Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
1MR. & MRS. J. W. PARSON PRICE (OF AMERICA), Hl?or Concerts, Eisteddfodarn, &c.-Address, GWLADGAHWB, Office, Aberdare. U77
f BWRDD Y GOLYGYDD.
f BWRDD Y GOLYGYDD. EISTEDDFOD TREDEGAR.—Cyhoeddir beirniad- aeth Gwilym Cynon ac Alaw Buallt ar y gystadleuaeth gorawl yn eia rhifyn nesaf. WMRO G-WYN.—Yr oedd gohebydd arall wedi danfod yr hanes. Diolch i chwi, er hyny. Jerbynied Ieuan Glan Ogwy a Bloward ein diolchgarwch am eu hanesion o Eisteddfod Tonyrefail. Yr oedd gohebydd arall o'u J blaen y tro hwn. I )ERBYNIWYD-Ð. Haran, W. S. M. (Abertawe), Eryr Craig y Llan, John Lewis, Ogof Orlando, John Jones (Foelgastell), Bachgen Coch (yn ein nesaf), Rheinallt, Llwynog, Myrddin, Gomer Morgan wg.
At y Cyhoedd.
At y Cyhoedd. YN mwrdd y Golygydd, yn Nharian y Gioeith- iwr, am Ionawr 19eg, hysbyswyd y cyhoedd ein bod, gyda'n graslonrwydd arferol," wedi gwrthod rhoddi benthyg ein peiriant argraffu i berchenog a golygydd y Darian (Mr. John Mills) pan oedd yr eiddo ef wedi tori. Pe buasai golygydd y Darian yn traethu yr holl ( wir, yn lie ei ddarnguddio, buasai yn dweyd i ni wrthod y peiriant am mai v diwrnod cyn hyny yr oedd wedi ei adgyweirio, fel y gall [* Mr. Henry Williams, mechanic, Dean-street, Y Aberdar, dystio. Yn mhellach, pe na buasai ,yr un anffawd wedi digwydd i'n peiriant ui, ,:nethwn weled ein bod dan rwymau i osod ein J'^eiddo at wasanaeth rhai ydynt er ys dwy ynedd yn gwneyd eu goreu i'n drwgliwio, a 3hreu (pe gallent) yn meddyliau ein cyfeillion i gasineb tuag atom. 0 barthed i'n graslonrwydd" a'n Crist- ionogaeth" digon yw dweyd nad yw ein cyfrif- oldeb. yn y cyfeiriad hwn, i Mr. John Mills a theimlwn yn ddedwydd wrth feddwl mai rhywun llai eiddigeddus tuag atom nag efe fydd yn gwylied porth y gwynfyd. Ni ethom un cyfeiriad aty mater hwn yn ein rhifyn diweddaf, a buasem yn ei adael yn ddi- I sylw yr wythnos hon, onibai fod rhai o'n dos- barthwyr a'n gohebwyr wedi ein cymhell i ddynoethi yr ystranc hwn o eiddo person yn ceisio enyn cydymdeimlad a gwneyd tipyn o gyfalaf o fater mor ddibwys ac anmherthynasol *'r cyhoedd. Maddeued ein derbynwyr i ni am gymeryd tsymaint o'u gofod i ymdrin a mater mor an- nyddorol. tsymaint o'u gofod i ymdrin a mater mor an- nyddorol.
SAWYR POWDWR ETO!
