Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Colofn y Calendar.-Rhif xxxv.

News
Cite
Share

Colofn y Calendar.-Rhif xxxv. Y CHWECHED SUL GWEDI'R DRIN- DOD (Gorphenaf 30). Y LLITHIAU. .Y Boreu, 2 Sam. i.; Act. xxviii. 17. Yr Hwyr, 2 Sam. xii. l-r-24 neu xviii; S. Matt. XY. 21. Cariad, gras, trugaredd, a thangnefedd, sydd wedi bod o dan eiu syiw ar y pum' Sul cyntaf gwedi'r Drindod hyny ydyw, y priod- oleddau blaenaf yn Nuw sydd yn dal per- thynas a'i blant, ac yn gweithredu tuag atynt, fel ag i achosi ynddynt hwy rasusau oyfatebol tuag at Dduw. Ar y pum' Sul nesaf sydd yn dilyn, sef o heddyw hyd y ddegfed Sul gwedi'r Driudod, dygir i'n sylw gan yr Eg- lwys yn ei pbrif ddysgeidiaeth, wahanol ag- weddau o DDYLEDSWYDD, mewn atebiad i gariad Duw, ac fel ffrwyth y grasusau y myfyriasom arnynt. Y mae bodolaeth neu fwynbad breintiau bob amser yn golygu rhwymedigaeth a chyfrifoldeb; ac y mae teimlad o rwymedigaeth a sylweddoliad o gyf- rifoldeb yn sicr o arwain i gyflawniad dyled- awydd. Gwelwn, fel hyn, y gofala yr Eglwys roddi y pethau blaenaf yn gyntaf, sef cariad Duw a'i ffrydiau; yna, ar y pum' Sul dllynol, dangosir y dylai y cariad hwn fod yn gym- helliad i'n cariad ni tuag Ato, ac i fywyd o wasanaeth Erddo. Ond pa fodd y deuwn i sylweddoll ein cyf- rifoldeb t Dechreuir trwy fod yn ddiolch- gar i'n Tad Nefol am Iddo ein galw i ystad lachawdwriaeth trwy Fedydd, a gofyn am ras modd y gallom aros yoddi holl ddyddiau ein heinioes." (Y Catecism). Peth mawr yw ein gosod mewn awyr iacb, ein cylchyna A chynorthwyon y bywyd ysbrydol, a'n llenwi A gobaith y gellir cyraedd pethau gwell, uwch, a rhagorach na'r hyn oedd boslbl trwy enedigaeth i fywyd naturiol a hyn a wneir yn ein Bedydd. Y COLECT. Y mae hwn yn hen, canys ceir ef, o ran el sylwedd, mor foreu a'r flwyddyn o.o. 492, er el fod wedi myned trwy am- ryw gyfnewidiadau mewn cyfieithiad. Y mae y cyfieithiad Cymraeg o'r gwreiddiol yn well na'r Saesneg, er nad yn llawn mor llyjthyren- ol. (1) Yn y Cyfarchiad, ceir tri gwirionedd, (a) fod gan Dduw Ei bethau daionus (gwel 1 Cor. ii. 9); (b) fod y rhal hyn uwch ben pob deall dyn (gwel Philip, iv. 7); (c) a'u bod wedi eu harlwyo, neu pu darparu, neu eu par- atol gan Dduw i'r rhal a'i carant. Nid ydynt yn elddo I ni yn eu cyflawnder yn awr- blaenffrwyth, gwystl ydynt o'r hyn sydd I yng nghadw' I ni (S. loan xlv. 2 j 1 St. Petr I. 4). (2) Yn yr Erfyniad, gweddiwn ar I Dduw dywallt i'n ealonau serch angerddol tuag ato. Yn Rhuf. T. 5, dysgir ni fod I carlad Duw yn cael ei dywallt yn ein oalonau ni, trwy yr Ysbryd GIAn, yr hwn a roddir 1 ni.' Gwir mal at gariad Duw tuag atom y oyfeiria St. Paul; ond