Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
DRY. ,fJ. I jIIR)p' A WEEKLY NEWSPAPEB, ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, PROPRIETOR. UTIGA, N. Y. r Important to Advertisers I-The attention of business men in general Is called to Y DRYCH as superior advertising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other publication; AND HAYING A CIROULATION EXCEED- ING THAT OF ALL THE WELSH WEEKLIES AND MONTHLIES PUBLISHED IN THE UNITED STATES COMBINED.
DAFYDD Y GABEG WEN.
DAFYDD Y GABEG WEN. GAN CABNEDDOG. "'Roedd Dafydd yn marw" yn moreu ei ddydd, Yn Ing ei awr olaf sibrydai yn brudd:— "Mae haul fy ngobelthion yn myned dan 16n, Mae angeu'n ymrodio gylch bwth Gareg Wen I 01 mam, ga'l ty nhelyn! 'rwy*n marw, 'rwy'n want Ond cyffwrdd fy nhelyn a'm llonal'n y fan! OI na chawn I Junto, cyn myned i'r nen, Un don ar ei thanau—yr 'Hen Gareg Wen.' 01 coflwch fy nghladdu ryw ddlwrnod a ddaw Yn T anwyl Elflonydd,' yn 'r Ynys gerllaw; Ond cyn i ml farw, cynaliwch fy mhen I'm selnlo 'n nhon olaf—yr 'Hen Gareg Wen I'" El fam wrth ei wely a safal yn fud, Tra'r delyn gan Dafydd yn fywyd i gyd I A thynodd o'l thannau-tra dallal el ben— Wynfaol ber selnlau yr "Hen Gareg Won I" Murmural, tra angeu yn gwelwi el fryd— I 'Gorphonals f alargerdd cyn gadael y byd! •Bwy'n myned i chwyddo erddygan y nen I Cewch chwithau delori yr 'Hen Gareg Wen. '•'Bwy'n myned t 'rwy'n myned yn araf fy ngham; Bwy'n myned at lan yr Iorddonen, fy mam I Os daw fy Ngwaredwr i gynal fy mhen, At drwyddi dan ganu yr 'Hen Gareg Wen!' 'Roedd Dafydd yn marw I" a chanai o hyd, Ac 'hedodd el ysbryd dan ganu o'r byd, I ardal ber-lonydd telynau y nen- Tra selnlal el delyn yr "Hen Gareg Wen I" Tra telyn yn Nghymru am dano bydd son, Fe gofir ei enw tra cenir ei don— Hyd nes y dlrwyna blynyddau 1 ben, A dselnIa myrddiynau yr "Hen Gareg Wen I"
Y TERFYSG MAWR YN MERTHYR,…
Y TERFYSG MAWR YN MERTHYR, 1831. YB ACHOS 0 HONO A'B CANLYNIADAU: GAN c¿1)- WGAN FABDD, JOHNSTOWN, PA. Yn y DBYCH am Gorph. lOfed, y mae ys- grif fer gan Mr. E. D. Evans, Garner Grundy Co., TIl., ar "Ddic Penderyn, a'i ddienydd- iad ar gam." Ar ddiwedd ei ysgrif gofynai Mr. Evans yn garedig i mi, os gallaf roddi tipyn o hanes Dic a'i ddienyddiad yn mhell- ach nag y mae ef wedi gwneyd. Nid wyf yn gweled angen am i mi wneyd felly, o herwydd y mae ef wedi dyweyd agos yr oil a ellir ddyweyd ar yr achos annynol a bar- baraidd hwnw. Ond dichon y byddai gair yn fyr ar yr achos a arweiniodd i'r gyflafan drychinebus yn dderbyniol gan luaws o ddarllenwyr y DBYCH, gan,fod y dygwydd- iad yn hen beth, ac ar lithro i ebargofiant pan anwyd llawer o honynt. Yr achos o'r terfysg mawr fel y'i gelwid oedd hyn: Yr oedd y bwyd a'r dillad yn od o uchel y pryd hwnw, a'r huriau yn isel, fel nad oedd dim modd i'r gweithwyr gael agos digon at eu cynal, pan oedd y meistriaid ar yr un pryd yn pentyru cyfoeth wrth y tun- elli. Yr oedd y gweithwyr yn meddwl (ac yr oeddynt yn meddwl yn iawn hefyd), y dylasai y meistriaid ranu ychydig o'r elw mawr oeddynt yn ei wneyd ar eu cefnau hwy-digon iddynt allu byw yn gysurus beth bynag. Ond gan fod yn well gan y meistriaid am eu llogellau eu hunain, nag am foliau a chefnau eu gweithwyr, aeth yn wrthdarawiad rhwng ariansawdd a llafur, a'r canlyniad fu i derfysg ofnadwy gymeryd • lie. Yn niwedd Mai, 1831, safodd holl weithwyr gweithiau haiarn Merthyr allan am ychwaneg o hur; ond ni wnai y meistr- iaid