Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
CYHOEDDIADAU Y CENHADAETH CENEDLAETHOL GWEL TUDALEN 5.
----p--------------__-----------CWRS…
p CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. GWRHYDRI MAWR YN FFRAINC. BRWYDRO OFNADWY—OND BUnDUGOLlAETHUS. Y GERMANIAID YN GORFOD ILDIO. GORCHESTWAITH PRYDIAN MEWN SHELS, DYNION, AC ARIAN. Y RHOD YN TROI YN GYFLYMACH CYMRU AM BYTH. CEISIO EGLURO R SEFYLLFA. Mae maea y rhyfel bellach mor eang a. north, yr ymdrech mor ddyrus, fel mai anhawdd ydyw gwneyd y sefyllfa yn glir i'r anghyfarwydd. Rhaid cyntaf y neb fo am ddeall aut mae pethau yn myned, yw edryoh ar yr holl ryfel fel un frwydr fawr, ac ar bob rhan o'r maes eang fel yn gyd- gyaylltiedig oil a'u gilydd. Gwneir byddin mewn brwydr i fyny 01 amryw gatrodau; gwneir pob catrawd i fyny o nifer o fataliynau; ymhob bataliwn ceir nifer o adranau; gwneir pob adran i fyny o nifer o filwyr a'u swyddogion pri- odol. Ond er y gall Byddin gynwys can- noedd o filoedd o unigolion, eto un corph ydynt oil. Geill llu o'r milwyr gael eu Uadd neu eu clwyfo, neu eu carcharu, ond y Fyddin fel cyfangorff, er hyn oil, yn enill y fuddugoliaeth yn llwyr ar y gelyn. I Felly y rhaid edrych ar y Rhyfel pre- senol. Mae awdurdodau milwrol Rwsia, Ffraine Prydain, a'r Eidal wedi cydyin- gynghori er cydweithio mewn cyd-ddeall- twriaeth parhaua y naill gyda'r Hall fel y bo ymdreohion yr oil yn cydgyfateb i angen y dydd. Gwn fy mod wedi dweyd hyn fwy nag unwaith o'r blaen. Ond mae yn hanfodol cadw hyn mewn golwg o hyd oa ydym i iawn ddeall datblygiadau y Rhyfel o ddydd i ddydd. CYFFELYBIAETH YN NGHYMRU. Dichon y bydd yn gymorth i'r dar- llenydd amgyffred cyfyngder Germani, a; chysylltiad hanfodol gwahanol Fyddijioedd Prydain a'i Chynghreiriaid, wrth ddwyn { amgylchiadau a sefyllfa, y Rhyfel yn nes adref. Meddylier ynte mai Cymru yw Ger- mani ac Awstria mai Mor v Werddon yw Ffrainc; mai Cyffindir Lloegr o'r Am- wythig (Shrewsbury) i Gaer (Chester) yw yr Eidal; ac mai Sir Henffordd a Chaer- loyw (Gloster) yw Groeg a'r Balkans. Wrth gwrs mae y pellteroedd yn an- rhaethol fwy ar y Cyfandir nag ydynt yn Nghymru. n Ond os ceidw'r darllenydd y fngwr uchod yn ei feddwl, gwel fod cylch o elyn- ion yn amgylchynu Germani ac Awstria ar dair ffrynt. ac mai yr unig ffrynt lle nad oes brwydro yw yr ochr at y môr-Môr y Baltic. Ac hyd yn oed yno nid yw yn ddiogel, canys mae Llynges Rwsia yno hyd I yma yn ymarferol gyfan, a suddlongau Prydain yn en cynorthwyo. Dyweder fod llinell y Byddinoedd yn Ffrainc yn ymestyn o Fangor hyd Gaer; llinell Y Byddinoedd yn Rwsia o Ddinbych y Pysrgod (Tenby) hyd Gasnewydd (New- port) eiddo yr Eidal o'r Amwythig i Gaer; a Bvddin Salonica