Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y FFORDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Medi 22ain. CRYBWYLLAIS yr wythnos ddiweddaf am farwolaetb yr hynafgwyr parchus PETER SPENCE A CHARLES JUPE. Mae y blaenaf wedi ei gymeryd ymaith er's rhai wytbnosau bellacb, ond newydd yui- adael yw yr olaf. Cyrhaeddodd y ddau oedran teg, ac yr oeddynt yn adnabyddus i gylch eang fel boneddwyr haelionus, parod i bob gweithred dda, ac yn nodedig yn eu sel fel dirwestwyr. Presbyteriad oedd Mr Spenco, ond nid oedd ei haelioni mewn un modd yn gyfyngedig i gylch un enwad, a bydd colled fawr ar .ei ol, yn enwedig yn y zn Manchester, lie y trigodd y rhan fwyaf o'i oes. Annibynwr trwyadl oedd Mr Jupe, ac yr oedd felly o argyhoeddiad ac egwyddor, oblegid yr oedd ei holl gysylltiadau boreuol yn Eglwysig. Cymerai ddyddordeb mawr yn boll symudiadau ei Enwad yn swydd Wilts, ac yn mhob symudiad er dyrchafiad a gwelliant cymdeithas. Treuliodd ei oes yn ddirwestwr, ac nid oedd ball ar ei set dros yr acbos. Clywais ef fwy nag unwaith yn dadleu drosto yn nghyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol, a byny yn nghanol arwyddion amlwg o ddiflasdod ac anghymeradwyaeth, oblegid nid oedd dirwest mor boblogaidd yn nghyfarfodydd yr Undeb ugain mlynedd yn ol ag ydyw yn awr. Mae yr hen wyneb- au a welid yn ngbyfarfodydd yr Undeb gynt wedi myned agos oil. Baffles, Binney, Yaughan, Halley, Parsons, Campbell, Mor- ton Brown, Martin, Mellor, Raleigh, a llawer ereill, yn mysg y gW3inidogion a'r Crossleys, Titus Salt, Crosfield, Plint, a Jupe, a 11a mawr ereill yn mysg y lleygwyr. Chwith ydyw gweled eu lie yn- wag. Mae y to presenol, hwyracb, yn llawn mor dalentoo-, ac yn sicr yn gweithio. yn fwy trefnus ond yr oedd rhyw urddas yn yr hen dô, ac eto y fath garedigrwydd yn eu natur, fel nas gall y rhai a fwynhaodd eu cymdeithas lai na theimlo biraeth ar eu hol.-Mae MR. HOMERSHAM COX, trwy ryw ymadroddion a lefarodd yn y llys sirol yn Llanidloes, wedi tynu arno ei bun ddialedd cenedl gyfan. Ryw ddeuddeg mlynedd yn ol y penodwyd Mr Homersham Cox yn farnwr llýs y man-ddyledion dros ganolbarth Cymru. Amlygwyd gwrthwyn- ebiad cryf ar y pryd i'r apwyntiad, oblegid mai Sais trwyadl oedd, ac yn ddiau, dylasai y dyn a eisteddai yn farnwr yn y fath lys, yn rbai o siroedd mwyaf Cymreig y Dywysog- aetb, fod yn deall iaith y bob!. Credir gan lawer fod ganddo er hyny ddant yn erbyn y Cymry, ac y mae yn sicr ei fod fwy nag un- waith wedi dangos gwrthwynebiad i'w biaitb. Ond yn y Ilys sirol yn Llanidloes, yn ddiweddar, cyhuddodd y Cymry fel cenedl o fod yn anudonwyr. Dywedoddfod yr anudouiaeth gwarthus a geir dros holl Gymru (all over Wales) yn peri i waed dyn ferwi; a hyny mewn gwlad wedi ei britho a cbapeli ac eglwysi, a'r bobl yn meddwl eu hunain yn hollol grefyddol. Mae y cyhudd- iad, fel y gwclir, yn un cyffredinol yn erbyn Cymru oil. Nid oes neb na ehydnebydd, a hyny gyda galar, fod achosion yn achlysurol o