hwn yw gwreiddyn ein oariad ni tuag at Dduw. Y mae y gair I iserch' yn gwahaniaethu ych- ydig oddi wrth gariad,' a golyga baroh car- ladus yn tarddu odd! ar lawn synlad o brlod- oleddau gwerthfawr y gwrthryeh a gerir. (3) Yn y Terfyniad. cawn y dyben neu yr amcan ddylai fod genym mewn golwg yn y weddi hon, sef bod i ni (a) gan garu Duw uwchlaw pob dim, (b) allu mwynhau Ei addewidion, (c) ac y mae yr addewidion hyn yn fwy rhagorol na dim fedrwn el ddeityf. Nid ydym I feddwl am foment fod Duw i'w garu er mwyn y pethau da a ddarparodd ar sin oyfor, nao yohwaith er mwyn meddianu yr oil a gynhwyslr yn Ei addewldion ond y mae i'w garu o herwydd yr hyn ydyw ynddo El Hun yna, yn y welthred o garu, fe ddaw y wobr a'r mwynhad. YR EPISTOL (Rhuf. Ti. 3-11). Heddyw deohreuir y gyfres o Epistolau St. Paul sydd yn ymwneyd A bywyd adgyfodedlg y Criation, a'r dyledswyddau sydd yngltn i'r bywyd newydd hwn. Gorwedd prif wera yr Eplttol am heddyw yn y ffalth ein bod yn 'gyd-blanhigion i gyffelybiaeth marwolaeth Grist, ac felly i gyffelybiaeth Ei adgyfodiad Ef.' Un o'r 'pethau dalonul. a ddarparwyd gan Dduw ar ein oyfer ydyw ein gwneyd yn un & Christ trwy Fedydd, ein himplo I mewn yn aelodau o'i gorff Ef, fel y byddo El angau Ef yn farwolaeth I ni, a'i adgyfodlad Ef yn adgyfodiad I ninan I new- ydd-deb buohedd yr oebr hyn I'r bedd, ac yn fynedlad llawen trwy borth y bedd I ogoniant gwynfydedlg yr oohr draw. Dwywalth y dewlsodd yr Eglwys Epistol yng Ngwasan- aeth y Cymun 1 osod allan yr hyn ydyw Bed. ydd—fel gras cychwynol y Bywyd adgyfoded- lg ar Sul y Pasg, ac fel sylfaen eymhelliadol I fywyd • ddyledswydd heddyw. Yn y rhan hon o'i Epistol, gwaaga yr Apostol ar Grist- lonoglon y ffalth o undeb Sacramentaldd A Chrlat-undeb Ag Ef yn Ei farwolaeth, ao un- deb &g Ef yn El fywyd. Mae y synlad, y gred, a'r ffydd ddarfod i ni gael ein I eyd- gladdu gyda Christ trwy Fedydd 1 farwolaeth' yn sicr o fod yn nerth anrhaethol I ni ddi- rymueorff peohod,' neu orohfygu yr anian becbadurus sydd ynom, a chadw gorchymyn- Ion Duw, a hyny o ddewisiad oalon a hyfryd- wch enald. Pan ddelom ni i deimlo ein bod ni yn un A Christ, a Christ A nlnau, ymhob peth a berthyn I amser a thragwyddoldeb, bydd Efe yn allu ysbrydol o'n mewn i'n nerthu ymhob daloni, ac 1' fyw I Dduw.' YR EFBNGYE (St. Mat. v. 20-26). Ffrwyth marwolaeth i beohod, ao adgyfod- iad i fnehedd newydd, ydyw cyflawnder ym- arferol, wreiddyn a changen. Gwedi ein gwneyd yn aelodau i Grist trwy Fedydd, rhaid byw fel y cyfryw, a chael eiu -symud welthio gan gymhellion cywir, a'n meddianu gan yr ysbryd priodol. Y mae y Deyrnas o'r hon y'n gjvnaed yn ddeiliaid yn un