Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
SALINEVIIiIiE, OHIO.
SALINEVIIiIiE, OHIO. Chwareu yn Troi'n Chwerw-Llofruddiaeth Gertie Phillips-Y Gweithfeydd. SALINEVILLE, 0., Gorph. 10.—Wythnos ddiwyd iawn mewn cysylltiad a festivals oedd yr wythnos ddiweddaf yn Mehenn, rhwng gwleddoedd y Grand Army of Re- public,y Skating Rink,a'r Free and Accepted Masons, y rhai sydd yn llewyrchus iawn yn • y lie, a phob amser yn barod i gyfranu, neu roddi benthyg yr Opera House at unrhyw fudiad da a'r delerau resymol. Ar y "Pedwerydd," yn gynar yn y boreu, bu'r pylor du yn gwneuthur difrod mawr. Taniwyd y magnel oedd wedi ei osod ar glogwyn uchel gyferbyn a chanol y dref, a pharhawyd i wneyd hyny am haner awr, nes oedd y bryniau a'r cymoedd yn dadseinio. Yna dechreuodd holl glychau yr eglwysi a'r ysgoldai ymuno yn y rhialtwch. Ond yn dclisymwth, dc ow'r maenel wedi dystewi, a phedwar o ddynion ieuanc wedi cael eu brathu gan y bradwr-rhai o honynt yn lied ddrwg; ond trwy drugaredd arbedwyd eu bywydau, ac maent oil ar wellhad. Ar y 5ed cyfisol, tarawyd y gymydogaeth a braw, gan y newydd wylofus, fod corff Gertie Phillips, merch ieuanc 16 mlwydd oed, wedi ei gael mewn cyflwr truenus, ac erchyll yr olwg arno, yn y coed yn ymyl y dref. Bu yn gorwedd yn y eyflwr hwnw oddiar y 29ain o Mehefin. Cymerwyd i'r ddalfa George Hunter, Robert Farish a W. Mahoney, ar ddrwgdybiaeth. Wedi hyny rhyddhawyd Farish a Mahoney; ond ymer- wyd Mahoney i fyny wedi hyny, ac yn awr y maent yn arcs tu prawf yn New LisboD. Drwgdybir y fam o fod yn euog, dynes o gymeriad isel, a'r hon fu yn foddion i orfodi ei merch i ddylyn ei hesiampl. Araf iawn yw'r fasnach lo yma yn bresen- ol-rhai o'r gweithfeydd wedi sefyll er's wythnosau, ac eraill yn gweithio ychydig. Mae hyn yn peri i ni golli rhai o'n plith; ond y gofyniad yn ami yw, I ba le yr awn? Mae gwaith Cranage & Androon wedi sefyll er's dwy wythnos. Arolygir ef yn fedrus gan y Cymro twymgalon Gomer E. Lewis. Nid yw yr hen batriarch Evan Roberts wedi gwerthu "ei holl eiddo a myned i wlad yr erin cochion" eto. Y mae yn edrych yn dda iawn ar hyn o bryd. Bum dro yn ol yn er- fyn ar y dyn parchus Georire Roberts, Ma- hanoy, Pa., yma i agor gwaith, ond y mae wedi myn'd yn ddystaw yma eto. Llawen genyf weled rhai o'r Cymry yn dyfod i fyny, megys Wm. Phillips, yr hwn sydd wedi codi bwthyn tlws a phrydferth er ei gysur yn ei hen ddyddiau. Mae'r Cymry yma yn para tua'r un nifer. Terfynaf y tro hwn eto. LLWCH LLANFRAITH.
[No title]
GowEN, PA., Gorph. 10.—Ar y 4ydd, cyn- aliwyd picnic dan nawdd Ysgol Sabbothol y Bedyddwyr. Mae Uuaws o bethau wedi eu dechreu gan y Cymry yn y lie hwn. Dech- reuasant bregethu, a chanddynt hwy y bu yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn y 11e. Oni bu- asai am y Cymry, ni chlylvsid byth son am gyngerddau yn y lie anghysbell hwn; ac iddynt hwy mae diolch am y meddylddrych o bicnic, yr hwn a drodd allan yn llwydd- iant perffaith, gan roddi boddlonrwydd cyff- redinol hefyd. Cafodd pawb eu gwala a'u gweddill o bob peth. Drwg genym ddeall fod y tywydd wedi tori ar amcan y cyfeill- ion mewn perthynas a'r cyfarfod, yn yr ys- goldy yn yr hwyr; ond cafodd cymaint a ddaeth yn nghyd, eu llwyr foddloni.—[Ap Thomas.
"Y LLES I IEUENCTY0 CYMREIG…
"Y LLES I IEUENCTY0 CYMREIG AMERICA DDYSGU YR IAITH GYMRAEG." GAN JOHN D. LEWIS, CLEVELAND, OHIO. Oni fyddai medru siarad a deall Cymraeg yn llesol iawn i'r ieuenctyd hyny sydd yn bwriadu ymgymeryd a gwaith pwysig y weinidogaeth efengylaidd? Dichon y cyfar- fyddant ag amgylchiadau ag y byddai eu gwybodaeth o'r Gymraeg yn fanteisiol idd- ynt, hyd yn nod pe y bwriadant ymsefydlu yn weinidogion ar eglwysi Seisnig. Ceir rhai eglwysi Cymreig yn ein gwlad hefyd, ydynt yn feusydd deniadol, a gobeithiol i lafurio ynddynt fel gweinidogion; er y rhwydd gyfaddefwn mai ychydig iawn o at- dyniad i ddynion ieuainc talentog sydd yn yr eglwysi Cymreig mewn modd cyffredinol; ond yn annibynol ar hyny, byddai yn hyf- rydwch sylweddol, meddyliol iddynt eu bod yn medru pregethu Cymraeg, ac yn alluog i fwynhau pregethau Cymreig prif bregeth- wyr Cymru ac America. Heblaw hyny bydd- ent yn alluog i ddarllen newyddiaduron a llyfrau Cymreig, yr hyn a fyddai yn gynorth- wy iddynt yn eu hefrydiau; yn eu galluogi i gyfuno rhagoriaethau yr areithfa Cymreig a Seisnig yn eu gweinidogaeth gyhoeddus; a rhoddai iddynt fanteision a chyflensderau hefyd i wneyd daioni i'w cydgenedl yn gym- deithasol a chrefyddol. Credwn ein bod wedi profi yn ddigon amlwg erbyn hyn, fod dysgu Cymraeg o leshad i'n hieuenctyd mewn cysylltiad a'u hamgylchiadau bydol, yn mha gylch bynag y byddont yn debyg o droi ynddynt, yn Iluosogi eu cyfleusderau i gyraedd llwyddiant, ac yn eangu cylch eu dylanwad, a'u defnyddioldeb cymdeithasol a chrefyddol. X—Dysgu Gymraeg yn llesol i'n hieuenctyd, oblegid trlDY hyny byddent yn sicrhauparhad ein hiaith a'n cenedlaetholdeb.