Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YR UNDEB YN FFESTINIOG.

News
Cite
Share

YR UNDEB YN FFESTINIOG. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Gwelaf fod Cyfarfodydd yr Undeb y flwyudyn hon yn Ffestiniog yn parhau i dynu sylw mawr. Da iawn hyny, canys wrth eu hadolygu mewn ysbryd brawdol y mao gobaith am eu diwygio a'u dwyn yn agos at berffeithrwydd. Yr wyf wedi darllen Ad-drem "Titus Llwyd" yn y TYST A'R DYDD diweddaf gyda dyddordeb mawr, ac yn cyduno a'r rhan fwyaf o'i sylwadau. Bftm inau yno, a mwynheais fy hnn yn fawr iawn. Tynodd rhyw bethau fy sylw, ac y mae arnaf awydd cyfeirio atynt. Yr oedd y lletygarwch a'r caredig. rwydd a ddangoswyd i'r ymwelwyr tuhwnt i ganmol- i teth. Yr oedd pawb y daethom ni i gyffyrddiad a. hwy yn canmol dros bob terfynau. Dygwyddasom ni fod yn lletya gyda brawd o Fethodist, ac nid oedd pall ar ei giredigrwydd ef a'i anwyl briod. Pe buasem ni a'n cydymaith yn ddan dywysog, ni allssent wneuthur mwy ohonom. Teilynga y Pwyllgor Lleol bob cymeradwyaeth am bordeithrwydd eu trefniadau. Yr ydym wedi dilyn y cyfarfodydd hyn o'u dechreuad, ac ni welsom drefniadau mwy pertfaith erioed. Nid oedd dim twrw, fuss, na thymer ddrwg yn un lie, ond pobpeth yn myned yn mlaen yn naturiol a rhwydd. Gwelliant mawr yw cael ciniaw mewn amryw leoedd— mae byny yn arbed crowdio, ac o gymaint a hyny yn twy manteisiol i gael tamaid yn hwylus. Yr oedd y ciniawau a'r te yn y lleoedd y buom ni yn rhagorol; ond er hyny, clywsom rai yn achwyn ar y bwyd a'r attendance. Nid oeddwn yn eu hadnabod, onide buasai yn brofedigaeth i mi eu henwi, gan obeithio y buasai hyny yn codi cywilydd arnynt. Yr oeddwn yn barnu wrth eu gwisg a'u moesau wrth y bwrdd nad oeddent wedi cael cystal bwyd gartref erioed, ac y rrae yn sicr genyf nad oes ganddynt was na morwyn i weini arnynt yno. Pa gosb ddylid roddi i'r gi waid achw n- gar hyn ? Po byddent with fwrdd y brenin, byddai yn rhaid gael achwyn yno. Dylent gael eu cadw mewn tywyll-dy am flwyddyri, a'u porthi ar datws a llaeth, am en bod mor lhyfygus ag achwyn ar y dirpariadau yn Ffestiniog. Cydunwn a Titus Llwyd yn ei gondemniad o'r gwr parcbedig a safodd i fyny i aaerch y dorf ar achlysur pwysig yno bob barotoi. Addefodd hyny ei hun, ac nid ydym heb farnu fod ychydig o f6st yn swnio trwy yr addefiad. Dywedodd lawer o beth au da, ond buasent yn well, a chawsid mwy ohonynt, pe wedi parofoi yn ofalus. Yn sior nid yw llwyfan yr Undeb yn lie i ddynion sefyil i fyny i ddyweyd nothings. Ma? dyogelwch yr Undeb, i raddau pell iawn, yn ytnddibynu ar fod dynion yn gwneyd eu goreu i barotoi ar gyfer y gwaith a roddwyd iddynt. Pan mae dynion yn cael digon o rybudd, nid yw yn amgen nag- insult i'r gynulleidfa i addef eu bod yn ei gwynebu heb barotoi. Os na all y Cadi-irydd wneyd oi Anerchiad o'r Gadair o fown terlynau un awr, ni ddylid caniatau rhagor o amscr iddo i'w darllen. Mae