Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
EIN TELERAU AM 1884. PRIS YN MLAEN LLAW, $2.50. fldP-Pris y DRYCH i Glybiau $2 20 ^Pris y DRYCH i Gymru 3 00 ANFONER ARIAN mewn Post Office Or- der, Postal Note. neu Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, 0 DRYCR OFFICE, UTICA, N. Y. BRANCH OFFICE, 310 Lackawanna Ave., Scranton, Pa. Advertisements will be received up to Saturday. E. R. LEWIS, MANAGER. Kin Hysbysiadau.—Dymunir ar bawb fyddant yn anton am unrhyw nwydd a hysbysir yn ein oolofnau, ddweyd wrth y perchenogion mai yn y DBYCR y gwelsant yr advertisement. TIIIO nunirD may be found on file in New I 1119 rllrtn York at S. M. Pettengill, 37 Park Row, George P. Rowell & Co.'s, 10 Spruce St., and at S. H. Bates, 41 Park Row (Times Building) -where advertising contracts may be made for it. YMENYN AR "COMMISSION." DAVID W. LEWIS & CO., 85 AND 87 BROAD ST., COB., SOUTH AND WILLIAM STS., NEW YORK. Yr ydym yn agored i wneyd trefniadau i gy- meryd y Milk Rolls, gwerthu y cynyrch ar gomis- iwn a dychwelyd i'r cwsmer yr hyn ellir gael, o un neu ddau o Creameries, lie y cludir Ilaeth ddwywaith yn y dydd. Cymerwn holl ofal y gwerthiadau, gwyliwn y cyfleusderau, ac anfon- wn checks i gwsmeriaid yn uniongyrcgoi. Cyteirler- DAVID W. LEWIS & CO., New York. J T. WILLIAMS (Gwyddon), Commercial Traveler gyda y Mri. BENNETT SLOAN & Co. W. BBOADWAY AO 82 THOMAS ST., NEW YORK, Allforiwr a Maanachwyr Cyfanwerthol mown TE, COFFI, SPICES, a gwahanol nwyddau perthynol i'r Grocery Busi- mett. Arwyddair y cwmni hwn yw "Y Nwyddau fioreu am y Pris Iselaf." Dymuna gefnogaeth y Masnachwyr Cymrelg TA-VA-ZOK! Gwaed Burydd Digyffelyb-Y Trwythbalr Kffeithiol—Y Tonegydd a'r Afu Gryf- haydd Nodedig, a'r Gian Gyn- hyrfydd Annghydmarol! Canlyniad 30 mlynedd o ymbrawf ac ymchwil- iad gan rai o brif feddygon Prydain Fawr wedi ymgynghoriad maith a chostus. Ni welodd y byd erioed o'r blaen el gyffelyb I Teflwch ymaith eich rhagfarn, a threiwch y meddyglyn annghydmarol hwn. Ni waeth beth yw eich dolur. Bydd yn Bier o wneyd daioni 1 chwi. Dylat pawb sydd yn dyoddef oddiwrth y clef- ydau canlynol—Catarrh, Gwalldreuliad, Scrofula, Rheumatism, Dwfrglwyf, Gwendid, &c.—roddi prawt uniongyrcnol arno. Pris, 81.00 y Botel. Tavazon's Liver and Kidney Pills, Yn anghydmarol at Rwymedd, Cur yn y Pen, Poen yn y Cefn, Penysgafnder, Afu Diyni, &c. 36 cents yn ddidraul gyda'r post. Am bob manylion pellach ymofyner a GRIFFITH & CO., PRACTICAL CHEMISTS, 301, 303, 305 a 307 Grant St., Pittsburgh, Pa. For Sale by John H. Sheehan & Co., Wholesale and Retail Druggists, Utica, N. Y. PICNIC UNDEBOL 0 Dan Nawdd Cymdeithas Elusengar Utica a'r Cylchoedd. YN RICHFIELD SPRINGS, DYDD MERCHER, GORPHENAF 30,1884. Tren arbenig yn cychwyn o'r orsaf am 7 ;30 yn y boreu; a chyrhaeddir yn ol erbyn tua 8:30 yn yr hwyr. Tocyaau i rai mewn oed$1.00 Tocynau i blant. 75c EIN GOHEBWYR. Un o'r E lwys, BEAVER CREEK, OBEGON.—Y mae eich llythyr yn hynod o faith ac yn cynwys cyfelrladau rhy bersonoli ymddangos uwch ffug- enw. Y mae hwn yn fater rhy leol i hawlio colofn a haner o bapyr cenedlaethol fel y DRYCH. Ni bydd genym wrthwynebiad i gyhoeddl adroddiad byr o wir sefyllfa pethau yna, uwch enw priodol. J. W. Morgan, DENVER.—Yn ein nesaf. Drwg genym i'r ysgrif gael ei chadw cyhyd. jtEf Dymuna Rhydwen gael gwybod gan y Cymro Gwyllt beth yw cyfelriad J. W. Roberts (Callestr)-gynt o Parsons, Pa. Agents y Drych. NEW STRAITS VILLE, O.-D. D. Richards. FBOSTBTJBGH, US.—David Jones. THOMASTOWN, O.—John E. Morris. NILES, O.-Parch. E. Jenkins.
[No title]
MAE y blaid Annibynol yn Nhalaeth Penn- sylvania wedi penderfynu cefnogi BLAINE yn hytrach na CLEVELAND.
[No title]
ER i MARTIN 1. TOWNSEND, yr hwn a ddadl- euodd dros benodiad ARTHUR yn Chicago, gael siomedigaeth chwerw, dywed y bydd iddo wneyd ei oreu dros BLAINE a LOGAN.
[No title]
MAE haerllugrwydd y New York Times yn annherfynol, canys yr wythnos ddiweddaf cymellodd ei ddarllenwyr i bleidio dros CLEVELAND "am ei fod yn llawer gwell Gwerinwr na BLAINE."
[No title]
NIB gall neb wadu na ddarfu GBOVEB CLEVELAND wrthod Uawnodi y ddeddf i os- twng cludiad y gweithwyr, nos a boreu, ar y rheilffyrdd yn New York, i 5o. yn lie 10c., etc y mae llawer o'r gweithwyr am bleid- leisio drosto, medd y papyran Democrataidd.