—Credwn fel yr aw- grymasom yn flaenorol, fod sicrhau parhad ein hiaith a'n cenedlaetholdeb, yn llesol a manteisiol i ni fel cenedl; a chan fod yr ieu- enctyd yn gwneyd i fyny ran bwysig o'r genedl, rhaid o ganlyniad, fod yr hyn sydd yn llesol i'r genedl, yn llesol hefyd iddynt hwy. Y mae iaith pob cenedl yn adlewyrchu i raddau, nodweddion meddyliol, moesol a chrefyddol y genedl i'r hon y mae yn gyf- rwng llafaredig ac ysgrifenedig, a dulliau neillduol o feddwl y rhai a'i siaradant. Felly gellir dywedyd am yr iaith Gymraeg: y mae ei llythyrenau, ei geiriau, a'i brawdd- egau, yn meddu ar gymwysder arbenig i'n hamgylchiadau, a'n dulliau ni o feddwl a theimlo. Mae ein syniadau a'n brwdfrydedd cenedlaethol megys yn byw yn ei seiniau; a byddai colli ein hiaith yn achosi colled, a diffyg teimladrwydd yn nghyfoeth cyfne- widfa fawr y byd meddyliol. "Gwirionedd a gydnabyddir gan bob dyn meddylgar, yd- yw fod parhad iaith yn ddarostyngedig i ddeddfau Rhagluniaeth; oblegid, a fyno Duw a fydd. Un o'r deddfau mwyaf effeith- iol er diogelu bywyd, ydyw y cariad at fywyd a blanwyd gan y Creawdwr yn y natur ddyn- ol; ac y mae gallu y ddeddf hon yn un o'r dylanwadau cryfaf er diogelu parhad iaith, sef cariad ati." Nid yw Rhagluniaeth hyd yn hyn, feddyliwn i, yn awgrymu ei bod am ddifodi yr iaith Gymraeg; ond y mae yn beth eithaf posibl i ladd iaith cyn yr amser ordeiniedig iddi farw, fel ag y mae miloedd o ddynion yn byrhau eu hoes ar y ddaear, trwy esgeulusdod a ffyrdd eraill. Os bydd y Gymraeg farw yn anamserol, ei phlant a thylwyth ei thy, fyddant yr offerynau a wnant hyny; nid trwy ymosodiad gorthrech- ol, ond trwy ei hesgeuluso, ei newynu hi megys i farwolaeth; ofnwyf fod lluoedd o ieuenctyd Cymreig America yn euog o hyn. Nid peth dibwys yw trancedigaeth iaith, ond y mae yn ddygwyddiad pwysig a phruddaidd yn nghofnodion y byd, yn ach- osi gwagle nas gellir ei lenwi, ac yn golled anadferadwy i'r hil ddynol. Ni charwn ar un cyfrif i'n hieuenctyd Cymreig fod yn euog o lofruddio ein hen-iaith odidog. Diau fod y syniad hwnw i feddwl ystyriol yn wrth- odedig a dirmygedig, a bod y rhai ydynt yn euog o wneyd hyny, naill ai yn anystyriol, neu yn anwybodus o'r canlyniadau anochel- adwy. Felly anwyl ieuenctyd gwnewch eich rhan a'ch dyledswydd dros iaith eich tadau; gwnewch hyn er mwyn eich llesiant person- ol, oddiar gymhellion cenedlgarol a gwlad- garol, ac er mwyn y dylanwad daionus, a'r bendithion dderbynir trwyddi, ar yr aelwyd gartref, trwy y wasg, yr esgynlawr, ac yn neillduol trwy yr areithfa. Carwn weled ein hieuenctyd wedi eu trwytho ag ysbryd y bardd Cymreig pan y canai; 'Iaith araul, a'r iaith orau,-iaith gudeg, Iaith gadarn ei seiliau; Iaith fy nhud, iaith fy nhadau, Iaith ber oil, laith 1 barhau. Y Gymraeg digymhar yw,—Iaith hydrefn, A iaith ddldranc ydyw; Hon fu, sydd, ac a fydd fyw Er estron a'i fawr ystryw." XI. Parhad ein Cenedlaetholdeb. --Gellir cymwyso yr hyn a ddywedasom mewn cys- ylltiad a Rhagluniaeth a pharhad iaith, at barhad ein hunaniaeth cenedlaethol hefyd; y mae'r naill a'r llall yn ddarostyngedig i'w deddfau hi. "Yr Arglwydd sydd yn teyrn- asu." Mae parhad iaith yn hanfodol er par- had cenedl. Yr ymwybyddiaeth o hyn yw'r achos fod llywodraethwyr gormesol Ewrop, y rhai ydynt wedi gorthrechu cenedloedd eraill a thrawsfeddianu eu gwledydd, yn defnyddio mesurau mor llymion, a chreulon yn ami, er difodi ieithoedd cynhenid y gwledydd gorchfygedig, a'u gorfodi i fabwys- iadu iaith eu gorchfygwyr; oblegid cyhyd ag y parhaont i siarad eu hieithoedd cynhenid, bydd eu barddoniaeth, eu llenyddiaeth, ac hyd yn nod eu hymddyddanion cymdeithas- ol cyffredin, yn dwyn ar gof iddynt eu rhyddid, eu llwyddiant, a'u hannibyniaeth cyntefig, ac mewn canlyniad yn cynyrchu ynddynt awyddfryd am, ac ymdrechion i ymryddhau odditan yr iau festronol a gor- mesol. Rhaid difodi iaith cyn difodi hunan- iaeth cenedlaethol cenedl. Gwir fod rhai eithriadau i hyny, megys y Gwyddelod; er eu bod hwy yn genedl orchfygedig, wedi colli eu gwlad a'u hiaith, eto cadwant eu cenedlaetholdeb. Dichon y gellir priodoli hyn i'w gwladgarwch, yn nghyd a'r casineb per- ffaith, a pha un y cashant eu gorchfygwyr; a diau hefyd fod a fyno eu crefydd gryn lawer a hyn. Unir hwy gan Babyddiaeth, a defnyddir hwy gan yr eglwys drahaus; a chyfrwys hono, fel offerynau hylaw, er cyr- haeddyd amcanion uchel-geisiol ei phrif swyddogion trwyddynt. Y Cymry hefyd ydynt wedi colli eu gwlad er ys canrifoedd bellach, ond cedwir yr hen iaith yn fyw rhwng bryniau Gwalia, yn ogystal ag yn America hyd heddyw; ond can gynted ag y collwn ni ein hiaith, ni a gollwn hefyd ein cenedlaetholdeb; oblegid dyna yr unig rwymau a'n rhwyma wrth ein gilydd. Mewn syniadau crefyddol, er