SAWYR POWDWR ETO! Y mae gwelltyn yn ddigon i ddangos cyfeir- liad y gwynt, ac y mae y ffrae bapyr sy'n myned yn mlaen rhwng Germani a Ffrainc, er yn ddibwys ynddo ei hun, yn bygwth larwain i ganlyniadau arswydlawn. Y mae rhai newyddiaduron yn Ffrainc wedi cy- t huddo BISMARC a'i gyfeillitn o ryw amcanion -hunacgar a drwgdybus yn Nghaercystenyn, fac y mae newyddiaduron swyddogol Berlin yn gwadu y cyhuddiadau hyn mewn modd pendant a sarhaus, gan eu galw hwynt wrth yr enw cysurus o "gelwyddau." Y mae Berlin yn fwy ffyrnig oherwydd fod newydd- iaduron Llundain wedi copio haeriadau y wasg Ffrengig, ac wedi eu trin fel pethau difrifol a gwirioneddol. Yr hyn a wadir syn Berlin, a ail haerir yn Paris; ac fel hyn y mae y rhyfel bapyr yn parhau, ac yn peri cryn bryder o bob ochr. "Naill ai," medd jgohebydd o Berlin, "naill ai y mae yma jgrediniaeth fod Ffrainc a'i bryd ar ddrygioni, neu ynte y mae yma fwriad sefydlog i roi mrfa i Ffraine eto, i ryw ddyben tywyll leu gilydd. Y mae gwaed da wedi ei ;ynhyrfu, ac y mae sawyr powdwr yn yr Iwyt. Yn y fyddin, mi wn i, y mae y wyddogion yn siarad rhyfel, yn enwedig rma yn Berlin, lie y dylent wybod oreu." ? mae bron yn sicr y cymer rhyfel le eto Awng y ddwy wlad hyn; ac, feallai, fod BISMARC, yr hwn sydd yn myned yn hen "ildyn, am weled y diwedd cyn myned at ei "wobr." Feallai fod y cyfle presenol yn (un manteisiol, oblegyd ar hyn o bryd nid oes perygl oddiwrth Rwsia. Ofn mawr Germsni yw undeb rhwng Rwsia a Ffrainc, fanys ni thai i Rwsia, mwy nag i Ffrainc, i jStermani dyfu yn ormodol. Os aiff Rwsia i Qryfel a Twrci, bydd ganddi hi ddigon i'w fcir^yd yn y Dwyrain. Ac os nad aiff, nis gall ddod allan i gynorthwyo Ffrainc, tpblegyd os ceisiai wneyd hyny, fe ymosodid 1 .tirni gan y Tyrciaid a'r Poles, a chan y > Mwythau Asiaidd a ddarostyngodd hi yn i ddiweddar dan ei hiau. Ai Powdwr-addol- laeth yw crefydd y Cyfandir ?
RHWYSGFAWREDD A NEWYN.
RHWYSGFAWREDD A NEWYN. DAI; beth rhyfedd i fyned gyda'u gilydd oebr yn ochr ydynt Rhwysgfawredd a Newyn! ac eto, dyma gyflwr pethau yn India'r Dwyrain yn bresenol-dyma y ddwy fendith gydnaws ag y mae awdurdodTry- iain yn eu hestyn i'r bobloedd Dwyreiniol. Y mae Ceidwadwyr Prydain yn meddwl yn uchel am y Teitl o Ymerodres India; ond pa beth, atolwg, a feddylid ac a feddylir Ma dano gan y degau o filoedd o drueiniaid sydd yn newynu yn Bengal a Madras! Nid eisieu lluosogi Teithu sydd, a threulio arian y wlad ar show wag—nid hyny ddim, ond eisieu iawn-lywodraethu; eisieu gostwng y trethi; eisieu gorchuddio'r India a rhwyd- waith o ffyrdd da a rheilffyrdd, fel pan ddigwyddo newyn mewn un dalaeth o herwydd methiant y "crop," y gellir dwyn i mewn gyflawnder o ymborth o'r talaetb#u cylchynol, a hyny heb awr o oediad, fel y gwnaed a dyoddefwyr Lancashire a Paris ychydig flynyddau yn ol. Y mae eisieu hefyd ddysgu yboblhyn mewndiwydrwydd, rhagofal, a chynildeb. Peth cyffredin yw i Hindw dreulio cymaint o arian ar briodas neu angladd ag a'i gwna yn ddyn tlawd (pauper) weddill ei oes. Pe b'ai rhai yn dewis cynilo, nid oes yno Savings Banks, na modd arall i roi arian allan." Pa bryd y bydd i'r Ty- Cyffredin edrych i mewn i achos y Bobl? Oblegyd nid rhywbeth mewn canrif yw newyn Indiaidd; peth cofnodol ydyw.' Gyda ein bod allan o un newyn, y mae un arall yn ysgyrnygu yn ein gwyneb; a bydd i'r trychinebau ami gyfnodol hyn, os ydynt i fyned yn y blaen, deneuo y boblogaeth- wrth y miloedd o filoedd, a sicrhau dymchweliad yr oruchafiaeth Bry- deinig yn y gwledydd anffodus hyn.
LLETHU Y GWEITHIWR.
