Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
NODION PERSONOL.
NODION PERSONOL. DERBYNIWYD newydd gyda'r pellebyr, dydd Sadwrn diweddaf, am farwolaeth Syr WATKIN WILLIAMS, un o Farnwyr Maine y Frenines, a diweddar aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon. NID oes angen dweyd mai tipyn o wall ar- graff ol ydoedd galw y Parch. B. DAVIES, Treorci, yn "Dr. Davies," yn ein rhifyn di- weddaf. Ond dichon fod teitl o Swyddfa y DBYCH, yn llawn mor urddasol ag o ambell goleg Gorllewinol. BARNA Eos AFAN, golygydd T Llundeiniwr, fod dros 50,000 o Gymry yn trigianu yn Llundain; eto, ni wnaed ymgais erioed o'r blaen i gyhoeddi newyddiadur Cymreig yno. CYFETRIAD y Parch. GEORGE HILL, diwedd- ar o Oswego, TI1., fydd Ebensburg, Cambria, Co., Pa. NEWYDD trwm i'r Parch. W. HADDOCK, fydd yr un am farwolaeth ei anwyl briod Elizabeth. Cym erodd yr amgylehiad galar- us le yn Pyle, ar y 5ed cyfisol. Y MAE Mr. G. J. ROBERTS a'i briod o Green Point, N. Y., yn aros yn Sanitarium Clifton Springs, N. Y. Hydera ei gyfeillion y profa y dyfroedd yno yn llesol i'w iechyd. PASIODD Mr. R. R. WILLIAMS o L' Anse, Mich., drwy Utica y dydd o'r blaen, ar ei ffordd i Providence, R. I. Y mae Mr. Wil- liams wedi darganfod cyflawnder o lechi rhagorol yn Michigan, ac wedi prydlesu milldir ysgwar o dir, gyda'r bwriad o agor chwarel ar raddfa eang. Os try pethau allan mor lwyddianus ag y golygant yn bresenol, bydd ein gohebydd yn "wr boneddig" yn y man. Rhed rheilffordd ac afon lied fawr trwy y tir. RHYBUDDIODD y Parch. R. S. THOMAS, Taylorville, Pa., ei eglwys, y byddai ei lafur bugeiliol yn terfynu yno ddiwedd Medi. YMDDENGYS fod Mr. W. E. POWELL (Gwilym Eryri) o Milwaukee, yn bwriadu cychwyn o Liverpool am gartref, gyda'r Adriatic, Awst 12fed. Bu y Parch. MORIEN MON HUGHES, yn pregethu un Sabboth, yn nghapel Grove Street, Lerpwl, yn lie y Parch. W. Nichol- son. HYSBYSIK fod yr anturiaethwr HENRY M. STANLEY, wedi cychwyn o'r Congo i Loegr, er y 14eg o Fehefin. DEEBYNIASOM bwt o lythyr oddiwrth y te- fasnachydd Cymreig G. T. MATTHEWS, New York, o Lundain, dyddiedig Gorph yr 2il. Cafodd ef a'i deulu fordaith gysurus; ac ar en ffordd i Lundain, arosasant yn Nghaer- lleon, Llangollen, Eton Hall, Stratford-upon- Avon, Warwick, Kenilworth a Leamington, yr hon sydd yn un o'r trefydd harddaf yn_ Mrydain. Dywed Mr. Matthews fod yn of-' ynol cael oes gyfan i sylweddoli mawredd a rhyfeddodau Llundain. Bu yn gweled Dr. Bevan, yr hwn sydd yn iach a chysurus, yn byw mewn rhanbarth hyfryd o r brif-ddinas. Bu hefyd yn gwrandaw Spurgeon, Canon Farrar, Newman Hall, ac eraill. Bwriada gyfeirio o Lundain trwy Bristol i'w ardal en- edigol-Llaagenau, Brycheiniog. CAWN y manylion a ganlyn yn mhapyrau Cymru am y diweddar Barch. W. WILLIAMS, Ty Caloh, Sir Fon: Bu farw Mehefin 30ain, yn 77 mlwydd oed, ar ol bod yn weinidog parchus a ffyddlawn gydar T C. am 36ain o flynyddau. Yr oedd o wehelyth yr hen Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fon). Cerdd- odd lawer yn ei oes i bregethu yn nghapeli Mon, a siroedd eraill; a phan y gallai, os elid ar ei ofyn, rhoddai ei wasanaeth gyda phar- odrwydd i'r oyfeillion yn Capel Mawr a Hermon. Yn Capel Mawr, mis Chwefror diweddaf, y bu yn gwasanaethu yn gyhoedd- us ddiweddaf, a hyny mewn claddedigaeth. Bu yn ffyddlawn iawn am 32ain o flynydd- oedd i'r achos yn nghapel Pencarog. Cladd- wyd ef yn barchus yn mynwent Llangrist- iolus. DARLITH YN YOUNGSDOWN, O.-Bydd y Parch. O. WALDO JAMES yn darlithio yn nghapel y Bedyddwyr, ar "Meindied pawb ei fusnes ei hun," y nos Sadwrn cyntaf yn Awst. Tocynau, 25 cents. GRANVILLE, N. Y., Gorph. 17.-Dymuna Mr. JOSEPH DUDDING, gyflwyno ei ddiolch. garwch mwyaf diffuant i chwarelwyr Wells Pond, Vermont, ac eraill, am y cydymdeim- lad a'r caredigrwydd a ddangosasant tuag ato ar yr amgylchiad o farwolaeth ei anwyl briod, ac hefyd yn yr anffawd a gafodd i'w lygad. Ei ddymuniad gostyngedig, ydyw am i'r Arglwydd dalu yn ddau-ddyblyg i bawb am eu caredigrwydd.—[T. M. O. BBAIDWOOD, ILL., Gorph. 17.-Bydded hysbys i'r cyfaill "William Solomon" o Osh kosh, na fu THOMAS EMLYN EVANS, yn trig- ianu yma ond am ychydig wythnosau; a chrwydro o'r naill salwn i'r Hall y bu tra yn ein plith. A gwybyddwch nad oedd cysyllt- iad rhyngddo a chrefydd o gwbl. Na fedd- yliwch mai gwehilion cymdeithas sydd yn trigianu yma; a pheidiwch byth diraddio lie nac ardal o herwydd i chwi gael eich twyllo gan berson.—[J. T. Davies. SHERMAN, 0., Gorph. 17.-Galwodd y Parch. B. DAVIES, Treorci, gydani ar y 10fed cyfisol, a phregethodd yn nghapel newydd ei enwad, yn rhagorol. Yr wyf yn hollol o'r un farn a D. F. L. o Newburgh, ei fod yn deilwng o'r teitl D. D. Rhwydd hynt iddo ar ei daith,—[W. J. Davies. JOHNSTOWN, PA., Gorph. 14.—Yn mhlith yr amrywiol Johnstowniaid sydd wedi myn- ed ar ymweliad a Chymru yr haf hwn, y mae y doctor medrus W. W. WALTERS a'i ferch Miss Maggie Walters, yr hon sydd yn un o'r athrawesau mwyaf llwyddianus yn yr ysgolion yma er's amryw flynyddau. Bydd y doctor yn gwneyd ei gartref trayn Nghym- ru gyda'i frawd y Parch. P. J. Walters, Llansamlet, Sir Forganwg; a gall ei gyfeill- ion sydd am ysgrifenu ato gyfeirio eu lyth- yron yno. Mae gan Mr. Walters efrydwyr yn astudio meddyginiaeth, a chymerir gofal y swyddfa gan Dr. Morgan, yr hwn sydd ar raddio yn M. D.-[Cyfaill. Y DDAMWAIN YN BRITISH COLUMBIA—O BWYS I BEBTHYNASAU JOHN JOHN JONES 0 LANRWST. NANAXMO, B. C., Gorph. 7.—Ar y 30ain o'r mis diweddaf, tarawyd y lie hwn i ddychryn a galar, gan y newydd fod tanchwa wedi cymeryd lie yn Wellington, sef gwaith glo tua chwe' milldir oddiyma, yn perthyn i R. Dunsmure a'i Gwm. Dygwyddodd y trych- ineb ychydig cyn saith o'r glooh yn y boreu, pan oedd y glowyr yn myned at eu gwaith, a chafodd 23 eu hyrddio o t'wrdd amser mewn eiliad. Yr oedd yn eu plith ddau Gymro, sef DANIEL EVANS a JOHN JONES. Daethai D. Evans i'r lie hwn tua phum mis yn ol o Colorado. Brodor ydoedd o Aber- tawe, lie mae iddo ddwy ferch yn bresenol yn amddifad o dad a mam, yn ol fel yr wyf wedi cael ar ddeall. Bu John Jones yn aros yn y lie hwn am tua naw mlynedd. Ymad- awodd o'r Hen Wlad tua 12 neu 13 mlynedd yn ol; brodor o Llanrwst, Sir Ddinbych. Yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Gymroaidd yn San Francisco, a chafodd ei gladdu yn barchus gan ei frodyr cymdeithasol ac eraill. Y mae ei gyfeillion wedi rhoddi yr ychydig arian oedd ganddo yn fy meddiant 1, nes y cawn glywed oddiwrth ei berthynasau. Carem i bapyrau Cymru godi yr hanes ar frys, gan nad wyf yn gwybod at bwy i ys- grifenu. -[Richard Watkins. T
[No title]
—Cafodd pobl Fall River, Mass., eu poeni yn ddirfawr y misoedd diweddaf gan dorwyr tai.