ein bod fel cenedl yn Brotestaniaid selog a phybyr, yr ydym yn rhanedig i wahanol bleidiau crefyddol. Yr unig sefydliad cenedlaethol sydd genym yd- yw yr Eisteddfod; ar ei llwyfan hi yn unig y ceir digon o eangder a chenedlgarwch, fel ag y gall y genedl gydgyfarfod arno a chyd- weithredu dros barhad ein hiaith a'n cenedl. Gwyddom fod anhawsderau lawer ar ein ffordd i gadw ein cenedlaetholdeb, yn en- wedig yn y wlad hon; megys bychander ein rhif, ein sefyllfa wasgaredig, ac mai yr iaith Saesneg yw iaith ein gwlad fabwysiedig; gwybodaeth o'r hon,a medrusrwydd i'w har- feryd mewn siarad ac ysgrifen, sydd yn an- hebgorol angenrheidiol er llwyddo mewn unrhyw gylch, pa un bynag a'i masnachol, llenyddol, cymdeithasol, neu wladwriaethol. Ond nid yw yr anhawsderau yn anorchfygol, na'r rhwystrau ynansymudadwy,gyda dyfal- "Y barhad, egni a chydweithrediad rhieni a phlant, ac ieuenctyd ein cenedl. Byddai yn golled ddirfawr i ni fel cenedl,ac yn golled i'n gwlad fabwysiedig, pe collem ein cenedl- aetholdeb; collem ar yr un pryd ein nod- weddion a'n rhagoriaethau cenedlaethol, ac ymdoddem i, a chollid ni yn v genedl fawr Americanaidd, ac fel rheol gyffredin yn y cyfryw amgylchiadau, mabwysiadem ddiff- ygion yr Americaniaid yn nghynt na'u rhag- oriaethau. Nid ydym mewn un modd am iselhau yr Americaniaid; na, yr ydym yn ed- mygwyr gwresog o'u rhagoriaethau, ac yn cydymffrostio yn y gorchestion a gyflawn- wyd ganddynt,er enill eu hannibyniaeth a'u rhyddid, ac yn yr aberthau mawrion a wnaethpwyd gan ein cyd-ddinasyddion o bob cenedl, er sicrhau y rhyddid a'r anni- byniaeth hwnw, yn adeg gwrthryfel gwaed- lyd y caethfeistri; ac yn cydlawenhau a hwy yn eu dyfeisiau celfyddydol ardderchog, a'u darganfyddiadau gwerthfawr yn meusydd y gwyddorau; ond credwn ar yr un pryd fod cymeriad cenedlaethol y Cymry, a'i gymeryd yn yr oil o hono, yn rhagori ar gymeriad cenedlaethol yr Americaniaid, yn enwedig mewn moesau a chrefydd. Priodolwn gryn lawer o'r rhagoriaethau a berthynant i'n cenedl, i'r ffaith o'n hymlyniad wrth ein hiaith a'n cenedlaetholdeb; oblegid y mae'n ffaith brofedig yn Nghymru ac America, fod y Cymry hyny ydynt yn graddol golli yr iaith Gymraeg, ac yn mabwysiadu y Saes- neg, yn is mewn moesau a chrefydd, na'r Cymry a lynant wrth eu hiaith. A pha drysor gwerthfawrocach, a pha beth sydd o fwy o leshad i ieuenctyd,na bod yn feddian- ol ar gymeriadau moesol pur a chrefyddol? Heb gymeriad da nid yw cyfoeth, anrhyd- edd, nac enwogrwydd cymdeithasol, ond teganau darfodedig; ond ychwaneger y rhai olaf at v blaenaf, bydd gan y meddianydd elfenau gwir fawredd; elfenau a'i dyrchafant, ac a'i henwogant yn y byd hwn, ac a'i dyrch- afant yn gydradd ag engylion yn y byd a ddaw-yr ysbrydol. Gan fod eadwraeth ein hiaith a'n cenedlaetholdeb yn fanteisiol i ni er sicrhau eymeriadau moesol pur a chref- yddol, rhaid y byddai dysgu Cymraeg a glynu wrth eu cenedl, o leshad neillduol i'n hieuenctyd, oblegid y mae eymeriad da yn hanfodol angenrheidiol er sierhau gwir lwyddiaDt mewn unrhyw gylch, bydded fas- nachol, gwleidyddol, neu gymdeithasol. Y diffyg o hyn (sef meddu cymeriad da), yd- yw'r achos fod cynifer o wleidyddwyr, mas- nachwyr, trysorwyr, ac ysgrifweision ein gwlad, wedi, ac yn syrthio i brofedigaethau chwerwcn, o herwydd camddefnyddio a lladrata eiddo na pherthynai iddynt. Gall ein hieuenctyd trwy wneyd defnydd priodol o'r manteision addysgol gwerthfawr sydd o fewn eu gafael, gymwyso eu hunain i lenwi unrhyw gylch. Nid oes achos iddynt fod yn ol i ieuenctyd unrhyw genedl yn ein gwlad fabwysiedig; ond wrth ymestyn at hyny, bydded iddynt ofalu am gadw i fyny enwog- rwydd y genedl Gymreig, am burdeb moes- ol, tueddfryd crefyddol, a gonestrwydd ym- arferol. Ieuenctyd Cymreig America! Gosodwch brifnod eich bywyd, yn ddigon uchel o'ch blaen. Na wnewch gasglu cyfoeth yn brif amcan eich bywyd, ond os llwyddwch i gasglu cyfoeth mewn ffordd deg ae anrhyd- eddus, defnyddiwch ef yn y fath fodd ag y byddo yn llesol i gymdeithas, yn anrhydedd i chwi, ac yn ogoniant i Dduw. Diwylliwch eich meddyliau yn ngwahanol gangenau gwybodaeth. Ymwthiweh i ddyrys ystafell- oedd celfyddyd, ac i guddfanau y gwyddor- au. Mynwch wybod (os yn bosibl) y pa- ham, a'r pa fodd, am bob peth o fewn cylch eich gwybodaeth, a'ch efrydiaeth; ond gofal- wch bob amser am beidio colli golwg ar yr achos mawr o bob peth, wrth chwilio am yr ail-achosion; a pha beth bynag fyddo'r safle a gyrhaeddweh, nac anghofiwch yr iaith Gymraeg, na bod a chywilydd arnoch arddel eich haniad Cymreig. T
CYW Y GOG, NEU DDAME6 I'K…
