Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

GWALLAU JEITHAWL POBLOGAIDD.

All BEN Y TWR.

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.

News
Cite
Share

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Dywed Ardalydd Bute yn ei an- erchiad agoriijdol yn Eisteddlod Caerdydd, boreu y diwrnod cyntaf, sof dydd Llun, ei fod wedi defnyddio y gair Prydeinig (British) fel y mwyaf cymhwys i nodi allan mown ystyr hynafiaethol genodl y Cymry, er y tybiaf," meddai," nas gellir gosod i fyny unrhyw hawl ar ei ran ohynafiaeth a thebygol o breswylwyr boreuaf yr ynysoedd hyu. Tybiaf," meddai drachefn, y caniateir yn gyffredin mai preswylwyr boreuaf yr yn- ysoedd hyn, yn gystal a pharthau ereill o Ewrop., oedd cenedl y Ffin, neu yr Esquimaux." Yr oedd gan yr Ardalydd lawer o syniadan gwrthun ereill, ond y maent oil yn canolbwytio yn y syniadan hyn. Mae yn an- hawdd deall pa un a'i mewn anwybodaeth neu ynte mewn awydd i ddiystyru y Cymry fel cenedl y gwnacth yr Ardalydd y fath gamgymeriad. Tybiaf fod pob un o'r ddau. Y mae yn bradychu anwybodaeth hollol pan y dywed fod ysgrifenydd enwog yn dyweyd y gallesid rhifo y Silurians yn eu plith. Nid yw Silurians yn golygu Ach nen lwyth o ddynion ystyr y gair Silurian yw un o'r deheudir." Nid oedd y cyfryw ysgrifen- enydd yn golygu dim ond preswylwyr y Dehendir, yr un fath ag y dywedwn ni Gogleddwyr (Northmen), yr hyn sydd eglur nad oedd yr Ardalydd yn ei ddcall. Cawn lawer o haneswyr, ac hyd yn nod rai baneswyr Cymreig yr un fath, naill ai yn anwybodus am yr hyn a ysgrifenant, neu ynte dan ddylanwad rhagfarn. Er engraifft, dyna Carnhuanawc yn ei Hanes y Cymry," wrth roddi hanes y Tudoriaid, rhydd hanes Harri yr Wythfed yn ei gysylltiadau a'i welliantau gwladyddol yn fanwl, ond pan y daw at ei gysylltiadau crefyddol y mae yn hollol wahanol; priodola iddo y Diwygiad Protestanaidd yn gwbI. Crybwylla am achlysuron y Diwygiad, ysgoa eu heglnro yn hollol, am y gwyddai y buasai with hyny yn llychwino ei blaid ei hun ac Am- ddiffynydd y Ffydd hefyd. Pan y daw at hanos Elizabeth, y mae yn ei gadael heb ond ychydig gry. bwyllion am dani, a thrwy hyny yn amddifadu ei ddar- llenwyr o hanes y cyfnod mwyaf pw; sig yn hanes ein gwlad, a hithau o'r anrhydedd a deilyngai. Yr oedd yr egwyddor ar ba un y gweithredai Elizabeth, yn gystal a'i hanturiieth-,in, ei llwyddiant, ei gwelliantau gwladol a chrefyddol y fath y gellir ei chymharu a pbrif arwyr y byd, ond yn rhy rhyddfrydig i Carn- huanawc. Yr oedd yn woll ganddo ef en claddttmewn anghofrwydd bythol, na gadael i'w ddarllenwyr gael eu gwybod. Y mac yr Ardalydd yn taflu tystiolaeth Iwl Cesar am y Cymry heibio gyda diystyrwch. Nid nn i'w ddiystyru mewn unrhyw ystyr ydyw Iwl Cesar. Mae ei antnriaethau, ei fuddugoliaethait, a'i ddargan- fyddiadau yn brawf ohyny. Ysgrifenodd lyfr ar hanes ei ymweliadau a Chymru sydd yn agos o ran maintioli i'r eiddo Carnhnanawc, ond nid yw yr hyn a ddywed am y Cymry ond yr hyn a addefa am danynt wrth roddi ei hanes ei hun, ac er mai gelynion oeddynt, addefa y gwir, er cofio gydag arswyd am gafodydd saethau y fyddin Gymreig, ac yn neilldnol am eu meirch a'u cerbydau rhyfel, pa rai a balmantent heol- ydd a chyrff ei filwyr ef. Adg-ofia am Caswallon, Tudur Bengoch, Gronyw, Gethin, Rhydderch Wyneb- glawr, a Madoc Benfras fel ei orchfygwyr dewrion, eto tystiolaetha y gwirionedd am danynt. Ymorfoleddai yn ei fuddugoliaethau, yn narostyngiad y byd adna- byddns dan ei awdnrdod, ond yr oedd yn rhaid plygn i'r syniad siomedig o adael Prydain yn anghyrhaedd- adAy. Ond er y cwbl, siaradodd ac ysgrifenodd am dnnynt fel unto'r cencdloedd anrhydeddnsaf, fel y caf ddefnyddio ei dystiolaeth yn ei lie priodol. Ymddengys i mi nad ydym i gymeryd hanesion 5aiB- onig am hynafiaethau Cymreig yn ddim gwell na dychymygion disail. Beth allent hwy wybod am y Cymry yn yr oesoedd boreuaf ? Ni alient hwy ddar- llen nac ysgrifenn am agos i chwe' chant o flynyddoedd wedi amser Iwl Cesar. O leiaf, ni allent am gant a haner o flynyddoedd wedi eu dyfodiad i'r ynys yn am- ser Gwrtheyrn, Nid wyf fi yn amddifad o'r ystyriaeth y gallasai presenoldeb yr Ardalydd Bute fod yn fanteisiol i'r Eisteddfod, a buaswn morbarod a neb i wneyd unrhyw aberth o fewn terfynau rhesymol er cyrhaedd yr am- ean, ond teimlaf fod aberthu ein hanes, ein hawlian, a'n hanrhydedd fel cenedl yn ormod. Wedi dysgwyl yn ofer am wythnosan i rywnn o'r 6,927 oedd yn y pavilion ar y pryd i wneyd sylw ar y pwnc, gan y gwyddwn fod yno ganoedd allasai wneyd yn well na mi, cynygiaf yr eglurhad canlynol ar hanes ein cenedl. Yn gyntaf, edrychwn ar y pwnc yn ngol- euni hanesiaeth Ygrythyrol. PRESWYLYDD Y GAREG. (I'w barhau.)

Y BEIBL YN YR YSGOLION DYDDIOL.