Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr; ac nid yw eu cyhoeddiad yn ein colofnau yn ddigon i brofi ein bod yn eu cymmeradwyo. Nis gallwn eu cau allan heb gael ein cyhuddo o geisio cyfyngu ar ryddid y wasg.—YGOLYGWYR.]
TYSTEB DR. REES, ABERTAWE.
News
Cite
Share
TYSTEB DR. REES, ABERTAWE. Anwyl Gyfeillion,—Gobeithio na wnewch flino arnom unwaith eto yn galw sylw at y mudiad hwn. Dyma'r tro cliwe,(Idaf i ni ysgrifenu i'r wasg yn ei gylch. Mae y Pwyllgor yn dal at cu penderfyiliad i gau i fynu eu cyfrifon Tachwedd 30ain. Nid gwiw llusgo y peth yn mlaen yn hwy, onide gwna fyned yn ddiflas. Da chwi anfonwch eich rhoddion yn ddi- oed. Mae symiau da yn dyfod i mewn bob dydd; ond gwyddom fod llawer ar ol. Da chwi gwnewch ar fryg. JOHN HUGHES, Cadeirydd. B. WILLIAMS, ) V F. SAMUEL, J Ysgnfenyddion. Tachwedd 20fed, 1869.
UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMREIG.
News
Cite
Share
UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMREIG. At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Mae Herber yn wastad yn ffodus iawn yn ei ddewisiad o destynau i ysgrifenu arnynt, ac y mae yn gwneud hyny yn y modd nas gall neb ond Herber wneud ond credu yr wyf ei fod yn neillduol ffodus yn ei ddewisiad o destun am yr wythnos ddiweddaf; ac y mae yn dda i gyfeillion y symudiad mai Herber sydd wedi ci gymeryd mewn llaw, gan fod hyny yn ddigon o wystl iddynt fod yna ddigon o bower wrth gefn i beri na bydd stoppage oherwydd diffyg SEL, GALLU, na DAWN. Wrth ystyried, mae yn ymddangos yn beth i'w synu na buasai rhywbeth effeithiol wedi ei wneud cyn hyn i symud yn yr achos er cael Undeb Cynull- eidfaol yn ein plith fel Cymry ond mae cymaint o ofn rhywun a i-hytt-be(lb arnom, fel mae'n well gcnym yn ami eistedd yn llonydd, na chymeryd ein galw yn 4 Drefnyddion' ac yn elynion Annibyniaeth.' Ond yn awr, pan mae yr udgorn wedi ei seinio, gadewch i ni un ac oil ymuno a'n gilydd i gario allan yr hyn sydd yn cael ei deimlo yn ein plith er's blynyddoedd fel peth hollol angenrheidiol; ac ond ei gael, nid ocs un amheuaeth na theimla y rhai sydd yn wrthwynebol yn awr, erbyn hyny, ei fod yn gweithio llawer iawn o les i'r eglwysi. Gan fod Herber wedi taro y tant, gadewch i ni gael ei glywed yn canu'r delyn i wahodd gweini- dogion a lleygwyr yr enwad i Gaernarfon i gymeryd y pwngc i ystyriaeth, ac i drefnu y mesurau goreu er ei gychwyn a'i gario yn mlaen yu effeithiol. Gan mai efe yw y symudydd yn yr achos, byddai yn ddi- gon naturiol i ni ddisgwyl wrtho i gymeryd y rhan flaenaf yn ei weithiad allan. Nid oes amser i'w golli, gadewch i ni fyned at y gwaith yn awr. W. J. P.