ganiatau hyny iddynt. Y dydd cyntaf o Mehenn (dydd Mercher) cyfarfu yr holl weithwyr ar dwyn flair y Waun, i ymgyngori a'u gilydd beth oedd oreu iddynt wneyd. Tranoeth ymdeithient trwy bentref Merthyr yn dorf anferthol o fawr; ac yr oedd rhai o honynt a golwg lied fygythiol arnynt. Wedi iddynt ddangos eu nerth yn y pentref, aeth- ant rhag eu blaen dros y bont haiarn tua thy Mr. Coffin; ae wedi iddynt gyraedd y fan, dechreuasant daflu ceryg at y ffenestri, nes eu gwneyd yn chwilfriw yn mhen ychydig eiliadau. Wedi hyny aethant i'r ty, a char- iasant lawer o bethau allan, ac yn neillduol y llyfrau, gan wneyd coelcerth anferth o'r cyfan o flaen Uygaid Mr. Coffin a'i deulu; a dyna ddechreu y terfysg mawr yn Merth- yr. Yr aahos iddynt ymosod ar dy Mr. Coffin, fel y gwnaethant, oedd, fod Mr. Coffin ac ychydig o fasnachwyr eraill yn Merthyr, rhyngddynt hwy eil hunain, wedi ffurfio math o lys i godi man-ddyledion, yr hwn a alwent "Court of Requests," ond a elwid gan y bobl "Cwrt y Conscience," a Mr. Coffin oedd y barnwr (judge). Ni bu cwrt erioed yn fyw melltigedig na'r cwrt hwnw; canys dygodd hyd yn nod y gwely o dan lawer gweithiwr tlawd a gonest. Dy- wed y diweddar draethodydd enwog, John Rhys, Pendaren, yn ei draethawd buddugol ar Merthyr, na fu chwil-lys erioed yn fwy creulon yn ol hyd a lied ei derfynau, na Court of Requests, Coffin & Co. Ond fel y daw y melus o'r chwerw ambell i waith, felly y bu y tro hwn—diddymwyd Court y Con- science mor llwyr yn y terfysg mawr, fel na feiddiodd ddangos ei ddanedd mileinig byth mwyach yn Mertiayr. Pan welodd y meistriaid fod y terfysg wedi dechreu o ddifrif, dychrynasaut tywydd- ynt, a gyrasant ar garlam gwyllt i bob cyf- eiriad am filwyr i'w hamddiffyn hwy a'u gormes; a'r milwyr cyntaf a gyrhaeddasant y lie oedd Gwyr y Peisiau Bach, o Aberhonddu; a chreaduriaid hagr ofnadwy eu golwg oedd- ynt. Deallodd hen wroniaid "Aberdar a fu" fod meirchfilwyr ar eu taith o Abertawy tua Merthyr, a phenderfynasant fyned i'w cyf- arfod i ben y mynydd rhwng Aberdar a Merthyr—"i gael newid cwpl o slaps a nhw" meddent. Ni fuasai neb ond hen wroniaid "Aberdar a fu" yn meddwl am i dorf megys a dyrnau moelion ymladd a byddin o wyr meirch dan gyflawn arfau; ond gwnaeth yr hen Aberdariaid hyny,a chawsant fuddugol- iaeth ogoneddus, trwy ddwyn holl arfau y fyddin fawr, ei throi yn ol, a gorchymyn iddi fyned tua thre', ac felly y bu; a hyny heb golli un diferyn o waed. Cynllun yr Aberdariaid i weithredu arno oedd fel hyn: Yr oeddynt i fod ar ben y mynydd o flaen y milwyr, ac i lechu y tu oefn i fur ceryg oedd yn ymyl y brif heol, yn agos i fedd y cawr, rhwng Aberdar a Merthyr, nes y buasai y milwyr ar eu cyfer; ao yna neidio ar un- waith dros y mur atynt. Yr oedd Dai i ym- aflyd yn ffrwyn y ceffyl blaenaf, a Will i ddal ei wn wrth ben y milwr, gan orchym- yn iddo roddi ei arfau i fyny neu sefyll y canlyniad; Mocyn i ymaflyd yn ffrwyn y ceffyl nesaf, a Shoni a choes mandrel yn ei ddwylaw, yn barod i daro y milwr druan yn ei dalcen os na fuasai yn ufuddhau, &c. Yr oeddynt wedi rhagfeddwl am eu cynllun mor berffaith, nes oeddynt yn gallu ymaf- lyd yn ffrwynau y meirch ar unwaith, ar darawiad amrant. Gwnaeth buandra ac eondra yr ymosodiad annysgwyliadwy, daro y milwyr a chymaint dychryn, fel nad oedd nerth yn eu dwylaw i ddal gafael yn eu harfau; ac hyd yn nod yr hen fllwr profladol Cadben Rice ei hun, yr hwn a gadwodd ei gleddyf