[No title]
DYWBD y New York Herald fod y blaid Werinol mewn awdurdod er's 23 o flynydd- oedd, a bod y tymor yn ddigon maith; gan hyny, dylai y bpbl dreio y Democratiaid, pe na byddant mewn swyddi ond am bedair blynedd! Dyna logio pen bawd o'r iawn ryw.
[No title]
ANFONWYD allan yn barod gan aelodau y Gydgyngorfa, 6,600,000 o areithiau i ddylan- wadu ar yr etholwyr yn yr etholiad dyfodol; aayr oedd 4,250,000 o'r areithiau politic- aidd oddiwrth aelodau Ty y Cynrychiol wyr, a'r gweddill oddiwrth y Seneddwyr. Anfon- ir dros 4,000,000 o areithiau politicaidd i'r wlad eto o hyn i ddydd yr etholiad.
[No title]
CWYNIB cryn lawer y dyddiau hyn o her- wydd marweidd-dra masnach; ac aeth nifer o ariandai a masnachdai i gyflwr o fethdaliad y dyddiau diweddaf. Dywedir hefyd fod digonedd o arian mewn cylchoedd masnach- ol, ac y gellir echwyna yn hynod o rad ar ddiogelwch da; ond cwynir nad ces lleoedd diogel ac enillgar i roddi arian allan. Ofnir na fydd i fasnach wella hyd nes yr a yr eth- oliad Arlywyddol heibio.
[No title]
ANFONODD yr awdurdodau yn Washington at y Trafnoddwyr Americanaidd yn Llun- dain, Liverpool, Hull, Bristol, Southampton, Marseilles, Havre, Bordeaux, Bremen, Ham- burg a phorthladdoedd eraill, ar iddynt fod yn ofalus i gael meddygon awdurdodol i ar- chwilio pob llong cyn iddi hwylio am y Tal- aethau Unedig, a pheidio rhoddi trwydded o gwbl, os bydd salwch ar y bwrdd, rhag trosglwyddo y colera i'r cyfandir hwn.
[No title]
YMDDENGYS oddiwrth y newyddiaduron Democrataidd, fod CLEVELAND yn ymgeisydd mwy anmhoblogaidd yn mhlith y Gwyddel- od na'r un Democrat a redodd er dyddiau WASHINGTON, o herwydd ei ami weithred- oedd yn erbyn llwyddiant a dedwyddwch y dosbarth gweithiol. Mae llawer o Wyddel- od New England, yn neillduol yn Connecti- cut a Massachusetts, nad ydynt yn dewis pleidleisio dros CLEVELAND na BLAINE, yn awyddus am gefnogi y Cad. BUTLER.
[No title]
ETHOLWYD GROVER CLEVELAND yn Llyw- odraethwr Talaeth New York yn Tachwedd, 1882, a DAVID B. HILL yn Is-Lywodraethwr; ac nid yw eu tymor yn rhedeg allan hyd ddiwedd 1885. Mae y newyddiaduron Demo- crataidd yn dechreu holi yn barod am olyn- ydd CLEVELAND, pe byddai iddo gael ei ethol yn Arlywydd. Pe dygwyddai i hyny gym- eryd lie, byddai yn ofynol iddo ymddi- swyddo cyn Mawrth 4, 1885, a llenwid ei le fel Llywodraethwr gan yr Is-Lywodraethwr HILL, o angenrheidrwydd, yna deuai cadair Llywydd y Senedd yn wag. Ni raid petruso ar y pen hwn, gan na ddyrchafir CLEVELAND yn uwch nag y mae.
[No title]
MEWN newyddion diweddar o Ewrop hys- bysir fod llywodraeth Lloegr yn cymell at- gludiad gwinoedd at wasanaeth y byrddau o Awstralia, yn hytrach nag o Ffrainc; canys profwyd mewn arddangosfa o winoedd Vic- toria, a gynaliwyd yn Edinburgh, Scotland, fod y gwinoedd hyny yn cynwys o 22 i 28 y cant o alcohol naturiol; ac felly maent yn gryfach na gwinoedd Ffrainc. Mewn can- lyniad i hyn dywedir fod pendefigion y deyrnas yn prysur lanw eu selerydd a gwin coch Awstralia.
[No title]
NiD yn ami y gwelwyd deg diwrnod mor oer yn nghanol mis Gorphenaf ag a gaed eleni. Bu y gwresraddur rai boreuau yn sefyll ar 55 o raddau; ac heb ond ychydig o haul yn tywynu drwy y dyddiau. Yr oedd y don enfawr o awyr oer a ddaeth dros og- leddbarth y Cyfandir hwn, yn ymruthro ar- nom o'r gogledd-orllewin, a chymerodd feddiant o'r wlad o Diriogaeth Washington i For Werydd. Bu yn foddion i arafu add- fedrwydd enwd y ddaear; eithr y mae yn rhy fuan i ddysgwyl fod uchder gwres yr haf wedi myned heibio. Mae Awst yn dyfod!
[No title]
DYWEDODD y Seneddwr DALY wrth siarad yn erbyn deddf waharddiadol, y buasai yn dinystrio $400,000,000 o arian sydd yn sefyll allan yn holl gangenau masnach y diodydd a'r gwirodydd; ac atebwyd ef gan JAMES BLACK fel y canlyn: Mae $800,000,000 yn cael eTL difa yn flynyddol gan drwyddedau. Collir 100,000 o fywydau yn flynyddol drwy feddwdod; anfonir 50,000 o deuluoedd, yn cynwys 100,000 o blant, i dlodi. Hefyd gwneir 100,000 yn droseddwyr drwy feddw- dod; ac mae anghymedroldeb yn costio i'r genedl yn flynyddol$2,000,000,000
[No title]
DICHON nad oes llawer o'n darllenwyr yn deall fod y Gamlas rhwng y Werydd a'r Tawelfor, ar draws culdir canolbarth Am- erica, yn myned yn mlaen yn gyflym; a dywed y Ffrancwr anorchfygol, COUNT DE LESSEPS, yr hwn a agorodd Gamlas Suez, o'r Mor Coch i For y Canoldir, y bydd llongau yn nofio o'r Werydd i'r Tawelfor cyn diwedd 1888. Torwyd tua 6,000,000 meters (40 modfedd bob ffordd) chwe' chyfochrog, ac mae 20,000,000 yn rhagor mewn bargen. Talwyd allan yn barod$60,000,000. Credir bod yn anmhosibl i'r Gamlas gael ei gorphen am chwe' blynedd eto.