CYW Y GOG, NEU DDAME6 I'K AMSER- OEDB. Yn mhlith holl lwythau asgellog Cymru, nid cos un aderyn yn meddu ar nodweddion mor hynod a dyddorol a'r gog. Dodwa ei hwyau mewn nythod adar eraill: nid adar mawr fel ei hunan, ond rhai bychain, dys- tawach, a mwy gostyngedig, megys llwyd-y- gwrych, y chwidr-ferch, gwas-y-gog, llinos- en-felen, &c. Cymer feddiant o nythod y rhai hyn; gesyd ei hwy i mewn, yna rhaid i'r aderyn bach eistedd arno nes y byddo wedi deor. Pan y daw cyw y gog allan o'r wy, ei ymdrech cyntaf yw troi y eywion eraill oil dros y nyth, yr hyn a wna yn hynod dde- heuig, drwy wthio bonio ei adenydd o dan- ynt a'u codi ar ei gefn; ac yna dringa ar ym- ylon y nyth, a chydag ysgogiad sydyn teifl hwynt, druain, drosodd i'r drain. Y mae y duedd hon i feddianu'r nyth iddo ei hunan yn reddfol o'i fewn. Gwelwyd ef gan natur- iaethwyr credadwy yn taflu wy ar ol wy, a chyw ar ol cyw, dros ymyl y nyth cyn agor ei lygaid, a chyn bod yn dri diwrnod oed. Dywedir fod pantle ar ei gefn sydd yn ei gymwyso i gymeryd y baich, ei godi i fyny, a'i luchio ymaith. Wedi iddo feddianu y nyth, gorphwysa yr holl ofal a'r llafur o'i ddwyn i fyny ar ei rieni mabwysiedig. Y mae ganddo safn fawr goch, ac y mae yn llyncu yn brysur yr holl fwyd a ddygir iddo gan yr adar, ac y mae yn tyfu i fyny yn dra chyflym. Wedi ehedeg dros y nyth, buan yr ymfuda o wlad ei enedigaeth. Diau y teimla ein darllenwyr ddyddordeb i wybod i ba le y mae yn myned wedi ymadael ag Ewrop. Eheda i lawr ar ei union dros Aff- rica i Benrhyn Gobaith Da; teithia hefyd i India, ac nid peth anghyffredin yw ei gweled yn y tymorau oerion ar y llwyddyn. Dywed rhai ei bod yn myned hefyd i Ynys Celebes, yn y Moluccas. Yna dychwela yn ol yn y tymor hyfrydaf ar y flwydayn. Ac yn awr sylwer ar ei harferion. Nid yw yn gwneyd dim ond ehedeg o fan i fan, gan ddewis y dyffrynoedd a'r llethrau prydferthaf yn y wlad. Eheda o bren i bren, gan byncio a chanu fel brenines y goedwig. Pa ryfedd ei bod yn canu, oblegid nid yw yn gwneyd dim at ei chynaliaeth; eheda o nyth i nyth, gan yfed wyau adar y wlad. Nid oes ofal yn y byd arni; bwria ei gofal ar lwythau asgell- og y wlad am ei chynaliaeth ei hunan, yn gystal ag am ei chywion. Wele, ddarllen- ydd, rai o brif nodweddion y gog: diog, moethus, yn byw ar draul eraill, ac heb ddim mewn golwg ond hunan-fwynhad. Diau y gwyr ein darllenwyr pwy yw y gog yn Mhrydain. Pa un yw yr aderyn sydd yn llyncu wyth miliwn (8,000,000p) o wyau melynion adar eraill ? Pa un yw yr aderyn a feddianodd nyth aderyn arall yn nheyrn- asiad Harri yr Wythfed ? Onid i'r Fran Ddu y perthynai yr holl eglwysi oedd yn y wlad yr adeg hono ? Pa hawl sydd gan y Gog iddynt ? Pwy ddodwodd ei hwy yn nythod Cymru ? Deorodd, a thyfodd i fyny hefyd. Wedi tyfu i fyny dechreuodd fwyta bwyd yr adar eraill i gyd. Erbyn heddyw y mae yr aderyn balch hwn wedi myned i lawer o gymoedd a dyffrynoedd prydferth Cymru. Ac y mae In cadw yn gryno at ei greddfau. Llynca wyau y wlad yn mhob cyfeiriad. Llynea un o honynt bob blwyddyn yn Llan- elwy o 4,200p.; un arall yn Nhy Ddewi, o 4,800p. un arall yn Mangor, o 4,200p.; un arall yn Llandaf o 4,200p. Y mae yr holl adar hyn, mewn gwlad fechan a thlawd fel Cymru, yn llyncu 260,000p. o wyau adar er- aill. Pa waith a gyflawnir ganddi, ar ol byw ar yr wyau hyn ? O! cofier ei greddf. Nid yw gweithio yn perthyn iddi. Meddianodd nyth y Fran Ddu ar y cychwyn; gorfoda ad- ar eraill i ddwyn ei chywion i fyny; a'r unig ad-daliad a wna yw llyncu eu hwyau a chanu arfrigypren, ew-cw! ac edrych i lawr yn ddiystyrllyd ar holl adar eraill y goedwig. Ymfyddined yr holl adar bellach yn ei her- byn, gan ei gorfodi i chwilio am ei hymborth ei hunan.-O'r Amseroedd.
MANION ETO 0 MINNESOTA.
MANION ETO 0 MINNESOTA. Amaethwyr yn Brysur-Adolygiad ar Ysgrif T. Hughes. SOUTH BEND, Gorph. 10.—Mae yn adeg brysur ar yr amaethwyr yn y parthau hyn, gan fod y cynauaf gwair wedi dechreu. Mae yma fwy o wair hadau, megys clover, a Timo- thy, yn cael ei godi, nag a fu erioed, gan ei fod yn cynyrchu mwy, a gwell llaeth ac ym- enyn, na gwair gwyllt ein daear ni yma. Mae y rhyg a'r haidd yn wynion i'r cynhau- af, a'r ceirch a'r gwenith yn addfedu yn gyf- lym; ac mae y clover a'r Indrawn yn argoeli yn hynod addawol, fel yrymddengys y bydd cyflawnder i ddyn ac anifail. Mae yma law- er o adeiladu ysguboriau newyddion, yr hyn a arwydda fod yr amaethwyr yn dysgwyl amser llwyddianus gyda phethau tymorol. Gobeithio na wnawn anghofio ein materion tragwyddol. Bydded i wenau Duw yn ei ragluniaeth, ein dwyn i ymofyn am y peth- au sydd uchod, tra mae yn amser cyfaddas. Y mae y Parch. Humphrey Jones wedi dychwelyd i'r gymydogaeth ar ol bod yn treulio dau Sabboth yn Swydd Clay, Iowa. Deallwn fod canlyniadau dymunol i'w wein- idogaeth yno, yn gystal a manau eraill. Dechreu y mis hwn, dychwelodd Mr. T. J. Jones a'i gymdeithion o'r Hen Wlad, wedi cael gwellhad i'w hiechyd yn ngwlad eu tad- au. Sieryd Mr. J. yn uchel am drefn a moesoldeb pethau a phersonau ar y Hong y croesodd y cefnfor ynddi, sef yr Alaska. Gwelais achwyniad yn y DRYCH