LLYTHYRAU BLAINE A LOGAN.
LLYTHYRAU BLAINE A LOGAN. En Dderbyniad o'r Penodiad Gwerinol am yr Arlywyddiaeth a'r Is-Arlywyddiaeth Dydd Sadwrn diweddaf y cyhoeddwyd llythyr Mr. BLAINE, yn derbyn penodiad y Gynadledd Werinol yn Chicago, yn ymgeis- ydd am yr Arlywyddiaeth; a chan ei fod yn ddigon maith i wneyd mwy na thudalen o'r DRYCH, ms gallwn yr wythnos hon hebgor gofod, ond i grynodeb byr o'r prif ffeithiau ynddo. Mae y grwgnachwyr Democrataidd yn ym- osod o herwydd ei hyd, yn benaf, yr hyn a brofa nad oes ganddynt lawer i'w ddweyd am ei gynwysiad. Mewn gwirionedd nis gall neb wrthbrofi y ffeithiau a osodir o flaen y wlad gan Mr. Blaine, canys y maent oil yn cael eu hategu gan ystadegau nas gellir eu dymchwelyd. Rhaid i ffeithiau sefyll, ond am y casgliadaua dynir oddiwrthynt, dibyna y rhai hyny i raddau ar dybiau a syniadau personol. Yr oedd yn anmhosibl rhoddi ad- olygiad ar ansawdd masnach a chyflwr cym- deithasol a gwladwriaethol y Talaethau Un- edig mewn lie bychan, felly y mae y cwyn fod llythyr Mr. Blaine yn faith, nid yn unig yn ddirym, ond yn blentynaidd a ffol i'r eithaf. Nid ydyw Mr. Blaine yn ymdroi dim gyda phethau dibwys, er denu sylw y bobl oddiwrth hanfod y pwne pwysig, sef Tariff, neu yr amddiffyniad a roddodd y blaid Wer- inol mor fuan ag y daeth i awdurdod, yn 1861, ar lafur, cyflogau a chyfalaf cartrefol. Llafur celfyddydol ac amaethyddol, sydd yn cynyrchu cyfoeth, elw a chynydd gwladwr- iaethol: gan fyned o dan wraidd hull adeil- adaeth llywodraethol a chymdeithasol. Hawlia felly amddiffyniad blaenaf y llyw- odraeth. Pan ddaeth y b'taid Werinol i allu yn 1861, yr oedd holl eiddo y Talaethau yn werth $14,000,000,000. Dyna swm holl enillion y bobl drwy lafur o'i dechreuad yn 1607 i fyny i 1860. Bu y Talaethau Unedig dan lywodraeth y blaid Werinol, yr hon a sefydl- odd y tariff, ac mewn ugain mlynedd, sef hyd 1880, cynyddodd eiddo y wlad o $14,- 000,000,000 i $44,000,000,000. Dyna brawf fod cynydd cyfoeth y bobl, dan ddeddf y tariff, yn dra chyilym, ac yn gytlymach na chynydd yr un genedl arall ar y ddaear, dan yr un amgylchiadau; canys cymerodd y cyn- ydd a nodwyd Ie, er fod miliwnau wedi eu gwastraffu i gario y rhyfel cartrefol yn mlaen.. Yr oedd cynydd y boblogaeth rhwng 1860 a 1880 yn 60 y cant; ond yr oedd cynydd cyfoeth y wlad yn y cyfnod hwnw yn 214 y cant. Ychwanegwyd $30,000,000,- 000 at gyfoeth y wlad mewn ugain o flyn- yddoedd, dan lywodraethiad y blaid Werin- ol. Mae ymresymiadau Mr. Blaine dros am- ddiffyniad i ddiwydrwydd Americanaidd drwy dariff, yn anatebadwy hollol; ac mae y ffeithiau a noda yn profi ei gasgliadau. Gyda golwg ar gysylltiad y Talaethau Un- edig a llywodraethau tramor, dywed Mr. Blaine nad oes ar y llywodraeth hon awydd mewn unrhyw fodd, i ymrafaelio gyda gwledydd tramor, nac ymyraeth a chweryl- on llywodraethau gwledydd eraill. Dywed nad oes arnom awydd dyfod mewn gwrth- darawiad ag unrhyw allu ar y ddaear, ac nid oes unrhyw allu arall yn awyddus am ymos- od ar y Talaethau Unedig. Mae ymadrodd- ion Mr. Blaine ar y pwnc hwn, yn llawn ddiarfogi y rhai a gymerant arnynt ei wrth- wynebu, o herwydd y perygl iddo ddwyn y wlad hon i wrthryfel gyda llywodraethau tramor. Cyfeiria Mr. Blaine mewn ymad- roddion tyner a chyfeillgar at y Talaethau Deheuol, a dangosa ddyddordeb mawr yn eu llwyddiant, a dadblygiad adnoddau cyfoeth- og yr adran hono o'n gwlad. Awgryma yr angenrheidrwydd o berffeithio y gwasanaeth gwladol drwy lanw y swyddi a dynion cym- wys i gyflawni y dyledswyddau. Cyfeiria at yr angenrheidrwydd o iawn drefnu yr ang- hydfod gyda'r Mormoniaid, amddiffyn y tir- oedd cyhoeddus i ymsefydlwyr gwirionedd- 01, a phenderfynu safon arian cylchredol, a'r cyfartalrwydd cywir rhwng gwerth aur ac arian; a diwedda drwy ddadgan fod sefydl- ogrwydd ein ffurflywodraeth, a'n sefydhad- au gwladwriaethol yn dibynu ar rwydd ddefnyddiad yr etholtraint, yn ol rhydd- ewyllys y pleidleiswyr, a chyfrifiad cywir a gonest yr holl bleidleisiau. LLYTHYR Y CADFRIDOGJOHN A. LOGAN. Ysgrifena yr ymgeisydd am yr Is-Arlyw- yddiaeth, lythyr rhagorol, llawn o sylwadau pwrpasol ar y tariff, ein cysylltiadau tramor, ein llynges, ymfudiaeth Chineaidd, amlwr- eiciaeth yn mhlith y Mormoniaid, a'r anghyf- iawnder a wneir yn y De adeg yr etholiadau. Mae y llythyr yn dangos fod Logan yn wladgarwr diragfarn, ac nid yn ddyn plaid; a sicr yw y bydd yn nerth i achos y blaid Werinol yn yr ymgyrch dyfodol.
