Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
31 articles on this Page
Advertising
EIN TELERAU AM 1885. PRIS YN MLAEN LLAW, $2.50. Pill,"Pris y DRYCH i Glybiau $2 20 Pris y DRYCH i Gymru 3 00 ANFONER ARIAN mewn Post Office Or- ler, Postal Note neu Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy 1 T. J. GRIFFITHS, DBTCH OFFICE, UTICA, N. Y. BRANCH OFFICE, 810 Lackawanna Ave., Scranton, Pa. Advertisements will be received up to Saturday. E. R. LEWIS, MANAGER. IT IN Hysbysladau.-Dymunlr ar bawb fyddant yn anfon am unrhyw nwydd a hysbysir yn ein oolofnau, ddweyd wrth y perchenoglon mal yn y DBTCH y gwelsant yr advertisement. ^rnio nI RED may be found on file In New I ff|Q rAl bit York at S. M. Pettenglll, 37 Park Bow, George P. Rowell & Co.'s, 1C Spruce St., and at S. H. Bates, 41 Park Row (Time j Building) -where advertising contracts may be made for It. YMENYN AR COMMISSION." DAVID W. LEWIS & CO., 85 AND 87 BROAD ST., COB., SOUTH AND WILLIAM STS., NEW YORK. Yr ydym yn agored 1 wneyd trefniadau 1 gy- meryd y Milk Rolls, gwerthu y cynyrch ar gomls- twn a dychwelyd i'r cwsmer yr hyn elllr gael, o un neu ddau o Creameries, lie y cludir llaeth ddwywalth yn y dydd. Cymerwn holl ofal y gwerthladau, gwyllwn y cyfleusderau, ac anfon- wn checks 1 gwsmerlaid yn unlongyrcgoi. Clteirier- DAVID W. LEWIS & CO., New York. J T. WILLIAMS (Gwyddon), Commercial Traveler gyda y Mri. BENNETT SLOAN & Co. W. BROADWAY AC 82 THOMAS ST., NEW YORK, Allforiwr a. Masnachwyr Oyfanwerthol mewn TE, COFFI, SPICES, a gwahanol nwyddau perthynol l'r Grocery Busi- mat. Arwyddalr y cwmnl hwn yw "Y Nwyddau Goreu am y Prls Iselaf." Dymuna gefnogaeth y Masnachwyr Oymrelg M. ROHRHEIMER, Y Dilledydd Un Pris! TEILWNG 0 YMDDIRIED Dllladau wedl eu gwneyd gartref am brislau Is nag a elllr brynu mewn lleoedd eralll. Telir Sylw Neillduol i Wneu- thuriad Ar Archiad. 18 NORTH CENTRE ST., POTTSVTLLE, A 37 & 39 MAIN ST., SHENANDOAH, PA.
[No title]
[No title]
AR y trydydd cyfisol, cychwynodd Lieu- tenant STORY, 0 San Francisco, tuag Alaska, i archwilio yr afon Putnam, yr hon sydd newydd ei darganfod.
[No title]
DENGYS cylchgrawn Ffrengig fod nifer enfawr o'r babanod a ddygir i fyny ar y botel yn marw, a dadleua fod angen eyf- raith i gyfyngu ar y dull annaturiol a di- deimlad hwnw o fagu plant.
[No title]
AR y pumed cyfisol, dadorchuddiwyd nenestr goffadwriaethol i SHAKSPEABE, yn eglwys Stratford-on-Avon, gan HOWABD POT- TEB, o New York. Talwyd am dani a rhodd- ion ymwelwyr Americanaidd a'r lie.
[No title]
TUAW teuluoedd y deg mwnwr a gladdwyd yn nglofa Raven Run, Pa., oddeutu mis yn ol, wedi dwyn cyngaws yn erbyn y Cwmni am $200,000 neu $20,000 yr un. Seilir y cwynion ar esgeulusdod y Cwmni i ddar- paru y diogelwch cyfreithlon i'w weithwyr.
[No title]
YN ystod y flwyddyn ddiweddaf codwyd $30,800,000 o aur, a $79,660,000 o arian o fwngloddiau y Talaethau Unedig, yr hyn oedd yn $800,000 yn rhagor o aur, ac yn $2,400,000 yn rhagor o arian nag a gafwyd ynddynt yn 1883.
[No title]
WEDI hyn bydd pregethwyr ao Ustusiaid Pennsylvania yn agored i ddirwy 0 $200 am briodi rhai dan oed, heb ganiatad eu rhieni; a bydd rhai rhy ieuainc a dwyllant unrhyw briodwr am eu hoedran, yn agored i ddirwy o $300. Gwelir fod priodi yn myned yn beth mwy difrifol yn Nhalaeth y Maen Clo.
[No title]
Ni, feddyliasom hyd yn ddiweddar fod ELLEN TERRY, yr actres, y fath hen asgwrn. Bu yn briod dair gwaith: y tro cyntaf gyda Mr. WATTS, yr hwn a gafodd lythyr ysgar oddiwrthi; yna gyda Mr. WARDEu., oddiwrth yr hwn y mynodd hi ysgariad; ao yn ddi- weddaf gyda CHABLES KELLY, yr hwn a fu farw yn ddiweddarl Diameu y bydd y "Miss" bellach yn cynllwyno am HENBY IRVING.
EDGAll ALLAN POE.
