Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
If WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morninz. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with, subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
YR ATHRAW J. M. JONES AT FEIRNIAID…
YR ATHRAW J. M. JONES AT FEIRNIAID AMERICANAIDD. Gan Ysbryd Huw Tegai. Nid wyf yn cwyno yn erbyn beirn- iadaeth yr athraw arnom. Tueddai at fod yn duchanwr mewn gosodiad neu ddau; ond teg yw cofio ei fod wedi bod dan dan am fwy na blwyddyn. Cred- wyf iddo amddiffyn ei safle yn alluog a medrus, ond dichon nad yw yn an- atebadwy, pe doeth fuasai dadleu y pwnc yn mhellach. Pe buasai wedi dweyd y ganfed ran yn ei ramadeg ar gystraw-en cenedl ansoddeiriau cyfan- sawdd a ysgrifenodd ar safle ei feirn-' iaid, ni fuasai y ddadl wedi cymeryd lie, efallai. Mae pob gramadeg Oym- raeg wel&om gynt yn hollol fud ar y pwnc (pwysig uchod. Digon tebyg y bydd galw am ail argraffiad o ramadeg Mr. Jones, a gobeithiaf yr eglurir yn fanwl a therfynol y pwnc hwn. Mae yr Athraw, a Cadle hefyd, wedi amddiffyn "bengron" yn benaf ar y sail mai hyny ddefnyddiwyd ac a ddefnyddir gan brif feirdd a llenorion y genedl. Pan yn symio i fyny y ddadl yn ein Ilith olaf, cyfaddefasom fod Cadle a'r Athraw yn ddyogel (yn gywir) ar sail arferiad ein prif awdur- on. "Usage is the law of language." Eto, deddf wan yw arferiad. Un greu- lon yw parthed purdeb iaith, canys ar- feriad rhai o'n prif awduron Cymreig yw ysgrifenu "anodd," "rhwan," "athro," &c. Mae arferiad o'r fath yn llygriad o'r iaith. Credwyf i Critig a Shon y Dyrnwr daflu torpedoes cryfion i galon y ddeddf hon, a thaflasant ni i gyfyng- der dadleuol wedi amddiffyn yr Athraw J. M. Jones mewn tair erthygl; ond, nid oedd hyny ynprofi dim, efallai, ond anallu dadleuol yr Ysbryd hwn. Nid yw gwall yn llai gwallus, neu yn oddefadwy, oblegid fod Dafydd Ap Gwilym, Caledfryn, neu Dyfed yn ei ysgrifenu. Mae yr enwogion yn hepian weithiau. Dywedasom fod ysgolheigion mwyaf y byd Saesneg a'r byd Cymreig er ys oesoedd, bob dydd yn adrodd gweddi yr Arglwydd yn wallus drwy ddweyd "For thine is (are) the kfngdom, the power, and glory, Amen." Nid oes na Chymro na Sais a feiddia geisio profi ein bod yn annghywir yn y gosodiad hwn. Gallasem ychwanegu ar y pen- awd, "Geiriau Ceimion Cenedlaethol." Nid gwaeth y gwir o'i chwilio. Os yw yr Athraw J. M. Jones a Cadle yn gywir ar "bengron," "benfelen," "benwen," maent heddyw yn gryfach a mwy anrhydeddus na chyn iddynt fyned dan dan beirniadaeth. Darfu i'r hen lenor diwylliedig a gwir ddysgedig Proff. Evans, Athens, Pa., amddiffyn "bengron" ar yr un tir a gymerasom ein hunain cyn ein henciliad, sef mai cenedl yr enwedigydd sydd yn llyw- odraethu cenedl yr ansoddeiriau cyfan- s-awdd Cymraeg fel ansoddeiriau eraill. Yn erbyn hyn a deddf arferiad y mae y Critig a'r Dyrnwr wedi gwrthryfela yn gyndyn a dadleu mai cenedl yr enw gyfansodda yr ansoddiar cyfansawdd benderfyna genedl y gair. Nid oes genym bellach ond gadael y mater i farn y darllenydd beirniadol, gan obeithio mai effaith y ddadl fydd gosod ein hiaith ar seiliau mwy cedyrn. Dylasem chwilio ein hunain i ganfod a oes rhagfarn yn llechu ynom yn er- byn goleuni rhesymeg o'r ochr a wrth- wynebwn. Fel hyn y gallwn weled yr hyn sydd gywir a hardd mewn gair a gweithred. Amcan penaf y gwir ddad- Ieuwr yw cael gafael ar y gwir a'r cywir, ac nid yw byth yn ofni cael el lorio os yn gyfeiliornus. Amser yn ol bu rhai o'r .prif feirdd yn tynu clust y prif fardd Dyifed am gyfansoddi un o'r llinellau mwyaf tlws ac arddunawl a gyfansoddwyd gan fardd erioed pan y dywedodd am yr "Hydref": "Do'r ingawl angladd haf." Ond daethant i farnu cyn hir fod yr hen lowr o byllau glo Blaengwawr a Brown, Aberdar, nid yn unig yn gywir ond yn eithriadol