd ei le fel llywydd etholedig y Gymanfa am elehi gan yr is-gadeirydd, y brawd Tom Jones, o eglwys Immanuel, New Castle. Cyflawnodd ei waith yn drefnus ac i bwrpas, heb fawr ymdroi oddi amgylch, ac felly yr oedd holl weithrediadau. y Gymanfa, ond ni raid rhyfeddii am hyn pan ystyriom fod gan y trefnydd galluog, y Parch. R. C. Morgan, Pittsburgh, law yn ei threfn- ladau dan ofal yr hwn, yn fisol, y mae yr eglwys Gymraeg yn Sharon yn bre- senol. Cafwyd saith o bregethau gan saith o weinidogion, saith yn rhif perffaith, a dyna rif gweinidogion y Gymanfa, y Parchn. Rhoslyn Davies, R. C. Morgan, W. J. Griffiths, cylch Pittsburgh a Sharon; Clifford Josuah, New Castle; Lewis George, Freedom, New York; J. Dwight Roberts, Johnstown, a'r Parch. Joseph T. Lloyd, Youngstown. Dwy bregeth Gymraeg a phump yn Saesneg gafwyd. ac nid yw hyn yna yn edrych yn deg a'r hen iaith anwyl ar ei haelwyd ei hun. Cafodd amryw o Fedyddwyr egwyddorol a ddaethant i'r cyfarfod dau a hwyr, er cael mwynhau pregethu Cymraeg, eu siomi. Yr oedd mwyafrif y pregethau o duedd athraw- iaethol ac efengylaidd. Tarawyd tant "yr ymadrodd am y Groes" yn y bre- geth gyntaf gan y Parch. Rhoslyn Davies, a chwythai yr awel yn weddol gryf o gyfeiriad y Groes yn ystod yr oedfaon. Foreu dydd yr Arglwydd, yn y capel Cymraeg am naw o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod gweddi tebyg i hen gyrddau gweddio ICymru, a hawdd oedd teimlo fod dylanwadau yr ysbryd wedi syrthio, ac fod y pellder rhwng nef a daear wedi ei ddileu yn hollol trwy weddiau gwresog a thaer y brodyr William A. Johns, Chas. Williams, Lewis George, a brawd gwlithog arall o Sharon, ac wedi i'r Parch. R. C. Morgan ein gollwng trwy weddi, awd ar ein hunion i gapel y Bedyddwyr Saesneg, lie y cynelid y gweddill o gyrddau'r Gymanfa, am ei fod yn hel- aethach na'r capel Cymraeg. Cafwyd oedfaon nerthol, a bu'r brodyr oil yn deyrngarol i athrawiaethau sylfaenol Efengyl ein Harglwydd. Nodwedd ddymunol iawn trwy'r oil o'r cyrddau oedd y canu swynol a nefol- aidd dan arweiniad y brawd tawel a dihymongar John Deveraux. Medda 1 ar lais tyner a swynol, ac yr oedd yn dvlanwaclu ar y canu fel ryw fiwsig effeithiol i'w deimlo ynddo, a lleisiau pawb yn y gynulleidfa yn toddi i fewn i lais telynaidd yr arweinydd. Ni chlywais yr hen emyn anwyl hwnw o eiddo Dafydd William, Pontardulais. Caed ffynon o ddwfr ac, o waed, I olchi rhai duaf ei lliw, Ac hefyd hi redodd yn rhad I'r ardal lle'r oeddwn i'n byw yn cael ei ganu mor deimladwy a nefolaidd, er pan y'i clywais yn Ngharmel, Pontlliw, dan arweiniad y cerddor galluog aduwioI John Howells, Castell Llwchwr. Mae canu o'r natur hyn yn pery i ni deimlo fel pe buasai bysedd rhywun o wlad y gynau gwynion ynchwareu. ar danau tyneraf y galon. Nid oes neb all draethu y daioni y mae hen arweinwyr canu eglwysi Cymraeg wedi ei wneyd i hen genedl anwyl y