Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
--FFRAINGC.
News
Cite
Share
FFRAINGC. Dygwyd yn mlaen etholiadau Paris ddydd Sul a dydd Llun diweddaf. Oddiwrth y darpariadau a wnaethid gan y blaid eithafol o Red Republicans, ofnid y byclclai i elfenau dinystriol gael eu gollwng i mewn i'r Senedd, y rhai a fuasent yn dymchwelyd y "VVeinyddiaetb bresenol, ac yn agor y ffordd i deyrn- asiad annhrefn. Ond y mae pwyll a natur dda wedi enill yr oruchafiaeth. Ni etholwyd neb o'r extreme party ond M. Rochefort, golygydd y Lanterne, ac nid yw of ei hun yn debyg o wneud fawr o'i ol ar y blaid gryfaf yn y Ty ac yn y wlad. Dynion cymhedrol a etholwyd ar y cyfan, y rhai ydynt yn dobyg o gyd- weithredu a'r blaid gref sydd yn awr yn eistedd ar yr aswy, a'r rhai ydynt gyda'u gilydd yn debyg o fynu diwygiadau pwysig yn y Wladwriaeth cyn pen z2, nemawr o amser.
ITALY.
News
Cite
Share
ITALY. Hysbysir iii fod y Brenin Victor Emmanuel yn parhau i wella. Rhaid fod ganddo gyfansoddiad haiarnaidd i ddal y driniaeth feddygol a gafodd. Coelia meddygon Italy nad oes dim a wna y tro mewn amgylchiadau o berygl ond gwaedu y claf. Y peth cyntaf a wnaed i'r brenin oedd ei waedu. vVrth e weled yn gwaethygu, anfonwyd at un arall, a de- chreuodd hwnw drachefn cxperirnentio arno trwy ei waedu. Mynai un arall wedi hyny dynu ychwaneg waed o liono ond myned waeth-waeth yr oedd y dioddefydd. O'r diwedd, antariodd un mwy rhy- fygus na'r lleill i roddi gwydraid o win iddo, a dyna fu moddion ei droedigaetb at adfcriad. Pan yn ei gyfyngder mwyaf, anfonwyd at Arcbesgob Pisa i ofyn am offeiriad i roddi maddeuant a gollyngdod iddo yn ol y drefn Babaidd. Daeth hwnw, a cheis- iai gan y brenin gyffesu ei bechodau, a dadwneud holl weithredoedd penaf ei oes, fol y gellid symud osgymundod yr eglwys oddi arno. Daliai yr hen frenin yn gyndyn, pa fodd bynag, ac ymaith a'r offeiriad i fynegu ei ailwyddiant i'r Archesgob. An- fonodd hwnw genad mwy doniol a dysgedig na'r blaenaf, a cheisiai yntau brofi i'r brenin yr anfad- waith o gysylltu taleithiau yr Eglwys wrth ei deyr- nas, a myned yn erbyn awdurdod y Pab. Attebodd y brenin ef yn gampus. I Os daethoch yma/ meddai, i .siarad wrth ddyn ar fin marw fel Cristion, mi a wrandawaf arnoch gyda boddbad a diolchgarwch; oncl os daethoch i siarad politics, coweh fy ngweini- dogion yn barod i wrando arnoch yn yr ystafell nesaf.' Bravo Victor Emmanuel!
