Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

MARWOLAETH JOHN ROBERTS, YSW.,…

News
Cite
Share

MARWOLAETH JOHN ROBERTS, YSW., 0 NEW YORK A DUNELLEN, N. J. NEW YORK, Mai 6.—Y mae yn debyg y byddwch wedi clywed am farwolaeth John Roberts, Ysw., Duneilen, N. J., yr hyn a gymerodd le yn dra sydyn, er colled fawr, nid yn unig i Gymry y ddinas hon, ond hefyd i nifer mawr eraill a ddalient gysyllt- iad ag ef yn gymdeithatol a masnachol. Yr ydoedd wedi bod yn wael er's rhai misoedd, dan anwyd trwm, ond ni ddychymygai neb fod perygl mor agos. Denai i'r ddinas yn ddyddiol, gan deimlo weithiau yn waeth ac weithiau yn well; ac yr oedd yn ei swyddfa ar State Street, ddydd Llun, yn teimlo yn well nag arfer. Teimlai yn gyffelyb ar ol myned i'w aneddle yn Dunellen; a chysgodd yn dawel hyd bedwar yn y boreu, pryd y cododd i ymofyn am ddiod o ddwfr, gan d lychwelyd i'w wely. Am 5.30 clywai Mrs. Roberts ef yn anadlu yn lied ryfe Id, a gofynodd iddo sut yr oedd yn teimlo. Ed- rychai arni heb ddyweyd yr un gair, a chau- odd ei lygaid, i beidio eu hagor mwy. Beth ydym yn ei weled yma ? Un yn uiarw yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Bu ei fywyd yn llawn gweitbgarwch a diwylliant, hollol yn ei linell ei hun. Mab ydoedd Mr. Roberts i William ac El- len Roberts, Caergybi, Mon. Y peth cyntaf ydym yn gofio am dano oedd, ei fod ar y 0' blaen fel ysgolhaig yn yr ysgol ddyddiol yn Nghaergybi. Yna cawn ef yn weithgar a llafurus yn yr Ysgol Sul; ac fel arolygwr, traddododd lawer anerchiad hapus. Yn nesaf yr ydym yn ei gofio yn dysgu ei alwed- igaeth fel peirianydd (engineer), yr hon a ddysgodd yn bur berffaith, fel y gellir gwel- ed oddiwrth y sefyllfaoedd pwysig fu yn eu dal. Wedi hyny cawn ef yn brif beirianydd un o longan Llinell y West Indies o Liver- pool; a bu yn morio i'r India Ddwyreiniol am amser maith, dan yr un cwmni. Diameu y cofia miloedd o'n oydgenedl a arferent ddarllen yr Herald Cymraeg yr adeg hono, am y llythyrau gwerthfawr a anfonodd o'r India iddo, yn cynwys hanes y wlad, y trig- olion a'u dnwiau. Ar ol gwasanaeth ffyddlon am flynyddau, anfonwyd ef i New York i fod yn arolygwr ar yr Atlas Mail Line, yr hon swydd a gyf- lawnodd yn ddoeth a deallus am y cyfnod maith o ddeng mlynedd. Rhoddodd y oys- ylltiad hwn iddo gyfle i ddaogos ei alluoedd fel peirianydd cywrain; ac i ddyfod yn ad- nabyddus mewn gwahanol gylchoedd. Tua dwy flynedd yn ol, agorodd swyddfa ar State Street, fel Consulting Engineer and Naval Architect. Gweithiodd yn ddi-ildio yn y fan hon eto, nes yr oedd wedi dyfod i gymaint o fri, fel y methai yn lan a chael digon o amser i gvflawni y gwaith tt ymddir- iedid iddo. Ei fwriad ydoedd cymeryd Mr. Williams, prif beirianydd yr agerlong "Al- aska," yn bartner yn y busnes; ond erbyn hyn y mae y crefftwr cywrain wedi ehedeg o ganol ei ddefnyddioldeb i fod yn fwy def- nyddiol gyda'i Dduw. Aeth oddiwrth ei lafur at ei wobr. Y mae ein calon yn teimlo yn ddwys dros ei anwyl briod a'i hunig eneth fach mewn gwlad estronol, pan y mae cymylau duon o drallod yn eu hamgylchynu, a phob cysur fel pe wedi ei dori ymaith. Y mae yn an- hawddda' ybrofedigaeth; ondnibu profed- igaeth erioed mor ddrwg na allasai fod yn waeth. Gadawodd Mr. Roberts ddigon o eiddo ar ei ol i Mrs. Roberts a'i merch i fyw yn gysurus yn y byd hwn; ac y mae yn dda genyf allu hysbysu, can belled ag y gallaf weled, ei bod hefyd yn feddianol ar y cyf- oeth diddiflanedig. Felly gallasai fod yn waeth. I. Yr oedd yr ymadawedig yn gefnder i Hugh Roberts, Tsw., cyn-lywydd Oymdeithas Dewi Sant.