Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
[Nid yw y Oolygydd yn gyfrifol am syntadau y Golmbwyrl 7 eimlwn yn dra diolchgar Cn gokebwyr am en hymdrafod ond erfynitcn arnynt fod yn Jyr, fel na raid na thaXfyru na gadael allan yn eu Uythyrau.
GWASANAETHAU BLYNYDDOL LLANRHYSTYD.
GWASANAETHAU BLYNYDDOL LLANRHYSTYD. At Olygydd 'Y LLAN A'. DTWTBOOABTH.' Syr,—A fydd rhywun mor garedig a'm hysbysu a yw yn arferiad gweinyddu y Cymun Bendigaid yn y gwasanaethau blynyddol yn Llanrhystyd ? Os na wneir, paham ?—Yr eiddoch, &c., HEN WB.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. MARWOLA.TH.- Wadi tair blynedd o wael- edd, bu farw Mary, merch fach i Mr. a Mrs. Jones, Sychnant Cymerodd hyny le Gorph. Iteg, pan ond 15 mlwydd a hanei oed. Yn ystod yr holl amser maith dioddefodd yn dawel, gan deimlo dyddordeb neillduol hefyd yn yr Eglwy& a'i gwasanaeth yn yatod et gwaeledd I gyd. Prydnawn Sul y Sulgwyn, rhoddodd ei phresenoldeb yn yr ysgol o ba un yr oedd yn aelod ffyddlawn lawn, ao yn aelod o g6r yr Eglwys Gwelodd Duw yn dda, yn Ei drefn a'i amser El hun, ei ga!w o'i chystudd allan o'r byd peohadurus hwn, ynghanol haf heulog, pan mae s*n pladuriau yn tori lawr i'w gywain I ysguborlau, hlthau megis glaawelltyn yn dechreu datblygu o honi el galluoedd yn ei gwanwyn meddyliol, yn gorfod rhoddi fyny'r yspryd i'r Hwn a'i rhoes. Dydd Mawrth, y 18fed, hebryngwyd el gweddillion marwol, a rhoddwyd hwy i orphwya yn mynwent Llanlleehid (angladd angyhoedd). Gwasanaethwyd yn yr am- gylchiad gan y Parch. D. J. Davies, curad. Gadawa rieni, tri brawd, a phedair chwaer I alaru ar el boJ. Cydymdelmlir yn fawr a hwynt oil yn eu profedigaeth, a bydded iddynt oil gael digon o ras a nerth i lefaru yn ngeiriau yr hen batriarch, Duw a roddodd a Duw a gymerodd ysaaith.' Hida yr^ dawel, Mary filCb H. R 11.
DEONIAETH ARFON.
DEONIAETH ARFON. CAERNARFON. Y Genhadaeth Genedlaethol. Darn o'r .111 agazine.' Y n rhifyn Ebrill o'r Treasury yr oedd yna adroddiad o uu fu yn ymddiddan & Dr. Wakefield, Esgob Birmingham, dyn o ddoethineb a phrofiad, a phell-weledydd, gyda dirnadaetb eang. Yr oedd ef yn meddwl ar derfyn y rhyfel pan ddeuai y bechgyn yn of, neu rai o honynt o leiaf, fod mwy o berygl i'r wlad fod ddim yn barod i dderbyn ein milwyr mewn modd ysprydol, yn hytrach na'r milwyr fod ddim yn tueddu at grefydd. Y mae y milwyr wedi gweled Eglwys Ffrainc yn el goreu. Wedi gweled yn y wlad hono agwedd grefyddol y cartrefi a darganfod mai prif agwedd eu gwasanaetbau oedd gwir Aberth. Fe fyddant wedi colli bias arffurfiau y Foreuol a'r Brydnawnol Weddi a phregethu. Yn ddiamheuol fe fydd yn ofynol ail drefnu y ffurfiau sydd genym yn awr. Y mae y gwahanol athrawiaethau ynglyn a'r' Cymun Sanctaidd wedi diflanu, ac y mae y rhai mwyaf penboeth dros eu gwahanol athraw- iaethau yn arferyd geiriau mawrion i osod allan eu gwahanol athrawiaethau pan mewn gwirionedd y maent yn hollol yr un fath. Y mae yr erthygl hou yn ddyddorol dros ben yr.glyn 4'r Genhadaeth Genedlaethol. A fyddwn ni yn barod ar derfyn y rhyfel ? neu a ydym ni yn awr yn sylweddoli beth ydyw y rhyfel t Y mae pob un sydd wedi cael y fraint o ymweled i'r ysbyttai mewn safle i farnu beth ydyw agwedd ein milwyr clwyf- edig. Dywedir fod y rhai sydd wedi bod ar faes y gwaed yn edrych yn hollol wahanol ar fywyd yn awr, hyny yw, eu bod mewn agwedd mwy difrifol, ac os na welant drigolion y wlad yma wedi cyfnewid yn eu harferiadau fe fydd yn anmhosibl dal y glewion hyn i fyny. Ar gyfer hyn yr hyrwyddwyd y Genhadaeth Genedlaethol ymlaen. Dylem un ao oil wnoyd ein goreu i wrthweithio y drwg ymha le bynag y gwelir ef. Trwy weddl ac ymar- weddiad teilwng y gellir gwneyd hyn yn hyt- raoh na thrwy bregethu, ac fe ddylai pawb wneyd el ran. Rhoddwyd atebiad ardderch- og gan fechgyn ein gwlad i alwad y deyrnas ynglyn a'r rhyfel, felly fe fydd yn ofynol i ni gofio am weithredoedd teilwng y gwroniaid hyn. Bydd y clwyfedigion yn ein plith, ac fe ddylid gofalu am danynt yn y flfordd oreu. Fe ddylid chwilio am waith i'r rhai sydd wedi gadael eu gwahanol safleoedd i fyned allan i ymladd drosom ni, ac yn bendifaddeu fe ddylid darparu angenrheidiau ysprydol ar gyfer y rhai y mae Duw wedi eu hadgoffa wyneb yn wyneb fod ganddynt eneidiau an- farwol. Ar bob cyfrif ni ddylem beidio cyd- ymdelmlo i'n milwyr. Nid ydyw yr uchod yn gyfieithiad llythyrenol, ond credwyf fy mod wedi llwyddo i oaod allan feddwl Golyg- ydd y 'Magazine.' LLAN FAIR-IS-QAER. Arholi yr YSfJol Ddyddiol.-Dydd Gwener, bu y Parch. J. LI. Richards, Dolwyddelan, yn arhoH yr ysgol mewn gwybodaeth Ysgryth yrot. Deallwn mai y Parch. J. C. Jones, Llangelynin, oedd i fod, ond ei fod wedi methu dod, ac yna anfonodd Mr. Richards yn ei le. Yr oedd yn ymddangos yn amlwg fod y plant wedi cael eu paratoi yn fanwl ar gyfer yr ar- holiad, canys yr oeddynt yn ateb y cwestiyn- au yn rhagorol. Yr ydym ni yn y wlad yma yn naturiol felly yn edrych i lawr ar yr Ell- myniaid, eto rhaid eofio eu bod ar y blaen I ni gyda golwg ar roddi addysg Ysgrythyrol i'r plant, canys gwyddys fod addysg Ysgrythyrol yw orfodoi yn Germani yn yr holl Yagolion Eifenol ac Ysgolion Canolradd. SARON. Cael ei Ladd ar Faes y Gtmed.-Y mae yn wir ddrwg genyf gofnodi marwolaeth mab hyaaf Mr. W. Ellis Jones, Saron, yr hyn a gymerodd le yn Ffrainc tra yn amddiffyn ei wlad. Deallwn fod dau fab-yn-nghyfraith Mr. Ellis Jones gyda'r Fyddin. PINRHOSQARNKDD. Wedi ei Glwyfo.—Y mae yn ddrwg genym gofnodi fod Lieut. A. S. Edwards, Royal Welsh Fusiliers, all fab Mr. a Mrs. J. S. Edwards, Achnashean, wedi cael et glwyfo yn Ffrainc. Y mae yn awr yn gorwedd yn Camberwell Hospital, Llundaln. Deallwn ei fod yn gwella o'i glwyfau. Cynhauaf GUlair.- Y mae yr hin yn ffafr- iol iawn, y dyddiau yma, i gasglu y gwair i ddiddosrwydd. Y mae yr amaethwyr wrthi hi yn brysur iawn yn awr. Gwelir ambell I ferch yn cynorthwyo. Y Genhadaeth. Rhanwyd pamphledi y Parch. D. Jones, Abererch, ar y 'Genhad- aeth' yn y mwyafrif o dal Kglwyswyr. Yr ydys yn hyderu y bydd i bawb eu darllen yn ofalus, a cheisio sylweddoli natur y Genhad- aeth. Penrhosgaruedd. H. JONM.