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Prioclasau, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Tachwedd 18, priod Mr Griffith Hughes, Haylock Street, Liverpool, ar ferch. —— 18, priod Mr William Williams, Provision Dealer, Chester Street, Amwythig, ar fab. —— 22, priod D. LI. Lloyd, Ysw., Towyn, Meirion- ydd, ar ferch. PRIODASAU. Tachwedd 12, yn nghapol yr Annibynwyr, Horeb, ger Brechfa, gan y Pareh, W. E. Prydderch, yn mhre- senoldeb Mr John Oliver, y cofrcstrydd, Mr John Davies, Penrliyw-mereditli, ag Elizabeth Jones, Bryn- dawe. Y ddau o biwyf Llanegwad, sir Gaerfyrddin. 13, yn Bryiimair, Ceredigion, trwy drwydded, gan Mr Matthias, y cofrestrydd, Mr David Richards, o (Jilgeran, a Miss Cathrine Griffiths, o Llangranog. 18, yn Llwyncelyn, gan y Parch. E. Jones, Mr David Evans, Cwm-mawr, a Miss Margaret James, Rhydgwinllana u. MARWOLAETHAU. Tachwedd 11, yn 24 oed, yn Llanelli, trwy foddi W. Parry, meistr y Schooner 1 Eleanor Grace,' Amlwch. Yr oedd yn wr ieuane hynaws a charuaidd, yn aelod eglwysig gyda/r Annibynwyr, ac yn unig fab ei fam, yr hon sydd mewn galar mawr ar ei ol. 16, yn 77 oed, Mr David Morgan, dilledydd, Ty'nllwyn, Cilycwm. Pregethwyd yn ei angladd gan Mr D. Theophilus. Gadawodd wraig oedrallus i alarcl ar ei ol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
T.PXUI:IAST_AX» BE.UTTII-TI, 8. A. Allen's »> oi-W'i, Ji.til oi. never fails to quickly restoreJ, I l '.h}- ;t io .-ib joutiiful colour and benuty, and witU the iw^t u beautiful gloss nnd de- frj!j;c,; ri '1' t'c U.dr. It stops llair from latlmp; Xc It promotes luxuriant igi-omh. i <»•>», h, Oii,-k aud strong'. It re- all il.u hi ml;. h ,)!;i am-; i;c:l liri' oil nns dyo. In large bot!l?s 111Li[:i-;o:vi liy all Chemists and l'er- fuiiu; 3. 1 i>- C'iiUti: ui.'s jlair, .Mra. ^Mlun's >jylob.il arrvum far t-x'V 1 i 'j j.ioi-i t<b or ], il, anil is n, delightful Hair *t « 1-, t d UH I il] 1 nn-'it'1 inviiaration from the JJesfoiw, find itn use not rc(nured it. Depot, 2(! ll'gli Ilolboin, London.—(AUVT.)
MARvVOLAETH Y PARCH E. W.…
News
Cite
Share
MARvVOLAETH Y PARCH E. W. JONES, NEW YORK MILLS AMERICA. Mae yn ddiamheu y bydd i'r penawd uchod daro lluaws o ddarllenwyr y TYST a syndod, ac y bydd i'r hysbysiacl galarus ddwyn tristwch a galar o fynwes lluaws o hen gyfeillion yr ymadawedig yn y wlad hon. Symudodd Mr Edward Jones o Manchester i'r America oddeutu. deuddeng mlynedd yn ol, ac ym- sefydlodd yn New York Mills, yn weinidog ar yr Eglwys Gynulleidfaol yno. Fel pregethwr, yr oedd wedi enill safle barchus yn ngolwg ei frodyr ac yr oedd ei dymher addfwyn a charuaidd wedi sicrhau iddo 10 dwfn yn sercbiadau ei gencdl. Er's rliai blyiiyddoecld, yr oedd afiecbydblin wedi gafaelyd yn ei gyfansoddiad, dioddefodd gystuclel maith, ac yr oedd yn amlwg fod angau yn prysurddatod ei ddae- arol dy; ac erbyn lieddyw, y mae ei lygaid tyner, serchog, wedi huno yn angau! Y tro diweddaf yr ymddangosodd yn mhlith ei frodyr ydoedd yn Nghymanfa Oneida, ac nid rhyfedd genym fod y Parcli. H.E. Thomas yn sylwifod 'olion cystudd trwm arno.' Dychwelodd i'w gartref o'r Gymanfa; ond ar gais amryw o'i gyfeillion, er adgyfiierthiad i'w iechyd, symudodd i sefydliad Cymreig, oddeutu 30 milldir o York Mills, ac yn nghanol ei holl lesgedd pregethodd (oddiar ei eisteddle) i dyrfa luosog nos Sabboth, o 24ain o Hydref, oddiar y geiriau hyny- Mae genyf chwant i'm dattod,' &c.; a chyn iddo weled Sabboth arall ar y ddaear, yr oedd o wedi ymddattod oddiwrth y byd, a'r yspryd wedi myned at Dduw yr hwn a'i rhoes. Dydd Llun, y laf cyiisol, ydoedd dydd ei gladded- igaeth, a cbymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan wytli o wabanol weinidogion Cymreig ae yna heb- ryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i orwedd yn meddrod y teulu. Gadawodd weddw a thri o blant byohain i alaru ar ei ol. Barnwr y gweddwon a fyddo yn amdcliffyn i'w weddw, a Thad yr amddifaid a ofalo am ei rai bach, ac a'u dyddano oil yn nyfnder eu trallod. Gan fod cyfeillion yr ymadawedig yn America yn bwriadu dwyn allan ei fywgraffiaeth, bydd i'w deulu deimlo yn wir ddiolchgar i' w boll gyfeillion (yn en- wedig ei gyfeillion yn Manchester, a'i gydfyiyrwyr yn y Bala), a anfono iddynt unrhyw ddefnyddiau a all fod gandynt tuag at wneuthur ei gofiant yn gyf- lawn. Cyfeirier hwynt i mi, a gafalaf am eu tros- glwyddo i ddwylaw ei weddw. E. GARMON JONES. 36, Hemans Street, Liverpool.