GOCHELER Y COLERA.
GOCHELER Y COLERA. CENADWRI YR ARLYWYDD. Tra mae trefniadau heinbrawf y gwahanol borthladdoedd yn perthyn i'r amrywiol Dal- aethau, eto y mae y llywodraeth gyffredinol wedi rhoddi awdurdod i'r Arlywydd i'w defnyddio er atal lledaeniad heintiau bygyth- iol. Teimlwyf yn ddyledswydd arnaf i anog y personau yr ymddiriedwyd iddynt gan y Talaethau, roddiad mewn grym y rheolau perthynol i heinbrawf pob porthladd i fod yn dra gofalus a gwyliadwrus, mewn trefn i atal dyfodiad y pla i'n plith, yr hwn sydd wedi gwneyd ei ymddangosiad yn barod yn Ewrop, fel y mae yn ddrwg genyf ddweyd; ac hefyd mewn porthladdoedd y mae cym- undeb ami rhyngddynt a phorthladdoedd y Talaethau Unedig. Yr wyf yn cymell hefyd fod i ddinasoedd a phentrefi y wlad, ar yr afordir, a chyda llinellau y rheilffyrdd mewnol, gael eu cadw mewn cyflwr iachusol drwy lanweithdra, fel y gallant fod yn barod i wrthsefyll yr haint, ac i liniaru ei gerwinder, os daw i'n plith. Ac yr wyf yn anog Trafnoddwyr y Tal- aethau Unedig mewn porthladdoedd lie gwnaeth, neu lie y gwna, yr haint ei ym- ddangosiad, i fod yn dra gofalus i gario allan y rheolau a anfonwyd iddynt; ac i anfon at lywodraeth y Talaethau Unedig, bob gwy- bodaeth yn eu meddiant am ledaeniad y colera, a'r moddion a ddefnyddir tuag at wella ac atal rhwysg yr haint. Rhoddwyd dan fy Haw yn Washington, Gorphenaf 19, 1884. CHESTER A. ARTHUR. FREDERICK T. FRELXNGHUYSBN, Ysg.
Peterton, Osage Co., Kansas.
Peterton, Osage Co., Kansas. PETEBTON, KAs., Gorph. 18.—^Mae y Parch. W. J. Davies, (B.) yn bwriadu talu ymwel- iad a'r Talaethau Dwyreiniol; gobeithio y ca dderbyniad calonog, canys mae yn ddyn ieuanc o gymeriad rhagorol, yn weinidog da, ac yn llefarwr grymus. Ar yr 21ain o'r mis diweddaf, tra ar daith er mwyn ei iechyd, cafodd Henry Jones, 23 mlwydd oed, mab y diweddar Robert Jones o Ddinbych, sunstroke yn Des Moines, Iowa, a bu farw yn ddisymwth. Symudodd y teulu yma rai blynyddau yn ol o Bevier, Mo. Yr oedd yn fachgen tawel a chymeradwy gan bawb, a dangosir cydymdeimlad mawr a'r teulu yn eu galar.—[W. H. Jones.
[No title]
HUGHESTOWN, PA., Gorph. 10.-Maent yn f>rysu adeiladu ty newydd i Mr. Higgins, yn le yr hwn a losgwyd Mehefin 22ain. Caffael- iad mawr ydyw y 71 o lampau olew, a osod- wyd i oleuo rhwng Pittston, Hughestown, Frogtown a Sebastapol, y rhai a ddiffoddant o honynt eu hunain o ddau i dri o'r gloch yn y boreu. Telir i ddau ddyn am edrych ar eu hoi, yn ol 3 cent'y lamp, y dydd. Mae iechyd yr ardal yn lied dda, er cymaint o annuwioldeb a phechu sydd yma. Nos Iau, y 3ydd, cawsom y fraint o weled a chlywed y Parch. D. Jones, B. A., o Abertawe, yn pregethu yn ardderchog oddiar Math. 27:5. Rhoddodd ddarluniad helaeth o Judas, y bradwr, yn bradychu gwaed gwirion. Tru- eni iddo gael cynulleidfa mor fechan, ac yntau yn bregethwr mor enwog a galluog. Gobeithio y bydd ei eiriau o fudd ac adeil- adaeth.-[Rhydwen.
ADOLYGIAD Y WASG.I
ADOLYGIAD Y WASG. LLTTBAU AC AWDURON. Y MAE yr ail gyfrol o'r Gqfadail Fethodist- aidd allan o'r wasg, dan olygiaeth y Parch. D. Williams, Conwy, yn cynwys saith a deu- gain o bregethau, a draddodwyd dros 60 mlynedd yn ol, mewn Cymanfaoedd, &c., gan brif weinidogion ymadawedig y Metho- distiaid-Ebenezer Morris, John Evans (Llwynffortun), Michael Roberts, &c., y rhai a gymerwyd i lawr ar y pryd mewn llaw fer, a'r un o honynt wedi bod yn argraffedig o'r blaen. Pris $1.50. "CELTICISM A MYTH" yw enw cyfrol fechan gan J. C. Roger (bargyfreithiwr a Chymrawd o Gymdeithas Hynafiaethol Scotland), yn yr hon y gwedir y gwareiddiad Celtaidd, ac y gwrthodir yn gwbl ddamcaniaethau yr hyn- afiaethydd c yn-hanesiol. "GWYN EU BYD Y MEiRw" sydd anthem angladdol newydd gan J. W. Parson Price, i'r hon y rhydd Emlyn Evans a cherddorion galluog eraill ganmoliaeth uchel. Cyfan- soddwyd hi gan yr awdwr er cof am ei ewythr, David Price, yr hwn fu yn flaenor y gan yn Troedrhiwdalar a Beulah. Y mae eisoes wedi enill poblogrwydd yn Nghymru; a diau y ca dderbyniad calonog yn y wlad hon. Nid yw ei phris ond 10 cents. RHIFYN tra dyddorol ydyw yr un am Awst o Harper's Magazine, yn cynwys yr ysgrifau canlynol yn mhlith eraill: "The Gateway of Boston;" "Salt Lake City," gyda 15 o ddar- uniau gan Ernest Ingersoll; "Richfi'-kl Springs," gan F. J. Nott, M. D.; "Antek.pe Hunting in Montana," gyda darluniau gan Beard a Frost; "The great hall of William Rufus," gan Walden; "The building muscle, gan Julian Hawthorne, &G. Yn ei "Easy Chair" y mae gan Mr. Curtis sylwadau ar y Cynadleddau Cenedlaethol a College Com- mencements, heblaw amrywiaethau dydd- orol. CYNWYS A y rhifyn am y chwarter presenol o'r Geninen flasusfwyd o'r fath a gar pob dar- llenydd deallus. Yn mhlith erthyglau eraill ymddengys dwy ar yr enwadau crefyddol- "Paham yr wyf yn Annibynwr?" a "Paham yr wyf yn Drefnydd Wesleyaidd?" wedi eu hysgrifenu gan y Parch. W. Nicholson, Liverpool, a'r Parch. Hugh Jones o'r un dref. Hefyd ceir cynyrchion o eiddo lolo Caernarfon, Berw, Cynfaen, Gweirydd ap Rhys, Vulcan, Parch. W. Ryle Davies, Eos Llechyd, Isaled, Parch. D. Davies, B. A., Alavon, Emrys ap Iwan, &c. CYNWYSA y North American Review am Awst, erthygl gan y Barnydd James V. Campbell, ar "Drais Cyfalaf," yr hon a deil- ynga sylw difrifol pob darllenydd. Ym- drinia Richard A. Proctor a "Tharddiad Comedau," a gesyd y pwnc dyrus mewn goleuni mor glir fel y gall personau na fedd- ant ond ychydig neu ddim gwybodaeth ser- yddol ddylyn ei ymresymiad. "A ydym yn genedl o ddyhirod?" yw peniad erthygl gan John F. Hume, yr hwn a ddengys fod tal- aethau, siroedd, a threfi yn y Talaethau