" Morfa."
Morfa." CONFFRENS CHELTENHAM. Dyma rai o'r materion yr oedd pawb yn unfryd unfarn yn eu cylch ar ol ymdriniaeth deg o honynt 1. Croesaw i'r Genhadaeth Genedl- aethol fel cyfle dan fendith Duw i arwain y genedl i safon uwch o fywyd ysprydol, lie y dylid gwasgu adref y pwys u droedigaeth personol a hawliau Duw ar yr enaid unigol I sicrhau hyn, dylid cael darlleniad mwy manwl, cyson, a gofalus o Air Duw sylweddoliad mwy o allu gweddi, a phrofiad dyfnach o ddylanwad yr Ysbryd Olâo 2. Pwyslais neillduol o gyfan- rwydd a therfynolrwydd lawn ein Harglwydd lesu Grist ar y Groes, yr Hwn a wnaeth yno (trwy Ei offrymiad Ei Huu yn offrytnedig unwaith) gyflawn, berflfaith, a digonol aberth, offrwm, ac iawn dros bechodau'r holl fyd.' Hefyd yn datgan ein cred yn ddi-ysgog yn athrawiaeth yr Erthyglau 28 a 31, ac nad oes yn y Cymun Bendigaid aberth dros becbodau, na cbwaith bresenoldeb Ileol a gwrthrychol o Grist yn yr elfenau cysegredig, ond bod 'Corff Crist yn cael ei roddi, a'i dderbyn, a'i fwytta, yn y Swpper, yn unig mewn modd nefol ac ysprydol. A'r modd trwy yr hwn y derbynir ac y bwytteir Corff yn y Swpper yw Ffydd. 3. Gwrthwynebiad pendant, dan yr amgylchiadau presenol, i unrhyw gyfnewidiad yn Ngwasanaeth y (Jymun. 4. Llawenhad mewn unrhyw foddion cyfreithlon trwy ba rai y dygir yr holl gorph o gredinwyr i arferiad mwy lIawn o foddion gras trwy gyfranu o'r Cymun Bendigaid, ond nid yw hyny yn debyg o'i ddwyn oddiamgylch dan yr eagus o wneyd y Cymun Bendigaid yn brif-wasanaeth ar Ddydd yr Arglwydd.' Byddai hyny yn tueddu i osod Gwasanaeth y Cymun ar yr un safle a'r Mass.' Tystiolaeth. swyddogion milwrol ac ofleiriaid wedi gweinyddu gyda'r milwyr yw mai augen y milwyr ar ol y rhyfel fydd gwasanaetbau mwy syml a chynulleidfaol lie y gallant ymuno yn wresog. 5. Croesaw i unrhyw welliantau yn y Llyfr Gweddi a fyddant yn gwneyd cynwysiad y Llyfr yn fwy deaUadwy i'r bobl. 6. Edrychwn ymlaen at yr amser pan y daw ein brodyr Ym- neillduol a ninau yn nes at ein gilydd, ond rhaid addef fod eu hymraniad a'u hymneillduad o n Heglwys yn golygu anhawsderau difrifol ac yn gofyn yr ystyriaeth mwyaf gofalus mewn unrhyw symudiad tuag at ad-undeb. FFRAINC. Tynwn ein betiau iddi, bawb o honom, am ei gwrhydri digymbar Mae'r son am ei dewrder wedi myn'd drwy'r holl fyd. Ynghanol swn magnelall Verdun, clywir adlais seiniau buddug- oliaeth. Ac ni a edrychwn ymhen yn ymddiried- gar at gryfhad o'r adlais hwnw, megis ymchwydd mor yn ymgodi. 