Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
NEWYDDION YR HEN WLAD
NEWYDDION YR HEN WLAD 0 Baner ac Amserau Cymru, Yr Herald Cymraeg, Y Goleuad, Y Llan, Y Tyst a'r Dydd, Seren Cymru, The Cambrian News, Y Dydd, Caernar- von & Denbigh Herald, Y Genedl Gymreig, Y Gwyliedydd, Llais y Wlad, Tarian y Gweithiwr, Y Celt, Gwalia, Yr Wythnoa, Liverpool Mercury, Cardiff Times, a'r Weekly Mail, y rhat dder- bynir yn wythnosol. I FYNY I GORPHENAF 12,1884.
GOGLEDD CYMRU.
GOGLEDD CYMRU. -Tanysgrifiodd Mr. Rathbone lOOp, yr Anrliydeddus G. S. Douglas Pennant, 50p, Cyrnol West. 25p, a'r Parch. John Williams- Meyrick, 20p, at y "gofgolofn" i'r Deon Edwards, yr hon sydd i gymeryd y ffurf o ysgoloriaeth yn Ngholeg Gogledd Cymru. -Y dydd o'r blaen aeth nifer da o aelod- Cymdeithas Lenyddol a Gwyddonol Beth- esda, dan arweiniad Mr. J. J. Evans, F.G.S., ar hyd Nantyfrancon hyd Lyn Ogwen, a chaed eglurhad manwl ar ddaeareg, y rhan- au hyn drwy ymddyddanion, holi ac ateb, a phawb yn rhydd iawn. Yr oedd y iintai yn cael addysg a hytrydwch mawr, a theimlir yn dra rhwymedig i Mr. Evans am ei barod- rwydd i ymgymeryd a rhoddi ei wasanReth i'r gymdeithas. -Yn mhlith y rhai llwyddianus yn arhol- iad diweddar y Royal Academy yn Jsghaer- lleon, yr oedd Miss Jennie Gratton Thomas, Bagillt, yr hon a enillodd dystysgrif am chwareu ar y piano. —Y mae Miss Maria Rowlands, merch y Parch. Daniel Rowlands, M. A., Bangor, wedi pasio arholiad mewn anianeg yr arhol- iad diweddar y South Kensington Science and Art Department. -Eisteddodd 180 o ddynion ieuainc yn yr arholiad am fynediad i mewn i Goleg Nor- malaidd Bangor. O'r 180 nis gellir cymer- yd i mewn ond 30, -Yr oedd Mr. John Owen, Ala-road, Pwll- heli, yn gyntaf yn y dosbarth cyntaf o'r ef- rydwyr hyny a aethant drwy eu arholiad am y teitl o B. A. yn Ngholeg Llanbedr. -Boddodd Lemuel Hughes, 19 oed, mab y diweddar Jonah Lloyd, West Parade, Rhyl, wrth ymdrochi. -Un noson, daeth meibion Richard Rogers, ffermwr, Lodge, ger Gwrecsam, o hyd i'w tad ar y sofa, lie yr oedd yn cysgu, gyda'i ddillad ar dan, ac arogl trwm o paraffin yn y lie. IlBu yr hen wr farw mewn canlyn- iad i'r llosgiad, achos yr hwn sydd yn ddir- gelwch. -Hysbysir y bydd yn rhaid ail adeiladu capel ac ysgol yr Annibynwyr Seisnig yn Rhyl, gan fod y sylfeini, y mae'n ymddang- os, yn rhoddi ffordd. Bydd yn ofynol cael tua 3,000p er cario hyn allan. -Boddodd bachgen deuddeg mlwydd oed, mab i'r Quarter-master Grey, o Gartreflu Sir Gaemarfon, tra yn ymdrochi yn afon Seiont, gerllaw y parc newydd yn Nghaer- narfon. -Hefyd boddodd William Roberts, 15 mlwydd oed, yr hwn oedd yn gweithio yn fferm Glan'rafon Fawr, ger Caernarfon, trwy fyned i le rhy ddwfn. —Ffrwydrodd berwedydd perthynol i Mri. T. Nelson a'i Fab, ar linell ffordd haiarn Bangor a Bethesda. Niweidiwyd Thomas Williams, y tanwr, mor drwm fel yr anobeithir am ei fywyd. Cafodd Henry Wood, gyriedydd y peiriant, a Mr. C. Wood hefyd, un o'r peirianwyr, ei niweidio yn drwm. Wedi yr holl siarad a'r dyfalu yn nghylch pwy fyddai olynydd y Parch. H. T. Edwards, fel Deon Bangor, y mae aicrwydd yn awr mai y Parch. Canon Evan Lewis, Dolgellau, sydd wedi cael y swydd, yr hon sydd yn werth 700p yn y flwyddyn. -Aeth David Jones, grocer, Fflint, i'r Three Pigeons' Hotel a gofynodd am lasiad o gwrw, ac wrth fyned allan dywedodd "Good Bye" wrth Mr. Wilkinson, gan chwanegu na chaffai ei weled ef mwy. Can- lynodd Mr. Wilkinson ef, a gwelodd ef yn myned i'r afon ac yn gorwedd ar ei wynab yn y dwfr. Codwyd ef i fyny yn ddioed, ond ofnid am ei fywyd. -Un noson syrthiodd Thomas Williams, Newbwrch, morwr, perthynol i'r llong 'Ve Neptune, dros y cei i'r doc o dan gastell Caernarfon, pan mewn cyflwr o feddwdod. Cynorthwywyd ef i'r lan gan Llewelyn Jones, mate y Vixen, yr hwn a roddodd ddillad sychion am dano. Yn ganlynol cymerwyd ef i orsaf yr heddgeidwaid, a dirwywyd ef dranoeth am feddwi. Pryd- nawn yr un dydd, yn nhy Jones, Northgate Street, cwynai ei fod yn wael, a bu farw yn mhen rhai oriau, o'r bronchitis a chlefydon eraill. wedi en dwyn arno gan feddwdod a syrthio i'r dwfr. -Bu Mrs. Ellis Evans, New Street, Porth- madoc, farw yn sydyn iawn, Meh. 29ain. Yr oedd allan yn ei chynefin iechyd y dydd blaenorol. GOLYGFA DDYCHBTNLLTD HEWN MILODFA. -Cymerodd golygfa ddychrynllyd le yn milodfa Edmunds (diweddar Wombwell), yn Ngwrecsam. Fel yr oedd un o'r gweision yn glanhau cwt y lie, ac yn gosod ei fraich ddeheu tu mewn i'r bariau, neidiodd un o'r llewod a4i, gan ei thori ymaith yn y penelin. Mewn canlyniad i hyny llanwyd pawb a dychryn; ac yn yr ymdrech i ddianc, ni- weidiwyd nifer o bersonau i raddau mwy neu lai. Chwanegwyd at y dychryn hwnw pan ledaenwyd y newydd fod y Hew wedi dianc o'i gwt; ond yn ffodus profwyd fod yr adroddiad hwnw yn anghywir. Cymerwyd y dyn a niweidiwyd i'r ysbyty, lie y mae yn awr yn aros.
DEHEUDIR CYMRU.
