Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

LLITH 0 CHINA ODDIWRTH Y PARCH…

News
Cite
Share

LLITH 0 CHINA ODDIWRTH Y PARCH W. OWEN. MOUNT CHANG, HANKOW, CHINA. Y mae llawer wedi ceisio genyf anfon gair i'r TYST A'R DTDD, ac yr wyf finau wedi addaw gwneyd hyny ryw dro, ac yn awr drwy eich caniatad, Mri Gol., yr wyf am gyflawni fy addewid, oblegid gwell yw bod heb addunedu, nag addunodu a bod hob daln. Pan yn eis- todd yn y capel un prydnawn yn niwedd mis Ebril; diweddaf, yn gwrandaw ar Mr Bao yn pregethu i'r bobl yma am y pethau a berthynent i'w tragywyddol heddwch, clywn rywun o'r tu ol i mi, mewn llais dipyn yn gyffrous, yn gofyn iddo, Syr, a glywsoch chwi fod y bobl yn symud o Hankow P" Clywais." Beth yw y rheswm ?" Nis gwn." A ydych chwi yn meddwl fod perygl yn bod ?" ychwanegai. Perygl yn wir, nac oes, pa berygl," atebui. Terfynodd yr holi a'r ateb yn y fan hon, ac aoth y pregethwr yn ei flacn fel cynt. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol yr ymddyddan ncbod, clywais drachefn fod y bobl yn symud o Han- kow wrth y degan. Beth sydd yft bod,meddwn wrthyf fy ban, tybed fod y bobl wedi gwirioni ? Prydnawn dydd Llun, Ebrill 30ain (os wyf yn cofio yn iawn), daeth un o'r diaconiaid yma i edrych am dalpf, ac ar ol siarad am rai pethau," gofynais iddo, beth oedd y rheswm fod y bobl yn symud o Hankow. Y mae yn auliawdd dywedyd," meddai, rhagor na'u bod wodi en dal gan rhyw ddychryn, ac yn ffoi am eu heinioes." Y mae i bob effaith ei achos, ac folly i'r amgylehiad cyffrons a gymerodd le yn Hankow dechrcn mis Mai. Ymddengys fod llu o newyddion rbyfedd wedi en taenu ar hyd a lied y wlad rywbryd yn mis Ebrill, a bod y cyfryw newyddion wedi cael en credn yn gyffredinol. Yn mysg pethau oreill, dywedir fod ser taironglog ar lun baneran rhyfel wedi gwneyd eu hymddangosiad yn ddiweddar. Gwelwyd hefyd, mae'n debyg, lun seirff aruthrol fawr, a llun baneran, a chleddyfau, a rhyfel- oedd a thywaUt gwaed ofnadwy yn y nefoodd uwchben, a dywedai rhai fod yr un geiriau yn ysgrifenedig ar y baneran ag oedd ar faneran y Ten Ping Rebellion. Cerddai y newyddion hyn fel trydan drwy'r He, a chaent eu credn, nid yn nnig gan blant, ond gan hen bobl hefyd; a rhyfedd yr offaith gaont ar eu meddyl- iau. Er cynddrwg yr arwyddion yn y nefoedd uchod, nid oeddent i'w cymharn am foment a'r arwyddion ar y ddaear isod yn echryslonrwydd eu dylanwad ar feddyl- ian y bobl. Y maeyn debyg fod yn Hankow ar y pryd rai canoedd o filwyr wedi eu difyddino, ond heb en talu, medd rhai, ac yr oedd eu presenoldeb yn y lie o dan y fath amgylchiadau, yn creu cryn aflonyddwch, a pha ryfedd, oblegid aeth y si allan eu bod yn bwriadu codi nn noson, a mynu eu tal trwy ladd a lladrata. 