At Olygwyr y TYST CYMREIG.…
News
Cite
Share
At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,-Yn y rliifyn cyn y diweddaf o'r TYST, ymddangosodd ysgrif werthfawr o eiddo eich gohebydd doniol ar y mater pwysig uchod ac yn hono, fel pob peth arall o'i eiddo, dengys y fath zel a brwdfrydedd ag sydd yn fy nghaethiwo i edmygu ei ben a'i galon. Nid fy amcan yn awr yw galw sylw at yr ysgrif na'i hawdwr (er fod y naill a'r llall yn ddwbl deilwng), ond at y cwestiwn, A ellir cael Undeb Cynulleidfaol Cymreig ? Posibl fod ambell un yn barod i ofyn cwcstiynau ereill cyn gwneud sylw o'rhynanodwyd—megys, A oes eisieu mwy nag sydd o undeb yn ein mysg fel Annibyn- wyr Cymreig P Ac, A fyddai Undeb o'r fath ag a awgrymir yn werth ei gael ? &c. Atebwn y fath gwestiynau yn gadarnhaol, a hyny heb y gradd lleiaf o betrusder. Fod cymaint o allu a thalent yn ein mysg ni ag sydd gan unrhyw enwad yn y Dy- wysogaeth, a gydnabyddir gan bob nn sydd a'i lyg- aid a'i glustiau yn agored. Er hyn oil, y mao yn amheus genyf fod y pethau hyny yn tramwyo y ffordd effeithiolaf er llwyddiant ein henwad a Iled- aeniad achos crefydd yn y wlad. Y mae llwyddiant ei enwad yn rhwym o fod yn gryn beth yn ngolwg pob Annibynwr goleuedig. Nid wyf yn gweled fod galluoedd yr enwad yn cael eu dwyn i gyfarfyddiad teg a boddhaol a phyngciau cyhoeddus a chyffred- inol, ac oblogid hyny dadleuir a grwgnechir yn en- bydus gan ryw ddosbarth. Onid yw y symudiad er cael Colegdy ncwydd yn y Bala yn engraifft o hyn ? Yr ydym hefyd drwy ddiffyg y fath. Undeb i fesur helaeth yn colli gwasanacth gwcrthfawr allesid gael oddiwrth lawer o'n gweinidogkm a'n lleygwyr gwy- bodus a phwyllog ag ydynt o farn addfed. Gyda llaw, onid ydym wedi igi/oriog ormod ar ein lleygwyr, a thrwy hyny fod yn fyr o enill Ilawer llanerclx obeithiol allasai fod yn ein meddiant P Mac llwydd- iant yr enwad sydd wedi rhoddi cryn le i leygwyr yn brawf diymwad o werth gwasanaeth y cyfryw. Os dywedir nad ydoedd hen gedyrn ein gweinidog- aeth yn y dyddiau gynt yn gwneuthur mwy o sylw o leygwyr nag a wneir genym ninau, dywedaf inau hwyrach y buasai yn well pe buasent wedi gwneud mwy o sylw o honynt; ac heblaw hyny, ni feddent hwy y fath restr enwog o honynt ag y mae genym ni yr anrhydedd o'u rhifo yn mysg ein cynulleidfa- oedd y dyddiau hyn. Ond rhaid peidio ymhelaethu ar hyn yn awr. Gallai Undeb Cymreig fod yn foddion i ddwyn dynion teilwng i'r sylw a deilyngant, a chynyrchu cnwd toraethus o bapurau a fyddant yn ychwa- negiadau pwysig at ein llenyddiaeth enwadol. Byddai yn fantais i'n gweinidogion ddyfod i fwy o adnabyddiaeth o'u gilydd, yn gystal ag yn foddion i wroli meddyliau llawer un sydd fel fhiau yn llafurio gyda phraidd bychan yn ngbanol tyrfaoedd mawrion o enwogion ereill. Oud y pwngc yw, a ellir cael Undeb Cynulleidfaol Cymreig ? Gellir yn ddiau. Diamheu fod rhai anhawsderau pwysig ar y ffordd, ond credaf nad oes un nad oes modd tori trwyddo neu drosto. Nid oes mwy o anhawsderau ar ein ffordd ni nag ydoedd ar ffordd y Bedyddwyr pan sefydlasant Undeb eyffelyb, tra mae ein manteision yn llawn mor lluosog a'r eiddynt hwythau, os nad mwy. Teimlwn, Meistri Gol., yn dra diolchgar i Herber pe yranrhegaini ag ysgrif eto ar y pwngc, ac un a fyddai yn cynwys sylwadau ymarferol er cychwyn y peth. Both a fyddai iddo osod y mater o dan sylw y Cyfarfod Chwarterol y pertliyn iddo ? Mae yno gawri enwog heblaw efe, nid llai na'r Parchn. Tho- mas, Bangor Roberts, Caernarfon Stephen, Tan- ymarian Parry, Llundudno Griffiths, Portdinor- wic, &c., &c. Oddi yno gellid ei anfon i bob Cyfar- fod Chwarterol a feddwn drwy Gymru benbaladr, a chael barn gyffrediuol arno yn ddioedi. Yn y cyf- amser, gallai y TYST roddi ei ddylanwad eang o'i blaid. Gyda dymuniad ar fod i'r mater gael ei gymeryd i fynu o ddifrif heb goll amser. Y gorphwys yr eiddoch, I. G. EIGION.