LLETHU Y GWEITHIWR. Fel arfer! Ychydig ddyddiau yn. ol, dygwyd gyrwr wagen ger bron Ilys yn Llundain, ar y cyhuddiad o yru wagen a thri cheffyl ae yntau yn nghwsg yn y bedrolfen. Diamheu mai trosedd pwysig yw i yrwr orwedd yn nghwsg mewn wagen, a gadael tri o geffylau i ofalu am danynt eu hunain, am dano ef, ac am bobpeth a phawb ereill ddygwyddai basio. Ond rhaid i ni ystyried yr amgylchiadau. Yr oedd yn haner nos, ac felly nid oedd ond ychydig iawn o drafnidaeth. Yr oedd DIYID MITCHELL, y poor driver, yn wlyb drwyddo. Addefodd wrth yr Ynad ei fod yn nghwsg, ond nas gallasai oddiwrth hyny. Yr oedd wedi bod ar ei draed am naw noswaith o restr, oddfeithr y Suliau, ac yr oedd wedi ei gwbl dreulio allan. Aeth ar y wagen oherwydd ei fod yn rhy lesg i gerdded, a chysgodd heb yn wybod iddo ei hun. Beth! i fyny am naw noswaith," gofynd'r Ynad, "a gweitbio y dydd hefyd?" "Ie," meddai yntau, "y mae genyf dri cheffyl i edrych ar eu hoi, tori chaff, a phethau ereill, yn y dydd." Ynad: "A ydych yn cael dim cwsg ynte?" Gyrwr:" Ambell bryd byddaf yn cael awr neu ddwy yn ystod y dydd. Bum allan heddyw hyd bedwar o'r gloch; ac wedi gorphen fy ngwaith, ni chefais ond awr o orphwys cyn dyfod yma." Ynad: "Ni ddylech aros i fyny gynifer o nosweithiau, ac ni ddylai neb ddysgwyl y fath beth. Rhaid i chwi dalu dau swllt, cost y summons." Yr ydym ni yn dweyd mai y meistr ddylasai gael ei wysio ger bron y Ilys, nid y gwas perchen y ceffylau, nid y gyrwr tylawd. Y mae cyfiawnder yn dweyd hyny, y mae synwyr eyffredin yn dweyd hyny, ond y mae ein deddf-wneuthurwyr ni yn dweyd fel arall. Pe buasai y wagen yn rbedeg dros rywun ac yn ei ladd y noswaith hono, eawsai y gwas ei gospi am ddynladdiad, ond eawsai y meistr rodio'n rhydd. Dyma siampl o ddeddfau Prydain Fawr!
LLYTHYR LLUNDAIN.
LLYTHYR LLUNDAIN. Nos FAWRTH. Y MAE Cynadledd Caereystenyn bellach dros- odd, ac wedi troi allan nid yn unig yn fetli- iant, ond yn farce perffaith. Mae y cynrych- iolwyr, ar ol taith ddiles, ac ar ol hir-ddadleu yn ofer-, yn dychwelyd gartref i'w gwahanol wledydd; a'r Twrc cyfrwysgall yn chwerthin yn ei lawea am eu penau. Dyna yn fyr aut y mae pethau yn bod ar hyn o bryd mewn perthynas i'r Pwnc Dwyreiniol. Try pawb weithian eu llygaid tua St. Petersburg, ac arosant yn bryderus er gweled pa hyybr a gymera y Czar er dyfod allan o'r dilemma y mae ynddo. Y mae yn gofus gan y darllen- ydd ddarfod i'r Czar yn ei araeth yn Moscow ddatgan yn groew a phenderfynol, os na fyddai i'r Galluoedd Mawrion gyduno a Rwsia i geisio penderfynu y dyryswch a'r an- nghydfod a fodolai yn yr Ymerodraeth Dyrcaidd, y byddai i Rwsia ymgymeryd a'r gorchwyl pwysig ei hunan, a gweithredu yn annibynol arnynt. Wel, er gwaethaf y bygythiad hwn, ac er gwaetliaf anogaethau y cynrychiohvyr yn y Gynadledd, y mae yr Ymerodraeth Ottomanaidd wedi gwrthod mewn modd penderfynol a goddef i deyrnas- oedd ereill ymyraeth a hi. Os ydyw yr ym- ddygiad hyf a beiddgar hwn o eiddo Twrci yn golygu rhywbeth, y mae yn golygu her i Rwsia. Ceisia rhai ddadleu na fuasai Twrci byth yn beiddio ymddwyn mor hyf, oni bae ei bod yn credu y byddai i Loegr ei chynorth- wyo pe yr elai Rwsia i ryfel a hi. Y mae ereill, ar y Haw arall, a gymerant arnynt eu bod yn bur gyfarwydd ag adnoddau milwrol y ddwy wlad, yn dadleu yn dyn fod Twrci yn llawn digon galluog ei hun, heb unrhyw gynorthwy, i wrthsefyll Rwsia, ac mai i'r