tua Henffordd (Hereford). A. Byddinoedd Prydain a Ffrainc ar un ffrynt, eiddo Rwsia ar arall, ac eiddo'r Eidal ar un arall, yn cyd-daro oil gvda'u gilydd, tra Byddin Salonica yn aros ei ohyfle hithau. BETH RAID I GERMANI WNEYD. Cofier mai Germani ddechreuodd v rhyfel. Hi ymoeododd. Er mwyn lddi hi enill y rhyfel rhaid iddi gael buddugol- iaeth ar y tair ffrynt, sef yn Ffrainc/ yn Rwsia, ac yn yr Eidal, a chadw'r Balkans hefyd yn erbyn Byddin Salonica. Gall Prydain a'i Chynghreiriaid, ar y llaw arall, fforddio colli a/r ddwy ffrynt, gan wybod os enillant yn y trydydd y bydd buddugoliaeth yn sicr iddynt yn gy- maint ag y gellir cyraedd at galon y gelyn drwy unrhyw un o'r ffrynts. Gwelir felly fod tair siawns genym ni i enill am bob un sydd gan y gelyn. Dyna'r olwg e.ang, gyffredinol, ar y sefyllfa. Edrychwn eto ar EFFAITH Y CYDWEITHREDIAD rhwng Prydain a'i Chynghreiriaid y soniwyd am dano uchod. Pan fyddom, fel yr ydym yn awrt yn cydwasgu ar y gelyn ar y tair ffrynt, Rwsia, Ffrainc, a'r Eidal, rhaid yw iddo gadw ei Fyddinoedd yn eu llawn nerth ar bob ffrynt ar yr un pryd. Pe tarawem ni ar ei linell o Fangor i Gaer, tra'r Rwsiaid yn peidio, gallai Germani alw rhan fawr o'i Byddin yn ol o'r Jlinelli o Benfro i Fynwy i gy- northwyo'r Fyddin rhwng Bangor a Chaer. Ond pan fo'm ni yn ergydio ar linell Bangor a Chaer; a'r Rwsiaid ar yr un pryd yn ergydio ar linell Penfro a Mynwy; a'r Eidal yn taro yn drwm ar linell Caer a'r Amwythig; a Byddin Salonica yn gwylied yn Henffordd am gyfle i daro yno tua Sir Frycheiniog, ni all Germani fforddio symud dynion o unrhyw ffrynt i gynorthwyo gwendid ffrynt arall. Ceisiasant wneyd dair gwaith o fewn y deufis diweddaf gyda chanlyniadau al- aethus iddynt eu hunain. Dyma'r TAIR ENGHRAIFFT 1. Tna r Awstriaid ar ganoi grym eu hymosodiad ar yr Eidal yn y Trentino, daeth galw am help i'w Byddin yn erbyn y Rwsiaid yn Bukowino. Gyrwyd yr ad- gyfnerthion. Mewn canlyniad ymosododd yr Eidal gyda chalon newydd, a gorchfyg- wt/d y gelyn. 2. Pan wnaethum ni a'r Ffranood yr ymosodiad ddechreu'r mis hwn ar lanau'r Somme, galwyd Germaniaid yn ol o Verdun i'n gwrthsefyll. Manteisiodd y Ffrancod yn Verdun ar hyny i ymosod o'r newydd gyda chalon ddewr, gan adenill mewn deuddydd dir y cymerodd i'r Ger- maniaid ddeufis i'w enill ar y cyntaf. 