[No title]
News
Cite
Share
Those Ladies who have not yet used the CkuJMA Slaixh are respectfully solicited to give a trial, and carefully follow out the directions printed on every package. It is rather more difficult to make than other Starches, but when this is overcome, they will say, like the Queen's Laundress, that it is the finest Starch they eyer used.
CELL Y GWYIIWR.
News
Cite
Share
CELL Y GWYIIWR. Awr Anterth, dydd Llun. Mr Darllenydd,— Buaswn wedi anfon gair atat yn nghynt gyda Mr TYST, oni bae fod hi yn oer ofnatsen yn nghanol yr cira yma. Mae'r grepach yn oer iawn wrth fy ngwinedd er's wythnosau bell- ach, mae arna' i ofn y cawn ni auaf oer iawn yleni beth bynag gofalwch am ddigon o danwydd mewn pryd bobl bach, 'does dim llawer rhwng yr inc a rhcwi allwn ni feddwl, yr oedd Shon Rolant yn dweyd gyna fod y glass tua 31°,-ao mi coeliit' i o hefyd. Mae llawer o ddigwyddiadau rhyfedd wedi ey- meryd lie yr wythnosau diweddaf hyn, a llawer o honynt yn werth ein sylw hefyd. Nid peth dibwys a gymerodd le i lawr tua'r hen dref Caernarfon accw dair wythnos i nos Iau di- weddaf. Oddeutu deg o'r gloch y noson grybwyll- edig uwchben masnachdy Mr John Davies (Gwyn- eddon), gwnaeth Goleuad' ei hymddangosiad yn nghanol ffurfafen ddisglaer a gogoneddus, a chan fod cryn lawer o ddarogan ac o brophwydo wedi bod yn ei chylch yn ddiweddar yr oedd llawer o bryder a disgwyliad am awr ei hymddangosiad, ac yr oedd amryw mewn dychryn rhag ofn y digwyddai rhyW anffawd yn ngororau y cysawd heulog, yr oeddwn yn gweled fod pobl ddewr Dinbych yn ehwifio I Daiieri' o lawenydd am yr amgylchiad bythgyf- iadwy, tra yr oedd eraill yn credu yn ddiysgog mai Uanwyll CorS' neu dylwytb teg' ydoedd; yr oedd y rhai oeddynt yn deall arwyddion yr amserau' yr ofni rhyw ganlyniadau dinystriol iawn, ac er mwyn bod yn dipyn o athronydd,—i archwilio'r uchelawg wybrenydd, acthum ar fy union i'r Waenfawr at yr hen batriarch i ymofyn benthyg ysbienddrych rhai o'r hen dywys- ogion Cymreig,—wedi cyrhaedd yno ac i'r hen hyn- afiaethydd archwilio ei drysorau, cawsom nad oedd yn ei feddiant yr un mor ddiweddar a hyny, a chyn- hygiodd i mi fenthyg spectacles yr hen seryddwr enwog Idris Gawr, neu eiddo Gwynn ab Nudd. Wei,—wedi cael gafael ar hon, daethum ar fy 'hed- iad yn ol i'm cell-ar lechwedd y mynydd yma,—i dreio experiment ar y Goleuad,' ac wedi cael yrhwd a'r llwch oddiarni, gOrfll arnaf blygu dipyn arni i fyn'd am fy nhrwyn olwynog, yna anelais yn union- syth i gyfeiriad y I Golouiii' dysglaer,-archwiliais bob congl o hono yn fanwl,—'roedd yno lawer o bethau go