- Un yn teimlo colled. MANYLION CHWANUGOL. NEW YORK, Mai 9.-John Roberts, Dun- ellen, wedi marw! Dyna ynewydd adrydan- wyd i'r ddinas hono foreu Mawrth diweddaf, nes syfrdanu canoedd o Gymry ao eraill o fewn cylch adnabyddiaeth yr ymadawedig— yr hwn ydoedd wedi cyraedd pinacl ei ym- ddyheuad masnachol, ac megys yn graspio y maen excelsior, pan dcrwyd ef i lawr yn ddi- symwth, yn 43 oed. Bu yn brentis yn y Black Bridge Iron Foundry, lie y cafodd symbyl- iad i'r aweb oedd ynddo tuag at beirian- waitn. Gweithiodd yn ddiwyd a daeth yn pefftwr cywrain. Ar ol gadael ei brentis- laeth, cyfeiriodd ei wvneb tua Liverpool, lie y cafodd fantais i ddadblygu ei alluoedd gyda James Jack a'i Gwm; ao yr enillodd enw uchel fel gwr ieuanc crefyddol a dich- lynaidd, so aelod o eglwys yr hen "Rose Place." Derbyniai ganmoliaeth uchel ar derfyn pob mordaith, fel peirianwr gofalus a manwl; ac o'r diwedd daeth allan o'r pair arholyddol gydag "honors." Ac yn ganlyn- ol, trwy astudiaeth galed ao ymroddiad pen- derfynol, enillodd Extra Chuif Engineers Certificate. — Ymbriododd a Miss Ellen Thomas, Church Fields, Llandwrog, Caernarfon; a chafodd yr ysgrifenydd y mwynhad o groniclo y briodas a ohyfansoddi yohvdig englynion ar yr amgylohiad,y rhai a ymddangosasant yn yr Herald. Parbaodd gyda'r un owmni fel Prif-beirianydd am flynyddau; ac yr oedd ei wasanaeth yn rhoddi oymaint o foddhad fel y penderfynodd y cyfarwyddwyr ei ddanfon 1 New York, yn Brif Beirianydd llinell new- ydd i forio i'r West Indies; ao fel "Roberts yr Atlas Line," y mae fwyaf adnabyddus, byth wed'yn. Fel aelod ffyddlon o eglwys 13th Street, ao athraw yn yr Ysgol Sul, gwelwyd yn am- lwg effeithiau addysg boreu oes. Yr oedd ei galon a'i bwrs bob amser at wasanaeth pobpeth tueddol i ddyrchafu motsoldeb a chrefydd; a chanoedd o Gymry a noddwyd ganddo pan oedd yn gysylltiedig a'r Cwmn a nodwyd. Nid oedd neb parotach i wneyd cj mwynas a chyfranu elusen. Fel aelod o gymdeithas, troai yn y cylch uchaf, ac ed- rjchid ato fel un o'r rhai mwyaf raedrus (expert) yn ei gelfyddyd. Ar ei ymadawiad :i Chwmni yr Atlas, tua dwy flynedd yn ol, orewyd gwagendor y bu raid i ddau o leiaf geisio ei llanw; a derbyniodd ef dystysgrif gan brif aelod y Cwmni yn cynwys y gan- moliaeth uchaf am ei ddvfalwch a'i ffydd- londeb dros yr ysbaid hirfaith y gwasan- aethodd hwy. Wedi iddo agor swyddfa fel "Consulting Engineer and Marine Surveyor," gweitbiodd yn ddiwyd trwy lawer o rwystrau anorfod; a choronwyd ei ymdrechion a llwyddiant nodedig; ond pan oeddyn eyll- dremu ar lwyddiant dyfodol, a'r gorJifiad masnachol yn rhedeg tnag ato, rhcddwyd terfyn ar y cyfan, gan wirio yr hen air. "Yn nghanol ein hywyd yr ydym yo wngeu." Yr oedd ei acedd bob amser yn Liverpool, New York a Duneilen. yn agored e led y peD i dderbyn gweinidogion y gair; ac y mae can- oedd o honynt allant ddatgan pa mor groes- awgar y derbynid hwynt gan y teulu caredig. Yr oedd hefyd wedi esgyn grisiau enwog- rwydd fel lienor. Darllenai lawer, ac yr oedd yn feddianol ar lyfrgell gyfoethog. Mewn un Eisteddfod a gynaliwyd yn New York, datganai Dr. W. C. Roberts fod y traethawd buddugol (eiddo