DEHEUDIR CYMRU. —Yn Llangeler, y dydd o'r blaen, cafodd dyn o'r enw David Jones, Aberfachnog, ei ladd tra wrth ei orchwyl mewn chwarel, trwy i gareg syrthio arno. Bu y truan farw yn mhen chwarter awr. Yr oedd yn 89ain mlwydd oed, ac nid oedd wedi bod o dan law un meddyg yn ei fywyd. —Y mae y frech wen wedi tori allan yn mhentref Blaencorrwg, Castellnedd, a dy- wedir fod chwech neu saith o achosion o dan driniaeth feddygol. —Tanwyd Mr. John Jones, cyfreithiwr, a chofrestrydd Ilys man-ddyledion, Abertawe, o gerbyd yn Llandyssul, trwy i'r ceffyl redeg ar allt serth, a lladdwyd ef yn union. Yr oedd ei wraig, a dau o blant, yn y cerbyd yr adeg y cymerodd y ddamwain le. Derbyn- iodd Mrs. Jones niweidiau difrifol. -Boddodd dyn ieuanc o'r enw John Nutt yn yr afon Ogmore, gerllaw Aberkenffig, yn ddiweddar. —Y m&e 3,000 o lowyr yn sefyll allan yn Nowlais. -Hysbysir fod Mr. Rowlands, Pembrey, dirprwy-grwner, wedi anfon adroddiad i'r Gymdelthas Ddyngarol o wroldeb anghyd- marol y bachgen Thomas Morgan Beavan, deg oed, a fu yn foddion i achub bywydau dwy ferch ieuanc ar yr 21ain o Fehefin. Mawr hyderir y bydd iddo gael ei anrhyd- eddu a medal y gymdeithas, canys y mae yn ei wir deilyngu. J J —Tra yn gweithio wrth y gwair ger Cas- tell Morlais, rhyw ddwy filltir o Ddowlais bu farw menyw o'r enw Hannah Morris 63 oed, o Walter Street, Dowlais. —Fel yr eedd dyn o'r enw Morgan Jones, 52 oed, ac yn byw yn 42 Crescent Street, Merthyr Yale, wrth ei waith yn nglofa Merthyr Vale, trwy ryw anffawd cafodd ei ben wedi ei dori oddiar ei gorff trwy offeryn- oliaeth y rhaff sydd yn llusgo y drams i fyny y drifft i onau y pwll. —Yn mhwll No. 1, Fochriw, Dowlais, cyfarfu halier o'r enw David Daniel a dam- wain a derfynodd yn angeuol iddo. Tra yn dwyn y llwyth olaf i waelod y pwll, trwy ryw anffawd syrthiodd, ac aeth trams llawn o lo dros ei gorff. Aeth yr ail ddram yn rhanol drosto, ond trwy i'r ceffyl aros tra yr oedd y tiarn olaf ar gorff y truan, bu yno am beth amser cyn cael ei ryddliau. Bu farw yr un prydnawn o'r niweidiau a dder- byniodd. -Syrthiodd careg fawr ar lowr o'r enw Henry Miles yn mhwll No. 6, Ebbw Vale, fel y lladdwyd ef. -Fel yr oedd Samuel Morris, John Howells a Thomas Scuttleman yn adgyw- eirio un o lofeydd Blaenau, syrthiodd darn o'r top arnynt. Lladdwyd Howells, a der- byniodd y ddau arall niweidiau trymion. HuNANLADDtADAiJ.—Deuwyd o hyd i Mr. W. Rees, amaethdy Pentre Evan, Nevern, Sir Benfro, gan ei ferch ei hun, wedi ym- grogi mewn beudy yn ymyl. Cyflawnodd dyn o'r enw Daniel Williams, 58 oed, ac yn byw yn Waunwen Terrace, Abertawe, hun- anladdiad tra o dan ddylanwad diodydd meddwol. Cafwyd ef a'i ben i lawr a'i goesau i fyny mewn casgen fawr o ddwfr y tu allan. Galwodd ar bersonau i mewn ar unwaith, y rhai a'i tynasant ef i fyny, ond yr oedd wedi hen farw.
MARWOLAEXHAU CYMBU.
MARWOLAEXHAU CYMBU. Y GOGLEDD. Mehefln 19, yn 74 oed, David Williams, Heol y Llyn, Caernarfon. Mehefln 22, yn 45 oed, Robert Owen, Ring's Arms Inn, Stanley crescent, Caergybi. Mehefin 23, Cadben Rice Hughes, Penygroes, Llandegfan, yn 85 oed, Mehefin 23, Miss Martha Jones, merch hynaf Mrs. Davies, Penlsa'r Rhewl, ger Bhuthyn. Mehefln 23, yn 69 oed, Robert Roberts, saer melinau, Bryn Ga.ilys, Bagillt. Mehefln 25, yn 80 oed, David Thomas, Tuhwnt i't Afon, Llanrhaiadr. Mehefln 26, yn Pentre, Rhydeneti, Llansanan, yn 33 oed, William, mab Joseph Rogers, telliwr, Brynshone, Ysceiflog. Mehefln 27, yn Henllan St., Dlnbych, yn 79 oed, Alice, gweddw Henry Pritchard. Mehefln 27, yn 86 oed, Mrs. Davies, o Bridge St., Corwen, gweddw John Davies, saddler. Mehefln 27, yn 70 oed, Mrs. Ellen Roberts, New St., Blaenau Ffestiniog. Mehefin 28, yn 73 oed, Susannah, gweddw Jo- seph Morris, o Penllyn, Rhesycae a'r Post Office, Ysceiflog. Mehefln 28, yn 69 oed, Charles Jones, bootma- ker a grazier, High St., Llantyllln. Mehenn 28, yn 16 oed, Margaret, anwyl ferch Rowland Edwards, Bethesda terrace, Blaenau Ffestiniog. Mehefln 29, yn 6 oed, William, mab T. Jones, Marsh row, Mostyn. Mehefln 29, yn 44 Middle Crane St., Caerlleon, yn 73 oed, Hugh Owen Hughes. Mehefln 29, yn 23 oed, David Pierce, Br. tnygan, Corris. Mehefln 29, yn New St., Porthmadog, Mrs. Evans, priod Ellis Evans. Mehefln 30, John, mab John Evans, Groes ffordd, Whitford. Mehefln 30, yn 99 Herschell St., Lerpwl, yn 44 oed, Jame* David Hughes. Mehefln 3n, yn 15 Vandyke St., Lerpwl, Ann, priod John Pritchard, marsiandwr glo, 142 Tun- nel road, Edgehlll. Gorphenaf 1, yn Chapel St., Dinbych, yn 75 oed, Mary, priod David Price, saer maen. Gorphenat 1, yn 45 Tremaran, Bala, yn 87 oed, Mary Jones, gweddw y Parch. Isaac