[No title]
CANMOLA awdurdodau y Talaethau De- heuol eu llwyddiant masnachol y dyddiau hyn; ac mae yn sicr fod y newydd yn dder- byniol gan bawb. Rhoddwyd allan dros $79,000,000 mewn llaw-weithfeydd yn ystod y chwe' mis cyntaf y flwyddyn hon. Rhenir yr arian rhwng y gwahanol Dalaethau fel y canlyn: Alabama, $13,840,000; Kentucky, $13,497,000; Virginia, $11,032,000; Texas, $7,934,000; Tennessee, $4,849,000; Georgia, $3,757,000; Maryland, $2,832,000; North Carolina, $2,638,000; West Virginia, $2,428,- 000; Louisiana, $1,820,000; South Carolina, $1,529,000; Florida, $1,506,000; Arkansas, $780,000, a Mississippi, $767,000. Defnydd- iwyd y symiau uchod i adeiladu melinau cotwm, melinau blawd, ffwrneisiau, melinau rholio haiarn, i agor mwngloddiau, ac yn y blaen.
[No title]
GWELWYD masnach yr haiarn drwy y Tal- aethau Unedig, yn arafach nag ydoedd ar ddechreu haner olaf y flwyddyn hon, sef ar y cyntaf cyfisol; ond eto mae y fasnach yn mhell o fod mewn cyflwr boddhaol. Yr oedd llai o ffwrneisiau mewn blast, neu yn gweithio, nag a welwyd ar yr un amser er 1879. Allan o 703 nid oedd ond 279 mewn gwaith, sef prin 40 y cant, yn ol yr adrodd- iad swyddogol a gyhoeddwyd. Ar yr un amser y llynedd yr oedd 343 o ffwrneisiau mewn llawn gwaith; ac ar y cyntaf o Orph- enaf, 1881, yr oedd 437 o ffwrneisiau yn gweithio ddydd aln08. Mae pris yr haiarn yn parhau yn lied anghyfnewidiol, ac mae arwyddion fod adnewyddiad yn debyg o gymeryd lie yn ystod y ddau fis dyfodol. Dywed y Philadelphia Press fod marchnad yr haiarn yn dechreu bywiooau yno, ac ail gychwynodd rhai gweithfeydd yn ddiweddar.
[No title]
Nos yr 16eg Jcyfisol, yn y Grand Opera House yn New York, dechreuodd y blaid Werinol y gwaith etholiadol. Ymgynull- odd dros bum' mil o bobl i'r lie, a buont yno hyd haner nos, yn gwrando ar yr ar- eithiau penigamp a draddodwyd gan yr Anrh. WILLIAM E. EVABTS, y Cad. HAWLEY, ac eraill. Yr oedd y newyddiaduron Demo- crataidd yn cyhoeddi fod y cyfarfod yn fethiant.a..Nid oedd neb yn dysgwyl iddynt ddweyd dim arall. Gwnaeth Mr. EVARTS un gwirionedd mewn cysylltiad a'r tariff yn amlwg iawn i bawb, yn y geiriau canlynol: "Pe byddai i ni ofyn i'r Parliament Pryd- einig wneyd deddf ar y tariff i ni, pa fath ddeddf fyddai ? Ateb—Deddf masnach rydd, fel yr un a amcanodd y Democratiaid basio yn ystod eisteddiad diweddaf y Gyd- gyngorfa. Pe buasai gan y Parliament Prydeinig hawl i benodi Axlywydd ar y Tal- aethau Unedig, ni fnasai yr Anrh. JAMES G. BLAINE yn cael ei anrhydeddu a'r swydd." Haner gair i gall.
COLLI GWAITH DRWY SALWCH.
COLLI GWAITH DRWY SALWCH. Cyhoeddasom, amryw wythnosau yn ol, fod Arddangosfa Iechyd i fyned yn mlaen yn Llundain yr haf hwn; ac ar yr adeg bresenol y mae yr Arddangosfa yn ei llawn rym, yn South Kensington, lie yr arddangoswyd pysgod yr holl 'fyd yr haf diweddaf. Mae yno le prydferth, dymunol ac iachus, gyda heolydd llydain a pharciau mawrion, lie ceir digon o awyr iach, llysiau a blodau, am y rhai y mae y Kensington Gardens yn noded- ig. Yno hefyd y mae yr Albert Memorial, sef cofadail ardderchog er coffadwriaeth am y Tywysog ALBERT; ac mewn ychydig amser gellir talu ymweliad a Hyde Park, Regents Park, y Palasau o'r Amgueddfau mwyaf dy- ddorol yn y byd. Mae yr Arddangosfa yn cael ei chefnogi yn dda gan wahanol wledydd, canys mae pob peth sydd yn dal cysylltiad ag iechyd yn bwysig i bob cenedl. Dyben mawr yr Ar- ddangosfa ydyw dwyn i sylw y byd y dull o fyw yn mhlith gwahanol genedloedd, er cael allan y moddion goreu i sicrhau a chadw iechyd. Mae hyn yn cynwys anedd-dai, ys- tafelloedd, gwelyau, ymborth, diodydd, dill- ad, llafur, gorphwysdra, a phob peth sydd yn dal cysylltiad a gyrfa dyn drwy y byd. Wedi archwilio yr holl bethau hyn yn yr Arddangosfa, ceir allan y moddion goreu i gadw iechyd, a sierhau dedwyddwch yn y byd; a chredir y derbynia pob cenedl les ar. benig oddiwrth ganlyniad yr Arddangosfa. Sicrhawyd gwasanaeth Syr JAMES PAGET i draddodi yr anerchiad agoriadol, o herwydd ei fod yn un o'r rhai blaenaf, os nad y cynt- af yn Mrydain fel Bywydofydd, yr hwn sydd yn deall