08 bu cenedl erioed yn haeddu enill, Ffrainc yw hono. Mae hi wedi ymladd drwy'r cyfan, a chlwyf dwfn yn ei hystlys wedi ymladd a dioddef gyda chysondeb di-ildio a'r fath wrthwynebiad ffrynig nas gall byd yn oed gwaed a haiarn Germani wrthsefyll yr ymosodiad. Fel ei Chynghreiriaid, ymosodwyd arni yn sydyn a hithati yn anmharod meddyliodd ei gelyn marwol hi y byddai iddo ei choncro gyda chy- flymdra melltenig; ac eto, pan oedd lluoedd y gelyn o fewn cyraedd i Paris deg-dinas gwar- eiddiant, trowyd hwynt yn eu holau Yr ydym ninau yn y wlad hon yn falch o'r hyn wnaeth ein milwyr, y British Expeditionary Force, yn yr awr gyfyng hono. Bu milwyr Prydaiu yn foddion i gynorthwyo Ffrainc i achub ei bun, a thrwy hyny ddiogelu anrbydedd Lloegr. 'Does neb ond milwyr Ffrainc a Lloegr wyddant am brofiad y dyddiau enbyd byny. Fe a'r milwr Ffrancaeg i wyneb angeu yn eofn, a dim ond un meddwl yn ei galon, ac enw hwnw, Ffrainc. Efe o bob dyn, yr hwn sydd yn cymeryd y fath hyfrydwch mewn bywyd, "'yma'r dyn a ollwng ei afael o'r cyfan mewn moment, ac a a yn ei ffaen yn dawel i safnau uffern. Gwyddai pobl Ffrainc beth oedd natur y bwystfil cis yn llechu draws y terfyn gwyddent fod, ei drachwant yn or-wancus fod ei greulondeb yn ddidrugaredd a bod yn rhaid i Ffrainc naill ai ei ladd neu gael ei lladd. Am hyny, rhyfel pobl Ffrainc oedd hon, ac ymarllwysodd Ffrainc ei dynoliaeth i'r frwydr. Ac am yr oedranu8, y cloffion, y gwragedd, a'r plant, aeth pob un o honynt at eu gorchwyl i gynorthwyo eu gwlad a'r fyddin, gan weithio hwyr a bore, Sul, gwyl, a gwaith, heb feddwl aros na bepian. Maent wrthi heddy w 3,'u holl egni ymhob man, pobl yn ymladd am du bywyd, y cerbydresi yn dychwelyd yn llawnion o glwyfedigion, y pryder yn ofnadwy, &!r I straen yn dyfod yn drymach bob dydd. Ond, yn y cyfamser, mae yspryd y genedl wedi dyfod i'w netifeddiaetb, yr un modd Byddin fxrainc, yr hon sydd well na gore'r gelyn. Mae milwr Germani yn ddewr, yn gyndyn, ac wedi ei ddisgyblu yn Ilym, ond nid yw cystal milwr a'r I Frenchman,' ac ni fydd 'chwaith byth. Mae yapryd Ffrainc yn anorchfygadwy. Edryched Germani bellach tuag adref, a gwybydded fod ei thynged yn agoshau. Anhawdd iawn i ni yma, yn ein hynys, a'r mor o'n hamgylch, a'r Llynges fuddugoliaethus i'n hamddifiyn, anhawdd iawn i ni wybod y profiad chwerw o orfod dioddef gelyn ar ein tir ein hunain. Bydded i'n cydymdeim- lad at Ffrainc fod felly yn wirioneddol a diragrith. Nid oes air o achwyn yn Ffrainc. Mae hi yn dioddef ac yn gwaedu yn drwm yn ddigon dis- taw, ac nid ywr diwedd etc. Em cred yw y daw Ffrainc allan yn fuddugoliaethua, ac y mae hi eisoes wedi enill anrhydedd ac enwogrwydd mwy parhaol na phres a