auudoniaeth yn Nghymru ac nid yw y Wasg Gymreig na'r pwlpud yn Nghymru wedi bod yn ol o'u dynoethi, a gwrtbdystio yn eu herbyn pan y cymerant Ie. Ond eithriadau, ac eitbriadau anaml iawn ydvnt trwy drugaredd. Ychydig iawn o'n pobl sydd yn ymddangos o gwbl yn y llysoedd sirol hyn. Cyfartaledd byeban iawn o'r boblogaeth. Ac ychydig iawn o'r cyfryw dracbefn sydd y gellir eu cyhuddo o anudon- iaeth ac y mae fod Mr Homersham Cox yu eybuddo'cenedl gyfan o bobl o anudon- iaeth, ar sail yr eitbriadau anaml sydd wedi dyfod o dan ei sylw ef, yn profi ei fod yn hollol anghymwys i eistedd ar y faine i farnu achosion ein cenedl; a rhesymol iawn ydyw yr ymgais a wneir i'w symud i fysg pobl a'r rhai y mae ganddo fwy o gydymdeimlad. Nis gallasai fyned heibio heb roddi ergyd i gapeli Cymru, er gorfod cynwys yr eglwysi hefyd; ac beb ddanod i ni ein crefvdd. Mae teimlad dwfn yn y wlad oblegid y sar- bad yma y mae wedi ei daflu arnom fel cenedl; ac os ydyw am heddwcb, gwelliddo encilio mor fuau ag y gall. Nid oes neb a rwgnacba am gondemnio y personau sydd yn euog, a hyny yn yr iaith gryfaf, ond ni oddefir i genedl gyfan o bobl ddiniwed i gael eu hathrodi gan estron i ni o ran gwaed, ac iaith, a chalon.-Mae y COLEG I OGLEDD CYMRU, yn parhau i dynu sylw yn rbai o bapyrau Gogledd Cymru a Liverpool, heblaw y siarad sydd yn ei gylch mewn cynadleddau a chyfarfodydd. Mae Anuibynwyr Mon wedi dyfod allan yn gryf; ac y mae'y Parch E. Cynffig Davies wedi ysgrifenu llythyr maitb a galluog ar y mater. Mae yr hyn yr achwyna Mr Davies o'i herwydd yn haeddu sylw. Mae dadl y lie bellach wedi rhoddi ffordd i ddadl y cyfansoddiad, er fod yn bur eglur fod pryder mawr ar lawer rhag i ddy- lanwadau eglwysig lleol, orfaelu yr awdur- dod yn rheolaeth y sefydliad. Nid wyf yn gwybod a ydyw adranau y cyfansoddiad wedi eu penderfynu yn derfynol. Tueddir fi i feddwl nad ydynt, ac y gellir eto adys- tyried unrhyw adran y teimlir gwrthwyneb- iad iddi. Nid yw ond of or hollol i neb ddysgwyl i ni ollwng dros gof yn hollol y I zn cwestiwn o Eglwysyddiaeth ac Ymneilldu- aeth. Mae hyny yn anmhosibl. Mae yr ormes a'r aughyfiawnder ydym fel cenedl wedi ddyoddef yn nglyn ag ysgolion gwadd- oledig, pe na byddai dim arall, yn ddigon j'n gwneyd yn eiddigus na byddo cyfansoddiad y Coleg yn gyfryw ag a'i gwnelo yn bosibl i'w reolaeth fyned i'w dwylaw hwy. Yr ydym am i'r sefydliad fod yn drwyadl genedlaethol, heb ffafrio sect na phlaid, ond nis gall byth fod felly, os bydd yn bosibl i'w reolaeth syrthio i ddwylaw y bobl y rhai y mae eu boll banes yn dangos fod yn dda ganddynt ortbrymu. Er mantais i rai o'n darllenwyr, dichon y dylwn ddyweyd, fod tri gallu yn rbeoli y sefydliadau hyn. Y cyntaf ydyw y llywodraethwyr (governers). Yr ail ydyw y cynghor (council). A'r tryd- ydd ydyw y senedd (senate). Y cyntaf sydd yn dewis yr ail; a'r ail sydd yn dewis y trydydd felly y cyntaf yw y pwysicaf, a'r cyfansoddiad sydd i benderfynu pwy fydd ar bwnw; a'r ddadl yn