Mr. Roberts), ar "Ddylanwad yr Ysbryd Glan," yn un o'r cyfansoddiadau goreu a ddarllenodct erioed; yn werth ei argraffu, ac yn ffrwyth meddwl ymchwilgar a choethedig. Priddellwyd gweddillion y Cymro twym- galon hwn dros enyd yn y New York Bay Cemetery, pryd y gwasanaethwyd yn bur effeithiol gan y Parch. R. Vaughan Griffiths, yn y ty ac wrth lan y bedd. Daw fyddo yn nawdd ac amddiffyn dros ei weddw a'i phlentyn galarus; a bydded iddynt syl- weddoli mai yr un Arglwydd ydyw yr hwn a gymerodd ymaith, ag sydd yn Dad i'r am- ddifad. ao yn farnwr i'r gweddwon. Wrth derfynu yr ychydig nodiadau hyn, rhed v llinellau canlynol i'm meddwl, a gellir eu hargraffu ar gareg fechan ei fedd: Ddarllenydd, yr oil huna,—yn unig Yw'r anianol yma; Hanesydd hwn yw oes dda O'i ol ef hir lefara! Gwr diwyd,gweitbgar, duwiol,—ydoedd hwn Hyd ei ddydd rhinweddol; Yn y bedd, gan bawb o'i ol Y caiff fywyd coffhaol. Duwiol iawn, dielynineth,—ydoedd hwn Hyd ddydd ei farwolaeth; Myn'd drwy 'i fyd mewn trafodaeth Yn ddyn i ddyn a'i Dduw wnaeth. Menaifardd. Robert Lewis, Ysw., o New York, hefyd a ysgrifena: "Wedi derbyn telegram yn hys- bysu marwolaeth John Roberts, prysurais tua Duneilen. lie y cefais Mrs. Roberts bron wedi ei llethu gan y brofedigaeth lem, a Hannah bach yn ei hymyl, megys angyles fechan, yn ei chysuro, gan ddvmuno arni beidio a wylo, fod ei thad mewn gwell lie. Dont cry "Mamma," meddai, "Papa is in heaven; do ask Jesus to help you. Papa has gone to Him; dont cry mamma, papa has gone home." Nid oedd gan Mrs. Lewis a minai ond tewi, gan gydalaru yn ddwys a Mrs. Roberts ar ol ei phriod siriol, tyner a gofalus, a'r cyfaill didwyll, calon-agored a ffyddlawn. Ymddengys iddo godi oddeutu pump o'r gloch boreu dydd Mawrth, a myned i'r bath room fel yr arferai wneyd, ond iddo ddych- 'welyd i'w wely drachefn, a syrthio i drwm- gwsg tawel, o'r hwn ni ddadebrodd. Yr oedd wedi marw cyn haner awr wedi pump. Ni cbafodd ef na'i deulu nn rhvbudd o fod y cyfnewidiad yn agos. Yr oedd vu Ne v York dd dd Llun, yn edrych ar ol ei alwed- igaeth fel arfer, a theimlai yn siriol a chroes- awus y noson hono yn nghwmpeini ei deulu. Ei afiechyd ydoedd Bright's disease of the kidneys. Dydd Mercher, d&eth lluaws mawr o'i gydna- bo11 Duneilen 1 hebrwng el weddlllion t Bay View Cemetery, ac 1 dclangoø eu cydymdeimlad a'r weddw a'! merch amddifad. GweiHfddwyd yn yr angladd gan y Parch. Dr. Raymond, o Piainfield, a'r Barch. B. V. Ghriffl h. Teimlir w'led ar el ol mewn llwer cylch heblaw el deulu a'r eglwys y perthynai iddi. Drwedsi un cyfaill ya yr angladd: "The suushlna of Dun- eilen has departed. He was a generous heartad man." Felly y gall llawer Oymro hefyd ddweyd am dano a llawer teulii Cymreig. Yr osdd el galon all logell uob amsw yia agured at waswi aeth y tlawa a'r angheaus, ya enw^dtg el gen- edlelhun. Heddwch I'w lwch, a thaugneledd Duw a breswyllo yn mynwesau ei anwyl weddw a'i ferch hyd byth. y Duw a breew1110 yn mynwes&u 61 anwyl wedd w

[No title]

[No title]

[No title]

[Hysbysiad.]

Meddyginlaeth J. T. Thomas.

Advertising

[GTDA'B PKLLEBYB TANWEBTDDOL.]

AMRYWION TRAMOR.

profion Hynod

NODION PERSONOL.

MANION 0 MAHONING, O.

Teulu W. Jones, Cherokee,…

Cyfarfod Chwarterol Cynulleidfaol…

[No title]

Y PLA YN PLYMOUTH.

[No title]

Y GWRTHRYFEL TN MANITOBA.

Y SOUDAN.

RWSIA A CHINA.

[No title]

Advertising