Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
CYHOEDDIADAU Y CENHADAETH CENEDLAETHOL QWEL TUDALEN 5.
ADOLYGIAD YR WYTHNOS.
ADOLYGIAD YR WYTHNOS. Y FRWYDR FAWR YN FFRAINC. EI HYSTYR A'l CHANLYNIADAU. OLODYDD BECHGYN CYMRU ETO. GWEITHREDOEDD NERTHOL. GWRONWAITH RWSIA YN EWROP AC ASIA. Stori'r Frwydr Fawr yn Ffrainc sy'n efalw am sylw yr wythnos hon Priodol iawn y gallesid gosod "I'w Barhau ar ddiwedd yr ysgrif ddiweddaf, yr hon, a r nesaf, gan gyfrif pob ysgrif yn benod yn stori fawr gyffrous y Rhyfel ofnadwy hwn, a'r penodlau hyny yn ymwneyd gan mwyaf, os nad yn hollol, a'r rhan hono o'r stori fel y'i dadlenir yn Ffrainc. EGLURO R FRWYDR FAWR YN FFRAINC. Mae'r Frwydr Fawr yn Ffrainc wedi bod ar droed bellach er's mis- Mae y mis yna wedi oostio yn ddrud iawn i ni, mewn arian, mewn shels, ac uwchlaw pob dim mew* bywydau. Ni bu mas o mewn cost i'r wliad hon am y pethauhyn er dechreuad y Rhyfel. Naturiol gofyn: "I ba beth y bray golled hon r' Pan fesuirom anwynebedd y tir a enill- wyd genym yn ystod y mis, gwelym maa cy- mharol fychan yw. Mosura o ddwy filltir i bump, ar hyd llmell o wyth milltrr. Hynv yw mae Byddin Prydain heddyw o ddwy 1 bum' milltir yn nes ymlaen ar hyd lHnil wyth milltir o hyd, nag ydoedd fis yn ol. Ar y darn bychan yna oollwyd yn Ltod v mis diweddaf, ddegau o filoedd o L^ydau, gan y Germaniaid i'w gadw, gan y Prydeinwyr i'w enill. Ar yr olwg gyntaf ac o'i fesur yn olax- wynebedd y tir a emllwyd ac a gollwyd, nid oedd y darn tir yn werth y ddegfed ran o'r bywydau a gollwyd yno Ond pan cofio fod! y Germaniaid wedi aberthu mwy er mwyn ei gadw, a ninau wedi aberfchu cymaint, ac yn barod 1 aberthu mwy er mwyn ei enill, gwelir fod gwerth a phwys- igrwydd y darn tir yma yn llawer iawn mwy nag yr ymddengys ar yr olwg gyn ac na efiir ei fesur mown arwynebedd daear yn unig. Ni bu camgymeriad mwy ynfyd erioed nag eiddo'r rhai a ddywedant: "Os cy- nierodd i ni fis 01 amser i enill pedair mill- tir ymlaen, ar linell wyth milltir o hyd, neu ar gyfartaledd filltir bob wythnos ar linell dim ond wyth milltir o hyd, ni welir byth derfyn ar y Rhyfel. Mae ffrynt y Byddinoedd yn agoe i 400 milltir o hyd. Cymer i ni felly 50 wythn«ij, neu flwyddyn Jon i symud ymlaen un filltir ar hyd yr fall linell a phan gofiwn fod dros gan milltir o ffordd genym i yru r Genmmaad ™ ol i Germani. cymer felly gan mlynadd i ni wneuthur hyny.. Ond ceir pobl yn ddigon ffo J ^ymu felly, heb gofio fod enill miUtir heddyw yn golygu enill deg, ugam, neu gan mill- tir yfory. Nid yw amddiffynfeydd y gelyn bob cam o'r ffordd rhwng yr on Somme a Germani yn gyffelyb i r y ydynt yn y man lie yr ydym ni yn awr^y ymosod. Cofied y darllenydd yr eglur a a roddwyd yn y LLAN bythefnoa yn ol ar ystyr y gair "llinell" amddiffynol mewn rhyfel. Yr