ryfedd, yn eu plith gwelais fvrch yn gwis- go clos tra yn rhodio mewn cym'dogaeth llaAvn o raiadrau prydferth rnewn ewr arall hefyd gwelais fyddin y Pltilistiairl yn ymddangos mown rhwysg a mawredd, ac fel pe yn bygwth ysgubo pobpeth o'i blaen i ddifancoll ac ebargofiant tragywyddol; yr oeddwn yn gwylied pob symudiad o eiddo'r newydd beth hwn, a thra ar gyffiniau y llwybr llaethog, er fy syndod dyma ysgogiad rhyfedd ac arswydus yn nghanol planedau y cysawdiau gortiehel,-ac erbyn deall beth oedd yr achos—gwelwyd fod y Goleuad' (neu yn hytrach gwr o honi) bron iawn a dyfod i gyffyrddiacl a rhyw ddefnyddiau hylosg a fflamawl yn yr eangderau rhwng y Llead air belen ddaearol, nes yr ofnid ar y cyntaf yr effeithiai i gymylu goleuni'r dydd; ond yn ffodus yn y cyfamser gwnaeth yr haul ei ymddangosiad dros lechwedd y Gadcr Idris draw, a'r canlyniad hapus fu i'r ser, y planedau, a'r Goleuad' rhyfedd, yswatio yn ddys- taw yn nghanol eithafoedd anfesuradwy ebargofiad, —gorchfygwyd y cyfan gan danbeidrwydd anwrth- wynebol y dydd, 'a bu tawelweh Inawr!! I Ys- brydion yr Herald' yn crochfloeddio o lawenydd hyd nes crynu o seiliau Twr yr Eryr :—' Amen '—- Poed felly y bo! Yr adsain annaearol 'nghyda hunllef y pregethwyr yn tramwy gyda chyflymdra y fellten ar draws Ynys Mon, ac yn mhen dau eiliad a chwarter, a chwinciad ceiliogwydd, dyna hen o-ol- yddion mynydd Paris yn dechreu aflonyddu o dan wadnau Vox,'—yntau yn y fan yn derbyn adgyf- nerthiad gwyrthiol a chymysglyd, o hyawdledd ac awen, o swyddfa Ceridwen ar lethr Parnassus, a chan agoryd ei enau efe a ddywedws yn gyffruus— Holo pa beth yw'r cynwrf sydd yn bod 0 dan fy nhraed y funud ryfedd hon Os mai fy hunan Voxaidd ydyw'r nod Mae'n bryd i minau bellaeh 'moen fy ffon (Yn ymaflyd mewn hen ffon onen fawr ao yn bloeddio) Eweh! ewch ? Ysbrydion ac Ismaeliaid '—ewch Yn ol i'cli cytiauhyd nes galwaf fi A rhoi gorchymyn i chwi sut y gwnewch Mae'n rhaid i bawb sy'n meddwl dod i fri At draed Gamaliel fyn'd i lyfu'r llwch, Gan fod yn ostyngedig a plien gam,' A choflwcli chwi naai Y yn Aml-IIwch A \vyr pwy sydd yn ildyn, a phwy sy'n sham J/yli yn unig biau'r drwydded hon I werthu 'sebon meddal,' ac i roi Fy llathen ar bregethwyr daear gron,— l'w-pw waeth i chwi beidio na ehyffroi! Mi wn i'r dim am 'Independia fawr,' Ae am fy nhad 5hon Goiif'—h(.n wr da 'rioed,— Gwn, fwy na dd'edaf wrthoeli chwi yn awr,— Ewch! ewch! cyn teimlo blaen fy nhroed (Pob Ysbryd a phob Hunllef yn carlamu ar draWO eu gilydd yn bendramwnwgl, pob un i'w ffordd el hun am ei fywyd,) I a bu tawelwch mawr!! (Diwedd y scene.)