am y 26ain o'r mis o'r blaen, gan Mr. T. Hughes yn er- byn "Un o'r lie," am ei adolygiad ar ei oheb- iaeth flaenorol. Gan ei fod ef wedi gosod rheol ar ddiwedd ei ohebiaeth ddiweddaf, ceisiaf amddiffyn fy adolygiad, yr hwn y cyfeiriwyd ato: Mewn perthynas i'r ffyrdd haiarn, yr amean oedd dwyn ei sylw at y camgymeriad mewn perthynas i'w rhif, ond ymddengys nad yw am gywiro ei amryfus- edd, ond ceisia lechu yn nghysgod yr hyn a eilw ef yn "awdurdod uwch." Cofied pawb o ddarllenwyr y DRYCH, sydd yn bwriadu talu ymweliad a Mankato, nas gallant ddy- fod ond gydag un o'r tair ffyrdd haiarn, sef y C., M. & St. Paul R. R; C. & N. W. R. R., neu y C. St. Paul & O. R. R., gan mai dyma yr unig rai sydd yn dyfod yma. Ymddeng- ys fod yr "awdurdod uwch" wedi enwi cang- en o'r olaf a enwyd, sydd yn cychwyn o Lake Crystal ddeuddeg milldir i'r gorllewin o Mankato, ac yn myned i'r de. Peidied Mr. H. ag efelychu Yankee tricks gwyr yr iaith fain yn eu hawydd i ddyrchafu lie yn uwch na'i sefyllfa; ond bydded iddo chwilio a gweled os yw y pethau hyn felly. Am y family advertisement, yr hyn a'm cym- ellodd i sylwi arno oedd cymaint o enwi perthynasau yn nghyda'u helynt, yr hyn sydd yn ddiflas i ddarllenwyr newyddiadur- on. Brawddeg hynod o'i eiddo yw "llenwi bol a chenfigen." Tebyg mai darganfyddiad newydd ydyw. Teimlwyf ei bod yn ddy- gwyddiad ffodus fod cenfigen wedi myned i'r bol, heibio i'r gal on, canys ni ddichon yr hyn a el i'r bol halogi dyn; ond mae lie i gasglu oddiwrth yr iaith front y mae Mr. H. yn ei defnyddio, fod cenfigen wedi aros yn ei galon ef, "Canys oddimewn i galon dyn- ion y daw drwg-feddyliau," &c. "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim; drwg diobaith ydyw." "Am hyny yr hwn sydd frwnt bydded frwnt eto." Hefyd mae yn cyhuddo "Un o'r lie" am guddio ei wyneb. Gweddus ddigon iddo wneyd hyny yn ol desgrifiad Mr. H. am dano; a buasai yn gweddu iddo yntau wneyd yr un peth, ar ol arfer iaith mor isel am un- rhyw berson mewn lie mor gyhoeddus. Ym- ddengys fod arno awvdd gweled fyngwyneb. Gwnaf ymddangos iddo ar yr amod iddo an- fon 25 cents yn dal am gyhoeddi yn y DRYCH, yr amser a'r lie i wneyd yr ymddangosiad; ond am ddangos fy wyneb i'r byd, nidystyr- iwyf fod dim yn y "Manion" diweddaf neu y rhai hyn yn galw am hyny. Y rheol a gym- eraf o hyn allan fydd, "Na ateb ynfyd yn ol ei ynfydrwydd." UN O'R LLE.
[No title]
YN NGHRAFANGAU EIRTH!—Y dydd o'r blaen, syrthiodd gweithiwr dros y ganllaw i un o gelloedd yr eirth yn y Zoological Gard- ens yn Paris, a bu agos a myned yn ysglyf- aeth i ddwy arth ag oeddynt yn dysgwyl am eu prydnawnfwyd. Gorweddai y dyn am amryw fynydau yn ddideimlad, gyda chlwyf dwfn ar ei ben, o'r hwn y ffrydiai y gwaed yn helaeth. Ymdrechodd y gwyddfodolion dynu sylw yr eirth oddiwrth y dyn trwy daflu iddynt dameidiau o fara a theisenau, a gwnaethant gymaint o swn fel y dychrynas- ant y creaduriaid, ac un o honynt tra yn chwilio am loches a ddynesodd at y dyn di- deimlad, a llyfodd y gwaed o'r clwyf. Yn nghanol y pryder daeth y ceidwaid yno, ac yr oedd y dyn ei hun erbyn hyn wedi dyfod yn ymwybodol, ac yn gweled ei berygl, gor- weddodd yn llonydd fel un marw, tra yr oedd y ceidwaid yn parotoi rhaff, ac yn cadw yr arth oddiwrth ei hysglyfaeth drwy ei tharo a pholion. O'r diwedd cydiodd y dyn yn y rhaff, a chyfodwyd ef i fyny gyda phob brys, er siomiant amlwg i'r bwystfil, yr hwn a ddangosai ei anfoddlonrwydd mewn oernad- au erchyll. H'.
[No title]
-Yn Franklin, Pa., yr wythnos ddiwedd- af, darfu i Lizzie Emmerich,20 mlwydd oed, saethu ei hun i farwolaeth o herwydd nad oedd yn gallu dysgu ei gwersi yn yr ysgol mor gyflym a'r gweddill o'r dosbarth.
BEIRDD A BARDDONIAETH.
BEIRDD A BARDDONIAETH. RIIYAV FOREU 0 HAF RHYFEDD." Esboniad Aneurin Fardd ar Ddeddfau Cyng- hanedd Cymreig. MRI. GOL.: Mewn atebiad i gais y brawd- fardd Ab loan, er y gwyr yn ddigon da eis- oes, gellid gollwng i dranc a difancoll y llin- ell uchod megys, un hollol amddifad o un- rhyw fath o gynghanedd, heb fwy na hyn- yna o grybwylliad am dani. Eithr pan y gofyna am ychydig nodiadau arni, ymdrech- af ei foddhau. Er wedi gweled nodiadau gan rywrai ar y linell, nid oes genyf gof pa beth oeddynt; ac y mae argraff ar fy meddwl i mi weled engraifft o eiddo y Dr. Cefni arni nad oeddwn ar y pryd yn cydweled ag ef, ond gan nad oes genyf gof pa beth ydoedd, leied oedd y sylw a delais i'r nodiad arni, nis gallaf ychwanegu yn ei chylch. Mi a all- wn feddwl fod y camsyniad fod cynghanedd yn y llinell yn tarddu oddiar yr achos a grybwyllai Gwallter Mechain, sef fod ambell Gymro yn barnu cynghanedd a chlust Sais. Y mae yn wir ei fod yn ofynol cael cydateb cydseiniaid, a newidiad llafariaid i wneud cynghanedd, a gall hyny foddio clust Sais a llygad Cymro; ond i gael cynghanedd gywir a foddha glust Cymro yn gystal