ymwybodolrwydd yma o'i gallu y mae yn rhaid priodoli ei hymddygiad yn gwrthod cynygiadau y Gynadledd gyda'r fath bender- fyniad diysgog. Sut y mae y mae hi i fod yn awr ? A ydyw Y merawdwr Rwsia yn myned i dynu yn ol, ac yn myned i lyncu ei eiriau ei hun 1 Ofnir ei bod wedi myned yn rhy bell o lawer .yn yr ymdrafodaeth i allu gwneyd hyny heb golli urddas ac anrhydedd, ac isel- hau ei hun a'i wlad yn ngwydd y byd. Y mae rhai pobl yn barnu fod Rwsia yn cliwen- ych ymostwng i'r sarhad hwn yn liytrach na myned i ryfel ond nid oes coel i'w roddi ar ddim a ddywedir-amser yn unig a ddengys ei bwriadau. Y mae hi e'rs blynyddoedd meithion wedi dymuno am gael cyfle i setlo materion a'r Twrc heb i deyrnasoedd ereill ymyraeth yn y busnes. Wele iddi ei dymun- iad o'r diwedd. Y mae y Twrc wrth wrthod cynygiadau y Gynadledd wedi gwneyd ei hun yn fath o outlaw yn mhlith teyrnasoedd Ewrop. Y mae y Galluoedd Mawrion wedi gadael rhyngddo a'i dynged. Os na fydd i Rwsia gymeryd mantais o'r cyfle hwn, bydd yn ymddangos fel pe y byddai yn ofni per- yglon rhyfel a Twrci. Ymddengys fod Dr. Kenealy wedi bod yr wythnos ddiweddaf yn ysgwyd y gwlith oddiar ei fwng, ac yn rhuo yn mhlith ei etholwyr yn ngwlad y potiau. Os cywir yw adroddiadau y papyrau, bu yn frwd iawn arno yno, ac nid yw yn debygol y bydd iddo anturio i'w plith ar gy- ifelyb neges byth ond hyny. Nis annghofiwn byth y derbyniad a gafodd y doctor yn Stoke blwyddyn i'r Sulgwyn diweddaf, ychydig amser wedi ei etholiad dros y fwrdeisdref. Yr oeddwn yn y gymydogaeth ar y pryd. Yr oedd Dr. Kenealy wedi dyfod yno i a.nerch ei etholwyr. Cynelid y cyfarfad yn y Town Hall. Yr oedd y lie yn orlawn a bobl, ond ni fynent wrando eu haelod anrhydeddus. Collodd y doctor ei dym- er wrth gael ei rwystro a'i aflonyddu gymaint, ac ymroddodd a'i holl allu i ddifrio y gynulleidfa. O'r diwedd fe ffromodd y bobl yn aruthr, a •phasiwyd penderfyniad i gymeryd y doctor yn goriforol oddiar y llwyfan a myned ag ef i'r Camlas oedd y tucdn i'r Town Hall, a rhoddi eithaf drochfa iddo; ond cyn iddynt gario y penderfyniad hwn i weithrediad, neidiodd yr Inspector of Nuisance i ben cadair a gwaeddodd allan, "Gentlemen, as Inspector of Nuisance for the borough of Stoke-on-Trent, I protest against that resolution for I assure you that the water in the Canal is already more than sufficiently polluted," Syrthiodd y doctor i'w gadair fel pe buasai wedi ei saethu yn gelain, ac yn nghanol y cynwrf a'r chwerthin byddarol a gymerodd le mewn canlyniad, aeth ef a'i ychydig gefnogwyr allan o'r ystafell mor llwfr ag oedd le. Ymddengys fod Kenealy wedi cael gwaeth derbyniad yn Longton nag yn un o drefi ereill y Potteries. Y mae hyn dipyn yn ddigrif, oblegyd yn yr etholiad y mae yn ffaith i Kenealy-gael naw o bob deg o bleidleisiau yr etholwyr yn y dref hono. Y mae y gwirion- iaid hyn wedi dyfod i weled bellach nad yw eu haelod anrhydeddus yn ddim amgen na thwyllwr a gwagymhonwr. Prydnawn dydd.Sadwrn diweddaf, cawsom yr hyfrydwch o wneyd cydnabyddiaeth a'r cerddor enwog, Mr. Parson Price. Treuli&s^m ychydig oriau difyr iawn yn ei gyfeillach ef a'i wraig hawddgar, a'i chwaer hynaws, Mrs. Gwilym Cynon. Y mae Mr. Price eisoes wedi ffurfio cydnabyddiaeth a Syr Julius Benedict, ac ereill o gewri cerddorol y brif- ddinas, ac y mae yn dda genym gael ar ddeall eu bod oil yn dwyn tystiolaeth uchel am alluoedd Mr. Price fel cerddor.