At Olygivyr y TYST CYMREIG.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
At Olygivyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,-Mae y doniol Herber wedi codi y pwnc uchod i'r gwynt yn bur ddeheuig. Nis gall fod mewn gwell dwylaw. Ac ni wna ei drafod yn ngholofnau y TYST unrhyw niwed, tra y dygir y drafodaeth yn mlaen yn bwyllog a boneddigaidd. Drwg genyf nad ydwyf ynteimlo mor frwdfrydig a Herber yn y mater. Nid am nad wyf yn cydym- deimlo yn llwyr a'r syniadau a gynwys ei lythyr. Yr hyn a brofir ganddo ydyw fod undebau o'r fath wedi gwneuthur I alirhaethol les.' Yr wyf yn cyd- synio fel pawb eraill sydd yn meddwl rhyw ychydig fod hyn yn wirionedd ond nid yw dangos hyny, pa mor ddoniol bynag y gwneir hyny, yn profi fod angen Undeb Cynulleidfaol Cymreig.' Nid yw profi fod Undeb Lloegr yn gwneuthur lies yn dangos hefyd fod eisiau Undeb ar Gymru. Er mwyn cael dadleuaeth deg ar y mater, efallai y gwna Herber neu rhyw un arall sylwi ar y pethau canlynol:— 1. Mae gan Cymru Undeb, ond nid ydyw yn Un- deb Cymreig. Pan y mae cynifer o ysgolion dyddiol a cholegau i ddysgu Saesneg, ai cyson gwneuthur Undeb Cymreig pan y mae genym cisoes Undeb Seisnig ? 2. Nid ydyw Cymru wedi bod yn ddigon selog gyda'r Undeb presenol. Pe buasai felly, credwyf na buasai son am Undeb Cymreig. Pa sawl eglwys yn Nghymru sydd yn Undeb Lloegr a Chymru P Pa ham na buasai mwy ? 3. Colled i ni fydd llacio ein gafael yn Undeb Lloegr, ac enill i ni fel Annibynwyr Cymreig fydd asio'n dynach. (a) Mae Undeb Lloegr eisoes yn bower (mae y Thundcrer wedi ei gydnabod felly), a oes gobaith i Undeb Cymreig ddyfod felly yn o fuan ? (b) Gyda phob parch i bawb a phob peth Cymreig yn Undeb Lloegr y mae y dalent ddysglaeriaf. (c) Yno y mae y gallu arianol mwyaf. Yn wyneb y pethau hyn ai doeth ydyw i Gymru ddangos ei gwendid ? 4. A Jydyw Annibynwyr Cymru yn ffyddlawn i'r cyfarfodydd cyhoeddus sydd ganddynt ? Dyna y cyfarfodydd chwarterol a'r cymanfaoedd blynyddol, a ydyw sel Independia wedi myned yn fwy na lion- aid y rhai hyn ? Paham, yn enw dyn, y mae yn rhaid ord'ro suit newydd a mwy iddi P Nid yw y cyfarfodydd clrwarterol ond shams. Bwganod brain ydyw rhai cynhadleddau. I Yr hwn sydd anffydd- lawn yn y lleiaf sydd anffyddlawn yn y mwyaf.' Mae'r ysgaffaldiau yn rhy uchel a gwychion i'r building eisoes. Cael Undeb Cymreig fyddai codi rhai uwch a gwychacli eto o amgylch yr un building Yn yr iaith gyniedrolaf, ffol ydyw hyny. ELDAD.