Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

BHAGOR 0 OLEU YN ABERDAR.

News
Cite
Share

BHAGOR 0 OLEU YN ABERDAR. MB. GoL., —Rhyfeddwyf yn fawr am dreth- dalwyr Aberdar yn bresenol, am eu bod mor benderfynol yn eu meddyliau i gael rhagor o oleu trwy y gymydogaeth y dyddiau hyn. 1. Am y rheswm fod y gauaf bron drosodd. Pe feyddai i'r Bwrdd ymgymeryd a'r gorchwyl yn bresenol, ni ellir ei gael yn barod i fod o fawr ddyben y gauaf hwn. 2. Am fod yr amser cynddrwg, a'r trethi yn cynyddu yn gyflym. Llawer o gwyno a siarad sydd am y dreth o 10 ceiniog yn bunt sydd wedi cael ei chwyddo yn y dreth yn ddiweddar, a beio aelodau y Bwrdd am hyn, oherwydd fod yr amser cynddrwg ond bydd llawer mwy eto pan helaethir terfynau y gas, ac y mae yn eithaf tebyg mai y rhai sydd fwyaf am helaethu y gas fydd yn cwyno fwyaf eto am chwyddo y %rethi. Y mae yn hawdd dweyd "Ni a fynwn y gas yn y fan hon a'r fan arall." Ydyw, ya hawddach o lawer na bodâgwyneb suriol pan ddaw y casglwr heibio i gasglu y dreth sydd yn myned i dalu am dano. Yn ol yr hyn a ofynwn yn bresenol o helaethiad y gas, pa faint, tybed, fydd y gost? Gofynir am tua '200 o lamps, yr hyn a gostia tua' l,000p. i'w gosod i fyny a chostia i'w goleno yn flynyddol tua 600p. Wel, gofynaf pa un gwell yw byw am dymor eto fel ag yr ydym, ai ynte taflu y fath faich afreidiol ar ysgwydd- au y trethdalwyr 1 Y mae yn ymddangos fod Mri. R. H. Rhys, a Davis, Blaengwawr, yn erbyn y cynygiad y tro o'r blaen, ery bydd yn fantais iddynt líwy, am eu bod yn rhanddalwyr (share-holders) yn y gas. Gobeithiwyf y gwna y cyfryw sydd yn eynyg am y gas i dynu eu cynygiad yn ol dydd Iau nesaf.—Ydwyf, &c„ TRETHDAJ-WK.

AT BWYLLGOR TYSTEB MR. JAMES,…

LLITH YB HEN BY BLEB.

[No title]

ABGLWYBD 1

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

Cynadledd y Cymdeithasau Cydweithredol.

Caniadaeth Gynulleidfaol yn…

Advertising

GYFARFOD LLENYDDOL TRINITY,…