Un- edig, eisoes wedi ymwrthod yn ffurnol, neu esgeuluso talu llog ar rwymebau a hawliau eraill cyfartal i holl swm y ddyled genedl- aethol. Cenfydd y Barnydd Edward C. Loring, "Duedd at Ganolbarthiad" (Central- ization), yn nyfarniad diweddar Uchaflys y Talaethau Unedig ar allu y Llywodraeth gyffredinol i roddi allan arian papyr, ac yn marn lleiafrif yr un llys yn y cyngaws am feddianau Arlington. Ysgrifena Julian Haw- thorne am "Yr Elfen Americanaidd mewn Ffugchwedlau," a diweddir gyda dadleu- aeth ar "Waharddiad a Darbwylliad" (Per- suasion) rhwng Neal Dow a Dr. Dio Lewis. DEBBYNIED R. Hoe & Co., New York, gwneuthurwyr y Printing Presses enwog, ein diolchgarweh am yr anrheg a anfonqsant i ni, o ddarluniau rhai o brif newyddiad ur- wyr Llundain—JOHN WALTER o'r Times, H. LABOUCHEBE o'r Truth, EDMUND YATES o'r World, W. H. MUDFORD o'r Standard, J. R. ROBINSON o'r Daily News, J. L. LATEY o'r Illustrated News, F. C. Barnard o'r Punch, FREDERICK GREENWOOD o'r St. James Gazette, W. L. THOMAS o'r Graphic, G. A. SALA o'r Daily Telegraph, ac EDWARD LLOYD o'r Chroni- cle. Gwneuthurwyr y darluniau ydynt Root & Tinker, Tribune Building, New York. "Y LLUNDEINIWR: Newyddiadur Wyth- nosol at Wasanaeth Crefydd, Cerddoriaeth a Llenyddiaeth." 2 Burnaby Street, King's- road, London, S. W. Pris Dwy Geiniog. Derbyniasom yr ail rifyn o'r newyddiadur uchod, yr hwn, fel yr ymddengys, sydd wedi ei fwriadu yn fwyaf neillduol at wasanaeth "miloedd" Cymry Llundain. Papyr bychan ydyw, yn cynwys tua'r bedwaredd ran o'r darlleniad sydd yn y DRYCH; ac o'i gydmaru a'r gwaelaf o fan bapyrau Cymru, nis gellir dweyd fod ynddo unrhyw ragoriaeth llen- yddol. Y mae yn ddirgelweh i ni beth all- asai fod yr amcan mewn golwg i ddwyn all- an bapyr o'r fath, tra y gall Cymry Llun- dain gael papyrau llawer rhagorach o Gym- ru am haner y pris—a'r rhai hyny yn cyn- wys mwy, hyd yn nod o newyddion Llundein- ig, nag a gynwysa y rhifyn presenol, beth bynag. Rhyfedd byth yr ysfa sydd mewn llenorion am fod yn olygwyr, pan na fydd ganddynt y diwylliant angenrheidiol i wneyd golygwyr llwyddianus! I'n tyb ni, nid yw llawer o'r papyrau bychain a gy- hoeddir yn Nghymru yn adlewyrchu anrhyd- edd o gwbl ar lenyddiaeth Gymreig; mwy buddiol fyddai i'r genedl gefnogi yn fwy calonog v prif bapyrau- Baner ac Amserau Cymru, yr Herald, y Genedl, Gwalia, ac ych- ydig eraill a ellid enwi. Pa fodd bynag, gan fod Y Llundeiniwr wedi ei gychwyn, hyder- wn na cha neb losgi eu bysedd gydag ef (yn fasnachol); a charem ei weled yn enill tir anrhydeddus ar faes llenyddiaeth newydd- iadurol. CYLCHGRONAU CYMRU AM GORPHENAF. CERDDOR Y CYMRY Mae y rhifyn hwn yn gorphen y gyfrol gynt af o'r cylchgrawn, a dylem longyfarch Alaw Ddu a'r cyhoeddwyr (D. Williams a'i Fab, Llanelli) ar lwyddiant yr anturiaeth mewn ystyr lenyddol a cherdd- orol; hyderwn hefyd fod y eyhoeddiud f, ) talu mewn ystyr fasnachol. Dylai gad cylchrediad helaeth yn Nghymru ac America, oblegid efe yw y cylchgrawn cerddorol goreu a gynygiwyd i'r Cymry er marwolaeth "Y Cerddor Cymreig." Y mae T. Price, A. C., yn dechreu cyfres o ysgrifau ar "Chwaeth; ac a Pedr Alaw yn mlaen efo'i Haner Awr Gyda Rhai o Brif Gerddorion Ewrop," gan sylwi mewn modd dyddorol ar neillduolion Lydwig Spohr. Cawn ysgrifau da eraill gan Eos Cynlais ar "Y Diweddar Dr. Hull ah;" gan Alaw Trefor, sef "Ystori y Moonlight Sonata;" gan Eos Llechyd—" Rhestr o Lyf- rau Cerddoriaeth gan Gymry," heblaw beirniadaethau, adolygiadau, hawl ac ateb, gwersi i gyfansoddwyr, &c. Cyflwynir i ni hefyd bedair tu dalen o gerddoriaeth, sef can bedair rhan—"Y Bywydfad"—y gerdd- oriaeth (y ddau nodiant ar yr un copi) gan D. Wylor Owen, a'r geiriau gan Emrys— Trowch allan y bad, herlwch yr alg, Mae llong yn prysuro 1 ddanedd y graig, &c. "THE RED DRAGON" Y mae ymddangos- iad allanol y misolyn hwn wedi newid yn hollol; canys yn lie yr ami en felen a'r dar- lun mawr, hagr a amcenid i gynryckioli y Ddraig Goch, cawn amlen o liw llwyd dym- unol, gyda darlun bychan mewn lliw coch, o'r "Ddraig," o'r un arddull ag a welir ar wyneb-ddalen y DRYCH. Chwanegir hefyd at y cynwysiad, adran newydd, fuddiol— "Notes and Queries," yn ymdrin a materion perthynol i Gymru a'r Siro dd, ar y terlyn. Yn mhlith yr ysgrifenwyr i'r adran hon, y mae P. A. Griffiths, Oshkosh. Ar ddecnreu y rhifyn, cawn ddarlun tarawiadol o Sir Richard Trevor, gydag erthygl o hanes yr hen deulu urddasol, gan Gwenynen Gwent. Yna dylyna yr ysgrifau canlynol: The Present Condition of the Welsh Nation," gan D. C. Davies, F. G. S.; The Monuments of Avebury and Stonehenge;" A Spanish bull fLht," gan C. Russel James; "Horace and his translation," gan Frederick Cooper, &o. Ceir y mis hwn fwy nag arfer o farddon- iaath wreiddiol, megys "Chinese Ballad," gan Henry Phillips, M. A., Ph. D., Phila- delphia; "The richest price," gan Zadkiel; "St. Bride's Day," gan Owain Teg o Ryd- ychain, &c. Ac y mae "Literary and Art Notes" y golygydd hefyd yn fwy amrywiol. Y FRYTHONES: Ar y dechreu ceir dau ben- ill o waith y diweddar Islwyn, wedi eu cyfleu yn nghanol darlun lied darawiadol. Y mae darlun neu ddau arall yn prydferthu y rhif- yn. Gellir dweyd fod y rhifyn, a'i gymeryd drwyddo, yn un lied dda, er fod yr olygydd- es (Cranogwen), yn rhy wael ei hiechyd i'w olygu. Y prif ysgrifau ydynt: "Pa fodd i ddyrchafu moesau," a "Manteision Llwyr- ymwrthodiad er dadblygiad y meddwl." Dyfynwn un gan fechan bur brydferth: Fy Nghymru anwylaf o wledydd y byd, Tydi yw'r brydferthaf y decaf 1 gyd; Mae clywed dy enw, a gweled dy wedd, Yn llanw fy nghalon o hedd. Hedd, hedd, cyflawn yw dy