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. TYSTEB CARADOG. Rhaid addef fod cenedloedd ereill ar wyneb y bellen lie yr ydym yn byw, y rhai ydynt yn fwy blaenllaw a pharod i anrhydeddu a chydnabod eu henwogion na ni, y Cymry. Medrwn ni gadw cryn lawer o swn yn ami iawn, a bloeddio "Cymru am byth," a rhyw bethau felly; ond yn sicr, rhyw driniaeth go gardotynaidd gafodd ein dynion goreu, lawer pryd, ar law y genedl. Yr ydys wedi bod yn ysgrifenu, er's blynyddau, yn y gwahanol newyddiaduron am gael gwyddfa i Llewelyn y Llyw Olaf, ond y mae heb ei chael hyd yn hyn. Y mae y Saeson a'r Ysgotiaid yn britho eu trefydd a'u dinasoedd a chof-golofnau i'w henwogion rhyfelgar, ac i'w beirdd a'u llen- orion, ond rhyw ychydig neu ddim o hyny sydd yn cymeryd lIe yn Nghymru. Pan ddaeth Caradog a'i fyddin gerddorqi yn ol o Lundain wedi bod yn cipio garlantau budd- ugoliaeth, ac wedi rhoi plufyn bythol yn nghap y genedl, cyhwfanid ei glodydd gyda'r awelon i bob cyfeiriad, a gallesid meddwl nad oedd dim yn ormod gan Gymru i wneyd iddo. Buan iawn wedi hyny, ffurfiwyd pwyllgor brwdfrydig, debygid, yn Nghwm Rhondda, er cael yr amcan clodwiw i ben, o gyflwyno tysteb dywysogaidd i Caradog; ond trist yw adrodd, nid cynt y ffurfiwyd y pwyllgor hwnw nac yr ymollyngasant un ac oil, oddigerth yr ysgrifenydd gweithgar, Mr. M. O. Jones, i hepiandod ac anweithgarweh. Darfu i ninau ysgrifenu apeliadau taerion i bapyrau De a Gogledd, am gyfraniadau at y dysteb. Ond rywsut, dangos apathy wnaeth y genedl, yn ol ei harfer, oddigerth rhyw ychydig bersonau clodwiw, aOi yn rnlaenaf ar ben y rhes saif Mr. D. Davis, Maesyffyiion, yr hwn a roddodd ddau gant o bunau at yr achos. Dyna Gymro yn meddu ar galon fawr yn curo dros anrhyd- edd ei wlad. Y CWESTIWN DWYREINIOL. Y mae y Twrc wedi penderfynu dal yn ys- tyfnig yn ngwyneb holl resymau y Galluoedd Mawrion fu yn ceisio goleuo ei ben yn y gy- nadledd ddiweddar. Pan oedd y pwnc yn cael ei drafod o flaen y Grand Council yn Nghaercystenyn, beth debygech chwi oedd y geiriau a glywyd yno? Wel, dyma hwy, "Death before dishonour." A glywodd dyn erioed y fath ffwlbri yn dyfod o enau dynion sydd a'u cymeriad moesol a gwladol yn un plastar o "dishonour;" a'u dwylaw yn goch gan waed miloedd o wirioniaid Cristionogol. A hwy sydd yn myned i siarad am "dishon- our Efallai y bydd hawddach siarad a hwy cyn bo hir, yn enwedigol os daw yr arth o Rwsia i roi e' phawen arnynt.