ananiaeth y corff dynol, a'r elfen- au angenrheidiol i'w fagwraeth. Yn ei an- erchiad dywedodd Syr JAMES fod afiechyd yn faich enfawr ar y Seison fel cenedl; a bod y bobl yn yr oedran o 15 i 65 mlwydd, yn colli yn flynyddol lafur ugain miliwn (20,- 000,000) o wythnosau drwy salwch. Mae y coll amser hwn yn gyfartal i tua naw diwr- nod ar gyfer yr holl bobl; ac mae yehydig mwy o salweh yn mhlith y merched, ar gyf- artaledd. Dywedodd Syr JAMES fod y cyf- rifiad yn gywir, ac agos yn berffaith felly; canys archwiliwyd ystadegau yr United Odd Fellows, a'r cymdeithasau elusengar, y budd gymdeithasau, &c., fel yr oedd y bobl yr archwiliwyd eyflwr eu hiechyd yn rhifo o 500,000 i 600,000. Dywedodd hefyd fod y salweh yn mhlith personau galluog i weith- io, ac nid y dosbarth mwyaf afiach o'r bobl, canys ni dderbynir rhai felly yn aelodau o'r gwahanol gymdeithasau. Oddiwrth hyn cesglir fod y colledion blynyddol yn llawer mwy na chyflog ugain miliwn o wythnosau. Os rhoddir punt yn gyflog cyfartal wythnos, bydd salwch yn achosi £20,000,000 o golled bob blwyddyn mewn cyflog yn unig, heb son am gyffeiriau, a gwerth y llafur i ofalu am y cleifion, &c. Dangosodd Syr JAMES fod coll amser o herwydd salwch, yn y Fyddin, yn y Llynges, ac yn mhlith yr heddgeidwaid, yn fwy ddwy waith na'r cyfrif uchod; ac eto detholir y dynion iachaf i'r Fyddin, y Llynges, ac yn heddgeidwaid. Nid ydyw y cyfrif uchod chwaith yn cynwys y cleifion ieuainc, cyn iddynt gyraedd 16 mlwydd oed, na'r rhai ydynt yn meirw yn eu babandod;ac os cym- erir trigolion yr holl wlad o bob oed yn nghyd, gellir edrych ar Loegr fel ysbyty en- fawr yn llawn o gleifion. Yn y flwyddyn 1882, bu 25,000 o blant farw yn Lloegr; a 66,000 o bobl rhwng 25 a 45 mlwydd oed. Yr oedd Syr JAMES PAGET yn credu fod y bedwaredd ran o'r gwastraff a'r marwolaeth- au yn wastraff diangenrhaid hollol. Sylwodd yr areithydd enwog fod nifer mawr o heintiau yn mhlith yr hil ddynol yn ataladwy hollol drwy foddion priodol, ac yn mhlith y rhai hyny enwodd y frech wen, y frech goch, typhus a typhoid fever, scarlet fever, &c., ac eto- lladdodd y typhoid yn Nghymru a Lloegr y flwyddyn ddiweddaf, bedair mil o bersonau, oeddynt mewn llawn oedran a nerth. Nododd allan y mar- wolaethau a achosir gan anghymedroldeb ac anniweirdeb, y rhai ydynt ataladwy drwy foddion priodol. Dangosodd Syr JAMES fod iechyd y bobl yn gyffredin yn llawer gwell yn awr nag oedd ddeng mlynedd yn ol, mewn canlyniad i ofal am iechyd y cyhoedd gan yr awdurdodau llywodraethol. Mae y tai yn cael eu hawyro yn well, eu goleuo yn well, a'u gwneyd yn fwy clud. Gwneir carthffosydd i gario ymaith y budreddi; sychir pyllau mallddwfr ilonydd; anfonir y cytiau moch oddiwrth y tai, archwilir y cig- oedd yn y marchnadoedd, a gofelir rhag i ymborth a diodydd gael eu llygru a sylwedd- au afiach, &c.; a beth ydyw y canlyniad, gof- ynai Syr JAMES PAGET ? Yr oedd yr atebiad wrth law ganddo wedi ei ddadblygu o ystad- egau nas gall neb eu gwrthbrofl, sef fod han- er cant o flloedd (50,000) o fywydau yn cael eu hachub yn flynyddol! Mae y marwolaeth- au yn llai yn mhlith yr un nifer o bobl yn awr nag oeddynt ddeg a phymtheg mlynedd yn ol, o haner cant o filoedd bob blwyddyn. Dyna brawf diymwad fod bywyd yn dibynu i raddau helaeth ar y gofal a gymerir o iach- yd a deddfau iechyd. Dywedodd Syr JAMES ei fod yn dysgwyl y bydd i'r Arddangosfa Iechyd ddylanwadu ar wahanol lywodraeth- au y byd, yn y fath fodd ag i'w harwain i fabwysiadu y moddion goreu i sicrhau iech- yd, a chynyddu dedwyddwch eu deiliaid. Creda y collir llai o amser mewn canlyniad i salwch, ac yr ychwanegir blynyddoedd at hyd cyfartal oes y bobl, fel y cynyddir ac y perffeithir moddion cadwraeth iechyd. Cym- ellir yr awdurdodau gwladol a dinesig, i beidio esgeuluso y pwnc pwysig hwn; ac mae cyfrifoldeb pwysig yn aros wrth ddrys- au teuluoedd a phersonau unigol.
[No title]
—Mwydodd Mrs. George Stone, Scran- ton, Pa., yr wythnos ddiweddaf, ei dillad ag olew kerosene, a thaniodd hwy; yna llosg- odd i farwolaeth. Yr oedd dan ddylanwad gwallgofrwydd.
PEGWN Y GOGLEDD!