hedd, A thra bo'r lloer yn hudo'r 111*, Ymchwydded dy lwyddiant a'th fri. Dywedlr gan lawer dy fod yn dylawd, Bifwynlr dy enw a chabledd a gwawd; Ond nid yw hyny wahaniaeth i mi, Fy Nghymru, fy nghartref wyt ti. Hedd, hedd, &c. Os tefiir i'th wyneb ddanodiaeth a sen, Fy Nghymru, nac ofna ddyrchafu dy ben; Mae'th feibion a'th ferched yn sefyll yn llu Ardderchog a gwrol o'th du. Hedd, hedd, &c. Mae'th fryniau, fy Nghymru, mor nefol eu gwedd, Yn trigo i fyny mewn awyr o hedd; Dy a-el mor dyner, dy wybren mor glir, Ac O cysegredig yw'th dir. Hedd, hedd, &c. Fy Nghymru fynyddig, er garwed dy wedd. Mi fynwn fyw ynot, ac ynot gael bedd Yn fyw ac yn farw, O rhodder i mi Yu artre. dy fonwes hoff di. Hedd, hedd, &c., Y CYLCHGRAWN: Rhifyn tra chwaethus. "Pregeth," wrth gwrs, yn ol yr arfer gyff- redin gyda'n cylchgronau misol, yw yr erth- ygl gyntaf, ar "Adgyfodiad y Meirw," gan y Parch. D. Hughes, Llanelli. Nid oeddym yn dysgwyl dim newydd ar y testyn, felly ni siomwyd ni. Rhydd y Parch. John Owen, Pontrhydfendigaid, rai o nodweddion y di- weddar Barch. D. Morgans, y diwygiwr gynt, o Ysbyty Ystwyth, gan ddangos ei fod yn ddyn a deimlodd bethau mawrion ar ei feddwl, ac a wnaeth bethau mawrion. "Er- byn fod Cymru yn addfed i Ddiwygiad 1859," medd yr awdwr, "yr oedd prif offeryn y diwygiad at alwad,yn llechu mewn pentref bychan digon dinod, rhwng bryniau a myn- yddoedd Gogledd Aberteifi. Yn niwedd y flwyddyn 1858, fe ddaeth i gyffyrddiad a'r Parch. Humphrey Jones, gweinidog perth- ynol i'r Wesleyaid, yr hwn oedd newydd ddyfod drosodd o America yn llawn o dan y diwygiad. Yr oedd y tan yn gyfranogadwy. Yr oedd y dwymyn yn contagious. Disgyn- odd dau parth o ysbryd y naill ar y llall. Bedyddiwyd Mr. Morgans a'r Ysbryd Glan ac a than. Yr oedd y bedydd yn gysegriad arno. Bedyddiwyd ef i waith mawr y di- wygiad. Yn ei fedydd derbyniodd agoriad- au teyrnas nefoedd. Cafodd allu i orchfygu gyda Duw. Dyn mawr mewn >^weddi ydoedd trwy ystod y diwygiad. Y mae ei enw yn cael ei newid bellach. Adnabyddir ef mwy- a h dan yr enw David Morgans y Diwygiwr. Am dymor efe oedd y dyn mwyaf poblog- aidd yn Nghymru. Bu yn offeryn i ddeffro canoedd o broffeswyr crefydd yn yr eglwys, ac achub miloedd o'r byd. Y mae wedi cof- nodi yn ei ddydd-lyfr y prif ffeithiau gymer- odd le yn nglyn ag ef yn y flwyddyn 1859. Pregethodd 566 o weitbiau, a derbyniodd ar brawf i'r gwahanol eglwysi 3,014, ac yn ael- odau cyflawn 251." Heblaw amrywiaeth o newyddion Cyfun- debol a Lloffion tra difyrus, cawn "Hanes Cyfiawnhad," gan y diweddar Barch. T. Rees, Ffynon Taf; "Y Parch. W. Havard," gan John Davies, Pundy; "Egwyddorion Ymneillduaeth;" "Rbyfeddodau Norway," gan T. Lloyd Jones, F. R. G. S., Talysarn, ac eraill llai pwysig. v
0 SIR SCHUYLKILL, PA.I
0 SIR SCHUYLKILL, PA. Brwdfrydedd dros Blaine a Logan-Ymgeis- wyr Cymreig. ST. CLAIR, PA., Gorphenaf H.-Gallaf ddweyd fod mwyafrif mawr o Werin- wyr y swydd hon yn bleidwyr gwresog i Blaine a Logan. Gwyddom hefyd am am- ryw o Ddemocratiaid deallgar sydd yn sicr o bleidleisio drostynt. Yr oedd yn amser brwd iawn yma cyn y penodiad. Yr oedd y si ar led fod ein cenadau i'r gynadledd yn Chicago yn wrthwynebol i Blaine, a'r can- lyniad fu i gyfarfodydd gael eu cynal drwy y swydd, a chyfarwyddwyd y cenadau i bleidleisio dros Blaine bob tro. Daeth y gynadledd, ac ni phleidleisiodd ond un o honynt dros Blaine, a hyny ar y pedwerydd tro, pan oedd penodiad Blaine uwchlaw amheuaeth. Y cenadau oeddynt Mri. Pars- more, Pottsville, a Sollenberger, Mahanoy. Nid oes eisieu dweyd nad ydynt yn dawel iawn yn awr. Cafodd un o'u prif gyfeillion, sef Mr. Sam. Losh, o Schuylkill Haven, ei benodi yn Ysgrifenydd Tiriogaeth New Mexico yr wythnos ddiweddaf. Llunier i gall haner gair." Digrif oedd gwrando ar ein swydd-geiswyr gwleidyddol yn y lie hwn cyn y gynadledd. Dywedent y carent weled Blaine yn cael y penodiad, ac ysgydwent eu penau yn arwyddocaol, a dywedent y gwydd- ent na chai y penodiad o gwbl-mai Arthur fuasai y dyn, &c. Dywedai pleidwyr gwres- og Blaine, o'r ochr arall, nad oedd amheu- aeth nad Blaine oedd dewis-ddyn y bobl, ac yn y diwedd mai Trech gwlad nag ar- glwydd." Os darfu i'r bosses gwleidyddol lwyddo yn 1876 ac 1880 i atal y teimlad cen- edlaethol, fod yr amser wedi dyfod pryd na feiddient ei atal yn bwy. Blaine yw diffyn- dollwr mawr v blaid Werinol, a dylai pob gweithiwr ddarllen banlawr y blaid yn ys- tyriol, ac nid oes berygl na phleidleisia dros Blaine a Logan. Credwn fod Oregon, yn y Gogledd-Orllewin pell, wedi taro y cyweir- nod iawn, a bydd Maine yn sicr o chwyddo y gerddoriaeth yn mis Medi, a chryfheir y cor- awd gan Ohio, Indiana, a West Virginia yn Hydref, ac ymuna yr holl Dalaethau amheuol yn y llanw cerddorol yn Tachwedd, pryd-yr etholir Blaine a Logan gyda mwyafrif mawr. Argoela gwleidiadaeth leol tod yn frwd iawn yn y sir hon. Mae lluaws o ymgeiswyr ar y maes am y penodiadau yn barod. Mae dau Werinwr o'r dref hon yn ymgais am swyddi pwysig, sef Mr. Martin Dormer, am gyfarwyddwr y tlodion, a'n cydwladwr, Mr. Thomas D. Griffiths am ddirprwywr y swydd. Gan fod y swyddi hyn ag arian yn nglyn a hwy, bydd yr ymdrech am y penod- iad yn ddychrynllyd. Mae y cyntaf, sef Mr. Dormer, yn Werinwr trwyadl, yn ddyn bon- eddigaidd a phoblogaidd aaghyffredin. Os llwydda i gael y penodiad, bydd yn sicr o etholiad, gan y bydd y Gwyddelod Democ- rataidd yn sior o bleidleisio drosto. Mae gan Gymry y dref hon olwg fawr arno, a gwngnt eu goreu drosto i gael y penodiad. Yr oedd yn ymgeisydd y Uynedd, ond gorchfygwyd ef am y penodiad gan ryw Ellmyn. Credwn y bydd yn sicr o