Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Codiad Mawr Prisiau Ymborth.
Codiad Mawr Prisiau Ymborth. Dengys ystadegau fod ymborth ellid bryau yn y w lad bon cyn y rhyfel am 12s. 5c. yn awr yn coetlo punt. Yn Germanl y mac gwerth sofren wedi myned i lawr i 9a. 3C, ac yn Vienna n! cheir yn awr am bunt ond gwerth 88. 9c. gynt.
Y Genhadaeth Genedlaethol.
Y Genhadaeth Genedlaethol. Papur a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Cleiigwyr Deoniaeth Tindaethwy, ym Mhentraeth, Gorphenaf lleg, Gan y Parch. B. THOMAS, Llanddona. Dyna yr enw, ac y mae yn ddigon hyspys bellach trwy Gymru. Ond pan ofynir beth yr ydym yn oi feddwl wrtho y mae yr anhawsterau yn lluosog. Amcenir ein goleuo trwy roddi i lawr y ddwy linell fawr ar ba rai y mae i gael ei ohario allan: oenadwri o Edifeirwch a Gobaith. Ond beth ydym i edifarhau yn ei gyloh ac am beth yr ydym i obeithio? Efallai cawn ychydig o gymhorth i ateb y blaenaf trwy olrhain tarddiad y mudiad. Mor belled ag y mae fy ngwybodaeth i am dano y mae wedi tarddu oddi uchod; oddiwrth y rhai sydd i fod yn arweinwyr i ni, y rhai a gydnabyddir ar y cyfan hefyd fel arwein- wyr teilwng, neu o'r hyn leiaf cymharol deilwng o'u swydd. Felly teg yw gofyn beth sydd wedi awgrymu iddynt yr angen, y priodoldeb, y dymunoldeb, a'r budd sydd yn debyg o ddeilliaw oddiwrtho. Os ydynt yn gweled yr angen yn codi oddiar yr hyn sydd wedi dyfod i'r golwg trwy y rhyfel, a'r arwyddion a geir ar bob Haw fod gafael yr Eglwys ar y werin yn wan ac yn lilac, ei dylanwad a'i gafael air ei deiliaid proffesedig yr un fel; a'i chyf- lawniad o'i dyledswyddau yn anfoddhaol, y yr angen yn cael ei brofi i'r eithaf. Oddiar hyn cyfyd y priodoldeb. priodol iawn yw cyfarfod ag angen heb golli amser. Canlyniad peidio gwneuthur hyn yw gadael i'r drwg fyned yn ac yn ami yn anfeddyginiaethol. Felly gellir dweyd os yw yr angen yn amlwg priodol iawn yw ceisio ei gyfarfod a'i wynebu ar unwaith. Ond etc rhaid cofio fod ystyriaeth a phwyll yn elfenau gwerth. fawr, yn enwedig yn y cylch ysprydol, yn nhiriogaeth Eglwys Dduw. Gall yr angen fod yn faw"; y priodoldeb o'i wynebu yn rymus; ond y dymunoldeb o wneyd hyn ar hyn o bryd yn amheus. Dyna glywir, nid wyf yn gwneyd dim ond sylwi arno. Nid wyf yn gyfiawnhau, ei gymeradwyo, na'i gondemnio, ond y yn deilwng ^o sylw. Barna rhai y dylid aroa nee i'r rnyfel fyned heibio. Nid wyf yn cytuno a hyn, pe bai hyny o bwys i neb. Ystyr- iaeth lawer pwysicach i'm meddwl gyda. golwg ar y dymunoldeb yma yw: Paham y yn rhaid i ni fwy na chyfundebau crefyddol eraill deimlo ein bod yn cael ein galw i'r ymdrech neillduol hon? Naill ai yr ydym yn ir ac yn waeth na hwynt, neu yr ydym wedi dyfod i deimlo ein cyflwr yn fwy bywiol a sylweddol na hwynt. Dylid ctofio wrt!h {lrin ar yr agwedd yma o'r mudiad nad yw crefydd mewn un ystyr etrioed wedi bod yn llwyddiant. Y mae hyn yn wir gyda golwg ar yr Eglwys yn