Jones, Nant- glyn. Gorphenaf 1, yn Bryn Eglwys, Llanfwrog, Mon, yn 40 oed, Dr. O. R. Thomas, o Twickenham, Llundain, mab y diweddar glodfawr Evan Thomas, meddyg esgyrn, Lerpwl. Gorphenrf 1, yn nhy ei merch, 18 Albert street, Upper Bangor, yn 70 oed, Mrs. Margaret Roberts, priod Robert Roberts, cariwr, Beaumaris road, Porthaethwy. Gorphenaf 2, yn 21 Garnons St., Caernarfon, yn 88 oed, Griffith Prichard, chwarelwr. Gorphenaf 2, John Jones, Roe, Llanelwy. Gorphenaf 3, John Jones, coal merchant, Pen- rhewl, Llanelwy, yn 81 oed. Gorphenaf 5, yn 15 Cazneau St., Lerpwl, yn 46 oed, Evan Ellis, licensed victualler, ac yn ddi- weddar o'r Pentre Ffarm, Llangynhalal. Gorphenaf 5, oddeutu 80 oed, Edward Andrews, gynt o Piccadilly Inn, Caerwys. Gorphenaf 5, Margaret, priod R. T. Richards, tailor a draper, Brynteg, Corris. Gorphenaf 6, yn 153 Queen's road, Lerpwl, Isaac, mab ieuengaf John Jones. Y DEHEUDIB. Mehefln 3, yn 63 oed, William Hogg, Hafod, Abertawe. Mehefln 9, yn 23 oed, priod W. Thomas, Llwyn- coed, Aberdar. Mehefln 9, Mrs. Rebecca Evans, Commerce House, Burry Port. Mehefln 12, yn 46 oed, Ann Blackmere, Tred. egar. Mehefln 16, John James, Fronrydd, ger Trelet- tert, yn82 oed. Mehefln 19, yn Cwmgarw, Bettws, Elizabeth, priod Evan Matthews, collier, yn 49 oed. Mehefln 20, yn 85 oed, Richard Richards, llong- wr, Shipbuilder's row, Aberystwyth. Mehefin 20, yn 70 oed, Mrs. Rowlands, Ty'ndol- an, gynt Gellillynddu, Llangeitho. Mehefln 24, Joseph Lloyd, Pendaren. Mehefln 24, yn 6 Charles row, Maesteg, Eliza- beth, gweddw William Dixon, saer ceryg, yn 70 oed. Yn ddiweddar, Miss Margaretta Abrahams, Owmavon. Mehefln 26, yn Cwmavon, David Jones, colliery overman, yn 70 oed. Mehefln 27, yn 206 Bute road, Caetdydd, Susan- nah, anwyl briod William Graffunder, a merch y diweddar Thomas Prosser, Mountain Ash, yn 37 oed. Mehefln 27, yn Bettws, David, mab William Harries, collier, yn 4 oed. Mehefln 28, y Parch. George Howell, R. D., Rec- tor Llangattock a Llangenney, domestic chaplain I'r Duke ef Beaufort, K. G., yn 64 oed. Mehefln 28, Annie, anwyl briod Robert Coath, Inland Revenue, Nottingham, a merch John Howell, Bridgend, yn 30 oed. Mehefin 28, yn 24 oed, Edward Davies, gweydd, Trefechan, Aberystwyth. Mehefln 28, yn Pembroke House, Aberystwyth, George Hughes, morwr, gynt coxswain y life- boat. Mehefln 28, yn 56 oed, John Roberts, ostler, Mill St., Aberystwyth. Yn ddiweddar, atherine, priod M. Morgans, Brenig terrace, Aborystwyth, yn 28 oed. Mehefln 29, yn Railway terrace, Aberystwyth, yn 49 oed, Jane, gweddw David Timothy, draper. Mehefln 39, yn 49 oed, Jane, priod David Lewis, Black Lion Hotel, Llanrhystyd. Meheflu 29, yn Dalston House, Pearl St., Caer- dydd, Thomas Parsley Lewis, yn 29 oed. Mehefln 29, yn Penboyy, Sir Gaerfyrddin, y Parch. John Sinnett, Ddeon Gwladol dros Emlyn, yn Broctor dros E-gobaeth Ty Ddewi, ac yn Ys- grifenydd i Fwrdd Addysg Archddiaconiaeth Abertelfl. Mehefln 29 yn Commercial St., Maesteg, Rach- el, anwyl briod Ellas Treharno, butcher and li- censed victualler, yn 44 oed. Mehefin 30, yn Queen St., Aberystwyth, yn 63 oed, John Griffiths, grocer. Mehefin 30, yn 21 Frederick St., Caerdydd, Ed- win Fry, yn 41 oed. Gorphenaf 1, yn Queen St., Aberystwyth, yn 52 oed, Riehard Thomas, mwnwr glo. Gorphenaf 2, yn 46 Commercial St., Maesteg, David James, mab George Davies, tailor and dra- per, yn 15 oed. Gorphenaf 3, yn Pontradu, Coytrahen, William Bush, labrwr, yn 44 oed. Gorphenaf 4, yn West street, Maesteg, Emily, merch Henry Reynolds, saer ceryg, yn 22 oed. Gorphenaf 5, yn Station St., Maesteg, Isaac Jenkins, ironmonger, yn 71 oed. Gorphenat 5, yn Wyndham St., Bridgend, Het- tie, merch W. H. Huxtable, tailor and draper, yn 16 oed. Gorphenaf 5, yn Pyle, Elizabeth, anwyl briod y Parch. W. Haddock, gweinidog gyda'r Bedydd- wyr, yn 36 oed. Gorphenaf 6, yn Tondu, David, mab Daniel Watkins, saer coed, yn 3 oed. Gorphenaf 10, yn .Green Farm, Langan, John Jenkins, yn 77 oed. 0-
Iaehau Darfodedlgaeth.
Iaehau Darfodedlgaeth. Hen feddyg, wedi ymneillduo o bractice, a ddy- muna wneyd yn hysbys i gleiflon, ei fod wedi cael cyfarwyddyd gan genadwr Indiaidd, pa todd i iacqau y Darfodigaeth, Bronchitis, Catarrah, Asthma, a holl anhwylderau y Gwddf a'r Ysgyf- aint, yn nghyd a Gwendid Gieuol a blinderau Gieuol o bob math. Rhoddodd brawf arno mewn miloedd o achosion, a phrofodd yn effeithiol; ac yn awr cynygia anfon y recipe, yn rhad, yn Gym- raeg, Ffrancaeg, a Saesonaeg, gyda chyfarwydd- laaau llawn But i barotol y meddyginiaeth. An- lonlr gyda'r mail ar dderbyniad stamp. Enwer y papyr hwn.—w. A. NOYES, 149 Power's Block, Rochester, N. Y.