3. Pan dorasoan ni yn Ffrainc wythnos yn ol drwy ail linell Germani, galwyd milwyr yn ol o Rwsia i'n rhwystro ymlaen ymhellach. Cymerodd Rwsia fantais ar hyny i ymosod yn y man gwan ar linell Germani yno, gan enill mewn deuddydd 30 milltir o dir, a chymerwyd ugeiniau o gyflegrau mawr y gelyn. Ca'r darllenydd yn yr enghreifftdau uchod syniad cliriach o beth a olyga'r cyd- weithrediad i ni ac i'r gelyn. Y SEFYLLFA YN FFRAINC. I ni yn y wlad hon, ac yn arbenig i ni yn Nghymru, ymddengys y brwydro ofnadwy yn Ffrainc yn bwysicach nag J eiddo'r un maes arall. Er nad yw felly mewn gwirionedd nior bell ag y mae a fyno a Chwrs y Rhyfel, mae yn gwasgu mwy ar •ein tneddwl a'n oalon ni na'r brwydro mawr yn Rwsia a'r Eidal, am ei fod yn nes atom, ac am mai yno mae Berhgyn (>ymru ?In ymladd. Ac maent yn ymladd, yn ddewr, yn wrol, yn hunanaberthol, drosooh chwi ddarllenwyr y LLAN, a throswyf finau, a throa ein cartrefi a'n teuluoedd. Nid rhyfedd ein bod yn pryderu, ac yn gweddio y n Duw yn feunyddiol ar eu Than-Bechgyn Anwyls Cymru! Ac ni ohyflawnodd yr Hen Gymry yn nyddiau Glyndwr a Llew- elyn weithredoedd hafal i'r hyn a wneir yn feunyddiol gan Fechgyn Cymru yn Ffrainc y dyddiau hyn. Fel y gwelir mewn colofn arall yr wyth- nos hon llwyddodd dewrder y Cymro i enill un o'r safleoedd pwysicaf oddiar y ge,lyn yn Ffraine, wedi methu o'r Catrodau Seisnig yn y Fyddin, er dewred hwynt, wneuthur. CENIR CLODYDD Y WELSH FUSILIERS oesau'r ddaear am v gwrhydri mawr a I wnaethpwyd ganddynt yn Ffrainc v dydd- iau diweddaf hyn. Dychlama pob calon Gymreig deilwng o'r enw wrth ddeall fod Bechgyn Cymru wedi myned i ddanedd angau, miloedd o honynt i'w liangau eu hunain, ond er hyny i fuddugoliaeth ddiaglaer gan waeddi CYMRU AM BYTH! Teimlad cymysg o orfoledd a hiraeth a leinw ein calon wrth ddarllen mewn llythyrau cyfrinachol am y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd y dyddiau di- weddaf gan Feohgyn Cymru. Dangosodd y Pedair Bataliwn o'r Royal Welsh Fusiliers a enillasajit y gamp yn Ffraino, wedi IDethu o'r Saeson wneyd, pa beth a allesid ddisgwyl oddiwrth Fyddin Cymru pe y caffai gyfle i wneyd ei rhan dros Gymru ac yn ei henw. Da Mechgyn i! Gwnewch eich rhan pa le bynag y bo'ch er mwyn anrhydedd Cymru. Bendith Duw fo arnoch, a'i nodded drosoch bob amser ymhob ar- gyfwng a pherygl. Dyna weddi a dy- muniad pob calon yn Nghymru heddyw! MYNED RHAGOM. Er yr anhawsterau, or y lladd a'r clwyfo ofnadwy, myned rhagom yr ydym gyda, ac yn, yr ymosodiad mawr yn Ffraino. Bydd gair o eglurhad o'r sefyllfa yno ar hyn o bryd yn fanteisiol. Ddechreu'r mis hwn cychwynwyd yr ymosodiad mawr genym ni a'r Ffrancod ar linell y gelyn ar lanau yr afon Somme. Gwnaed yr ym- osodiadau unedig ar hyd llinell vll )tle,iii* tua 30 milltir o hyd o'r naill ben i'r 11--]1 Yr oedd y gelyn yn dal tir manteisiol iawn iddo wrthsefyll ymosodiad, mynydd-dir bryniog, pentrefi bychain yn ami ar gopa'r bryniau, ambell i ffermdy mawr gydag ysguboriau a thai anifeiliaid; coedwig- oedd tewfrig. Yr oedd y Germaniaid wedi cael deunaw mis i gadarnhau eu safle yno, i gynllunio