yn mrwydr fawr Waterloo a orfodwyd i'w roddi i fynyi T-m- M—r—1 yn ymyl Bedd y Cawr, rhwng Aberdar a Merthyr. Byw o ynl oedd pob enald-o honynt, Hen anwyl Frythonlald; A gwlr enwog wroniaid—o fryd lach- Ni bu wyr dewrach na'r Aberdariaid. Y mae llawer o gofgolofnau yn cael eu oodi y blynyddau hyn, heb ddim llawer ar- nynt ond cryglwyth o anwireddau; ond cred- wyf y dylid oodi oofgolofn yn ymyl Bedd y Cawr, rhwng Aberdar a Merthyr, er cof am wrhydri digyffelyb yr hen Aberdariaid, yn ymladd megys a dymau moelion a byddin o wyr meirch, ac yn eu gorohfygu ac yn dwyn eu harfau ar y trydydd dydd o Mehefin, yn y flwyddyn 1831. Tybiwyf mai gwell yw gorphen a'r Aberdariaid yn eu cysylltiad a'r terfysg mawr yn Merthyr, cyn myned yn mhellach. Er iddynt ddwyn arfau y milwyr fel y nodais, eto profasant eu bod yn ddyn- ion gonest, maddeugar a boneddigaidd. Wedi'r terfysg fyned heibio, a phethau gwyrgam unioni tipyn, dymunodd prif aw- durdodau Aberdar, (a hyny ar gais y Cadben Rice, mae'n debyg), ar y sawl oedd a'r arfau ganddynt, eu dychwelyd yn eu holau i fan a benodid i hyny yn ymyl Gadlys, Aberdar, a gwneyd hyny yn y nos. Hefyd sicrhawyd iddynt yn gyhoeddus, na fuasai neb yn eu gwylio gyda'r dyben o'u bradychu. Credas- ant hyny un ac oil, a chyn pen yr wythnos wedi'r dymuniad gael ei wneyd yn hysbys, yr oedd yr arfau wedi eu dychwelyd oil i'r fan benodedig; ac ni fu bradychiad yn y gorchwyl o gwbl. Cafodd pob nailwr ei arf yn ei ol, ac yr oedd yr hen Gadben Rice mor faloh wrth dderbyn ei gleddyf, a phe buasai yn cael ei wneyd yn Dywysog Morgan wg. Cymerwyd amryw o'r Aberdariaid i fyny wedi'r terfysg mawr fyned heibio, a chaw- sont eu profi o flaen Bruce yn Merthyr. Cafodd tri o honynt eu hanfon i garchar Caerdydd i sefyll eu prawf yn y brawdlys, sef Evan Nicholas, Tom Elias a fy hen gyf- aill Shon Huw. Y cyhuddiadau yn eu her- byn oedd, eu bod yn cario drylliau yn y terfysg. Yr oedd achos Shon Huw yn hynod dywyll; yr oedd ef wedi myned i dy Mr. Rhys, Ijlwydcoed, a dwyn dryll oddiyno, a hyny yn mhresenoldeb Mr. Rhys; Tom Elias wedi benthyca dryll gan gymydog, ac Evan Nicholas wedi cario ei hen ddryll ei h an heb un do arno. Yr oedd Mr., Bruce yn siarad yn benderfynol iawn wrthynt, ac yn egluro iddynt natur eu trosedd, yn neill- duol Shon Huw; a dywedai wrtho ef fod ei drosedd yn galw am alldudiaeth dros fyw- yd. Ar hyny dechreuodd Shon lefain yn y modd mwyaf calonrwygol a glywyd braidd erioed, yr hyn a eff eithiodd fwy ar Mr. Bruce i drugarhau wrtho, na phe buasai haner cant o gyfreithwyr yn ei amddiffyn. Wrth ei weled yn llefain mor dorcalonus, dywed- odd wrtho yn y dull mwyaf teimladwy: "Paid ti lefain, tewi ti rhydd session; taw Mr. Rhys tim yn derbyn ti yn session; paid ti lefain, tewi ti rhydd. Ond i ni bound o commito ti; alwn ni tim pito: ond tewi ti rhydd session, paid ti lefain." Un tyner iawn bob amser oedd Mr. Bruce at y tros- eddwr edifeiriol, a fuasai yn wylo y dagrau ger ei fron; eithr os un caled a dideimlad, yn ateb yn swrth fuasai y troseddwr, yr oedd y wialen haiarn yn barod i'w chym- wyso at ei gbfn. Dydd prawf y carcharorion a ddaeth, ao nid oedd neb yn y brawdlys yn Nghaerdydd yn erbyn yr un o'r Aberdariaid; felly caw- sant eu rhyddid i ddychwelyd yn ol at eu teuluoeddiyn iach a dianaf, a hyny er llawen- ydd a gorfoledd nid bychan i'w holl gyfeill- ion. Y llith nesaf am y frwydr o flaen Castle Hotel, &c.
w YR HYNOD TWM SION CATI.