o farddonol yn y Ilinell uchod. Efallai mai fel yna y bydd gyda Proff. J. M. Jones a Cadle. Nid yw canfod gwall yn lleihau ein hedmygiad o'n hawduron goraf. Nid oedd ein parch yn llai tuag at y dramayddol Evans Eglwysbach am siarad ac ysgrifenu "engraff" yn lie engraifft. Mae gan yr enwad Wesley- aidd gymaint o hawl 1'1' dull uchod ag sydd gan enwadau eraill Cymru i "enghraifft," ac "enghreipht" eng- hraipht. Pa werth sydd mewn enwad crefyddol Cymreig os na fydd ganddo orgraff a llyfr tonau sectyddol? Nid yw yn werth ei arddel. Cana y rhan fwyaf o'r Cymry yr hen benill rhagor- ol hwnw gan derfynu gyda: "A'r goron bigog ar Ei ben. Ie, f'enaid, dacw Fe." Pa werth fuasai bod yn Fedyddiwr os na allasai gyfansoddi llyfr emynau newydd a gwell, a 4chanu "A'r gwaed yn dorthau ar Ei ben. "Ie, f'enaid, dyna Fe." Gallasai Eglwysbach a'i enwad amddiffyn "engraff" aim mai hyny geir yn ngramadeg Salesbury, oesoedd gynt. Ohwareu teg i J. M. Jones a Cadle, amddiffynant eu safle nid yn unig ar sail arferiad y prif awduron gynt, ond hefyd ar gyfrif ar- feriad "y prif lenorion presenol. Wedi'r cyfan, na fydded i'r darllen- ydd craffus annghofio nad yw gram- adeg fel y mae heddyw yn anffaeledig. Mae gwyddoniaeth gramadeg fel gwyddorau erailI, yn gynyddol. A dyma ffaith gadarn yn y ddadl o du y Critig, y Dyrnwr, a'r Ysbryd. Bellach, nid oes genym ond gadael y mater rhyngoch chwi, "Wyr Cwmtwrch a'ch gilydd."
IDROS Y DON. I
DROS Y DON. Gan Eryr Tegid. (Parhad). Son yr oeddwn, onide, am bersonau, a lleoedd, a hen gysylltiadau. Dyma i chwi un arall sy'n teimlo'n gynes tuag at y Bala—Dr. Jones, Randolph, Wis. Tua'r Pasc y ganwyd Dr. Jones. Nis gwn fawr am dano hyd yn hyn, ond cewch wybod gynted ag y caf finau wybod pwy yw ei deulu. Gofynodd y Parch. T. R. Jones, Tywyn, Meirion- ydd, i mi ei gofio ato mewn llythyr ryw dro, oblegid y mae yna rhyw gysylltiad teuluaidd rhwng Dr. Jones a Mrs. Jones, a gwyddoch mai un o'r Balai ydyw hithau. Wedi darllen fy nodion ryw dro, an- fonodd y Parch. F. Tegfryn Roberts, gweinidog M. C. Randolph, ataf i ddweyd i mi "lwyddo yn rhyfeddol o dda i adael rUan o honynt bob cry- bwyll am Rani olph." Rhyw dipyn o 'scit,' chwedl Thomas, Bartley, o eiddo Tegfryn ydyw yr awgrymiad uchod, oblegid gwyr Tegfryn yn eithaf da mor hyfryd genyf bobl a thref Ran- dolph. Wyddoch chwi tua'T Bala yna pwy ydyw Tegfryn? Mae'r rhai hyny o honoch sy'n fyfyrgar a deallus (nid yw pawb yn y Bala, mwy na lleoedd eraill, yn meddu'r rhinweddau hyny), yn sicr o fod yn gwybod am ei delynegion trwy'r "Brython" a phapyrau eraill. Mae pobi Corwen a Llangollen, ac yn enwedig y trefi islaw y LIan, megys Rhos a lleoedd eraill, yn gwybod am dano, oblegid un o'r ardaloedd hyny ydyw. Wel, gadewch i mi ddweyd tipyn bach am dano wrth y rhai hyny o hon- och sydd heb fod yn ei adnabod gystal a'r lleill. Pregethwr ydyw, a iphre- gethwr da iawn, hefyd; bardd ydyw, a bardd da iawn, hefyd; dyn ydyw yn meddu ar ragoriaethau goreu dynol- iaeth; gweinidog ydyw yn meddu cyd- ymdeimlad llawn a phob agwedd o fywyd ei bobl a'i eglwys, ac nid oes yn yr holl wlad yma yr un dyn mwy tyner a charedig ac addfwyn na Thegfryn Roberts. Y mae yn weinidog ar un o eglwysi cryfaf y Methodistiaid yn yr America, ac arosais yn Randolph ddigon o hyd ddechreu'r flwyddyn i glywed pawb yn rhoi gair da i'r gweinidog da hwn i Iesu Grist. Mae yn byw yn un o'r lle- oedd mwyaf dymunol yn Wisconsin, ac y mae Wisconsin drwyddi yn brydferth neillduol, ac nid oes yn y wlad yma" ddim caredicach pobl nag a geir yn Randolph, lie mae Tegfryn yn gwasan- aethu er's pum mlynedd gyda llwydd- Y LLYSDY, LAWR LNCEVILLE, VA. iant cysurus dros ben, ac os dygwydd iddo ef neu rywrai eraill ddarllen hyn, gwyddant fod pob gair a ddywedaf yn dod o'm calon ac o'm henaid.