Cymry. Gwelais rai o hen arweinwyr canu yn Nghymru wedi ymgolli yn y mawl a'r gan, a'r dagrau santaidd yn dysgleirio fel perl- au ar eu gruddiau. Nodwedd ddymunol yn nglyn a'r Gymanfa hon, neu efallai yn fwy priodol yr eglwys yn Sharon, oedd nodwedd cartref, pawb yn edrych fel pe yn perthyn i'r un teulu, llond eg- lwys o garedigrwydd tuag at yr ym- welwyr o bell ac agos, cyflawnder o luniaeth ar gyfer pawb yn ddyeithriaid ac mae clod arbenig yn ddyledus i wragedd da yr eglwys am eu hunan- aberth yn gwasanaethu byrddau er cysur eraill, a dau frawd iprysur fel goruchwylwyr y byrddau oedd y bro- dyr gweithgar Henry Harries a Josuah Evans. Cyn codi oddiwrth y byrddau wedi swpera brydnawn Sul, canwyd amryw o emynau Cymraeg a Saesneg yn nerthol a theimladwy. Yn y Gymanfa hon gwelais a chlyw- ais dri o weinidogion am y waith gyn- taf, y Parch. W. R. Griffiths, gwein- idog eglwys Chatham Street, Pitts- burgh; Parch. Clifford Josuah, gwein- idog Immanuel, New Castle, a'r Parch. Lewis George, Freedom, New York, y d,dau olaf yn dclynion cydmarol ieu- ainc, ac yn blant y Diwygiad, ac mae naws y diwygiad yn amlwg arnynt heddyw. Un o frodorion gwlad Meir- ion yw y brawd Griffiths, yn llefarwr lithrig, a'r Gymraeg yn goeth a phur ganddo, a dyn ieuanc addawol yw y Parch. Jos. T. Lloyd, yn weinidog ar hen eglwys ei dad ar Walnut Street, Youngstown. Trueni fod yr eglwys hon wedi ymwrthod a'i chariad cyntaf, yr hen Gymraeg anwyl. Gwr ag sydd yn deall natur a dyben ei swydd ydyw y Parch. J. Dwight Roberts, ysgrifen- ydd y Gymanfa; mantais an hrislad- wy yw cael ysgrifenydd Jtwyllog, doeth a didramgwydd fel y brawd -Roberts. Esgob y Gymanfa yw y Parchn R. C. Morgan, Pittsburgh, ac wedi bod yn aelod o'r Gymanfa hon am ddeugain mlynedd. Mae R. C. wedi el eni i fod yn bregethwr, pregetha Saesneg gyda hwyl a brwdfrydedd, ag acen y Cymro, a medda ar hvawdledd areithyddol naturiol ac uwchraddol, a'r atbrylith Jtrono wedi ei pherffeithio trwy ffydd a chariad tuag at Berson byw Iachawdwr y byd. Fel pregethwr Cymraeg a Saesneg, gellir rhoddi iddo y lie blaenaf yn mhlith Cymry Ameri- ca. Cyfarfyddais a hen gyfeillion ag oeddwn mewn mawr hiraeth am eu gweled, wedi colli golwg ar rai o hon- ynt er ys blynyddau lawer. Iechyd i ben a chalon ydoedd cyfarfod a chyf- eillion mor ymddiriedol a theyrngarol i'n hegwyddorion gwahaniaethol fel Bedyddwyr, a William A. John (Brython); Tom Edwards, New Castle; Charles Williams, Pittsburgh; Wm. Morgan, Josuah Evans, Henry Harries, John Deveraux, a George Williams, Sharon; y diweddaf, efe a'i briod, newydd ddychwelyd o Awstral- ia, wedi morio braidd o amgylch y byd. Dygwyddodd fod y llong wedi bwrw angor yn Capetown Bay, South Affrica, pan oedd miloedd o garchar- orion o'r drefedigaeth Germanaidd dan arweiniad y Cadfridog Botha yn glanio yn Capetown. (I'w orphen yn ein nesaf).
I NODION 0 NEW CASTLE. PA.
