Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

CYHHADLEDD r, Awr. AHERN YSTWYTH.

News
Cite
Share

amgylchiad o farwolaeth neu roddiad y swyddi fyny gan un non ychwaneg, fod i'r rhai byw ethol olyn-" ydd:—E. Al. Richards, Ysw., A. S. S. Morley, Ysw. A. S.; Henry Richard, Ysw., A. S. G. 0. Morgan, Ysw., A. S. a John Roberts, Ysw., Liver- pool. Parch. Dr. Rees Abertawe, mewn ymadroddion teimladwy ac effeithiol, a gefnogodd y penderfyniad. Dywedai nad peth newydd ydoedd i'r Cymry gaol ou herlid am eu golygiadau yr oeddynt wedi bod yn ymladd brwydrau rhyddid crefyddol er's dau gan' mlynedd yn ol, ac wedi enill y fuddugoliaeth; ac y mae ganddynt yn awr fel yr ymddengys, i ymladd brwydr rhyddid gwladol, a chan sicred a'u bod wedi enill y naill, yr oeddynt yn sicr hefyd o enill y llall, canys yr oedd eu haehos yn sylfaenedig ar egwyclclorion gwirionedd a cliyfiawnder. (Cym- eradwyaeth.) Gyda golwg ar yr ymosodiadau lloch- wraidd a wnaed ar gymeriad gweinidogion yr ef- engyl yn y papyrau Toryaidd, yr oedd yn teimlo yr un fath a'r dyn hwnw a ddywedodd fel yr oedd ef yn teimlo pan ddarllenodd hancs ei farwolaeth ei hun yn y papyr-yr oedd yn teimlo, "Nid gwir," "Nid gwir" yw yr hyn a ddywedid am danynt hwythau, a thystiai cydwybod yr ysgrifenwyr eu hunain, "Nid gwir." (Cymeradwyaeth.) Cynygiodd Dr. Sandwith, aceilioddW. H. Darby, Ysw. fod pob cais am iawn i gael ei ystyried yn gyntaf gan bwyllgor cyffredinol dros bob sir, i'w hethol yn y cyfarfod hwnw, a bod iddynt wnoyd adroddiad o bob achos ar wahan, ar ol casglu ac ys- tyried pob tystiolaeth ddiohonadwy ar y mater, a bod barn y rhai fo ganddynt hawl i weithredu, os yn un- frydol, i gael ei ystyried yn derfynol, os fel arall, fod iddo gael ei gyfeirio i archwilwyr i gael eu heth- ar ol hyn am bob sir. Cynygiodd Dr. Norton, ac eiliodd y Parch. E. Evans, Aberayron, fod i nifer o foneddigion a enwyd weithredu fel pwyllgor cyffredinol am y gwahanol siroedd, ac un o bob sir i fod yn ysgrifenydd. Cynygiwyd hefyd fod i geisiadau o bob sir gael eu cyfeirio a'u penderfynu gan y pwyllgor a'r ar- chwilydd ymhob sir, a bod eu barn i fod yn derfynol —hefyd fod E. M. Richards, Ysw., A.S., i weithredu fel trysorydd, a Mr. J. Griffith (Gohebydd) fel ys- grifenydd i'r symudiad. Yna dosbarthwyd papyrau ymysg y rhai oedd yn bresenol, gyda dymuniad ar iddynt nodi swm eu tanysgrifiadau, yn gystal a'r swm a fwriadent ei roddi at y drysorfa ddiogeliadol nou guarantee. CYFARFOD CYHOEDDUS. Yn yr hwyr, am 7 o'r gloch, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr un lie, ac ymhell cyn yr adeg i ddechreu yr oedd yr adeilad eang wedi ei gorlenwi. Cymerwyd y gadair gan John Roberts, Ysw., yn absenoldob Mr. Osborne Morgan, yr hwn a ludd- iwyd gan amgylchiadau anorfod i fod yn bresenol- Dywedodd Mr. Roberts nad oedd yr aelod anrhyd- eddus dros Sir Ddinbych mor adnabyddus iddynt hwy yn y De ag oedd iddynt hwy yn Goglcdd. Yr oedd nid yn unig wedi enill dust y Ty," fel y dy- wedir, ond wedi enill lie yn