Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Eisteddfod Tonyrefail.
Eisteddfod Tonyrefail. Mae yr eisteddfod uchod, erbyn hyn, yn mhlith y pethau a fu. Cynaliwyd hi dydd Llun, yr 22ain cyfisol. Llywydd y dydd oedd D. Evans, Ysw, Caerdydd. Beirniad y farddoniaeth a'r traethodau, y Parch. E. Pugh; a'r ganiadaeth, Mr. J. Davies, Canton. Rhag ofn cymeryd gormod o'ch gofod, ni wnawn ond gosod pob peth i lawr y ffordd fyraf fyddo posibl. CYFARFOD DEG O'R GLOCH. Datganiad goreu o "Difyrwch Arglwyddes Owain;" goreu, Mr. T. Llewelyn. Adroddiado "Brofiad plentyn y meddwyn;" goreu, Miss G. Rowlands. Dau englyn i'r Wynwydden;" goreu, Carw Cynon. Datganiad o'r "Fwyalch- en;" goren, Miss L. Evans. Y farwnad i'r diweddar Mr. T. Williams, Tydraw; rhanwyd y wobr rhwng Gwalch Ebrill a Brynfab. Deuawd "Y Uawryf gwyrddgoreu, Misses A. Evans a S. Lewis. DAU O'R GLOCH. Tdh ar yr harmonium; goreu, Mr. M. L. Williams. Crynodeb o "Ddychweliad y genedl o Babilon hyd enedigaeth y Messiah;" goreu, Mr. W. B., Rees, Gyfeillon. Yna, daeth- pwyd at y prif ddarn sef Y Blodeuyn Olaf," goreu, cor undebol Ainon a'r Dinas, dan ar- weiniad Mr. W. Samuel. Beirniadaeth y llinellau i'r "Creulonderati yn Bulgaria;" goreu, Brynfab. Beirniadaeth ar y traethod- au ar "Beryglon Ieuenctyd;" goreu, Mr. W. B. Rees. Ysgrtf ar "Onestrwydd;" goreu, Mr. M. L. Williams. Canu "Erfyniad," gan gorau; rhanwyd y wobr rhwng cor Tonyr- efail a chor Melin Ifan Ddu. CHWECH O'R GLOCH. Y datganiad o'r "Baban diwrnod oed;" goreu, Miss E. Rowlands. Adrodd "Bywyd dynol;" goreu, Mr. E. Davies. Datganiad o "Ymdaith y Mwnc;" rhanwyd y wobr rhwng parti y Ton a pharti y Dinas. Dat- ganu "Thou art the king of glory; rhanwyd y wobr rhwng S. Owen a J. Nicholas, Dinas. Adrodd "Pryder gwraig y meddwyn;" goreu, Miss E. Rowlands. Datganu "Y Golomen Wen;" goreu, Mr. S. Owen. Deuawd "Y ddau Forwr;" rhanwyd y wobr rhwng Mri. J. Richards a'i gyfaill, a L. Pierce a'i gyfaill. Ni ddaeth llawer yn nghyd yn y boreu, ond yn y prydnawn a'r hwyr yr oedd y capel yn orlawn. Ac edrych ar yr eisteddfod o bob tu, gellir dweyd iddi droi allan yn llwyddiant hollol. -GQhebydd.
MAESYOWMWR. j
MAESYOWMWR. PWY YW Y GWRON?—Traddodwyd darlith racorol ar y testun uchod nos Fawrth, lonawr 23ain, yn Soar, capel y Methodistiaid Calfin- aidd, gan Miss Rees (Cranogwen). Cadeiriodd y Parch. D. Evans, M.A., Prifathraw Ysgol Gelligaer. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl barchus ac anrhydeddus, yn mhlith pa rai y gwelsom Edmund Thomas, Ysw., Y.H., Tyla- gwyn; Mr. B. Matthews, Pentwynmawr; Mr. Jones, ail athraw Ysgol Gelligaer, ac amryw foneddigion a boneddigesau ereill o'r ardal. Bum yn siarad ag amryw o'r gynulleidfa a fu yn gwrando Cranogwen y tro hwn, a thystiol- aeth pob un o honynt oedd na chlywsant well darlith erioed.—D.JR.
TREDEGAR.