Y EAECHNAD YD.
News
Cite
Share
Y EAECHNAD YD. LLUNDAIN, DYDD LLUN.-Yehydil- o fasnach a wnaed mewn gwenith coch na gwyn, a gostyngodd y prisiau o ddau i dri swllt y chwarter. Ychydig o haidd a gynygiwyd ar werth. Cafwyd y llawn brisiau am haidd da at fagu; ond teimlid anhawsdor i werthu mathau eraill heb gymeryd prisiau is. Marwaidd oedd brag, am y prisiau diweddar. Ca- fwyd codiad o Go. y chwarter am geirch. Gostyng- odd ffa phys o un i ddau swllt y chwarter. Ychydig iawn oedd ofyn am flawd, am y prisiau diweddar. Rhoddid prisiau yr wythnos ddiweddar am In- drawn. LIVERPOOL, DYDD MAWKTH.—Yr oedd cynnulliad heddyw yn weddol, ond ychydig iawn o fasnach a wnaent mewn gwenith am o Ig. i 2g. y^canfc yn is. Blawd yn farwaidd am o 6c. Is. yn îs. Ni wnaed nemawr o fasnach mewn ceirch, a blawd ceirch. Pys yn sefydlog am brisiau uchel.
Y FAECHNAD ANIFEILIAID.
News
Cite
Share
Y FAECHNAD ANIFEILIAID. LLUNDAIN, DYDD LLXJN.—Nifer yr holl anifeiliaid tramor a ddacth i Lundain yn ystod yr wythnos ddi- weddaf oedd 12,694. Er nad oedd y fasnach mewn gwartlieg yn fywiog, yr oedd y prisiau cyffredin yn uwch. Gwerthid y Southdowns a'r half breds goreu o as. 8e. i 5s. 10c. yr 8 pwys. Yr oedd galw da am loi bychain, a chedwid at y llawn prisiau blaenorol. Yr oecld galw cymedrol am foch, a ched- wid at brisiau blaenorol. LIVERPOOL, DYDD LLUN.—Yr oedd y cyflenwad yn eynwys 3,100 o wartheg a 9,000 o ddefaid. Yr oedd y stoc yn llai, ac yr oedd y prisiau lawcr yn uwch. Yr oedd gwartheg a dofaid da yn brin, ac yn ddrud. Yr oedd cyflawnder o rai canolig a gwael ar werth, ond yr oeddynt mewn galw da, trwy fod llawer o brynwyr wedi dod i'r farchnad, a gwerthwyd y cyfan cyn diwedd y farchnud. Cig eidion da, 71 c.; y gwael, o 4Jc. i 6c.; cig defaid, o ,1 2 7c. i 9c. y pwys.
MASNACH METTELOEDD.
News
Cite
Share
MASNACH METTELOEDD. PLWM. English Pig, 18p 17s Be i 19p 15s 0c y dynell. Spanish pig, 18p 7s i 18p 7s 6e. Plwm cocli, o 20p 10s i 21p Os; plwm gwyn, 27p Os Oc i 30p Os Oc y dynell. CyjiRF.ia.—Rails, 7p 58 Oc i 7p 10s y dynell yn y gweith- ian Common bars, 6p Os Oe i 6p 5s Oe.
MANION.