a'i lygaid, rhaid i'r llinell hono a gynwysa gydseiniaid cyfatebol a llafariaid newidiol, feddianu hefyd gydbwysedd corfanol ac acenol, o'r hyn y mae y linell dan sylw yn hollol am- ddifad. Tybiwyf oddiwrth sefyllfa y cyd- seiniaid, yr honir ei bod yn draws o gyswilt, er fod y cyswllt yn bell gyrhaeddol. Hyny yw, fod yr r yn "foreu" i drawsi dros rai o'r cydseiniaid yn nghanol y fraich, i gydateb yr rh yn "rhyw," ac ar yr un pryd i'r rh yn "rhyfedd." Pan fyddo y gynghanedd hon yn gywir, gelwir hi yn draws o gyswllt ddis- gynedig. Y mae y llythyrenau yna i'w gweled, ond nid oes yna yr unsain yn ddis- gynedig ar y glust, megys y Croes o Gyswilt: "Chwyddai serch y dduwies hon." "A theg yw'r llwyth Eigr a Llyr." Yn yr uchod y mae yr acenion yn cyfateb i'w gilydd, megys yn ddisgynedig ar y glust. Gan fod y fath barodrwydd i feio rheolau Cymreig Cerdd Dafod yn y rhai na fedrant fyw yn eu hoi, ac i gyfeirio at ryddid cenedl- oedd eraill, byddai yn dda pe sylwai y cyf- ryw ar ansawdd ieithoedd i weled fod eu neillduolion mesurol gan wahanol genedl- oedd yn gyfatebol i neillduolion yr iaith y cyfansoddir ynddi. Y mae unseiniad llythyrenau y Gymraeg a'i haceniad unrhywiog ar y sill obenol neu yr olaf ond un (penult) gyda'r eithriad o eiriau yn diweddu ar ebychnod, megys mwynhau, mawrhau, &c., yn ei gwneud yn naturiol i gynghaneddu ynddi, ac yn fwy felly na chyfansoddi ar y corfan talgrwm, fel y mae Paradwys Goll Milton, yr hwn sydd yn eithaf cytatebol i'r Saisonaeg. Y mae rhai yn dra hoff o son am ryddid fel un o ffrwythau gwareiddiad, heb ystyried eu bod ar yr un pryd yn gosod eu hunain yn mhell mewn israddoldeb mewn celfyddyd i genedl- oedd cynoesawl. Gelwir corfanau neu ran- iad o'r banau, yn "metrical feet" yn y Saes- onaeg; neu mewn ystyr lythyrenol, traed medryddol, i ddynodi troediad di-dramgwydd dros yr acenion ar hyd y llinellau; ac y mae yn werth sylwi ar mor fynych y gosodir y droed yn arwydd o reoleiddiwch: "Gwylia ar dy droed pan elych i dy Dduw," meddai y pregethwr, gan olyga yr holl gyn- neddfau mewn ymarweddiad addas. Dynod- ir dechreuad rhyw achos neu fwriad i "osod y peth ar droed"-set on foot. A mynych os bydd dyn wedi gwneud rhyw ledchwithdod, dywedir ei fod "wedi gosod ei droed ynddi." Ac fe ddichon mai oddiwith fod dyn yn an- wyliadwrus ar ei draed, pan yn troseddu, y dyfeisiwyd y cyffion (stocks), yn y rhai y gosodir yr aelodau troseddol, sef y traed, hyd yn nod am feddwi. Gelwir troediad o gorfan i gorfan yn scanning, gair a ddefnydd- ir hefyd i olygu edrychiad manwl dros, neu ymchwiliad i unrhyw beth. Then gently scan your brother man, Still gentler sister woman." -Burns. A pha beth a ddywed y rhai sydd mor barod i goffhau Milton fel canwr penrhydd, am y llinellau canlynol o eiddo y bardd cor- fanog hwnw ?— "Harry whose tuneful and well measured song First taught our English musick how to span Words, with just note and accent not to scan With Midas' ears, committing short and long." Dichon hefyd mai nid anfuddiol hysbysu y Cymry hyny sydd mor anwybodus o len- yddiaeth Gymreig yn epaydda pethau Seis- nig, fod cynnygion wedi bod i gyfansoddi barddoniaeth benrydd yn Gymraeg oesau lawer cyn geni Milton. Gelwir y dull hwnw yn Gymraeg yn Dull Dygynnelw, o herwydd i Dygynnelw, bardd Owain ap Urien Rheged, a chyfoeswr i Taliesin, ysgrifenu yn y mesur diodl. Cyfansoddodd Llywarch Brydydd Moch, Mab Cryg, Ustus Llwyd, ao un neu ddau arall yn y mesur hwnw, felly tawed y Cymry-clustiau-Saeson am eu Milton a'u blank verse. Yr oedd y Cymry yn rhy gerdd- orol i allu cefnogi y cyfryw ddull; ond ysyw- aeth ceir rhai o honynt y dydd heddyw mor Sais-glustiog a thybied fod cynghanedd yn Rhyw foreu o haf rhyfedd." Unrhyw grach-feirniad a gynygio gamu dros y corfanau uchod a gaiff ei hun ar lawr yn ei wrhyd cyn bo hir. Rhaner y llinell er engraifft: Rhyw foreu o haf rhyfedd. Y mae haner gyntaf y llinell ar y corfan cymblyg disgvnedig, a'r acen ar yr ail sill for; yr haner olaf a gynwysa ddau gorfan,sef y corfan talgrwm "o haf" a'r corfan rhywiog "rhyfedd." Felly a gadael un droed ar for, nid oes un acen gyffelyb i'r droed arall i roddi cam yn mlaen i fod yn ddisgynedig arni. Fel hyn gwnaethai y tro: Rhyw/oreu o ha/ iraidd. Rhvw/oren o hal ((mIl.. Fel hyn disgyna yr acen ar y glust yr un fath ar for a fir, a for a far. Pe rhenir v llinell fel hyn: J Rhyw foreu o haf oer ei hin. byddai yr aceuion yr un fath arfor afoer, a haf a hin. I gael cynghaneddiad a "haf rhyfedd," byddai yn rhaid cael rhywbeth tebyg i hyn: Rhyw frefwr o haf rhyfedd. Byddai y cyswllt r yn frefwr, yn ateb i'r rh yn rhyw, a'r acen yn disgyn yn rheolaidd o fref if rhyj. Hyderaf fod hynyna yn ddigon i brofi nad oes cynghanedd yn y llinell: "Rhyw foreu o haf rhyfedd." New York. ANEORIN FABDD. .———< < *———
CYFANSODDIADAU Y BEIRDD.