0 gylcb yr un amser daeth rhyw bobl wirion a'r newydd fod byddinoedd gwrthryfelgar ar eu taith i Hankow, a barnai llawer fod cynghrair rhyngom ni (sef yr holl dramorwyr yn y lie) a'r gwrthryfelwyr dysgwyliedig, a'n bod yn barod i godi fel un g\vr i'w cynorthwyo i ddinystrio Hankow, &c., y fynyd y cyrhaeddent y lie, ac, wrth gwrs,:bwriadem gyflawni rhyw weithrodocdd nad oedd gan yr un cnawd yr un ddirnadaeth am eu hysgelerder. Y mae gan bob dosbarth yn China ei dduw ei hun, ac yn eu plith y mae gan y Iladron eu duw hwythau, yr hwn a elwir cIsy syn. Rhywfodd neu gilydd, aeth y gair ar led fod amryw ganocdd o'r dos- barth hwn ar eu taith i Hankow i gadw gwyl, ac addoli en duw am roddi hwylusdod iddynt mewn Had- rata, &c., a'u cadw hwythau heb en dal. Pa un a oedd y dosbarth hwn yn dyfod i fyny i'r wyl hon gyda dwylaw llawnion nisgwn,ond y farn gyffredin oedd, eu bod yn bwriaidu dychwelyd gyda dwylaw llawnion a chefnau llwythog; bernid hefyd eu bod yn bwriadu cyflawni rhywbeth llawer iawn gwaeth na lladrata. Y mae yn China In o gymdeithasau dirgelaidd (secret societies), ond nis gwyddis yn iawn beth yw eu ham- canion; barna rhai mai dadymchwelyd y rheolaetli bresenol (present dynasty) yw eu hamcan; modd bynag, taenid y gair ar led fod un o'r cymdeithasau hyn yn bwriadn codi nos lau, Mai 3ydd, a lladd yr holl dramorwyr yn y Ile, yn enwedig y Pabyddion; barnai ereill mai dim ond y Cristionogion brodorol oedd i gael eu lladd, a barnai y lleiil rywbeth arall. Yr oedd Hankow, wrth reswm i gael ei llosgi. 0 ddrwg i waeth, daliodd rhyw bobl ddrwg ar yr amgylchiad cyffrous hwn i geisio gwneyd ychydig arian. Aent oddiamiylch gan werthu tocynau, a llwyddasant, mae'n debyg, drwy eu cyfrwysdra i werthn rhai. Er cymhell y bobl i brynu, dywedent, Peidiwch ofni, prynwch docynau, ac yna pan gyfyd y gymdeithas a'r gymdcithas, dangoswch eich tocynau, a byddwch yn berffaith ddy- oel." Ymddengys i'r cynllun ysgelcr hwn wneyd mwy cr dychrynu y bobl na dim arall, a pha ryfedd, yr oedd yn debyeach i wirionedd ria'r Ileill o lawer. Nid yw Salan i'w ofni yn fawr pan yn dyfod atom yn eiliw a'i groen ei hun, ac o dan ei enw priodol, oblegid y mae y rhan fwyaf yn adnabod y bwyslfil, ac ar (11 gwyliad- wriaeth yn barod iddo ond pan yn dyfod atom o dan yr enw cyfaill, fel Judas, neu o'dan yr enw dafad, heb ddim ond ei chroen, neu ar ol ymwthio yn angel goleuni, y mae i'w ofni mewn gwirionedd. Felly y geliir dywedyd am ystraeon disail a chelwyddog, ni raid eu hofni ond y peth nesaf i dditn pan yn ym. ddangos yn ea gwisgoedd eu hunain ond pan yn rhodio oddiamgylch wedi ymwisgo a mantoll gwirionedd, y maent i',w hofui yn fwy na seirff tanllyd yr anialwch. Yr oedd Hankow erbyn hyn a'i rhwng chwech ac wyth can' mil o bobl, fel crochati