News
Cite
Share
MANION. Bwriedir gostwng pris cludiad llythyrau rhwng Lloegr ac America i 33, arly laf o Ionawr, 1870. Mae y Parch. Henry Hayman, B.D., o Gotel- Sil John, Brycheiniog, wedi ei appwyntio yn olynydd 1 Dr. Temple yn Rugby. Gosodir bust o'r olaf yn ilyfr- gell y coleg, ac heblaw hyny mae ei hysgoleigion yn penderfynu gwneyd tysteb iddo. Mae Ardalydd Bute yn Vtwriadu rhoddi l,000p. at drysorfa adeiladu Prif Ysgol liewydd Glasgow. Mae Mr. Talbot wedi gwrthod y bendefigaeth a gynhygiwyd iddo gan Mr. Gladstone. Mae Mr. Gladstone wedi prynu Ystad Aston yn mlilwyf Hawarden, Swydd Ffiint. -=- -=- -=-
Advertising
Advertising
Cite
Share
THE CHURCH ESTABLISHED IN WALES. rriio EXECUTIVE COMMITTEE of the 1 SOCIETY for the LIBERATION of RELIGION from STATE PATRONAGE AND CONTROL, offer a Prize of £ 20 for a pamphlet on the working of the Church Establishment in Wales. The size to be about 60 pages, 8vo. 460 words in a page. The manuscripts to be sent in by the 15th. of February next. Further particulars, may be obtained on application to the undersigned. J. Carvel Williams, Secretary 2, Seargcnts Inn, Fleet Stret, London. LLANDILO ACADEMY. EG. Levi, of the Presbyterian College, Carmarthen, (the first Prizeman at every Ex- amination during his College Curriculum) respectfully begs to announce that the above Classical. Mathemo- tical, and Commercial School, (for many years conducted by the late Mr. Paghe) will be re-opened on Monday the 29th inst., and humbly solicits a con- tinuance of the Patronage so liberatly bestowed upon his Predecessor. The course of instruction, Terms, and Testimonials &c., will be forwarded on application. NEW ROAD, LLANDILO. Nov. 22, 1869. ASSISTANT WANTED. A young man about 21 or 22 years of age, to manage a branch shop in Wales. Knowledge of the Welsh language indispensable. Apply to II. W. Clay, Dod, and Case, St. Anno Street, Liverpool. CYFARPOD CIIWARTEROL MALDWYN. Oynhelir y nesaf yn Carno, ar y dyddiau Ian U a Gwener, Rhagfyr 9fed a'r lOfed. Y gynnadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Bydd y Parch. C. Evans, Fool, yn pregetliuyny cyfarfod a'r" Gydweith- rcdiad yr Ysl)ryd a'r Weinidogaeth;" a'r Parch. R. D. Evans, Glynhafren, ar "Wroldeb Orefyddol." D. Evans, Penarth, ) Ys" O. Evans, Llanbrynmair. J !Y" -u_ VERDICT, NOVEMBER 11TH.—"The_ inquest on the body of Albert Edward Johns, the child of R. Johns, tailor, of 7 Morley-street, Plymouth, who was burnt to death the previous day, was held yesterday at the Cambridge Inn, before J. Edmunds, Esq., coroner. It was shewn that the deceased, in the absence of its mother, must have lit some matches which were on the table, and thus set fire to the room. The jury, by their foreman, Mr. Rolestone, in returning a verdict of Accidental Death,' recommendedthe use of Bryant and May's Special Safety Matches, which light only by friction on the box in which they are contained. In this the coroner concurred." CrWELmAD IllIYFEDDOL ODDIWRTII BESWOII DEWY GYIIERYI) I'owiSLL'tf BALSAM OF ANISEED.— Netley" Llestr ei Maw* hydi, Wick, Uoglodd-ddwyreiniol Ysgotland, 7fed o Fed!, ISU3. Anwyl Syr—" Gan i mi gael fy mlino yn clost gan y L'esv.' oh, yrhyn a acliosodd i mi golli llawer no son o gwsg a :lvd liau blinedig, anogwyd 1i ga;i ei Avglwyddiaeth Iarll iJaitliness, i gymerydeiuli Bals,tll1 0 Aniseoù ehwi, atf.aiaf eicli sierhau foil y <loga cyntaf wedi rhoddi i mi es- m'wythad yn ddioed, hyd yn nod heb fy ngorfodi i roddi fy nywahauol ddyledswyddau heibio; cefais wellhad trwyadl ar ol cymeryd cynwysiad y botel gyutaf, gan hyny y mae genyf yr hyder mwyaf i'w gymevadwyo i'r miloedd. Yr eiddoch Va barclius, W. LINZELL, II.M.U.B., ICotloy.' Mr Powell." (iollir caul Balsam o Aniseed Powell gun yr holl lfferyllvyyr. lie .vn boteli, am Is l.c, a. 2s 3e. Yatordy, 16, BlackfriarS ltmcl, London. Oofynwch am Balsam o Aniseed Powell. HOIAOWAY'S PILI.S.—Indigestion, BSimacli Jjiver Com- plaints.—Persons sulfering from any derangements of the liver, stuuioi'h, or the organs of the digestion should liavo recourse to Ilolloway's Pills, a tiML-e is no medicine knowll tliat acta on these particular complaints with such certain success. Its peculiar properties strengthen the stumoch, in- crease the appetite and rouse the slugvyUh liver, ior bowel ooruplaints it is invaluable, as it removes every primary de- rat G'niont, thereby restoring1 the patient to the soundest health and strength. These preparations may bo used au all Limes and in all climates by persons a;Fectcd by biliousness, nausea, or disordered liver: for llatulcncy and heartburn they are specifics. Indeed no ailment of the do^esti\ e oigMUS can long resist their purifying and corrective powers.