TREDEGAR. YMDDYGIAD LLADRADAIDD.-Nos Sadwrn, Ionawr 20fed, torodd lladron i mewn i ysgol- dy perthynol i gapel Annibyuol Saron, gyda'r bwriad o ladrata arian. Ond gallaf yn ddi- betrusder ddweyd nad aeth neb erioed i un- ryw dy gyda'r bwriad o ladrata, a chael mantais i hyny, ac wedi myned allan yn fwy anlladradaidd a gwaglaw na'r dosbarth hwn o ladron y cyfeiriwn atynt. Ond eglur ydyw mai lladron ac ysbeilwyr oeddynt mewn cyn- llua, beth bynag am yr egwyddor o hyny. Aet&ant i mewn drwy y ffenestr, a hyny rtrwy .dori un o'r prenau croesion sydd o dan y cwaseJV a thynu ymaith y cwarel, yr hwn ~oedd Hfih y crac lleiaf ynddo pan ei canfydd- Eod gwaith y gynulleidfa yn ail alw am dani I yn dangos yn amlwg fod ganddynt chwaeth at gerddoriaeth dda. Bu ef yn canu mewn cyngherddau a ystyrid yn rhai o'r dosbarth blaenaf, ac heb gael fawr o dderbyniad i'w "Feddgelert." Canwyd y deuawd "I'll try again" gan bedair o ferched ieuainc mewn modd tra swynol. Canodd y glee party "Y Gwenith Gwyn" a "Serch Hudol" mewn modd tra derbyniol. Cafwyd cynulliad pur dda, a gwrandawiad astud. Diolchwyd i'r arweinydd am ei drafferth gyda'r plant, i'r cyfeilydd, ac i'r cadeirydd wrth ddiweddi. — Gwrandaior.
TREORCI.
TREORCI. Nos lau, lonawr 25ain, cychwynais yn ngwmni fy nghyfaill tua'r Girl's Schoolroom, er mwynhau fy hun trwy wrando deiliaid yi ysgol yn canu, neu hytrach yn cynal eu cyngherdd cyntaf. Fel y gwyddoch, Mr. Gol., un hynod hoff o ganu wyf erioed, ac nid oes dim yn fy swyno yn fwy na chlywed plentyn, neu gor o blant yn canu. Fel ag yr oeddem yn agosau tua'r ysgoldy, yr oedd y plant yn gwau heibio'u gilydd-un yn rhedeg o'r cyfeiria.d hwn a'r llall o gyfeiriad arall-ac yn eu plith ami i lances fechan yn ei dillad goleu fel perlyn yn disgleirio dan dywyniad arianaidd y lloer. Wedi cyrhaedd gerllaw y fynedfa sydd yn arwain i fewn, gwelem yno dorf yn aros am agoriad yn mhen ychydig fynudau gollyngwyd hwy i fewn, ac yna aeth- om ninau yn mlaen ar eu hoi. Wedi cvr- haedd i'r drws, y peth cyntaf a dynodd ein sylw y tu fewn ydoedd y frawddeg, "A HEARTY WELCOME TO ALL FRIENDS," wedi ei gosod yn y modd mwyaf cymhelliadol ar liain, gyda llythyrenau wedi eu gweithio yn ysblenydd. Wedi darllen y frawddeg, a dweyd ein barn y naill wrth y Hall am dani, aethom i fewn, a chymerasom ein seddau yn y lie mwyaf eyfleus i wrando. Yn sier ddigon, nid oedd y frawddeg hon ond un o lawer. Dyma lie yr oedd lie ardderddog yr oedd yr holl ystafell wedi myned trwy ryw fath o drawsffurfiad rhyfeddol. Yr oedd y muriau o'n hamgylch wedi eu gwisgo & changau bytholwyrdd, nes yn ymddangos fel llwyni prydferth, wedi ymgymysgu a pha rai yr oedd lleni o wahanol liwiau a ffurfiau, gyda brawddegau Cymraeg a Saesonaeg wedi eu gweithio arnynt. Wele restr o'r rhai a gip- iais i fyny, pa rai oeddynt wedi eu gosod allan mor brydferth nes tynu fy sylw yn fawr tuag atynt:—"Parhaed brawdgarwch," Be not weary in well-doing," Goreu arf, arf dysg," "Train up a child in the way he should go," Feed my lambs," Porthwch fy wyn," Undeb sydd nerth," &c. Hefyd, "Fidelity," "Faith," "Hope," "Charity," oeddynt eiriau wedi eu gosod allan mewn llythyrenau mawrion gyda gwahanol liwiau uwchben y ffenestri. Yn mhen uchaf yr ysgoldy yr i/vjd esgyn- lawr wedi ei godi, ar ba un yr oedd tua chant neu chwech ugain o blant yn eistedd (merched yn benaf), pa rai oeddynt wedi eu gwisgo mor brydferth a dim welodd fy llygaid erioed. 