NODION 0 NEW CASTLE. PA. I Gan Brython. New Castle, Pa., Mehefin 6.-Mae yn bleser calon genyf hysbysu lluosog ddarllenwyr y "Drych," yn neillduol y Cymry hyny sydd yn teimlo dyddordeb mewn pethau ac achosion Cymreig, ac yn byw tu yma i'r mynyddau yr Alleg- henies, fod gobaith rhagorol am gael ad-uniad ardderchog o'r Cymry ar yr 8fed o Orphenaf nesaf, yn Cascade Park, New Castle. Mae y pwyllgor wrthi hwyr a boreu yn casglu defn- yddiau priodol i'r dydd, yn parotoi rhaglen chwaethus a dyddorol, yn trefnu caniadau i'w canu, a siaradwyr galluog i siarad, a gwahanol redeg- feydd i'r plant bach a'r dynion mewn oed. Un o'r pethau fydd yn tynu fwyaf o sylw fydd cyflwyno gwobr an- rhydeddus i'r ddau Gymro, y gwr a'r wraig hynaf, ar y pare y diwrnod hwnw. Hefyd peth arall fydd yn tynu sylw y dynion ieuainc fydd y gystad- leuaeth am ddal yr hwyaden yn y llyn; fe fydd hon yn agored i bawb, a'r wobr am y gamp fydd cael yr hwyaden i giniaw y dydd canlynol. Cadeirydd y dydd fydd David J. Jones, Ellwood City; ysgrifenydd, John T. Rogers, Ellwood City; trysorydd, William A. Johns (Brython), New Castle. Wyth o donau i'w canu, a'r arweinyddion fyddant William Lewis, Pittsburgh; John Taranlais Thomas, Woodlawn; George Morris, neu arall fydd efe yn ddewis i wneyd y gwaith; William E. Harris, New Castle, ac eraill. Siarad- wyr fyddant yr Anrh. Theodore Mor- gans, Sharon, a'r Anrh. David J. Lewis, Maryland, tad naturiol y Parcel Post! System. Mae gobaith da am weled y dyrfa fwyaf o Gymry a welwyd erioed yn ninas Castell Newydd y dydd hwnw. Mae swn traed canoedd yn dod o gyfeiriad Warren, Niles, Youngs- town, ac mor belled a dyffryn Martin's Ferry, Ohio, ,ac y mae y mynyddau svdd rhwng New Castle a Sharon a Farrell yn diaspedain gan swn paro- toadau y bobl, ac am Ellwood City. ni fydd neb ar ol yno ond yr heddgeidwad a'i.gi. Ac yn ol hanes fe fydd tref Woodlawn yn fwy gwag o bobl y diwrnod hwnw nag y mae wedi bod er's peth amser, a dinas fawr Pitts- burgh, a Chymry yr Allegheny sydd yn meddwl danfon cynrychiolaeth fawr i'r Aduniad. Felly apeliodd at bawb fel hyn: Cymry da o Allegheny I'r aduniad: A ffyddloniaid Ellwood City I'r aduniad; Cymry anwyl o dref Woodlawn A gwroniaid dinas Youngstown Pawb o Farrell a thref Sharon I'r aduniad. Cymry ffyddlon Castell Newydd I'r aduniad; Gweithio dros y mudiad beunydd A'r aduniad; Heb nag enwi neb o'r Cymry Rhown wahoddiad taer serch hyny I holl Gymry gwlad yr Ianci I'r aduniad. Da genyf allu dweyd fod y Parch. Clifford Joshua, gweinidog parchus yr Immanuel yn para yn gryf o hyd o blaid y rhinweddol a'r da, ac yn elyn gwrthwynebus i bob drwg ac annuw- ioldeb. Mae yn 'pregethu yn galed y dyddiau hyn yn erbyn y dafarn a meddwdod, mae yn elyn i'r pen i'r dafarn, ac am wneyd pob peth o fewn ei allu er mwyn symud y felldith yma i ffwrdd o'r wlad. Llwyddiant iddo. Y Parch. George Richards, gwein- idog anwyl yr eglwys Annibynol sydd hefyd yn dangos i'g byd, ar ba ochr y mae efe yn sefyll at gwestiynau mawr yr oes. Mae yn pregethu y gwirionedd yn Ilym a didderbynwyneb, yn dangos i'r bobl yn mha le y mae yn sefyll. Hefyd y mae efe a'r Parch. Joshua yn sefyll yn uchel iawn yn meddwl a serch pobl New Castle, am eu bod hwy yn byw bob dydd uwch law ameuaeth. Mae masnach yn para yn lied fyw- iog yn ein dinas o hyd, digon o waith a chyflog lied dda am dano. Mae byw- iogrwydd gymaint mewn rhai melinau a masnachdai fel y mae. gweithwyr yn lied anhawdd i'w cael, ond y mae y gwaith lle'r wyf fi yn para i weithio, y Pennsylvania Engineering Co., ac wedi bod yn lied ffortunus gyda'u gweithwyr, wedi cael digon o 'weith- wyr i gario y gwaith yn ei flaen, ac y mae y cwmni trwy hyny wedi bod yn llwyddianus i droi allan un o'r peir- ianau steel mixture mwyaf yn y byd, ac wedi ei ddanfon ef dros y moroedd maith i wlad fawr Awstralia, ac fe fydd yno mewn rhyw wythnos neu ddwv, os na chaiff y Germaniaid afael ar y Hong a'i suddo hi i'r dyfnder. iMae y cwmni a'r gweithwyr wedi bod yn ddyfal iawn am wythnosau a mis- oedd yn parotoi y peirianau hyn. Yr oedd llawer o'r amser yn myned i osod y peirianau hyn yn y blychau (boxes) a'r rhai hyny i fod yn waterproof, a phan ddarfu iddynt gyflawni y gwaith i'r fath foddlonrwydd, nid oedd neb yn teimlo yn fwy hapus a dedwydd na goruchwyliwr y weithfa, y Cymro haelfrydig Benjamin Powell. Dyn wedi ei eni yn Tredegar, Cymru, ydyw Mr. Powell, ond wedi bod yn y wlad hon am yn agos i ddeugain mlynedd, ond eto y mae ganddo barch at Gymru wen a'i thrigolion.