be'wedig, neu gocdwig yn cael ei hysgwyd gan gorwynt. Boreu dydd I'.n, °Mai 3ydd, aethum drosodd i Hankow ar neges, a'r peth cyntaf glyw-iis wedi croesi'r afon oedd, fod miloedd lawer o'r bobl wedi troi. Ar ol cyrhaedd y llythyrdy, bysbyswyd fi fod yr awdurdodau wedi g "i r.Siynr, u cau pyrtli y dref y noson flaenorol er atal y bob! i ddianc, a bod canoedd o filwyr ar y mnr, yn gvvylied rhag ofn i'r bobl ddefnyddio rhyw foddion i fyned drosodd ond waeth iddynt gau y pyrth fwy na pheidio, tra mae'r ffordd yn rhydd at yr afon, a'chychod i'w cael, tfoi mae'r trigolion. Tra yn sefyll ar yr heol o flaen y llythyrdy, gwelwn hen wyr ac hen wragedd, pobl ionainc a phlant, yn dylifo tuag at yr afon ac i'r cychod a hwynt, rhai i'w chroesi ac ereill i fyned i lawr drosti am ryw filldir nos cyrhaedd y tnallan i fur y dref, ac yzia yn myned i'r Jan, a ffwrdd a. hwynt. Yr oedd rhyw stori newydd i'w chlywed yn barhaus, ac un o'r newyddion diwoddaf glywais oedd fod pobtmmorwr yn y lie wedi ffoi, felly rhaid oodd fod y cwbl yn wirion- edd a'r diwoiid wrth y drws. 0 gwmpas pump o'r glooh, aethum gyda Mr John i'r cyfarfod gweddi wythnosol, ac fe fydd yn dda gan bob un sydd yn teimlo dros achos Iesu Grist yn China, rideall fod ein brodyr a'n chwiorydd Chineaidd yn y capel mor Huosog ago arferol, ac yn bur dawol eu meddylian, or ei bod erbyn hyn yn rliyfcrthwy ofnadwy yn meddyiiau y lln mawr oedd y tuallan. Gwnaeth Mr John ychydig sylwadau ar Salm xci., ac yr oedd y Salm a'r sylwadau yn taro yr amgylchiad i'r dim. Wedi i ni gael ein cyflwyno i Dduw mewn gweddi, a cbanu mawl i enw yr hwn a fedr ostegu terfys y bobloedd, &c., ymadawsom. Ar y ffordd gartrcf tetliom yn ein blaen at yr afon, ac or ei bod yn wynt cryf a'r tonau'n uehel, gwelem lu o gychod yn llawn o bobl yn ffoi am eu heinioes. W rth ddychwelyd cyfarfyddem åg ereill yn myned, ac 0! 'r fath olwg sobr a difrifol oedd arnynt. Gallesid me ld- wl fod en hysbryd o'n mewn woii pallu. Wedi cyr- haedd y ty, gofynodd Mr John i'w gogydd, os oeJd arno ofn, Nac oes," atebai, gan geisio gwenu, ond nid oedd eisieu llygad treiddgar iawn i allu canfod ei bod yn wasgfa a chaledi yn y dyn oddifewn. Y chydig ar hyn gofynais inau iddo, sut yr oedd pethau gartref. 0, trallodus dros ben," mcddai, y mae'r heol lie yr ydym yn byw yn wag bron o un pen i'r llall, a phe byddai lladron ddim ond dyfod, hawdd iawn fyddai iddynt ladd a lladrata y cwbl." Mae'r haul wedi machlud, a chysgodan'r nos yn cyflym daenu eu hadenydd drosom, ond parhau i symud mae'r bobl. Cyn myned yn mhellach, gwell fyddai dy- wedyd, mai deuddo, o'r gloch nos lau, Mai y 3ydd, oedd yr awr ragddywededig- y buasai yr holl bothau a ofnant yn dyfod arnynt. Gyda phriodol(ieb ncillduol y gallesid dywedyd