Helbulon Cwmni Rheilffordd…
Helbulon Cwmni Rheilffordd Philadelphia a Reading. Gwyr y rhan fwyaf o ddarllenwyr y DEYCH, fod y rheilffordd hon wedi bod am flynyddau yn llwyddianus, yn dwyn elw cyson i'r CWill- ni; a gwnaeth ei masnach gynyddol yn am- ser y rhyfel y Llywydd Gowen, a'r cyfar- wyddwyr yn rhy hyderus ac anturiaethus, heb feddwl fod tymor gwahanol yn eu haros. Nid oedd eu charier yn caniatau i gwmni y rheilffordd i brynu a dal tiroedd glo a gweith- feydd haiarn; ond gan y barnai y swyddog- ion fod elw i ddeillio o'r tiroedd hyn yn y dyfodol, ffurfiasant gwmni arall, a elwir Cwmni Glo a Haiarn Philadelphia a Reading, er ysgoi y gwaharddiad yn y charter, a phryn- asant y rhan fwyaf o'r tiroedd glo trwy yr ardaloedd hyn am brisiau uchel; ac yn awr pan mae cystadleuaeth wedi cynyddu, pris y glo wedi gostwng, a marchnadoedd y dinas- aedd yn cael eu gorlenwi, nid yw yr elw oddi yr holl fasnach yn ddigon i dalu llog y ddyled yr aethant iddi. 0 ganlyniad, bu y swyddogion am flynyddau mewn gofid a phryder, yn cynllunio mesurau i gyfarfod y gofynion, ac aeth y Llywydd Gowen drosodd i Lundain wahanol droion, er codi neu fenthycio arian i gadw y cwmni i fyny, ond yr oedd amryw yn ystyried y Llywydd yn rhy anturiaethus a gwastraffus, a'r gweithwyr mewn helbul parhaus am eu harian, yn en- wedig pan nad ydynt yn cael gweithio llawn amser. Mae Mr. Keim wedi cael ei benodi yn llywydd yn lie Mr. Gowen, ond gan fod y cwmni yn nwylaw receivers. diau nad ydyw yn swydd gysurus, yn enwedigyn eu cyfyng- derau presenol, pan mae y treulion mor bwysig, fel y mae yn syndod eu bod yn ym- daro cystal ag y maent. Mae amryw yn barnu y byddai yn lies i'r ardal pe byddai y cwmni yn tori, ac yn cael ei werthu allan; a dysgwylir yn awyddus am orpheniad rheil- ffordd newydd Mahanoy, a gwelliantau eraill. Diau nad yw y trigolion yn gyffredin yma mor gysurus a llwyddianus a phan oedd un- igolion yn perchenogi ygweithfeydd, a bydd- ai yn dda gan rai weled y gwahanol ardal- oedd eto yn gwisgo eu hagwedd flaenorol. Nid wyf am gymeradwyo tueddiadau anfodd- og, terfysglyd, ysbryd grwgnacMyd, ac ar- ferion llygredig ac anghymedrol, ond carem weled pob dyn gweithgar a gonest yn gallu mwynhau ei hun a'i deulu fel bodau rhesym- ol pa le bynag y byddont. Mae y rhan fwy- af o'r injunctions, a'r cwerylon rhwng y cwm- niau am y right of way, wedi eu ddyfarnu gan y gwahanol lysoedd yn erbyn yr hen gwmni ac er mantais i gystadleuaeth a lles- iant y bobl. Pottsville, Pa.. R. EDWARDS.
[No title]
BANGOB, PA., Gorph. IS.—Cynaliodd An- nibynwyr y lie uchod festival ar nos Sad- wrn, Meh. 26ain, nos Iau, Gorphenaf 3ydd, prydnawn a nos y Pedwerydd, a nos Sadwrn y 5ed. Caed cynulliadau da ag ystyried fod y tywydd wedi troi mor anffafriol. Cafwyd elw clir wedi talu y treuliau o yn agos i $90. Yr Eisteddfod yw y cynulliad Cymreig nesaf sydd i fod yn ein plith. Cynelir hi Hydref laf. Mae y pwyllgor wedi cwblhau eu gwaith er's tro gyda'r testynau, ac mae corau y plant yn prysur ymbarotoi, y naill dan ar- weiniad Ellis E. Jones, a'r llall dan arwein- iad Jeremiah Wynn. Hefyd mae Wm. 0. Jones a'i gor yn dechreu gloewi eu harfau at Ryfelgan y Myncod, ac mae si yn y gwynt fod bechgyn Slatington yn parotoi eu hun- ain i frwydr. Da iawn. Rhwng Apmadoc a phawb, yr ydym yn addaw i ni ein hunain amser dedwydd.—[Prysorydd.
somm-Cwestiynau Bywydol! !!
somm- Cwestiynau Bywydol! Gofynwch i'r meddyg goreu 0 unrhyw ysgol, am y meddyglyn effeith- iolaf i leddfu a llonyddu y giau, ac iachau pob ffurf o anhwylder gieuol, gan gynyrchu cwsg melus? A dywed yn ddibetrusder "Rhywffurf o Hopys 11 PENOD I. Gofynwch i un, neu yr oll o'r meddygon goreu: "Beth yw y meddyginiaeth ygellir dibynu arno i iachau anhwylderau yr elwlenod a'r organau dyfrol; megys Bright's disease, dia- betes, methu gwneyd dwfr, ac anhwylderau perthynol i'r rhyw fenywaidd"- "A dywedant i chwi yn ddifloesgni "Buchu 111 Gofynwch i'r un meddygon "Beth yw y meddyginiaeth sicraf a goraf at anhwylderau yr afu a diffyg treuliad, rhwymedd, blinderau gieuol, dyspepsia, malaria, twymyn, cryd, &c. a dywedant wrthych- .Mandrake neu Dant y Lieu> I Gan hyny, pan unir y sylweddau hyn, gydag eraill yr un mor werthfawr, Gan ffurflo Hop Bitters, ceir y fath allu medd- yginlaethol rhyfedd fel nas gall aflechyd na gwendid el wrthsefyll, ac eto Mae mor ddlberygl fel y gall y ferch eiddilaf. y claf gwanaf neu y plentyn lleiaf ei ddefnyddio gyda diogelwch. PENOD n. "Cleiflon Bron yn farw neu agos a marw" Am flynyddau, a iacnawyd oddiwrth Bright's disease, ac anhwylderau eraill yr el- wlenod, yr afu, peswch, a'r darfodedigaeth, ar ol i feddygon eu rhoddi i fyny. Merched agos yn wallgof! Oddiwrth ddirdyniadau y neuralgia, gwen- did gieuol, methu cysgu, a blinderau men- ywol eraill. Pobl wedi eu hanffurflo gan bangfeydd y cryd- cymalau, enynoi a pharhaol, neu yn dyoddef oddiwrth glwy y brenln. Erysipelas! "Saltrheum, gwaed-wenwyniad, dyspepsia, diffyg treuliad, ac mewn gair bob anhwylder" Y mae natur yn ddarostyngedig iddo, A iachawyd gyda Hop Bitters, prawf o'r hyn a ellir gael yn mhob cymydogaeth trwy y byd. jtarDIm yn bur heb lun swp o Hopys ar label gwyn. Gochelwch bob cymysgedd anmhur a wthir arn ch gyda "Hop" neu^'Hops" yneienw. 'I.
