Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Newyddion Cyffredinol.

News
Cite
Share

Newyddion Cyffredinol. Mae Mr Jenkinson, yr hwn a enwogodd ei hun trwy ddarganfod a dal llofruddion Arglwydd Cavendish a Mr Burke, wedi ei wobrwyo a swydd gyda chyflog o £ 2,500 yn y flwyddyn. Cafodd Mr Gladstone dderbyniad tywysogaidd yn mhob man yr ymwelodd ag ef, ond yn f wy na'r cwbl y mae wedi mwynhau y daith yn fawr, ac wedi ymadnewyddu yn ei iechyd a'i ysbryd. Ar yr lleg o'r mis hwn, cynaliwyd cynadledd mewn cysylltiad a Chyflafareddiad Cydgenedl- aethol yn Milan, yn yr hwn y darllenodd Mr Henry Richard bapyr galluog yn dangos fel y mae yr egwyddor yn enill tir. Ciciwyd dyn i farwolaeth gan ddau Wyddel yn Birmingham, ar y 6fed or mis hwn. Cynygir gwobr o X100 gan y Llywodraeth i'r neb a roddo hysbysrwydd a arweinia i'w daliad. Eu henwau yw Martin McGann, a William llyan, y ddau yn arfer byw yn Birmingham. Ya herwydd annfuddhau i orchymyn yr awdur- dodau lleol, mai Miss Booth wedi ei bwrw i gar- char mewn lie o'r enw Neuchatel. Mae yn cael morwyn i weini ami, a phob triniaeth garedig. Ymddengys fod ei thad wedi apelio at y Llywod- raeth i gyfryngu ar ei rhan. Mewn canlyniad i addewid y Pab i geisio gan yr Esgobion yn Ffrainc i ddangos ysbryd heddychol tuag at yr awdurdodau gwladol, mae y Llywod- raeth o'u tu hwytbau wedi addaw llacio yehydig ar y cyfreithiau mewn perthynas â hwynt. Yn nhiriogaeth Farkiaseiver y dydd arall, tor- odd cynhvvrf mawr allan yn mysg y trigolion. Bu rhaid galw allan y milwyr cyn adfer trefn. Yn yr ysgarmes Iladdwyd deg a chlwyfwyd tua 70 o'r trigolion. Mae Gweinyddiaeth Servia wedi ymddiswyddo. Gan; fod y Brenin ar y pryd oddicartref, galwyd arno i ddychwelyd am nas gellid fEurflo gwein- yddiaeth newydd yn ei absenoldeb. Dydd Gwener diweddaf, yn Manchester, tra- ddodwyd dau heddgeidwad i sefyll eu prawf am ddynladdiad. Y mae Garmonydd" wedi bod yn darlithio ar Williams, Pantycelyn," y deuddeg mis diweddaf mewn cryn lawer o leoedd. Yn nghapelau y Trefnyddion Calfinaidd y mae wedi bod fwyaf. Gwyddom iddo fod mewn un addoldy Annibynol- addoldy mewn rhyw "ynys "-ben gymydog i'r darlithydd ydyw y gweinidog yno. Dywedir fod y ddarlith yn werth i'w chlywed. Deallwn fod yn meddiant "Rhod wy" lythyr dyddorol iawn oddiwrth Dr Hugh Jones, Llan- gollen, ac os cyhoeddir cofiant i'r duwinydd galluog, dylai y llythyr ymddangos ynddo. Y mae yn llythyr boneddigaidd iawn, ac y mae yn werth i'w gyhoeddi er esiampl i rai gweinidogion pa fodd i ysgrifenu llytbyrau boneddigaidd. Y mae Holwyddoregau yn dyfod i fri eto. Un o'r rhai diweddaf a ddaeth i'n Haw ydoedd un "Ieuan Wnion" ar "Hanes Joseph." Y mae yn llyfr bach dyddorol iawn, ac ni ryfeddem glywed fod rhai ysgolion yn ei ddefnyddio. A fyddai dim modd cael gan y Parch R. 0. Evans, Sammah, i gyhoeddi yn llyfryn bychan ei ymofynioii ar Y Tabernacl ?" Tybiwn y byddai yn un cymhwys iawn fel anrheg i'w roddi i blant yr Ysgol Sul. Y mae pob "gwers" ganddo yn dda iawn, fel y cofia ein darllenwyr a'u gwelsant yn Tywysydd y Plant dair blynedd yn ol. Y dydd o'r blaen cafwyd Robert Morris, amaethwr yn byw yn y Pentre-isa, Llandegla, wedi marw yn y cae. Yn sydyn iawn y bu tri ereill o'r gymydogaeth feirw yn flaenorol-Mr Thomas Jones, Ewyrth yr HandMrs Ann Edwards, Gwernol; a Miss Grace Mary Hughes, Dafarndowyrch. Mae y tafarnwyr yn teimlo yn ofnadwy yn erbyn geiriau Canon Wilberforce ac ereill. Yr oedd tafarnwyr Poole yn ciniawa yn Bourne- mouth, a dywedodd y Cadeirydd, Mr Marston, yr hwn sydd yn ddarllawydd mawr, os na fuasai yr offeiriadaeth yn dangos llai o atgasrwydd tuag at fasnach y diodydd meddwol, y buasai y tafarnwyr yn eu gadael, a myned i mewn am Ddadgysyllt- iad yr Eglwys.

Galwad. ----------------

CEOESAWIAD "GWAITH BARDDONOL…

TRI PH ENILL

Advertising

Llawer Mewn Yehydig.