yr adeg hono-" Ac ar y ddaear ins: cenedloedd gan gyfyng-gynghor," "a dynion yn Ilewygu gan ofn, a dysgwyl am y "pethau sydd yn dyfod ar y ddaear." Anmhosibl yw i neb ond i'r cyfryw a'u gwelsant ac a'u clywsant gael yr un dirnadaeth am y cyfyngder tneddwl yr aeth y bob! yma drwyddo ar y pryd yr oedd dynion, os nid yn Ilowygu, yn gwelwi gan ofn. Rhwng wyth a naw o'r gloch y noson hono, aethum allan i'r heol er cael giveled a cblywed snt yr oedd pethau erbyn hyn. Er ei bod yn dywyll, hawdd oedd deall fod rhywbeth tra gwahanol i arfer yn bod. Yr oedd drysau y masnachdai, a phob drws arall wedi ei gau, ac nid oedd yr un dyn i'w weled yn un man, oddieithr anabell un o'r heddgeidwaid brodor- 01. Bum yn siarad a. rhai ohonynt, ac ni chefais fwyo bleser yn fy mvwyd wrth ddywedyd gair care.lig, na a gefais y noson hono; ceisiwn eu cysuro, a'u cynghori i fod yn dawel eu meddyiiau, a pheidio ag ofni, nad oedd yr un perygl yn bod; ond yn ofer ac am ddim (am wo i) y treuliwn fy neith, ni fyncnt gredu nad oedd y diwedd wrth y drws. Gofynwn iddynt fainf o'r bobl ddarfu ffoi, Naw o bob dog," meddai un, Wyth o bob dog," meddai y llall. Nid oes sicrwydd faint ddarfu ddianc, ond y farn srvffredin yw i ddwy ran o dair wneyd hyn. Aeth miloedd gartref at eu perthynasau a'u cyfeillion, a'r lleiil [tllan i'r gwastadedd tua.!lan i fnriau Hankow dros y nos. Dychwelais i'r tj ychydig ar ol naw o'r gloch, ond bum allan drachefn rhwng deg acun-ar-ddeg a chlywn y milwyr yn chwythu yn eu cyrn yma a tbraw drwy'r dref, ac ar y raur wrth gadw gwyli'adwriaoth. Wedi dychwelyd i'r ty, bu Mr John a minau yn siarad hyd o fewn ychydur i haner nos. Y mae yr awr, ie, a'r fynyd rha^ddywededig bron wedi dyfod. 0, pwy all amgyffred yr artcithiau meddwl yr oedd y bobl yma ynddo ar y pryd Beth gymer le, tybed ? Treuliasom haner nos ar cin gliniau mewn gweddi, nid am ein bod ni yn ofni, nac yn dysgwyl i ryw gyfhfan gymeryd lie, ond i ofyn i DJuw am roddi ymwared i'r canoedd o filoedd oeddynt mewn cyfyngder, heb wybod pa le i fyned, nac at bwy i droi am ymwared yn eu caledi. Y mae haner n03 drosodd, felly aethom i fyny i'r veran- dah, a buom yn rhodio yn ol a blaen hyd haner awr wedi deudue?, gall edrych dros y dref; ond uid oedd (lini i'w weled, na dun i'w glywed chwaifcb, ond y gwylwyr yn chwythn yn on cyrn, a'r cwn yn cyfarth. Peth cytircdin iawn yn Hankow yw gweled tan yn tori allan, a chanoedd o dai'yn cael u troi yn Jludw mown ychydig amser, a phe buasai hyn, non ryw anffawd arall ddim ond cymeryd lie yr adeg hono, diau y buasai pob copa walltog yn ffoi gan feddwl fod y diwedd wedi dyfod, ond drwy drugaredd ni ddygwyddodd dim o'r fath. Wedi myned i'n gwelyan, cysgasom yn dawel hyd haner awr wedi pump boreu dydd Gwener (Mai 4ydd), a diamheu y bnasem yn cysgu yn dawel atn awr neu ddwy arall, oni bai i ni gael ein deffroi gan ryw dwrw ar yr heol o flaen y ty. Er mwyn cael gwclod beth oedd yn bod, codais ac at y ffenestr a mi, ac er fy mawr lawenydd a digrir>,ch, gwelwn y bobl yn dychwelyd wrth yr ugeiuian dan siarad a chwertliin nerth esgyrn eu penau. Brysiais i lawr i'r grisiau, ac allan a mi i'r geain i edrych am y cogydd, i gael gweled sut olwg oedd arno, ond cyn i mi gael amser i a gov fy ngenau chwarddodd yn iach, a chwarddais inau hcfyd wrth ei weled. Y mae Hankow lie),) ei ilos,-i, ,t'r I)ol)l lieb eu lladd, ineddwu. "Chweilhtu ben wragedd," meddai. fy eagidiau am fy nhr»ed, ac ailan i'r heol a. mi, ac o ddifrif chlywais i erioed ffasiwn glcbran a chwerthin. Aethum yn fy mlaen at orsaf yr heddgeid- waid, a gwelwn dflau o'r swyddogion y bum yn siarad a hwynt y noson flaenorol, yn dyfod i'm cyfarfod, ac yr oeddynt yn wynebau i gyd pan welsant fi. Y maent heb eich lladd, moddwn wrth fyned heibio. Ha, ha, ha," oedd yr ateb gefais, a ffwrdd a hwynt. Wedi dychwelyd i'r ty ceisiodd Mr John genyfi fyned gydag ef i fyny i'r dref; ar ein ffordd gwelem y bobl yn dych- welyd o bob cyfeiriad, ond or ein mawr syndod, gwelem ambell nn yn ffoi a'i faich ar ei gcfn fel y parerin o d iinas dystryw. Er holi, anmhosibl oedd cael yr un rheswm am y fath gymysgedd; modd byna-, yri nihon rhyw awr ar ol hyn, hysbyswyd ni eu bod wodi cam- gymeryd, mai nid y no'on flaenorol oedd y gyflafan i gy- meryd lie, ond y nos LUll canlynol, a bod ambell un yn dechreu ffoi eisoes ond drwy drugaredd y mae y noa Lun hono, neu yn hvtrach y gyflafan a ddysgwylient y nos Lun hono heb ddyfod. Yn nghanol y rhyferthwy ofnadwy hwn, daliodd y Cristionoixion eu tir fel dewr- ion ni ddarfu i gymaint ag un ffoi, byd yn nod y tu- allan i'r mnr, er i lawer geisio eu dychrynu drwy ddy- wedyd mai hwy, a hwy yn unig oedd i gael eu lladd, &c. Bu Dnw yn noddfa ac yn nerth iddynt yn y dydd blin hwn. Pa bryd y gwawria'r dydd, pan fydd y Chineaid fol cenedl wedi dyfod mor barod i gredu yr Efengyl, ag y macnt hcddyw i gredu pob peth ofor- sroelus a ffoi ? ".0 na wawriai, &c., borea hyfryd jubili," yw ein gweddi bob dydd. Y mao ein bonai(I yn hiraethn am y fath adeg; adeg- pan y "cyflawnir y proffwvdoliaethau," ac y daw'r boll addewidion i ben;" ie, a phan y caiff Iesu weled o lafur ei enaid a chae! ei ddiwallu. 0 ddydd bendigedig, pa bryd y daw ? Cyn terfynu, a gaiff y llwch gwael hwn drwy gyf- rwng y TYST, erfyn ar fy anwyl genedli wneydcoffa mynych ohonom ni a'n gwaith yn eich gweddlau ? Maddeuwch i mi an fod mor amleiriog. Torfynaf gyda mil a mwy o gofion cynes at bawb yn mbob man. WILLIAM OWEN.

Cyfa rfo d y d d, &c.

[No title]

Advertising