w YR HYNOD TWM SION CATI. Y PABCH. T. J. PHILLIPS, PLYMOUTH, YN YM- WELED A'i GABTBEF YN YSTBADFFIN. LLANYMDDYFBI, D. C. Cychwynodd chwech o honom mewn cerbyd o'r lie hwn i dalu ymweliad ag ystafell Twm Sion Cati. Teithiem drwy ardal hynod brydferth, ac ar ein ffordd yr oedd pentref henafol Cilcwm, yn yr hwn y mae lluaws o bobl ydynt yn mhell dros y pedwar ugain, yr hyn a brawf iachusrwydd y lie. Arosasom am awr yn y pentref, ac aethym i mewn i'r fynwent i chwilio am fedd fy mam, gan dywallt deig- ryn ar y fan am y tro olaf am byth. Y mae hi wedi cael gorphwys yno er ys mwy na deugain mlynedd bellach. Heddwch i'w llwch. 0 Cilcwm cychwynwyd i Rhandir- mwyn, hen gartref canoedd o ddarllenwyr y DBYCH yn Hyde Park, a Wilkesbarre. Y mae yma luaws yn enill eu bywoliaeth wrth godi mwn plwm, a dywedir fod yr argoelion pres- enol yn fwy addawol nag erioed. Wedi cael ein digoni a bara a llaeth yn Ystradffin, aed i chwilio am yr ystafell. Yr oedd ein llwybr drwy y lleoedd mwyaf an- hygyrch a welsom erioed; cerddwyd am agos i filldir ar hyd glan yr afon Tywi, dros greigiau a cheryg geirwon, ao wedi cyraedd yn agos i'r ystafell, yr orchest oedd myned i fyny ati. Wel, i fyny yr aed, ond collodd ein harweinydd ei ffordd ychydig. Y gyntaf at yr ystafell oedd gwraig eich gohebydd, ac yntau ei hun yn olaf. Eisteddwyd o flaen y neuadd greigiog er oael ein hanadl a syllu ychydig ar yr olygfa yagythrog ao ofnadwy odditanom ac oddi arnom. Wedi cael ei wynt gwaeddodd eich gohebydd a'i holl nerth, "Twm Sion Cati," ac er syndod daeth gwaedd atebol o rywle-oddiwrth ryw fugail mae'n debyg. Y gorchwyl nesaf oedd myned i mewn, eithr er siomiant methai eioh goheb- ydd ymwthio drwy y porth cyfyng. Ond gan fod cynifer o fechgyn y Rhandir wedi taeru pan yn America, Dad oedd yn bosibl i ni fyned i mewn, rhaid oedd ymdrechu i enill y wystl oedd wedi ei dal. Tynwyd y dillad i ffwrdd oddieithr y pants, ac i mewn yr aed, a bloeddiwyd buddugoliaeth yn y parlwr creigiog. Mae yr ystafell tua pum troed- fedd wrth bedair troedfedd ar ddeg, a myn- edfa gul iddi oddeutu deuddeg neu bym- theg troedfedd o hyd, rhwng dwy graig, fel mai nid gorchwyl hawdd yw ymwthio iddi. Oddimewn gwelir miloedd o enwau a dydd- iadau wedi eu tori yn y graig, ac nid hawdd yw canfod lie gwag er chwanegu atynt. Can- fyddais enw un William ap Howell wedi ei dori yn 1730, ond mae amser bron a'i dreul- io allan. Mae yr ystafell o ugain i bum troedfedd ar hugain o uchder, ac heb ddim to uwch ei phen. Anhawdd yw penderfynu pa un ai gwaith natur ai celfyddyd ydyw. Credwyf mai gwaith celfyddyd mewn rhan yw yr ystafell, ond eglur yw mai gwaith natur yw y fynedfa. Wedi syllu i foddlon- rwydd ur yr olygfa, a thori darn o'r graig fel adgof am y lie, dychwelwyd i Ystradffin, lie yr ymborthwyd yn helaeth. Hen balasdy a hen gartref Twm yw Ystradffin. Er nad yn eang, mae yn adeilad cadarn iawn-y waliau yn bum' troedfedd a thair modfedd o drweh. Hawdd canfod ar ei olwg ei fod wedi ei adeiladu er ys canoedd o flynyddau, a gall barhau am oesau lawer eto, os nad am oes y ddaear. Saif dwy dderwen anferth o fawr o flaen y ty. Prawf hanesyddiaeth ddarfod i Twm Sion Cati ddyfod i feddiant o holl ystad Ystrad- ffin, trwy gael ei uno ag etifeddes yr Ystrad. Dywed yr hanes iddo fyned yno un noson gydag offeiriad eglwys Ystradffin. Gosodas- ai yr offeiriad ar ei lw y dywedai iddo glyw- ed yr eneth yn addaw ei briodi. Cafodd gan y ferch ddyfod i ffenestr yn nhalcen y ty i ymddyddan ag ef, gan na feiddiai fyned i'r ty. Pan oedd ar ymadael, estynodd yr eneth ei braich allan er ysgwyd llaw ag ef; gafael- oddjyntau ynddi, a chan godi cleddyf, tyng- odd yn enw Duw y nefoedd os nad oedd hi yn addaw dyfod yn wraig iddo, y torai ei braich ymaith. "Yn awr," meddai, "dywed y gair, onide dyma dy aelod i ffwrdd." Gwaeddodd hithau, "0 gwnaf, Mr. Jones, peidiwch tori fy mraich." Gwaeddodd yn- tau ar yr offeiriad i fod yn dyst, ac felly daeth yn etifedd ystad Ystrad. (I'w barhau.)
[No title]
—"Gelert," ci Llewelyn: Ei gwymp oer, a'i gampwri-arddenodd Fyrddiynau i'w foli; 'E fydd cof o fedd y ci Tra'r erys tir Eryri. —Carneddog.
" DINESYDD " AR DAITH.
