Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
SEFYDLIAD CYMREIG KENTUCKY.
SEFYDLIAD CYMREIG KENTUCKY. Cynygion Owinni o Loaisville-Manteision i Amaethwyr, Mwnwyr, &c. ER pan gyhoeddwyd Hysbysiad y Cwmni o Louisville, Kentucky, yn y DRYCH, clair wyth- nos yn ol, deallwn fod yr ysgrifenydd, RICH- ARD H. WILLIAMS (fthydderch o'r Cwm), wedi derbyn lluaws mawr o lythyrau yn holi am an- sawdd y tiroedd yn SiroeddEstill a Powell, a'r manteision mwnawl ac amaethyddol sydd yno. Ymae Mr. Williams yn archwilio y wlad, a diau y ceir ganddo ar fyr, adroddiad cywir, manwl a boddbaol; canys credwn na charai ef, na'r Cymry parchus sydd mewn cysylltiad a'r anturiaeth, gamarwain neb o'u cyd-genedl. Y mae Mr. Williams eisoes yn argyhoeddedig fod yn y parth hwnw o'r. wlad, le manteisio! i ffurfio sefydliad Cym- reig llwyddianns; ac mae y Milwriad YOUNG a Chwmni y Rheilffordd, yn barod i gyn- orthwyo yn y mudiad, am fed ganddynt feddwl uchel o r Cymry fel dinasyddion. Yr ydym yn anog pobl sydd a'u bryd ar ymfudo, i ohebua Mr. Williams; a charem pe byddai rhywun fel DAVID J. JONES, YouBgstown, sydd yn teimlo dyddordeb yn mudiadau ei gyd-genedl, yn myned yno i "edrych y wlad," ac ynaanfon ffrwyt h ei ymchwiliadau i'r DBYCil. Nid oes eisiau bod ar ormod o fry's gydag anturiaeth bwysig fel hon; cym- erer hamdden i fwrw y draul, yna ni bydd lie i eclifeirwch.
GAIR 0 CAMBRIA, WISCONSIN.
GAIR 0 CAMBRIA, WISCONSIN. Codi Tipyn o Bob Peth-Ceffylau Gwerth- fawr-Sut i Dyfu l'obaco yn Llwyddianus. CAMBKIA, Wis., Mdi 2.—Mae yn spring hynod o ddiweddar yn y cylchoedd yma eleni. Dyma hi yr 2it ddydd o Fai, ac y mae yn rhewi yn galed bob nos, fel nad oes ond ychydig iawn o had wedi ei roi yn y ddaear eto. Y mae yn dda i'r amaethwyr nad ydynt yn ymddibynn ar godi cymaint o ydau ag a arferent wneyd flynyddoedd yn ol. Mantaia fawr i'r amaethwyr ydyw codi tipyn o boh peth—gwartheg, defaid, ceffyl- an a moch, fel y gwneir yn yr amgyl choedcl hyn yn bresenol. Pan ddaeth clefyd y moch i'r ardal, yr oedd yn dda iawn fod gan- ddynt ryw bethau eraill i vmddibynn arnynt. Y maent wedi bod er's blynyddoedd bellach yn gwella eu hanifeiliaid, fel y mae gan- ddynt erbyn hyn wartheg a cheffylau o'r rhywogaeth oreu. Bu Mri. Griffith Richard, R. O. Roberts, a Richard Jones, yn prege.thu yr athrawiaetb iachus hon iddynt am flyn- yddoedd; ond yr oeddynt yn hwyrfrydig o galon i gredu; eithr y maent wedi credu beilach, nad ydyw fawr ychwaneg o gost iddynt godi ceffylau v gellir cael o S300 i $500 am danynt, na chodi rhai gwerth $100. Gweithodd Mr. Richard gaseg yn ddiw- eddar am$225; a gwerthodd y Seneddwr E. O. Jones eboles dair oed am $300. Os coll- odd William Williams, Coed Mawr, ei foch agos i gyd, gwerthodd yntau eboles ddwy flwydd am $225; ac y mae ganddo un arall ar werth lawn cystal a hithau. Mae gan Rich- ard Jones ddwy eboles ddwy flwydd oed, y rhai y mae yn anhawdd cael eu gwell—yn full bloded Clydes, ac yn pwyso deg cant a haner yr un -wedi eu codi o geffyl R. O. Roberts. Cofiwch mai hen geffyl Richard oedd hwn er's talwn, ond ei fod o wedi dianc i Sir Fon, ryw dro, rhag ofn iddo fo ei ladd 0; ac yr oedd wedi dychrynu cymaint, 'rwy'n meddwl, fel na welodd o y creek sydd rhwng New York a Lerpwl. Daeth Die, pa fodd by nag, yn ei ol yn ddiogel, a Die y ceffyl maent yn ei alw byth er hyny-- ao mae yr enw yn gweddu yn reit dda iddo, achos y mae ganddo geffyl bob amser, ac un da rhagorol yn awr, yn pwyso dros bedwar cant ar bymtheg. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi cadw at y testyn yn lied dda, gan mai amaethydcliaeth oedd y pwnc. Hefyd, mae yma dipyn o siarad am godi tobaco. Buasai ambell ysgrif yn y DRYCH oddiwrth y rhai sydd yn deall y gelfyddyd, yn dderbyniol iawn. HEN LANC 0 CAMBBIA.