Y MODD Y DAETHYM 0 HYD II…
Y MODD Y DAETHYM 0 HYD I FEDD GORONWY OWEN 0 FON. Gan David Lloyd, Maine. Y tro hwn bydd i mi roddi llythyr" i ddarllenwyr y "Drych" a dderbyniais ychydig o amser cyn i mi fyned i lawr i Brunswick Co., odidiwrth Dr. Whyte Glendower Owen, White Castle, La., yn ateb i ymholiad a anfonais ato. Gwel y darllenydd yn amlwg pa ofyniadau a anfonais ato, wrth ei atebion. Mr. David Lloyd. Anwyl Syr.—Yn ateb i'ch cwestiynau yn nghylch Goronwy Owen nodaf yn y modd can- lynol: Yn ol traddodiad sydd yn ein teulu ni, fe gladdwyd Goronwy Owen yn mynwent eglwys St. Andrews, Brunswick Co., Virginia, lie y bu farw oddeutu deg neu ddeuddeg mlynedd wedi iddo adael William a Mary College, lie yr oedd yn athraw. Y mae set o'i waith barddonol wedi ei argraffu gan y Parch. Robert Jones, Llundain, gan yr hwn y pwrcasais ddwy gyfrol amrai flynyddau yn ol. Hefyd gwelais hysbysiad am ei weith- iau barddonol gan Ellis o'r Nant, ac hefyd gan Wm. Price, Dolgellau, G. C. Yr ydym ni yma yn gwybod yn dda am ei ysgrifeniadau, fel y gwelwch, ond wedi pasio pump cenedlaeth er pan ddaeth i'r wlad hon, nid ydyw pethau o'r fath yn cael eu prisio fel ag y dylent. Credaf yn awr i mi ateb eich cwes- tiynau. Os bydd i chwi fyned i Bruns- wick Co., byddwch yn abl, yn ddiau, i ddod o hyd i'r fan lie y claddwyd ef, drwy wneyd ymchwiliad yn y coflyfrau yn y Court House, am ei hawlfraint a'i enw ar ei blanigfa, ac yna dod o hyd i'r un sydd yn ei meddianu yn awr. Os oes genych achau Goronwy Owen (pedigree) a fyddwch garediced a'u hanfon i mi modid y gallaf eu cyd- maru a'r rhai sydd genyf fi. Gyda pharch, ydwyf yn gywir, Wm. Whyte Glendower Owen." Gwelwch oddiwrth y llythyr mai ychydig iawn a wyddai un o ddisgyn- yddion Goronwy am dano. Peth arall, ni bu yma yr un gladdfa wrth yr eg- lwys, ac nid oes yn awr, felly gwelir, na chladdwyd mo hono yno. Gyda'r ysgrif hon cewch ddarlun o'r Court House, yr hwn sydd yn dyddio yn ol i'r flwyddyn 1781, ac nid 1871, fel yr oedd yn un o'r penodau blaen- orol. Yn awr, awn i fewn i'r Court House, i'r man y cadwant y gweithred- oedd tirol o'r flwyddyn 1781 hyd yn bresenol. Ar ol moes gyfarch y Clerc, sef W. T. Sledige, dywedais fy neges wrtho, pryd yr atebodd fiy rhodtdai bob help i mi yn fy ymchwiliad, ac fe gadwodd ei air yn llawen, a bum yn y lie am ranau o dri diwrnod yn troi ac yn trosi hen gofnodion, hyd nes y daethym o hyd i'r rhai sydd i ddylyn. Un boreu gofynais i Mr. Sledge ai onid oedd neb wedi bod yn y lie gydag ef, o fy mlaen, yn chwilota i'r mater, pryd yr atebodd nas gwelodd efe neb, ac os y bu, y rhaid ei fod wedi troi yn ol gyda'r tren cyntaf, ac y mae efe yno er's llawer blwyddyn. Yn awr dyma i chwi weithred am y tir a bwrcasodd gan un William Cocks, yn y flwyddyn 1761, yr hwn sydd yn Brunswick Co., ar yr ochr ddeheuol i Reedy Creek, rhan o'r tir a fu yn eiddo i un John Jones wedi ei weithredu yn Williamsburg, yr 20fed dydd o Awst, 1760, yn y flwyddyn 34 o deyrnaslad George yr Ail, yn dechreu mewn pinwydden ar yr ochr teaf o'r gainc sydd yn yr afon; i'r gogledd 73 degree, dwyrain 170 pole. I dderwen ddu (black jack) yn agos i'r ffordd, gogledd, 13 degree; gorllewin, 326 pole i binwydd en, de 73 degree, 198 pole, hyd i ddwy dderwen wen ar y Reedy