DINESYDD AR DAITH. 0 MILWAUKEE I SCBANTON, PA.—YN MHUTH YU ATHENIAID CABBONDALE, WXLKESBABBE, &c., &c. Lr mwyn bod yn y ffasiwn, dichon y go- ddenr i minau roddi gair o'm hanes ar daith drwy ranau o Pennsylvania, New York a Vermont. Rhag blino darllenwyr y DRYCR a ro:-mod o myfiaeth, dywedaf na chefais ond pob parch a sirioldeb, a charedigrwydd yn mhob lie yr ymwelais ag ef. Boreu dydd lau, am 11 o'r gloch, ar y 23ain o Fai, cych- wynais gyda'r St. Paul i Chicago, ac oddi yno gyda'r Lake Shore a Delaware & Lackawanna i Scranton, Pa., gan gyrhaeddyd yno ychyd- ig wedi pedwar o'r gloch dydd Gwener. Nid yn ami y ceir dydd poethach na'r dydd Gwener hwnw, a mwy anghysurus i deithio. Dyddorol oedd gweled ambell wyneb llyfn- dew a glandeg yn llifo gan chwys, a'i liwio yn loewdau gan y llwch a'r mwg ddeuai yn gawodydd didor drwy y ffenestri. Ond mwy dyddorol oedd gweled y beilchion a'r rhod- reswyr yn ymladd yn anniddig yn erbyn y gwres, y llwch a'r parddu, yn ofer. Y mae pob sefyllfa a gradd yn hynod o debyg o dan yr un amgylchiadau, ond fod rhai yn fwy ystvyth i blygu i'r cyfryw nag eiaill. Nid oes 'derbyn wyneb" gan natur a'i deddfau. Rhaid i'r cryf, fel y gwan, i'r iach fel yr af- iach, i'r tlawd fel y cyfoethog, i'r uchel fel yr il, blygu i ddeddfau amgylchiadau, neu gael eu hunain yn ymguro yn orchfygedig yn erbyn creigiau dinystr. Dyna bregethu yn Ue adrodd hanes, onite. Wel, awn yn mlaeii ynte. Bum yn y ddinas hon o'r blaen flynyddau yn ol. Ymgyferfydd lluaws o bethau i'w gwieyd yn enwog a mawr. Nid oes dim yntfdi yn dangos fod ei chynllun a'i threfn wefi costio llawer o draul, meddwl na chyf- oeth. Ceir yn ei chynllun fwy o arwydd hap a dygwydd na dim arall, fel nas gall ddechrou ymgystadlu am drefn a rhagor- iaeiti. Eto ar lawer o gyfrifon y mae yn enwog. Saif yn un o'r dyffrynoedd pryd- ferthaf, cyfoethocaf, ac amlaf ei drigolion yn America. Dyma lie mae cyfoeth yn haenau ar haenau ar eu gilydd. Dyma fyd o lo. Dyma allu sydd yn tynu y miloedd o wahanol genedloedd at eu gilydd, ac wedi fforddio eu cynal a'u cyfoethogi am ugeiniau to J,yddoedd a aeth heibio, ac eto sydd i ddyfod. Ond esgyn i ben un o fryniau y dyffryn, nid yn ami y ceir golygfeydd mwy prydferth a swynol. Y mae y bryniau ar y naill du, y rhai a harddir a choed—y colofn- au mwg esgynant oddiwrth y gwahanol weithfeydd, a'r man bentrefydd lechant yn dawel yn ei fynwes, a'r anetdd-dai dryfrith- ant ei lethrau, yn cyfarfod yn mhrydferth- wch y darlun. Fel pob peth mawr, y mae y dyffryn hwn yn cuddio mwy nag mae yn ei ddangos. Tra yn llawn o drysorau o'r gol- wg, digon tlawd a llwydaidd yw ei dir. Nid yma y ceir y tiroedd breision a'r cynyrchion toreithiog. Yn gymdeithasol a llenyddol, dywedir mai dyma Athen America Gymreig. Yn wir, feallai mai tipyn o ryfyg ywi gread- ur diniwed fel Dinesydd anturio i'r fath le, heb ddiosg ei esgidiau oddiam ei draed, a thynu ei hot oddiam ei ben, ac ymddangos yn wylaidd, ofnus a digalon. Y mae y dyffryn llawn mor enwog yn ei dalentau, ei alluoedd a'i athrylith ag ydyw yn ei gyfoeth mwnawl. Yma y ceir y bardd enwog, y cerddor godidog, y dadganwrpobl- ogaidd, yr inventor liwyddianus, y llenor gwych, a'r areithiwr hyawdl, yn gystal a'r pregethwr mawr ac eff ei thiol. Ceir llawer o'n cydgenedl anwyl wedi dringo yma i saf- leoedd uchel a sefyllfaoedd anrhydeddus fel masnachwyr, meddygon, cyfreithwyr a gor- uchwylwyr. Maent yma yn athronwyr ac athronesau; ac yn eu plith nid anenwog y saif enw fy nghyfeilles, Mrs. Margaret Rob- erts. Yn grefyddol eto, nid yw y dyffryn yn llai enwog. Ceir yma y capelydd heirdd, yr eglwysi Iluosog, a'r cynulleidfaoedd mawr- ion, yn gystal a'r pregethwyr rhagorol. Lie ceir gwell canu cynulleidfaol ? Eto gyda'r fath nerth a thalentau dysglaer, dichon y gallai fod yn well mewn rhai amgylchiadau. Cefais y fraint o fwynhau Cymanfa yn Bell- vue, gyda'r Hen Gorff, y gyntaf i mi yn Pennsylvania er creadigaeth y byd. Gresyn fod Eisteddfod fawr Wilkesbarre, a'r