a pherffeithio, pob matb o am- ddiffynfeydd. Gwnaed pob ty ymhob pentref yn dwr cadarn, pob ffermdy a'r tai allan yn gastell, pob coedwig yn nythle machine guns' gwenwynig ac yn lloches llu cuddiedig. Rhaid oedd enill y lleoedd hyn bob yn un ac un. Cymerodd i ni ddeng niwrnod o ymosod diorphwys ddydd a nos i dori trwy linell gyntaf y gelyn ar bedair nfilltir allan o'r, wyth milltir y ceasiem ni dori trwodd. Llwyddasom yn y pen deheuol i'r llinell; methasom yn y pen gogleddo]; llwyddasom i fyned ran o'r ffordd yn y canol. Pan ymosodasom ar yr ail linell gwnaethom fyr waith. Ènillwyd hon mewn deuddydd—ond ar ben deheuol y llinell yn unig, ac ar hyd llinell nad oedd yn mesur ond pedair milltir o gwrr i gwrr. Wedi enill yr ail linell am bedair milltir o'i hyd, trodd ein Byddin i ledll/r ffryiit drwy ymosod tua'r gogledd or lie a enillwyd genym, hyny yw, manteisio ar 1 ein pedair milltir a enillwyd, i fyntd o'r tu of, i,'r gelyv yn y rhan o'r llinell v methwyd ei henil] genym ar y cyntaf. GWRTII-YMOSODIAD Y GELYN. Pan oeddem yn gwneuthur hyn taraw- odd y gelyn yntau ei ergyd. Yr oedd y Caiser wooi dychrynu cymaint wrth weled ei filwyr goreu yn cael eu cymeryd oddi- arno, fel y gyrodd ar ffrwst (fel vr amlyg- Avyd uchod) i Rwsia a Verdun, am ad- gyfnerthion cryfion i wneyd gwrfch-ymos- odiad cryf gyda'r gobaith o adenill y safleoedd a gollwyd., a gyru Byddin Prydain yn ol. Er mwyn sicrhau hyny daeth ei hun i'r lie er rhoi calon newydd yn ei filwyr. 01 Ond y dydd y daeth yno cafodd y siom a'r gofid o weled bataliwn gyfan o'i filwyr personol goreu ef ei hun—y Prussian Guards—yn cael eu difodi. Ffurfiai y Fataliwn hon warchodlu pentref Ovillers. Cyfrifir y Prussian Guards yn hufen Byddin Germani,—ac ystyrid holl Fyddin Germani y milwyr gweu ar wyneb daear. Ond gorohfygwyd milwyr profedig Germani gan glercod a «iopwyr Lloegr. a gorchfvgwyd y Prussian Guards gan Fechgyn Gwledig Cymru. Am naw diwrnod olvnol heriodd v Prussian Guards yn Ovillers holl allu Byddin Prydain. Amgylohid y lie o bob tu gan y Prydeinwyr. Yn eu cyfyngder danron- wyd bataliwn arall i'w cynorthwynd difodwyd hono oddiar wyneb y ddaear gan gafodydd shela cyflegrau Prydain. Mewn un gatrawd Germanaidd yn rhifo 3500 o filwyr profedig a gymerodd ran yn yr ym- osodiad arnom ni ddihangodd ond y 500; gadawyd y 3000 yn farw neu yn glwyfedig ar y maes. Dywed yr Ysgrythyr am ddau yn llafurio ar y maes, "y naill a, gymerir a'r llall a adewir." Geill y Caiser ddweyd, "Saith o'm gwyr a lafuriasant ar y maes, chwech a gymemuyd} ac un yn unig a adamjd." Dyna welodd y Caiser y dydd cyntaf y daeth i olwg Byddin Prydain. Cyn hwyr y dydd hwnw gwelodd ei Guards ehwog, y rhai y tybid na