EDGAll ALLAN POE. Ar y pedwerydd cyfisol, dadorchuddiwyd tabled o EDGAR ALLAN POB yn y Metropolitan Museum of Art, New York, gyda seremoniau priodol Bhoddwyd y miwsig gan seindorf GILMOBE, a ohafwyd anerohiadau gan ALOEBNON S. SULLIVAN, EDWIN BooTH a WIL. LIAM R. ALOES. Dygwyd y rhan fwyaf o'r treuliau gan nifer o aotwyr. Gosodwyd y ddelw yn y mur, yn "Nghongl y Beirdd," yn agos i WALTBB Soorr. Dyn rhyfedd lawn, iawn oedd Poz. Bu ei rieni farw pan oedd ef ya ieuanc. Fel hwythau, treuliodd lawer o'i amser o gyleh y chwareudy, er na fu ef o gwbl yn actiwr, ac er na chyfansoddodd ddim dramataidd. Dyoddefodd lawer oddiwrth dlodi, yr hwn ddygodd arno ei hunan, trwy ei afradlonedd a'i anfoesoldeb. Dyrysodd lawer ar ei ymen- ydd a'r owpan gwin. Yr oedd ei fuohedd yn Baltimore wedi troi y rhan fwyaf o'i gydnabod yn ei erbyn, oyn iddo ddyfod at ddiwedd "y twymyn a elwir yn fywyd." Ond beth bynag am ei gymeriad, nis gellir gwadu ei fod yn un o feibion athryl- ith. Ac athrylith ryfedd dros ben oedd gan- ddo. Fel Bardd saif wrtho ei hun yn holl- ol. Hynodir y rhan fwyaf o'i gynyrchion gan ryw swn dyeithrol, torcalonus, dryoh- iolaethus. Tueddant i enyn hiraeth a phruddglwyf. Yr oedd eu hawdwr mor Biomedig, ar ol dyhysbyddu cwpanau pleser y byd, ag ydoedd BYBON; ond ni wnaeth y siomiant ef mor sarug a dyngasaol. Fel GOETHBJ actiodd y Mephistopheles a bort- readodd ei ysgrifbin; ond ni throdd, fel y bardd-philosophydd Ellmynaidd, i athron- yddu cyfiawohad i'w ymddygiad. Os bu farw gyda beiau, bu farw yn eu cydnabod. Y mae ei gorff wedi ei gladdu: anghofier ffaeleddau ei ysbryd; ac edryeber ar ei ben- ddelw yn Amgueddfa New York yn nnig fel coffadwriaeth o'i athrylith. Tra yn mwyn- hau perarogl enaint gwerthfawr ei Ganiad au, na feddylier am dolciau y blwch y daeth o hono.
RHEITHFARN WAUTHUS.
RHEITHFARN WAUTHUS. Ddechreu yr wythnos ddiweddaf. yn ninas New York, rhoddwyd RICHABD SHORT. y dycamitwr, ar brawf am drywanu dynamit- wr arall o'r enw Capten THOMAS PHELAN, yn swyddfa yr archddynamitwr, O'DONOVAN ROSSA. Profwyd ac ni wadwyd y trywanu a'r yrogais i ladd; ond henwyd mai hunan- amddiffyniad oedd y cwbl. Dynoethodd PHELAN ei archollion erchyll ger bron y rheithwyr; ond tyngodd rhai o bleidwyr y cyhuddedig fod y Capten creithiog yn byth- eirio bygythion gwaedlyd yn erbyn ROSSA a'i gefnogwyr pan gymerodd y ffrwgwd lof- ruddiog Ie. Ar ol elywed y tystiolaethau a gwrando apeliadau y cyfreithwyr a siars y Barnwr, ac ymgynghori am ddwy awr, dyg- wyd i'r llys y rheithfarn annysgwyliadwy, "Dieuog," a chafodd arwr y twea ysglisiol ei lyddhau, yn nghanol ysgreohfeydd budd- ugoliaethus ei gyfeillion. Yn awr, nid yw fod bagad o Wyddelod wedi ffraeo, ac fod dau o honynt wedi oeisio lladd eu gilydd, o nemawr bwys. Buasai i'r naill a'r Hall lwyddo yn ei ymgais yn fendith i'r byd. Yr hyn sydd yn ddifrifol ydyw, fod llys barn yn gadael i drosedd di- ameuol ac ysgeler ddianc heb ei gosbi. Y mae yn waradwydd i'n gwlad fod oynifer o'n dinasoedd mawrion wedi myned i grafangau y fath swyddogion ag sydd yn eu rhedeg. Pan fyddo rhai o'u ffafredigion hwy ar un ochr, ao allanolion ar y llall, siawns wael fydd i'r rhai diweddaf lwyddo, gan nad beth fydd teilyngdod clir eu hachos. Erbyn i'r rheithfaino gael ei phacio, ac i'r winciadau' swyddogol fyned o gwmpas, bydd y treial drosodd, mewn gwirionedd. Cartrefa PHEL- AN yn Kansas City, Missouri; ond yn New York-Cork fawr America—y mae preswyl- fod a "dylanwadau" SHORT. Mewn canlyn. iad, y mae erlyniad y cyntaf wedi ffaelu, ac amddiffyniad yr olaf wedi ei wneyd yn ddynamitwr rhydd unwaith eto. Rhag oyw- ilydd!
Y DIWEDDAR BRINLEY RICHARDS.
Y DIWEDDAR BRINLEY RICHARDS. Crybwyllasom yn ein rhifyn diweddaf fod BBINLET RICHABDS yn ei fedd. Yr oedd y newydd yn un trwm i Gymry America, fel i'w ceraint yn yr Hen Wlad, canys yr oedd yr ymadawedig yn dra adnabyddus iddynt fel cerddor uwchraddol. Ganwyd ef yn 1819, yn nhref Caerfyrddin, lie yr oedd ei dad yn organydd Eglwys St. Peter. Pan yn bymtheg oed enillodd wobr yn Eisteddfod Caerdydd, ar yr hon yr oedd Ardalydd Bute yn Llywydd. Trwy gymorth y Duke of Newcastle, cafodd gwrs o addysg yn y Royal Academy of Music, lie yr eDillodd y King's Scholarship-gorchest na wnaethai Cymro erioed o'i flaeu. Mewn Eisteddfod a gynaliwyd yn Nghastell Caernarfon yn 1862, rhoddwyd testyn cerddorol a arwein- iodd i'w Gan boblogaidd, "God Bless the Prince of Wales." Yn y flwyddyn ddylynol, tuag adeg priodas Tywysog Cymru, canwyd y Gan hono yn Llundain, gan y tenorydd byd-enwog, SIMS REEVES, yr hyn o goronodd ei hawdwr a phoblogrwydd mawr ac arosol yn mhlith y Saeson. Yr oedd BRINLEY RICHABDS yn engraifft o ddylanwad daionus yr Eisteddfod. Ar hyd ei oes priodolai ei yrfa gerddorol i'w lwydd- iant yn yr Eisteddfod grybwylledig yn Nghaerdydd. Yr oedd efe yn mhlith y rhai oyntaf o'r Cymry a ymgyraeddasant am addysg drwyadl mewn cerddoriaeth. Gwnaeth fwy nag un Cymro arall, oddieithr PENCEBDD GWALIA, i ddwyn Caniadau Oym- reig i sylw y Saeson. Nid fel datganwr, ond fel chwareuwr a chyfansoddwr yr oedd yn nodedig. Beimiadoedd lawer mewn Eis- teddfodau, ao ni fu erioed amheuaeth am gywirdeb ei farn, na gonestrwydd ei ddy- farniad. Yr oedd yn foneddwr hollol ddi- lol. Seiliai ei enwogrwydd ar graig gallestr teilyngdod. Ymwrthodai a phob ffyn bag- lau. Ni oharai i neb ei alw yn Professor; ac ni cheisiodd roddi hwb iddo ei hunan trwy wisgo ffugenw ymhongar. Er nad oedd yn siarad Cymraeg yn rhwydd, ni phetrusai un amser arddel ei genedl. Bu son droion ei fod i gael ei wneyd yn Farchog; ond bu farw cyn i'r gydnabyddiaeth hono ei gyr- aedd. Ond colled ddigolled oedd hyny. Gwna pob dyn ei deitl gwirioneddol a phwysicaf iddo ei hunan. Y mae ei gyn- yrchion gwreiddiol a'i ad-drefniadau ys- twyth a hyfryd wedi, urddo BBINLET RICH- ABDS yn fwy na "Syr" er ys blynyddau law- er. Gellir hyderu y ca byth mwy fwynhau peroriaeth berffaith y Palas Grisial fry.