Advertising
At angenion y A ATFTVPIM tel;hiwr, y trafael- 41VIVI LI If lwr masnachol a'r H M CELEBRATED mae Hostetter's V■ Stomach Bitters yn gytaddas nemel uol, gan ei f,d yn cryf- hau yr organau treuliadol, ac yn cynyrchu ynt cortI- oral 1 wrthwynebu dylanwadau aflach- us. ac yn atal twymynau mallaw- yrol, bolrwymedd, gwaildreuliad, yn symbylu yr elwlen- w od a,r chWy8igell yn iachusol, ac yn cyfoethogf ac yn gfM I ■ ■ ■ puroygwaed. Fan 4 It B yn orchfygedig gan flinder, pa un bynag at meddyliol neu gorfforol, mae y lluddedig a'r gwan yn ei gael yn ffynonell nerth a chysur adnewyddol. Ar werth gan gyff- erwyr a masnachwyr yn gyffredlnol. Ar werth gan J. H. Sheehan a'i Gwm., Cyffor- wyr Ci "anwerthol a Manwerthol, Utica, N. Y. IOPCP AYER'S A g u'e C u'r e a gynwysa sylwedd i wrthweithio pob an- hwylder mallawyrol, yr hwn, hyd y gwyddys, na ddefnyddir mewn un meddyginiaeth arall. Nid yw yn cynwys Quinine, nac unrhyw sylwedd mwnawl a pheryglus, ac o ganlyniad nid yw yn cynyrchu un effalth niweldiol ar y cyfansoddiad, ond yn gadael y corff can iached a chyn yr ymos- odiad. Yr Ydym'yn Gwarantu Ayer's Ague Cure 1 iachau y Cryd a'r Mwyth, Clefydau Dyspeldiol ac Anwydog. Twymynau Llaesedlgol, Cryd Mud, Clefyd Gerlaidd ac Anhwylderau yr Afu, wedi eu hachosi gan fall-awyr. Mewn achos o fethiant ar ol rhoddi prawf teg arno, awdurdodir mas- nachwyr, mewn cylchlythyr dyddiedig Gorphenaf 1,1882, i ddychwelyd yr arian. Dr. J. C. Ayer & Co., Lowell. Mass. Ar werth gan bob Cyfferydd
Y MARCHNADOEDD.
Y MARCHNADOEDD. Dengys crynodeb o ansawdd y marchnadoedd drwy yr holl Undeb, ar ddechreu yr wythnos hon, mai marweidd-dra, neu arafwch, oedd yn teyrnasu yn mhob man; ond er hyny nid oedd dim tebyg 1 banic masnachol yn bygwth unrhyw adran o ddiwydrydd. Bu y tywydd yn anarferol o oer am bythefnos, yr hyn a ddylanwadodd yn anffafriol ar y cnydau o bob math, ond yn benaf yr Indrawn, sef y corn. Derbyniwyd adroddiad- au ffafriol i adfywiad masnach o Cincinnati, Chicago, St. Louis a St. Paul. Adroddir o Bos- ton, New York a Philadelphia, fod archebion am nwyddau erbyn diwedd y flwyddyn yn Iled fyw- iog. Bu marchnad yr arian yn gaeth yr wyth- nos ddiweddaf; ac er fod arian at ddybenion masnachol i'w cael yn y dwyrain am 6 y cant, yr oedd y llog yn Kansas City o 10112 y cant. Parha y newyddion o'r meusydd gwenith yn dra ffafr- iol; ac ymddengys na ddarfu i'r oerni diweddar, a'r gwlaw ami, ddylanwadu yn anffafriol. Yn ol ymddangosiadau pethau ar ganol y mis hwn, yr oedd arwyddion y ceir cnwd anarferol o fawr. Yr amcaNgyfrif ydyw y bydd y cnwd yn llawn 468,000,000 o fwsieli. Mae y dysgwyllad am yd newydd yn awr yn cadw y farchnad mewn cyflwr sefydlog, canys nid ydyw y pwnc wedi ei lwyr benderfynu y naill ffordd na'r llall, er fod y gob- alth am, a'r tebygolrwydd y ceir cnwd trwm, y t achos 1 arafwch yn mhlith y prynwyr. Yr oedd prls y peillied yn sefydiog yr wythnos ddlwedd- af; ond un diwrnod caed ychydig o godiad yn mhris y gwenith a'r Indian corn-lyc yn y blaenaf, a 2c y bwslel yn yr olaf. Yr oedd pris yr ymenyn, y caws a'r cig yn sefydlog, ac heb wahanlaethu ond y nesaf peth 1 ddim oddlwrth y prislau yr wythnos flaenorol. Yr oedd mas- nach yr haiarn o bob math yn ddwl a gwanaldd. Gwerthwyd cledrau rheilffyrdd, o'r fath oreu, mor isei a $28 y dunell. Adnewyddodd masnach y glo careg gryn lawer, ac y mae gobalth y daw yn well eto, canys y mae y galwadau yn cynyddu. Credir y bydd i'r holl lofau gael gweithio yn rheolaidd drwy y mis nesal. Bu y gwlan fas- nachwyr yn brysur y dyddiau diweddaf; ac mae y prisiau yn codt. Yr oedd gal wad da am nwydd- au sychion ar gyfer diwedd y flwyddyn, ae yr oedd bywiocad yn amlwg yn marchnad y cotwm. Adroddir fod 211 wedi myned i gyflwr o feth daliad yn y Talaethau Unedig yn ystorl yr wyth- nos, yr gyfer 194 yr un amser y llynodd. Cododd pris hen bytatws gryn lawer yr wyth nos ddlweddaf, ac yr oedd rhat newyddion yn gwerthu am $3.25 y faril, ac yn brinion am y pris hwnw. Gwerthat ymenyn yn y dwyrain am o 18 1 23c; oaws 9 k 10c y pwys; wyau 18 a 2Uc y dwsln. Cigoedd-beef 10 a 10yc, dressed; chwarteri blaen 8 a 9c; ol 11 a 12c; mutton 8 a 10c; veal 10 a 10> £ c; cig moch, loins, lie; wyn gwanwyn 14 a 15c; moch wedi eu lladd 7)4 a 7^c y pwys.