I NODION 0 BANGOR. PA.
I NODION 0 BANGOR. PA. I Gan Thos. Egryn Morris. Bangor, Pa., Mai 27.-Ar yr lleg cyflsol, bu farw y chwaer ieuanc, Miss Gwladys Jones, merch Mr. a Mrs. Thomas W. Jones, Bangor St., yn ugain mlwydd oed. Ychydig fisoedd yn ol yr oeddis yn cofnodi marwolaeth ei chwaer Kate. Bu yn gystuddiol am fisoedd, ond yr oedd wedi dysgu dyo- ddef, a phan yn nesau i'r byd arall, ac yn ymwybodol o'r diwedd adroddai y penill "Y cysur i gyd, sy'n llanw fy mryd, Fod genyf drysorau uwch gwybod y byd. Dyna brofiad gwerthfawr yn y dydd blin. Nid oes dim yn talu ffordd gys- tal a chrefydd. Yr oed,d Gwladys wedi dysgu llawer o adnodau, a phenillion, a'u hadrodd yn y gyfeillach. Yr oedd yn un o'r chwiorydd ieuainc mwyaf ffyddlawn yn eglwys y T. C., a dangos- odd y cor, o ba un yr oedd yn aelod, barch neillduol iddi trwy roddi blodau-glymau ar ei harch. Rhodd- wyd ei chorff i orwedd yn mynwent St. John y Sul dylynol, yn ngwydd tyrfa fawr o'i chyfeillion. Gweinydd- wyd gan y Parchn. John W. Matthews a John Williams (W.). Mae ein cyd- ymdeimlad yn fawr a'r teulu galarus. Brawychwyd trigolion ein tref a'r newydd pruddaidd am farwolaeth sydyn y Parch, Alfred Harries, cyn- weinidog eglwys y Wesleyald yn y llei hwn; ond yn awr yn gwasanaethu eg- lwys berthynol 1'r M. E. Seisnig, yn Coxestown. Pa. Cymerodd ei gladded- igaeth le ddydd Sadwrn canlynol yn y lie hwnw; am ddim a wyddom yn awr, ceir manylion eto. Bu Mr. R. Morris Williams, o Swyddfa y "Drych," ar ymweliad a Chymry y dref am rai dyddiau, a chaw- som y fraint o fod yn ei gwmni ych- ydig oriau. Da genym ddeall iddo gael amryw o'r newydd i dderbyn y "Drych." Tra yn ein plith gosododd y brawd William Moses mewn swydd bwysig, sef yn oruchwyliwr y "Drych." Mae y brawd hwn yn deall y natur ddynol yn drwyadl, ac yn adnabod Cymry yr ardal. Mae y brawd Thomas O. Jones yn talu ymweliad a Chymry Vermont. Gobeithiwn y bydd iddo gael amser dy- munol ac adgyfnerthiad. Mehefin 7, aeth tyrfa o aelodau e-g- lwys yr Annibynwyr, yn nghyd ag amryw gyfeillion eraill I gartref Mr. a Mrs. Thomas Wynn, i ddymuno yn dda iddo, ar ei ymadawiad o'n plith am y Gorllewin. Er mal cyfarfod i ffarwelio ydoedd, treullwyd noson law- en, trwy ganu ac areithio. Rhoddwyd gair uchel i Mr. Wynn, fel cyfaill, cymydog, ac aelod o gymdeithas; teim- la eglwys yr Annibynwyr yn ddrwg yn herwydd colli un o'l haelodau mwyaf gwerthfawr, ac fel arwydd o'u teimlad da tuag ato a'i gwerthfawrog- iad o'i wasanaeth, cyfiwynodd Miss Hazel Parry watch fob aur iddo ar ran yr eglwys, ac mtewn ychydig eiriau pwrpasol dadganodd Mr. Wynn ei ddiolchgarwch iddynt. Bwriada ym- sefydlu yn Chicago, ac os bydd yn teimlo yn gartrefol, bydd Mrs. Wynn a'r plant, yn nghyd a Miss Williams yn ei ddylyn. Y mae wedi sicrhau lie gyda Cwmni y Western Slate Co. Y mae yn anhawdd meddwl am un mwy cymwys i'r swydd, gan ei fod wedi cael profiad maith yn y fasnach. Daeth efe a'r teulu i Bangor ddeuddeg mlynedd yn ol o New York, a bu mewn cysylltiad a'r fasnach lechau hyd yn awr. Yn y cyfamser gweithiodd el hunan i safle uchel fel masnachwr, ac yn fuan daeth yn gymeriad ymddir- iedol a chyfrifol yn myd y chwarelau, ac yn meddwl eymdeithas. Yn ym- adawiad Mr. Wynn collwn aelod gwerthfawr o gymdeithas, un o'r cym- ydogion mwyaf caredig, a chyfaill cywir. Dymunwn iddo lwyddiant mawr ar ei fynediad i'r Gorllewin.