hono eleni. Swydd Ddemocrataidd yw hon, a rhaid i'r ymgeis- ydd Gwerinol, pwy bynag fyddo, gael pleid- leisiau oddiwrth y blaid arall. Gweithia y Proff. T. D. Griffiths yn egniol am y penod- iad, ac y mae ganddo lawer o gyfeillion. Ofnwn y bydd anhawsder i ddau Werinwr o'r un dref gael y penodiad am ddwy o'r swyddi goreu. Mae Griffiths, fel masnach- ydd, yn adnabyddus iawn yn Pottsville, ac y mae Pottsville, i raddau pell i Werinwyr y swydd, y peth yw Philadelphia i Werinwyr y Dalaeth. Credwn os llwydda i gael y pen- odiad, yr etholir ef. Nid yw yr aden Ell- mynaidd a'r aden Wyddelig o'r blaid Ddem- ocrataidd ar y telerau goreu, ac os ca Ell- myn neu Wyddel y penodiad yn erbyn Mr. Griffiths, bydd yn sicr o gasglu nerth oddi- wrth y naill neu y llall. Credwn y bydd i'r Anrh. C. N. Brumm gael y trydydd penodiad i'r Gydgyngorfa, gan ei fod wedi gwneyd yn dda yn y ddau dymor diweddaf, ac efe yw braidd yr unig Werinwr all lwyddo i gael ei ethol.—[Dewi Cwmtwrch.
NODION SIR ONEIDA, N. Y.
NODION SIR ONEIDA, N. Y. UTICA, N. Y., Gorph. 22.-Cyrhaeddodd y City of Chester yn ddiogel i Liverpool, boreu dydd Llun, gyda T. Solomon Griffiths a'i briod ar ei bwrdd. Yr oedd y bechgyn Cym- reig eraill o Utica wedi cyraedd yn yr Au- rania, rai dyddiau yn flaenorol. -Y Parch. Edward Davies, Remsen, oedd yn pregethu y Sabboth diweddaf yn y Ply- mouth Church (Eglwys Seisnig y Cynulleid- fawyr). —Yn ei bregeth nos Sul, condemniai y Parch. W. R. Griffith (W.) ffenestri lliwied- ig, tablets, ac addurniadau cyffelyb mewn capeli (gan gyfeirio, efallai, at addoldai Moriah a Bethesda)-fel pethau Pabyddol, yn tueddu i ddyeithrio meddyliau y gwran- dawyr oddiwrth y gwasanaeth Dwyfol. -Daeth Arddangosfa Barnum i'n dinas yr wythnos ddiweddaf gyda phomp; ac yn mhlith y canoedd a ymwelsant a hi yr oedd un gweinidog Cymreig, os nad rhagor. Yr ydym yn cofio amser pan fuasai aelod eg- lwysig yn cael ei ddiarddel yn ddiseremoni am fyned i circus ond nid yw y byd yn aros yn ei unfan. -Cofier am Bicnic y Gymdeithas Elucen- gar yn Richfield Springs, ddydd Mercher, y 30ain. Gwelir hysbysiad mewn colofn arall am amser y tren, &c. -Y mae Joseph M. Watkins a W. W. Roberts wedi myned i bartneriaeth fel car- penters. Hwy sydd yn adeiladu ty i'r gwein- idog a thy i'r sexton wrth gapel Moriah. MARWOLAETH OFIDus.-Tua haner awr wedi wyth o'r gloch nos Sadwrn, derbyniodd John H. Owen, New Hartford, gic gan ei geffyl, a bu farw tua naw o'r gloch, o'r eff- eithiau. Mor fuan ag yr hysbyswyd Mrs. Owen o'r ddamwain, rhedodd at ei phriod a gofynodd yn mha le y niweidiwyd ef. Yr unig atebiad a allodd roddi oedd, "Fy nghalon." Yr oedd Mr. Owen yn adnabydd- us iawn yn Utica, lie yr arferai weithio fel teiliwr hyd rhyw bymtheg mlynedd yn ol. Ganwyd ef yn Nghymru yn 1822, felly yr oedd yn 62 mlwydd oed. Daethai i'r wlad hon yn ieuanc, a bu yn briod dair gwaith. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Utica. AMRYWION 0 WATERVILLE, N. Y. WATERVILLE, Gorph. 17.-Wrth glywed oraclau yr hopye yn siarad y dyddiau hyn, cesglir na ddysgwylir y bydd y enwd hopys mor doreithiog a'r llynedd. Y mae y vine mewn llawer o feusydd ar ol dringo i haner hyd y pawl, yn ei adael, gan ymsaethu allan yn benysgafn-effaith y rhew diweddar fel y tybir; ond amser a ddengys. Gwlad y guess so yw hon anyhow! Bu yr hen frawd Robert R. Jones, y saer maen, yn beryglus a phoenus glaf y dyddiau diweddaf, ond deallwn ei fod yn hybu ych- ydig. Darfu i'r hen foneddiges Mrs. Jones, gweddw y diweddar wyneb-siriol J. R Jones, White St., fod mor anffodus a chymeryd dracht o amonia mewn camgymeriad am gyffyr rhag y pesweh, gan fod y ddwy gostrel yn debyg i'w gilydd. Bu mewn perygl a phoenau dirfawr y dyddiau diweddaf; ond trwy fedrusrwydd a gofal Dr. Jones, hyderir yr adferir yr hen Gymraes oleuedig hon-un o blant "Mon mam Cymru." Cyehwynodd Proff. Wright, prif-athraw yr academy yma, am drip i'r Hen Wlad, gan fwriadu stopio yn Queenstown, a myned i weled llynoedd a golygfeydd swynol gwlad y tatws i ddechreu, ac efallai ranau o Gymru a Llanrwst. Y mae Gomer B. Jones, wedi cychwyn am daith o fis o amser, dros C. Buell a'i Fab. Deallwn fod Rees PenryPugh,o'r llelhwn, wedi cael ei apwyntio yn ysgrifenydd cyn- orthwyol yny State Asylum, Utica, ddechreu y mis hwn. Yr oedd yn ofidus gan lawer yma ddeall am farwolaeth gynarol y Parch. J. D. Jones, (Eryr Meirion). Yr oedd y wraig yma yn adgofio am yr amser pan yr oeddynt yn blant ieuanc yn y Bala, yn myned i'r capel newydd, fel y gelwid capel Sentars y Bala y pryd hwnw. Yn hanes yr Eryr cafwyd eng- raifft ychwanegol^o lwyddiant penderfyniad, ac athrylith yn maeddu gwrthwynebiadau. Tebygol i lawer talent gael eu mygu yn Ngwalia flynyddau yn ol, gan y byddai ein hen dadau gonest, weithiau yn rhy ymarhous i ganfod ac i roddi cefnogaeth i fechgyn ieu- anc addawol a rhywbethyn odynddynt,rhag ofn eu bod yn ystwffio eu hunain i'r weinid- ogaeth a chyhoeddusrwydd, o herwydd diogi neu rywbeth yn lie gweithio a'u dwylaw. Ond y mae y rhod wedi troi yn Nghymru erbyn hyn. Bu y cymdeithasau llenyddol yn foddion i godi ugeiniau hyd ysgol enwog- rwydd a llwyddiant. Yn yr oes hon, pan y mae cyfryngau addysg yn nghyrhaedd plant y crydd a'r clocsiwr yn ogystal a phlant yr amaethwr cefnog, a'r siopwr parchus, gw-lir y gall y rhai blaenaf gystadlu a'r rhai olaf; ac os nad eu llorio i sefyll cyfuwch a hwy mewn unrhyw gangen o wybodaeth. Y mae llu o blant y Bala heblaw y diweddar Eryr yn profi geiriau v diweddar fardd "Emrys," yn ei farwnad ar ol loan Tegid: "Athen Cymru ydyw'r Bala, Magodd rai o'i phlant enwoca." ABEDNEGO.