CYFANSODDIADAU Y BEIRDD. "Y FERCH AR OL ADEWAIS," &C.—Penillion gwallus o ran iaith, ac heb ddim neillduol ynddynt i'n temtio i'w cywiro. Yn mha ley dysgodd yr awdwr sillebu wedi yn "wedy;" tyfu yn "tyfy;" gorllewin yn "gorllewyn;" ac (Saes. and) yn "ag;" tynu yn "tyny,"&c. Fy merch sydd gywir-nid "fy'm merch; mel i gyd-nid "mel y gyd;" myn'd i nol- nid "myn'd i hoi." Nid rhyw chwaethus yw son am "dynu clos." Dos i'th ystafell, frawd, ac astudia'r gramadegau a'r geiriadur- on; fe dal hyny yn well i ti na cheisio rhigymu. "AT FY MRAAVD DROS Y MOR.Penillion purion i'w hanfon mewn llythyr "dros y mor;" ond dim neillduol o ddyddorol yn- ddynt i neb ond y brawcL "Y FUN SYDD AR FY OL." -Pur wallus o ran sillebiacth, etc. Er engraifft: "Grydd" (grudd), eulun" (eilun), ngwyn" (nghwyn),"fru"(fry),"ngwmni" (nghwmni), &c. Pa faint gwell yw "trost y mor," na dros y mor ? Ond y syndod mwyaf i ni yw fod y bardd sydd yn meddwl cymaint o'i anwyl fun, yn ei galw yn "fyn" (a kid). "EFA A DWYLLWYD.Bu Satan yn fwy llwyddianus i gyllawni ei amcanion yn Eden, nag y bu Evan i lunio englyn. "GEIRWIREDD TEILWRAIDD."—Dau englyn heb nemawr o ddim tarawiadol ynddynt mewn syniad na chynghanedd. Nid chwaeth- us iawn yw y geiriau "gythrel llysnafaidd." "HARRIET SMITH."—Penillion gwallus a chyffredin. Newydd trwm fyddys yn ddweyd ac nid "newydd drom;" "Daw neb"-ddaw neb, fuasai gywir; "O rhiaint hoff"—Oiiaint ddylasid ysgrifenu, &c. Pe buasai y bardd wedi arfer tipyn mwy o ofal gyda'i iaith, a gwasgu ei syniadau i ryw bedwar neu bum' penill, yn hytrach na ffurfio dwsin o benill- ion gwasgarog, buasai yn bleser genym gy- hoeddi y cyfryw. Dyfynwn un penill fel y gallo yr awdwr weled mor ychydig o ddim sydd ganddo mewn penill: "0 Harriett fechan anwyl, Pa le yr ydwyt ti ? Ai yn y nef mae'th breswyl, Ai yn y nefoedd fry ?" Pechod parod i amgylchu beirdd yn gyffred- in yw ail-adrodd. Dylent ddylyn yr hen gyngor, "Boil it down." "OWYNF AN Y LLANC. "-Dyma fel y dechreua: 'Roedd gen i ferch yn Nghymru, A gwyneb serchog lion, Ag (ac?) at-dyniadau crytion Oedd yn y feinwen hon." Cynghorem ef i anfon am dani yn ddioed. "MARY."—Anfoned y penillion iw rhieni yn Abertawe; bydd hyny yn llawer mwy gweddus na'u cyhoeddi mewn papyr Amer- icanaidd. "BLAINE A LOGAN. "-Sef cyfieithiad gan J. P. Jones, Chicago, o benillion Seisnig a ym- ddangosasant yn ddiweddar yn y DRYCR. Gan i ni gyhoeddi dau gylieithiad eisoes, maddeued Mr. Jones i ni am beidio cyhoeddi dim ond y penill cyntaf a'r olaf o'i eiddo ef: "Dewrion wyr fu gynt yn brwydro Dros iawnderau pur eich gwlad; Gynt fu'n un a'r merthyr Lincoln, 'N un a Grant yn merw'r gad; Unwaith eto gelwir arnoch Gan eich gwlad i weithio'n hy', Blaine a esyd i'ch blaenori, Blaine o Maine y gwron cry'. Seinier cadgan, Blaine a Logan; Chwyddo r gan bo llais y llu. Bloeddiwch nodau uchaf Rhyddid Yn y gan y llwyddyn hon, Nes yr egyr mor ei mawredd Ddorau'r Gwyndy 'flaen ei don; Teimlad cryf y llu sy'n llifo, 'Draws y wlad fel cenllif byw, Cyfarch mae ein baner-gludydd Blaine ein blaenor ffyddlawn, clyw; Hyn yw cadgan, Blaine a Logan, Tranc merthyron, bywyd yw. MWY ADDAS I GYHOEDDIAD CREFYDDOL.— "Y pwysigrwydd o gael gwir grefydd;" "Y rhadras;" "Y gwaed." DARNAU SEIsNIG.-Esgusoder ni am ddodi y rhai canlynol o'r neilldu -rhai o honynt wedi bod ar law er's hir amser: "To my son and his wife;" "Words make wounds;" "Ad- dress at the Dawn Eisteddfod"-(Paid ceisio Seisnegeiddio yr Eisteddfod Ath-); "The Winter"-( cofied yr awdwr am y testyn pan ddaw y gauaf, ac os na fydd ei awen wedi rhewi, cyfansodded gan Gymreig); "Mo- ther's Darling."
WILKESBARRE, PA.
WILKESBARRE, PA. Gorchwylion Terfynol Dosbarth Beibl-Ar- eithyddol Cynonfardd. WILKESBARRE, PA., Gorph. 14.-Symudiad ardderchog o eiddo Cynonfardd, oedd cych- wyn Dosbarth Areithyddol, ddeng wythnos yn ol—er iddo gael ei gychwynmewn tawel- wch, heb udganu o'i flaen, fel ag i greu dys- gwyliad anghymesur am ryw great thing. Ar derfyn y tymor, derbyniodd yr athraw ffyddlon a llafurus yn helaeth o ffrwyth ei lafur, sef boddlonrwydd i'w feddwl, gan y modd meistrolgar y cyflawnwyd holl waith y cyfarfod terfynol, yr hwn a gynaliwyd yn neuadd Meibion Dirwest, nos Wener, yr Heg cyfisol. Cynwysa y Dosbarth bump o foneddigesau a deg o foneddigion ieuaine Cymreig; ac ymddengys i mi mai aelodau y sefydliad hwn, yn fuan iawn, fyddant cream elfen Gymreig yr ardal, elite pob cynulliad o'r eiddom yn Wilkesbarre. Am wyth o'r gloch, a'r neuadd yn llawn o bobl chwaethus, cymerodd yr athraw ei gadair, a lleolwyd y beirniaid, y Parch. B. W. Thomas, Kingston, a'r Proff. T. J. McConnon, Wilkesbarre. Yr oedd presenol- deb cynifer o bregethwyr, llenorion eang eu gwybodaeth, a cherddorion goreu ein dmas yn siarad yn uchel yn ffafr y sefydliad. Agorwyd y cyfarfod a chan, "The Maid of Llangollen," gan Mr. E. Davies, (Joseph y Cantata); ac yr oedd hwyl dda ar y caniad; eto heb fod yn noisy ac anchwaethus. Ad- roddwyd y "Burning Ship," gan Miss K. Samuel, ac yr oedd yr adroddiad yn werth ei wrando. Ag arfer term cerddorol, dy- wedaf na welais erioed lawer mwy o fedr trawsgyweiriadol-y dychryn mwyaf cyn- hyrfus, a'r tawelwch mwyaf nefolaidd; y galar mwyaf pruddaidd, a'r llawenydd mwy- af ysbrydoledig; yr anobaith mwyaf angeu- ol, a'r mwynhad mwyaf dedwydd, yn cyd- gyfarfod yn yr adroddiad. Yr oedd ei gorph- wysfan ataliadol ao arosiadol yn profi ei bod yn deall meddwl yr awdwr; ac yr oedd ei phwyslais a'i goslef yn profi ei bod wedi yfed yn helaeth o'i ysbryd. Ar ol unawcl gan Miss Maggie Richards, yr hon oedd yn ysbrydol, ac yn gweithio ynom deimlad nwyfus wrth ei gwrando, cafwyd cystadleuaeth mewn darllen—y darnau oil o'r Beibl. Yr oedd darnau Mr. 0. L. Evans a Miss M. Evans yn ddramaydd- 01, a'r cymeriadau yn cael eu gweithio allan yn dda. Camp mewn adroddydd neu ar- eithydd yw chwareu dau neu dri o wahan- ol gymeriadau yn yr un darn, ond yr oedd Mr. a Miss Evans yn gwneyd hyn gyda llawer iawn o fedrusrwydd a naturioldeb. Yr oedd Miss Lewis yn dda ar y dechreu, ond collodd ei hunanfeddiant i raddau tua'r canol, gan hyny gwunychodd i'r diwedd. Miss Morgans heiyd a wnaeth yn odidog. Ymae gan y ferch hon ddigon o allu lleis- iol, hunanfeddiant a dewrder i wneyd elocu- tionist da. Can belled ag oedd llythyrenu a geirio yn myned, dywedaf fod yr holl ddos- barth wedi gwneyd yn ardderchog. Un term eto, fy nghyfeillion hawddgar, dan gyfarwyddiadau eich athraw clodus, a'ch galluoga i wneyd eich marc ar unrhyw esgyn- lawr. Yr oedd dwy gyfrol, small octavo, ar "Elo- cution," i'w rhoddi yn wobrwyon i'r goreu o'r darllenwyr; a dyfarnwyd hwy i Mr. O. L. Evans a Miss M. Evans. Wrth derfynn ein hadroddiad, nis gallwn wneyd yn well na chymeradwyo y sefydliad i sylw ein pobl ieuainc, yn feibion ac yn ferched. Dyma sefydliad i eangu eich gwybodaeth ieithyddol o Air Duw, ac a'ch galluoga i ddarllen yn ddealladwy ac effeith- iol i eraill, yn gystal ag i chwi eich hunain, yn y fath fodd ag i gyfleu ei feddwl, ei rym- usder a'i burdeb. Y mae canu yn dda fel desert, ond cofiwch mai mewn bwyd cryf y ceir maeth a bywyd i'r meddwl diwylliedig a'r deall goleuedig. GWENTYDD FARDD.