ydym yn awr yn tori drwy y drydedd llinell amddiffynol ar lanau y Somme. pan dorir trwy hon yna— 1. Bydd y llinellau oill fod eto o'r tu ol i'r drydedd linell yn llawer gwan- nach na hI; a 2 Er niai dim ond bwlch wyth milltir ar ei hyd a dorir genym yn y llinell 400 milltir o hyd, eto wrth fyned i mewn drwy y bwlch hwn, galluogir ni i lyned o'r tu ol i Fyddin y gelyn ar y dde a'r aswy law, a'i gymeryd yn ei wrthgefn. I ragochelyd hyn y tebyg- olrwydd yw y ceisia symud ei holl fyddin yn 01\ o bob tu i'r bwlch, am ugeiniau o filltiroedd o ffrynt, gan encilio ohono i safle newydd ymhell tu ol lie y tybia y gall eto sefyll brwydr a ni. NATUR Y TIR LLE Y BRWYDRIR. Dywedwyd mewn ysgrif flaenorol mai mynydd-dir bryniog yw y tir yr ydym ni er's mis wedi bod yn ceisio ei enill. Ac ar lechweddau a chopau y bryniau hyn oeir nifer o bentreifi bychain. Y pwysioaf o'r rhai hyn ydynt Oontalmaison, Gruelle- mont, Longneval, Pozieres, Ovillers, a Thiepval. Yr ydym bellach wedi enill a meddianu yr oil o'r rhai hyn oddigerth Guillemont a Thiepval;, y naill ar ben deheuol y Ilinell a'r Hall ar y pen gog- leddol 1 Os cymerwn linell y pentrefi hyn cawn fod y llinell yn rhedeg yn ymarferol ar hyd trum uchaf, y mynydd-dir; cyn hyny y gelyn oedd o hyd ar y tir uchaf, a ninnau yn gorfod dringo tuag ato yngwyneb ei holl allu ef, ei gyflegrau, a'i 'machine- guns,' ei rwydwaith o wifrau pigog, a phob dyfais amddiffynol arall o'i eiddo. A phan ymosodiad yntau arnom ni, rhuthro i ljawr arnom ni a wnai o'r tir uchel. Meddylied y darllenydd am ddwy Fyddin, y naill ar ben y mynydd a'r llall ar ei odreu, yn ymladd a'u gilydd, a, gwel felly y manteision oedd gan y Germaniaid yn ymarferol bob cam o'r ffordd a deithiwyd genym o fewn y mis diweddaf. Unwaith y gyrir y gelyn yn ol dros gefn y mynydd, nyni fydd yn sefyll ar y tir uchel ac yntau odditanom. Pan fo YIl ymosod bydd yn rhaid iddo ymosod tuag i fyny-fel y buom ni ar hyd y mis diwedd- af. a phan y byddwn ni yn ymosod, myned tuag i lawr, neu ar dir gwastad, a fyddwn —fel y bu efe ar hyd y mis diweddaf. Gyda hyny, byddwn ni, wedi meddianu yr uoheldir hwn ar ei hyd, yn gallu llyw- odraethu a'n cyflegrau mawrion yno eang- der mawr o wlad y tu ol i linellau pre- senol y gelyn, yn ei gwneyd yn anhawdd, os nad yn anmhoeibl iddo ef ddwyn ad- gyfnerthion a chyfarpar i'w linellau yno. Dyna rai o resymau'r gelyn dros ymladd mor gyndyn dros gadw meddiant o'r uchel- dir hwn a'i bentrefi, a rhai o>n rhesymau ninau dros wneyd cymaint ymdrech ac aberth i'w enill. Y RHEILFFYRDD A'R TREFI. Ond mae eto resymau pelilach a phwys- ioach, ganddo ef a ninau. Yr ochr draw oddiwrthym saif drwy dref llai, Combles, haner y ffordd rhyngddynt. Rhyw ddeu- ddeng milltir sydd rhwng Bapaume a Peronne, a rheilffordd yn cysylltu y ddwy olaf a'u gilydd ac a rheilffyrdd pwysig eraill y tu ol, ac yna ymlaen i Brussels, a Liege, a Germani. 