PEGWN Y GOGLEDD! ACHUB SAITH 0 FINTAI Y RHAGLA W GREELY! DAW AR BYMTHEO 0 BERSONAU YN NEWYNUI FAR WOLAETH, &C. ST. JOHNS, NEWFOUNDLAND, Gorph. 17,1884. -Cyrhaeddodd yr agerlongau Thetis a Bear, o'r fintai a anfonwyd i waredu y Rhaglaw GREELY a'i gwmni, yma heddyw, oil yn iach. Dysgwylir yr agerlong arall, Alert, yma yn ddioed. Collasant eu gilydd mewn ystorm, tua 150 i'r gogledd. Adrodda Cad- lywydd y fintai, sef W. S. SCHLEY, iddynt waredu y personau canlynol am naw o'r gloch yn yr hwyr, Mehefin 22, sef y Cad. A. W. Greely, Rhingyll Brainard, a'r swyddog- ion Long, Fredericks, Braiderberg, Edison a Connell. Rhewodd y swyddog Elison ei ddau droed a'i ddwy law, y rhai a dorwyd ymaith, ac yn mhen tri diwrnod bu farw, a chladdwyd ef yn Godhaven, Greenland. Yr oedd mintai y Cad. Greely yn rhifo 25 o ddynion o'r fath rymusaf yn mhob modd. Bu farw 17 o honynt o newyn, ac Elison, ar 01 tori ei aelodau rhewedig; felly collodd 18 eu bywydau, a saith yn unig a achubwyd. Daeth y waredigaeth yn yr amser, canys yr oedd y rhai a achubwyd ar farw o newyn. Nid oedd y Cad. Greely yn meddwl y buasai yr un o honynt yn byw dros 60 o oriau. O'r 17 a newynasant i farwolaeth, y mae cyrff 12 o honynt ar fwrdd yr agerlong, yn cael eu cadw mewn alcohol, a chyrchir hwy i'r Tal- aethau Unedig, i gael eu claddu gan eu teu- luoedd. Methwyd a dyfod o hyd i gyrff pump a gladdwyd yn y rhew; collwyd hwy, pan ddrylliwyd y rhew gan ystorm echrydus. Boddodd un, sef yr Esquimaux Jans Edwards, tra yn ceisio dal morloi; ond yr oedd yn wan o herwydd newyn ar y pryd. MINTAI Y CAD. GREELY. Hwyliodd y fintai am Lady Franklin Bay, Gorphenaf 7, 1881, yn yr agerlong Proteus, i'r dyben o sefydlu gorsaf yno, mor agos i'r Pegwn Gogleddol ag yr oedd modd, a chyr- haefldasant y lie ar ol llawer iawn o lafur, i weithio eu ffordd drwy y rhew. Yr oedd ganddynt adeilad wedi ei wneyd yn barod i'w roddi i fyny yno, ac felly y gwnaed. Yr oeddynt i aros yn y lie, a gwneyd arsylliad- au ar y tywydd, ac anfon minteoedd yn nghyfeiriad y Pegwn, mor ami ag y byddai i'r tywydd ganiatau. Yr oedd y llywodraeth wedi rhoddi gorchymyn i'r Cad. Greely i ddychwelyd, nid yn ddiweddarach na Medi 1, 1883, os na dderbyniai waredigaeth neu adgyfnerthiad yn ystod 1882; ac yr oedd gan y fintai ddigon o ymborth i'w cadw yn fyw yn hwy na'r amser a nodwyd. Gan na dder- byniwyd cefnogaeth yn 1882, gadawsant eu gorsaf yn Fort Conger, Lady Franklin Bay, Awst 9, 1883. Anfonwyd cymorth iddynt y llynedd, ond methodd y fintai hono fyned i ben y daith, o herwydd y rhew. Wrth ddychwelyd yn ddeheuol, cyfarfu y fintai ag anhawsderau anorchfygadwy, fel y bu raid iddynt adael eu hagerfad, a'r bywydfadau yn y rhew. Buont am 30 o ddyddiau yn nofio ar ddarn o rew, ac yn cael eu gyru yn ol a blaen gan dymestloedd erchyll, na welwyd eu cyffelyb erioed ond yn y moroedd pegynol. O'r diwedd, llwydd- asant i gyraedd tir, a sefydlasant eu gwer- syll yn agos i Cape Sabine, Ellismore Land, lledred 78 45 gradd yn ogleddol, a hydred 74 35 gradd yn orllewinol. Ni lwyddasant i gario gyda hwy dros y rhew o'u gorsaf yn Fort Conger, ond ychyd- ig iawn o ymborth, a bu raid iddynt fyw am naw mis o amser ar ddognau hollol annigon- 01 i gynal bywyd; ac ar ddiwedd yr amser bu raid i'r rhai oedd yn fyw dori croen morloi o'u dillad, a berwi hwnw, er cadw gwreich- ionen bywyd yn fyw. Hefyd, casglasant y cen oddiar y creigiau, yr hwn a ferwasant gyda berdys (shrimps); ac yr oedd y pryfed- ach hyn mor fychain, fel yr oedd yn ofynol cael 1,300 i wneyd galwyn. Yn y cyfamser, aath y dynion yn rhy weiniaid i gasglu ber- dys, gan erwinder y newyn; ac o ddechreu Ebrill i'r 12fed o Fehefin, bu y 17 farw o ddiffyg ymborth. HANES Y WABEDIGAETH. Mae yn amlwg iawn oddiwrth hanes yr anturiaeth, fod y llywodraeth i raddau, os nad yn gwbl gyfrifol am golledigaeth y dyn- ion gwrol a anfonwyd i dueddau Pegwn y Gog ledd; canys yr oedd yn ddealladwy pan hwyliodd mintai Greely, fod llong i'w han- fon yno bob blwyddyn gydag ymborth ffres, ond ryw fodd neu gilydd ni wnaed hyny. Gwnaed ymdrech, y mae'n wir, i anfon yr agerlong Neptune i ddiwallu mintai Greely, ond methodd fyned o fewn 150 o filldiroedd iddynt, a dychwelodd, ar ol ystorio ymborth yn y ddaear mewn dau neu dri o leoedd. Eto, yn 1883, anfonwyd E. A. Garlington, yn yr agerlong Proteus; ac yn gynar yn mis Gorphenaf, cyrhaeddodd Cape Sabine; ond pan o fewn pedair milldir i Cape Albert, cyfarfu a mur anferth o ia, fel nad allai fyn- ed yn mhellach. Penderfynodd y Cad. Garlington ymdrechu myned yn mlaen drwy yr holltau yn y