gyffredinol yn ogystal a obyda hanes cyf- undebau crefyddol. Hyd yn hyn y mae, y methiant yn fwy na'r llwyddiant. Nid oes un cyfundeb crefyddol nas gellir cy- mhwyan geiriau y Salmydd am bersonau unigol ato: "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, 0 Arglwydd, pwy a saif." Pan lefarai ein Gwaredwr wrth Ei ddis- gyblion am safon uwchaf crefydd a meos- oldeb teimlent ar unwaith fod rhywbeth mawr ac anhawdd yn cael ei osod o'u blaen. "Caled yw yr ymadrodd hwn, pwy a ddichon ei ddioddef." Pan godai safon cyfrifoldeb priodasol teimlent yr un modd. "Os felly y mae yr achos rhwng gwr a gwraig nid da gwreicca." Os mai oodi y safon fel hyn yw un o amcallion y Gen- hadaeth, ac yr wyf yn credu fod hyn yn wir, yna nis gall neb wadu y dymunoldeb am y mudiad. Pwy all wadu nad yw ein safon braidd ymhob cyfeiriad yn isel ? Nid yw safon dyledswydd yn uchel. Megis yr offeiriad felly y bobl. Y maent yn llewyrchu wyneb eu gilydd yn hyn o beth. Gan nad yw y bob! am ormod, nid yw yr offeiriad am roi gormod: o aberth, ymdrech, ymroddiad, myfyrdod a holl linellau y bywyd ysprydol. Pan ofynais ynghylch un oedd yn gweinyddu yn y fyddin, a'r gwaith yn ei gyflawni, yr atebiad oedd, "Ardderchog, yn serchog wrth bawb a'm gwahodd i swper byth a hefyd. Efallai fod y pethau hyn yn cymylu pethau gwell, ac yn ymddangos i olwg ranol ac anghywir yr hyspyswr; ond a chaniatau hyn y mae holi ynghylch v safon a chwilio a ydyw yn ddiarwybod yn myned i lawr yn sicr o fod yn beth i'w fawr ddymuno. Wedi edrych fel hyn yn fyr a brysiog ar yr angen, y priodoldeb, y dymunoldeb o ddwyn pethau i well eyflwr, cawn ofyn ychydig ynghylch y budd sydd yn debyg o ddeilliaw, os cymer y mudiad "ffurf a delw, bod a byw." Wrth gwrs, amser yn unig a ddengys. Rhesymol a synwyrol yw ymorol ynghylicli cwrs a chyf- eiriad ein symudiadau a'n gwaith. Er mai yr anuwiol sydd beunydd yn gofyn y owestlwn, "Pa beth ydyw yr Hollalluog fel y gwasanaethem Ef, a pha fudd fydd i ni 08 gweddiwn ni arno?" Y mae yn gwestiwn pur briodol i'r duwiol hefyd. Gellir ei ofyn gyda gwylder a pharchedig ofn; mewn awydd am oleuni a chyfar- wvddid; ac nid mewn gwawd fel y gwna. vr anuwiol. Y mae edrych o amgyloh yn ofalus a meddylgor yn un o elfenau gwir lwyddiant unrhyw anturiaeth neu ym- gyrch ddifrifol. Ac y mae y Genhadaeth yma yn un o'r cyfryw. Y mae ei swn yn fawr a phriodol iawn felly yw gofyn beth fydd'j lies a'r budd sydd yn debyg o ddeilliaw o honi. Y cyfan allwn wneyd ydyw penderfynu gwneyd ein goreu i sicrhau budd trwyddi. Gwnaied pawb eu rhan ac y mae yn sicr o fod yn fuddiol, nid trwy ddisgwyliad na thrwy fesur dynol ond dan arddeliad Glan Yspryd Duw; a'r ym- wybyddiaeth ddyfnach o bresenoldeb par- haus yr Arglwydd Iesu; a bendith Duw Dad. Yn awr, wedi ceisio trin ar yr angen, y priodoldeb, y dymunoldeb o edifarhau, naturiol yw gofyn, Beth sydd genym i edfarhau am dano, a phwy sydd i edifar- hau? Y mae