Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

MYNED I'R UNDEB.

News
Cite
Share

MYNED I'R UNDEB. Nid oes eisieu dywedyd rheffyn maith o eiriau, megys, Myned a dychwelyd i ac o Gyfarfodydd yr Undeb Annibynol Cymreig yn Ffestiniog. Mae erbyn hyn "Yr "Undeb" yn ddigon. Mae yn syndod i ni, pobl y Deheudir, weled golygfeydd rhamantus Gogledd ein gwlad. Mae yn dda genyf i mi fod yn yr Undeb, pe na buasai yn ddim ond gweled gwaith Haw Duw yn y pethau a wnaeth yn lluniaethiad ei chreigiau a'i mynydd- oedd uchel. Aethom y noson gyntaf i Borthmadog. Tref lan a pbobl serchus, a'r Capel Coffadwriaetbol yn un ardderchog, lle y pregetha ein brawd anwyl y Parch L. Probert yr Iesu o Nazareth yn Geidwad i'r trigolion. Nid wyf yn gwybod am neb yn fwy eymhwys i fod yn olynydd i'r diweddar foneddwr Ambrose na'r gwr ieuanc Probert. Blin oedd genyf weled Mrs Ambrose wedi cael stroke, ac yn gorwedd yn ei gwely, ond yn hoffi gweled brodyr o'r Debeudir yn galw i'w gweled fel chwaer yn yr Arglwydd a gweddw i'r hwn oedd yn dra hoff ganddynt. Bydded Tad y trugareddau yn dirion ohoni brydnawn ei bywyd, a bytb. Tranoeth, cymerasom y "trêu bach," fol y galwant ef, i Ffestiniog, a bach ydyw, teilwng o'i cnw, a narrow gauge yn ol gwir ystyr y gair-prin dwy droodfedd o un rail i'r Hall, a gwaelod y corbyd o fewn tair neu bedair modfedd i'r ddacav, fel os dygwydda iddo ymddiwel dros y cledrau y bydd yn gorwedd ar y llawr fel malwoden, heb i neb gael yr un niwed. O'r cerbyd bychan hwn ar ein taith, yr oedd golygfeydd rhyfeddol i'w canfod. Ar yr aswy yr oedd yr Wyddfa yn dyrchu ei phen i'r ewmwl. Meddyliais am eiriau Caledfryn, yn ol ei arfer yn bwrpasol- "Rhaid dringo'r Wyddfa gopa gwyn Cyn chwareu ar ei choryn." Yr oedd ar y deliau wddf ambell gilfach, a llecyn o ddyffryn prydferth yn dyfod o Penrhyn- deudraeth a chylchoedd Maenwrog, a dyna ni yn Tanygrisiau, Ffestiniog. Nid wyf yn gwybod ystyr yr enw, os nad fod lie gwych yr ochr isaf i'r grisiau sydd yn y chwarel serth. Mae'n debyg fod lie yn y Gogledd o'r enw Penmynydd, ac i weinidog symud o Benmynydd i Danygrisiau. Yr oedd un wedi meddwl yn llythyrenol, ac yn dywedyd iddo wneuthur yn gall fyned o ben y mynydd i waered dros y grisiau ile mwy cysgodol, yn neillduol yn y gauaf oer, Dyma ni yn awr yn Ffestiniog. Cwm cul, rhwng mynyddoedd a chreigiau cribog, a miloedd o drigolion o'r mwyaf caredig ynddo. Mae yn ymddangos i mi fod y trigolion yn byw yn rhagorol o dda—dim arwyddion tlodi arnynt, a'r rhan amlaf ohonynt yn byw yn eu tai eu hunain, acyn diofni notice to quit. Dywedwyd wrthyf fod y bechgyn ieuainc yn troi o'r noilldu o'u henillion ddigon i adeiladu ty a'i ddodrefnu cyn y priodant, felly maent yn cael dechreu eu byd heb fod dan ei draed ac yn wir, mi gynghorwn bob merch ieuanc i beidio priodi neb oni fydd ty ei hun wedi ci ddodrefnu ganddo. Yr oedd un gwr yn dywedyd wrthyf y gallasem ni yn y Deheudir feddwl yn is am danynt hwy nag ydynt mewn gwirionedd oherwydd gweled ambell un gwael ohonynt yn ein plith, ac yn barod i'w mesur oil wrth yr ychydig hyny, ond, fel rheol, nad y rhai goreu sydd yn symud o fan i fan fod ambell un ohonom niuau yn greadur go arw i'w gael yn eu chwarelau hwythau, ond eu bod yn deall nad fel y rhai hyny ydym