Family Notices
GENI—PRI0DI—MARW. Gofynir tal, yn ol 25 cents am bob pedair llin-1 ell, am gyhoeddi barddoniaeth yn ngholofn y Genedigaetliau a'r Priodasau.] GANWYD- JONEs-Ebrill 27, 1885, yn Plymouth, Mo., mab 1 Mr. a Mrs. R. E. Jones. WILLIAMS—Ebrill 16, 1885, yn Roanoake, Faulk Co., Dakota, mab i Mr. a Mrs. David W. Williams; gelwir ef David William. PRIODWYD- JONES-SMITH-Mai 2, 1885, yn Chicago, Ill., gan y Parch. D. Harrfes, Mr. David H. Jones a Mrs. May Smith, y ddau o'r ddinas uchod. THOMAS-EuNs-Ebrill15, 1885, yn nhy rhleni y brio.iasferch, gan y Parch. R. M. Jones, Gomer, Ohio, Mr. Benjamin F. Thomas. Lima, a Miss Oharlotte A. Evans, merch Mr. a Mrs. Roger Evans, Sugar Creek, Putnam Co., Ohio. BU FARW— EVANS-Mai 4, 1885, yn 32mlwydd, 10 mis 10 nlwrnod oed, Lewis M., mab John a Margaret Evaas, 171 South Street, Utica, N. Y. Claddwyd ef o gapel Betkesda ar yr 8fed. HUGHES-Mai 5, 1885, yn 79 mlwydd oed, Mrs. Jane Hughes, Whitesboro Street, Utica— gweddw y diweddar Barch. H. Hughes (Tegai), a mam 1 Robert H., John Q., a Michael Hughes, a Mrs. Martha Owens o'r ddinas hon. Cafodd gladdedlgaeth barchus o gapel Bethesda, y dydd GweLer canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. R. Gwesyn Jones, D. D., a Dr. Pan Jones. GRIFFITHS-Ebrill19, 1885, yn Sharon, Pa., Mrs. Catherine Griffiths, anwyl briod y Parch. T. M. Griffiths. Ganwyd Mrs. Griffiths, Mawrth 4,1850, yn Plasydref, Cwm Gwrach, ger Cwm Nedd, D. 0. Merch ydoedd 1 Rhys Penrose. Dolur y galon fu achos unlongyrchol ei marwol- aoth. Gadawodd brlod a thri bach i alaru ar el hoi. Claddwyd hi yn Brookfield, 0., Ebrill 21, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. Thomas, Hall a T. Thomas. GALABUS. RA.BBow-Chwefror 20,, 1885, yn 19 ml. oed, ar ol cystudd byr, dan effelthiau y typhoid fever ac inflammation, Mrs. Mary Barrow. Merch ydoedd i Isaac Rees, Patagonia, Scranton, Pa. Ymfudodd y teulu o Dowlals 1 Hyde Park pan oedd Mary ond 4 mlwydd oed, ac yr oedd yn ferch serchus a dystaw. Priododd a Thomas Barrow tua dwy flynedd yn ol; felly ni bu eu bywyd pri- odasol ond byr. Yr oedd yn aelod yn yr un eg- lwys a'l rhienl, sef eglwys y T. C. yn Hyde Park, a bu farw a'i gobalth a'l hymddlrled yn Iesu Grist ei Cheldwad. Claddwyd hi dydd Llun, Chwefror 23aln, mewn galar a hlraeth gan el pherthynasau a'l thyfellllon, pryd y gweinydd- wyd gan y Parch. R. Foulk Jones. Heddwch i'w llwch hyd y boreu pan y daw o'r bedd yn anllyg- redig 1 beidio marw mwy. Dymunir ar bapyrau Cymru godi yr uchod. WILIJAMS-Mai 5, 1885, yn Gomer, Ohio, y brawd a'r cyfaill cu ac anwyl, Robert Williams, yn 29 mlwydd oed. Mab oedd 1 Mr. a Mrs. Evan Williams, Gomer, a phrlod Mary Ellen, merch William Roberts, Cincinnati gynt. Yr oedd yn enwog o'i leuer.ctyd fel un dichlynaidd el rodlad a moesol yn mhob man. Nid yn ami yr adnaOum neb yn rhagorl arno mewn ymddyg- lad, synwyr a doethlneb, er pan yn blentyn. Cafodd gystudd hir a phoenus; ond ni rwgnach- odd dan yr holl waegfeuon. Bu farw mewn ffydd, gan orfoleddu yn Nghrlst el Waredwr. Cyngorodd lawer ar el gyfeiliion i fild yn ffydd- lon, 1 gelsio crefydd lawn a byw yn dduwiol. Rhybuddlodd el gymydoglon oedd yn oodi am y perygl o wrthod yr lachawdwrlaeth. Dywed y rhai a'i gwrandawent na chlywsant erioed gyiig- h ri mwy difrifol ac effeithiol. Nid all y cyfeill- lon, yn enwedlg y perthynasau, foelflio hlraethu, wylo a galaru; byddai hyny yn gweddu Y11 well 1 farbariaid. Ond gallant ymgysuro yn y gred- iniaeth fod Roberts y cyfalll anwyl gyda'r Iesu, yn nghanol teulu dedwydd y nef. Ffarwel, an- wyl gyfaill; chwith genyf dy golli. YnA nerth gras, credaf na bydd yr ysgarlaeth yn hir. "Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem lau oddeutu'r bwrdd." JOSIAH BRYNMAIR. HUMPHREy-Ebrill 17, 1885, yn nhy ei fodryb, Mrs. H. D. Humphrey, Fair Haven, Vt., o'r acute peritonitis, yn 19 mlwydd a 6 mis oed, Emrys Humphrey. Ymfudodd ef a'i frawd Tommie 1'1' wlad hon o Aberllefeni, G. C., yn Mehelln, 1884. Ymsefydlodd ef gyda'i ewythr, Mr. E. D. Humphrey, yn y lie uchod, ac aeth el frawd at ewythr arall-Mr. Rowland Humphrey, 1 Jameatown, N. Y. Bu Emrys Humphrey yn gweithio yn chwarel y Scotch Hill Co. hyd ddech- reu y gauaf, yna aeth i'r ysgol, lie yr arosodd hyd oddeutu tair wythnos neu fis cyn ei farwol- aeth. Wedi treullo y gauaf yn ddlwyd ac ym- roddgar 1 gasglu gwybodaeth, aeth 1 welthio at yr un ewmnl ellwalth. gan feddwl all-afael yn ei wersl y gauaf nesaf; ond "Nid fy meddyllau 1 yw eici meddyliau chwl," &c. Wedi bod yn dylyn el orchwyl am oddeutu pythefnos, cymer- wyd ef yn glaf yn ddisymwth o'r anhwyldeb a nodwyd, ac er ei fod yn meddu ar gorff cryf a chyfansoddiad cadarn. yr oedd el glefyd y fath fel y terfynodd ei fywyd mewn llai na 60 awr o amser. Cafodd bob caredigrwydd yn bosibl, a'r gofal meddygol mwyaf ymroddgar gan Drs. Roberts a Wakefield. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r bechgyn ieuainc mwyaf rninweddol a a ddaeth 1 America erioed. Er Iddo golll el dad a'l fam pan yn dra leuanc, eto rhodlodd lwybrau rhlnwedd a sobrwydd, a glynodd yn ffyddlon wrth achos yr Arglwydd. Er na chafodd namyn ddeg mis prin o amser yn y wlad hon, cyn cael ei gymeryd i ffordd yr holl ddaear, eto gwnaeth iddo el hun lu o gyfeiliion. Gellir dweyd am dano el fod yn ffrynd i bawb, er hyny gofalai yn wastad na byddat yn gyfaill 1 neb ond y rhin- weddol a'r pur. Yr oedd Iddo air da gan bawb, ac y mae el goffadwrlaeth heddyw yn fendigedlg yn ein mysg. Cafodd angladd hynod o barchus a Iluosog, dan arolyglaeth y gytrlnfa Iforaldd o ba un yr oedd yn aelod. Gwasanaethwyd yn yr augladd gan y Parchn. J. W. Williams, J. Michael Hughes a Mr. O. J. Owen, capian yr Iforlald, a— "Dyma fan fechan ei fedd, Ar arall dir 1 orwedd." J. M. H.
Cenad Cyntaf Angau.