marmor, ac a fydd yn eti- feddiaeth anfarwol i'r cenedlaethau a ddeuant i mewn i'r etifeddiaeth o Ffrainc newydd. DAL ATI YN BBFTDLOG. Rhai garw ywlr Germaniaid am fostio, gymaint felly fel y maent wedi llwyddo fwy nag unwaith i gael y gweddill o'r byd i feddwl yr un peth a hwy. Cymerwn eneraifft, sef cwestiwn y 'blockade-' a chwestiwn y carcharonon. Kr dechreu'r rhyfel mae Germani wedi treio ei goreu i newynu Lloegr. Ar y cychwyn, wele ni yn danfon allan 4 fast cruisers' i suddo ein Ilongau bwvd yna, ar ol i ni ddal y I cruisers' yma i gyd, dyma hi yn rho'i y I submarines' ar waith, ac oniv&i am ein Llynges a'n morwyr, buasai wedi Ilwyddo, fel na chawsai ein llongau yn cludo bwyd i'r wlad yma gyraedd pen eii-taith. Nid oes ddadl am y ftaith y buasai, pe medrai, wedi ein llwgu ni, yn ddyn, dynes, a phlentyn, ac eto i gyd mae y Germaniaid wrthi hi eu goreu yn treio cael y byd i gredu mai NI sydd wedi treio gi llwgu hI, ac oherwydd hyny mae hi yn hawlio llwgu ein carcharonon. Ond mae yna berygl cario peth fel hyn rby bell. Mae Germani wedi I bostio cymaint wrth ei phobl ynghylch ei budd- ugoliaethau, nea mae'r genedl wedi dyfod i gredu fod y rhyfel wedi ei henill, ac yn methu dirnad cl betL yw y rhes-m f T,lywndr&rt,h O or man} yn oedi gwneuthur heddwch ar ei thelerau ei hun. Mae trigolion Germani, erbyn heddyw, yn dech- reu rhwbio eu lIygaid, ac yn gofyn, A yw pethau mor ffafriol gyda ni ag y rhoddir ar ddeall i ni eu bod 1 Bydded i ni fod yn ofalus yn y cyf- eiriad yma, a pheidio gobeithio gormod, a medd- wl fod y gelyn yn tori fyny am fod y gwyr meirch (Cavalry) wedi cymeryd rhan yn yr ym- ladd yn ddiweddar yn Picardy. Os codwn ein gobeithion yn sydyn yn rhy uebel, fe ddaw I ffit' o iselder drosom pan ddaw tipyn o newyddion annymunol. Am hyny daliwn ati yn sefydlog, gan gadw eiu pen yn wastad, heb gynhyrfiad eitbafol naill gyfeiriad na'r Hall. Yn ol adrodd- iad Syr Douglas Haig, nid oes raid i ni ddigaloni. Mae'r sefyllfa yn dda ar y cyfan. Mae ein mil- wyr o fewn pum milidir-ar-hugain i Cambrai, lie pwysig iawn a chanolog yn y rhan hono o Ffrainc. Yr ydym wedi cymeryd y Uinell amddiffynol Germanaidd gyntaf, a rhan o'r ail. Ar ol ym- ladd chwerw yr ydym bellach yn union a byddin Ffrainc-yn straight' heb na bwlch na chrychni. Mae gan y Germaniaid ardaloedd amddifltynol cryfion iawn y tu cefn iddynt eto. Mae'r ffaith ein bod wedi cymeryd meddiant o fagnelau mawr heavy howitzers) yn dangos yn eglur fod Ger- mani wedi ei tharo yn drwm neu ni fuasai byth yn gadael y gynau mawr trymion ar ei hoi. Ac mae'r nifer fawr o