arbenigrwydd neillduol yn cael ei roddi i ni yr offeiriaid yn yr holl drafodaeth er pan gychwynodd y mudiad. "Bywyd personol y clerigwyr" "Yr offeiriad yn ei lyfrgell"; "yn ei blwyf," "yn ei gynulleidfar," etc., dyna benawdau un o'r Ilyfrau a anogir i'n hystyriaeth. A ydym mewn gwirionedd wedi bod mewn anwybodacth o'r pethau hyn hyd yn awr? Neu a ydym yn euog o'u hesgeuluso i'r fath raddau fel y maent yn newydd i ni? Og felly, a yw y bai yn hollo! arnom ni ein hunain, neu ar y gyfundrefn grefyddol y perthynwn iddi? Y mae y gofyniadau hyn yn codi yn naturiol oddiwrth yr hyn a ysgrifenir ac a leferir ar y mater. Pa un I ai ein hunain neu y gyfundrefn sydd ar fai, os ydym yn credu fod bai, ac y dylid cyfaddef, ymostwng, ac edifarhau, I gwnawn hyny jb ddifritf, yn ein cylob gweinidogaethol, ac yn ein buchedd ber- sonol. Ond eto, beth am eraill? Beth am y rhai sydd uwch ein penau fel y dy- I wedijr ? Oes rhywun all wadu nad oes angen a lie mawr am welliant yn hyn o gyfeiriad ? A faidd rhywun enwi pen- i bugail unrhyw esgobaetli a dweyd fod yn 1 rhaid iddo yntau ymostwng ac edifarhau ? I Nid wyf wedi gweled llawer i'r perwyl yma yn hanes y mudiad. A beth am y Ileyg-, wyr, yn wyr, gwragedd a phlant, yn henafgwyr a llanciau gwreng a boneddig, icyfoethog a thlawd ynghyd. A ydynt] hwy yn barod ac awyddus i ddilyn ? Y mae yn rhaid cael symudiad unol, neu gwaeth nag arfer fydd. Credwyf fod ffeithiau di-droi-yn-ol yn gofyn arnom un I ac oil i edifarhau a diwygio, ond yr wyf yn credu mai nid oddiar achosion personol y mae hyn yn codi, ond oddiar achosion cyf- undebol a ohyffredinol. Y mae yr awyr- gylch yn anmhur; yr agweddiad yn gyf- eiliornus; yr yspryd yn wan, a'r safon yn isel. "Dyna fy nghred, ond beth wyf fi? Plentyn yn crio yn y nos; Yn crio am y wawrddydd dlos, Heb un llais genyf, onid cri." Y mae ein Heglwys fel corph, i'm meddwl i, yn euog o esgeulusdod dybryd o bethau trymaf y gyfraith: barn, a chyfiawnder a ffydd. Y mae hyn wedi oodi ynghanol llawer o weithgarweh a diwydrwydd allan- ol, ar draul eesgeuluso egwyddorion syl- faenol. Yr ydym wedi bod mor awyddus am ganlyniadau a ffwryth fel ag i beri i ni ddi-brisio y seiliau ar ba rai yn nnig y I gellir cael oanlynisdau a ffrwyth boddhaol a chyflawn. Ac yn hyn y mae yr holl gorph Eglwysig wedi cyfranogi, esgobion, offeiriaid, a lleygwyr, ac felly y mae yn rhaid i'r holl gorph symud a dadebru. Yr ydym wedi dioeddef gormod oddiwrth I gulni ac awydd hunanol yn ein cylchoedd byohain ein hunain. Y mae yn ofynol i ni gydnabod hyn ac edifarhau am yr hyn a aeth heibio. 