Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

"MORGANS, SAMMAH."

News
Cite
Share

"MORGANS, SAMMAH." Tarawia.dol i mi ydoedd gweled yn ddiweddar yn y TYST A'R DYDD gofnodiad am farwolaeth Mrs Morgans, Sammah, gweddw y diweddar Hybarch Hugh Morgans. Daeth i'm meddwl yn fyw yr amser y bum gyntaf yn pregethu yn nghapel Sammah, pan nad oeddwn ond bachgenyn, ac yn lletya yn ei thy hi a'i gwir barchedig wr. Yr oeddynt y pryd hwnw yn cadw siop, ac yn masnachu ryw gymaint mewn gwlan. Hi, fel y deallais, oedd yn gofalu yn benaf am y siop ac yr wyf yn cofio y dywediad canlynol yn cael ei ddy- weyd am danynt, sef 'Beccah. y byd hwn, a Morgans y byd arall." Ond yr oedd hi, er mor ddiwyd a gofalus gyda phethau y byd hwn, yn 'Beccah y byd arall hefyd, oblegid barawyf na Wan i ddim erioed yn lletya yn nhy gwraig mwy duw- iol na hi. Yr oedd cryn lawer o arabedd yn perth- yn iddo ef, a hyny yn neillduol mewn ymddydd- an eyffredin. Ynddo ef yr oedd difrifoldeb a di- grifwch yn gydblethedig — ei ddifrifoldeb yn ddiffuant, a'i ddigrifwch yn ddiniwed. Yr oedd ei fau-ddywediadau witty yn dra gogleisiol i'm teimlad i bob amser, ac yr oedd yr ychydig atal dyweyd oedd arno yn eu gwneyd i mi yn fwy felly. Clywais ei fod ar un tro yn pregqthu yn oedfa 7 o'r gloch y boreu ar ddydd cymanfa yn y Bala, ac i rywun ddyweyd wrtho ar ol yr oedfa., Mr Morgans, arfu i chwi bregethu yn dda iawn y boreu yma." "Ai e," meddai yntan, os felly, beth pe clywsech fi yn pregethu yn yr oedfa ddeg ?" gan ddifyr ledawgrymu y pregethasai gymaint yn well pe y cawsai yr anrbydedd o bregethu yn y brif oedfa. Clywais fod y Parch William Rees, D.D. (Hiraethog), ar un tro yn lletya yn ei dy, yr hyn oedd, fel y tybiwyf, lawer o flynyddau cyn iddo gael ei urddo ya D.D., ac ebe Mrs Morgans wrtho, Mr Rees, beth gaf fi ei wneyd i chwi i swper? A leiciecb chwi gael tatws wedi eu berwi?" Na, na, 'Beccah," meddai Mr Morgans, tatws heb eu berwi y mae Mr Rees yn eu leicio," ganroddi ar ddeall iddi fod y dull yr oedd hi wedi gofyn ynddo o duedd i arwyddo y buasai i Mr gees ond odid gymeryd tatws ond mai nid wedi eu berwi y cymerai ef hwynt, am mai ei arferiad ef, fel y tybid, oedd eu bwyta heb eu berwi. Rhyw ddeng mlynedd ar ugain yn'ol yr oedd y Parch R. D. Thomas (lorthryn Gwynedd), yn:weinidog yn Penartb, sir Drefaldwyn. Yr oedd pedwar o gapelau dan ei ofal, a rhyngddynt oil yr oedd tipyn o ddyled yn bod arnynt, a darfu i'r gwrol a'r anturiaethus lorthryn fyned i'r America i gasglu arian tuag at dalu y ddyled hono. Aeth a dychwelodd yn anrbydeddus, a chanddo ddigon o arian wedi eu casglu yn America i dalu yr oil ohono. Cynaliwyd gwyl o jubili ar yr achlysur ac ar gae cyfagos i'r capel yr wyf yn cofio gweled torf fawr o bobl wedi dyfod yn nghyd o'r holl ardaloedd cylchynol i ddathln yr amgylch- iad hwnw ac oddiar y stage, ar yr hwn y pregeth- id, gwelwn gyda ehwr y gynulleidfa yr haelgalon Huw Jones yn tywys pony gref, luniaidd, dios, a chyfrwy newydd hardd ar ei chefn, a ffrwyn newydd, brydferth yn ei phen—yr oil yn anrheg a roddid i lorthryn am