Creek, yn awr i lawr i'r un cyfeiriad a'r man y cychwynid. Dyna'r blanigfa o bedwar cant o aceri a werthwyd i Goronwy Owen am'y swm o 90p. ar Awst 24, 1761, gan William Coelis a'i wraig Rebecca Cocks. Clerc, j John Robeson. Yn awr, gwerthwyd y tir yma gan un o blant Goronwy, sef Richard Brown Owen, i James Chamblen, ac ar yr un pryd, neillduir deuddeg troed- fedd ysgwar yn gladdfa i'r teulu, yn y gwerthiant. A dyma'r man y cladd- wyd Goronwy Ddu o Fon. Os y daeth dwfr i'm Ilygaid erioed, fe ddaeth S3*da'r llinellau hyn o'i eiddo i'm cof: Poed yt hedd pan orweddwyf, Yn mron llawr eston lle'r wyf, Gwae ft na chawn enwi nod Ardd wen i orwedd ynod. O'r dwyrain hyfryd, araul I waelod tir machlud haul.. Y bedd y tro nesaf.
I ATHRONIAETH Y MEDDWL..1
ATHRONIAETH Y MEDDWL. Gan T. J. Peters, Wind Gap, Pa. Penod III. Mae Meddyleg ac Anianeg yn gwa- haniaethu mewn un pwynt, er eu bod i'w hadnabod fel y cyflwynir hwy ger bron ein sylwadaeth, eto, mewn medd- yleg, bodola gwrthrych ein efrydiaeth fwyaf ynom ni ein hunain. Mae y meddwl yn dyfod yn sylwedydd ac yn wrthrych sylwadaeth. Ymddengys fod hyn yn codi an- hawsder, fel y canlyn: Pa fodd y medr y Ilygad fod yn alluog i gael gweled- iad o hono ei hun? Pa fodd y gall y meddwl yr. hwn sydd mewn llawni gweithrediad, yn cofio, barnu, neu ewyllysio, &c, arolygu ei weithrediad- allei hun? Cydnabyddir tra mae un o'r cyne,ddfau mewn gweithrediad ar un o'r pwyntiau a nodwyd nas gall wneyd ei hun yn wrthrych sylw iddo ei hun, ond mae gan y meddwl allu, yn ol fel y tystia 'ymwybyddiaeth, i ga.dw yr hyn sydd, yn wrthrych ym- chwiliad y foment yma, yn y cof, a'i ddwyn ger bron y foment nesaf, a dal unrhyw weithred o'i ei,ddo ger ei fron ei hun am gyhyd o amser ag yr ewyll- ysia Galluoga hyn y meddwl i sylwi ar ei feddyliau ei hun, a thrwy hyny adnabod ei hun. Ond mae mantais fawr yn nglyn a'r Wyddor, mae yr oil a berthyn iddi yn ei chysylltiad a ni yn ein cyraedd, a thrwy hyny, gesyd ni mewn safle i fedru adnabod ein hunain i fwy o sicrwydd. Mewn gwyddor faterol, gall y ffeithiau fod yn wasgaredig dros wyn- eb y ddaear, a thros ganrifoedd a mil- rifoedd o flynyddau, ac felly greu an- hawsider i'w hadnabod, pa bryd bynag y byddo y fath adnabyddiaeth yn an- genrheidiol, mewn trefn i ffurfio gwyddor gywir yn eu cylch. Ond1 mewn meddyleg, mae gan y sylwedydd holl elfenau angenrheidiol y wyddor ynddo ei hun i'w chwilio. Yn fyr, y wyddor mae efe i'w ffurfio ydyw gwyddor am dano ei hun. Mae meddyleg yn fwy gwerthfawr nag unrhyw wyddor faterol; gallwn ddybynu mwy ar ei thystiolaeth a'i dyfarniad nag ar unrhyw wybodaeth arall. Mae ganddi y neillduolrwydd yma-nis gellir e1 igwrthwynebu. Mae yn bosibl y g-allaf gyfelliorni yn nghylch darn o fater yn fy llaw, yr hwn sydd yn ymddangos i mi yn grwni neu ysgwar, o'r Illw yma neu o'r lliw arall, o'r pwysau a'r maintioli yma, yn drymach neu ysgafnach, yn llai neu yn fwy, ond nis gallaf gyfeiliorni mat fel hyn neu fel arall yr ymddeng- ys i mi. Mae'r cyntaf yn ganlyniad eanfyddiad a 'barn, tir ar ba un y gallaf gamgymeryd, ond mae y diw- eddaf yn wirionedd a gydnabyddir gan fy ymwybyddiaeth, ac nis gellir ei alw i gwestiwn. Byddai ameu ein bymwybyddiaeth yn galw yr ameuaeth ei hun i gwestiwn, oblegid yr unig brawf o'n petrusdod