cymeryd awr a thri chwarter at ddarllen un anerchiad allan o bob rheswm. Pe byddai mor ddoeth ag eiddo Solomon, nis gall un .gynullcidfa oddef gyda dim amynedd pleserus ddar- lloniad am fwy nag awr. Gobeithio y cymer y c ideirwyr dyfodol yr awgrym, ac na wnant fod mor hunangeisiol ag ysbeilio ereill o amser gwerthfawr. Catwyd papyrau rhagorol, a thalant yn dda eu darllen a'u myfyrio; ond yn sicr mae yn rhaid cael tcrfyn ar y display of tvittic,ism with benodi lie yr Undeb y flwyddyn ddyfodol. Ar y pryd, yr oeddym yn ei fwynhau gystal a neb, ond wedi iddo fyned heibio cododd adflas anriymunol yn ein meddwl. Gwneler pobpeth yn weddaidd ac mewn trefn. Mae golygfa fel a eafwyd yn Ffestiniog yn ddarostyngiad ar urddas yr Undeb, ac yr ydym yn gobeithio na flinir ni mwyach gan ei chyffelyb. Yr oedd yr areithiau yn y cyfarfod cyhoeddns yn bobpsth allesid ddymuno, ac yn adlewyrchu clod mawr ar yr aroithwyr. Synai pobl o enwadau ereill fod dynion mor ieuainc yn cael eu gosod mor bromincnt, ond synent hwy lawer eto pe bvddent yn gwybod rhagor am danom fel Enwad. Nid oes un enwad yn Nghymru lie mae mwy o fantais i ddyn talentog i ymddadblygu na'r Enwad Annibynol, ac y mae Cyfarfodydd yr Undeb yn fantais ychwanegol i hyny. Os nad yw dyn yn cael ei gydnabod a'i weled, gal deimlo yn dawel nad oes dim ynddo-gwell iddo wneyd ei waith yn ddystaw, oblegid beirniad lied uniawn yw y cyhoedd ar y cyfan. Cawsom bregethan bendigedig ar y maes ac yn y capeli, ac yr oedd yn llawenydd genym weled dynion mor gymharol ieuainc yn cymeryd safleoedd mor bwysig ac yn pregethu yr Efengyl gyda'r fath urddas a dylanwad, Nid ydym yn ot'ni rhyw lawer am ddyfodol ein gwlad tra y cyfyd yr Arglwydd ddynion o fath y rhai hyn i bregethu yr Efengyl, ac y mae y tyrfaoedd mawrion oedd yn gwrando yn brawf nad yw pregetha wedi colli ei afael ar y wlad. Ond mae yn rhaid i ni gael gwrthdystio yn y modd mwyaf diamwys yn erbyn y diolch ar ddiwed I yr oedfa ddau o'r gloch. Os oes diolch i fod i enwadau ereill o gwbl am en caredig- rwydd, gofaler iddo gael ei wneyd yn nrddasoI. Teimlwn fod cyfrifoldeb ofnadwy ar unrhyw ddyn a ddywedo ffolineb gwatwarus ar ddiwedd oedfa dda. Gwelsom lawer oedfa ragorol yn cael ei llwyr ddinystrio gan glebar ynfyd rhywun ar y diwedd. Yr ydym am dynghedu y Pwyllgor i osod terfyn tragy wyddol ar y diolch cyhoeddns yma, neu ynte ofalu eiddo gael ei wneyd yn deilwng. Yn sicr i chwi, nid oes dim mor sicr o ladd yr Undeb a gwneyd pregethu yr Efengyl yn wawd gerdd nag ail adroddiad mynych o'r diolch gafwyd yn Ffestiniog. Terfynwn gyda hyn yn awr, rhag blino eich darllenwyr a. meithder. Hyderaf gael byw i weled a mwynhau cyfarfodydd y flwyddyn nesaf, ac os caf wleddoedd cyffelyb, byddaf yn foddlawn. Os caf hamdden, bwriadaf alw sylw eto at ryw faterion perthynol i'r Undeb. Gwp. O'E DE.

Adolygiad y Wasg. --

Telerau y Tyst a'r Dydd.

Y BEIBL YN YR YSGOLION DYDDIOL.