Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

FICER WAKEFIELD,

News
Cite
Share

FICER WAKEFIELD, GAN OLIVER GOLDSMITH. [Cyfieithiad netllduol i'r GWLADOAKWR.] PENOD XXXI. f Par had J. WEDI i Mr. Wilmot yn awr dd'od i mewn ymddangosai wedi ei foddhau Did ychydig wrth y perygl y diangasai ei ferch rhagddo, ond yn ebrwydd a gydsyniodd i ddrylliad y briodas. Ond yn cael fod ei ffortiwn hi wedi ei sicrhau i Mr. Thornhill trwy ysgrif- xwym, yr hon ni roddid i fyny, nis gallai clim fod yn fwy ca'i siomedigaeth. Gwelai yn awr y byddai raid i'w harian fyned i gyf- oethogi un Bad oedd ganddo yr un ffortiwn ei hunan. Gallai oddef iddo fod yn rascal, ond yr.oedd bod mewn angen o'r hyn oedd gyfwerth i ffortiwn ei ferch yn wermod. Eisteddodd felly am rai mynudau yn y myfyrdodau mwyaf pruddaidd, hyd nes i Syr William wneyd ymgais i leihau e bryder. Rhaid i mi gyffesu, syr," ebe fe, "nad yw eich siomedigaeth presenol yn fy hollol anfoddhau. Eich awyddfryd annghymedrol am gyfoeth yn awr a gosbir yn gyfiawn. Ond er nas gall y foneddiges ieuanc fodyn gyfoethog, y mae ganddi eto ddigon i fod yn gysurus. Yma gwelwch filwr ieuanc gonest, yr hwn sydd yn foddlawn ei chymeryd heb ffortiwn; y maent wedi hir garu eu gilydd, ac yn herwydd y eyfeill- garwch sydd rhyngwyf a'i thad, ni cbaiff yr hyn allaf fod yn ol er eu ffyniant. Gad- ewch ynte yr uchelgais yna a'ch sioma, ac am unwaith gollyngwch i fewn y ded- wyddwch hwnw a wahodda eich derbyn- iad." Syr William," ebe yr hen foneddwr, e, gellwch fod yn sicr na ddarfu i mi erioed eto orfodi ei thueddiadau, ac ni wnaf yn awr. Os yw hi eto yn para i garu y bon- eddwr ieuanc hwn, bydded iddi ei gael a'm holl galon. Y mae eto, diolch i'r nefoedd, ryw gymaint Q ffortiwn yn weddill, a gwna eich addewid ef ychydig yn fwy. Dim ond bydded i'm hen gyfaill yma" (gan olygu myfi) roi addewid i setlo chwe' mil o bunau ar fy merch, os byth y daw i'w ffortiwn, a byddaf fi yn barod y nos i fod y cyntaf i'w huno a'n gilydd." Gan ei bod yn gorphwys arnaf fi yn awr i wneyd y par ieuanc yn ddedwydd, rhodd- ais yn rhwydd fy addewid y gwnawn yr hyn a ofynai, yr hyn, i un nad oedd ganddo ond mor lleied o ddisgwyliadau a mi, nid oedd yn ffafr fawr. Cawsom felly yn awr y boddhad o'u gweled yn neidio i freichiau «u gilydd mewn per-lewyg. 4i Ar ol fy holl anffodion," ebe fy mab George, i gael fel hyn fy ngwobrwyo! Yn sicr, y mae hyn yn fwy nas gallwn byth ryfygu disgwyl am dano. I gael y meddiant o'r oil ar ol y fath ysbaid o boen! mis gallai fy nymuniadau cynesafbyth godi mor uchel! Ie, fy George," ebe ei briodferch siriol, .'yn awr bydded i'r adyn gymeryd fy ffortiwn; gan eich bod chwi yn ddedwydd hebddo, felly yr wyf finau. 0, y fath-gyf- newidiad a 1JDaethum oddiwrth y gwaelaf « ddynion at yr anwylaf a'r goraf. Bydded iddo fwynhau ein ffortiwn: gallaf fi yn awr fod yn ddedwydd hyd yn nod mewn angen." Ac yr wyf yn addaw i chwi," ebe'r yswain gyda gwen faleisddrwg, y byddaf ilnau yn ddedwydd iawn gyda yr hyn ddir- mygwch chwi." Aroswch, aroswch, syr," ebe Jenkin- aon, y mae dau air i'r fargen yna. Gyda golwg ar ffortiwn y foneddiges yma, syr, ni ehewch byth gyffwrdd a'r un ddimai ohono. Atolwg, eich anrhydedd," ebe fe wrth Syr William, a all yr yswain gael ffortiwn y foneddiges hon, os yw wedi priodi ag un arall ? Pa fodd y gallwch ofyn y fath gwesi- iwn syml? ebe y barwnig; "yn ddidadl, nis gall." Y mae yn ddrwg genyf am hyny," ebe Jenkinson, u canys gan i'r boneddwr hwn a minau fod yn hen gyd-ddifyrwyr, y mae genyf gyfeillgarwch tuag ato; ond rhaid i mi ddatgan, er cystal yr wyf yn ei garu, -mad yw ei