Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Englynion. Ar Briodas Mr. John Owen a Miss Nellie J. Lewis. Priodwyd y par hudol--o fewn oes I fwynhad dewisol; I gael y'nghyd, gol y'nghol i Binioes o wenau swynol. 0 dan yr iau, dyner o hyd—cariad Fo coron eu bywyd; Rhoed dwyfol gariad hefyd S'wyn didrai i'w igyrfa'i gyd. Bbed eu hoes, heb groes, heb graith— a gwen Duw Yn gwneyd dydd eu hymdaith Yn wyn hyd derfyn y daith, Heb wynebu anobaith. Prif ffordd crefydd rydd fawrhad—o'i Mewn dihalog rodiad; (dylyn 0 fewn hon ceir gwir fwynhad, Nes cyraedd teyrnas cariad. JOHN R. JONES (Hendref). o Penillion. Ein teimlad cynes at Mr. James C. Morris, Cotter, Iowa. James C. Morris, Cotter, Iowa, A ffarweliodd a'n byd ni, Gan ein bod yn hen gyfeillion Aethym yno a'm dagrau'n Hi; Claddwyd ef fel tywysog enwog Am 'roedd ganddo ddoniau gwych; 'Roedd e'n fardd, a llenor uchel, Fe ddangosodd hyn trwy'r "Drych." 'Roedd e'n gwybod lot o'i Feibl Ac yn Gristion yn ddiau; 'Roedd yn flaenor call a gweithgar Tra nerth yn ei dy o glai; Nid oedd ef yn ofni marw 'Roedd yn gyfaill pur i Grist Felly trodd ei farw'n elw- Nid yw'n ddoeth i'n fod yn drist. Mae ei golli yn wir archoll I'w hoff deulu, a'i eglwys wiw, Ond car cyfan wir gydweithio Er ein cael i dcftiwiol fyw; Cwyd ein serch yn fwy i'r nefoedd Lie ceir gweled Iesu Grist, A bod byth yn debyg iddo Cenir yno—neb yn drist. H. X. H. o Er Cof Am y diweddar Rowland E. Williams (Idwal Mai), Racine, Wis. Wele un o Iblant y bryniau, wedi gado'r fuchedd hon, Ac mae heddyw yn soniarus, heb un clwyf i flino'i fron; Yn mwynhau gogoniant Iesu, yr hwn a'u prynodd ar y Groes; Heddyw'n llamu o lawenydd, am iach- ad o bob rhyw loes. Mewn goleuni 'roedd yn aros, dyna'i ffordd tra yma'n Ibyw, A llawenydd lond ei galon, pan yn ymgom gyda Duw; Ac i afael a'r cyfamod, yr hwn a'i codai ar ei draed. A siaradai yn ddifloesgni am y Gwr a roes ei waed. Fe rodd Idwal Mai ei oreu, ac fe saf- odd dros y gwir Er hyfforddi eglwys Sion ar ei thaith i'r Canaan dir; Dros air Duw yr oedd yn gadarn, a goleuai fel y fflam; Fe a daflodd ei ddysgleirdeb na chai neb yn hwn ddim cam. Ond 'doedd hyny ddim yn ddigon i'w hyrwyddo yn ddinam; Cafodd dad a mam i'w fforddi, gan ei dywys rhag pob cam; Ac mae'i enaid heddyw'n treiddio mewn i bethau arall fyd lesu ei hunan a'i harweiniodd ef at gyfoeth mwy na'r byd. Do, fe gafodd bob manteision allsai natur roi i'w ran I'w ddrychfeddwl i ymagor, a rham- antus oedd y fan, Ar lechweddau yr Hen Fotty, pan yn fachgen ieuanc Ilon Y meistrolodd y gynganedd er ei fan- tais ef bu hon. 'Roedd ei awen .ganddo'n barod, ac yn fardd o udhelryw, Wedi gwreiddio yn ei natur, a ibydd hon o hyd yn fyw; Fe. 'roedd iddo ef alluoedd; destlus odiaeth oedd ei waith; Felly parodd hyd y diwedd nes cyr- aeddyd pen y daith. Racine, Wis. ELLIS HUMPHREY. o Galarnad. Er serchog coffadwriaeth am yr anwyl ddiweddar Mrs. Jane Owen, Trosgol, Bettws Garmon, G. C., a mam i'r Anrhydeddus 0. J. Owen, 701 West 32nd St., Kansas City, Mo., yr hon a fu farw lonawr 17, 1916, yn 93 mlwydd oed. Y teimlad cadd ei friwio, Ar galon wnaed, yn brudd, Pan glywsoch chwi am gludo Eich mam i'w gwely pridd; Ond cysur ydyw coffa Hoff eiriau Iesu gwiw Fod eto'n ol onphwysfa I bawb sy'n caru Duw. Fe'gawsoch fam yn caru Hyfforddi yn ei hiaith Ei phlant yn neddfau Iesu Fu yma dan ei graith; Dywedai iddo waedu A dyoddef ingoedd mawr A'r cyfan er gwaredu Hil-ddynol lwch y llawr. Eich mam fu'n forwyn Iesu Am lawer blwyddyn gron; Cyngorai bawb i'w garu A ddeuai ger ei bron Am dyma'r ffordd i feddu Tragwyddol wynfyd hedd Sy'n aros ceraint Iesu Yr ochr draw i'r ibedd. Wel, ffryndiau, byddwch dawel Gan sychu'ch dagrau'n nghyd, Eich mam a ganodd ffarwel Am lawer iawn gwell byd, Lie ni chaiff boen na chystudd I'w blino'n wir byth mwy, Ond canu caiff yn ddedwydd Am Grist a'i farwol glwy. Boed i'ch fel plant amddifaid I ddylyn Iesu'n driw, Fel galloch gael derbyniad I balas hardd-wych Duw; Ac yno cewch gydoesi A'ch hoffus geraint mad, Byth eto i wahanu O'r nefol iachus wlad. Lie byddwch byth hdb ofni Cael llythyr ymyl du Ond beunydd yn clodfori Hoff enw Iesu cu; Yn deulu gwyn cariadus Heb neb yn tynu'n groes; Yn moli'n ogoneddus Y Gwr fu dan y loes. Olathe, Kans. WM. OWEN.

[No title]

I -COLUMBUS. 0.

YMOFYNIAD AM

I AMRYWION O'R WASG.I

SPRINGFIELD, ILL. I

I Rhydd I Bob Meddwl el Farn…