Gym- anfa, yn sangu ar derfynau eu gilydd. Braidd nad oedd delw a bias Eisteddfod ar y Gym- anfa, yn enwedig yn ei dechreu. Gan fod y ddau hen sefydliad parchus hwn yn gwa- haniaethu cymaint yn eu natur, dylent gael eu cadw at respectable distance o ran amser oddiwrth eu gilydd. Nid yw y naill yn fan- tais i'r llall, yn ddiau. Dymunol, wedi y cwbl, oedd gweled yr hen efengyl dragwydd- ol wedi cael hamdden a chwareu teg, yn tynu sylw y dorf luosog a pharchus at ei hen wirioneddau syml. Yr oedd astudrwydd y gwrando, teimlad aiddgar y dorf yn y canu, yn arwyddion amlwg fod gan "yr ym- adrodd am y groes," cadw drwy gredu, byw drwy farw, ymgyfoethogi drwy dlodi, afael dwfn ar ein cydgenedl yn y parthau hyn. Cafwyd llawer o fwynhad o dan ddylanwad- au syml a gafaelgar y brodyr o Bangor a West Bangor, a gweinidogaeth lem a than- llyd esgob Wilkesbarre. Da genyf weled y brawd caredig, y Parch. R. F. Jones, mor gysurus a Uwyddianus gyda'i eglwys yn Hyde Park. Bu yn garedig i Dinesydd. Eto, rhoddodd archoll i'w deimlad a'i garedigrwydd, drwy wneyd an- rheg iddo o ffon o wneuthuriad ei law ei hun. Yr oedd yn ddatganiad o'i garedig- rwydd ef i'r derbynydd, ond yr un pryd yn awgrymiad bach, dystaw, eto effeithiol, fod Dinesydd yn myned yn hen, ao y deuai ang- en ffon arno. A dyna oedd yn archolli. Er hyny, diolch am dani. Cadwaf hi er oynes- gof am y rhoddwr at fy rhaid. I fyny y dyffryn y mae Carbondale, pen- tref henafol, rhwng bryniau uchel, lie mae y dyffryn yn ymgulhan, gan waith y bryniau yn ymwasgu at eu gilydd, nes bron difodi y dyffryn. Dyma Jerusalem Methodistiaid; oddiyma yr aeth gair yr Arglwydd allan i'r dyffryn; yma y siglwyd cryd yr achos gyntaf yn y cylchoedd, lie y mae eglwys fechan yn aros hyd y dydd heddyw. Gan fod y gweithiau, i raddau, yn rhedeg allan, a'r Cymry yn ymadael, effeithia hyny yn bur ddinystriol ar yr achosion crefyddol. Yn is i lawr na hyny y mae Olyphant, cartref Mr. Jones, brawd yn nghyfraith y Parch. T. R. Jones. Dywedir ei fod ef yn un o'r Cym- ry cyfoethocaf yn y dyffryn, yr hwn sydd yn foneddwr hawddgar a haelfrydig, yn earn ei gydgenedl, ac yn galln mwynhau y weinid- ogaeth Gymreig. Rhyw ddwy filldir i'r lan i Bellevue, y mae Taylorville, lie y mae llawer o'n cydgenedl yn cartrefu, ac achos- ion Cymreig gan y M. C. a'r Bedyddwyr, y cyntaf dan ofal y brawd ieuanc, ffyddlawn a gweithgar, y Parch. R. Thomas; a'r olaf o dan ofal yr hynod a'r gwreiddiol Morris, Hyde Park, gynt. Nid oes na phregethwr nac ysgrifenydd fel efe yn y byd. I lawr yn is drachefn, y gorwedd dinas enwog Wilkesbarre, lie y mae miloedd o Gymry ac eglwys gref gan y Corff, dan ofal y pregethwr galluog, y Parch. Hugh Davies. Ceir yno eglwys gref, a chynulleidfa fawr, a chanu rhagorol. Ar ei chyfer, yr ochr arall i'r dyffryn, y saif Kingston, yr hon sydd yn ddinas brydferth iawn lie y preswylia llu o Gymry, ac eglwys gref dan ofal yr enwog Cynonfardd, yr elocutionist enwog. Yn is drachefn y saif Plymouth, sef tref boblog, lie mae achosion Cymreig cryf, a lIe y pres- wylia ac y gweinidogaetha y ooeth a'r man- ylaidd, y Parch. James Jarrett, gyda pharch a chymeradwyaeth. Naill du, ao ychydig yn is i lawr, mewn dyffryn cul, y mae Warrior Run, lie y mae gwaith, ac eglwys gan y M. C. Yma y cyfarfyddais a'r hen bererin duw- iol Rees, tad John Rhys, y Proffeswr o Ryd- ychain. Y mae efe mewn gwth o oedran bellach, fel yn dysgwyl am yr alwad olaf. Dymunol oedd ei weled ef a'i briod mor ir- aidd eu hysbryd, a hynaws eu profiad, pan o dan gysgodau pruddaidd henaint a chys- tuddiau. Brodor o Bonterwyd, Caredigion, ydyw ef. Da genyf ei weled wedi dwyn all- an ffrwyth ei awen mewn llyfryn bach tlws, yr hwn a gynwys lawer o benillion melus a naturiol. Gobeithir y ca eu gwerthu oil. Amser a gofod a ballai i mi fanylu ar bethau a phersonau yn y dyffryn hwn. Cyn ymad- ael cyfarfyddais a gelyn crrulon, yr hwn a'm haner dagodd am ddyddiau rai, ond gwar- edwyd fi o'i afaelion. DINBBYDID.