garcharorion gymerwyd genym yn dangos nad yw'r ymladd wedi troi allan yn ol y disgwyliadau Germanaidd. Ond yn ngwyneb y cyfan, gallwn fentro fod y rhan fwyaf o fyddin Germani yn y gymydogaeth yma heb ei thori eto, a bod ganddi ddigonedd o fagnelau mawr a mân, ac y gall ddal i ymladd yn ystyfnig am amser yn yr amddiffynol, ac yn colli yn raddol. Y peth mawr yw ein bod wedi taro yn gyntaf, ac yn gallu symud ymlaen pan y mynom ac fel y myn- om. Yr ydym yn taro ar le pwysig ac yn taro yn galed. Mae ein milwyr yn ymladd yn ar- dderchog ni fu gwell milwyr yn y byd, eu dewrach nid oes ar wyneb daear Duw Arwydd gampus yw gweld y Germaniaid yn celu'r gwir, ac yn treio cysuro'r cyhoedd hefo nythed o gel- wyddau—arwydd iachus iawn. Mae'n amlwg fod y Germaniaid yn cymeryd opium i leddfu eu nerves.' PERSONOL. Esgob Caer-Dr. Jayne—ymhell a fod yn dda, a rhaid iddo gymeryd aeibiant am rai misoedd. Yr oedd yr hen Farged Jones yn cwyno byth a hefyd. Nid oedd dim yn iawn-rhenciain o hyd yn erbyn rhywbeth a rhywun. Meddyliodd y ficer y cawsai yr hen ddynes mewn tymer dda, un diwrnod, gan fod ganddi y enwd goreu o datw yn yr ardal. A meddai wrthi, Everyone's say- ing how splendid your potatoes are this year.' A medde'r hen ddynes giU, gan lygadrythu arno, 1 They're not so poor. But there aint no bad ones for the pigs.' Ie, dim tatw drwg i'r moch Yr ben genawes anniolchgar Medde'r ofleiriad with Pat—' Two rights never make a wrong, Pat, you must know.' Indeed, your reverence, you are wrong.' Now, now, Pat I'm right.' 4 But I say you are wrong And how, Pat ?' Yer reverence, two rights make a wrong when they're boots.' Medde'r ficer, 4 These Salon ikans, Mrs. Stubbs, are, of conrse, the Thessalonians, to whom St. Paul wrote his celebrated letters.' A medde Mrs Stubbs I Well, I 'ope 'e'd better luck with 'is than I 'ave. I sent my boy out there three letters and two parcels, and I ain't got no answer to 'em yet.' What do they call a man who goes up in air- ships 1' An aviator, of course.' 4 And what do they call the place where they keep the air- ships 'An aviary, you booby Medde'r teacher '—' If a farmer sold five tons of potatoes at sixpence a pound, what would he get?' A medde Wil Trwyn Pwt—' A motor car Yr oedd yr organist' yn falch iawn o'r fiaith ei fod yn Mus. Doc. ac yn gofalu rhoi y ddau air ar ol ei enw bob cyfle. Aeth crwt bach ato un di- wrnod- I Well, my boy, what can I do for you 7 1 'Please, sir, aren't you a Doctor of Music ?I Yes, my boy.' I Well, Billy 'ere has bent his tin trumpet. Can yer put it straight, please ?
- YSTRAD.