Advertising
[PRIS YMOFYNIAD 81.00.] YMOFYNIAD AM MORGAN JONES, mab John Daniel Jones, Coedcaemawr, Cwmllynfell, yr hwn a ymfudodd o Cwmllynfell, Sir Forganwg, D. C., i'r wlad hon dair blynedd yn ol. Bu yn aros am yn agos 1 flwyddyn yn Mahanoy City, Pa., gyda'i frawd Daniel, o'r lie y symudodd 1 Colorado. Bu yn gweithio yn Franceville, wedi hyny yn Carthage, New Mexico, a thrachefn yn Franceville. Pan oedd yn gadael y lie diweddaf am Montana neu Idaho, yn ngliwmnl rhyw un o'r enw Hum- phreys, o California, y clywyd oddiwrtho ddl- weddaf. Mae yn fachgen tal, heinlf, o bryd goleu ac edrychlad (da, ac yn hynod o ffraeth mewn cwmnlaeth. Os y dygwydd iddo ef. neu ryw un sydd yn gwybod rhywbeth am dano, weled y lllnellau hyn, telmlai ei frawd John yn ddioch- gar gael hysbysrwydd yn ei gylch. Gyfeirler— JOHN D. JONES,'New Castle, King Co., Washington Territory. 29 REES EVANS, gynt o Gelli Palleg, Ystrad- gynlals. Carai William Owen a'i chwaer, 2 In- cline Row, Owmaman, Aberdar (gynt o Cwmgi- edd), gael ei gyfeiried, oddlwrtho ef neu rywun a wyr el hanea. 28 WILLIAM GRIFFITH, gynt o Pencaeglas, Llanfwrog, Mon. Tua 25 mlynedd yn ol ymfud- odd 1 Awstralia, ac oddiyno i California; o'r hwn le y clywyd oddiwrtho ddiweddaf, sef o Coultars- ville, Mariposa. Gan el fod o bwys nelllduol, mae ei frawd Robert a'r teulu yn awyddus lawn am air o'i hanes, yn fyw neu farw. A fedr ein cyfaill caredig Obedog weled ei enw ar lyfrau y Cambrian Mutual Aid Society, neu yn rhyw le arall? Deallwn mai Ilongwr oedd W. Griffiths wrth ei alwedlgaeth. Cyfeirier unrhyw hysbys- iad i'r DRYCH Office, Utica, N. Y.; neu i E. R. ROWLANDS, Rhosgoch Hotel, Rhosybol, P. 0., Anglesea, North Wales. 28 JONATHAN M. HUGHES, mab Michael Hughes, Penhafodas, Blaenau Ffestiniog, yr hwn a ddaeth i'r wlad hon er's dros flwyddyn. Bu yn gweithio yn Granville, N. Y., am ryw ddeufls; wedi hyny aeth i Utica, a bu yn y City Hospital am tua mis o dan y crydcymalau yn ei droed. Daeth allan o'r Hospital, a bu yn aros gyda Wil- liams, 16 Broadway; wedi hyny aeth I Rome, a dyna yr hanes diweddaf a gawsom am dano yn mis Ionawr. Byddys yn ddiolchar am air o'i hanes. Cyfeirier—DBYCH Office, Utica, N. Y.; neu MICHAEL HUGHES, Penhafodlas, Blaenau Ffestiniog, N. Wales, G. B. 27 Dedicated, by Special Permission, to Her Majesty the Queen. In the Press, and will shortly be published, in one large volume, royal 8vo., price 10s. 6d., THE TRANSACTIONS OF THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD OF 1883! Containing: An Introduction, givicg a History of the Eisteddfod. The Prize Poems and Essays, with the Adjudi- cations thereon. The Addresses of the Presidents. Description of the Meetings. Opinions of the Press. A Complete Report of the Choral and other Mu- sical Competitions, with the Criticisms of Sir George A. Macfarren and the other Judges. The Award of Mr. Alma Tadema, R. A., and Mr. Wedmore on the Art Productions. The Names and Addresses of the successful Competitors in all the Departments-Poetry, Prose, Music and Art With detailed particulars of everything that was interesting in relation to the meetings A list of the subscribers will appear at the end of the volume. Orders to be sent to D. TUDOR EVANS, Bank Chembers, Cardiff; also through HENRY BLACK WELL, 226 East 21st Street, New York. P. 8.—The Committee have decided upon issu- ing a certain number of volumes In a cheap form at 5s. each, in order to meet the circumstance of those who cannot afford half a guinea. As the issue will be limited, early applications, accom- panied by postal orders, are recommended. WILLIAM E. DORON, UNDERTAKER AND Funeral Director, 25 Market Street, Wilkesbarre, (AND AT PLAINS, PA.) Largest and finest establishment of the kind in Northern Pennsylvania. Sleeping Room In the Store. Night Bell Answered at any Hour. PRICES MODERATE!! The patronage of the readers of this paper Is respectfully solicited. Yr ODig Le y Cedwir y Menyg Kid EnlDI A Charles T. Jones, 1163 & 1165 BROADWAY, NEW YORK, DADFOBIWB KID GLQV£s1 Tlql IIGJlJROAOWH MENYG A Menyg eraill o'r gwneuthuriad Frengig goreu. RHAI GOREU PARIS. DILLADAU ISAF SIDAN A LISLE, HOSANAU SIDAN A LISIJE, FANS, LACES, Ac. Anfonwch am SAMPLE CARD, yn cynwyø Prls a Lliw y Menyg. PRIF FEDDYGINIAETH YR OES. Gwilym Evans' Quinine Bitters. Y Feddyginiaeth Oreu a Ddychymygwyd ac a Ddyfeisiwyd er Cryfhau y Cyfansoddiad a Phuro y Gwaed. Y mae y Bitters hyn yn hollol lysieuol, ac yn cynwys chwerw-lysiau a melus-lysiau wedl eu hadd- as gymysgu, sef Quinine, Sarsaparilla, Saffron, Lavender, Burdock, Dandelion, Gentian Roet, &c. Mewn gair, mae bron bob llysieuyn a gwreiddyn gwerthfawr yn y feddyginiaeth ryfeddol hon, ac I maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth yn y modd goreu er eu perffelthio 1 tod ya wellhad difethiant at y doluriau canlynol: 1. Gwendidau o bob math yn ymddangos fel un neu ragor o'r anhwylderau canlynolIselder M bryd, nervousness, curiad y galon, chwysu, teimlad blinedig a chysglyd, y gwaed yn rhuthro yn ddl- symwth i'r wyneb, llewygon, teimlad o bwysau ar y chest, poen ar y chest, poen rhwng yr ysgwyddao, diffyg anadl, phlegm, y gwaed yn tori, peswch, a thueddiad at y darfoedigaeth (decline). 