Damwain yn Ngweithiau Dur…
Damwain yn Ngweithiau Dur Peny- cae. Trwy ryw foddion neu gilydd yr wythnos ddiweddaf, darfu i ddwfr ddod i gyffyrddiad a'r haiarn, pan oedd hwnw mewn cyflwr hylif- ol a berweslig, a'r canlyniad fu i wreichion gael eu gwasgaru i bob cyfeiriad, nes llosgi pedwar o ddynion, ac un ohonynt, Robert Reed, yn druenus iawn. Credir mai yr achos o hyn oedd y gwlawogydd trymion, ac nad yw y bai yn gorwedd wrth ddrws swyddogion y gwaith.
Gweithiau Haiarn Aberdar a…
Gweithiau Haiarn Aberdar a Ply- mouth. Ysgrifena gohebydd mewn un o'r papyrau yr wythnos ddiweddaf iddo glywed, ar aw- durdod dda, fod Mr. Fothergill, A.S., wedi rhoi fyny ei swydd fel cyfarwyddwr trefniadol y cwmni. Felly, yr ydym yn deall na fydd un cysylltiad masnachol rhyngddo a'r cwmni mwyach. Pe byddai son fod y gweithiau hyn yn ail-gycliwyn, byddai fel miwsig yn nghlustiau trigolion yr ardal.
SOAR, PENDERYN.
SOAR, PENDERYN. Cynaliwyd cyfarfod rhagorol yn y capel uchod nos Fawrth, y 23ain o Ionawr, mewn adrodd a chanu. Llywyddwyd gan Mr. Jenkins, Trebanog. Cafwyd awr o gystadlu mewn canu, areithio, &c. Y beirniaid oedd- ynt Mr. W. Davies (Alaw Cynlais), a Mr. Arnold, ysgolfeistr y lie, ar y canu, a Mr. Evan Edwards, Trebol; ar yr areithiau. Wedi myned drwy y rhan gystadleuol o'r cyfarfod, treuliwyd y gweddill yn adloniadol, pryd y canodd y cor, yn. rhifo tua chant, amrywiol ddarnau yn hynod o dda, dan arweinlad Alaw Cynlais. Canodd y brodyr canlynol amryw solos yn ystod y cyfarfod:—Mri. Evans, Hir- wain; Arnold, J. Davies, a Miss Williams, Hirwain. Cymerwyd rhan hefyd gam yr Hirwain Glee Party. Adroddwyd amryw ddarnau pwrpasol gan y plant a rhai mewn oed yn dda iawn.—Llwydrvdd.
GJUjfMJlGAJtiTM.
GJUjfMJlGAJtiTM. lonawr y 14eg, 1877, priod Mr. John D. Evans, Alltwen, ar ferch. Gelwir ei henw yn o :ïTia. Olivia, heb wylofain,—caed y byd, CM o barch a'i harwain Drwy oes o hedd, mewn gwedd gain, Ag adserch i *di'n gyrlsain.-Ap Llewelyn. MARWOLA ETHA U. Ionawr 12, 1877, bu farw Catherine Knoyle, merch Mr. Thomas Knoyle, Cwmbwrla, yn 21 mlwydd oed. lonawr 25, 1877, yn 12 mlwydd oed, wedi cystudd byr a chaled, o'r typhoid fever, Roger Edward, anwyl fab Mr. Benjamin Mills, Upper Regent St., Aberdar. Yr oedd yn facbgen addfwyn a gostyngedig, ac yn anarferol o hy- ddysg yn hanesyddiaeth y Beibl. Yr oedd yn un o aelodau ffyddlonaf gyda'r achos newydd Seisnig, ond ni chafodd y fraint o fod yn agoriad y Trinity. Claddwyd ef y Llun canlynol yn y Cemetery, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. William James, Bethahia. Ionawr 29ain, yn Llansamlefc, Mary, priod Mr. John Williams, Forest Foundry, a merch y di- weddar Mr. Thomas Whitty, Abernant, Aber- dar. Yr oedd y drancedig yn fam i Mr. Thos. Whitty Evans, fferyllydd, Aberdar. Bydd yr angladd yn cychwyn o orsaf y Great Western, Aberdar, am un o'r gloch, dydd Gwener.