fyddai ein bod yn ymwybodol o'r ameuaeth. Gallaf fethu gyda gwrthrychau allanol, ond gyda'r hyn sydd yn myned drwy fy meddwl i fy hun, nid oes le i ameu- aeth na chamgymeriad. Ond nid gyda, gweithrediadau fy meddwl fy hun yn unig yr ydwyf i fanteisio mewn perth- ynas i'r wyddor, ond gyda gweithred- iadau meddyliau dynion eraill yn ogystal, a'r modd y gweithredant o dan wahanol amgylchiadau, ac yn ychwanegol at hyn, mae genym dyst- iolaeth dynion eraill ar gyflwr a gweithrediad eu meddyliau. Mae yr awduron goreu yn manteisio ar hyn, difynant o weithiau eu gilydd, ibrofi eu syniadau yn ngwyneb yr hyn a ddywedir gan eraill, un ai i gymerad- wyo neu i gondemnio, yn ol natur eu syniadau ar wahanol bynciau. Mae Meddyleg yn wyddor bwysig) yn ibwysig i bawb, mae pob gwyddor arall yn dibynu arni i ryw fesur, am mai y meddwl sydd yn canfod ac yn ffurfio pob gwyddor, am dano ei hun, ac am y rhai ddarganfyddir ganddo yn mhob arbrawf a dyfais. Gall y meddyg gymwyso ei gyffyriau yn well at y claf a'r elwyfus, os bydd yn de- all tueddiadau meddyliol y rhai fyddo o dan ei ofal. Gall y pregethwr ddyl- anwadu yn ddaionus ar ei wrandawyr -os- y layidd yn deall eu nodweddion, eu dewll, a'u teimlad. Gall y duwin1- ydd esbonio athrawiaethau dyrys cluwinyddiaeth, os y dealla drefn a gallu cyneddfau y meddwl. Gallwn ninau y bobl gyffredin, ddysgu llyw- odraethu ein nwydau, ffrwyno ein tymerau, atal grym ein chwantau, dysgyblu ein teimladau (passions) a'u darostwng o dan reolaeth y deall a'r rheswm. Am hyny, mae yn werth i ni oil ymroi i astudio "Athroniaeth y Meddwl," a charu y wybodaeth geir yn yr egwyddorion drosglwydda i ni a chariad mawr, a chariad angerddol, a chariad a gydoesa a'n bywyd, caru diniweidrwydd, caru rhimvedd, caru purdeb buchedd, a chariad yr hwn, os deuwn i enwogrwydd a dylanwad yn y byd, a sancteiddia y rhagluniaeth a'n gwnaeth felly, a wna i ddynion ei alw felly; a chariad, os byddwn ddi- nod a diystyr, a ystyria ein sefyllfa yn barchus, ac a wna i'r balchaf ei ysbryd deimlo y 'byddai yn annghyf- iawn i ddirmygu iselder ein tynged. Y cariad a'n haddurna, a'n cysura, ac a erys gyda ni hyd byth, yr hwn a eg- yr i ni y drws i ddinasyddiaeth Ilyw- odraeth y meddwl, i diriogaeth eang, annherfynol di'rnadaeth, fel noddfa yn erbyn creulondeb, megys yr hyn sydd yn ffynu yn y byd y dyddiau hyn, ac hefyd yr annghyfiawnder, a'r boen a ddichon fodein tynged yn y byd all- anol, a'r hwn a wna i'n syniadau fod yn ymarferol fawr ac anrhydeddus, yn fawrfrydig a diragfarn. I'r dyn ieuanc sydd wedi cychwyn gyrfa ei fywyd mewn ymchwil am wy- bodaeth, a'i fryd ar ddiwyllio ei fedd- wl, aed yn mlaen heb betruso nac ofni y canlyniad, ac na fydded iddo ddy- chrynu rhag dechreuad athrist gwy- bodaeth, a'r tywyllwch o ba un y tardda, a'r anhawsderau sydd yn hof- ran uwchben ac o amgylch y trigfan- au truenus y preswylia ynddynt, yr eisieu a'r gofid, sydd weithiau yn ym- daith yn ei cherbyd. Dyg ef allan yn y diwedd i oleuni dydd, a dengys ef i'r byd, gyda choron llwyddiant ar ei ben, yn gymwys mewn cyraeddiadau, yn ffrwythlawn mewn adnoddau, cyf- oethog mewn dychymyg,, cryf mewn rheswm a barn, ac yn rhagori mewn perthynas i holl ddyledswyddau byw- yd, yr hyn ydyw amcan mawr ei fod- olaeth. (I'w Barhau.)