0 Peronne rhed y rheilffordd tua'r de drwy ganol Ffrainc, i Verdun, ac yna i Metz a Luxenburg, a Germani. Saif Combles hanner y ffordd rhwng Bapaume a Peronne, a, rhyw ddwy filltir oddiVrth y ffordd fawr sy'n cysylltu a'r ddwy dref, cyferfydd nifer 01 ffyrdd gwledig yn Combles, a nifer o ffyrdd cyffelyb dra- chefn yn Bapaume a Peronne. Rhed yr oil o'r ffyrdd hyn drwy y gwahanol ben- trefi a enillwyd genym ni, ceir ffyrdd da yn arwain i'r naill a'r llall o'r tair tref a nodwyd. Gwelir felly y gall meddiant o'r pen- trefi hyn hyrwyddo yn fawr, os nad ydyw yn golygu enill y trefi hefyd. Mwy na hyn eto, cyfansodda y tair tref fath o faen clo i fwa mawr Byddinoedd Germani sy'n ymestyn o lannau'r Sianel hyd gyffmiau yr Yswisdir. Fel y mae tynu y maen, clo, ymaith o bont (neu o fwa arall mewn adeilad megisi uwchben ffenestr neu ddrws) yn peryglu yr boll bont, felly hefyd bydd meddiant o'r tair tref a nod- wyd yn peryglu bodoliaeth holl Fyddin dermani ar ei hyd. RHAGOCHELIADAU Y GELYN. Gan sylweddoli hyn oil. yr oedd y gelyn wedi cymeryd rhagocheliadau mawrion o fewn y deunaw mis diweddaf i ddiogelu y rhan hon o'i linellau. Eglurwyd mewn ysgrif flaenorol fod pob ty ymhob pentref wedi cael ei wneyd yn fath o gastell cadarn. Yr olaf o'r pentrefi hyn i gael ei enill oedd Pozieree, a enillwyd yr wythnos hon. Pentref hir, gwasgaredig ydyw, o bob tu i'r brif-ffordd sy'n arwain o Albert dros y mynydd-dir i Bapaume, a ohroeo- ffyrdd yn arwain drachefn i'r petntrefi eraill. Daliodd y gelyn afael cyndyn iawn yn Pozierea, ac o gam i gam, o dy i dy yr enillwyd y lie drwy aberth mawr. Eglur- wyd dirgelwch cadetrnid y lie yn fuan ar ol dechreu enill rhai o'r tai. Cafwyd fod seleri mawrion wedi cael ei cloddio gan y Germaniaid o dan y tai, a'r seleri hyn wedi cael eu cysylltu y naill a'r Hall yn gadwen hir o dan wyneb y ddaear o'r naill ben i'r pentref i'r Ilall, Yr oedd trawstiau haiarn on wbdi cael) eu gtosod chben y I seleri hyn, a 'ceiling' o ooncrete cryf ar hyny drachefn. Sylwer pa beth a olygai. I'r Germaniaid golygai:— I Y medrent lechu yn y seleri ar ffordd dan-ddaearol mewn cliogelwch pan oedd y tai uwchben yn cael eu malurio gan ein shels ni. 2. Gallent gadw 'machine-guns' yn y seleri hyn, a'u oodi i'r wyneb bryd y mynent. 