gytundeb yn werth pren myglys, eanyo y mae wedi priodi yn barod." Dywedwch gelwydd fel y rascal," ebe yr yswain, yr hwn a ymddangosai fel wedi ei gynhyrfu gan y sarhad; "ni fum i orioed yn briod eyfreithlon i un ddynes." Yn wir," begian pardwn eich anrhyd- edd,v ebe y llal], I- ehwi fuoch, a gobeitbio y dangoswch ddyehweliad priodol o'ch cyf- callgarwch idd eich hen Jenkinson, yr hwn a ddyga i chwi wraig; ac os ffrwyna y cwmni eu cywreingarwch am ychydig fynudau, cant ei gweled hi. Gan ddywedyd hyn, aeth ymaith gyda'i frys arferol, gan ein gadael oil i ffurfio unrhyw ddyfaliad tebygol gyda golwg ar ei fwriad. Ie, gadewch iddo fyned," ebe yr yswain, "pa beth bynag arall y dichon i mi ei wneyd, yr wyf yn ei herio yn hyna. Yr wyf yn rhy hen yn awr i gael fy Bychrynu gap fflamigan." "Yr wyf ya synu," ebe y barwnig, 141 beth all fod y creadur yn amoanu wrth hyn. Rhyw ddarn o ddigrifwch isel, feddyliwn." Efallai, Syr," meddwn inau, "fod ganddo fwriad mwy difrifol; canys pan adfyfyriom ar y gwahanol gynlluniau a osodwyd gan y boneddwr hwn i hud ddenu y diniwed, efallai fod rhywun mwy cyf- rwys na'r Ileill wedi ei gael yn alluog i'w dwyllo ef. Pan ystyriom y fath niferi y mae wedi ddinystrio-faint o deuluoedd yn awr a deimlant ingoedd yr anfri a'r llygriad a ddygodd ef i'w teuluoedd—ni fuaswn i yn synu pe byddai un o ohonynt Syndod A wyf yn canfod fy merch golledig A wyf yn ei dal! Hyn yw fy mywyd-fy nedwyddwch Tybiais dy fod wedi dy golli, fy Olivia, eto dyma fi yn dy ddal, ac eto ti gai fyw i'm ben- dithio i." Nid oedd perlesmair cynesaf y cariad anwylaf yn fwy na'r eiddol fi, pan welais ef yn d'od a'm plentyn, a phan ddaliwn fy merch yn fy mreichiau, dystawrwydd yr hon ni wnai ond datgan ei pherlewyg. "Ac a wyt wedi dychwelyd ataf, fy anwylyd," meddwn i, "i fod yn gysur i mi mewn hen ddyddiau." "Hyny ydyw hi," ebe Jenkinson, "a gwnewch yn fawr o honi, canys hi ydyw eich plentyn anrhydeddus, ac yn ddynes mor OBest a neb yn yr ystafell, bydded hono pwy a fyddo. Ac am danoch chwi- thau, yr yswain, -can sicred ag y sefwch yna, mae y foneddiges ieuanc hon yn wraig briod gyfreithlon i chwi; ac i'ch argyhoeddi nad wyf yn dweyd dim ond y gwir, dyma y drwydded a pha un y priodwyd chwi." A chan ddweyd hyn ayma fe ys rhoi y drwydded yn llaw y barwnig, yr hwn a'i darllenodd ae a'i cafodd yn berffaith yn mhob ystyr. Ac yn awr, foneddigon," ebe fe, "yr wyf yn deall eich bod yn synedig wrth hyn oil, ond ychydig iawn o eiriau a eglura yr anhawsder. Yr yswain enwog yna, at ba un yr oedd genyf gyfeillgarweh mawr (ond y mae hyna rhyngom ni a'n gilydd) a'm cyflogodd i yn ami i wneyd rhyw fan bethau drosto. Yn mysg pethau ereill, darfu iddo fy awdurdodi i gael iddo gau- drwydded a gau-offeiriad, mewn trefn i dwyHo y foneddiges ieuanc hon. Ond gan fy mod i yn gyfaill mawr iddo, beth ddarfu i mi wneyd ond aethum i gael trwydded dilys, ac offeiriad gwirioneddol, a'u priodi hwy ill dau mor gadarn ag y gallai y lliain eu gwneuthur hwy. Efallai y meddyliwch mai haelfrydedd a barodd i mi wneyd hyn oil. Ond na; er fy nghywilydd y cyffesaf mai fy mwriad oedd eadw y drwydded, a gadael i'r yswain wybod y gallwn ei pbrofi yn ei erbyn pa bryd y tybiwn yn briodol, ac felly ei orfodi i dd'od yn mlaen pa bryd bynag y byddai arnaf angen am arian." Llanwodd yr ystafell yn awr gan ein mynegiad pleserus, a chyrhaeddodd ein llawenydd i'r man lie yr oedd y carcharor- ion, a'r canlyniad fu iddynt hwy,— And shook their chains In transport and rude harmony." Tw barhau.

Nodiadau Cyffredinoi.

Eisteddfod Undebol Mountain…

[No title]

Datganiad o'r "Samson" yn…