DR. BEES, ABERT A WE, YN EI…
DR. BEES, ABERT A WE, YN EI FEnD. Gwelir yn mysg ein newyddion o Gymru, grybwyllion am farwolaeth dau bregethwr o nod, sef y Parch. JOHN GRIFFITH, Rector Merthyr, a'r Parch. ROBERT WILLIAMS (T. C.), Llanuwchllyn. Ac yn awr, wrth fyned i'r wasg, gwelwn fod Dr. THOMAS REES, Ab ertawe, wedi eu dylyn. Cymerodd anwyd yn angladd ei gyfaill, y Parch. Simon Evans, a syrthiodd yn aberth i'w hen elyn-enyoiad yr ysgyfaint. Yr oedd yr wythnos hon i dra- ddodi anerchiad yn ngbyfarfod blynyddol Un- deb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru, fel Cad- eirydd yr Undeb; a deallwn fod ei araeth yn barod-testyn, "Y Pwlpud." Bydd yno yn ddiau arwyddion o alar dwfn, yn mhresenol- deb cadair wag; ac yn sicr, gellir dweyd fod marwolaeth Dr. REES yn golled genedlaethol. Yr oedd yn weinidog ar eglwys Ebenezer, Abertawe, er's 23 mlynedd, ac yn barchus gan bawb. Yr oedd yn Gymro drwyddo; a llafur- iodd mewn llawer cylch heblaw yn y swydd weinidogaethol, er dyrchafiad ei genedl. Mab ydoedd Dr. THOMAS REES i RHYS REES, Penybontbren, Llanfynydd, ger Llan- deilo; ac yno y ganwyd ef yn 1815 Yr oedd felly yn 70 mlwydd oed pan roddodd angeu derfyn ar ei oes lafurus. Dechreuodd breg- ethu pan tua 16 mlwydd oed; ond ni ordein- iwyd ef cyn 1836, pryd y cymerodd ofal eg. lwys Craig-y-Fargoed, ger Merthyr, am gyf- Jog o ddeg swllt ymis! Yn 1838, priododd Miss Jane Williams, o Blaina, Mynwy; ac yn 1840 symudodd i eglwys Ebenezer, Aberdar, lie y llafurio^d am ddwy flynedd. Yn nesaf cawn ef yn Siloa, Llanelli; ac yno y trodd ei feddwl at lenyd iiaeth, gan ddechreu cyfieithu Esboniad Barnes ar y Ttstament Newydd- gwaiih llafurfawr, cyhoeddedig gan T. GEE a'i Fab, Dinbych. Tra yn Llanelli hefyd (1861) y cyhoeddodd ei "History of Noncon- formity in Wales," gwaith a gafodd gylchred- iad helaeth ac ail argraffiad o'r hwn a ddyg- wyd allan yn 1883. Yn 1849 ymgymerodd agofal egtwys Carmel, Cend), Sir Fynwy, yr hon a fu yn Jlwyddianus iawn dan ei fageiliaeth, a dicbon mai fel T. REES, Cendl, v mae fwyaf adnabyddus. Derbyniodd alwad i Ebenezer, Abertawe, yn 1862 yn yr hon flwyddyn hefyd yr anrhvdeddwyd ef a'r teitl o D D o Goleg Marietta, Ohio, fel cydnabyddiaeth am ei was anaeth i lenyddiaeth Gristionogol. Llyfr arall pwysig y bu Dr. REES mewn un- deb a Dr. JOHN THOMAS, yn llafurio arno yw "Hanes Eglwysi Annibynol Cymru," yr hwn a orpbenwyd yn 1875, yn bedair cyfrol. Hef- yd, bu yn arolygu dygiad allan Feibl teulu- aidd darluniedig, dros y cyhoeddwyr, Virtue & Co., o'r hwn y gwefthwvd rhwng 8,000 a 10,000 o gopiau. Heblaw hyny, cyfoethogodd gyhoeddiadau Cymreig a Seisnig. a ffrwyth ei ysgnfell. Yn Mai, 1884, etholwyd ef bron yn unfrydol yn Llywydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru—yr hon swydd, fel yr hys- byswyd, a lanwai adeg ei farwolaeth. H
[No title]
DDECHBEU yr wythnos ddiweddaf glaniodd dwy eneth a chwech o fechgyn Seisnig ar eu ffordd o Bristol i Nebraska, lie y sicrhawyd cartrefi iddynt ar ffermydd. Anfonir hwy yno gan "Industrial School" Bristol. Cyn- llun campus.
[No title]
AB hyn o bryd dihoena tri o gyfoethogion yn ngharchar heol Ludlow, New York—FEB- DINAND WABD, JAMES D. FISH, so EDWABD A. BoYD. Nid yw golud, bob amser, yn gallu gwneyd ffordd y troseddwr yn es- mwyth.
[No title]
TUA pymthegnos yn ol agorodd beohgyn yn Homer, Sir Licking, 0., hen fedd In- diaidd, pan ddaethant ar draws esgyrn ped- war o gewri saith troedfedd o daldra, gyda y rhai yr oedd llestri ceryg, bwaau, cyllill a phibellau.