EBION 0 WYLLT WALIA.
EBION 0 WYLLT WALIA. ODDIWBTH ELLIS O'B NANT. DoLYDDEiiEN, Gorph. 10. —Nid yw yMesur Clad&u, neu gladdu dan y Gyfraith Newydd, ddim yn debyg o ddyfod yn boblogaidd. Ni cheir agos neb byth yn barod i gydnabod nae i ymostwng i un ddeddf na rheol, os ydyw eu penglogau hwy wedi ffurfio barn a syniad anffafriol iddi. Os ydyw y dyn yn argyhoeddedig fod y gyfraith yn un ddrwg ac anghyfiawn, ni cheir ef yn rhyw awydd us a chwanog iawni ymostwng i'w gofynion, nac i gydnabod eu hawliau. Os ydyw dyn wedi ffurfio rhyw syniad, neu wedi llyncu rhyw dyb neu haerdyb, yn wladol,cymdeith- asol neu grefyddol, sut y dylai pethau fod, a pha beth ydyw eu hawliau yn y naill gys- ylltiad neu y llall; cynlluniwch a ffurfiwch chwi y rheolau a fynoch i'w gyfarwyddo pa sut, pa wedd, ac yn mha Ie y mae terfynau ei hawliau, yn wladol, cymdeithasol neu grefyddol-nid ymostynga yn y naill gys- ylltiad neu y llall, wedi mabwysiadu rhyw gynllun iddo ei hun, ac yn credu fod hyny yn iawn, a bod yr hyn sydd yn milwrio yn erbyn hyny yn gyfeiliornus. Onid ydyw y dyn yn meddu synwyr yn ei ben i wybod fel y tybia; pa beth sydd gam a pha beth sydd gymwys yn holl hynt a chysylltiadau bywyd ? Oni chynysgaeddwyd ef a rheswm a gallu wedi'n, fel y tybia, i roi y cyfryw ar waith, ac i'w iawn arfer? Nid yw y rhai, fe dybia, yn sicr, ac yn ei feddwl te dybia yn iawn, sydd yn ymgynull yn nghyd i gyn- Uunio ac i weithSo allan ddeddfau rhwng gwr a gwr, yn gwybod mwy nac yn deall yn well pa wedd i ffurfio cyfreithiau cyfiawn a theg. Fel rheol, y mae yn canfod ynddynt asbri a gogwyddiad uniongyrchol at hunan- les y rhai sydd yn deddfu ar gyfer Prydain; y bobl fawr, y teulu aristocrataidd, sydd yn myned i'r Senedd, a hwy sydd yn deddfu ac yn deddfu gogyfer a hwy eu hunain, eu teulu ea hunain a'n dosbarth eu hunain. Ni ellir cael gan y rhai hyny gredu bod dim yn gyf- iawn a theg, ond yr hyn sydd yn rhan o, ac yr un fath a'u syniadau hwy. Pob syniad, pob meddwl, pob bam, yn milwrio yn er- byn eu syniad a'u dymuniad hwy, a elwir yn syniadau cynhyrfwyr, terfysgwyr a gwrth- ryfelwyr melldigedig a dienwaededig. Ni thal syniadau a ffyrdd y naill ddim gan y lleill; yr un fath y mae syniadau dosbarth uchaf cymdeithas ag y mae syniadau dos,. barth isaf. Nid ydyw yr opiniynau a draeth- ir gan y naill am y lleill, na gwell na gwaeth. Tra y galwa un gangen o'r teulu dynol y llall yn orthrymwyr ac ysbeilwyr, nid yw yr enwau a'r urdd-enwau a dafla y llall yn ol, na gweU na gwaeth, ond cyffelyb ydynt. Nis oes gyfraith na deddf gyfiawn yn Mhryd- ain. Nid oes y fath beth a lies cvffredinol, ond lies rhyw rai. Y mae y sefydliad sydd yn peri lies ac enill i'r naill, yn peri colled i'r llall; yr hyn sydd dda i un, sydd yn ni- weidiol a dinystriol i'r llall. Ceir pob un yn canmol y da, nid am ei fod yn dda yn- ddo ei hun, ond am y daioni a dderbyniodd ef oddiwrth y cyfryw. Fel hyn clywir y naill yn achwyn, yn trin ac yn hel, yr hyn y clywir y llall yn ei foli, yn ei orfoli, yn ei dragywyddol foli. Ni ellir oael neb i ddy- gymod nac i ganmol, os na fydd yn ei hoffi ac os na fydd yn gydfynedol a'i feddwl ac yn ddymunol g&nddo. Y naill a ddysgwyl- ia i'r llall aberthu ei hun i'w lwyddiant a'i les neillduol ef; a phe troid y pen ol i'r frawddeg yn mlaen, yr un fath yn gymwys fyddai y darlleniad. Nis gellir cael neb i ymostwng i un math o ddeddf na rheol mewn sefydliad, os na fydd yn unol a'i feddwl, fel yr awgrym- wyd yn barod. Y mae hyny yn