Cenad Cyntaf Angau. S. VALLEJO, CALIF., Mai 1.—Bum yn canu mewn angladdau, ac yn pregethu llawer yn- ddynt, am dri deg a phedair o flynyddoedd yn y Talaethau Unedig; ond ar yr 17eg o Ebrill, daeth angeu i fy anedd, a thorodd i lawr y serchog a'r prydferth John Thomas Jones, fy mab, pan yn un mlwydd ar ddeg tri mis, a dau ddeg a dau o ddyddiau o oed- ran. Teimlais mai un peth oedd myned i'r pwlpud i bregethu ac edrych i lawr ar y gwrandawyr yn eu dagrau, a'u gofid a'u gruddfanau; a pheth arall ydoedd bodyn un o'r galarwyr fy hunan. Rhyfedd ydyw trefn Rhagluniaeth. Dyma'r ieuangat o saith o blant yn cael el alw adreu'n gyntaf i wisgo'r goron a'r palmwydd! Yn ddamwelniol syrthlodd oddlar gefn y pony chwe blynedd yfiol yn Nebraska, yr hyn a achos- odd y curvature of the spine.g Bu yn dyhoeni yn hlr, ond byth yn cwyno. Yr oedd yn esiampl 1 ni oil' o fod yn llawen mewn gobalth, yn ddyoddefgar mewn cystudd, ac yn dyfal barhau mewn astud- laeth. Syuai Prof. Jones, el frawd, at el dde dl cryf a'l got parod. Dywedal mai efe oedd gwyddonladur y reulu. Pa beth a fuasal pe caw- sal fywyd ac iechyd nl fedr neb ddweyd; ond fel arall y bu mewn perthynas Iddo ef. Amlygodd awydd ymuno a'r eglwys pan yn leuanc lawn. Meddylle,m el fod yn rhy le ane llw dderbyn ary pryd; ac y mae yn edifar genym heddyw. Bydd yr ewyllys o'l elddo ef yn cael el chymeryd am y welthred yn nghytrol y ner, ac nid oes amheu- aeth o b-rthynas i'w wynfydedlgrwydd yr ochr draw, o herwydd nid oes yr un lie yn addas 1 blant bach da ond y net. Ni chlywals yr un gair anweddus erioed o'i enau. Yr oedd el an- hap ef !yn peri 1 bawb gydymdelmlo ag ef a gwneyd ei goreu drosto. Yr oedd delgryn gloyw fel Aperl yn el 11 gad pan Jaethym ato i'w gys- ur" un dlwrnod, trwy ddweyd wrtho rod byd ar 01 hwn, ac y calff y plant bach sydd yn caru'r Gwaredwr fyned ato ryw ddydd wedl eu gogon- eddu 1 wi?go'r goron a'r palmwydd a'r wenwlsg; ac y cant delyn aur 1 ymuno byth yn heleliwla'r gwaredigion. Dywedais wrtho fod yno lawer lawn o angylton bach a phlant bach wedi eu sanctelddio, ac na fydd yno ddim pechod a mar- wolaeth na phoen byth. nfr oedd clywed am y pethau hyn fel adsaln o'r wlad fry yn falm i'w enaid. Yr oedd arno awydd gweila yn fawr, hyd nes i'w boen fyned yu annyoddefol, ac felly dy- wedodd wrth el ram nad oedd arno ddim awydd byw yn hwy. A wna Dusr fy nghymeryd ond i mt ofyn iddo ? gofynai. Gwrandawodd yr Ar- glwyddetwed-ii. Cyn pen pedalrawr ar hugatn anfonodd genad o lys y net I'w gyrchu adreu. Clywal el fam a'l chwaer oedd yu ei wylio, swn canu yn yr ystafell, meddant hwy; ac yn yr adeg hono ehedodd el enaid yn dawel 1 wyddfod y Duw trugarog, yr hwn a ddywedodd: "Ga lewch 1 blant bychain ddytod ataf fl, ac na waherddwch iddynt. canys elddo'r cyfryw rat yw teyrnas nef- oedd." Wyiai wrth ffarwelio ag Irfon Jones yn Petaluma ychydlg flynyddoedd yn ol. Otnwn mal dyna'r tro diweddaf Iddynt byth gyfarfod ar y ddaear hou mwy, ac feilr y bu. Gobeithlo y bydd ef ac Irfon yn cyfarfod heb wylo ryw ddydd yn ngwlad y telynau aur. Amwlsgodd y boneddlgesau ef yn ei arch a sat- in gwyn; ac yr ydoedd yn ymddang* 8 i mi y tebycaf 1 angel bach a allem amgyCfred am dano. Adducnwyd r pwlpud a'r bwrdd ddydd yr ang- ladd a rhosynau, ac yr ydoedd Dr. Warren a'i wyneb fel gwyneb angel wrth son am y groes a'r goron a'r adgyfodlad. Ar ol elgladdu, gorchudd- lwyd ei fedd yn llpthyrenol a Clkron flodau plethedlg; ac fel y ùlsgyottl y wreath of flowers ar et fedd, dlsgyial dagran o ddJolchgarwch yn ffrwd o lygaid y teulu. Wrth drol .idreu yn y cerbyd, "Dyna'r cynlat erioed 1 mi weled yncael ei guddlo yn llythyrenoi a rhosynau," ebe Dr. Warren. Casglodd y gyfeiliion yn South Vallejo, $105 er mwyn talu cost yr angladd a chael careg o lthfaen ar el fedd. Pe byddem gyda ein cyf- eilllon yn Capel Selon a Ffaldybrenln, nid allent wneyd mwy nag a wnawd drosom yma. J. A. JONES. <>HI»
[No title]
QUININE BITTERS.—Rhoddwch brawf ar y meddyginiaeth Cymreig enwog Quinine Bit- ters Gwilym Evans, 'y cryfbair goreu yn y byd.—JOHN H. SHEEHAN & Co., goruchwyl- wyr, Utica, N. Y. J
ENOCH EVANS, NEW YORK
ENOCH EVANS, NEW YORK Dymuna Mr. Evans hysbysu el fod wedi agor ty newydd, y drws nesaf i'w hen dy, ac yn agosach na'r un ty arall i'r holl agerlongau. Peth arall, y mae yn euro pawb yn y busnes ymfudol, gan ei fod yn rhoddi lie am un dlwrnod am ddim i'r neb fydd yn bookio drwyddo ef yn y Cabin a'r In- termediate. Hefyd i'r rhai a brynant docynau yn y Steerage o'r Hen Wlad. Nid oes neb arall yn Now York yn gwneyd hyn. Cofier ei gyfeiriad. ENOOH EVANS, 398 WEST STREET. NEW YOBK.
TALAETH TEXAS A'l HADNODDAU.