rhew; a phan welodd agorfa oedd yn ymddangos yn llydan a ffafriol, ag- erodd y llong i mewn i'r ia. Yn fuan wedi iddo fyned i mewn, dechreuodd y munau rhew agoshau at eu gilydd; ac yn y cyfamser cyrhaeddasant ochrau y llong. Gwasgwyd yr agerlong yn fuan nes oedd fel hen fasged wiail. Cododd yr ia yr agerlong rhyw dair neu bedair troedfedd i fyny; yna agorodd y rhew nes y gollyngwyd yr agerlong i lawr i'r mor, a suddodd o'r golwg. Fel yr oedd Pro- teus yn suddo drwy y rhew, daliwyd y cross yards ar y rhew y ddwy oohr, nes eu tori yn ddarnau. Taflwyd ychydig o'r ymborth a'r nwyddau ar y rhew; yna dychwelodd y Cad. Garlington a'i swyddogion, mewn badau i'r agerlong Yardic oedd mewn mor agored. Mae yn ymddangos oddiwrth yr uchod fod y llywodraeth wedi gwneyd ymdrechion clodfawr i anfon gwaredigaeth i fintai Greely; ond cwynir yn ddirfawr o herwydd yr araf- wch yn yr anturiaeth. Hefyd credir y dy- lasid rhoddi ystorfau o ymborth mewn lle- oedd cyfleus ar y ffordd i safle y fintai, er eu galluogi i fyned i ymofyn ymborth, mewn amgylchiadau fel a gymerasant le yn meth- iant y ddwy fintai a nodwyd. Achosodd methiaht y fintai ddiweddaf bryder mawr yn y wlad am dynged Greely a'i ganlynwyr; canys ofnid fod eu hymborth ynbrin; a chynygiodd y llywodraeth wobr 0$25,000 am eu gwaredigaeth, neu ryw es- boniad ar eu tynged. Gan fod llawer o longau yn y moroedd pegynol yn pysgota morfilod, gobeithid y buasai y fath wobr yn cymell anturiaethwyr i fyned atynt tra yr oedd y fintai olaf yn cael ei pharotoi i fyned allan; eithr ni lwyddodd neb i wneyd hyny. Darparwyd tair o agerlongau y tro hwn, sef y Bear, Thetius a'r Alter, a dderbyniwyd yn anrheg oddiwrth lywodraeth Lloegr. Hefyd yr oedd agerlong arall yn y fintai, sef y Lock Garry, yn cario glo at wasanaeth yr agerlongau eraill. Gosodwyd y fintai dan arweiniad y Cadlywydd W. S. Schley, o Lynges y Talaethau Unedig. Hwyliodd y gyntaf o longborth New York, Ebrill 24ain, a'r lleill o fewn yr wythnos ddylynol. Cost- iodd yr holl anturiaeth i'r llywodraeth dros filiwn o ddoleri ($1,000,000), heb son am gostau yr anturiaethau blaenorol. Cyrhaeddodd y fintai i St. Johns yn bryd- lon, ac ar ol cymerydy nwyddau angenrheid- iol ar fyrddau y llongau, symudwyd yn mlaen yn nghyfeiriad Greenland. Angor- wyd o flaen Ynys Disko ar y 22ain o Fai, ac ar y 24ain o'r un mis agerodd y Thetius yn mlaen mewn cyfeiriad pegynol; ac yn fuan deuwyd at faes enfawr o rew oedd yn gorch. uddio y mor o lanau Greenland hyd at y tir yr ochr arall, a elwir Cockburn Land. Wedi hwylio dros amser gydag ymyl yr ia, cafodd y Thetius agorfa, ac aeth i mewn, gan weith- io ei ffordd oreu y gallai rhwng y talpiau nofiadwy. Mai 29ain, deuwyd i longborth Upernavik, lie yr oedd y Bear yn barod, a llongau pysgota morfilod. Wedi cychwyn yn nghyfeiriad y Pegwn, deuwyd drachefn i ganol meusydd nofiadwy o rew, gyda ambell i agorfa igam ogam rhwng y darnau; a buwyd yn ymladd y ffordd yn mlaen yn barhaus, hyd nes y deuwyd i ddwfr agored ger Cape York. Cadwyd agerlongau y fintai, ac wyth o forfil-longau ger Duck Island, o Mehefin 6ed hyd yr lleg. Yr oedd y rhew o bump i saith troedfedd o drweh. Mor fuan ag y caed agorfa, gweithiwyd yn mlaen; ond ar y 14eg a'r 15fed, ni enillwyd ond ychydig; ac ar y 16eg a'r 17eg, cadwyd hwy yn yr un lie, oddi- gerth yehydig droedfeddi a symudodd y rhew dan ddylanwad y gwynt a'r tonau. Am 2 o'r gloch y prydnawn, Mehefin 18fed, o'r tu allan i Cape York, hwyliasant i for agor- ed; yna rhoddwyd tair banllef o ddiolchgar- wch nes rhwygo yr awyr, yn y lie anghyfan- edd hwnw. Yn awr penderfynwyd hwylio yn agos i'r lan, a chadw llygaid yn agored am unrhyw nod i ddangos fod dynion wedi sangu y tir hwnw; a chan y gwyddid fod y brodorion yn arfer anturio y ffordd hono yn yr haf, i bys- gota a hela, gobeithid am air o hanes y Cad. Greely gan rai o honynt. Anfonwyd pedwar o bersonau i'r lan, i archwilio y bryniau cymydogaethol am unrhyw gofnodiad; acyn fuan deuwyd ar draws un o frodorion y wlad ryfedd hono; ond methwyd oael gair ohanes Greely gan hwnw. Wedi methu cael dim o hanes y fintai golledig, penderfynodd yr ar- chwilwyr y byddai raid iddynt weithio eu ffordd yn mlaen i'r Gogledd, a gwneyd eu meddyliau i fyny i aros yno dros y gauaf; ac aed yn mlaen i wneyd darpariadau ar gyfer hyny. Rhedodd yr agerlongau yn mlaen at Cape Sabine, gan benderfynu aros yn Payer Harbor y noson hono; a chyrhaeddasant y lie erbyn saith o'r gloch; ac yn ddioed an- fonwyd minteoedd i'r lan, i archwilio am gofnodion am ymwelwyr o ryw fath. DABGANFOD Y COLLEDIGION. Yn