Gwilym Gwent wedi Colli Tri…
Gwilym Gwent wedi Colli Tri Bys. PLYMOUTH, PA., Gorph. 14.—Dydd Merch- er, y 18fed o'r mis diweddaf, tra yn dych- welyd adref o Wilkesbarre, yn y street car, gan fod y car mor llawn, meddyliodd Gwil- ym Gwent y buasai yn well iddo gerdded o Kingston, felly fe roddodd gam allan tra yr oedd y car yn symud.- Y canlyniad fu iddo ddisgyn ar gareg fechan gron, yr hon a'i taflodd ar ei gefn, fel yr aeth ei law aswy ar y reil, nes pasio o'r olwyn dros y tri bys olaf, gan eu malurio mor ddrwg fel y bu raid eu tori ymaith. Y mae Gwilym wedi dyoddef lawer o boen yn ddiameu, ond y mae wedi dyoddef yn hollol ddi-rwgnach; ae erbyn hyn, fel pob babi diddig, mai ei fabi yntau yn dod yn mlaen yn dda-mor dda fel y mae yr hen bererin yn dechreu ysgrifenu cerdd- oriaeth eto. Bygythia y cantorion wneyd rhyw sylw neillduol o'r ddamwain, a dangos y tan sydd yn cynesu eu mynwesau at Gwil- ym er's blynyddau bellach. Rhwydd hynt iddynt i'w gyneu yn ffiam goelcerthol, nes y byddo eraill yn teimlo y gwres.—[Hen Gan- wr Neillduedig. .tna
0 Ddinas New York.
0 Ddinas New York. NEW YORK, Gorph. 17.-Daeth i'r ddinas hon, y dydd o'r blaen, gyda'r agerlong Am- erica, ddeuddeg o wyr ieuainc, meibion i rai o brif foneddwyr Lloegr, y rhai oeddynt yn dechreu taith o amgylch y byd. Yn eu plith yr oedd tri o Gymry, y rhai sydd yn earn eu gwlad, eu hiaith a'u cenedl, er derbyn gwar- ogaeth ac anrhydedd oddiar law y Saeson, trwy gysylltiad a'u rhieni. Eu henwau yd- ynt: John Herbert Lewis, mab Enoch Lew- is, Mostyn Quay; Henry Rees Davies, ail fab Mr. R. Davies, A. S., a J. Herbert Roberts, mab John Roberts, A. S. Graddiodd y ddau ddiweddaf yn Nghaergrawnt, a'r cyntaf yn Rhydychain; ac y maent yn debyg o "wneyd eu marc" yn y byd. Bwriadant deithio am ddeuddeng mis, gan ymweled a'r prif wied- ydd gwareiddiedig. Bu merch Miss Laura A Jones a Mr. G. H. Humphrey, farw o'r brainfever;a chladd- wyd hi yn barchus yn Greenwood ar y 10fed cyfisol. —Johnny. 411.
[No title]
—Derbyniwyd hysbysiad yn Washington yr wythnos ddiweddaf, fod cadachau i wneyd papyr yn cael eu hanfon o Ffrainc, lie mae y colera yn heintus, i'r Talaethau Unedig, drwy borthladdoedd Canada. Rhoddir archwiliad manwl a buan ar y pwnc hwn.
!NEWYDDION TRAMOR. !———
NEWYDDION TRAMOR. ——— [GYDA'R PELLEBYR TANWERYDDOL. ] PRYDAIN FAWR. Y Mesur Diw'yg^adol—Y Gwrthdarawiad rhwng dau Dy y Parliament—Yr lioll wlad wedi ei chyffroi, &c. LLUNDAIN, Gorph. 22.—Yr wythnos ddi- weddaf gwrthododd Ty yr Arglwyddi drwy fwyafrif o 50 ymgyfamodi gyda Thy y Cyff- redin, mewn trefn i ddyfod i ddealldwriaeth ar y mesur i eangu yr etholfraint. Cynyg- iodd Arglwydd Wemyss fod Ty yr Arglwyddi i basio y mesur diwygiadol yn awr, ar yr amod fod y llywodraeth i ddyfod a mesur i mewn yn yr eisteddiad nesaf i ranu y sedd- oedd yn gyfartal rhwng y bobl. Derbyn- iodd Arglwydd Granville y cynygiad ar ran y llywodraeth; ond pan ddaeth y pwnc i bieidlais yr oedd haner cant o'r Arglwyddi yn ei erbyn. Rhoddodd hyn derfyn ar y drafodaeth rhwng y ddau Dy. Gwnaed darpariadau mawrion i gael cyf- fod cyhoeddus yn Hyde Park, i wrthdystio yn erbyn ymddygiad Ty yr Arglwyddi. Mae yn ymddangos fod y wlad yn cynhyrfu drwyddi oil, o herwydd i Dy yr Arglwyddi wrthod eu hawliau cyfreithlon i'r bobl; ac mewn gwirionedd awgrymir fod adran ben- defigaidd y Parliament mewn perygl; canys clywir banllefau yn ami yn codi oudiwrth y bobl yn y geiriau hyn: "Ymaith a Thy yr Arglwyddi." Mae y Toriaid yn haeru fod y Frenines yn eu cefnogi eu hymddygiad, ac y bydd iddi barhau i wneyd hyny hyd nes yr apelir at y wlad mewn etholiad eyffredinol Dywedir fod yr Anrh. John Bright yn ffurfio mesur i ail gorffori Ty yr Arglwyddi, ar egwyddorion tra gwahanol i gyfansodd- iad presenol Ty y Pendefigion. Mae y Toris yn dra phrysur gyda'r gwaith o alw cyfarfodydd cyhoeddus drwy y wlad i gef- nogi eu hachcs hwythau. Cynaliwyd odd- eutu ugain o gyfarfodydd politicaidd y Sab- ..Y both diweddaf. Y CYFARFOD YN HYDE PARK.—Yr oedd yr orymdaith ddydd Llun yn Ilwyddlant mawr —canoedd o filoedd yn bresenol o bob rhan o'r wlad; a'r brwdfrydedd mwyaf yn gan- fyddadwy yn mhob man. Pan gyrhaedd- wyd Hyde Park, traddodwyd anerchiadau, a phasiwyd penderfyniadau yn erbyn gwaith Ty yr Arglwyddi yn gwrthod pasio mesur Helaethiad yr Etholfraint, ac yn cymerad- wyo Gladstone.