3. Gallent ar ol cael eu gyru allan o un ty encilio i'r nesaf bryd y mynont ar hyd y fynedfa dan-ddaearol, gan gau y fynedfa o'u hoi fel na allem ni eu dilyn. Golygai i ni pan yn ymosod:— 1. Fod yn rhaid i ni gymcryd y tai bob yn un ac un, gan wynebu y gelyn cuddiedig ynddynt- a'i 'machine-uns.' 2. Fod yn rhaid clirio pob seler ymhob ty cyn symud ymlaen, canys pe amgen saethid a'r 'machine-guns' o'r tu ol i ni gan y gelyn cuddiedig. Dyna ryw fath o syniad am ragochel- iadau y gclyn, a'r anhawsterau dirfawr, ymron anorchfygol, ar ei ffordd i enill y pentref. Nid rhyfedd fod cynifer o fyw- ydau gwerthfawr wedi cael eu colli yn yr ymdrech. Ond gwelir hefyd gymaint pwys oedd y gelyn yn ei osod ar gadw meddiant o'r pentrefi bychain hyn. Mor werthfawr oeddent iddo, a bod yn wir diogewlch ei holl linell y tu ol i'r pentrefi—a'r llinell hono yn cynwys y tair tref a nodwyd uchod, oil yn ymddibynu ar ei allu ef i gadw meddiant o'r pentrefi hyn. Ond mae wedi eu colfli jail oddigerth Theipval yn y pen gogleddol a Guillemont yn y pen dehouol. Wedi enill o honom Pozieres mae enill Thiopval yn dod yn ddichonadwy, gan y medrir bellach fynd o amgylch y pentref i ymosod arno o bob tu. 0 dan yr amgylchiadau eithriadol- hyn yr oedd enill y pentrefi bychain hyn yn fwy o orchestwaith nag a fuasai enill ami i dref gaerog. Gwelir efiaith yr enill hwn yn fuan, a'r canlyniad fydd newid holl agwedd y Rhyfel yn Ffrainc. Gwelir eisoes arwyddion fod y gelyn yn ceisio ac yn trefnu i symud ei holl Fyddinoedd yn ol ar hyd ei holl linell. GWEITHREDOEDD NERTHOL. Rhwydd deall bellach beth a olygai ym- osod ar leoedd mor gadarn ag ydoedd y pentrefi hyn, a'r fath ddewrder a phender- fynolrwydd oedd raid eu cael yn y neb a fynai geisio eu henill. Yn wir, credai'r Germaniaid eu hunain fod y lleoedd hyn yn anorchfygol-a mawr yw eu syndod, a'u siom, ie, a'u dychryn, fod y Prydein- wyr wedi gallu gwneuthur yr hyn a dyb- ient hwy oedd yn anmhosibl. Ac mewn canlyniad daeth arnynt ofn a dychryn mawr. Fel enghraifft o'r gwaith a gyflawnir gan ein milwyr hyd yn oed pan wedi eu clwyfo gellir nodi a ganlyn a gymerodd Ie. yr wythnos ddiweddaf. Eglurwyd eisoes fod y frwydr yn ami yn symud yn ol ac ymlaen, fel tonau'r m6r ar y llanw, ton fawr yn enill darn o'r traeth ac yna yn cilio yn ol nes y daw ton arall i gario'r teid yn uwch i'r Ian. Digwyddodd felly fod haner dwsin o filwyr Prydain wedi cael eu gadael ar ol pan giliodd ton ein hymosodiad. Yr oeddent wedi myned ymhell ymlaen, ac wedi esgeuluso cilio yn ol gyda'r lleill. Yr oedd pedwar 'machine-gun' ganddynt. Gwelsant fataliwn gref o'r gelyn yn rhuthro tuag atynt-a gwelsant fod ein gwyr ni wedi encilio. Ond penderfynasant sefyll eu tir. Taniasant ar y gelyn a'r 'machine-guns,' ao er mai dim ond baner dwsin o ddynion oeddent, a bataliwn gyfan i'w herbyn, mor angeuol oedd eu saethu fel y gorfu i'r gelyn gilio yn ol. Gwnaed rhuthr ar ol rhuthr arnynt, a lladdwyd pedwar o'r chwech dewrddyn, chlwyfwyd y ddau arall yn drwm. Ond daliodd y ddau i danio yr unig 'machine-gun' fedrent bellach ei drafod. Daliasant y gelyn draw felly am oriau lawer nes i'r don fawr oymosodiad ddychwelyd a gyru'r gelyn ar ffo. Ac