YSTRAD. NEWYDDION PRUDD.—Dyna syn d'od i lawer yn Nghymru y dyddiau hyn, gan fod yr R.W.F. yn y I front' yn Ffrainc. Caed yr wythnos ddiweddaf fynegiad felly yn y cyloh yma o'r plwyf (Felinfach). Clywsom I ddech- reu am Henry Phillips oedd yn was yn Glanwern, ac yn aelod gyda ni yn Eglwyø Ystrad. Ymunodd i'r 'Ninth Welsh,' a chafodd ei glwyfo yn Loos. Gwellhaodd, ao aeth yn ol i gael el ladd yn y Big Push.' Bachgen diniwed, di-ddrwg, oedd Henry, ac ymroddgar a thawel ei rodiad a ohwith genym wybod na ddaw yn ol, ond ei fod yn huno ei hdn olaf yn Ffrainc, wedi rhoddi ei fywyd dros ei wlad. Huned mewn hedd fel nr o arwyr Pr.hln. Dydd Mercher, daeth • I newydd pruddaidd arall i Miss Davies, Post Office, Felinfach, i fyn egi iddi hi a'i brawd a'i chwaer fod eu hanwyl frawd, Corporal Thomas Howells Davies, wedi cyfar- fod a'i ddiwedd ar y iOfed cyfisol, yn yr ymgyrch mawr yn Ffrainc. Efe a Private W. E. Davies, Ficerdy, oedd y ddau gyntaf i ymuno a'r R. W.F. o gylch Felinfach yn Hydref, 1914. Ymunasant i'r Loudon Welsh, a buont gyda'u gilydd yn Llundain a Llandudno yn parotoi gogyfer a'r gwaith mawr o yru y gelyn yn ol. Gadawsant Southampton am y rhyfel yn Nhachwedd, 1915. Derbyniodd Miss Davies y llythyr Cymraeg canlynol boreu Mercher, y 19eg cyfisol, a llanwyd yr holl fro a galar dwfn am Tom pan glywsant y newydd pruddaidd :— 1417116. Anwyl Miss DaTies,-Drwg iawn genyf eich hysbysu i'ch brawd, Tom, gael el ladd ar y 10fed o'r mis hwn, yn ystod ym- osodiad a wnaethom ar y gelyn. Yr ydwyf fi yn cydymdeimlo i chwi galon yn eich profedigaeth chwerw. Hwyrach y bydd yn rhyw gymaint o gysur i chwi glywed fod yr ergyd a dderbyniodd yn farwol, ac na chafodd ddim poen; bu farw ar unwaith. Gwnaeth ei ran yn ardderchog, ac ymladdodd yn ddewr fel y diagwyliem oil. Galarwn ni ar ei ol yma, ond gwyddom nad yw ein galar ni yn ddim o'i gydmharu A'ch galar chwi, ond dyna'r drefn, a rhaid ymdawelu.—Yr eiddoch yn gywir iawn, JOHN EDWARDS (Major). Un yn hanu o Ystrad, o deulu Cwmere, yw Major Edwards. Yr un diwrnod cafodd Miss Sally Davies lythyr oddiwrth 'chum' I Tom fel hyn, a maddeued y darllenydd i mi ei roi yn Saeaneg fel y daeth :—Dear Miss Davies, It is with the deepest regret and sorrow that I have to write to tell you that your brother, Tommy Davies, has been killed in action. He died a noble death fighting bravely for his country, and it may be just a little consolation to you to know that he knew no pain. He died instantly. Poor dear Tommy, we loved him well and he will live in our hearts for ever. He was a perfect gentleman, and a strong man in every respect. He was a friend, faithful and just to me, and I am heartbroken at the loss of so true a comrade. May God rest his soul. Please forgive me if I have broken the sad news too suddenly, but I felt it my duty to write to you for I was Tommy's close friend, and he often spoke to me of his home life and of his sisters at Felinfach, and so I am writing to Sally and that is the only name I know. In conclus- ion, allow me to offar you my deepest sym- pathy in your great loss. Believe me, &a., FRBD DFNNIS CASBY^Lance-Corp 15th Batt. R.W.F.