0 gyfeiriad personol nid wyf yn meddwl fod un cyfundeb crefyddol yn y wlad all ddangos rhestr mor lan a phur fel personau unigol, o'r esgob hyd y curad, neu os myner hyd y darllenwr lleyg; neu o'r pendefig hyd y gwerinwr ymhlith ei lleygwyr. Ond yr wyf yn credu ein bod fel cyfangorph t-rwy'r wlad i gyd wedi bod yn eegeulus o'n oenadwri a'n cyfrifoldeb. Nid yn gymaint oddiar achosion llygredig a phechadurus ag oddiwrth wendid a ffug foesgarwch. Wrth geisio bod yn garedig yr ydym wedi Hwyddo i wneyd ein hunain yn ddirmygus; wrth ofyn ychydig yr ydym wedi Uwyddo i gael dim ac wrth geisio cyfarfod a gofymon y gwanaf yr ydym wedi colli parch a chymhorth y cryf. Y mae cyfrifoldeb ein harweinwyr a'n llywiawdwyr yn fawr yn y cyfeiriad yma, fel y gellid profi trwy lu o enghreifftiau. Gadewch i ni yn awr geisio dyfod i fan- vlion. Yr ydych wedi fy anrhydeddu yn fawr yn y dull y gofynasoch i mi eich 31lerch heddyw. Gofynasoch i mi roddi awgryiniadau gyda golwg ar y Genhad- aeth. Nis gwn pa mor bell yr vdwvf wedi llwyddo hyd yn hyn yn y gorchwyl. Yr wyf wedi ceisio awgrymu ei tliarddiad wedi ceisio dangos yr angen am dani; ei bod yn briodol ac yn ddymunol peidio oedj ac fod lie cryf i gredu ein bod fel cyfundrefn wedi myned ymhell yn ol yn j ein hyspryd, yn hytrach nag vn y llythyren. Y rhan sydd yn ol ceisiaf osod i lawr rai llinellau cyffredinol y gallwn gymeryd. Yr awgrymiad cyntaf sydd genyf yw, Goch- elwn y perygl 0 edrych gormod o amoylch,- fel pe byddem mewn penbleth am ddefn- vddiau. Edryohwn oddifewn i ni ein hunain, a gofynwn beth ydym wedi bod yn fwyaf euog ohono. I'm meddwl i, y coll mwyaf yw, Diffyg teimlo presenoldcb ar agosrwydd Drnv. Yr ydym wedi bod mor ffwdanus gyda phethau Duw fel ag i'n tueddu i anghofio Duw ei hun. Y mae yn wir y gellir dweyd fod Duw i'w gael trwv ei bethau, ond gwell yw ceisio Ei gael a,'i weled yn Ei bethau. Nid gan bechadur amlwg ond gan sant y dywedwyd. "lliiii u, nesau at Dduw sy dda i mi." Nid oes un adeg wedi bod yn hanes crefydd lie mae oyneuaderatU, brcintiau, ac ordinhadau wedi bod mor gyflawn a lluosog. Ond y mae ccrydd Isaiah a'i ail-fynegiad gan ein Harglwydd Iesu Grist i'w oes Ef yn rhy debyg o fod yn haoddiannol i ni. Nesau £'1' gwefusau a'r calonau yn pcllhau. Yn nesaf, credaf mai peth arall gwir angenrheidiol, ac eto mor symi. yw cael mwy o sylw at y Bibl. Os oes perygl mewn Bibl-addoliaeth y mae llawer mwy mown esgeulusdod ohono. Nid yw yn perthyn i ni geisio olrhain yn y fan hon achosion y diffyg hwn, ond gwyr pawb fod y Bibl wedi ei wthio yn ol. Nid yw wedi cael ei ddifynu yn y Sencdd er ys dros 20 mlynedd, ond dwy neu dair o weithiau, ac ar un o'r rhai hyny yr oedd y difynwr yn wallus braidd ymhob gair. Gofynaf i chwi un ac oll, ac i mi fy hun hefyd: A ydym yn gwneyd llawn a digonol ddefnydd o'r Bibl ein hunain. ac yn ei anog i sylw ein deadelloedd ? Flynyddau lawer yn ol byddai Ficar LIawr-y-Bottws, yr hwn a gladdwyd yn ddiweddar, yn ysgrifenu i'r LT.AN. Ei bwnc un tro oedd pregethu. Ar ol llawer o gyfeirio a difynu o wahanol feusydd diweddodd gyda goiriau tebyg i hyn: "Y cymhorth goreu i'r pregethwr yw y Bibl a'r Concordance." Yr oeddwn yn rhy ieuanc ar y pryd i wybod beth oedd Concordance, ond dechreuais holi. Y mae yn