Yn Flwydd Oed!.'
Yn Flwydd Oed! [Cyflwynedlg i Mr. a Mrs. Thomas Edwards, 78 South Halsted St., Chicago, Ill., ar ddydd pen blwydd eu Dafydd Bach.] Dyma ddydd cawn hyfryd ganu Yn eich teulu'n llaweu iach, Prif ddydd gwyl y wlad unedig, Dydd pen blwydd eich Dafydd bach! Deuddeg rols sydd wedi paslo, Er pan allwyd ef i'r byd, Llawer deuddeg eto gaffo Eu mwynhau o bryd 1 bryd. Fe ga'dd dreulio'r misoedd cyntaf Heb un rhwystr yn y byd, Ac am gymorth oddi uchod Boed eich llet i'r Nef o hyd; Am ei gadw yn nhrafferthion, A thrallodion dyrus oes, Ac am iddo pan yn ieuanc Ddewis Iesu Grist a'i groes. W. D. J.
AWGRYMAU I BREGETHWYR.
weddu yn gwbl groes i'w ddysgeidiaeth. Y pregethwr yn gwahardd ymyfed; eto ei feib- ion yn mynychu cwmni y ty tafarn. Y preg- ethwr yn gwahardd y chwareudy a'r ddawns, eto ei ferched yn eu dylyn yn gyhoeddus; efe yn pregethu yn erbyn enllib a chenfigen, eto priod ei fynwes yn ddiareb am y pechod, yn syniad y gynulleidfa. Y mae y cyfryw bethau yn gancr i fwyta holl nerth a gwerth ei weinidogaeth. Yr un modd dylid bod yn ofalus rhag i'r pregethwr ei hun fyned mor bell gydag arferion cymdeithas, nes gosod ei hun dan anfantais i wahardd dim drwg-ar- ferion. Pan y dechreua ddylyn parties a gwleddoedd afreolus ac anamserol ei hun, pa effaith a gaiff ei bregethau yn erbyn y chwareudy a'r ddawnsfa ? Os yn arfer cym- eryd ei wydriad gwin neu gwrw, dan esgus moddion meddygol, pwy a ddysgwylia i'w siarad yn erbyn cyfeddach a meddwdod fod yn effeithiol? Os ymollynga i ddylyn y base ball a'r races, pa ddylanwad a gaiff pan yn gwahardd pethau cyffelyb i'w gynulleid- fa. Ie yn wir, pan ymollynga pregethwr i enllibio a diraddio ei frodyr yn y weinidog- aeth, ac eraill, pa ddyn wedi adnabod ei ys- pryd, a fedr werthfawrogi ei weinidogaeth, er yn efengyl cariad? Y mae brychau a meflau fel hyn yn anurddo ei holl gymeriad, heb son am y duedd sydd mewn rhai i ym- ollwng i eithafion pechadurus, fd y mae yn rhy hysbys i'r wlad am rai yn pregethu ef- engyl Crist ar y Sabboth, ac ar y race course gyda'u fast horses, yn ceisio enill yr enw a'r premium, ganol yr wythnos; o amgylch bwrdd yr Arglwydd y Sabboth, ac wrth fwrdd cyfeddach y dydd nesaf; yn preg- ethu uniondeb a gonestrwydd y Sabboth, ac yn twyllo a chribddeilio boreu dranoeth. Tra y mae yn sicr fod y cyfryw bethau yn bod, nid rhyfedd y ceblir yr efengyl a'i chenadon gan elynion; ac nid rhyfedd os bydd crefydd yn dyoddef. Tra yn siarad pethau fel hyn oddiar wybodaeth sicr fod gormod o honynt, da genym gydnabod a chredu, er hyny, mai yr eithriadau gwarad- wyddus ydynt, mai y rheol yw, fod ein pregethwyr yn cario buchedd deilwng. Fel yr awgrymodd gohebydd yn ddiweddar, y mae gwasanaeth angladdol fel y dygir ef yn mlaen gan lawer, yn faich a phlrofedigaeth. Pa reswm sydd dros gadw perthynasau trall- odus, yn rhai wedi llwyr dreulio allan yn ami yn llafur wythnosau o gystudd-pa reswm sydd dros eu cadw yn nghanol tyn- dra ac awyr afiach y ty a'r capel, tra y bydd tri neu bedwar o bregethwyr yn dweyd pob peth ddaw i'w meddwl, priodol ac anmhriod- ol ? Diameu mai gofalus ac anaml y dylai eu geiriau fod yn fynych. Y mae hefyd or- modedd o drin cymeriadau, a chyhoeddi tynged fythol y rhai a gleddir, fel pe byddai llyfr y bywyd wedi ei osod yn nghyraedd ambell un. Wrth gwrs rhaid rhoi gair da i'r marw, os bydd y teulu yn arfer mynychu "ein capel ni, a chyfranu at y weinidog- aeth, pe bai crefydd yn cael ei gwarad- wyddo, a gwirionedd yn "cwympo yn yr heol." Pa bryd y dysga ein pregethwyr siarad a'r byw, yn lie dweyd am y marw ? O'm rhan fy hunan, yr wyf yn credu y bydd- ai gwneyd i ffwrdd a'r holl rwysg gyda phregethau angladdol, a chofiantau i dda a drwg, yn fendith, gan fod llawer o honynt yn farn ar gymdeithas, ac yn anfantais i grefydd. Pa reswm pregethu pregeth ang- ladd y Sabboth, i foli dynion na byddent byth yn mynychu lie o addoliad; a beichio cylchgronau crefyddol a chofiantau dynion oedd yn ol arwyddion eu buchedd, yn elyn- ion i Dduw a chrefydd? Gadawaf ar hyn, gan obeithio y derbynir yr awgrymiadau mewn tymer dda; ac ybydd ein holl bregethwyr yn ameanu rhagori yn mhob rhinwedd.