[No title]
-Anfynych y cafwyd esiampl ra- gorach o onestrwydd plaen a holliach. Cyfeiriwn at feirniadaeth newydd Gymreig a gymwysir at olygwyr ar- grafliad newydd "Llawlyfr Moliant" y Bedyddwyr yn y "Beirniad" diweddaf. Nid oes deilen ar dafod Mr. J. Morris Jones wrth fwrw golwg dros y liu cyf- newidiadau a wnaed ar donau hen a diweddar gan J. H. Roberts, y gol. cerddorol. A dywed Tecwyn Evans fod y penillion yn frith o wallau mewn gramadeg a sillebiaeth; ac nid ychydig o'r rhat newydd, gallem feddwl: sydd heb fod yn farddonlTyd, beth bynag" yw hyTry.
I HELYNTION YR YNYS WERDD.I
HELYNTION YR YNYS WERDD. Gan y Parch. Dan Penry Davies, I Carroll, Neb. II. I I symud yn mlaen, dywedwn i'r Werddon gael tymor hir eithriadol o weinyddiaeth ofalus yn ystod teyrnas- iad Siarl 1. Bu Wentworth (ar ol hyny yn larll Strafford), y rhaglaw, yn lbrysur iawn yn penderfynu y cwes- tiwn dyrys o deitlau tir yn Con- naught ac mewn lleoedd eraill. Ym- drechodd hefyd i ddyrchafu llwyddiant yr ynys mewn ystyr fasnachol, trwy ddifodi y mor-ladrad a ffynai, a chefn- ogi y fasnach lin. Bu yn offerynol hefyd i ddyrchafu cyllid y deyrnas i raddfa uwch na'r costau (expendi- ture) Llywodraeth y Haw haiarn, er hyny, oedd ei lywodraeth ef, ac wedi ei symudiad oddi yno, a thra y ffynai an- nhrefn yn Mhrydain, torodd gwrth- ryfel allan yn 1641 yn mysg y Gwydd- elod brodorol yn Ulster, yr hwn a ddadblygodd yn gyflafan gyraeddfawr o'r sfYdlwyr Protestanaidd. Yr oedd Siarl 1. yn nghanol ei gweryl a Senedd Prydain, a bu y gwrthryfel hwn yn gynorthwy iddo. Gwasgarodd dros yr boll ynys, ac ni ddarostyngwyd ef yn hollol hyd nes i'r ymdrech yn Lloegr ddyfod i'r terfyn. Deehreuasai y ter- fysg gan y brodorion yn y gobaith o fedru adfeddianu eu tiroedd, a'u har- ferion, ond yn fuan iawn ymunasant a'r arglwyddi Hiberniaidd, y rhai a ofnent fuddugoliaeth y Piwritaniaid. Galwasant eu hunain wedi ymuno a'u gilydd yn iBabyddion Cyngreiriol (The Confederate Catholics). Ceisiodd y Brenin eu tawelu drwy ganiatau idd- ynt Jawer o'r hyn a ofynent, mewn ystyr eglwysig a gwladol, yn "Nghyf- od Kilkenny," ond parhasant i ym- ladd hyd ddienyddiad Siarl. Yn 1649, gorchfygwyd hwy yn enbyd gan Mich- ael Jones, da o arweinyddion y fyddin Seneddol, y tu allan i Dublin, ac mewn pythefnos ar ol hyny glaniodd Oliver Cromwell a'i "Ochrau Dur," gyda gor- chymyn o'r Senedd i roddi terfyn yn ddioed ar y terfysg. Dialodd waed diniwed 1641 drwy warchae ar Drog- heda a Wexford. Yn unol ag arferiad y cyfnod hwnw, difawyd gwarchod- luoedd y dinasoedd a'r cleddyf. Wedi iddo dori asgwrn cefn y gwrthryfel, aeth yn ei ol i Loegr, gan adael y gweddill o'r gwaith i Ireton, ei fab- yn-nghyfraith. Nid yw gelynion Cromwell, hyd y dydd hwn, wedi rhoddi heibio y gwaith o daflu eu llys- nafedd ato, a lphardduo ei gymeriad am y gweithredoedd hyn, a alwant hwy yn "lofruddiaethau creulawn a dieflig." Cosbwyd y terfysgwyr, a