amlwg oddi- wrth holl ffeithiau hanesyddiaeth a hynt a rhediad dynolryw ac egwyddorion yr hil ddynol, nad oes nemawr neb yn barod i ymostwng i syniadau ac i ffyrdd nad ydynt yn gallu syniad na chredu eu bod yn iawn a theg. Dyma sydd yn achosi ac yn peri y troseddau yn erbyn y cyfreithiau, y rheolau a'r gosodiadau, gan mwyaf. Nid tuedd na gogwyddiad at droseddu er mwyn troseddu; ond arweinir hwy i edrych yn isel, ao i ddi- brisio y cyfryw pan na fyddo eu meddyliau yn gallu eu llyncu. Yr oedd Siarl yr Ail yn meddwl fel hyn, a'i Senedd yn meddwl fel arall. Credai ef mai ei syniad, ei gynbun a'i ddull ef o wneyd ymaith ag eiddo ei ddeiliad oedd yr unig ffordd gyfiawn a theg, tra y Senedd a gredai ac a fynai i bethau fod fel arall. Tyn- ai un fel hyn, tra y llall a dynai fel arall; ofer oedd oodi llef, cynyg dadl na rheswm yn erbyn unbenaeth ei syniadau, a gorthr- wm ei ormesiaeth i ysbeilio a chneifio ei ddeiliaid. Bu raid tori ei ben, ond y mae yn amheus a ddarfu i hyny newid ei syniad- au a'i ddwyn i weled gwrthuni ac anhegwch ei egwyddorion. Y mae Mesur Newydd Claddu a ddygwyd i fod, yn erbyn yr hwn yr ymladdwyd hyd at waed gan y brodyr Eglwysig, yn profi yr un rheol a'r un peth. Pan y bu y mesur yn cael ei drafod a'i drin yn y Senedd, yr oedd y cynwrf a'r helynt yn anferthol yn eu plith -yr oeddynt un ac oil yn trin ac yn hel-yn ei ddarlunio fel mesur yn amcanu yn union- gyrchol at fwrw o'r neilldu lywodraeth a threfn, ac ysbeilio yr offeiriadon o'u hawliau o baderu yn yr Eglwys ac yn mynwent y plwyf ar adeg cynhebryngau. Hyn oeddent wedi arfer, ac wedi oael wneyd er cyn cof ein tadau a'n teidiau. Yn wir, yr oedd yr arferiad, gelwir hi da neu ddrwg, cyfiawn neu anghyfiawn, cam neu gymwys, wedi ei chysegru gan amser, yn hen gysegredig. Yr oedd yr amser y dechreuwyd mor hen, ac yn cyraedd mor bell yn ol, fel nad oedd all un dyn o ymchwiliadau henafiaethol, wybod pa mor foreu ac yn mha gyfnod y dechreuwyd hi. Credai rhai mai hi a arferwyd yn adeg cynhebrwng y dyn cyntaf, Abel; ond ryw- fodd llwyddwyd i gael mesur Seneddol ar y cwestiwn, a chafwyd y cyfryw ar ddeddf- lyfrau Prydain Fawr. Ni thyciodd hyn yn y mesur lleiaf i gyfnewid syniadau yr offeir- iadon a'r Eglwyswyr. Mae eu syniadau hwy am y ddeddf yn eu harwain i gredu ac i ymddwyn fel pe bai yn groes i'r gwirion- edd, yn groes i gyfiawnder-yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn gonestrwydd a chwareu teg. Rhaid bod yn fanwl ac i'r llythyren, pan yn rhoi rhybudd, neu taflir ef o'r neilldu a gwneir ef yn ddirym. Os dygwydd i un farw mewn plwyf arall, gall y gweinidog plwyfol wrthod cydnabod y rhy- budd, a gwrthod caniatau iddynt gladdu. Hyny yn mhob amgylchiad y maent wedi wneyd, ac yn wneyd. Gall y gweinidog hefyd rwystro y perthynasau gladdu yn nghladdfa y teulu-symud y bedd i ryw gongl arall; ac mewn lluaws o engreifftiau gwnaed hyny hefyd. Er bod y ddeddf yn anhyblyg, ac yn eu gorfodi i ganiatau claddu dan y ddeddf newydd, nid ydynt yn gallu cydnabod ei bod yn ddeddf y dylid cymeryd gafael ynddi a gwneyd defnydd o horn. Deddf ddrwg, ffiaidd, ffol, gythreulig, reibus, ladronllyd a bwystfilaidd ydyw, yn caniatau i sismaticiaid wneyd eu ffordd i'r lleo«dd cysegredig i agor eu safnau, ac i faldordd yn nhir yr oL yniaeth. Er nad oes ganddynt hawl i dal, ond yr offrwm fel arferol, y maent yn y gwahanol Ddeoniaethau wedi dyfod i'r pen- derfyniad y bydd raid iddynt gael tal o swm neillduol; yr un swm gan y tlawd a'r cyf-