Advertising
Salem, Llanilltyd Fardref. CYNELIR EIFTEDDFOD yn y lie uchod DYDD GWENER Y GROGLITH, 1877. CANIADAETH. I'r C6r heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu "Pwy sydd felyr Arglwydd," (o'r Gerddorfa); gwobr, 5p., a chadair i'r Arweinydd. Gellir cael copiau yn nodiant y Tonie Sol-Ffa oddiwrth yr awdwr; cyfeirier, Mr. Thos. Davies, A.C., Forge Office, Ebbw Vale, Mon. BAIIDDONTAETH. Am y Farw nad oreu i'r diweddar Ann Williams, gwraig Abraham Williams, Wain y Celyn, Llan- illtyd; gwobr, lp. 5s. Ceir y gweddill o'r testynau a'r maIJylion ar y programme, am y pris arfeirol, gan yr Y sgrifenydd,- THOMAS WILLIAMS, Holly Bush, 1501 Lanwit Yardre, Pontypridd. Yn y wasg, Vio gyhoe/Mi can gynted ag y aeir 1000 o tnwctu, mewn pedair neu bump o Rcmcrn 6r;. yr un gyda'r Post, 6\c. Llawlyfr y Glowr," YN dangos ei beryglon, a'r moddion goreu i'w hysgoi. Gan D. WEEKS (Honddu), Tre- herbert. Bwriedir cyhoeddi Rhan bob chwech wythnos. Gan na argreffir ond y nifer gofynol, byddwn yn ddiolchgar i bawb am arfon eu henwau yn ddioed at y Gyhoeddwr,—D. DAVIES, Printer, Treorky, Rhondda. Gellir cael Taflen o'r Cynwysiad drwy anfon stamp at y Cyhoeddwr. 1466 AT YMFUDWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and Australiar. Sailing Ships and Steamers. \T M. JONES (CYMRO GWYLLT), Passengei Broker, 28, Union-street, Liverpool, Gor wyliwr i'r Llinellau canlynol :-Inman Line Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, Stat* Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa hanol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a,'r Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael > cyfarwyddiadau gofynol drwy anfon llythyr i') cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofa ddo y sylw manylaf. Cynorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REEB. brodor o Merthyr Tydfil. Dymunol gan y Cymro allu liysbysu y Cyhoedd fod ganddo y TY CYMBMIG eangaf a mwyaf cyfleus i Deithwyr at Ymfudwyr yn L'erpwl, a'r agosaf i'r Landing Stage. Cofier y Cyfeiriad,- N. M. JONES (CYMRO GWYLLT), 28, Union-street, Liverpool. D.S,-Gellir ymholi yn Aberdar 4 John Jamor Crown HoteL Tra mor tra Brython." Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Eisteddfod Iforaidd Treherbert. BYDDED hysbys i bawb drwy Gymru ben- baladr y cynelir yr Eisteddfod uchod yn y PUBLIC HALL, TREHERBERT, ar DDYDD GWYL DEW1 SANT, 1877, o dan nawdd Adran Ystrad Rhondda. Beirniad y Gerddoriacth—MK. J. W. PARSON PRICE. Beirniad y Farddoniaeth- ISL WYN. Beirniad yr Adi-oddiadau-MR. T. LODWICK Treherbert. CANIADAETH. I'r C6r o'r un Gynulleidfa, heb fod dan 60 mewn uifer, a gano yn oreu y Chorus blaenaf o Weddi Habacvx, gan J. A. Llo> d; gwobr, 18p., a 21>. i'r Arweinydd. I'r Cor o'r un Gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu Pebyll yr Arglwydd," gan Pe icerdi America; gwobr, 10p., a lp. i'r Arwein- ydd. Ni (hamateirigoraemllodddros 15p. o'r blaen i gystadlu. I'r Cor o Blant, heb fod dan 30 mewn nifer. na thros 15 oed, a gano yn oreu "Cymru Fad;" gwobr, 5p. Caniateir i wyth