oil. Ni chafodd yr Undeb fwy o barch na gwresocach derbyniad oddiar y ganwyd ef nag a gafodd yn Ffestiniog. Yr wyf yn sicr na welais'gynifer o ddynion yn eyrchu i gyfarfodydd crefyddol ag a welais yma. Y Gymraeg a siaradent o'r hynaf i'r ieuengaf ohonynt yn y masnachdai, y llythyrdy, all banc; boneddigesau yn eu palasau, a bonedd- igion gwerth eu miloedd o aur ac arian, yn siarad Cymraeg. Nid oes angen i mi siarad dim am y pregethu a'r anerchiadau fu yn y cyfarfodydd, mae byny wedi ei wneutbur ar dudalenau y TYST am yr wythncsau diweddaf ond nis gallaf adael heibio ymweliad llongyfarchiadol y Ddirprwyaetb oddiwrth Gymanfa Gyffredinol y Trefnyddion Calfinaidd, yn dangos eu derbyniad calonog o'r Annibynwyr i'r lie fel cydetifeddion gras y bywyd a hwythau. Y gwyr talentog a ddaethant fel cenadon oeddent y Parch T. J. Wheldon, B.A., a Mr R. Rowlands, Bank, Ffestiniog. Cwynent na ddaeth brodyr mwy galluog ac urddasol o'v enwad yn eu lie, ond nid wyf yn meddwl y gallesid cael eu gwell a chwilio yr holl Gorff. Yr oedd llygaid eryraidd ganddynt, a thafodau fel pin yr ysgrif- enydd buan, ac fel pe buasent wedi arfer siarad a byw yn mhlith dyeithriaid. Yr oedd yn dda iawn gop.ym fol A nnihyn wyr eu gwelod a'u gwrando ar y fath neges cariadlawn ac efengylaidd. Yr oedd pob enwad crefyddol yn Ffestiniog yn derbyn yr Undeb i'w plith a'u tai fel Undeb iddynt hwy eu hunain. Nid oedd shibboleth enwad i'w glywedo fewn y lie poblog. Hynod mor ddidwrw oedd y Parchn P. Howell a T. R. Davies yn gallu meistroli gorchwyl mor fawr; ond fe welir becbgyn galluog a chyfarwydd yn gyru y bedrolfen fawr a chwech anifail yn ei tbynu yn dawel trwy y dref, pryd y bydd rhyw baner-call yn gyru cart asyn a rags yn ddigon i ferwino clustiau dynion gan ei styrau. Pan ddarfyddodd y cyfarfodydd nos Iau, aeth Iluaws ohonom yn foreu dydd Gwener i weled ryfeddodau y cread. Aeth Mr T. Williams, Y.H., Trysorydd yr Undeb, a Mr J. Williams, argraffydd y TYST A'R DYDD, i bon yr Wyddfa; yno hefyd yr aeth y Parch J. R. Williams, Hirwaun, ae ereill. Yr oed dent yno yn gweled yr haul yn cyfodi fel o dan eu traed. Aeth brodyr ereill, fel y Parcbn E. A. Jones, Castellnewydd-Emlyn; J. Morgan, Cwmbach; B. Williams, Canaan; J. Thomas, Merthyr; a J. Davies, Cadle, trwy y twnel hirfaith sydd yn arwain i Dolyddelen. Mae'n rbaid fod rhyw wahaniaeth mawr yn ngreigiau y mynydd lie yr a y twncl trwyddo wrth y gwahanol seiniau a gynyrchir gan y peiriant wrth fyned trwyddo-bydd weithiau fel swn rhaiadr, pryd arall fel lleisiau asyn, a thrachefn fel swn taranau. Aethom gyda'r tren yn y blaen i Bettwsycoed, un o'r manau prydfertbaf yn Nghymru. Dyffryn tlws, afon risialaidd, coedydd tai-uchel, creigiau sertb, a mynyddoedd uchel palasau gorwych, heolydd gwastad, a lluoedd o gerbydau yn cario ymwelwr o fan a thref i'w gilydd trwy y dyffryn paradwysaidd. Mae yno gwympiad dwfr dros glogwyn uchel yn rbyfedda y teithwyr, yn enwedig os bydd gronyn o ddwfr yn yr afonig. Aethom o Bettwsycoed i Llanrwsti trigfa Scorpion, tref ar wastadedd hyfryd. Aethom dros y gwustadedd a'r afon Conwy i Drefriw, lie prydferth eto, sydd wedi ei hynodi gan y Ifynon feddyginiaethol sydd yno, a lie y cyrcha llawer yn yr haf o Loegr a Chymru. Nid yw y dogn a roddir ar y