HELYNTION YR AJFFT.
HELYNTION YR AJFFT. Derbyniwyd newyddion diweddar o'r Aifft, yn hysbysu fod y Cad. Gordon yn ddiogel yn Khartoum ar yr 22ain o'r mis diweddaf. Cyfarfu y gynadledd ar achos yr Aifft droi- on; eithr nid ydynt eto wedi dyfod i un- rhyw gytundeb diweddol ar y materion. Anfonwyd defnyddiau i'r Aifft i wneyd rheilffyrdd i drosglwyddo milwyr o'r naill fan i'r llall, yr hyn sydd yn arwain i'r cas- gliad nad oes gobaith y gelwir y milwyr Seisnig yn ol oddiyno yn foan. Mae y cer- bydau ar y rheilffyrdd yn haiarn gydag ag- oriadau yn yr ochrau fel y gall y milwyr saethu at elynion allan o honynt. Rhodd- odd y Swyddfa Rhyfel wahoddiad allan yn cymell personau i ymrestru yn wirfoddol, i wasanaethu yn yr Aifft yn yr hydref a'r gauaf dyfodol. Yn ol y newyddion diweddaraf yr oedd gan y Cad. Gordon 8,000 o wyr arfog; ond eto yr oedd yn erfyn am adgvfnerthion, o herwydd lluosogrwydd ei elymon. Yr oedd yr awdurdodau yn Cairo yn credu y Sabboth diweddaf mai twyll oedd yr hys- bysiad a dderbyniwyd am ddiogelwch y Cad. Gordon, er mwyn dallu y cyhoedd, ac ofnid ei fod yn meddaint y Mahdi, a Khar- toum hefyd.
COLERA YN FFRAINC.
COLERA YN FFRAINC. Mae yn ymddangos fod yr haint dychryn- llyd oedd yn gwneyd hafoc yn neheubarth Ffrainc, wedi neidio ar unwaith i gyffiniau Paris, ac nid yno yn unig, ond mor bell i'r gogledd a'r afon Mersey, heb fod yn mhell o Liverpool! Mae yn ymddangos nad oes amheuaeth ar y pwne o ddyfodiad y colera o fewn 15 milltir i Paris; a bu dau farw yn yr agerlong St. Dunstan, ar yr afon Mersey, yn fuan ar ol dyfod yno o For y Canoldir, heibio Marseilles, Ffrainc. Cyhoeddodd yr awdurdodau meddygol yn Liverpool fod holl ddwylaw yr agerlong yn dyoddef oddi- wrth y colera Asiaidd. Anfonwyd hwy i'r heinbrawf. Rhoddodd y colera derfyn ar y teithio i'r cyfandir: ac mae y Trafnoddwyr Americanaidd wedi gorchymyn fod i bob llong cyn hwylio am y Talaetdau Unedig gael ei harchwilio a'i phuro gyda sylweddau fferylaidd, er atal lledaeniad heintiau o un- rhyw fath. Achoswyd dychryn eyffredinol gan y new- ydd o ymddangosiad y colera yn agos i Liverpool; a gorchymynwyd i'r bobl yn mhob dinas drwy y deyrnas edrych ar ol glanweithdra yr heolydd, y earth ffosydd a'r geudai. Mae yr afon Thames yn Ilawn o fudreddi, ac ofnir y canlyniadau. DIWEDDARACH.—Mae yr haint yn cynyddu yn aruthrol yn Toulon a Marseilles. Bu 60 farw yn y lie diweddaf, ddydd Llun, yn gwneyd y rhif er y dechreu yn 874. Mae y marwolaethau, fel rheol, yn sydyn iawn.
* AMRYWIAETH A I".
AMRYWIAETH A I". -Cymerodd tan dinystriol le yn Geneva, Switzerland, yr wythnos ddiweddaf, pryd y llosgwyd swm aruthrol o ydau. —Atafaelwyd Hong yn Quebec y dydd o'r blaen, ar fwrdd yr hon yr oedd swm enfawr o wirodydd wedi eu smyglio. -Cafodd 200 o'r rhai a weithient yn swyddfa y pensiwn yn Washington, godiad yn eu cyflogau yn ddiweddar, drwy gael eu dyrchafu i raddfa uwch yn y gwasanaeth. —Gwyddel Americanaidd ydyw John Kelly, blaenor Democratiaid Tammany, a ganwyd ef yn New York, 62 o flynyddoedd yn ol. -Mae yr anghydfod yn parhau yn mwn- gloddiau Ohio, ac yn ddiweddar ymadawodd nifer o'r Italiaid a roddwyd yn lie y rhai a safasant allan. -Yn Long Island City, N. Y., yr wythnes ddiweddaf, euogfarnwyd John Burns, a dau eraill, o dreisio Mary Crowley, ac anfonwyd y tri i benyd wasanaeth am 10 mlynedd. -Yn Atlanta, Georgia, rhoddodd Mrs. Clement Clay gyfraith ar ei gwr am ysgar- iad, yn mhen naw diwrnod ar ol priodi. Achos, creulondeb. -Penderfynodd dau gwmni sydd yn ngweithi glofau Pennsylvania, na atelir y gweithfeydd mwyach yn ystod y flwyddyn hon. -Mae Andrew Cargenie, Pittsburgh, Pa., newydd ddychwelyd o Loegr, lie y bu yn archwilio i ansawdd y gweithiau haiarn yno, a dywed eu bod mewn cyflwr truenus o dlawd. -Pan ddychwelodd Mr. William Scholes, masnachwr cyfoethog yn Belleville Ohio, adref o'r Dwyrain yr wythnos ddiweddaf, canfu ei faban yn y gwely yn farw, a'i wraig a'r gwas wedi dianc gyda$2,000 o'i arian. Darfu iddynt gloi y plentyn yn y ty a'i adael yno i farw. PLANKINTON, DAK., Gorph. 14.-0aw80m ystorm o genllysg yr 11 eg o'r mis, a gwnaeth ddifrod mawr ar y enydau yn Swydd Aurora. Yr oedd lied yr ystorm tua pum' milldir. Nid yw yn hysbys i mi am ei hyd, ond gwn iddi ddyfod "o leiaf ddeuddeg milldir o'r gogledd-orllewin. Cafodd amryw Gymry yma eu colledu yn drwm, set y Parch. W. G. Harrison Owen Owens, John O. Wil- liams, C. Jones, Richard Hughes, ac ysgrif- enydd hyn o lythyr. Mae golwg addawol iawn ar y cnydau y ffordd hon; ni welais eu gwell erioed. Gobeithio na ddaw dim af- lwydd eto i'r hyn sydd ar ol.—[W. O. Jones.