IPENDERFYNIADAU.'
I PENDERFYNIADAU. Basiwyd gan Gyfrinfa Iforaidd Llywarch Hen ar ol y diweddar frawd Owen Tudur Roberts, Granville, N. Y. Yn gymaint ag i'r unig ddoeth Dduw weled yn dda o'i gariad a'i ewyllys da, gymeryd ato ei hun wedi hir w.aeledd ein diweddar frawd, yr ydym fel bro-( dyr Iforaidd yn amlwg ddadgan ein gofid o'i golli fel brawd ffyddlon a chywir i egwyddorion yr Urdd a'r Gyfrinfa, yn nghyd a'n cydymdeimlad llwyraf a'i weddw a'i ferch yn eu galar o'i golli fel priod a thad. Ein bod yn gwisgo ein Breinlen a du am ddeg ar hugain o ddyddiau fel amlyg- iad bychan o'i enw da yn mhlith yr holl frodyr. Ein bod yn anfon y pen- derfyniadau hyn i'r "Drych" a'r teulu, ac yn eu cofnodi ar goflyfr y Gyfrinfa. —Robert W. T. Roberts, Evan J. Wil- liams, Morris R. Roberts, Pwyllgor. Eto gan Gyfrinfa Llywarch Hen ar ol y diweddar frawd John W. Prit- chard, New York City. Wedi blynyddoedd o aberth personol gydag afiechyd blin, wele ein brawd ieuanc, John Pritchard, wedi huno yn yr angeu, a'i weddiliion wedi eu cludo i dy ei hir gartref, yr hyn sy'n galw yn uchel arnom fel Cyfrinfa i ddadgan ein cydymdeimlad llwyraf a'i ddwy chwaer yn eu profedigaeth chwerw o golli brawd hoff, gofalus, a darbodus o htonynt yn holl gylchoedd bywyd. Bydded i Dad yr amddifad eu noddi a'u harwain i'r dyfodol agos a phell. Ein bod yn gwisgo ein Breinlen a du am dri deg o ddyddiau, fel arwyddlun priodol o'n galar a'n hiraeth o'i golli o'n plith. Ein bod yn anfon y pen- derfyniadau i'r ddwy chwaer ac i'r "Drych," a'u cofnodi ar goflyfr y Gyfrinfa.—Robert W. T. Roberts, Evan J. Williams, Morris R. Roberts, Pwyll- gor.
I SIATINGTON. PA.
