Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

TYSTEB DR. REES, ABERTAWE.

UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMREIG.

At Olygwyr y TYST CYMREIG.…

News
Cite
Share

At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,-Yn y rliifyn cyn y diweddaf o'r TYST, ymddangosodd ysgrif werthfawr o eiddo eich gohebydd doniol ar y mater pwysig uchod ac yn hono, fel pob peth arall o'i eiddo, dengys y fath zel a brwdfrydedd ag sydd yn fy nghaethiwo i edmygu ei ben a'i galon. Nid fy amcan yn awr yw galw sylw at yr ysgrif na'i hawdwr (er fod y naill a'r llall yn ddwbl deilwng), ond at y cwestiwn, A ellir cael Undeb Cynulleidfaol Cymreig ? Posibl fod ambell un yn barod i ofyn cwcstiynau ereill cyn gwneud sylw o'rhynanodwyd—megys, A oes eisieu mwy nag sydd o undeb yn ein mysg fel Annibyn- wyr Cymreig P Ac, A fyddai Undeb o'r fath ag a awgrymir yn werth ei gael ? &c. Atebwn y fath gwestiynau yn gadarnhaol, a hyny heb y gradd lleiaf o betrusder. Fod cymaint o allu a thalent yn ein mysg ni ag sydd gan unrhyw enwad yn y Dy- wysogaeth, a gydnabyddir gan bob nn sydd a'i lyg- aid a'i glustiau yn agored. Er hyn oil, y mao yn amheus genyf fod y pethau hyny yn tramwyo y ffordd effeithiolaf er llwyddiant ein henwad a Iled- aeniad achos crefydd yn y wlad. Y mae llwyddiant ei enwad yn rhwym o fod yn gryn beth yn ngolwg pob Annibynwr goleuedig. Nid wyf yn gweled fod galluoedd yr enwad yn cael eu dwyn i gyfarfyddiad teg a boddhaol a phyngciau cyhoeddus a chyffred- inol, ac oblogid hyny dadleuir a grwgnechir yn en- bydus gan ryw ddosbarth. Onid yw y symudiad er cael Colegdy ncwydd yn y Bala yn engraifft o hyn ? Yr ydym hefyd drwy ddiffyg y fath. Undeb i fesur helaeth yn colli gwasanacth gwcrthfawr allesid gael oddiwrth lawer o'n gweinidogkm a'n lleygwyr gwy- bodus a phwyllog ag ydynt o farn addfed. Gyda llaw, onid ydym wedi igi/oriog ormod ar ein lleygwyr, a thrwy hyny fod yn fyr o enill Ilawer llanerclx obeithiol allasai fod yn ein meddiant P Mac llwydd- iant yr enwad sydd wedi rhoddi cryn le i leygwyr yn brawf diymwad o werth gwasanaeth y cyfryw. Os dywedir nad ydoedd hen gedyrn ein gweinidog- aeth yn y dyddiau gynt yn gwneuthur mwy o sylw o leygwyr nag a wneir genym ninau, dywedaf inau hwyrach y buasai yn well pe buasent wedi gwneud mwy o sylw o honynt; ac heblaw hyny, ni feddent hwy y fath restr enwog o honynt ag y mae genym ni yr anrhydedd o'u rhifo yn mysg ein cynulleidfa- oedd y dyddiau hyn. Ond rhaid peidio ymhelaethu ar hyn yn awr. Gallai Undeb Cymreig fod yn foddion i ddwyn dynion teilwng i'r sylw a deilyngant, a chynyrchu cnwd toraethus o bapurau a fyddant yn ychwa- negiadau pwysig at ein llenyddiaeth enwadol. Byddai yn fantais i'n gweinidogion ddyfod i fwy o adnabyddiaeth o'u gilydd, yn gystal ag yn foddion i wroli meddyliau llawer un sydd fel fhiau yn llafurio gyda phraidd bychan yn ngbanol tyrfaoedd mawrion o enwogion ereill. Oud y pwngc yw, a ellir cael Undeb Cynulleidfaol Cymreig ? Gellir yn ddiau. Diamheu fod rhai anhawsderau pwysig ar y ffordd, ond credaf nad oes un nad oes modd tori trwyddo neu drosto. Nid oes mwy o anhawsderau ar ein ffordd ni nag ydoedd ar ffordd y Bedyddwyr pan sefydlasant Undeb eyffelyb, tra mae ein manteision yn llawn mor lluosog a'r eiddynt hwythau, os nad mwy. Teimlwn, Meistri Gol., yn dra diolchgar i Herber pe yranrhegaini ag ysgrif eto ar y pwngc, ac un a fyddai yn cynwys sylwadau ymarferol er cychwyn y peth. Both a fyddai iddo osod y mater o dan sylw y Cyfarfod Chwarterol y pertliyn iddo ? Mae yno gawri enwog heblaw efe, nid llai na'r Parchn. Tho- mas, Bangor Roberts, Caernarfon Stephen, Tan- ymarian Parry, Llundudno Griffiths, Portdinor- wic, &c., &c. Oddi yno gellid ei anfon i bob Cyfar- fod Chwarterol a feddwn drwy Gymru benbaladr, a chael barn gyffrediuol arno yn ddioedi. Yn y cyf- amser, gallai y TYST roddi ei ddylanwad eang o'i blaid. Gyda dymuniad ar fod i'r mater gael ei gymeryd i fynu o ddifrif heb goll amser. Y gorphwys yr eiddoch, I. G. EIGION.

[No title]

CELL Y GWYIIWR.

At Olygivyr y TYST CYMREIG.