cheisiwyd symleiddio problemau yr Iwerddon, drwy symud niferi mawrion o Babyddion i dalaeth Connaught. Trosglwyddwyd eu hystadau i filwyr didaledig y weriniaeth. Yn fuan ar ol adferiad y Stuartiaid, ceisiodd Siarl II. ymyryd mewn mater- ion Gwyddelig, ac yn enwedig yn mhwnc pwysicaf y wlad, sef cwestiwn y tir. Rhaid oedd iddo wneuthur rhywbeth yn ffafr y rhai fuont yn deyrngar i'w dad, ac a ddyoddefasant, naill ai o herwydd eu gwleidyddiaeth, neu eu crefydd. Eithr yr oedd yn rhy beryglus iddo ymyryd a'r milwyr Cromwellaidd ar eu tyddynod. 0 ganlyniad penderfynwyd yr anhaws- der drwy basio mesurau yn eu hamddi- fadu hwy o un ran o dair o'u tiroedd, a dosbarthwYd y cyfryw i gynifer o'r brelniolwyr Gwyddelig ag a feddent ddylanwad digonol yn y Ilys er rhoddi mynegiant i'w gofynion. Eithr ni foddlonwyd neb igan y mesurau hyn, ac oddeutu yr un adeg cyffrowyd an- foddlonrwydd yn imhellach gan fesur y Senedd Seisnig, yr hwn a waharddai i'r Gwyddelod drawsforlo gwartheg a chig ac ymenyn 1 Loegr, er budd am- aethwyr Lloegr. I symud yn mlaen, cawn fod polisi Iago II. o ffafrio'r Pabyddion wrth- fodd y Gwyddelod, a Ilanwyd y swyddi gwladol a milwrol gan Babyddion. Gwyr y cyfarwydd pa fodd y bu raid i Iago ildio ei orsedd a ffoi am ei einioes i Ffrainc, a pha fodd y gwahoddwyd William, ei fab-yn-nghyfraith, o'r Isel- diroedd i orsedd Prydain. Eithr yn naturiol iawn, bu mwyafrif y genedl Wyddelig yn deyrngar i achos y bren- in diorseddedig. Yn Mawrth, 1689, glaniodd Tago yn yr Iwerddon, ac ar unwaith dechreuodd- gymeryd pethau i'w ddwylaw ei hun. Bu rhaid i Bro- testaniaid Ulster ffoi am eu bywyd i drefi Londonderry ac Enniskillen. Y mae hanes y gwarchae fu ar y cyntaf o'r dinasoedd hyn yn fythgofladwy. j Ofnadwy fu dyoddefiadau y preswyl- wyr hyd nes y torwyd ar y gwarchae gan y fyddin Brydeinig. Yn Mehefin, 1690, cymerodd William y maes yn bersonol yn erbyn ei gydymgeisydd am y goron, ac enillodd fuddugoliaeth gyflawn ar Iago a'i ganlynwyr yn mrwydr y Boyne. Cymerodd William feddiant o Dublin, ac wrth ddychwelyd i Loegr trosglwyddodd y gorchwyl o oresgyn y rhan ddeheuol o'r wlad i John Churchill, Iarll Marlborough. Ni -cheisiwn fanylu ar y brwydro egniol fu ar ol hyn, eithr ymfoddlonwn ar grybwyll am warchae Limerick, yr hwn a 'barhaodd am ddeufis, hyd nes i'r amddiffynwyr Ffrengig-Gwyddelig roddi y ddinas i fyny. Terfynwyd y gwrthryfel gan "Gyfamod Limerick," yr hwn a ganiatai i'r Gwyddelod a ym- laddasant dros Iago adael y wlad gyd- a'u meddianau personol, ac yn unol a'r amodau hyn, cludwyd dros ddeng mil ar hugain o ddynion cyfaddas i ryfel, i Ffrainc. Cauwyd allan y Pabyddion o bob swydd a phrofesiwn, a gwahardd- wyd hwynt i ymgynull i addoli. Gos- odwyd cyfyngiadau ychwanegol ar fas- nach a diwydianau yr ynys, er budd tybiedig amaethyddiaeth a masnach Lloegr, a bu yr ynys Werdd am ganrif yn mron o dan sawdl goruwchafiaeth y Protestaniaid