Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLANDDEINIOLEN.

News
Cite
Share

LLANDDEINIOLEN. A* oil y gwasanaeth urddasol a gynhal- iwyd yn Llanddoiniolen er gosod yParch. T. Morgan-Jones, y rheithor neiwydd mown meddiant o'i fywoliaeth, yr hwn ymddangosodd yn y LLAN, mae gwaith da yn cael ei gario ymlaen gan y rheithor a'r Parch. Wynne Griffith, cur ad. Adeg ei oaodiad mewn swydd, daeth lluaws o'i gydnabod o Gaernarfon, lie y cyflawnodd waith godidog, i'r gwasanaeth, yr hyn brofai pa mor barchus ydoodB. ganddynt. Bu y Parch. T. A. Morgan-Jones am flynyddoedd yn gwasanaethu fel curad yn Llandudno ac am bum' mlynedd a haner yn Nghaernarfon, lie yr enillodd barch ao anrhydedd am y dull! effeithiol y cyflawn- odd ei ddyledswyddau, a lie y bydd ad- gofion hyfryd am dano am amser maith i ddyfod. Cyflawnodd wrhydri yn Nghaer- narfon, ac nid oedd ball ar ei ymdrechion. Medda ar ddynoliaeth garedig, ac ar gyn- heddfau dibaid, a gosododd pob gewyn ar waith i ymestyn teyrnas ei Arglwydd. ac i gynorthwyo pawb mewn angen. Bu yn gweithred u fel tryaorydd ac ysgrifenydd Cymdeifchas y Crwydriaid Diarddel, yn ysgrifenydd deoniaeth Arfon, yn un o lywodraethwyr yr ysgolion, caplan cy- northwyol carchardy Caernarfon, a gweithiodd yn galed ynglyn a. chynal gwas- anaethau ar y Sul yn y 'Cottage Hospital,' yn y dref. Cafwyd colled ar ei ol yn Nghaernarfon, ac yn enwedig yn Nghae- athraw, lie y cyflawnodd waith a fydd yn gofadail iddo am amser maith. Dechreuodd wasanaethau mewn cegin gefn un o'r tai yn y rhanbarth hwnw, yr hyn drodd allan mor llwyddianus dan ei ofal fel y pender- fynodd Mr. J. B. Greaves (Arglwydd Raglaw y Sir) a Mrs. Greaves adeiladu eglwys genhadol brydferfch yno. Yn y flwyddyn 1911, cyhoeddodd y gwr parch- edig lyfr hynod ddyddorol, sef "A his- torical sketch of the churches of Carnar- von," gan roddi hanes manwl am bob un o honynt, a theimla pobl Caernarfon yn ddiolchgar iawn iddo am ei waith da. Boed iddo lwyddiant pellach yn Llian- ddeiniolen, gan ei fed yn feddianol ar y cymhwyaderau angenrheidiol, ac wedi cael profiad hir.—Meudwy.

YSTALYFERA.

MOYLGROVE

PORTHMADOG A'R CYLCH.

TREGARON.

Advertising