rhaid i'r Bibl gael lie yn y Genhadaeth yma. Y mae taflu v Bibl o'r ysgolion yn bechod mawr, ond y mae ei esgculuso gan Eglwys Dduw yn beohod mwy. Peth arall ddylid ei wneyd yn y Gen- hadaeth hon, gan mai at ei phlant ei hun y mae yr Eglwys yn apelio, yw dwyn hawlian yr Eglwys fel cyfundeb o'u blaen. Gall rhai ofallai ddweyd fod hyn yn golygu pregethu culni. Ond y mae ffyddlondeb a pharoh i Gyfundeb yn hanfodol i lwydd- iant crefydd. Sylwer ar y gwres a ddengys St. Paul wrth son am yr Eglwys fel Cyfundeb, "Eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd," "Yr holl deulu," "Teml Sanctaidd," etc. Y mae yn an- hawdd i bobl sylweddoli bendithion heb gael rhyw byniad am y cyfrwng trwy ba un y cyfrenir hwynt. A phel bai ond ar y tir iaelaf, sef edrych ar ein Heglwys ni fel un o wahanol gyfryngau eraill y mae yn ddy- ledswydd arnom i osod ei hawliau yn ben- dant a di-gamsyniol. I ddangos iddynt be,th yw y trysorau sydd ganddynt yn y Bibl a'r Llyfr Gweddi trwyddi hi, ac i ddangos heiyd iddynt eu rhwymedigaeth mewn gwasanaeth ac aberth am y pethau hyn. Y mae y dystiolaeth ar y peth hyn yn aruthrol o gryf. sef bod ein deiliaid ni ein hunain yn hynod b lac, difater, ac an- wybodus mewn rhwymedigaeth Gyfun- debol. Yr ydym i gyd yn gwybod fod Ymneillduwyr a Phabyddion lawer ar y blaen i ni yn hyn. Gellir cymeryd dau faesi adeiladol a buddiol yn y cysylltiad yma. I. Yr Addoliad. Y mae y rhan fwyaf yn edrych arno fel mater o ddewisiad yn hollol. Dywedir am y bardd Wordsworth, iddo ddweyd yn 1829, lied debyg mewn per- thynas a Deddf Rhyddhad y Pabyddion, ei fod yn foddlon rhoddi ei fywyd i lawr dros Eglwys Loegr. "Ond," meddai, mewn math o ymffrost efallai, "nis gwn pa bryd y bum yn addoli o fewn ei muriau." Byddai yn ddyddorol gwybod am lawer sydd wedi bod yn gwaeddi ar hyd a lied y wlad hyd yn ddiweddar faint a zel eu haddoliad yn yr Eglwys. Dynxa un o'n gwit angpnion. II. Maes buddiol arall yw Hyfforddiant ac Adeiladaeth y Llyfr Gweddi. Wrth hyn yr wyf yn golygu y dylid agor mwy ar eu trysorau. Yn yr addoliad y tri maes cyffredin yw Y Cymun Bendigaid a'r Foreol a'r Hwyrol Weddi. Ac y mae pobl yn meddwl nad oes angen iddynt hwy .fel lleygwyr fyned droe y terfynau hyn. Y canlyniad yw cwynant am unrhywiaeth y pethau hyn. Y gwirionedd yw, y mae genym fwy o amrywiaeth nag un Cyfundeb yn y wlad, ac am wn i, yn y byd. Dangmer i'r bobl y meusydd mawrion sydd yn y tri a nodwyd, Y Salmau, Colectau, Epistolau, Efengylau, y Llithiau, Dydd- iau Ympryd ac Arbediad, Dyddiau Gwyl- iau, etc. Pa angen oedd am ffurfiau newydd yn ystod y rhyfel yma. "Gweddiwn dros y Brenin, a phawb mewn awdurdod." Onid oeddem wedi gweddio eisoes ar Dduw drosto, ar iddo "bwyso at dy fcddwl, a rhodio yn dy ffordd?" Ac onid oeddem yn gweddio yn y Litani, Mercher, Gwener, a Sul ar iddo gael "Uuddugoliaeth ar ei holl elynion?" ac am i Dduw hefyd "gynysgaeddu Arglwyddi'r cynghor a'r holl fonedd, a gras, doethineb, a deall ?" Ac eto, "teilyngu o honot roddi i bob cenedl undeb tangnefedd, a chyd- ordio." Onid yw hynyna yn ddigon? Tybed fod ein harweinwyr yn ddall i bethau fel hyn. Nid rhyfedd ynte fod y bobl yn an- addfed yn y Llyfr Gweddi. 