—Nid oedd ein cyfaill ond 27 oed pan yr hunodd fel hyn yn yr angeu ond yr oedd yn un mor garuaidd, mor hoffus gan bawb, mor ftraeth ei ymadrodd, mor ddifyr ei gwm- ni, mor foneddlgaidd ei ymddygiad, un o wir foneddwyr natur, mor barod ei gymwynas nes yr oedd yn wir boblogaidd He bynag y byddai, ac mae tystiolaeth Lance-Corporal Casey yn ddesgrifiad byw o hono. Yr oedd ein cyfaill anwyl yn aelod o deulu parchus a chyfrifol, yn fab i'r dlweddar Mr. a Mrs. Davies, Post Office, Felinfach. Y mae cydymdelmlad pawb yn ddwfn gyda'r ddwy chwaer a'r brawd da a ffyddlon Mr. John Davies, Post Office, Llan- dyssul, sydd gartref yn eu trallod, a'r ddau sydd allan, a loes calon i bob un o honom oedd y newydd. Ond bydd lIe oynes yn nghalon y wlad a phareh ao edmygedd cenedl i'r beohgyn dewr sydd yn ae sydd wedi, fel ein cyfaill, anturio a gosod eu by- wydau i lawr I amddiffyn iawnderau eu gwlad, a chadw rhyddid a chyfiawnder yn oiddo i Brydain, gwlad y breintlau a enilloidd ein tadau trwy waed. Erbyn hyn meddyl- I wn am Tom ac am ganoedd eraill fel rhal am ryddid gollasant eu gwaed. Cysured Duw y teulu a'r perthynasau, ac amddiffyned a chadwed y ddau frawd arall sydd ar faes y gad, sef Signaller a Corporal D. H. Davies yn Ffrainc, a Sapper J. S. Davies yn Meso- potamia, a deled i'r ddau hyn yn ddlogel a dinam. CRIBIN.—Da oedd genym oil weled 10 Eglwys Cribin prydnawn ddoe (Sul) Serj. Morris Marsden, ar leave o'r Iwerddon, a Private Dl. Harris yn ol o'r ysbytty yn GOI- forth, a chyn hyny o'r rhyfel yn Ffrainc. Y mae'r ddau yn edrych yn dda, a'r ddau wedi gweled amserau enbyd, yn enwedig yr olaf. Yn y gwasanaeth hwyrol chwareuwyd yr emyn olaf ar yr offeryn gan Miss Getta Evans, Post Office. Gwnaeth ei gwaith yn dda, a daw yn gymorth mawr yn 81 thro gydag amser. Y mae yn glod i'w hathraw,, Mr. Barrow Griffith, C.M.-R.E.D.
DEONIAETH ARDUDWY-Y RHAN DDEHENOL.
DEONIAETH ARDUDWY-Y RHAN DDEHENOL. Y GENHADAETH GHNEDLAETHOL.— Cynhal wyd all gyfarfod o'r olerigwyr yn Harleob ddydd Gwener, yr 21ain. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid am 8.30 yn Eghry. St. Tanwg, ac yna cafwyd brecwast yn y Floerdy. ao ymddldPan am y genhadaeth. Rboddasid Anerchiadau Esgob St. Alban's i'w Glerig- wyr' yn destyn i ymdrin arno, a ohafwyd ychydig o sylwadau pwrpasol gan y D.G. Ond prif bwnc y cynulliad oedd y modd gorea i barotoi y lleygwyr gogyfer i'r Genhadaeth. Penderfynwyd mal doethaf fyddai dlsgwyl mewn amynedd ar gyngor yr Esgobaeth am gyfarwyddyd cyn gwneyd unrhyw drefniadau pendant. Telmlld mai anoeth a chroes I amoan y genhadaeth fyddai brysio i ymorol am genhadon i'r ddeoniaeth neu i blwyfi unigol. Y oyfarfod nesaf i'w gynal yn Llan- bedr ar y 4ydd o Awst, pryd y ddarllemr papyr g:;n y Pardi. It Abormaw,