[No title]
HTSBTSA gwesty yn Sir Westchester, N. Y., y bydd iddo yn ystod yr haf dyfodol, dderbyn pob math o fyrddwyr boneddig, oddieiihr pregelhwyr. Dichon fod y gweety hwnw yn agos i gofgolofn a bedd flaenorol THOMAS PADTE, neu feallai fod Rino i gael ei rhedeg mewn oysylltiad ag ef.
[No title]
HTSBTSIB fod miliynau ar filiynan o gol- omenod gwylltion wedi bod yn ehedeg tua'r Gogledd, dros Newton, Abington, Scott, a Ueoedd eraill agos i Scranton, Pa., yn ddi- weddar. Deuent yn ddigon isel i'w ouro i lawr a phastynau o benau tai. Lladdwyd oanoedd o honynt felly a chyda drylliau.
[No title]
DTWEDIB fod gwyliadwriaeth ddibaid wedi ei chadw ar fedd y miliwnaer, CTBUS H. MCCOBMICK, Chicago, er pan gladdwyd ef, flwyddyn yn ol, rhag i'r ysgelerder a wnawi a gweddillion A. T. STEWABT gael ei wneyd arno yntau. Ond symudir y corff i feddad- ail cadarn cyn hir, pan na fydd angen y fath wyliadwriaeth.
[No title]
TEA yr oedd heddgeidwaid Harrisburg, Pa., yn gwneyd rhuthgyrch ar rai o uffernau hapchwareuol y ddinas hono yn ddiweddar, daethant ar draws amryw o aelodau y Ddeddfwrfa yn gamblo eu goreu! Pa ryf- edd ei bod yn anhawdd pasio cyfreithiau priodol, pan geir y fath droseddwyr yn y Cynulldy a'r Senedd ?
[No title]
GWNAWD tro erchyll yn Taraton, Mexico, yn ddiweddar: Dygwyd baohgenyn saith oed gwr cyfoethog, ac anfonwyd cais am $75,000 am ei ddychwelyd, neu y lleddid ef yn mhen deuddydd. Rhywsut neu gilydd, ffaelodd y genadwri gyraedd y tad galarus mewn pryd, ac ar ol tridiau cafwyd y bach- gen wedi ei ladd a'i ddarnio yn eohrydus. Wrth weled y corff syrthiodd chwaer ddeu- ddeg oed i'r trancedig yn farw, a chollodd y tad ei synwyrau.
[No title]
YMDDENGYS yn awr y bydd yn rhaid i MACKIN a GALLAGHEB, y rhai a brofwyd yn euog o arfer twyll ysgeler yn yr etholiad Arlywyddol diweddaf yn Chicago, gael eu rhyddhau, am na ddechreuwyd eu herlyn- iad yn briodol. Mae Uchaflys y Talaethau Unedig newydd benderfynu mewn achos ar- all cyffelyb, fod yn ofynol i bob trosedd di- raddiol, hyny yw, cosbadwy yn y benydfa, gael ei seilio ar gyhuddgwyn (indictment) uchelreithwyr, yr hyn a esgeuluswyd yn achos y ddau Ddemocrat gorselog o ddinas CABTEB H. HABBISON.
[No title]
MABWOLAETH Y CAD. MCDOWELL.—Bu y Cad. IRWIN McDoWELL farw yn San Francis- co ar y pumed cyfisol. Ganwyd ef yn Col- umbus, 0., Hydref 15, 1818. Cafodd beth addysg yn Ffrainc, a graddiodd o West Point yn 1838. Cymerodd ran glodus yn rhyfel Mexico. Pan dorodd y Gwrthryfel allan yn 1861, galwyd ef i Washington, He y treuliodd rai misoedd yn trefnu y catrod- au. Penodwyd ef i amddiffyn y Brifddinas, ac wedi hyny i arwain Byddin y Potomac. Efe oedd arweinydd milwyr yr Undeb yn mrwydr gyntaf Bull Run, Gorphenaf 21, 1861. Er i'r ymdrechfa hono fod yn ei er- byn, nid oes neb erbyn hyn yn ameu ei wladgarwch. Yn 1864 symudwyd ef i adran y Tawelfor. Yn 1872 dyrehafwyd ef i fod yn Major General, ac i reoli y fyddin yn y Deau. Cofir am dano fel Cadfridog galluog a ffyddlawn, ond anffodus.
I SYR WATKIX WILLIAMS WYNN…
SYR WATKIX WILLIAMS WYNN WEDI MARW! Bu Syr WATKIN WILLIAMS WTNN farw ddydd Sadwrn diweddaf, yn 65 oed. Yr oedd yn Aelod Seneddol er pan yn ddwy-ar- hugain oed. Ceidwadwr ydoedd. Mawr berchid, ef nid yn unig yn Sir Dinbvch, lie yr oedd ei gartref, ond trwy y Dywysogaeth oil. Gelwid ef yn "Dywysog yn Nghymru." Yr oedd bob amser yn barod i gefnogi yr Eisteddfod. Deallwn nad oes ganddo fab i etifeddu ei ystad, ond trwy fod ei ferch wedi priodi ei nai, bydd yr etifeddiaeth yn arcs yn y teulu.
CYFLAFAREDDIAD, EFALLAI.
CYFLAFAREDDIAD, EFALLAI. Son sydd yn awr am geisio terfynu yr anghydfod rhwng Lloegr a Rwsia trwy gyf- lafareddiad. Nid ydyw y pleidiau eto wedi cytuno ar ganolwr. Mae Ymerawdwr Ger- mani a Brenin Denmark wedi eu c-ybwjll; ond amser a ddengys pwy ddewisir.os rhyw- un, wedi y cwbl. Cwyna y rhai sydd hoff ganddynt ryfel, yn Rwsia a Lloegr, yn erbyn y ffordd hon o geisio cyraedd cyd-ddealltwr- iaeth derfynol. Diameu y buasai cyhoedd- iad rhyfel yn uno holl bleidiau Prydain Fawr. Mae mor sier a hyny y bydd llawer o guro ar Mr. GLADSTONE, OS trefna hedd- woh gyda Rwsia, heb ei gorfodi i encilio i'r lIe yr oedd ynddo cyn brwydr Penjdeh. Ni phetrusa rhai o brif bapyrau Llundain ei gyhuddo o ildio y cwbl i'r Czar, hyd yma; a dadleuant fod anrhydedd Lloegr wedi oael ei gymylu gan ei lwfrdra a'i betrusdod. Tybiwn nad oes eto reswm digonol dros y fath gondemniad ysgubellog. Rhaid i bob dyn meddylgar gydnabod fod oyflafareddiad, fel cynllun i heddyohu anghydfod, yn llaw- er mwy oydweddol a gwareiddiad, na rhyfel Ai tybed nad ydyw grwgnachrwydd rhywrai yn tarddu o'u siomiant am nad ydynt yn oael mwynhau hafog a dinystr milwrol, mor fuan a'u dysgwyliad ? Aroswn nes gweled diwedd cynlluniau a mesurau y Prifwein. idog Prydeinig, cyn eu beirniadu yn rhy lymdost. Da yw pobpeth sydd yn terfynu yn dda. Pwy wyr na therfynant hwy felly ?