nghalon pob Cymro. Yr oeddynt hwy yn Sir Aberteifi wedi enill brwydr galed yn yr etholiad diweddaf; ond yr oeddynt wedi cyfarfod ynghyd y dydd hwnw, nid i ymorfoleddu mewn buddugoliaeth, ond i gysuro ac i gydym- deimlo a'r teuluoedd anffodus hyny sydd yn awr yn dioddef yn y sir hono yn gystal ag yn siroedd craill Cymru. Yr oeddynt dan rwymau i gydnabod gwr- oldeb a dioddefgarwch yr etholwyr yn yr amgylch- iadau poenus a'u goddiweddodd yn nghyflawniad o'u dyledswyddau. Gobcithiai—ac yn wir yr oedd yn sicr—y caent foddion gwahanol i gofrestru eu pleidleisiau cyn bo hir, ac y cofiai yr etholwyr ym- ddygiad y tirfeddianwyr gorthrymus hyny a ang- Y,n hofient eu sefyllfa uchel mewn cymdeithas, ao a geisient amddifadu eu tenantiaid o'u hawliau polit- icaidd. (Cymeradwyaeth.) Mr. E. M. Richards, A.S., a ddarilenodcl bender- fyniadau y Gynadledd. Mr. Morley, 4.S., a ddywedodd fod y cyfarfod hwnw yn cynrycfe&>li nid Ymneillduwyr yn unig, end Eglwyswyr hefyd, sydd yn dyheu am ryddid. Credai fod ganddynt lywodraeth onest, yn pender- fynu gwneyd gwaith gonest; a chyhyd ag y gwnaent hyny, meiddiai ddweyd nad oedd gobaith i'r Tory- aid ddyfod eto i awdurdod byth mwy. (Cymerad- wyaeth.) Yr oeddynt yn cyfarfod i ddangos eu hatgasrwydd eithaf at ymddygiad rhai dynion oedd yn hawlio iddynt eu hunain hawliau ar draul mathru hawliau eraill dan draed. Un daioni oedd yn debyg o ddeillio oddiwrth yr amgylchiad hwn oedd ei fod yn foddion effeithiol i argyhoeddi dynion sy'n awr yn siglo gyda golwg ar y dymunoldeb o gael pleid- lais ddirgelaidd; a dywedid wrtho ef, pe mabwys- iedid y tugel na fyddai cymaint ag un aelod Ceid- wadol yn un rhan o Gymru ac os gwir a ddywedid fod saith o bob wyth o'r etholwyr yn Ymneillduwyr, felly y dylai fod, Ef felly y dymunai yntau iddi fod, (cymeradwyaeth.) Crybwyllodd Mr. Morley am yr hyn a gymerodd le ddydd Sul diweddaf mewn cys- ylltiad a .Maer Trallwm, yr hwn a ddymunai, fel Annibynwr, ar i aelodau y cynghor trefol fyned gydag ef i gapel lie yr arferai addoli, ond arferwyd pob dichell gan y clerigwr a rhyw bersonau eraill i J rwystro i hyny gymeryd lie, yr hyn a ddengys fod yr un ysbryd a gyneuodd danau Smithfield eto ar waith yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. (Uchel gymeradwyaeth.) Mr. Henry Richard, A.S., oedd y siaradwr nesaf. Dymunai ef wneyd eithriad anrhydeddus wrth son am dirfeddianwyr, a nododd yn arbenig hen deulu rhyddgarol Gogerddan, pa rai a geid bob amser yn sefyll i fyny dros egwyddorion rhyddgarol, a hyny pan pan nad oedd ^yr egwyddorion hyny mor bobl- ogaidd ag ydynt yn awr. (Cymeradwyaeth.) Nid oeddynt yn ceisio gwneyd ymosodiad ar neb yr oeddynt yn sefyll ar yr ochr amddiffynol. Pwy oedd yn gosod dosbarth yn erbyn dosbarth ? Nid hwynt hwy. Yr oeddynt yn ceisio amddiffyn y gwan yn erbyn y cryf, ac yn sefyll i fyny dros iawn drefn a hawliau cymdeithasol deiliaid ei Mawrhydi, yn ngwynob yr ymgais mwyaf beiddgar a thrahaus i'w llethu a'u gorthrymu. Y rhai hyn ydynt fradwyr y