Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENI—PRIODI—MARW. Gofynir tal, yn ol 25 cents am bob pedair llin- ell, am gyhoeddi barddoniaeth yn ngholofn y Genedigaethau a'r Priodasau.] GANWYD— ELLIS-Gorphenaf 2, 1884, yn Delafield, Wis., merch i Griffith a Nellie L. Ellis; gelwlr hi Mona. PRIODWYD— HUGHES—HUGHES—Gorphenaf 9, 1884, yn Utica, N. Y., yn anedd rhieni y briodasferch, gan y Parch. Erasmus W. Jones, Mr. Hugh R. Hughes a Miss Nellie M Hughes, y ddau o Utica. JONES—ROBERTS—Gorphenaf 4, 1884, yn anedd rhieni y briodasferch, ger Plymouth, Car- roll C0., Mo., gau dad y briodasferch, Mr. Robert E. Jones a Miss Magdalene Roberts, trydedd ferch y Parch. Griffith Roberts. DAVIEs-JoNEs-Gorphenaf 2, 1881, yn nghapel Lawrence St., Cincinnati, Ohio, gan y Parch. D. Jones, Mr. John T. Davios a Miss Mary C. Jones, Covington, ail ferch y diweddar David Jones. Llanwyd y capel ar yr aehlysur, a chan- wyd y Weddicg March yn swynol gan y cor. Ym. adawodd y par ieuanc am Gymru yn nghanol dymuniadau goreu lluaws o gjfeillion. Taith da iddydt ar dir a mor, a blynyddoedd lawer o fywyd priodasol dedwydd. JONES-BATHGATE-Golphenaf 2, 1884, yn Cincinnati, Ohio, yn nhy Mr. Charles Bathgate, tad y brlodasturch, gan y Parch. D. Jonts, Mr. Edward Jones, gynt o Birmingham, Lloegr, a Miss Elizabeth Bathgati*. Gwahoddwyd llawer i'r brlodas. Wedi gwneyd y ddi-lU yn un "er gwell ac er gwaeth," arweiniwyd ni at fwrdd llawn o ddanWithion amrywiol, a gwnaeih pawb eu rhan yu d la i ysgafnLau y uwrdd. Ar ol treulio rhai oriau yn ddedwydd mown cyieillachu a chanu ymadawodd pawb gyda dymuno i'r par ieuainc oes hir a liwyddlant mawr. BU FARW- ANDREWS—Gorphenaf 12, 18S4, yn Bevier, Mo., Roy, anwyl blentyn Mr. Som. Andrews a Jennie ei wraig, o'r inflammation of the bowels, yn 11 mis oed. Claddwyd ef dranoeth, pryd y gwas anaethwyd gall y Parchn. H. C. Parry (B.), J. V. Jones (A.) a Thomas H. Jones. JONEs-Mehefin 28, 1884. yn New Cam- bria, Mo., o'r whooping couj-h, yn 7 wythnos oed, merch fechan Watkin C. a Margaret ei wraig. Claddwyd hi dranoeth. Gwyrodd i lwch y gweryd—oer ddychryn Ar ddechreu taith bywycl; 0 ddu ing gwnai ddieugyd 0 egwan bau gwyn ei byd. R. GLAN WINON. JONEs-Gorphenaf 3, 1884, yn Ramsen, N. Y., yn 88 mlwydd oed, Thomas Hugh Jones. Yr oedd yr ymadawedig yn un o flaenoriaid y Capel Ceryg. Bu hefyd yn gwasanaethu y swydd hono yn ffyddlawn a diwyd am flynyddoedd law- er yn Penygraig, Cafodd ei gynysgaeddu a galluoedd meddyliol crytion, IJaru gywir ag ys- bryd penderfynol. Edrychid arno fel dyn pwyll. og, o synwyr cyffredin a deall da. Cofiai gyda mwynhad am hen bregethwyr Cymru oeddynt enwog ar y maes yn ei ddyddiau boreuol, ac ad- roddai gyda bias ddarnau o'r pregethau gogon- eddus-erbyn hyn y mae wedi cael eu hailgyfar- fod. Tra y gallodd eln hen dad deuai i'r capel yn gysou, a theimlir colled ar ei ol. Claddwyd ef ddydd Sadwrn, Gorphenaf 5, yn Penygraig. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Seth Jones a George Lamb. jENKiNs—Mehe&n 28, 1884, yn 39 mlwydd oed, yn Morris Run, Tioga Co., Pa., Evan Jen- kins, mab i'r diweddar William G. Jenkins ac Ann Jenkins, gynt o Aberdare, D. C. Bu y tad yn ddiacon am flynyddau yn yr "Hen Dy Cwrdd," Aberdar; bu farwyn Morris Run bum mlyneod yn ol, ond y mae ei weddw yn fyw eto, yr hon sydd yn ferch brawd i'r diweddar Barch. Thomas Evans, Glyncothi. Ganwyd y mab Evanyn Aber- dar. Ni fu yn iach iawn yu ystod y pum mlyn- edd diweddaf. Claddwyd ef yn mynwent Blo-s- burgh, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. P. Jones, Morris Kun. EVANs-Gorphenaï 5, 1884, yn Hyde Park, Pa., wedi ychydig oriau o afiechyd, gan grynho- ad y gwaed a,r yr ymenydd, Mrs. Evans, gwraig Mr. John T. Evans, Washburne St. Yr oedd yn ymdd-ngos yn gyfryw ac y buasid yn addaw iddi ddyddiau lawer; ond gwagedd yw pob dyn. Cwynai gan boen yn ei phen nos Wener; ond am un o'r gloch boreu Sadwrn y oed, cymerwyd hi gan lewygon. Y drydedd a gafodd am bump y boreu, ac ni ddadebrodd o honi er iddi fyw hyd naw yr hwyr. Claddwyd hi gyda pharch ac mewn galar yn y gladdfa ar Washburne Street. Wrth ei chladdu teimlem ein bod yn dodI yn y bead wraig wir grefyddol a duwiol—un o rai rhagorol y ddaear. Cafodd ei phriod a'r eglwys hefyd golled fawr iawn. Yr oedd yn un ffyddlon ac efTro dros el Gwaredwr. Duwfendithio ei phriorl ac a godo eraill i lanw y bwlch yn yr eglwys R. FOULK JONES.

Gair o Dalaeth Nevada.

Y Pedwerydd o Gorphenaf yn…

Givin, Mahaska Co., Iowa.

Ysgol Sul yr A. yn Granville,…

Tysteb y Parch. Thomas T.…

0 Sir Tioga Pa.

[No title]

[No title]

ENOCH EVANS, NEW YORK

Advertising