DWY SENT!
DWY SENT! Yn fuan ar ol i'r Democratiaid diargy- hoedd gael eu lie priodol yn Washington, dechreuasant sibrwd fod gwir angen edrych dros gyfrifon y gweiloh oedd newydd gael eu troi dros y drws. Nid oedd yn rhyfedd iddynt amneidio y byddai i hanesion am ddadguddiadau oynyrfiol felltenu dros y wlad yn mhen yohydig bachigyn etc. Wrth reswm, Mr. DANIEL MANNING, Ysgrifenydd diwygiadol y Trysorlys, oedd yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i ddwyn gweithredoedd y tywyllwoh Gwerinol i'r amlwg. Ac yn ol ei air, pwrcasodd y boneddwr gwladgarol ddws- inoedd o gyfrifwyr hirben amedrus i edryoh trwy holl lyfmn ei Adran, gan fyned yn ol ao yn ol, nes taro yn erbyn Gweinyddiaeth JMIBS BUCHANAN, lie y barnwyd yn ddoeth sefyll yn glee, rhag rhoddi gormod o draff- erth i'r olrheinwyr. Tra yr oedd yr arohwil- iadau yn myned yn mlaen, awgrymid o dro i dro fod rhyw gelaneddau ofnadwy yn oael eu diddaearu, ao fod mwy fyth i ganlyn. Ond yn ychwanegol at hyny, gorohymyn- wyd i bob dimai o gynwysiad y Trysordy yn Washington gael ei ohyfrif, mewn trefn i gael allan yn gywir faint oedd y cnafiaid Gwerinol wedi gario ymaith yn eu llogellau, ao mewn berfaau a throliau, efallai. Cym- erodd gryn amser i'r dwylaw newyddion gonest droi a throsi pob dernyn o aur, arian a phies oedd yn y pentyrau anferthol. Ond yr wythnos ddiweddaf gorphenwyd y dasg; a chafwyd prawf diymwad mai nid darogan gwag, grwgnachlyd, oedd y gri ddibaid Ddemocrataidd fod y Gwerinwyr yn "ras- cals" lladronllyd, oblegid cafwyd fod cyfan- swm yr arian gofynol yn fyr lawn DDWY SENT Mae ensynio y posibilrwydd mai y eyfrifwyr newyddion sydd wedi gwneyd eymaint a hyny o gamsyniad yn gabldraeth maleisus ar y Blaid Ddemocrataidd, yr hon ni chamsyniodd iod mewn dim erioed, fel y profa ei holl fanloriau cenedlaethol er ys hlner canrif. Dengys y darganfyddiad di- weddar hwn lwyr bydredd y Blaid Werinol, yn unol a chyhuddiad ei gwrthwynebwyr yn ei herbyn. Ar ol treisio nifer o Dalaethau Deheuol i aros yn yr "Undeb," a lladrata biliynau o ddoleri yn ffurf caethweision, oddiar eu perchenogion cyfiawn a'u meistri tyner, wele hi yn troi ar y Llywodra* th ag yr hona, bid siwr, ei bod wedi ei chadw yn fyw, ac yn ei hysbeilio o'i harian bathol-o swm sydd yn gymaint a Cheiniog o arian Prydeinig! Gan nas gellir mwyach cael allan pwy oedd y lleidr uniongyrehol-pa un ai LIN- COLN, CHASE, GRANT, SHEBMAN, WINDOM, ABTHUB, ynte rhyw ddyhiryn arall-rhaid dal yr holl Blaid yn gyfrifol am yr anonest- rwydd. Nid oes modd argyhoeddi neb mai amryfusedd ac nid trosedd oedd yma, canys ni ellir rhoddi esgus tebygol dros wneyd camgyfrif mor bwysig wrth rifo dim ond rhyw ychydig o ganoedd o filiynaxi o ddol- eri, a llawer o'r rhai hyny yn arian man dig- on adnabyddus i bawb. A gwnawd yr holl ysbeiliad hwn mewn can lleied o amser a phedair blynedd ar hugain! Ni wiw i bap- yrau y Blaid euog waeddi Pw, Pw, a honi nad yw y swm diffygiol ond bychan. Hen ffordd troseddwyr yw haeru nad yw eu dryg- ioni ond dibwys, os yw yn ddrygioniogwbl. Ac ni ddyiid am eiliad goddef yr edliwiad anfoneddigaidd nad ydyw ffrwyth yr ol. rheiniad Democrataidd ond engraifft ych- wanegol o fynydd mewn gwewyr, ac yn es- gor ar lygoden. Onid-yw dwy sent yn ddwy lygoden ? Ydyw, y mae y dynoethiad hwn yn brawf terfynol o rogri aruthrol y carnlad- ron Gwerinol. Diolchwn i'r Weinyddiaeth newydd am ei ddwyn i wyneb haul a llygad goleuni, mewn ffigyrau digelwyddog Democ- rataidd. O'r tu arall, dengys y mater hwn wladgarwch haelfrydig y Blaid sydd yn awr mewn awdurdod. Hysbysir fod Mr. MAN- NING wedi gwneyd yr holl ddiffyg i fyny, a hyny nid trwy fynu casgliad gan ei "isaf- iaid," ond o'i logell ei hun. Tra yr haedda Ysgrifenydd y Trysorlys ganmoliaeth ber- sonol am y weithred fawreddog hon, dylai ei Barti hefyd gael tafell o'r anrhydedd, gan mai fel ei chynryohiolydd hi y eyflawnodd efe y weithred. Ond y mae wedi darfod ar y Blaid Werinol. Nid oedd fod y lleidr pen ffordd, JAMES G. BLAINE, wedi llindagu am- ryw gewri arianog, a rhedeg ymaith gyda rhyw haner dwsin o reilffyrdd yn mhoced ei wasgod, yn niweidio fawr arni. Ond dyma y blewyn olaf a dora gefn ei chamel, neu y tamaid diweddaf o bwdin a daga ei chi. Ond pa waeth am dani? Parhaed yr ol- rheiniadau Democrataidd i gloddio i'w hen gyfrifon.