TALAETH TEXAS A'l HADNODDAU. GAN MB. D. B. GBIFFITH (GBANVILLKFAB). Diameu nad oes angen manylu ar faintioli Texas i ddarllenwyr y DBTCH, felly ni wnaf yn unig ond dweyd ei bod tua 1,100 o fill- diroedd o hyd, wrth oddeutu 500 ar gyfar- taledd o led. Gan fy mod wedi bod yn gweithio am fwy nag un dydd a blwyddyn yn mysg twmpathau o geryg calch a granite, o foreu hyd hwyr, heb gymaint a chawnen rhyngof a'r haul i liniaru ei belydrau, a bod man fy arosiad yn lied agos i ganol y Dal- aeth, cydnebydd y darllenydd, mi gredaf, fod genyf fantais weddol i farnu'r hin yma. Nid yw o bwys yn y byd i mi yn bersonol pa un a ddaw rhai o'r Cymry i'r Dalaeth hon neu beidio, gan nad oes genyf gwys o dir o fewn ei therfynau; ond gallaf ddweyd y bu- asai yn dda genyf pe buasai genyf beth, oblegid y mae y tir yma yn cynyddu yn gyf- lym yn ei werth. Ni ddymunwn ddweyd dim yn wael am Dalaethau eraill, oblegid y mae yn perthyn i bob un o'r Talaethau ryw fanteision nad ydynt yn meddiant y llall; a'r pwnc y dylem fel cenedl ymestyn ato ydyw, pa un o'r Talaethau sydd yn meddu mwyaf o fanteision tuag at i ni lwyddo yn ein hanturiaethau. Gyda golwg ar y Dalaeth hon, y mae eis- iau cofio mai fel Talaeth i fagu anifeiliaid y mae hi wedi cael edrych ati hyd o fewn ych- ydig flynyddoedd, ond y mae amser yn myn- ed i osod Texas mewn safle anrhydeddus fel gwlad amaethyddol yn ogystal. Gwelais rai ffermwyr lied ddiddim yn Nghymru, ond y mae yma rai, wel, anteidrol salach bron; no y mae y wlad yn cael llawer o anair o achos hyny. Y mae miloedd o amaethwyr nas gwaeth ganddynt ar y ddaear pa ffordd y chwyth y gwynt, (ond iddo beidio dod o'r gogledd), os gallant gadw corff ae enaid wrtn eu gilydd rywsut, ar ychydig bach o lafur. Ond y mae y ffaith hon yn rhoddi cyfleus- dra rhagorol i'r flEarmwr diwyd, oblegid nid wyf yn meddwl fod un Dalaeth yn yr Undeb a ddeil gydmariaeth am fynyd gyda hon am brisiau uchel am gynyrch y ffarm; a rtaid cymeryd pobpeth i ystyriaeth wrth ddewis gwlad. Y mae yn y Dalaeth hon lawer iawn u dir neillduol o dlawd, ond y mae yma ddigonadd o ddir da hefyd, am brisiau rh. symol. Nid oes yma dir i'w gael am ddim, fel yn y TdUethau Gogleddol, gan fod y tir cy- hoeddus wedi ei gyflwyno wrth y miliynau tuag gynal yr ysgolion; ac yn ol yr hyn a basiwyd yn Senedd y Dalaeth, ychydig wythnosau yn ol, gall unrhyw benteulu gael ei ddewis o'r tir hwn am ddwy ddolar yr erw, gyda 30 o flynyddoedd i dalu am dano, mewn rhan-daliadau blynyddol, gydaphump y cant o log ar y swin arosol. Nid oes eis- iau colli amser i broli fod y telerau uchod yn rhai esmwyth iawn, a hawdd i'w cyfar- fod. Nis gall yr ymsafydlydd brynu mwy na Section (640 o aceri) o'r tir hwn, ond gall brynu llai; a gall rentu am gyfnod o chwe' blynedd, yn eysylltiol a'i ffarm, hyd bedair Section (2,560), am rent blynyddol o bum' sent yr erw. Gall person unigol a fyddo uwchlaw 21 oed brynu dim llai na 80, na mwy na 160, o'r School Lands uchod yn 01 yr un telerau; ond ni ddywedir fod yn ofynotiddo ymsefydlu arno. Bydd yr ym- sefydlydd at ei ryddid i glirio y ddyled a dod yn gyflawn feddianydd o'i fferm, un- rhyw amser y daw yr arian yn gyfleus ganddo. Gellir codi yn y Dalaeth hon bron bob cynyrch a ddewisir, fel y gall y ffarmwr godi y cynyrch a ddyga fwyaf o elw iddo yn y farchnad; ac y mae yn anhawdd prisio y fantais hon; ac yr wyf yn cwbl gredu fod y blynyddoedd dyfodol, o herwydd hyn, yn myned i ddenn llawer o drigolion y Talaeth- au Gogleddol i'r Talaethau Deheuol. Codir yma wenith, haidd, ceirch, rhyg, corn, tatws Gwyddelig a melus, ac amryw gynyrch- ion eraill; ac y mae yn wybyddus i'r sylw- gar mai Texas yw brenines y ddaear am gynyrehion cotwm, a chynyrcha o bosibl o'r nwydd hwn, neu gall wneyd os dewisa, gym- aint a holl lanerchau cotwm y byd gyda'u gilydd. Y mae yn gynyrch sydd yn talu yn dda i'r amaethwr hefyd, ond y mae cryn waith trin arno. Codir yma agos bob math o ffrwythau gerddi hefyd, a hyny o ddech- reu Ionawr hyd ddiwedd Rhagfyr, o her- wydd fod yr hinsawdd incr lariaidd. Tua 30 o ddyddiau a geir mewn blwyddyn nas gall y ffarmwr a'r garddwr fod allan ar eu tir gyda'u gorchwylion, a gwlawio y mae hi y pryd hyn. Y mae y gogleddwynt yn lied annymunol ar adegau, o Rhagfyr y 25ain hyd ddechreu Chwefror, a cheir weithiau dipyn o rew yn y cyfnod hwn; ond o'r braidd y gellir ystyried fod yma auaf, os gauaf a geir yn Nhalaethau New York a'i chymydogesau.— [I'w barhau.
SEFYDLIAD POWELL, DAKOTA.
SEFYDLIAD POWELL, DAKOTA. POWELL CITY, DAE., Ebrill 25.—Tan; byd o dan-dyna oedd yr olygfa yma Ebrill 13eg, pan oedd tonau o dan yn ymrywlio yn y cyflymder mwyaf, dros wastadedd eang, o flaen gwynt uchel iawn, nes difa pobpeth y deuai i gyffyrddiad ag ef, gan mor sych oedd oedd y tywydd! Cafodd amryw o'r Cymry golledion trymion, yn nghydag er- aill-colli eu gwair a'u hystablau. John Williams, hen lane, a gafodd y golled fwyaf. Trodd ei geffylau allan o'r ystabl, ac mae yn debyg iddo ef ac eraill fyned i ymladd yn erbyn y tan, pryd y llwyddodd caseg dda i fyned i mewn i'r ystabl yn ol. Daeth y tan mewn nerth mawr, gan losgi yr ystabl yn nghyda'r anifail. Rhyfedd mor gostus i'r amaethwr yw gwersi bychain, hynod o hawdd eu dysgu. Rhaid gwneyd mwy o ymdrech i atal y tanau mawr sydd yn difa porfa ein hanifeiliaid, yn nghyda llosgi y gwraidd a sychu y tir. Mae y rhan fwyaf wedi gorphen rhoi yr ydau man i mewn. Yr oedd y ddaear yn hynod o dymerus i dderbyn yr had, gan ei bod wedi ei thori i fyny yr haf diweddaf, mewn amser priodol iddi bydru a lladd yr hyn oedd yn tyfu ynddi wrth natnriaeth. Ofnwn dywydd sych, ond gobeithiwn beth- au yn nglyn a digon o wlaw. Mae cauoedd o'r Rwsiaid ac eraill wedi dod i mewn i Ipswich eleni, a'u gwynebau ar Campbell Co., a manau eraill; ond am y Cymry, maent hwy yn plethu eu dwylaw i gysgu, ac yn dweyd, "Mae Hew mawr ar y ffordd; fe'n lleddir." Ond wedi i'r wlad gael ei chymeryd i fyny daw y Cymry yma, ac ar ol methu cael tir rhad, prynant fferm- ydd, gan addaw prisiau mawr am danynt, ond ni welant ddiwrnod yn eu hoes ag y gallant ddweyd y fi bia y ffarm yma. Hyd yr wyf yn gwybod, mae. iechyd yr oil o'n cymydogion yn hynod o dda. Mae "Lapland" yn hynod o ofalus am fywyd ei phreswylwyr—neb o'r Cymry wedi colli y treial yn ystod y gauaf diweddaf. Mae eich gohebydd, 0. E. Williams, yn hybu ychydig yn y tywydd braf ar ol y frwydr ofnadwy Louisianaidd. Feallai y gall ddod rownd eto y gauaf. Mae eich gohebydd galluog, Thomas A. Evans, Bridgeport, 0., a'i deulu wedi dod yma, ac edrychant yn iach a cha- lonog. Llywyddiant iddynt. Mae rhai o'r dynion da sydd yma yn edrych braidd yn ddu ar Evans am iddo eu rhestru yn mysg y whisci ring; ondrhocldant amser iddo edifar- hau, gan obeithio na raid chwanegu, "ao nis gwnaeth." Mae yr anghydfod dorodd allan yma adeg yr etholiad, wedi ei ddwyn i derfyniad boddhaol, trwy ddiwreiddio yr efrau oedd yn tyfu ar feusydd eang perth- ynasau yn ol y cnawd. Daeth y Parch. John W. Morgans, Lime Spring, Iowa, yma i gymeryd gofal diadell fechan y M. C. Mae hyn eto yn ein gosod dan rwymau i fod yn ddiolchgar-fod dyn- ion da yn ein gwlad yn barod i estyn pob help angenrheidiol i ni ddal cymeriad ein cenedl i fyny fel cenedl grefyddol. Gobeith- io y bydd llwyddiant ar ymdrechion y ddau weinidog sydd yn llafurio yn ein mysg; ac na bydd i arian y cymdeithasau yn cael eu gwario yn ofer. Yr eiddoch-Pywelian.