nid yw hon ond un engraifft o ganoedd o'r gweithredoedd nerfchol a gyflawnwyd gan ein bechgyn. GWRONWAITH RWSIA ETO. Deal y Rwsaaid hefyd i gyflawni gor- chestion mawrion yn Ewrop ac yn Asia, gan osod mwy nag un o fyddinoedd y gelyn mewn enbydrwydd. Parotoi i gilio yn ol mae'r Germaniaid o Rwsia fel ag y maent o Ffraino, & thybir y bydd eu colledion yn fawr iawn wrth wneuthur hyny. Mae adranaui bychain o Wyr Meiroh Rwsia eisoes wedi croesi Mynyddoedd Car- pathia i Hungari er dychryn mawr i dri- golion y wlad yno. Yn Asia Leiaf enillwyd tref Erzgingan yn Armenia gan y Rwsiaid. Golyga hyn yn ymaaferol feddiant o'r oil o Armenia. Buan iawn bellacii gellir diagwyl i'r Rws- iaid dori y rheilffordd o Gaercystenyn i Bagdad, yr hyn a fydd yn ergyd marwol i'r Twro ac yn gosod ei fyddinoedd yn Ewrop ac Asia mewn enbydrwydd mawr. Ni bu rhagolygon Cwrs y Rhyfel yn fwy addawol o'r cychwyn nag ydynt yn awr i ni. Ond bydd brwydro ofnadwy eto yn yr wythnosau dyfodol. DYDD GWKNBR, Gorph. lB. YMLADD FFYRNIG AR Y SOMME. Newyddion o gyffiniau y Somme a fyneg- ant nad yw y byddinoedd Prydeinig yn can- iatau gorphwysdra i'r gelyn. Ar ol meddianu Pozieres, bu ein milwyr yn egniol ar hyd y nos gyda'u magnelau, a buont yn ymladd Jaw- yn-llaw amryw weithiau. Argwyda y Ger- maniaid pan welant fidogau, gan y gwyddant y oanlyniadau. Bu ymladd caled i'r gogiedd o Pozieres, lie y llwyddwyd i gymeryd dau can Hath o ffosydd y gelyn, y rhai oeddynt hyd yma wedi gwrthsefyll ein holl ymosodiad- au. Ar y dde o amgylch ooedwig Delyille a Longueval darfu i'n milwyr wneyd llawer o gynydd, ond nid yw canlyniadau y brwydro yn y rhanbarth hwn yn wybyddus eto. LLWYDDIANT Y RWSIAID. Mae y Cadfridog Sakbaroff yn gweithredu i'r gogiedd o Brody, yn ymdrecbu yn galed i feddianu rhydiau yr afon Sloniovka, a bydd yn sicr o lwyddo. Dlsgwyllr yr una efe a'l luoedd i'r Rwsiaid eraill ydynt yn ymdaith ar Lemberg. Dengys adroddiadau diweddar fod cyfanrif y carcharorion a gymerwyd gan J Rwsiaid yn nghyffiniau Brody yn 6,250, dwy fil yn fwy na'r rhif a gofnodwyd yn flaenorol. DWYREINBARTH AFFRICA. Llwyddodd y Cad fridog Northey i orchfygn prif adran y fyddin Germanaidd, gan eu gor- fodi i encilio o'u safleoedd. Ymdreohodd y Germaniaid wrthwynebu yr ymosodiad hwn, ond methiant fu eu hymgais, a ffoisant yn nghyfeiriad Iringa, gan adael magnel a pheir. fanaueaethu ar ol. Cyn y frwydr hon, dal- iwyd amryw Germaniaid Ewropeaidd, ac yn eu plith Dr. Stier, cyn-lywodraethwr Neu Langenburg, yr hwn a fu farw yn ddilynol mewn canlyniad i'r clwyfau a dderbyniodd. RHfNGYLL DEWR. Anrhydeddwyd y Rhingyll Epton, o'r West Yorkshires, am ei wrhydri yn cymeryd 24 o Germaniaid yn garcharorion, deuddeg o ba rai a laddwyd yn ddilynol, a dychwelodd gyda'r deuddeg ereill i'r gwersyll Prydeinig.