awr yw, pwy fydd y llywodraethwyr? Yr wyf wedi dyweyd o'r blaen y gall yr Ynii-ieilldutvvr yii Noogled(I Cymru, yn ol y cyfansoddiad fel y mae, ond iddynt fod yn effro, ac yn ffyddlon i'w heg- wyddorion, a pheidio ymostwng yn wasaidd i urddasolion, ddyogelu mwyafrif ohonynt eu hunain yn mysg y llywodraethwyr. Nid wyf yn dyweyd na ddylid gwneyd eyfnewid- iadau a sicrbao hyny yn fwy effeithiol, a dylid gwneyd ymdrech er eu cael; ond os na cheir hwy, y mae y gallu yn eu Haw. Nid I wyf wedi credu o gwbl mewn fod Arglwyddi I Rhaglawol y Siroedd yn llywodraethwyr yn rhinwedd eu swydd, llawer Hai fod Cadeir- wyr y chwarter sesiwn -ac nid wyf yn I gweled ryw hawl neillduol gan yr aelodau seneddol. Dyogelacb a thecach fuasai fod cyfraniad swm penodol o arian yn amod cyn fod unrhyw un yn llywodraethwr. Ond os yw y personau yna yn rhinwedd eu swydd yn llywodraethwyr, nid oes gan Ymneilldu- wyr ddim i'w ofni oddiwrth y rhan fwyaf ohonynt, er fod eu mwyafrif yn Eglwyswyr. Mae ochr arall i'r mater. Mae tri llywodr- aethwr i'w dewis gan feistriaid yr ysgolion gramadegol. Mae arnaf ofn mai Eglwyswyr fydd y rhai hyny. Mae chwech o lywodr- aethwyr i'w dewis gan feistriaid yr ysgolion elfenol, a deuddeg gan lywyddion y byrddau ysgol; ac os bydd yr Ymneillduwyr yn effro, gallant gael y rhai hyny oil yn cyd- ymdeimlo a hwy. Etholir llywodraethwr hefyd gan bob eorfforaeth drefol, a phob bwrdd lleol, lie y byddo y boblogaeth yn 4,000 ac os na cha yr Ymneillduwyr fwyaf- rif o'r cyfryw, rhaid y bydd rbyw esgeulus- tra o'u tu hwy. Ychwaneger at hyn etofod gan bob tanysgrifiwr o £ 250 hawl i fod yn llywodraethwr; neu gall 25 o bersonau a gyfrano £10 yr un, er gwneyd X260 rhyngddynt, ddewis un o'u plith- eu hunain ZD p i fod yn llywodraethwr. Mae yr holl elfenau gwerinol hyn yn rboddi i Ymneillduwyr Gogledd Cymru, os byddant yn effro i ddal ar yr adeg, y gallu i gael y mwyafrif ohon- ynt eu hunain ar fwrdd y llywodraetqwyr; ac os gellir Ilwyddo i fwrw yr Arglwydd Eaglawiaid Sirol, a Chadeirwyr" y brawdlys- oedd chwarterol, bydd y fantais yn fwy fyth. Mae o bwys dirfawr goleuo y wlad am y gallu sydd yn eu dwylaw, a'u cynhyrfu i wneyd iawn ddefnydd ohono. Y llywodr- aethwyr hyn fydd yn meddu bawl i ddewis cynghor o ryw 24 o bersonau. Ni bydd neb ar y cynghor yn rhinwedd ei swydd, nae vn rbinwedd uurhyw gyfraniad, a gall y llyw- -Y I odraethwyr ddewis y neb y mynont ar y cynghor, ac mewn gwirionedd, dewisiad y cynghor sydd yn wir bwysig. Y cynghor yma fydd yn dewis yr holl athrawon, ac y mae yn bwysig eu bod yn ddynion fydd yn meddu hyder ac ymddiried yr holl genedl. Nid amser ydyw i ddadleu mwyach, ond amser i weithio. Edryched pob un Y11 ei gylch ei hun, fod y dynion priodol yn cael eu dewis yn llywodraethwyr, lie y mae y dewisiad yn rhyw ffurf yn Haw y bobi, ac ond cael llyw- odraetbwyr priodol, ceir cyngbor doeth a rhyddfrydol, a sicrha wasanaeth athrawon galluog a wnelo y Coleg yn fendith i Oglodd Cymru. LLADMERYDD.