MANTEISION LOUISIANA.
MANTEISION LOUISIANA. JENNINGS, LA., Ebrill 1885.-Gan fy mod yn sylfaenydd y sefydliad hwn yn ne-ddwy. rain Louisiana, meddyliais y byddai yn ddyddorol gan eich lluosog ddarllenwyr gael ychydig o hanes ei ddechreuad a'i gynydd. Bum yn byw am 50ain mlynedd mewn gwlad oer, gan feddwl fel eraill fod oerfel yn ang. enrheidiol er mwyn iechyd, a dedwyddweh, a rhyddid. Meddyliais yn fy rhagfain nad oedd dim i'r de o linell Mason a Dixon ond gwres eithafol—ymlusgiaid gwenwynig, a dynion barbaraidd; ond gwelais .ffolineb fy rhagfarn ar ol dod i'r wlad Edenaidd hon. Yma nid oes eisiau ymladd a'r oerfel trwy godi ysguboriau, a phorthi, nes bydd eich enillion wedi eu difa, a thylodi yn eistedd ar bob bryn, ac yn gwenu ar eich truenus- rwydd Gwaeth na'r cyfan, y mae gan yr Iuddewon gyf undrefn reolaidd yn y Gogledd, i arwystlo'r ffarm, nes difa'r nerth a sugno'r gwaed. Nid oes dim Iuddewon na mortgages yn Swydd Calcasien, La.; na'r un gauaf oer a drudfawr. Daethym i yma ddwy flynedd yn ol, er mwyn iechyd a gwelltglas hir. Chwyth- ais yr udgorn a gwrandawodd rhai a ddaeth- ant yma; daeth eraill i'w oanlyn. Daeth yr hen a'r afiach yma i edrych am iechyd a chysuron, a chawsant hwynt. Y mae ein sefydliad yn cynwys 300 cryf. Pob un yn sefydlu yn ol ei ewyllys a'i ddewisiad yn y sefydliad. Y mae y wlad yn lied debyg oil, ac yn cyfateb pawb. Iechyd y lie: Ni fu ond pump feirw mewn dwy flynedd. Daeth pedwar o'r cyfryw yma yn afiach; boddi wnaeth y Hall. Dywedwyd i fy machgen anwyl i farw yn ysglyfaeth dwfr drwg a hinsawdd afiachus. Y cyfer- byniol oymwys ydyw'r gwirionedd. Daeth fy machgen ymao dangyfarwyddydy medd- yg, gyda'i ysgyfaint mor wan nes peri iddo boeri gwaed; ac yr oedd eiarenau hefyd wedi eu banmharu yn fawr. Gwellbaodd y dwfr tyner a phur hwn ei arenau, ond dygodd gorlafur ac esgeulusdod camweddus ef i lawr yn yr ysgyfoint-glwyf (pneumonia )yr hyn a derfynodd yn aDgeuol iddo. Yr ydym yn cael allan yn awr fod yr iechyd yn sefyll ar flaen y rhes o'r amrywiol bethau da sydd yma, a chaiff y wlad hon ei sefydlu yn dew er mwyn yr hinsawdd addfwyn a thirion sydd yma. Y mae'r bobl yn dod yma yn gyflymach, gyflymach o bob Talaeth Ogleddol, yn en- wedig felly y Cymry. Daeth tri-ar-ddeg o benau teuluoedd—fy meddwl ydyw i dri ar- ddeg o Gymry ddod yma gyda'r tren diwedd- af. Y mae ganddynt sefydliad del yma, ac yr ydym yn dysgwyl 200 o deuluoedd yn rhagor cyn mis Ionawr nesaf. Y mae yma dir eto yn perthyn i'r Dalaeth a'r Llywodr- aeth; pa un a ellir gael o dan gyfraith y car- tref rhad. Gellir prynu tir y Dalaeth am 75 cents yr erw, a thir y Llywodraeth am ddol- ar a chwarter yr erw. Gall y tiroedd hyn bara am chwe mis eto. Y mac 2,000,000 o erwau wedi eu cymeryd er pan ddaethym i yma. Haner miliwn eto n'i gorphena. 0 berthynas i ansawdd y tir, y mae'r diwedd- af gystal a'r cyntaf, a'r oil yn tip-top am wellt- glas a ffrwytbau. Nid oes cost fawr i godi ffrwythau, o her- wydd y mae pob math o honynt yn tyfu oddiar doriadau (cuttings), ac y maent yn dwyn elw dirfawr, fel ag y dengys fy erthygl ar gyfodi ffigys. Y mae Swydd Calcasien yn 70 wrth 50 o filldiroedd o faintioli, ac eto nid oes ynddi ond ychydig o bobl dduon. Y mae naw o bob deg o'r trigolion yn wynion, yr hyn sydd yn ffafriol o'n tu, o herwydd fod gan rai ragfarn yn erbyn y dyn du. i mae'r wlad o'n blaenau a'i ffrwythau yn dda. Y mae amser hau a medi yn para trwy'r flwyddyn; ac nid oes dim cewri yn y tir. Dewch i'w weled, Yr eiddooh yn wirion- eddol- S. L. CABY.
CYMBY ENWOG AMERICA.