mhen oddeutu awr ar ol i'r dynion fyned i'r lan, elywodd y rhai oedd ar fyrdd- au y llongau fath o lonfloeddiadau; ond yr oeddynt yn dra aneglur o herwydd y gwynt cryf oedd yn chwythu ar y pryd. Cyn bod amser i ail feddwl, wele y morwr Jewell yn rhedeg at y llongau dan floeddio, "Canfydd- asom fintai Greely!" Wedi dyfod ar y bwrdd deallwyd fod y Mil. Taunt, wedi darganfod cofnodion ar ben Ynys Brevoort, dyddiedig Hydref 21, 1883, yn adrodd fod Greely wedi symud yn ddeheuol o Fort Conger, a'i fod yn Camp Clay, heb fod yn mhell o'r fan lie yr oeddynt yn mynyd hwnw! Codwyd y baneri i fyny, chwythwyd y chwibanogl, a gwnaed darpariadau i hwylio yn ddiatreg yn y cyfeiriad hwnw. Ni fuwyd ond byr amser yn dyfod o hyd i'r trueiniaid oeddynt yn rhydiau oerion afon angau. Yr oedd y dymestl yn ei llawn rym ar y pryd, ond gan fod y gwynt yn chwythu oddiar y tir, buwyd yn alluog i lanio. Cadwyd y chwibanogl i fyned yn barhaus i'r dyben o dynu sylw y goroeswyr; ond prin yr oeddynt yn ddigon cryfion i dalu sylw i ddim o'r tu allan idd- ynt eu hunain. Mae yn ymddangos mai y Rhingyll Long a Mr. Breinard oeddynt y rhai cyntaf yn y gwersyll i glywed y chwibanogl; ac yr oedd- ynt yn gorwedd ar v pryd dan adfeilion eu pabell oedd y gwynt wedi chwythu am eu penau, a hwythau yn rhy weiniaid i'w hail godi. Helpodd y ddau y naill y llall i god- iad tir i edrych a oedd rhywbeth yn y golwg; ond methasant weled dim gan fod bryniau uwch yn cysgodi. Wedi cael eu siomi dych- welasant, a dywed Brainard mai dyna y mynyd chwerwaf a chaletaf yn ei holl fyw- yd; canys gwyddai y byddai farw yn mhen yehydig oriau. Nid oedd Long yn foddlon ar eu harsylliad, ac aeth yn ol, gan ddringo i ben clogwyn uwch, ac er ei fawr syndod a'i lawenydd annesgrifiadwy, gwelai ager un o'r llongau, sef y flaenaf, a'r llongau eraill yn dylyn! Yr oedd yn rhy wan i redeg gyda'r newydd goreu yn y byd i'w gyfeillion, ond gallodd ymrolio i'r goriwaered! Wedi cyr- aedd at ei gyfeillion, cododd bawl i fyny, ar ben yr hwn yr oedd baner a chwythasid i lawr gan y gwynt; ond yr oedd yn rhy wan i ddal y faner i fyny; ac yn mhen ychydig fynydau yr oedd y gwaredwyr yn ysgwyd dwylaw gydag ef. Yr oedd Mr. Maurice Connell ar y pryd yn rhy wan i ddeall fod gwaredigaeth wedi cyraedd; a phan ysgyd- wyd ef i'w ddeffroi o'i hun annaturiol, fel y deallai fod cymorth wrth law, dywedodd mewn llais egwan, crynedig: "Er mwyn Duw gadewch i mi farw mewn heddwch." Agorwyd ei enau, a rhoddodd y meddyg lonaid llwy o frandi rhwng ei wefusau, ac yna adfywiodd gwreichionen bywyd oedd ar ddiffodi. Cariwyd ef ar fwrdd yr agerlong, a than ddylanwad dognau o frandi a the biff, cryfhaodd yn raddol. Yr oedd rhai o gyn- eddfau y corff wedi marweiddio yn gwbl; ac mae yn ymddangos mai y cof ddarfyddodd gyntaf. Wedi iddo ddyfod ato ei hun, ac iawn amgyffred pethau, bu ei gof dros nifer o ddyddiau yn dywyllwch hollol, fel nad oedd yn cofio dim am yr hyn a gymerodd le o foreu ei oes hyd yr adeg dan sylw. Yn raddol dechreuodd ei gof ddychwelyd, ac y mae yn parhau i wella. Ar ol i'r ymborth ddarfod yn gwbl, a hwythau yn rhy weiniaid i hel berdys na chasglu cen y ceryg, bu raid iddynt losgi y manflew i ffordd oddiar eu cobau crwyn, yna eu tori yn fan ddarnau a'u berwi i wneyd stiw, a bwyta hwnw! Yr oedd yn rhoddi math o foddlonrwydd iddynt dros amser; ond o'r diwedd gwrthododd y cylla y cwbl; ac yr oedd y cyfogi yn eu dirdynu yn erch- yll. Caed anhawsderau dirfawr i gadw gwres y corff i fyny o ddiffyg ymborth addas; ac yn ddiweddar gwnaed rheol nad oedd neb i gael ei oddef i gysgu mwy na dwy awr ar y tro; a chaed fod yn dra anhawdd deffroi y rhai gwanaf. Byddai yn ofynol curo eu traed a'u dwylaw mewn trefn i gyffroi cylch- rediad y gwaed; ac yroedd yn berygl i gwsg meithach na dwy awr gynyrchu merwindod, trymsyrthni, diffrwythder a chwsg marwol. Y peth cyntaf a wnaed ar ol cael amser i anadlu, wedi gweled yn y fath gyflwr truen- us yr oedd y gwersyll, oedd rhoddi lluniaeth i'r newynog, a hyny gyda gofal mawr. Rhoddwyd iddynt ddognau bychain o ym- borth hylifol maethlon, gan fod y cylla allan o drefn i dreulio ymborth sych a chaled. Gofalwyd am eu cwsg hefyd y noson hono; a boreu dranoeth anfonwyd mintai i'r lan i gasglu pob peth oedd yn weddill, ac yn werth y drafferth, mewn trefn i fod yn barod i gychwyn adref. Rhedas- ant i Littleton Island drwy ddwfr agored, a Mai 24, dechreuasant ageru yn ddeheuol am Newfoundland. Ar y ffordd gwelsant nifer o longau yn pysgota morfilod, a darfu idd- ynt fwynhau eu cwmni yn fawr. Yr oedd y mor yn orlawn