2. Diffyg treuliad a'i ganlyniadau, sef gwaelder cyn bwyd, trymder anarferol ar ol bwyd, diffyg archwaeth at fwyd, yr ystumog yn chwyddo trwy wynt, yr anadl yn drwm, y genau yn sych ac yn boeth, brathiadau disymwth yn yr ochr, y pleurisy, yr afu yn aflach, a thrwy hyny yn achosi y clefyd melyn, poen yn groes i'r Uygaid, ac ysgafnder yn y pen. 3. Trwy effaith y Sarsaparilla a'r Burdock ar gylchrediad y gwaed, y maent yn hynod o effeithiol at y blast neu'r awelon, gw-ynegon, ystiffdra y cymalau, y croen yn bigog ac anesmwyth, a phob math o ddistemper yn y gwaed. Lllnellau a ysgrifenwyd gan y Parch. Dr. J. Rhys Morgan (Lleurwg), ar ol proflacadnabod effelthlao GWILYM EVANS' QUININE BITTERS. Mor boenus ac amrywlol yw 'R dolurlau fllnant ddynolryw; Nid oes un diwrnod yn ddihoen Na neb heb wybod beth yw poen; Yn wyneb hyn, mor hyfryd yw Fod dynion yn ein mysg yn byw, Gysegrant eu meddyllau doeth I chwillo, drwy wyddoniaeth goeth, Am drwythau sydd o gyflawn rin I wella'u hanhwylderau blin. Mae Gwilym Evans, Cymro chweg, I Fferyllydd mawr Llanelli deg, Drwy feddwl mawr a'i nerthol fryd, Am lwyr wellhau'n doluriau'i gyd; Mae wedi profilr llyslau glan, Eu rhlnlau oil yn fawr a man; Cymysgu'r chwerw a'r melus wna I wneyd un dwys feddyglyn da; Mae lluoedd wedi protl li nerth, Ond byth nis gellir dweyd el werth. FFEITHIAU AM Y QUININE BITTERS. Y maent yn cael eu cymeradwyo gan feddygon a fferyllwyr I'w cleiflon ar ol 1 bob meddyginiaeth arall fethu. Y maent yn cael eu cymeryd gan hen ac leuanc, cyfoethog a'r tlawd, a chan ddynion yn mhob sefyllfa ac o dan bob amgylchiad. Nid yn unig yn Nghymru maent yn adnabyddus, ond derbynir orders am danynt o Canada, yr Aifft, Cyprus, Awstralia, &c. Y mae pawb sydd wedi eu profl unwaith yn eu cymeradwyo llw cyfeilllon, a thrwy hyn y mae y demand arnynt yn cynyddu yn helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Y mae hyn yn brawf teg o'u heffeithioldeb, canys paham y prynai neb y feddyglnlaeth am yr all a'r drydedd waith, os na fuasent yn derbyn budd a lleshad oddiwrthynt? Gellir gwelthio beunydd fel arfer, heb un anghyfleusdra, ac nid oes perygl anwyd, ond yn hyt- rach y mae yn atal anwyd. Y mae y Bitters yn cryfhau y rhan, fcneu'r aelod o'r corff sydd yn wan- ach, ac felly yn fwy agored i heintiau ac aflechyd nag arferol, a dylid coflo fod bron bob math o WIll yn gwanhau y cyfansoddlad ac yn aflonyddu y cylla. Cyfarwyddiadau I'w Bwrcasu. GOFYNER YN EGLUR AM QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Ar ol ei gael, edrycher yn fanwl ar y label, a myner gweled yr enw GWILYM EVANS, F. O. 8. Qof- aled pawb na chymeront eu twyllo, na derbyn cyngor i gymeryd unrhyw foddion arall o dan yr hen esgus ei fod yn llawn cystal ac yn rhatach. Esgus gwael a thywyllodrus yw hwna. Cofler bob amser fod efelychiadau lawer 1 bob peth da, ac y mae Iluaws mawr o efelychiadau 1 feddyginiaeth ar- dderchog a dihafal. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Fel engraifft o'r dosbarth o feddyglnlaethau a garem argymell 1 sylw y Cymry yn mhob cwr O'r byd, dymunem gyfeirio at ddarpariaeth diffuant, dldwyll, ymddiriedol, a mwyaf gwerthfawr a lleeol ag y gwyddom am danl, set QUININE BITTERS GWILYM EVANS, Llanelli, yr hwn sydd yn fath 0 Tonic llysleuol, ac yn hollol yr hyn y gosodir ef allan-el fod yn gyfansoddedig o lyslau, wedl el ddar- paru mewn dull gwyddonol, a chyda'r gofal mwyaf ag sydd ddichonadwy er sicrhau el llwyddlant. Y Cylla yw peiriant mawr treuliawl y corff, ac o hono ef y gwasgerir yr holl ranau maethlonol trwy y cyfansoddiad. Os na chedwir hwn mewn trefn, syrthia yr holl gorff i ddyryswch. Effalth ac ammn penaf y Quinine Bitters yw cadw y cylla yn iachus, a phob organ yn gweithio yn hwylus ac yn en Ue; a gellir yn dellwng ystyried y Bitters hyn y feddyglnlaeth deulualdd oreu y gwyddys am dan1. Cymeradwyir hi yn ddibetrus at Annhreullad yn el wahanol agweddau, ac aflechyd y Ddwyfron a'r Afu, yn nghyd ag anhwylderau gewynol. Yr ydym am lawer o flynyddau wedi edrych gyda gradd helaeth o ddrwgdybiaeth ar feddyginiaethau hysbysedig, a thueddid nl 1 wneyd hyny a'r feddygin- iaeth hono, set QUININE BITTERS GWILYM EVANS, hyd nes y gwelsom y fath dystiolaethau pwyslg a dylanwadol oddiwrth ddynion a wyddant mor dda, ac a wnaethant gymaint o ymchwillad I'w han- soddion. Oddlwrth ein gwybodaeth bersonol am y darparydd a'r perchenog, gwyddom ei fod yn el broffeswriaeth wedi cyraedd yr ANRHYDEDD UOHAF YN Y GANGEN FFEBYLLOL, ac ystyrlr ef yn an 0 Fferyllwyr mwyaf goleuedig ac addawol y dydd.—Allan o Seren Gymru. ENGRAIFFT O'R CANOEDD TYSTIOLAETHAU A DDERBYNIWYD. Slarada y Parch. David Harries, 46S W. Harrison Street, Chicago, Ill., am danynt yn ffafriol lawn, a dywed eu bod yn feddyginlaeth ardderchog yn mhob ystyr o'r gair. Oddtwrth y Parch. Thomas Price, M. A., Ph. D., Rose Cottage, Aberdar, Tach. 10, 1880; "GABKDIFL SYR—Cefals gytle 1 wneyd prawt teg a gonest o'r QUININE BITTERS cyfansoddedlg genych chwi; aa yr wyf yn gallu tystio oddiar broflad personol a thystlolaethau amryw bersonau 1'1' rhai y cymerad- wyais y BITTERS, eu bod yn meddu yr elfenau, y nodweddau, a'r rhlnweddau a hawllwch iddynt Yn 1876, cefals gystudd trwm am wyth mis, ac mae rhai o effeithiau y cystodd hwnw gyda ml hyd heddyw. Bu yn achos o ddychryn 1 mi ddyfod o'r llofft ar hyd y grlsiau i'r llawr rhag cwympo. Bu y cof, y cylla, a'r aelodau yn peldio a gwneyd eu gwaith; ond gwnaeth y BITTERS lawer lawn er symud hyn oil; mae y cof yn llawer gwell, mae yr aelodau yn iach a chryflon, tra mae y BITTKB8 yn creu awydd am fwyd, ac yn help mawr I dreulio yr hyn a dderbynir i'r cylla. Bu amser pan yr oedd dal ar ysgrifbin yn faich i ml, ond yn awr gallaf ysgrifenu yn ddigryn fel yn y dyddlau gynt, fel y gwelwch wrth y llythyr