SIATINGTON. PA. Traddodwyd y bregeth Seisneg flyn- yddol eleni i'r graddedigion yn yr High School gan y Parch. John Williams, yn addoldy yr M. C.; yr addoldy yn or- lawn, a chanmolir y bregeth yn fawr, fel yr un fwyaf dysgedig a galluog a draddodwyd yno er's rai blynyddau. Yr oedd amryw Gymry yn mysg y graddedigion eleni, sef Willie Wil- liams, mab y Parch. John Williams; Harry Jones, sef mab Mrs. Martha Jones; Willie J. Williams, sef mab Mr. a Mrs. William H. Williams; Griffith Pritchard, sef wyr y diweddar Griff. Pritchard, Bryngwyn; Helen Mack, wyres i'r diweddar Clegir; hefyd dwy o ferched Mr. a Mrs. Robert Roberts, sef wyresau y diweddar John Roberts, Post Office. Bu y llanc ieuanc Ellis Hugh'es, o Minneapolis, Minn., adref yn treulio ychydig ddyddiau o seibiant gyda'i rieni, sef John Hughes a'i briod ar Franklin St. Gwasanaethu mewn banc mae Ellis, ac yn dod yn mlaen yn gampus. Yr oedd Mrs. Young, sef priod y Parch. M. S. Young, yn hwylio am Gymru ar y 14eg cyf., ar y "Finland," perthynol i'r American Line i dalu ym- weliad a'i rhieni yn y Fochriw, D. C. Gobeithio y bydd iddi gael mordaith lwyddianus. Drwg oedd genyf ddarllen am far- wolaeth Catherine Roberts, Ty'nllwyn, Tanygrisiau, sef merch y diweddar hen flaenor poblogaidd ac adnabyddus, William Mona Williams, "Rhen Sir." Cydymdeimlwn a'i hunig fab, sef Mona, Roberts, Wilkes-Barre. Cyfarfum ar Ddydd Addurno yn Tamaqua, Pa., a George Byatt, o Waterbury, Conn., gynt o Coaldale, sef mab John Byatt, o Tanygrisiau, Ffes- tiniog. Yr oeddem yn arfer a bod yn yr un ysgol yn Tanygrisiau: ei nain o ochr ei fam, sef yr hen Catrin Rogers, yn chwaer i'r diweddar Stephen Tany- marian. Ar ymweliad a'i ferch yn Coaldale yr oedd. Mae George yn Gymro i'r earn, er mai Sais ydyw ei dad. Mae ei rieni yn byw yn Lloegl ar hyn o bryd, ac mewn gwth o oed- ran, dros eu pedwar ugain. Yr oedd yn holi am fechgyn Tanygrisiau, sef Robert E. Owens, Wilkes-Barre; Evan H. Roberts, Milwaukee; hefyd ei frawd, Owen H. Roberts, Slatington. Yr oedd y tenorydd Griffith Jones (Gutyn Eifion), Saint Clair, Pa., yn cymeryd rhan mewn sacred concert yn addoldy y Bedyddwyr nos Sul diwedd- af, hefyd canodd yn y gwasanaeth boreuol. Dywedir ei fod yn ardrlerch- og; .hefyd yr oedd ei frawd John gyd- ag ef; fe fwynhaodd y ddau yr ychydig ddyddiau yn mhlith y chwarelau yn fawr, gan fod y ddau wedi arfer gweithio rai blynyddau yn chwarelau Ffestiniog. Claddwyd y dyn ieuanc Robert Thos. Jones ddydd Mercher diweddaf yn Fairview Cemetery. Bu farw yn yr ysbyty, yn wael am lawer o fisoedd. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr er's lIawer o flynyddau. Gwasanaeth- wyd gan y Parch. B. G. Newton. Ga- dawodd i alaru weddw a dau o blant bychain. Yr oedd yn frawd i'r brodyr Evan, John a Daniel o'r lie uchod, ac hefyd chwaer Mrs. Richard Roberts, a, brawd William yn byw yn Emaus, Pa.; y weddw yn ferch i David Jones a'i briod Nanticoke, Pa. Yr oedd y Parch. B. G. Newton yn gwasanaethu yn nghyfarfod pregethu blynyddol y Sulgwyn yn Bangor a Wind Gap y Sadwrn a'r Sul diweddaf; hefyd amryw bregethwyr eraill. Da oedd genyf ddarllen yn y "Drych" yn ddiweddar am ddyrchafiad merched Dr. Richards (Ieuan Fardd), sef Olive a Beatrice. Graddiodd y ddwy flynyddau yn ol o'r High School -n Slatington, cyn eu mynediad i I Bucknell University. Dywedir fod dynion yn brin yn y chwarelau yn y cylchoedd hyn yn bre- senol.—Gohebydd.
. RACINE, WIS.