ysbrydol, a gofyna ei deddfau ufudd-dod llwyr y galon. Diagwylia ei Theyrn, sef Iesu Grist, fod y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda. Chwilia bob drw i'w wreiddyn, gau bwyso hyd yn nod y dychymygion a'r amcanion, y meddyliau a'r dymnniadau, ie, myo ddiwreiddio pob pechod o'i eginiad cyntaf i'w frig a'i ffrwyth. Yn yr Efetigyl am heddyw dysg ein Hiachaw- dwr dri gwirionedd. (1) Cymeriad gwir Gristionogion. (a) Y maent yn feddianol ar gyfiawtider- cyflawnder cyfranedig a phlanedig eu Prynwr, yr hwn a gyfnewidia ac a drawsffurfia eu natur, fel ag i'w galluogi i fod yn "gyfranogion o'r duwiol anian" (2 Petr i. 4). (b) Y mae hwn i fod yn helaeJthach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, mewn bod yn ysbrydol a mewnol, yn gyflawn o ran cyflawniad, ac yn gywir o ran cymhelliad. Nid yw Crist yn condemnio yr allanol cyn belled ag y mae yn myned neu yn ol ei nerth is-raddol; ond rhaid wrth union- deb calon, a thrylwyredd ysbryd. (c) Ac y mae nod eu hymgyrhaeddiad i fod uwcli- law y gweledig a'r daearol, gan fod eu hymarweddiad yn y Nefoedd. 2. Rheoltau. eu hymddygiad tuag at Dduw. (a) Cadwant Ei orchymynion yn eu llythyren, (b) yn eu hysbryd; (c) ac ymostyngant i awdurdod y Deddf-roddwr. Y mae pwys- lais neillduol ar "Fi" yn y frawddeg, "Eithr yr ydwyf FI." "Myfi," Rhoddwr y gyfraith, Cyflawnydd y gyfraith, a Hawlydd pob ufudd-dod iddi. Gwna gwir Gristionogion gydnabod hawliau Iesu Grist nid yn unig fel y goreu o ddynion, a'r doethaf o ddysgawdwyr, ond fel Duw, a gwrandawant Arno ac addolant Ef. 3. Rheoliau eu hymddygiad tuag at ddyn. (a) Gwnant ymattal rhag digio. Y mae yn bosibl digio heb bechu. Dar- llenwn am Grist yn "edrych o an^gylch ar y bobl yn ddigllawn" (St. Marc iii. 5). Y mae digio o ysbryd drwg, a chadw di- gofaint yn hir yn y fynwes, fel pe baem, yn gwresogi neidr neu chwythu tan. Y mae yn bechod, ac yn sicr o'n niweidio. (b) Ni wna-nt ddifenwi na bychanu cy- meriadau, ond ymgadwant rhag defn- yddio goiriau brathedig ac isel. (o) Ond nid yw peidio gwneuthur drwg yn ddigon, rhaid yw iddynt wneuthur da. "Cymoder di a'th frawd," "cytuna a'th wrthwyn- ebwr." Nid yw ein haberth o fawl a gweddi yn dderbyniol gan Dduw, nac yn llesol i ni ein hunain, bob gymmod a dyn. Dalier sylw, mai ein dyledswydd yw ystyried a oes gan ein brawd ddim yn ein herbyn, nid fod genym ni beth yn erbyn ein brawd. Y mae genym ninnau ein Hallor i agoshau ati; gofalwn fod mewn cariad pearffaith a phawb cyn dyfod ym mlaen at Sacrament cariad ein Hanwyl lesu. Ty Ddewi, W. WILLIUM. Gorphen. 24, 1116.

Llythyp Llundain. -

LLANBEDR-PONT-STEPHAN.

DEONIAETH WLADOL LLEYN.

Advertising