Seisnig. Sylwer mor an- nhrugarog y geill sect fuddugoliaethus fod tuag at yr hon a ddarostyngwyd ganddi. Brithir cronicl yr oesau gan gyffelyb engreifftiau. Nid oes gwa- haniaeth pa sect a ddyrchefir i safle o uwchraddoldeb, try i erlid yn union, bydded yn yr Iwerddon neu Brydain, Geneva, Rhufain neu yn Nhalaethau Lloegr Newydd. A drwg yw genym fynegu fod yr yn ysbryd maleisus trawsawdurdodol yn ffynu yn Ulster (hyd y dydd hwn) i raddau helaethach nag mewn unrhyw dalaeth yn yr Iwerddon. Yn nheyrnasiad Sior I., pasiwyd gan y Senedd Brydeinig yn 1719 y Mesur Mynegol ("Declaratory Act") yr hwn a'i galluogai i wneuthur cyfreithiau i'r Iwerddon dros ben y Senedd Wyddelig, aphasiodd y Senedd Wyddelig yn 1727 fesur, yr hwn a gauai allan y Pabyddion rhag yr ethol- fraint Seneddol yn yr Iwerddon. Yn ein hysgrif nesaf, ni a geisiwn daflu golwg dros hanqs cysylltia.,pau yr Iwerddon a Phrydain yn y ddeunawfed ganrif.
TUDALEN NODEDIG.
TUDALEN NODEDIG. Gan Sirgar. Mae tudalen gyntaf "Drych," Meh. 1, yn nodedig. Yr ail ysgrif sydd eiddo Dr. D. Pugh Griffith ar "Ardal Wledig yn Nghymru." Dyna un o'r ysgrifau tlysaf mewn iaith a ddarllen- ais yn Gymraeg erioed.- Mae yr ath- ronydd, y bardd, y llygadog, serch at natur a serch at ardal enedigol yn byr- lymu drwyddi, ac y mae ei darlun yn gywir i'r ffeithiau. Uwch ei phen mae darlun o ddarn o bentref henafol Llanpumpsaint, lie yr oedd mwy o Rufeiniaid unwaith yn byw nag sydd o GYIDry yno yn awr. Winter quarters y fyddin Rufeinaidd a summer resort ei phobl mawrion ydoedd unwaith. Ar ochr y creigiau yn y cwm bychan rhwng Maesmaen a Phen y Bont mae enwau ugeiniau o fawrion Rhufeiniaid a fu yn drachtio o ddyfroedd pur a ddawnsiant dros y creigiau gan arllwys yn y pyllau islaw. Diameu i Dr. Griffiths fel fy hunan fod yno yn pys- gota ac yn hela wyau adar ganoedd o weithiau, ac efallai gwympo dros y creigiau. Nid yw darlun y "Drych" yn cyf- lwyno gweledigaeth gywir i mi. Ar- ferwn adnabod bob ty a bwthyn, gardd a choeden, efail y gof a gweithdy y saer gyda y siop fawr a'r dafarn, ond rhyw ddarn o ryw gyfeiriad anadna- byddus i mi a geir yn y darlun. Yr oedd Dr. Griffith yn aduabyddus lawn yn y siop fawr. Os yn cofio yn iawn bu ei dad caredig a'i fam hynaws yn ei chario yn mlaen am rai blynyddau, a pherthynas iddynt oedd yno o'u blaen. Dyna senedd y gymydogaeth un adeg a house of commons oedd efail y got, gyda y sant Dafydd Lewis yn dal yr awenau a Dafydd Llwyd o'i flaen. Ewythr i Joseph Jones, y diaoon o radd o Nelson, N. Y., oedd Dafydd Llwyd. Da gan lu mawr yn America yw y dar- lun fel y mae, ac yn enwedig ysgrif benigamp Dr. Griffiths. Heblaw ei phrydferthweh a'i chyfoeth llenyddol mae yn taro tanau tyner calonau cynes at yr hen gymydogaeth dawel a chref- yddol. Cyfeiria efe yn brin at ei thal- entau, ond cyfeiriad gwan ydyw; nid dyna oedd amcan ei ysgrif brydferth, ond y mae yn ameus a oes ardal w-ledl-g,