CYMBY ENWOG AMERICA. Atebiad i Ofyniad Owen Thomas, Sodom, 0., yn Nghylch Haniad T. Jefferson, &c. Mewn llythyr diweddar yn y DRYCH, cyf- eiriedig yn neillduol at Gymry Swydd Schuylkill, Pa., cymeradwyaislythyr fy hen gyfaill o St. Clair, T. D. Griffiths, mewn rhifyn blaenorol, yr hwn a anogai Gymry y Swydd i gychwyn rhyw symudiad amddiff- ynol yn ngwyneb yr aunhegweh a dderbyn- lant oddiwrth y politicians ar adeg yr ethol- iadau blynyddol, trwy wrthod eu cydnabod yn deg, a rhoddi swyddau iddynt yn ol eu rhif a'u dylanwiid. Yn mysg pethau eraill, nodais fod y Cymry yn rhagori ar genedl- oedd erail!, o ddechreuad y weriniaeth, ac mai Cymry oeddynt y swyddogion mwyaf blaenllaw, a mwyaf dysglaer fu yn y wlad hon erioed. Dywedais eu bod yn llawn mor alluog a chenedloedd eraill, ac ar y cyfan yn well dinasyddion er dadblygiad y wlad. Sylwais mai Cymry oeddynt rai o lywodraethwyr mwyaf dysglaer y wlad, mai Cymro a gyfansodd.odd ac a ysgrifenodd Ddatganiad Annibyniaeth y Talaethau Un- edig, ac mai Cymro a ysgrifenodd y Cyfan- soddiad. Yn awr, gofyna Mr. Owen Thom- as, Sodom, 0., i mi roddi rhyw brawfiadau o hyn, yn ddigonol i'w alluogi i gredu fod Cymry yr hen amser yn ddynion mor enwog. Os ydyw Mr. Thomas wedi darllen hanes bywyd Thomas Jefferson, trydydd Arlywydd y Talaethau, gwelodd mai hwn oedd un o'r arweinyddion goreu a mwyaf dysglaer fu ar y wlad erioed. Dyma fel y dywedir am dano yn y Campaign Hand Book, a ysgrifen- wyd gan Frank Champion, Counselor at Law, tu dal. 119, yr hwn a argraffwyd yn 1872: "Thomas Jefferson, perhaps the most distin- guished statesman this country has ever pro- duced, was born on the 2nd of April, 1743, at Shad wei, in Albemarle County, Virginia. He was early idonifiyd with the champions of liberty, and in 1775 took his seat in the Continental ,Con gress. Previous to this he had made an effort In the Legislature, of which he was a member, for the emancipation of the slaves in Virginia, but unsuccessful. Although one of the youngest members of the Continental Congress, he was selected by a com- mittee duly appointed, and requested to prepare the Declaration of Independence. This he did, and it was Anally adopted on the 4th of July, 1876." Eto, "Chambers Encyclopedia," dan y gair Jefferson: "In 1773, as a member of the Assembly, he took a prominent part in the measure which resulted in the calling of the Continental Congress, to which he was sent as a delegate, which drew up the celebrated Declaration of Independence. His death was very remarkable; it occurred on the 4th of July, 1826, while the nation was cele- bratirg the Fiftieth Anniversary of the Declara- tion of Independence, wllIch he had written." Eto, gwel "People's Cyclopedia," dan y gair "Adams:" "Adams and Jefferson had been appointed to draw up the Declaration of Independence; but It appears that Jefferson is the sole author of it." Dyna ddigon o brawfiadau mai Jefferson a ysgrifenodd y Datganiad. Y peth nesaf yw profi mai Cymro oedd. Gwelais yn ddi- weddar mewn papyr dyddiol a gyhoeddir yn Pottsville, y frawddeg ganlynol: "Thomas Jefferson was of Welsh descent." Addefir gan genedloedd heblaw y genedl Gymreig mai Cymro ydoedd, ac mai ar fryniau Cym- ru y ganed ei gyn-deidiau. Gwir y myn rhai mai Sais oedd, ao mai yn Lloegr y ganed ei gyn-deidiau. Wel, a chaniatau mai yn Lloegr y ganwyd hwy, ni wna hyn brofi nad Cymro oedd Jefferson. Mae y "Pedigree of the English Nation" yn profi yn eglur a thu- hwnt i amheuaeth, fod mwy o Gymry heddyw yn Lloegr nag y sydd o Saeson, er nas gellir eu perswadio mai Cymry ydynt o herwydd eu geni yno. Mae enw Jefferson- ei egwyddorion rhydd, ei wroldeb, ei wasan- aeth nodedig, ei foneddigeiddrwydd, godid- awgrwydd ac ardderchawgrwydd ei gymer- iad, yn eglur brofi i mi mai Cymro oedd. Os na wna yr awgrymiadau blaenorol fod yn effeithiol a digonol i gynorthwyo Mr. Owen Thomas i gredu mai Cymro oedd Mr. Jeffer- son, arno ef y byddo y bai; ae os oedd rhes- ymau gan Mr. Thomas, sydd yn profi yn wahanol, byddaf yn dra diolchgar iddo ef am danynt. Os nad oes, cynghoraf ef i beidio bod yn anghredadyn mwy,ond teimlo yn falch mai Cymro oedd un o'r Llywyddion goraf fu ar y wlad Ai Cymro oedd Madison? Cyfeiriaf y dar- llenydd i du dal. 123, Campaign Hand Book: "The fourth President of the United States was James Madison, who was born in Orange County, Virginia, on the 16th of March, 1751. He was of a Welsh descent, and his father, James Madison, was among the early emigrants of Virginia. He was a delegate to the convention held in Phila- delphia In May to frame the Constitution, and was one of its most distinguished members," Eto gwel "Chambers Encyclopedia," dan y gair Madison: "As a member of the convention of 1787, which framed the Federal Constitution, Mr. Madison, acted with Mr. Jay Hamilton, and with him wrote the Federalist. Hwn oedd cyfansoddiad cyntaf y Talaeth- au Unedig, yr hwn oedd yn dra aumher- ffaith i gyfarfod angenrheidiau y Llywodr- aeth, er ei fod y goreu allent wneyd o dan y fath amgylchiadau trallodus oeddynt yn- ddynt ar yr adeg hono, ac yn amser y rhyfel. Heblaw Mr. Madison, yr oedd y Cymry canlynol yn aelodau o'r gynadledd a gyfan- soddodd y constitution: Audrew Adams, Gover- nuer Morris, Robert Morris, Thomas Adams, John Williams a John Mathews. Yr Arlyw- ydd Cymroaidd nesaf oedd James Monroe. Gwel eto Campaign Hand Book, tn dal. 127, a darllenir fel byn: "James Monroe, the fifth President (,f the Uni- ted States, was born on the 2nd of April, 1759, in the county of Westmoreland, VlrglnK.Hls parents were Spencer Monroe and Elizabeth Jones, de- scended from the first families of that State." Gwelir fod Mr. Monroe yn Gymro o oohr ei fam, os nad oedd o ochr ei dad. Derbyn- iodd ei addysg yn y gyfraith gyda Thomas Jefferson. Yr oedd yr eiddo yn weinydd- iaeth boblogaidd, ac etholwyd ef yr ail waith yn agos yn ddiwrthwynebiad. Penodwyd ef i amryw swyddau pwysig gan Jefferson a Madison, a phenderfynodd amryw faterion pwysig yn y llywodraeth. Os bydd y llinellau hyn o ryw wasanaeth i Owen Thomas, Sodom, 0., i'w gynorthwyo i gredu mai Cyrury oedd y dynion enwog hyn, pobpeth yn dda; os na fyddant, pobpeth yn dda. Os y gwna Mr. Thomas brofi mai dynion o ryw genedl arall ydynt, pobpeth yn dda; oa ddiolchgarwoh gwresog gan yr ysgrifeoydd. Mahanoy City, Pa. T. T. JONES. WI'
[No title]
—Chwe' mlynedd yn ol, aeth Thomas Price o Saratoga, N. Y., i Brazil heb ddimoi, a'r dydd o'r blaen dyohwelodd gyda$45,000. Wrth adeiladu rheilffyrdd y gwnaeth ei arian.