RACINE, WIS. Gan R. D. Evans. Mehefln 10fed.-Swn parotot sydd yn y ddinas hon y dyddiau hyn ar gyfer yr "Home Coming" sydd i'w gynal am bedwar diwrnod y mis nesaf, set o'r cyntaf hyd y pedwerydd o Orrphenaf. Mae gwahanol bwyllgorau yn trefnu ar ei gyfer, ac y mae rhal miloedd o lythyrau wedi eu hanfon allan i'r rhai sydd wedi eu geni yma, ae hefyd i'r rhai fu yn byw yma, yn eu gwahodd i dalu ymweliad a'n tref ar yr amgylchiad pwysig hwn. Diau fod ar hyd y Talaethau Unedig luaws mawr o Gymry ag sydd yn meddu teimiadau cynes tuag at dref Racine, ac hwyrach yn dymuno cael cyfleus- dra i dalu ymweliad ag un o drefl harddaf Wisconin. Wel, dyma iddynt gyfleusdra, a diau y ca yr oil dderbyn- iad tywysogaidd genym fel dinas. Mae yn dda genym gael y cyfleusdra hwn i groesawu Miss Ruth Williams a Miss Nell Williams, dwy chwaer ddaeth yma yn ddiweddar o'r Aber- maw, Gogledd Cymru. Hyderwn y bydd iddynt deimlo yn gartrefol yn ein mysg, ac y gwnawn ninau ein rhan i'w cadw yn hapus a llawen. Arosant sryda Miss Margaret Edwards ar Villa Street. Parhau yn bur wael y mae y Parch. John Davies, ac yn yr ysbyty, ond y mae ychydig yn well, a sicrha y medd- ygon y ca adferiad llwyr gyda gofal ac amser. Parha yr eglwysi i weddio am ei adferiad, a theimlir ei le yn wag yn ein mysg. Brvsied y dydd y cawn ei weled yn mwynhau iechyd, ac yn mynd a dod yn ein mysg i wasanaethu ei Arglwydd yr hwn a gara mor fawr.
Advertising
¡II, ;f'¡ w   i Lon§ Island | ? The "End of a Perfect Day" jj | usually ends with dancing on f X wide porches or in the ball | M rooms. The daylight hours are | filled with surf bathing, boat- § I ing, fishing and other water I | sports. Can you resist the call? | Through cars to New York, I | the gateway to Long Island.  Low Summer Excursion Fares j For information about tickets, T time of trains and LOW EX- I New Yark Central Station, E T,  I o Utica, N. Y. 0 ? CURSION FARES, call at t Tel.pLODe, Bell 4500. I ? ???, ?.??? ? For ?  «I)() ( .) () (.<"
I DANIELSVILLE. PA.
DANIELSVILLE. PA. Gan Thos. J. Williams. Unwaith eto wele ein hardal mewh galar trwm ar ol un o'r rhai anwylaf fu yma erioed. Yn gynar foreu dydd Iau Dyrchafael daeth yr alwad am Mrs. R. J. Parry, ac yn nghwmni yr Iesu hi a groesodd i'r ochr draw yn ddyogel, ar ol dyoddef pythefnos o gys- tudd caled gan anhwylder y cylla. Nid oedd yn teimlo yn d,da er's rhai misoedd, ond nid oedd neb yn meddwl y buasai yn cael ei galw adref mor fuan, ond felly y bu. Yr oedd pawb yn brudd pan yr hysbyswyd am ei mar- wolaeth. Brydnawn Sadwrn dylynol, cynaliwyd gwasanaeth byr yn nghar- tref ei mab, William L. Parry, yn lie y cymerai ei chartref, gan y Parch. John Williams, Slatington, yn Saesneg, a chanwyd emynau cyfaddas i'r am- gylchiad pruddaidd gan gantorion talentog yr United Evangelical Church. Yr oedd y gwasanaeth hwn yn ddwys ac yn dyner ac yn nodedig o effeithiol, ac ar ol hyn aed a'i gwedd- illion i'r orsaf i fyned hefo'r train i dy ei merch, Mrs. John R. Williams, Pen Argyl, a'r Sabboth dylynol, cynaliwyd gwasanaeth yn yr anedd-dy hwnw eto. Yna aed a'i gweddillion i dy ei hir gartref i St. John Reform Cemetery, Bangor, Pa., pan y gweinyddwyd gan y Parch. J. Bergstresser, Pen Argyl, yn wir deimladwy. Hefyd canwyd emyn Cymraeg ar lan y bedd gan amryw o Gymry talentog Bangor. Yn y fyn- went hon y claddwyd ei phriod flyn- yddau yn ol, ac yn awr dyma hithau yn cael ei chladdu yn 68 oed ar ol gor- wedd a dyoddef yn galed am bythefnos fel y nodwyd gan adael tair merch a thri mab i deimlo eu colled a galaru ar ei hoi. Bu Mr. a Mrs. Wm. L. Parry a'r plant yn hynod o garedig wrthi, gwnaethant