FFYDD A PR YSYG WRIAETH.
FFYDD A PR YSYG WRIAETH. Clywir llawer yn y dyddiau hyn am gleif- ion yn cael iachad mewn atebiad i weddiau. Ceir sefydliadau a thriniaethau a elwir yn "Faith Homes" a "Faith Cures," yn y mwyafrif o'r prif ddinasoedd. Cyhoedda rhai preg- ethwyr ac eraill, fod arddodiad eu dwylaw hwy yn peri i afiechyd ymadael i roddi ei le i yni hyfryd. A rhoddir enwau a ohyfeir- iadau personau ydynt yn engreifftiau ac yn dystion byw o hyn oil. Pa beth ydym i wneyd yn ngwyneb y fath honiadau gor- uchel, a'r fath brofion tybiedig? Chwilio am y gwirionedd, wrth gwrs. Diameu fod llawer yn gwneyd ac yn credu yr honiadau hyn yn hollol onest. Maent yn sicr yn eu meddyliau eu hunain fod gweddi y ffydd wedi iachau cleifion yn y gorphenol, ei bod yn gwneyd hyny yn bres- enol, ac y gwna hyny yn y dyfodol. Gosod- ant holl bwysau eu cred ar gefnogaeth ym- ddangosiadol rhyw adnod, neu ar ryw eng- raifft debygol ag y gwyddant am dani; ac ni fynant ymresymu yn mhellach ar y mater. Ond y mae Iluaws o ymhonwyr twyllodrus ar y maes hwn, heb un amean uwoh gan- ddynt na gwneyd arian o ofergoeledd a hy- goeledd dyoddefwyr. Crach-feddygon o'r rhywogaeth waethaf ydynt hwy. Dylid eu dal a'u cosbi mor fuan ag y rhoddant eu hunain yn ngafael y gyfraith. Ni haedda neb sydd yn cellwair gyda'r bywyd dynol, er mwyn elw, gael arbediad am fynyd awr. Diau fod ffydd yn gymorth mawr i weith- redoedd meddygol; yn enwedig, Sydd y olaf ei hun, pa un bynag ai efe ei hunan, ynte y meddyg, ynte yr Hollalluog fyddo ei gwrthrych. Y mae ei phresenoldeb hi yn ei fynwes yn gryfbair rhagorol i'w holl gyf- ansoddiad. Cydnabyddir hyny gan bob physygwr a llaw-feddyg. Ond ffydd heb weithredoedd, marw yw. Ni wna ored heb ddim arall, byth roddi asgwrn drylliedig yn ei Ie, neu wneyd brathiad neidr gynffon- drwst yn ddiniwed, neu lanw dant poenus a llygredig ag aur, neu gadw coryn tueddol i hyny, rhag moeli. Mewn achosion o glef- ydau a damweiniau, yn gyffredin rhaid def- nyddio moddion neu oddef y oanlyniadau mewn arteithiau, anafau ao angeu. Nid oes ond yehydig er pan fu gwraig gweinidog yn Sycamore, Illinois, farw yn ei gwelyfod. Gwrthodai hi a'i phriod geisio oymorth meddygol yn yr amgylohiad. Yn lie hyny galwent y frawdoliaeth i weddio drosti. Yr oedd eu ffydd ffol mor anfuddiol ag oedd o anysgrythyrol. Haeddai y fath ynfydrwydd sylw yr erlynwr gwladol a dysgyblaeth eg. lwysig. Wrth weithredoedd priodol ar y olaf y mae dangos ffydd fuddiol. Dylai ffydd y dyoddefydd fod yn oydweithio a gweithredoedd y famaeth a'r doctor. Trwy y gweithredoedd hyny y oa ei ffydd ei pher- ffeithio. Ond fe haerir fod rhywrai wedi cael eu hiachau trwy ffydd ar ol i'r dootoriaid eu rhoddi i fyny. Yr ydym yn barod i addef hyny. Ond dymunem alw sylw at y dos- barth sydd yn arfer oael y cyfryw adferiad- au rhyfeddol. Wedi eu gwylio am flynydd- oedd, gallwn ddweyd nad ydyw dynion braidd byth yn wrthrychau iddynt: meroh- ed bron bob amser geir yn eu mwynhau; ac yn eu plith hwy, gyda mathau o anhwylder- au fyddont a'u oanolbwynt yn y meddwl y gwelir llwyddiant weithiau. Mewn achosion o hysteria,monomania, aphob math o afiechyd dychymygol, y mae i un gredu ei v bod wedi cael, neu yn cael, neu i gael ei hiachau, ynddo ei hunan yn iachad. Cyn- yrchu y gred hono yw yr orchest. Nid yw o bwys sut y cynyrchir hi; yr un fydd ei heffaith dymunol. Craffer yn fanwl ar bob engraifft o wellhad honedig trwy ffydd yn unig, a cheir ei bod yn dyfod o dan y des- grifiad diweddaf hwn. Canlyniad damwain neu dwyll bwriadol yw pob adferiad difodd- ion arall. Pan drodd y Cad. GBANT i gryfhau tipyn, brysiodd Dr. TALMAGE a Dr. NEWMAN i ddy wedyd mai mewn atebiad i weddiau y cym- erodd y troad ffafriol Ie. Gall hyny fod; ond byddai yn ddoeth bod yn ofalns wrth siarad ar y fath fater, rhag gwneyd mwy o niwed nag o les wrth dywyllu cyngor a geir- o iau heb wybodaeth. Nid ydyw y Cadfridog eto wedi gwella. A phe y byddai wedi dyfod yn holliach, byddai yn rhaid cael sicr- wydd mai y cancer oedd arno, ac fod hwnw yn anfeddyginiaethol, oyn y byddai haeriad y ddau weinidog yn safadwy. Ond y mae cancer yn hen anhwyldeb sydd a'i nodau yn amlwg. Dywed y gwyddonwyr meddygol, DOUGLAS, SHBADY a BABKEB, mai hwnw sydd yn nhaflod genau y Cad. U. S. GRANT. Os llwyr adferir y dyoddefydd, bydd cryn lawer i'w ddywedyd dros honiad y Parchn. TALMAGE a NEWMAN. Nis gellir wedi hyny gwadu effeithiolrwydd ffydd heb wadu cywirdeb gwyddiant y meddygon. Ond wedi y cwbl, gwell peidio ceisio gwneyd i Ddwyfoldeb Cristionogaeth orphwys ar un- rhyw ddygwyddiad unigol o'r fath. Oa oesglir ei bod yn oruwchnaturiol, am fod gweddiau wedi eu hateb mewn un achos, megys yn eiddo GRANT, gellir mor resymol a hyny casglu nad ydyw felly, am na chafodd gweddiau eu hateb, mewn achos arall, megya yn eiddo GABFIELD. Dylai y duwinydd fed mor ofalus rhag profi gormod ag ydyw rhag profi rhy ychydig, gan fod y gwall cyntaf mor niweidiol i'w achos a'r olaf.