ei waith ardderchog yn talu'r ddyled, Gogoneddus oedd hi yn Penarth y dydd hwnw. O 1 pa le y mae llawer ag oeddynt yn bresenol yn y cyfarfod hwnw ? Llawer ohon- ynt yn eu beddau, ac yn eu plith Sarah Maldwyn, hoff briod lorthryn, yr hon sydd yn ei bedd yn nhir y Gorllewin pell er's blynyddau lawer bell- ach. Bernid mai priodol iawn oedd fod i hanes eglwys Penarth yn nghyda'r cangenau cysylltiedig a hi, i gael ei roddi yn gyhoeddus ar yr achlysur hwnw, yr hyn a wnawd yn rhagorol gan lorthryn. Cyn oedfa'r bore darllenodd ef ei ysgrif a gynwys- ai'r hanes hwtiw i ryw ddau neu dri o'i ddewisiad ei hun ag yr oedd ganddo ef yr hyder mwyaf yn eu beirniadaeth, a'r rhai hyny oeddynt y Parcbn D. Morgan, Llanfyllin; Samuel Roberts, Llan- brynmair; a Hugh Morgans, Sammah. Yr oedd- wn inau hefyd fel rhyw ir-lanc o weinidog wedi cael y fraint o eistedd gyda hwynt yn yr ystafell i fyny y grisiau yn nby'r capel. Adyma lorthryn yn darllen yn mlaen mewn dull ag oedd yn hytrach yn ddoctiraidd, yr hwn oedd yn bur naturiol iddo ef ac wrth ddarllen, dywedai gyda golwg ar Penartb, ar ryw gyfnod y cyfeiriai ato, fod y capel wedi myned yn bur llygredig. Ho," meddai Morgans, Sammah, mi glywais lawer gwaith am galon lygredig, am ddyn Ilygredig, ond ddim erioed o'r blaen am gapel llygredig." Byddai yn well i chwi," meddai Samuel Roberts, roddi y gair dadfeiliedig, yn lie llygredig," ac felly y gwnaeth. Ac wrth ddarllen ryw ran arall o'i ysgrif, dywedai "yn y flwyddyn 1843 y daeth- om NI yma yn weinidog." "Yn lie ni," meddai Samuel Roberts, byddai yn well i chwi ddy- weyd, y daeth y gweinidog presenol yma, neu roddi eich enw priodol yn lie y ni." A dyna Iorthryn yn gwneyd y cyfnewidiad, ac yn ei ddar- llen fel hyn, Yn y flwyddyn 1843 y daeth Robert Dafydd Thomas yn weinidog yma." Ho!" meddai Morgans, Sammah, "Ai ni ddylasai ddy- weyd ni, oblegid y mae yma dri ohonynt hwy, sef Robert, a Dafydd, a Thomas." Pan yn fachgen, arferwn fyned 0'111 cartref yn Tanllan, Llanfihang- el, i gyfarfod y Pasg yn Llanfyllin, dyna oedd y cyfarfod uchaf ei fri yn y parth hwnw o Faldwyn, ac yn mhlith y gweinidogion cyntaf a welais ac a glywais i yn nghyfarfodydd y Pasg yn Llanfyllin yr oedd Morgans, Sammah, a Williams, Aber- hosan. Teithient ar gefnau ceffylau gwychion, ac yr oedd iddynt ill dau ymddangosiad parchus iawn a barnwn eu bod yn ddau ddyn da iawn, ac nad oeddwn i wedi gweled golwg mwy parchus ar unrhyw ddau weinidog. Teimlwn ryw ddwys- barch iddynt. Gresyn mawr oedd i'r anwyl Williams orfod dyoddef cryn fesur o wg a daros- tyngiad ar fin nos ei fywyd. Ond credai Morgans ynddo y tro diweddaf y clywais ef yn cyfcirio ato. Ymddangosai i mi eu bod yn hen gyfeillioa anwyl i'w gilydd, fel ryw Dafydd a Jonathan o gymdeith- ion i'w gilydd. Tybiwyf eu bod hwy cyn hyn wedi cwrdd yn y wlad, yn yr hon y mae ei holl drigolion mown gynau gwynicn, wedi eu golchi a'u ennii yn ngwaed yr Oen, ac ni bu, ac nid oes, ac Ni bydd yno gofio beiau, Dim ond llawn faddeuant rhad." MALDWYN YDD.

.DOWLAIS.

LLANELLI.

Advertising

DAU SABBOTH GYDA'H SAESON.…