hwn. Gellir rhoddi ugelniau o dystiolaethau pwyslg o bob man o Gymru. Os bydd trafferth ilw bwr- casu, ysgrifener at y perchenog; ceir pob gwybodaeth oddlwrtho ef. Yn yr Hen Wlad gwerthir y QUININE BITTERS mewn potelau 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. Nid yw dar- ganfyddydd yn danfon y potelau bychain drosodd, ac nis gellir gwerthu y 4s. 6c. dan$1.26. Dyma yr unig ddull y gellir el gael. Protective tariff uchel y wlad hon yw achos y codiad. ga Byddwch ofalus rhag cymeryd eich twyllo. DABPEBIB GAN GWILYM EVANS, F. C. S., MINCING-LANE LABORATORY, LLANELLY, SOUTH WALES. PRIF ORUCHWYLIWR YN AMERIOA-B. D. WILLIAMS, Plymouth, Pa. Ceir manyllon oddiwrtho ef, neu oddiwrth y perchenog yn Nghymru. Is-ORUOHWYLWYR-Hall & Ruckel, Lazell, Marsh & Gardiner, New York; French, Richards & Co. Smith, Kline & Co., Johnston Holloway, pniladelphla; Morrison, Plummer & Co., Chicago, Ill.; B. Armstrong, Thomas B. Thomas, Wilkesbarre, Pa.; B. G. Morgan & Co., T. H. Jonee, W. H. Decker George W. Jenkins, Hyde Park, Pa.; T. D. Lewis, Providence, Pa.; R. H. Myer, F. Crotzer, Enke, Bennett & Co., Nanticoke, Pa.; Evans & Son, Kingston, Pa.; Evans & Bliss, Delphos, Ohio; John W. Henry, Houtzdale, Pa.; Barton & Starke, Plains, Pa.; B. Scott & Co., Sugar Notch, Pa.; D. B. Davies, Lansford, Pa.; J. H. Sheehan & Co., Utica, N. Y.; D. D Lewis, Coal Creek, Col.; John Reese, Arvonia, Ka.s. Charles Ryder, Emporia, Kaa.; Reese & Co., Parsons, Pa.; Dd. Rees Jones Johnstown, Pa. Mr. Rhodes, Druggist, Pitttton, Pa.; Joseph Gibson, New Straitsville, 0.; J. J. Phillips & Co., Justus, 0.; Fred. J. Kolb, Jr., Shenandoah, Pa.: George W. Tea, Penn Ave., Pittsburgh, Pa.; John J. Daniels, Blossburgh Pa.; Fall Brook Coal Co., Antrim, Pa.; Seisenring & Co., Eckley, Pa.; Reese & Watkins, Olyphant, Pa.; R. M. Thomas, Frostburgh, Md.; R. E. Williams, Minneapolis. Minn.; C. H. Chance Ashley, Pa.; Thomas T. Jones, Poultney, Vt.; Williams & Price, Cambria, Wis.; R. R. Evans, Ban- gor, Wis.; J. P. Williams, Girard, Ohio; Weden & Evans, Cleveland, Ohio, a llawer eraill. BUGSI BUGS!! BUGS 0,000 o Bwysi Pure Paris Green. 1,000 o Bwysi Powdered White Helebore. 500 o Bwysi Persian blnsect Powder. 500 Bottles Wagner's Carpet Bug and Bed Bug Exterminator. AR WERTH YN RHAD GAN J. H. SHEEHAN & CO., CYFFERWYR CYFANWERTHOL A MANWERTHOL, 155 GENESEE STREET, UTIOA, N. Y. SEFYDLWYD 1871. G. T. MATTHEWS, MASNACHWR CYFANWERTHOL MEWN it MS MiLywui! i 2 CEDAR STREET, CONGL PEARL, NEW YORK. Cynygir anogaethau nelllduol 1 fasnachwyr o'r wlad ac eraill a brynant ein TE RtFR Dl-UWj gwerthiant yr hwn sydd wedi cynyddu tu hwnt i'n dysgwyliadau mwyaf gobeithiol, er pan y dynoefhr wyd o flaen y Oydgyngorfa y symiau mawrum o de anmhur a lliwiedig a atgludir i'r wlad hon, ac a werthir gan fasnachwyr diegwyddor yn lie te pur, di-liw. Mae maint ein masnach yn ein galluogi nl 1 gael llongiadau mawrian ar y telerau mwyaf manteuM, yr hwn yr ydym bob amser yn barod i'w gynyg I brynwyr ar yr un telerau mantelslol. Yr ydym hefyd yn masnachu yn helaeth mewn ASSAMS-Te Indiaidd—(fel yr hysbysir gan y Cal- cutta Syndicate), y rhai ydynt hynod am GRYFDEB A PHUBDEB EU BLAS. Yn ychwanegol at ein Masnach De, yr ydym wedi myned yn Helaeth i'r Fasnach Gom, ac yr yaym yn barod i werthu am YCHWANEGIAD BYCHAN at gost yr atgludiad. Cymerwyf y cyfleustra hwn i ddiolch i fy nghyfeilllon a'm cwsmeriaid am yr ymdairiea aa- ant ynof yn ystod y deuddeng mlynedd diweddaf, ac yr wyf yn addaw ymgeisio 1 Haeddu thews unrhyw. Yr eiddoch yn wirioneddol, AXIJSWB. O. Y.—Danfonir samplau a rhestr o'r prisoedd, ar archiad. ja-Yr Unig Fasnachwr Cymreig mewn Te yn New York.-«^. J. M. CHILDS A'I GWM., OFFERYNAU AMAETHYDDOL. Stock Anferth I GWARENTIR YR OLL I I BUCKEYE MOWER! ADRIANCE REAPER. Tiger Self-Dump Wheel Horse Rake. BULLARD HAY TEDDER, OLIVER CHILLED PLOWS, OASADAY SULKY PLOWS. obixi FFERMIO 0 BOB MATH. Waeenl Coed, Wageni Spring, Cerbydau, Bug- gies, &c. PRISIAU ISEL. 2,14, 16 & 18 FAYETTE ST., UTICA N. Y. H. A. POWELL, ATTORNEY AT LAW 207 SANSOME ST., SAN FRANCISCO, CALIF. G L- CD- STAR COAL YARD, W. A. EVERTS. YARD—CORNER FAYETTE AND VARIOK ST., MAIN OFFICE—131X GENESEE ST., UTIOA. Fr CATARRH^ FERGUSON'S QUICK CURE FERGUSON'S QUICK CURE HocoTmmended by the well-known physi- cian*, \Vm. E. MillNink. M.D., Albany, N. Y., R. D. Bloss, M.D., Troy, N. Y., and oth- ers, as well as by many citizens, whose names we are at liberty-to furnish on appli- cation as vouchers for the wonderful cura- tive power of this specific remedy for Ca-' tarrh or cold in the' head, as exemplified by their own experience in its use. Is pleasant to use, can be carried in your pocket as easily as your watch and used^a anywhere at any time. Sold on its merits^* by all druggists. 50 cents. Address FERGUSON QUICK CURE CO., Box 131, ALBANY, N. Y. For Sale by John H. Sheehan & Co., Wholesale and Retail Druggists, Utica, N. Y. n C. SNYDER, c Attorney and Counselor at Law, 56 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. Over Rowley & Horton's store.) NOTARY PuBIO. Y TO GOREU YN Y BYD!! R. W. OWENS, RHIF 35 ARCADE, UTICA, N. Y., PRACTICAL SLATER. fDy'muna R. W. Owens wneyd yn hysbys 1 bobl Utica a'r cymydogaethau yn gyfrredinol ei fod wedi agor lard lechi yn y dinas, ac mae yn barod i doi pob math o adeiladau yn y modd goreu ac am y prisiau iselaf. Mae prawf o 26 o flynydd- oedd yn ddigon i warantu gwaith da i bawb Gellir gosod llechi ar hen shingles, yna ceir to a beryam oesau.