cyfansoddiad. (Cymeradwyaeth.) Y mae rhai tirfeddianwyr yn tybied y dylai fod ganddynt hawl i bloidlais eu fformwyr fel pe byddent gaethion. A gaiff hyn fod ? Yn nerth Duw ni chaiff fod. (Cym- eradwyaeth.) Yn awr am rai engreifftiau o'r gorth- ,,r rwm a ddioddefir:-W. Evans, Tredwr, Llangranog, gwraig a 7 o blant; wedi bod yn denant am 13 o flynyddoedd, a'i deulu am 70 o flynyddoedd. Wedi rhoddi 200p. yn y tir, a'i daflu allan heb ffyrling o iawn. Samuel Jones, Dolgoed, ardreth 135p yn flynyddol, gwraig ac amryw blant, wedi ei daflu allan heb ddim iawn. David Evans, Erwan-bach, ardreth 45p. W. Nicholas, Ffynon-ddewi, nid am fod ganddo ef bleidlais, ond am fod ei frawd-yn- nghyfraith wedi bod yn lied zelog yr ochr arall yn yr etholiad. Gwnaeth Mr. Richards appeliad grym- us at deimlad a synwyr y gynulleidfa i fathru ym- ddygiadau isel ac annheilwng fel hyn o'r wlad. (Cymeradwyaeth.) Y Parch. J. Thomas, Liverpool, a ddywedai ei fod ef yn codi, nid i wneud araeth, ond i wneud myneg- iad yn Gymraeg o weithrediadau y gynhadledd yn y boreu. Dywedai fod y gynhadledd a gawsant yn un o'r rhai pwysicaf os nad y bwysicaf a fu yn Nghymru erioed ar gwestiwn politicaidd. Yr oedd tua 300 o gynrychiolwyr yn bresenol o Ddehou a Gogledd Cymru, a chryn nifer o gyfeillion o drefydd Lloegr oodd yn cydymdeimlo yn drwyadla'r amcan. Yr oedd yr unfrydedd mwyaf yn y gynhadlodd ar yr holl gwestiynau a ddygid ger bron. Yr oedd tri o'r penderfyniadau yn cynwys y llawenydd a deimlid fod y fath ffyddlondeb i egwyddor wedi ei ddangos yn Nghymru yn yr etholiad diweddaf—y cydym- deimlad a amlygid a'r rhai oedd yn dyoddef oher- wydd cu pleidleisiau—a'r rhwymedigaeth sydd ar bawb sydd yn anrhydeddu y fath onestrwydd i gy- northwyo y rhai sydd wedi cael sarhad a cholled (cymeradwyaeth). Ond yr oedd rhywbeth heblaw siarad wedi wneud. Peth rhad iawn ydyw siarad; ond yr oedd y cydymdeimlad wedi cymeryd ffurf ymarferol. Cytunwyd ar dri chynllun i estyn help i'r dyoddefwyr. Yn gyntaf, trwy gyfraniadau a thanysgrifiadau yn nniongyrchol-ac yr oedd hyny wedi ei ddechreu. Cafwyd addewidion am rhwng SOOp. a lOOOp. yn y gynhadledd y boreu, y rhai a delir yn uniongyrchol (cymeradwyaeth). Mae y swm yna wedi ei roddi gan ychydig o bersonau ac nid ydyw ond blaenffrwyth o'r hyn sydd i ddyfod. Yn ail, bwriedir gwneud apeliad at holl eglwysi Cymru, ar i gasgliad cyffredinol gael ei wneud yn mhob capel perthynol i bob enwad ar y Sabboth cyntaf yn Ionawr er cynorthwyo y rhai oedd wedi cael colled. Ac o'i ran of, nid oedd ganddo ddim yn erbyn cael casgliad o'r holl Eglwysi plwyfol hefyd (chwerthin); ond ofnai nad oedd fawr obaith y ceid hyny. Bydd- ai y casgliadau hyn nid yn unig yn gynorthwy, ond yn amlygiac1 o gydymdeimlad cyffredinol, yr hyn ar yr adeg bresenol sydd yn wir angenrheidiol (cymer- adwyaeth). Buasai yn well ganddo ef gael punt oddiwrth gynulleidfa na'i chael oddiwrth un person, am y byddai o'r gynulleidfa yn cynrycbioli teimlad- au y Iluaws. Yr oedd teimlad cryf yn y gynhadledd