mewn oed eu cy- northwyo. BARDDOMAETH. Am y Bryddest Fywgraifyddol oreu i'r diweddar wladgarwr Canon Jenkin-, heb fod dan 400 llinell; gwobr, 5p. Am y Gan o Glod oreu i Gwilym Williams, Ysw., Miskin, fel noddwr cymdeithasau. Ton, "Toriad y Dydd; gwobr, lp. JOs. CERDDORIAETH. Am yr Anthem oreu ar y ddwy adnod a welir yn Esaiah Iv. penod, a'r 11 a'r 12 adnodau gwobr, 4p. 4s. Bydd yr holl fanylio,n i'w cael ar y programme, yr hwn ellir gael am y pris arferol gan yr Ysgrif- enydd,- THOMAS .WILLIAMS, Oak Cottage, Penyrenglyn, 1459 Treh-rbert, Pontypiidd. RHYBUDD. DYMUNIR hysbysu .drwy hyn o rybudd y byddwn fel ymddiriedolwyr ewyllys y di- weddar DAVID PHILLIPS, Photographer, &c., 33, Commercial-street, AI erdar. yn gwerthu pob darluniau a roddwyd iddo i'w fframio er tnlu y draul o'u gwneuthur, os na ddeuir i w hymofyn a thalu am danynt o'r dyddiad hwn i'r 14eg o Chwefror nesaf. THOMAS JENKINS. Ion. 29, 1877. DAVID R. EVANS. -u. 1502 "Goreu arf a darf derfysg, I wr fo doeth yw arf dysg." Wythfed Eisteddfod Flynyddol Carmel, Treherbert. BYDDED HYSBYS y cynelir yr eisteddfod JJ hon yn y NEUADD GYHOEDI >US, DYDD MAWRTH (Nadolig), RHAGFYH 25AIN, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn rhyddiaeth, bardd- oniaeth, celfyddydwaith, areithyddiaeth, a chan- iadaeth. Llywydd-PARCH. D. THOMAS, TONYPANDY. BEIRNIAID: Y Rhyddiaeth a'r Farddoniaeth- Y Parch. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Claylands Road, South Lambeth, Llundain. Y Gclfyddyd-Mr. C. JENKINS, Tiiiiber Merchant, Treherbert. F Ganiadaeth-Mr. D. Jenkins, U.C.W., Aber- ystwyth, yn nglivd a Mr. T JD. WILLIAMS (Eos Dyffryn), li.A.M., Llundain. PRIF DIESTYNAU.-Traethodau. 1. "Y Cymry dderchafasant eu hunain dan anfanteision yn ystod y Ddeunawfed Ganrif;" gwobr, lOp. 2. ''Priodas;" gwobr, 2p. 2s. Barddoniaeth. 3. Awdl. "Y Nefoedd;" gwobr, 10p., a Chadair Dderi*, gwerth Tri gini. 4. Y geiriau goreu i gyfansoddi Cantata at was- anaeth Corau Plant, (yr awdwr i ddewis ei destvn) • gwobr, 3p. 3s. 5 Hir a Thoddaid i "Lusern y Glowr;" gwobr, 10s. 6c. 6. Englyn unodl union i'r' 'Gwenithyn," (eyfyng. edig i rai na enillasant 10s. am englyn o'r blaen); gwobr, 5s. Celfyddyd. 7. Am y *Gadair oreu o Dderi Cymru;" gwobr 3p. 3s. AMODAU.—1. Atelir y wobr oni fydd teilyngdod; a chedwir pris tocyn blaensedd o wobr y budd- ugol, os bydd yn absenol o'r eisteddfod. 2. Y cyfansoddiadau buddugol yn eiddo'r pwyllgor. 3. Y cyfansoddiadau i fod yn llaw y Beirniaid ar neu cyn Tachwedd laf, 1877, gyda ffugenwau yn unig, ac wedi talu eu cludiad. Bydd programmes, yn cynwys y gweddill o'r testynau a phob manylion pellach, yn barod erbyi y dydd cyntaf o Awst nesaf.-Dros y pwyllgor. REES T. WILLIAMS, Ysgrifenydd, 1493 AbertoDllwyd Row, Treherlydr^. "Môr o gan yw Cymru i gyd." "Gwell d, "ag na golud." J 5 DERI. BYDD CiNGHERDD MAWREDDOG I'w gynal yn yr hwyr. Pob manylion i'w cael ar y prograrmne, yr hwn svdd yn awr yn barod ac i'w gael drwy J post am gelniog a dimai oddiwrth yr Ysgi-ifenydd- am gem Jqhij LewiS; 5j Jenkins'ROW, 1 1484 Deri, via Cardiff.