tro yn fwy na llonaid mascl wy iar, ac i'w gymeryd ddwy waith yn y dydd, a mawr y ganmoliaeth a roddir iddo gan lawer. Wcdi dychwelyd yn ein hoi i Ffestiniog, a chysgu dros y nos, aeth rhai ohonom yn foreu tranoeth i weled tref y Bala, yr hon a fawr hoffem ^i gweled. Cawsom gwmpeini cyfeillion anwyl yno, a chawsom yr hyfrydwch o weled palas y dref, Colcgdy y Methodistiaid, Bodiwan, Llyn Tegid, y Green, hen le Sasiynau y Methodistiaid, a thomen y Bala. Mae llyn y Bala (Llyn Tegid) yn rhyw dair milltir a thri chwarter o hyd wrth dri chwarter milltir o led, a dwy lath ar bymtheg o ddyfnder, meddent, ac ynddo bysgod bychain a mawrion, ac afon yn rhedeg allan ohono. Yr wyf yn meddwl, pan adeiledir ty y Brifysgol Ogleddol yn Mangor, mai gwell fydd i ni symud ein coleg o'r Bala i ymyl hwnw, er bod yn gyfleus i addysg y Brifysgol, megys y gwelir gogwydd y gwahanol enwadau yn Lloegr a Chymru. Daethom yn ol i Ffestiniog nos Sadwrn. Yr oedd bagad i aros yno i bregethu y Sabboth, megys Thomas, Merthyr; Morgan, Cwm bacb Nicholson, Liverpool; Davies, Cadle Bowen, Penygroes; a'r Cadeirydd. Yr oedd llawer ereill o weinidogion y Deheudir yn cynal cyfarfodydd pregethu mewn gwahanol fanau yn y Gogledd- Mr Williams, Canaan, yn Bettwsycoed; Jones, Castellnewydd-Emlyn; 'Rowlands, Aberaman; a Williams, Hirwaun, tua'r Brithdir; a lluaws mewn manau ereill nad wyf yn cofio eu henwau, a phawb ohonom yn rhoddi gair da i bobl Ffestiniog a'r Gogledd oil, gan ddymuno Duw yn rhwydd iddynt; ond er eu holl garedigrwydd, yr oeddem yn hoff o droi ein hwynebau i'n cartrefleoedd, gan feddwl wrth ddyfod trwy Aberdyfi ein bod yn clywed ei chlychau yn canu. Anghofiais ddyweyd fy mod wedi teimlo dyddordeb mawr, gyda gwyleidd-dra, yn mynwent eglwys Llanycil, yn ymyl Llyn Tegid, yn y Bala, wrth edrych ar feddau yr enwogion dysgedig a duwiol Charles o'r Bala; Dr Parry, golygydd y "Gwyddoniadur a loan Pedr (Peters y BLila)-tri o wyr mawr, breninoedd anghoronedig. Daeth bagad ohoncm, dydd Llun, yn rhwydd trwy Machynlleth, a heibio Hen Gapel Llaubryn- mair a Llanidloes, i Llanfairmuallt i dreulio yr wythuos yno wrth ddyfod adref. Mae trigolion y lie hwnw wedi colli eu Cymraeg, gan y dywedid i hen wr a hen wraig gyfarfod a phrofedigaeth lem eisicu na allasai yr hen wraig siarad Saesoneg. Yr oedd y brodyr Williams, Canaan Morgan, Cwmbach; Miles, Aberystwyth; Davies, Cadle; Thomas, Merthyr, a'i briod Jones, Tynewydd a Probert, Porthmadog, wedi penderfynu treulio pob awr gyda eu gilydd, gan feddwl y dichon na cliawsent gydgyfarfod gilydd ar y ddacar byth mwy. Yr oedd y Parch Ezeciel Thomas, Abertawy, yno, awdwr yr esboniad byr a cbynwys- fawr ar y llythyr at yr Hebreaid. Os oes rhyw lyfr yn yr iaith Gymraeg yn werth deunaw ceiniog, y mae hwnw. Rhoddodd y Parch E. Davies, Rhymni, dro yno am ddiwrnod, a phreg- etbodd yno y noson hono. Blin genyf i mi fethu cael cyfleustra i'w wrando. Yr oedd ganddo lyfr, Csesar and God," un o'i hoff destynau. Diau nad oes neb yn Nghymru yn fwy goleuedig a galluog ar bwnc addysg, a pha un a ydyw yn iawn cymeryd arian trethoedd anffyddwyr ac Iuddewon i dalu am ddysgu y Beibl yn ysgolion dyddiol ein gwlad. Ffarwelwch, frodyr anwyl iawn. Yr eiddoch,— GOHEBYDD ABERDAR

DAU SABBOTH GYDA'H SAESON.…