TYST EB Y PARCH. T. T. EVANS.
TYST EB Y PARCH. T. T. EVANS. Adroddiad y Trysorydd, M. J. Meredith. HOLLAND PATENT, N. Y., Mai I.-Fel y mae yn hysbys i'r lluaws, daeth y priodol- deb o wneyd tysteb i'r Parch. T. T. Evans, i sylw Cyfarfod Dosbarth y T. C. yn Oneida, Co,, N. Y., a gynaliwyd yn Frankfort Hill, Mehefin 26 a 27, 1881. Wedi cymeradwyo y peth, dewiswyd pwyllgori ddwyn allan gyn- llun er cael cydweithrediad effeithiol er dwyn allan y dysteb. Erbyn hyn mae y cynUun wedi troi yn ffaith, ac y mae tysteb lied dda wedi ei chael. Mae agos yr oil o eglwysi cylch y Cyfarfod Dosbarth wedi cyd- weithredu yn yr achos teilwng, ao anfon eu rhoddion i'r trysorydd. Ystyriai y pwyllgor fod cylch y dysteb mor lielaeth a chylch cydnabyddiaeth Mr. Evans. Mae rhai, fel y gwelir wrth yr ad- roddiad, wedi gwneyd ystyriaeth o hyn, ac anfon eu rhoddion i'r drysorfa. Mae y rhai sydd wedi gweithio, wedi gweithio yn dda, eto y mae lie i eraill o ewyllyswyr da Mr. a Mrs. Evans (cofier fod Mrs. Evans yn un o wragedd rhagoraf ein daear), i fwrw eu rhoddion ewyllysgar i'r drysorfa hon, Wele y symiau a dderbyniwyd: Daeth i law Mr. Evans ei hun, heb ddyfod trwy law y trys- orydd, $17; daeth i law y trysorydd oPen-y- graig, $19.25; Mulin Hill, $15.50; Bryn Mawr, $9.25; Floyd, $17,25; Remsen, $30; Pen-y-caerau, $6; Enlli, $8.25; Bridgewater, $8.77; Quaker Hill, $7; Utica, $21.75; Rome, $20.75; JNant,$15.25; Constableville, $7; Prospect, $11; Oriskany,$7.25; Plainfield, $14.45; Frankfort Hill, $16.20; Collinsville, $7; Holland Patent, $42; Fair Haven, Vt., $15; Parch. D. Harries, Chicago, 111.,$2; Mr. Hugh J. Roberts, Wis.,$3; Cyfanswm, $320.92. M. J. MEREDITH, Trys.
Advertising
Cwestlynau Bywydol! Oofynwch i'r meddyg goreu 0 unrhyw ysgol, am y meddyglyn effeith- iolaf i leddfu a llonyddu y giau, ac iachau pob ffurf o anhwylder gieuol, gan gynyrchu cwsg melus ? • A dywed yn ddibetrusder "Rhyw ffurf o lIopys PENOD I. Oofynwch i un, neu yr oll o'r meddygon goreu: "Beth yw y meddyginiaeth y gellir dibynu arno i iachau anhwylderau yr elwlenod a'r organau dyfrol; megys Bright's disease, dia- betes, mothu gwneyd dwfr, ac anhwylderau perthynol i'r rhyw fenywaidd" "A dywedant i chwi yn d 'ifloesgni Buchu Gofynwch i'r un meddygon "Beth yw y meddyginiaeth sicraf a goreu at anhwylderau yr afu it diffyg treuliad, rhwymedd, blinderau gieuol, dyspepsia, malaria, twymyn, cryd, &c. a dywedant wrthych- Mandrake! neu Dant y Llew I Gan hyny, pan unir y sylwoddau hyn, gydag eraill yr un mor werthfawr, Gau ffurflo Hop Bitters, ceir y fath allu medd- yglnlaethol rhyfedd fel nas gall aftechyd na gwendld el wrthsefyll, ac eto Mae mor ddlberygl fel y gall y ferch eiddllaf, y claf gwanaf neu y plentyn llwiaf ei ddefnyddlo gyda diogelwch. PENOD II. "Cleiflon Bron yn farw neu agos a marw" Am flynyddau, a iachawyd oddiwrth Bright's disease, ac anhwylderau eraill yr el- wlenod, yr afu, peswch, a'r darfodedigaeth, ar ol i feddygon eu rhoddi i fyny. Merched agos yn wallgrf! Oddiwrth ddirdyniadau y neuralgia, gwen- did gieuol, methu cysgu, a blinderau men- ywol eraill. Pobl wedi eu hanffurflo gan bangfeydd y cryd- cymalau enynol a pharhaol, neu yn dyoddef oddiwrth glwy y brenin. ErysIpelas I "Salt rheum, gwaed-wenwynlad, dyspepsia, dlffyg treullad, ac mewn gair bob anhwylder" Y mae natur yn ddarostwngedig iddo, A lachawyd gyda Hop Bitters, prawf o'r hyn a elllr gael yn mhob cymydogaeth trwy y byd. ø-Dlm yn bur heb lun swp o Hopys ar label gwyn. Gochelwch bob cymysgedd anmhur a wthir arn<.ch gyda "Hop" neu "Hops" yn Ai onw. PA UW A DDAW COIESA At peidio, dylal pob teulu wybod fod glanwelth- dra a phuredlgaeth yn atalfeydd pwysig ar ffordd aflechyd. Y dadhelntydd goraf ydyw DREYDOPPEL'S BORAX SOAP, Yr hwn sydd heb et gyffelyb fel sebon at lanhau, gwynu a phuro. a gwneyd y dilla i yn wynion a pheraidd. Ni ddylld defnyddio un math arall o sebon teulualdd. Gwerthlr SEBON DREYDOP- PEL mewn barlau pwys yn unlg pan wholesale grocers a naanwerttiwyr o'r radd flaenaf BLXOTDEKAU Y CROHN. Tetter, Salt Rheum, Ringworm, Briwlau, Pluryn. od, a phob anhwyldeb cyffelyb a iachelr gyda BEESON'S AROMATIC ALUM SULPHUR SOAP, harddydd y cruen a nwydd anhebgorol at ddy- benlon ymdrwslol. 