am i'r casgliad gael ei wneud yr un Sabboth yn mhob man; ac yr oedd y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn yn gyfle nodedig i bawb roddi ei Galenig i'r dyoddef- wyr cydwybodol hyn (cymeradwyaeth). Os na bu- asai y tanysgrifiadau uniongyrchol, a chasgliadau y cynulleidfaoedd, yn ddigon i lwyr ddigolledu y rhai a ddyoddefodd eisioes ar ol yr etholiad diweddaf, neu y rhai all ddyoddef eto, yr oedd ganddynt drydydd cynllun i godi Trysorfa Warantiol ac yr oedd yn eu plith foneddwyr haelionus yn barod i fyned yn ddwfn i'w pocedau os byddai raid. Yr oedd eu cyf- aill haelionus Mr Morley gyda'i haolioni arferol yn barod i roddi ei enw am lOOOp., yn ychwanegol at y lOOp. a addawodd, i'w dalu yn uniongyrchol (uchel gymeradwyaeth). Nid oedd eu parchus gadeirydd yn bwriadu bod yn mhell ar ol Mr Morley yn yr achos yna (clyweh, clywch) ac yr oedd llawer ereill yn barod i warantu unrhyw swm fydd yn ofynol i dalu pob colled a all godi o'r etholiad diweddaf. Ni byddai dim mor sicr o yru braw trwy galonau y gor- meswyr a chlywed son am y miloedd punau yma (clywch, clywch). Pobl yn credu mewn arian oedd- ynt, a 'doedd ofn dim arnynt ond ofn arian. Maent wedi dychrynu trwy eu calonau gyda'r son am y miloedd punau yma, cyn i geiniog o honynt gael eu talu (cymeradwyaeth). Dyna y tri chynllun a gy- meradwywyd i godi arian i gynorthwyo y rhai sydd ar hyn o bryd yn ferthyron oblegid cydwybod a gwirionedd. Datganai Mr Thomas y clod mawr oedd yn ddyledus i Mr E. M. Richards, a'r Goheb- ydd, ac ereill, am y llafur mawr oeddynt wedi ei wneud hyd yma; a'u bod wedi gwneud eu gwaith mor dda fel yr etholwyd hwy yn unfrydol, un i fod yn Drysorydd a'r llall yn Ysgrifenydd i'r symudiad, a gwyddai y cydsynient oil ag ef fod yn anmhosibl fod yr achos mewn gwell dwylaw (uchel gymerad- wyaeth) ac nid oedd achos fod unrhyw betrusder yn ol y cynllun a fabwysiadwyd, a'r personau a dde- wiswyd i ystyried yr achosion yn mhob sir, na wneir pob peth yn hollol foddhaol i bawb. Gwyddent oil fod anhawsderau ynglyn a'r gwahanolachosion, ond yr oedd y personau a ddewiswyd yn hollol gymhwys i'r gwaith, ac yr oedd gan bawb oedd yn eu hadna- bod yr ymddiriedllwyraf ynddynt (cymeradwyaeth). Apel-iai yn daer at bawb oedd yn bresenol i wneud eu rhan gyda'r symudiad, ac i roddi ar ddeall yn ddigamsynied i dirfeddianwyr gormesol a'u stiward- iaid trahaus na ddyoddefwn i'n cydwladwyr gael eu colledu heb ddangos iddynt ein cydymdeimlad sylw- eddol (uchel gymeradwyaeth). Parch. E. Evans, Caernarfon, a wnaeth araeth Seisnig rymus a hyawdl, yr hon a dderbyniwyd gyda banllefau o gymeradwyaeth. Caiff ymddangos yn llawn yn y nesaf. Mr Gee, Dinbych, a ddywedai fod yn anhawdd gwybod pa deimlad a ddylai fod uchaf yn ei galon yn ngwynob yr hyn a ddisgynodd i ran rhai o'i gyeletholwyr-pa un ai gofld oherwydd y golled bersonol a deimlasant, ynte llawenydd am iddynt gael gwneud gwasanaeth i Dduw a'u gwlad. Ni fu yr un dyn yn gwneud y peth oedd iawn heb fod Duw yn ei dalu mewn mwy cys/lltiad