0 ran ei yspryd y mae yn addas i bob gwlad ac oes. Fel arweinydd a chyfarwyddwr nid yw erioed wedi cael ei ddyledus a'i gyflawn ddefnyddio. Nid ei ddiwygio sydd eisiau, ond ei ddefnyddio, ei astudio, a'i ddysgu i'r bobl. Yn ol iaith farddonol Ezekiel, rhaid ei fwyta. Yr wyf wedi rhoddi pwys ar y ddau beth hyn am fy mod yn credu mai dau brif fai ein pobl yw diffyg cariad a zel at yr addoliad ac anwybodaeth, neu yn iaith yr hen Lyfr Gweddi ei hun, eu "hesgeulusdra a'u hanw-ybod" o'r try- sorau gwerthfawr sydd yn eu meddiant. Cenad i Edifeirwch, Amen, Poed felly. A dyma'r llinellau yn barod yn ein genau "Teilyngu o honot roddi i ni wir edifeir- wch, a maddeu i ni ein holl bechodau, ein hesgeulusdra a'n hanwybod, a'n cynys- gaeddu a gras dy Yspryd Glan i wellhau ein buchedd yn ol Dy Air Sanctaidd." Ychydig eiriau am yr hyn ydym i obeii-hio. Y mae hyn yn beth nas gellir dweyd llawer arno, ond gellir ei feithrin. Darlunir gobaith fel ffynon barhaol yn y galon. Y mae gallu creadigol mawr gan obaith. Y mae ei gallu cynaliol yn fawr hefyd. Yr ydym ni wedi dangos y rhin- wedd hon yn dra helacth i'm tyb i or ys blynyddoedd bellach. Anogid ni yn ystod yr ymryson diweddaraf i "wynebu'r gwaethaf, a gobeithio'r goreu." Wel, ynte, beth yw ein gobaith yn y mudiad hwn ? Y mae pob un ohonom yn gobeithio nad awn o ddrwg i waeth. Gwan ar y goreu yw gobaith fel yna. Yr hyn sydd yn ymgynyg i'm meddwl i yw y dylem obeithio am fwy o yspryd brawdol, cofiwch yn yr ystyr Gyfundebol wyf yn feddwl. Ein bod yn gyd-weithvryr, ac nid yn hyn a hyn o amrywiol weithwyr. Dywedir nad oes yr un aelod o'r brawdoliaethau mynachol yn siarad fel bod unigol. "Ni" ac "ein" yw pob peth. Beth wnawn ni heddyw, pa le mae ein hesgidiau, etc. Y mae hyn yn ddiffygiol yn ein plith ni. Dyliem obeithio hefyd am eangiad dy- ddordeb mewn pethau ysprydol ar ran ein haelodau. Truenus ydyw ein cyflwr yn hyn o beth. Ymffrostir braidd mewn an- wybodaeth ac anystyriaeth o lenyddiaeth gysegredig. Byddai yn dramgwydd gofyn i fechgyn a, merched mewn cylchoedd ham- ddenol i ddarllen y Bibl; sefyll arholiadau esgobaethol, a chymeryd rhan flaenllaw mewn gwaith Eglwysig. Y mae eithriadau neillduol a bendigedig. A gawn ni obeithio y bydd i'r mudiad hwn ychwan- egu at yr enghreifftiau hyn? I symio i fyny y cyfan, gan fod y GenhaHaeth yn cael achosi gan cyflwr isel, ac felly gwanobeithiol, bvdcled iddi fod yn effeith- iol i ddyrchafu ein cyflwr, ac fel canlyniad naturiol i gryfhau ein gobaith hefyd. Gobaith gallu myned ymlaen o nerth i nerth; a, gobaith y gwnawn gofio y peaygT parod a dichellgar fod cyflwr hunan- foddlon yn golygu cyflwr hunan-ddi- nystriol.