25 cents, gan gyfferwyr neu anfonir gyda'r mall. Cyfelrir WM. DBEYPPEL, Gwneuthurwr, 208 North St., Philadelphia, Pa. Dreydoppel's Disinfecting Powder, 15 cents am flycbald mawr. Tl,) MAIIE HEALT[4 MUST BE IN ORDER c- ,II 'IL A Is a ReIiable Remedy for Liver Complaints and ills caused by a deraneed or torpid condition of the Liver, as Dys- pepsia, Constipation, Biliousness, Jaundice, Headache, Malaria, Rheumatism, etc. It regulates the bowels, puri fies the blood, strengthens the system, assists digestion. AN INVALUABLE FAMILY MEDICINE. Thousandsof testimonials prove its merit. ANY DBUGGIST Win, TELL YOU ITS RETOTATIOM. l^MPERANCEHALL, 12 HU BERT STREET, NEW vuHK. D VLIER SYLW I Yr wyf wedI symud o'r hen 53 Beach St., I'r heol nesaf. Dyma y ty hetaethaf a'r ty agosaf at orsafau y rheilffyrdd a'r ager- longau o un ty yn y fasnach—dim «.nd pum myn- y(10 gerdded o'r Erie, Pennsylvania, « eat Shore a'r Lehigh Valley stations. f+werth!r locynau i'r oil o'r rheilffyrdd a'r aperlongau am y prls iau iselaf. Dim bwtdd RHYDD i neb, ond lie RHAD a chysuri's 1 hawb. IHENRY ROSSER. Perchenog. flOTAl, lft Ki POWDER Absolutely Pure. Nid yw y Powder hwn byth yn amrywio. Yn destyn syndod o ran purdeb, nerth a rhlnwedd. Yn rhatach na'r mathau cyffredin, ao ni werthlr mewn cydymgais a'r amrywiol bowdrau isel bris —alum neu phosphates. Ar werth yn unia mown canuM. GL O J GLO! COED! COED! AR WERTH GAN EVANS & EDWARDS, COURT STREET & CHENANGO AVE., UTICA, N. Y. Mae dau Gymro adnabyddus-John V. Evans, dlweddar o Nevada, a John Edwards, am flyn- yddau lawer yn roadmaster ar rheilffordd y New York Oentral-wedi ffurflo partnerlaeth gyda yr amcan o werthu glo a choed yn Utica. Y maent wedi prynu Yard J. G. Fowler, ar Court Street a Chenango Avenue, lie y; dymunant weled y Cymry yn cyrchu yn dorfeydd er gael glo a coed am y prisiau Iselaf. ALFRED J. PURVIS, XX YFM-B WYMWB, 131 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. [EXCHASGK BUHJDINGHB,] Mae y Llylr-rwymfa ra4 uchod uwchben swydd- fa 7 DBYOH, He y rhwymlr pob math o lyfrau, YoN YB AMSER BYRAF, YN Y DULL GOREU, AO AM Y PRISIAU RHATAF. Aiifosied pawb o'r wlad y llyfrau a gymerantyn rhanau, cyiohgronau rnisol, iec., 1 ofal awyddfa y DBTOH, a chant eu rhwymo yn ddioed yn ol y cyt- arwyddiadau. Gellir anion sypynau am ychydlg gyda'r rheilffyrdd. PIGION 0 TTSGRIFEXIAjOAU Y DIWEDDAR J. W. JONES. Bwrlada gweddw yr ymadawedig gyhoeddi Plglon o weithiau y llenor galluog uchod, yn cynwys ei Lythyrau o Gymru, Tsgrifau ar Ddaearyddiaetli, &c. (mewu llyfr tua $1.25), 08 derbynlr nifar digonol o dan ysgrif wyr. Dymun- ir ar rywlUl gymeryd y mater mewn Haw 1 gasglu enwau yn mhob ardal. Cyfelrler- MRS. J. W. JONES, 124 Whitesboro Street, Utica, N. Y. JjTATB L jj n i A U 0' it TAD, A'R FAM, A'R BABI. Pob math o Photographs, yn y style oreu am y pris iselaf, yn awr gan yr ARLUNYDD CYMREIG ENWOG D. J. WILLIAMS, 100 PUBLIC SQUARE, WILKESBARRE, PA. [Olynydd "Harry Lay" a "Headley."] Cabinet Size, Dim Ond 83.00 y Dwsln. Gellir cael darlun ardderchog yn y Gallery hon ar bob tywydd, heb orfod eistedd ond un eiliad a haner, a slaradir Cymraeg yn groyw gan Mr. Williams. Coflwch- 100 PUBLIC SQUARE, WILKESBARRE, PA. I CORSET NEWYDP. Y TRIC0RA RELIEF Ymae ochrau y G^OR se t hon yn 7 AG ELASTIC', fel g o r s e t hon yn rhanedig, ond y 7 AG ELASTIC', fel IF i! f ag y mai yn cym- W'H 1! LL/ hwyso ei hun I R.A %\RUW wahanol agwedd- au y corph wrth "'<> M'W blygu, eistedd 3" VPRF R llltflBak NEU orwedd. Y J/1 I |\ M\N?\ mae yn rhoddi Jfff fi If' illf in\ esmwythder ac HIi illII III 111 5 JL L'hai^ag y mai y [[ 11 ■ ;i I corsets cyffredin HI JF yn anoddefadwy '•«»< NN X I ) W idddynt. Y mai y ris$1.00. ^Sjl| jj jW Tricora stays Sofynwch am A ddefnyddir yn dani. Iddigyffelyb yn eu Y corset mwyaf paraol, parhad a'u cryf- sinwyth ac iachus, a der ac esmwyth- rerthwyd erioed am y der, ac nis gellir >ris. eu tori. wlirantur pob par 1 roddi boddlonrwydd, neu anronlr yr arian yn ol. 6. FITZPATRICK «FC CO., Mfrs., 71 Leonard Street, New Fork, nwch y papyr hwn yn eich archebion. J. G. FITZPATRICK & CO., Mfrs., 71 Leonard Street, New York nwch y papyr hwn yn eich archebion. ———i^—> YR WYF YN IACHAU FFITIAU I Wrth ddweyd iachau ni feddyliwyt eu hatal dros arnser ae lddynt ddychwelyd drachefn, ond eu hollol feddyginiaethu. Yr wyf wedi gwneyd yr anhwylderau a elwir "FITS, EPILEPSY a FALLING SICKNESS" yn destyn oes o efryd. laeth. Gwarantttf fy meddyginiaeth I roddi iachad trwyadl. Nid yw fod eraill wedi methu yn gwneyd gwellhad yn anmhoslbl. Anfoner am draethawd a photelaid ar brawf. Ni chostla 1 chwl ddim. Rhoddwch yr Express a'r Post Ofllce. Cyteirler- Dr. H. G. ROOT, 183 Pearl St., New York. a fmmSPTPC! WANTED for the MISSOURI lO STEAM WASHER, will pay any intelligent man or woman I>OL seeking profitable employment to write for Illustrated Circular and "terms of Agency for this Celebrated Washer. UKmfKIIMmsM Exc 1 usive territory and sampleW asher |g|M bHm sent on ten days trial on liberal terms. I. G. O'BEIEN. S.W.cor 4th & Market Sts.. Phlladeluliia.Pi Am Y DARLUNIAU GOREUI EWCH I COLLA MER'S GALLERY, Cor. Public Square and South Main Street, WILKESBARRE. PA. Y PETH S-YDJJ ARNOCH EISIAU fEt MtDDYSINIAETH GWANWYN, I)H. De WOLFE'S DANDELION BITTERS, Y Gwaedbnrydd Enwog. Meddyginiaeth hyfryd, diogel a sicr at Goll Chwant at Fwyd, Rhwymedd Gwastadol, Anhwylderau Geriol a Gieuol, Diffyg Treuliad, Blinderau yr Elwl- enod a Gwendid Cyffiredinul. POTELA.U PEINT, 40c.; CHW ART, 75c. UNIG ORUCHWYLWYR, J. H. SHEEHAN & CO., CYFFERWYR CYFANWERTHOL A MANWERTHOL, 155 GENESEE STREET, UTIOA, N. Y.