yr hyn oed,d yn ei gallu iddi, a gwnaeth Dr. Kemerer, meddyg y teulu parchus hwn, ei oreu tuag at ei gwella, ond methu yn lan a wnaethant. Yr oedd pawb yn barod i wneyd un- rhyw beth iddi, oblegid yr oedd yn gymeriad mor hardd, ac yr oedd ei duwioldeb uwchlaw ameuaeth. Bydd- wn ar adegau braidd yn ameu crefydd rhai pobl, ond am dani hi yr oedd yn amlwg i bawb ei bod yn meddu cref- ydd fel nas gellld ei hameu. Nid ydymi yn gwybod am un gelyn iddi yn un man, ac nid oedd hithau yn elyn i neb. Yr oedd bob amser yn dweyd y goreu am bawb, ac yr oedd ei chrefydd a'i diwylliant a'i gwybodaeth a'i sir- ioldeb fel pe yn tynu pawb ati, a'r un modd y gellir dweyd am ei phlant i gyd, eu bod yn garedig a pharchus a boneddigaidd; a pha ryfedd dylanwad eu mam dduwiol sydd arnynt oil? Mae yr eglwys Gymraeg eto yn ei galar ar ol colli un o'r ffyddloniaid, ac anhawdd gwybod sut yr eir yn mlaen yno rwan ar ol colli ein hanwyl chwaer. Byddai yno yn mhob gwasan- aeth pan y byddai gartref, ac yr oedd wrth fodd ei chalon yn y cyfarfod gweddi Cymraeg neu y seiat neu y bregeth. Byddai pob pregethwr yn sylwl arni yn gwrando mor astud fel y byddai ei hagwedd yn rhoddi help mawr iddynt. Oedd, ddarllenydd an- wyl, yr oedd gan Mrs. Parry ei neill- duolion; yr oedd wedi cael addysg dda, ac yr oedd ei thalentau yn Iluosog fel ei diweddar ewythr, Parch. Dr. Abel J. Parry, un o gewri mwyaf y pwlpud Cymreig. Yr oedd hi yn coleddu syn- iadau mawr am Dr. Parry, ac yn hoff lawn o hono, a gallem nodi llawer yn rhagor am dani pe gofod yn caniatau, ond gallwn ddweyd eto y bu pawb yn garedig iddi yn ei gwaeledd a'i mar- wolaeth; ac mae y plant galarus yn ddiolchgar iawn am hyny, ac i bobl dda Pen Argyl a Bangor yr un modd, am yr hyn wnaethant yn ei hangladd. Dylem ddweyd fod ei harch wedi ei orchuddio a blodeu drudfawr dydd ei hangladd. 080
Advertising
I E American Adding = and = Listing Machine (eight column capacity) Price I F. 0. B. MAYWOOD, ILL. Sold on one year's credit or 3 per cent. discount for cash. MAIL COUPON TODAY American Can Company Chicago, 111. Please send booklet descrip- tive of American Adding and Listing Machine. Name Address Clipped from I ANRHEG WER FAWR I Gyda'r "Drych" | I Gyda'r "Drych" I hI nl Cynygiad Neillduol Dros Dymor Byr yn Unig i ? Cynygiad NeiIlduol Dros Dymor Byr yn Unig aq ? Trwy gytundeb a'r ysgrifenydd galluog Beriah If ? Gwynfe Evans, Caernarfon, G. C., cyhoeddir genym || ? yHyfr rhagorol IS I"RHAMANT 0 BYWYD LLOYD GEORGE"! ? a rhoddir copi o hono fel anrhe g i bob un a d?!o o |j ? hyn i ddiwedd y mis hwn am y "Drych" i fyny | ? hyd !onawr laf, 1917, ac i bob un a enfyn enw new- 1 ydd a blaendal. | ? Y mae y Hyfr, "RHAMANT BYWYD LLOYD | ? GEORGES wedi ei gyhoeddi gyntaf yn yr iaith §j ? Saesneg, ac yn gwerthu wrth y miloedd. ffl 1 BARN Y WASG AM DANO: 1 ? "It is a fascinating story that Mr. Evans teUs of the boy from the cottage ffi [§3 home who was to -employ from the Treasury Bench the rhetorical arts |S =? which he practised at the village smithy.?—Zo?o? T??e?. 3? HI ?The truest, most faithful and most revealing picture of the Imperial |S aru public.?—?V?A Wales 6"M?7'???. B3EQ! ^5 Statesman yet presented to the public."—North Wales Guardian. H "The Book is exceedingly interesting/'—Liverpool Express. |j| H Y maeyr awdwr wedi trefnu hefyd i ychwanegu penod arall i'r Ar- S grafftad Cymreig Americanaidd, sef "Lloyd George a Chymry Ameríca," f§ I Dyma gyfle ardderchog i gael llyfr da yn RHAD j| Ysgrifenwch heddyw at I THOMAS J. GRIFFITHS, I H "Drych" Office, Utica, N. Y. jf KNIA! ron 0 I- li U. a U. a lvwkr!mdvl 9.00mmuso"cm led N%.Os 1