PIG ION P 0LITICAIDD.
PIG ION P 0LITICAIDD. PABHA y grwgnach a'r tuchan am nad ydyw Mr. Cleveland yn tosio y Gwerinwyr o'r swyddau yn ddigon buan, i wneyd lle- oedd i'r Bourboniaid. Y diweddaf i siarad allan yw y Cincinnati Enquirer. Dywedai yr organ Ddemocrataidd hono yn ddiweddar fod yn rhaid i'r Arlywydd frysio, onide y bydd i'w holl blaid ymgodi yn ei erbyn. -Sibrydir fod y Llywodraethwr Hoadly mewn dealltwriaeth a'r Weinyddiaeth mai efe sydd i gael ei ddyrohafu i Faino Uchaflys y Talaetbau Unedig, ar ol i'r Barnwr Brad- ley ymddiswyddo. Dichon mai dyna y rheswm ei fod mor ddidaro am ail benodiad i fod yn swyddog uchaf Ohio. —Druan o Keiley! Y mae Awstria hefyd yn ddidaro am dano, am fod ei wraig yn luddewes, ac am fod ei ddywediadau cy- hoeddus yn "dramgwyddus." Paham y mae Mr. Bayard yn parhau i wthio y fath ddyn ar lysoedd sydd yn ddigon chwaethus i'w anhoffi ? —Ymddengys fod Kentucky wedi myned mor agos ag y gall, o dan y gwelliantau ar y Cyfansoddiad, i adnewyddu caethwasiaeth o fewn ei therfynau. Ar y pumed cyfisol ar- werthwyd gwasanaeth nifer o grwydriaid Negroaidd yn Richmond, Ky. Gwerthwyd tri mis un am $14, a blwyddyn un arall am $38. A newidia y llewpart Democrataidd ei frychni ? -Dywedai y New York World fod rhywun wedi ceisio saethu Mr. Cleveland, pan oedd yn dychwelyd o Gettysburg ar y pedwerydd cynsol, ac awgryma mai rhyw Werinwr dial- gar daniodd ei lawddryll ato. Onid ydyw yn fwy tebygol mai rhyw swydd-geisiwr Democrataidd siomedig ollyngodd yr ergyd —os bu ergyd o gwbl. -Rai wythnosau yn ol,gofynwyd i un Mr. Whitney roddi ei le i fyny yn Swyddfa yr Ystadegau; ond y dydd o'r blaen bu raid anfon am dano yn ol, gan nad oedd ei olyn- ydd Democrataidd yn gwybod dim oil am e ddyledswyddau. -Tro ysmala oedd i'r nofiedydd Paul Boyton fyned ar nos y 5ed cyfisol, a gosod ffrwydr-belen, gyda pridd-faen ynddi, yn erbyn y gadlong Seisnig, Garnet, yn mhorth- ladd New York. Ni welwyd ef nes oedd yn ymadael, pan awd ar ei ol ac y daliwyd ef, ac y cafwyd boddlonrwydd nad oedd dim mewn bwriad ond tipyn o gast a'r Saeson, i ddangos iddynt beth allesid wneyd o ddif- rif. -Dydd Gwener penodwyd Boyd Win- chester, o Kentucky, i fyned i Lys Switzer- land; Dr. John E. W. Thompson, Negro, o ddinas New York, i fyned i Hayti; a George V. N. Lothrop o Michigan. i fyned i Rwsia. Rhoddir enw da i'r boneddwyr hyn, yn neillduol i'r ddau olaf. -Mae Henry R. Howells wedi ei wneyd yn Bostfeistr Watertown, Wis., yn lie Mr. Moak, a S. Corning Judd yn Bostfeistr Chi- oago, yn lie Frank W. Palmer, yr hwn a gy- huddir o fod yn "bartiwr tramgwyddus." -Tro glew oedd i'r Gwerinwyr gario yr etholiad yn Rhanbarth 34ain o Illinois, a dychwelyd Seneddwr Gwerinol yn lie y Democrat Shaw, yr hwn a fu farw yn ddi- weddar. Hunai y Bourboniaid ar yr hen dybiaeth eu bod yn ddigon diogel; ond deff- roisant yn rhy ddiweddar i ddeall eu cam- syniad. Bydd rhagolygon y Cad. John A. Logan yn well ar 01 hyn.
SKFYMJLADAU CYMREIG N. Y.