nag un. Fe fydd raid i foneddigion sir Aberteifi blygu i farn tanllyd condemniad y bobl. Credai ef fod yn ddyledswydd arnynt, os oedd cyfraith mewn bad, i ddefnyddio braich gref yr awdurdod gwladol i'w cosbi a'u dwyn atynt eu hunain. (Uchel a maith gymeradwyaeth,) Dr. Sandwith, mewn araeth llawn o fywyd a ffraethineb, a roes air o gyngor i'r tenantiaid, ar iddynt ffurfio math o undeb yn mysg eu gilydd fel undeb y crefftwyr yn Lloegr, a pheidio ymddibynu yn hollol ar allu allanol. Parch. J. Davies, Caerdydd, a gynhygiodd chwan- cgiad at un o,r penderfyniadau a basiwyd yn y bore, gyda golwg ar rai o'r siroedd. Gwnaeth sylwadau miniog ar absenoldeb rhai o aelodau seneddol Cymru, oherwydd rhyw amgylchiadau bychain a distadl,-y dylasent wneud mwy o aberth o'u cysur- on personol, er mwyn lies cyffredinol a phersonol yr etholwyr. Cymerodd Mr Davies gipdrem ar sefyllfa etholiadol rhai o siroedd Deheudir Cymru, ac os oedd yno rai heb fod yn cynrychioli syniadau y bobl meiddiai ddweyd na pharhai hyny yn hir yr oedd- ynt yn benderfynol y mynent ddangos nid yn unig eu bod yn Gristionogion, ond yn ddynion. (Cymer- adwyaeth.) Eiliwyd y cynhygiad gan Mr Matthews, maer, a chariwyd yn unfrydol. Mr Lester, Wrexham, a anerchodd y cyfarfod yn nesaf. Parch. J. R. Kilsby Jones a adroddai ymddiddan a gymerodd le rhyngddo a gwr dysgedig ynghylch sefyllfa gymhariaethol Iwerddon a Chymru, a dang- osai mai yr achos o'r gwahaniaeth ydoedd crefydd a gwasanaeth crefyddol yr Ymneillduwyr. Mr Simon Jones, Bala, a ddywedai, ar ol adrodd hanesyn am rywun yn cael archolli ei grymog, ac yn talu da am ddrwg, fod eglwyswyr Cymru wedi bod am bedwar can' mlynedd yn ysgol Harri VIII, yn dysgu A, B, C, ond eu bod yn Iwerddon wedi bod yn ysgol yr apostolion ac wedi dysgu yr A, B, 0, mewn tri mis. Yr oedd :pobl eraill wedi cael crafu eu crymogau cyn hyn, a chyda golwg ar grymogau pobl sir Aberteifi, yr oedd yma Samaritaniaid wedi dyfod ynghyd i roddi plaster ar y briwiau. Iaith a ballai i ddesgrifio dullwedd areithyddol y siaradwr hwn-rhaid ei glywed er mwyn gallu ei werth- fawrogi. Cynhygiwyd diolchgarweh i'r Maer am ei wasan- aeth yn trefnu y cyfarfodydd, ac yn dwyn yn mlaen y pwyllgorau yn ystod y dydd. Dywedai y Maer fod y clod yn ddyledus i'r aelod anrhydeddus dros y sir, ac i'w gynorthwywr, Gohebydd. Mr Henry Richard a gynhygiai ddiolchgarweh i Mr Morley, yr hyn a eiliwyd gan Mr E. M. Ri- chards. Pasiwyd y cynhygiad gyda thair banllef fyddarol. Milwriad Stepney a gynhygiodd ddiolchgarwch i'r cadeirydd. Y Gohebydd, wrth eilio, a ddywedodd ei fod ef yn teimlo yn siomedig oherwydd un neu ddau o bethau. Yr oedd yn siomedig na ddaeth yr un o aelodau seneddol Gogledd Cymru yno. Dyna Mr Jones- Parry,—ni ddylasai tipyn o anwyd ei gadw ef draw, felly hefyd Mr Richard Davies. Hwy ddylasent fod yno, a thori ar draws anhawsderau i wasanaethu achos mor deilwng. Wedi pasio y diolchgarwch diweddaf hwn mewn modd gwreseg, terfynwyd gyda thair banllef i Mr Gladstone a Mr Bright.