o rew am ganoedd o filldir- oedd, a chaed gwaith caled i weithio drwy- ddo. Ar yr 2il cyfisol daeth gwahanol longau y fintai at eu gilydd yn Disko; ac ar y 5ed hwyliasant tuag adref. TORI AELODAU ELISON. Yr oedd y swyddog Elison mewn cyflwr truenus iawn er pan rewodd ei ddau droed a'i ddwylaw, ac o herwydd fod y cnawd yn .madru; ac nid oedd yn ddichonadwy atal y llygriad heb dori yr aelodau ymaith. Yr oedd ei ddoluriau y fath er's amryw o ddyddiau nes y collodd ei synwyrau yn gwbl dan yr arteithiau. Torwyd yr aelodau gan feddygon y tair llong, ar ol ymgyngoriad difrifol, a safodd y dyoddefydd yr oil yn well na'r dysgwyliad. Profodd yr arteithiau yn rhy erwin i'w gyfansoddiad, oedd wedi ei wanhau i raddau mawr gan newyn, ac yn mhen tri diwrnod rhoddodd marwolaeth derfyn ar ei ddyoddefiadau. Anfonir eirch metalaidd i St. Johns, yn ddioed, i roddi y cyrff ynddynt, fel y gellir eu hanfon i'r gwahanol leoedd i'w claddu yn briodol. Barna yr awdurdodau na ddylai y goroeswyr ddyfod yn sydyn i hinsawdd boeth, ar ol bod am dair blynedd yn y fath oerni eithafol. Awgrymir y bydd iddynt drigianu am rai misoedd yn Portland, Maine, a chaniateir i'w teuluoedd fyned atynt. LLWYDDIANT YB ANTUBIAETH. Mae aberthiad cynifer o fywydau yn yr anturiaeth, yn achos o ofid a galar i bawb; ond y mae yn gysur meddwl fod yr amgylch- iad wedi troi allan yn llwyddiant yn ddaear- 01 a gwyddonol, canys gwnaed amryw o ddarganfyddiadau a ychwanegant ein gwy- bodaeth am y rhan anhysbell hono o'r ddaear, ein mam ni oil. Hefyd, gall y Tal aethau Unedig yn awr ymffrostio, ei bod wedi cipio y faner megys o law Lloegr, a phlanu y faner Americanaidd yn nes at y Pegwn Gogleddol, na baner unrhyw gened 1 arall ar y ddaear. Cofier mai y Ser a'r Brith resi sydd ar y faner agosaf i'r Pegwn hedd yw, a dyma y tro cyntaf i Loegr golli yr an rhydedd hwnw er's mwy na thri chant o flynyddoedd. Ar y 13eg o Fai, 1883, cyr- haeddodd y Rhaglaw Lockwood a'r Rhing yll Brainerd i Lockwood Island, a alwyd felly er anrhydedd i'w bnw, yn lledred 83 24 gradd yn ogleddol, a hydred 44 05 yn or- llewinol. Wedi myned i ben mynydd 2,000 o droedfeddi o uchder, methwyd gweled tir yn ogleddol nac mewn cyfeiriad gogledd-or- lie win; ond yn nghyfeiriad gogledd-ddwy rain, yr oedd Greenland, a Cape Robert Lincoln yn y golwg. Caed fod y lie olaf hwn yn lledred 83 35 gradd yn ogleddol. Trowyd y Rhaglaw Lockwood yn ol i'r gog- ledd o Greenland, gan ddwfr agored, a bu agos iddo a chael ei ysgubo i'r Mor Pegynol. Fel yr oedd Dr. Pavy yn dylyn llwybr Mark- ham yn 1882, a phan i'r gogledd o Cape Joseph Henry, cafodd ei gario gan y cenllif un diwrnod i'r Mor Pegynol, a diangodd i'r tir, gan adael agos yr oil oedd ganddo. Yn 1882 aeth- y Rhaglaw Greely gyda nifer o'i ddynion i wneyd archwiliad ar y Grinnell Land, a darganfyddodd Lyn, a alwodd Llyn Hazen, er anrhydedd i enw y Cad. Hazen; a chaed fod hwnw tua 60 o filldiroedd o hyd a 10 o led. Rhed y dwfr i'r Llyn hwn oddiwrth doddiad eira a rhew yn yr haf ar fynyddoedd Grinnell Land. Dringwyd i ben mynydd a alwyd Mynydd Arthur, er anrhydedd i'r Arlywydd, a gwelwyd fod y Grinnell Land yn troi yn ddeheuol o'r pwynt pellaf a gyrhaeddodd y Rhaglaw Aid- rich yn 1876. Yn 1883 arweiniodd y Rhaglaw Lockwood fintai ar draws Grinnell Land, 90 filldir- oedd o Beatrix Bay, a'r ochr arall tarawsant ben culfor yn dyfod o'r mor gorllewinol, a galwyd hwn dros yr amser presenol yn Gul- for Greely a Lockwood. Mae hwn yn lled- 80 30 gradd yn ogleddol, a hydred 78 30 gradd yn orllewinol. Yr oedd y tir ar yr ochr ogleddol yn terfynu,a'r dwfr tuag ugain milldir o'r fan He yr oedd y fintai; ac mae yr arfodir deheuol yn cyraedd rhyw 70 o fill- diroedd o Cape Lockwood. Ymddengys fod y tir hwn yn wahanol i Grinnell Land, a chan ei fod yn dir newydd, enwyd y wlad anhysbys yn Arthur Land. Wrth groesi Grinnell Land aeth y Rhaglaw Lockwood ax hyd cap o rew oedd ar yr ucheldir, gwyn- eb yr hwn oedd yn gant a haner o droed- feddi unionsyth o drwch! Mae yn ym- ddangos fod gorchudd o rew ar y Grinnell Land yn ogleddol a deheuol o'rtrwch a nod- wyd, ac mae llain o dir 60 milldir o led rhwng y bryniau rhew. Darganfyddwyd fod Hayes Sound yn ymestyn yn mhellach i'r gorllewin nag y mae wedi ei gosod allan ar y mapiau Seisnig. Darganfyddodd y Rhaglaw Long dri phenrhyn i'r gorllewin o'r pellaf a welodd ymgyrch Nares yn 1876. Gwelwyd tir hefyd dros ben gorllewinol Hayes Sound. Bu aelodau y fintai o fewn 464 i'r Pegwn Gogleddol, yr ysbotyn cudd- iedig hwnw y mae dynolryw yn chwilio am "ano er's canoedd o nynyddoedd.