Rhoddi a Derbyn. -
Rhoddi a Derbyn. LLANGYBI v. LLANBEDR. Gellir priodoli llawer o'r teimladau da a fodolant rhwng tref a rhanau gwledig i'r gwahanol farnau a roddir drwy gyf- rwng y golofn hon. Yr wythnoe hon, mae gwraig o Llangybi yn datgan ei burn, a chanfydda y darllenydd pa mor drwyadl y Icefnogir opiniynau Llanbedr. Mae y teimlad hwn o roddi a derbyn yn gymer- adwy gan bawb. Ar Ionawr 6ed, 1913, dywedodd Mrs. R. Davies, o Church Cottage, gerllaw yr Blglwys a'r Pare, Deny Ormond, Llan- gybi, gter [Ldlanbedr:—"Yn ami yr wyf wedi bod yn dioddef oddiwrth boenau llym ac ymaaethol yn fy nghefn ar ol bod yn gweithio, ac yn temilo yu annaturiol o flinedig. Aflonyddid fi yn fawr gan boen yn y pen a syfrdandod, a chwyddai fy nhraed ar ol sefyll am ychydig. Pwyntiai yr holl arwyddion i anhwylder yr elw- lenod. "Darfu i Doan's backache kidney pills wneyd llawer o ddaioni i mi. Daeth fy nghefn yn llawer eemwythach, ac ni theimlwn mor flinedig ar ol cyflawni di- wrnod o waith. Yr wyf yn cymeradwyo y poleni i'r oil o'm cyfeillion. "(Arwyddwyd) h. DAVIES." Ar Cbwefror lleg, 1916 dros bedair blynedd yn ddiweddarach-dywedodd Mrs. Davies Darfu i beleni Doan fy ngwella dros dair blynedd yn 01, a da genyf ddweyd fy mod wedi bod yn iach byth oddiar hyny. Maent yn ardderchog." Mae gwendid yr elwlenod yn achosi poenau llym pan yn plygti neu godi, toim- ladaA pruddglwyfus, gwendid nerfawl, ymosodiadau o syfrdandod, cur yn y I pen, anhwylderau dyfrol, chwyddiadau y fferau a'r aelodau, a'r poenau dirgelaidd hyny sydd yn ami yn cael eu camgymeryd am anhwylderau merOhed. Mae poen yn y oefn, chwyddiadau y dropsi, marweidd- dra, gwaddod neu unrhyw afreoleidd-dra ynglyn a'r yswigen yn achooion digonol i ameu afiechyd yr elwlenod. Yna dechreuwch ddefnyddio Doan's backache kidney pills, y rhai ydynt wedi eu darparu yn unig ar gyfer yr yswigen a'r elwlenod, ac wedi dwyn gwellhad a nerth i filoedd. Pris 2s 9c y blychaid, ar werth gan bob masnachwr, neu i'w cael oddiwrth Foster McClellan Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am backache and kidney pills,—gofynwch ya bend-ant- am Doan's backache kidney pillsr yr un fath rai ag a gafodd Mrs. Davies. --+-
[No title]
Gellir cael copiau o Erthyel Canon E. T. Davies (Dyfrig) mewn pamphledyn oSwydd- fa'r LLAN am v prisiau canlynol 25, 1/3; 50, 100, 3/6.