ildient byth i neb tra anadl yn eu. ffroenau, yn gorfod ildio eu hunain yn garcharorion i filwyr dirmyg- edig Prydain, "the contemptible British Army," fel y galwai efe hwynt lai na, dwy flynedid yn ol Pan ddaeth yr adgyfnerthion, hyrdd- iodd hwynt yn erbyn y Prydeinwyr. Pan wnaed yr ymosodiad hwn ymddengys fod PEDWAR GERMAN YN ERBYN POB PRYDEINIWR. Er dal ohonynt eu tir hyd farw, encilio ychydig a o>nu'r Prydeinwyr yn y Goed- wig (Delville) a'r pentref (Langueval) oeddent yn rhan o'r nod oedd gan y Caiaer mewn golwg i'w adenill oddiarnom. Erbyn hyn dechreuodd adgyfnerthion Prydemig gyraedd y lie neg cyfarfcalu yn agosach y ddwy Fyddin fan hono. Bu yr un dynion o'n hochr ni yn YMLADD YN DDIBAID AM 26 AWR YNO! 0 gam i gam, o df i d £ o fur i fur, o seler i seler yn pentref, ac o foncyff i foncyfft ac o lwyn i lwyn yn y goedwig, gyrwyd y Germaniaid yn ol drachefn i dai pellaf y pentref ao i lwyni ymyl pellaf y goedwig. Tra thebyg erbyn hyn fod yr holl .le wedi cael ei enill genym eto, a. ninau yn ymosod ar drydedd llinell y gwyn. Dyma yn ddiamheu yr ymladd mwyaf gwaedlyd yn holl hanes y Rhyfel. Rhaid fod ein oolledion ni yn drymion ofnadwy— er nad cymaint ag y disgwyliai yr aw- durdodau milwrol iddynt fod. Ond yr oedd yr hyn a enillid yn cael ei gyfrif yn fwy na gwerth y gwaed a dalwyd am dano. DENG MILIWN 0 SHELS. Dywedir fod Prydaiu o fewn corff yr ugain niwrnod cyntaf o'r vmoeodiad mawr hwn wedi saethu ugain miliwn (20,000, 000) o shels mawrion ar y gelyn. Dyna haner miliwn (500,000) o shels bob dydd am dair wythnos; 21,000 bob awr; 350 shels bob munyd neu haner dwsin o shels bob eiliad o'r dydd a'r nos yn ddiorffwvs am dair wythnos! HANESION CYFFROUS. Ni bu er creadigaeth y byd y fath ddiluw tan a hyn mewn unrhyw fan. Synwyd, syfrdanwyd y Germaniaid gan y cafodydd diddiwedd hyn. Ceir ami i hanesyn cyffrous am y dyddiau tanTlyd hyn. Rhoddaf ddau neu dri, yn dangos twyll a, brad y German ar y naill law, a'i fraw brydiau eraill. Un dydd rhuthrodd swyddog Prydeinig gyda'i wyr at ymyl gwarchffos lie llecbf i'r gelyn. Cyn iddo gyrhaedd y fan wele swyddog Germanaidd vn dod allan o'r ffos gan godi ei ddwylaw a dweyd: "Yr ydvrn vn ildio!" Ond y funyd hono wele filwr German- aidd a lechai y tu 01 i'r swyddog yn saethu a lladd y Prydeiniwr. Cynhyrfodd y Prydeinwyr gymaint nee lladd ohonynt bob Germaniad a gawsent yn fyw yn y ffos hono. Dro arall wele Sergeant Prydeinig yn dynesu at ffos, a swyddog Germanaidd a bwyell yn ei law yn dod allan i'w gyfarfod. "Yr wyf yn ildio," ebe'r Germaniad. "Os felly," ebe'r Prydeiniwr, "gwell i chwi daflu'r fwy el I i lawr!" "Cymer hi ynte!" ebe'r Germaniad. gan anelu ergyd a'r fwyell at ben y Prydeiniwr.