SKFYMJLADAU CYMREIG N. Y. UTICA, N. Y., Mai 12 -Y mae pobi dda Bcthesda wedi dechreu adgyweirio a phryd- ferthu eu hadaoldy. Bydd y gost tua #600. Gwelliant mawr fydd cael "chandeliers" i ol- euo y capel yn lie y ddwy seren ar y top fel yn bresenol. Bydd y Parch. D. G. Jones o Gastell- nedd, yn pregethu yn nghapel Moriah, nos Wener nesaf. Yn Chadwick Mills, y dydd o'r blaen, siaradodd yr Anrh. Henry A. Steber, aelod o'r Ddeddfwrfa, am ddwy awr, ar bynciau y dydd; ac ar y diwedd anrhegwyd ef & ffon pen aur gan y Knights of Labor. —Mri Lewis R. Evans a W. W. George sydd yn cynrychioli Cyfrinfa Itoraidd "Gor- onwy," yn Nghynadledd Providence yr wyth- nos hon. "V DDAEAR I R BOBL.Nos Iau diwedd- af,yn addoldy Bethesda.traddododd Dr. E. Pan Jones araeth ar "Ddeddfau Tirol Prydain." Esboniodd y "Feudal System," a dangosodd fod cyfreithiau presenol Lloegr yn ffafrio y tirfeddianwyr, ac yn gormesu ar y dosbarth gweithiol. Eglurodd helynt y "gwritiau," er boddhad i'r gwyddfodoli n. Dywedai fod dau brif gynllun yn cael eu cynyg tuag at ddi. w^giad—eiddo George ac eiddo Wallace Er nas gallwn hollol gydolygu a'r Doctor, da genym gael ein hargyhoeddi ei fod o ddifrif, ac yn onest. Byddai yn welliant i'r brawd ymryddhau oddiwrth ei ardduli pregethwrol w, th areithio. Nid yw yn briodoi traethu ant ddal eog neu saethu cwningen mewn ton all- oraidd, neu angladdol. O111 fyddai yn well i'r gwr da aros yn America, a gwneyd ei oraf i ddenu miloedd amaethwyr gorthrymedig yr Hen Wlad ar ei ol ? CYNGERDD YR HARMONICS. —Neithiwr, rhoddodd yr "Harmonics," dan arweiniad Ap- madoc, eu cyngerdd diweddaf am y tymor. Yr oedd Westminster Chapel yn orlawn, a'r canu oil yn dda. Buasai yn well i'r unawdau offer- ynol fod yn fyrach, yn enwedig yr un diw- eldaf. Canwyd "First Spring Day," "Song of the Clock," "Can you Sing," a "By Baby- lon's Wave," gyda chymeradwyaeth neillduol. Mae gan Mr. Broadbent lais is-alaw da, a gwaa Miss Kittie Oiven gontralto ragoroi, os dyfalbarha i astudio ac ymarfer. Teilynga yr holl gorawd y gefnogaeth frwafrydig mae wedi fwynhau ar hyd y gauaf. Y "MESSIAH." -Cofied Cymry Plainfield, Nelson, a hoffwyr cerddoriaeth yn holl sef- ydliadau Cymreig Sir Oneida, ddyfod i Utica erbyn nos Fercher nesaf (yr 2ofed) i wrando ar gor Gwilym Brycheiniog yn perfformio oratorio arddercbog Handel-h Y Messiah." Bydd clywed y Bass Solos ga 1 M. T. Brown; y Sop. Solos gan Mrs. Oatley; a'r Alto Solos, gan Miss Eaton yn "dreat" i bawb; a nefoedd fech- an mewn Opera House fydd gwrando y coryn canu yr "Halelujah Chorus," "Worthy is the Lamb," a'r "Amen Choruses." Chwareuir y .cyfeiliant gan y Proff. George Owen. ar yr or- gan; gan Mis. Hopkins ar y piano, a chan "full orchesta." Bwriedir caei trens rhad ar y Black River R. R., a'r Del. a Lack. R. R.
LLKNYDDOL A CEERDDOBOL.
LLKNYDDOL A CEERDDOBOL. Y MAE ein gohebytid Granvillefab, o'r di- wedd wedi cyraedd Penryn, California, ar ol treulio dros flwyddyn yn Texas. -Dymuna Mrs. Walters, gweddw y diw- eddar Ionoron Glan Dwyryd, gyflwyno ei diolchgarwoh llwyraf trwy gyfrw/jgy DBTCH, i Mr. John Edno Roberts, awdwr y oofiant rhagorol i'w diweddar briod, a ymddangos- odd yr wythnos ddiweddaf. EISTEDDFOD NEW YOBK.—Yr oeddwn yn dysgwyl yn siwr gweled Hysbysiad yr Eis- teddfod uchod yn y DRYCR. oyn hyn. Ai oysgu mae yr ysgrifenyddion ? Deallwyf fod Apmadoc a Hwfa Mon wedi eu cyflogi, ac y byddant ill dau yn yr Eisteddfod. Gyda y fath gawr a Hwfa, ceir gwledd ddanteithiol. Rhaid i Index ddyfod i sylwi ar y byrddau! —jBar/Men. < LANSFOBD, PA., Mai 8.—Un o'r pethau di- weddaf a wnaeth y Pencerdd Tavalaw, yr wythnos o'r blaen, cyn ymadael a'i hen gar- tref yn Lansford, ydoedd urddo dau o gan- torion y lie. Mr. Wm. L. Evans, un o'i hen ddysgyblion, a alwyd yn 'Gwilym Lansford Evans." Yn y Bi-Centennial yr oedd dau Wm. Evans yn arwain corau, felly ni raid bellaoh camsynied un arweinydd yn lie y llall. Y cyfaill llenorol Jos. Bryan ydoedd yr un arall; adnabyddir ef o hyn allan wrth y llen-enw "Rhuthynydd." Dymuniad da i'r ddau wyr hyn ar gyohwyniad megys eu gyrfa lenyddol! Yr oedd yr hen gadfridog Tav. yn gynddeiriog o ddoniol yn y sere- moni, ac mor hyawdl sobr a 'Seirmd.—if Aman. ""tl"
AMRFWIAETHAU.
AMRFWIAETHAU. —Ddechreu yr wythnos ddiweddaf, yr oedd tanau yn gordoi y Blue Mountains yn Sir Northampton, Pa. -0011 wyd pymtheg o fywydau mewn gweithfa a aeth ar dan yn Brooklyn, N. Y., ddechreu yr wythnos aeth heibio. -Mae gweddw a theulu y diweddar Lyw- ydd Barrios, wedi cyraedd eu oartref dy- fodol yn New York. —Hona y Pabyddion fod oan' mil o Neg- roaid y Talaethau Unedig yn aelodau hwy. —Cymerwyd Harvey M. Munsell, un o'r rheithwyr a gliriodd y dynamitwr, Richard Short, i'r ddalfa vn New York, ddydd Gwener, am gamymddygiad. -Y mae awdurdodau yr Eglwys Babaidd yn America wedi penderfynu adeiladu Uni- versity fawr genedlaethol yn ninas Wash- ington. -Dydd Sadwrn diweddaf, dedfrydwyd J. C. Watson, Milton Musser ao Angus M. Cannon, oil o Utah, i dalu $300 o ddirwy a myned i garchar am chwe' mis, am amlwr- eicaeth. —Cafodd Proff. Boyesen, yr athraw a'r bardd Scandinafaidd, ei ddirwyo $400 yr wythnos ddiweddaf, am roi bonolust i un o'i ddysgyblion yn New York, yohydig amser yn ol.