0 flaen y plant, ar ymyl y llwyfan, yr oedd blychau wedi eu gosod yn llpwn dail a blodau prydferth, nes oeddem braidd yn teimlo rhwng dau feddwl, pa un ai ar y llwyfan neu ar ryw laslanerch yn y maes yr oeddynt. Tra yr oeddwn yn pipian trwy y gynulleidfa a'r dail ar y plant, wele fonedd- iges wylaidd yr olwg yn dyfod allan i'r front, ac yn sefyll gan edrych arnynt; ac er ei bod yn ddyeithr i mi, hawdd oedd adnabod fod yno gysylltiad agos rhyngddi a'r plant. Yn mhen enyd, yr oedd pob un yn ei le ac yn cadw golwg arni gyda llygad bywiog a serchog, ac ar haner amrantiad gallem feddwl fod yr holl goncern ag oedd o'n blaen yn symud. "Beth sy'n bod?" ebe fy nghyfaill. "0, myned trwy eu exercise y maent," ebe finau, a gwnaethant hyny yn hynod dlos a chyda medrusrwydd mawr. Erbyn tua haner awr wedi saith yr oedd yr ysgoldy yn agos llawn, a'r gynulleidfa yn parhau i ddylifo i mewn. Yn absenoldeb y llywydd apwyntiedig, llan- wyd ei le gan Mr. D. Weeks (Honddu), Tre- herbert; ac yna, wedi cael araeth fer a phwr- pEtsol ganddo, dechreuwyd ar waith y cyfarfod yn y drefn a ganlyn :—"Marching song," gan y plant; deuawd, There is a better world they say," gan M. Morgan, E. Jonei, M. Howells, S. J. Felix, a E. Jones can gan Miss Morley, Neath; "Daniel's band," gan y plant can, Y golomen wen," gan D. Davies, Treherbert; Love at home," gan y plant; "Can y Tywysog," gan Eos Ogwy; ",Hard times come again no more," gan y plant can gan Miss Morley Through lanes with hedgerows pearly," gan y plant; can, Cottage by the sea," gan M. Howells a R. Jones; Down where the blue bells grow," gan y plant; can, The anchor's weighed," gan T. Felix, Treorci deuawd, "Love and pride," gan Miss Morley ac Eos Ogwy, a gorfu arnynt ail ganu gan mor ddon- iol oeddynt; canig, "Aldiborontiphoseophor- nis," gan y plant can, Fe ddaw yn ol," gan Llinos Rhondda "Beautiful Star," gan y plant can gan Miss Morley Put me in my little bed," gan y plant; can, "The. lawyer's Puzzle," gan Miss M. H. Ryan, ac er mor lleied oedd, canodd yn feistrolgar, a gorfu arni ail ganu "Good news from home," gan y plant; Can y melinydd," gan Mrs. Oak, am ei llafur i ddwyn parotoadau y nos yma i ben mor llwyddianus. Y mae yn amI wg wrth ei llafur gyda hyn nad ydyw wedi bod yn segur yn ystod y misoedd sydd wedi myned heibio. Wedi talu diolchgarwch i'r llywydd, y cantorion, a phawb fu yn cy- meryd rhan yn y gwaith, aeth pawb adref yn llawen. Melus, moes eto."—Llwydian.
TYSTEB CARADOG.
TYSTEB CARADOG. Yn nghyfarfod cyflwyniad y dysteb uchod darllenwyd y penillion cantynol gan Brython- fryn, a chan nad ymddangosasant gydag ad- roddiad y cyfarfod, efallai nad annyddorol gan ein darllenwyr fydd eu cael yma :— Bu Caradog hen y Cymry Draw yn Rhufain, yn dychrynu 'R Emprwr Claudius-ei fawrhydi Ddofai ger ei fron. Ond Caradog o Forganwg Aeth i Lundain yn ddigilwg, Maeddu'r Saeson fel y mwlwg Ddarfu ef yn lion. Nid ag arf i'w tarfu Aeth efe i fyny, Ond a mwynber seiniau glan Ar dan, nes eu gorchfygu Gyda phum cant o gerddorion Aeth i neuadd fawr y Saeson, Canent nes bron gwneyd yn yfflon Wydrog nenfwd hon. Er ys oesau bu corachod 0 Hengistaidd ach yn danod Nad oedd genym ond eiddilod Oil yn Ngwalia wen Ond Caradog aeth a'i fyddin Tua Llundain, o'r gorllewin, Profi wnaeth i'r llu anhydrin Pwy mewn cin ay' ben. Agor wnaent eu llygaid, Fel rhyw ddofion ddefaid, Synu wnai y bostfawr lu At ganu mor fendigaid 'Roedd Sims Reeves yn colli dagrau, A Syr Julius yn ei wenau— Come with torches" oil yn fflamiau, Yn trydanu'r nen. Nid yw'r dysteb hon yn ddigon I Caradog, enwog wron, Am roi taw ar lei y Saeson Am ein penau ni. Pwy a wyr, cyn rhai blynyddau, Na dderbynia bwrs o bunau 'N fwy na hwn ryw gant o weithiau, Am ei gerddgar fri ? Aed yn mlaen yn wrol Ar ei hynt gerddorol, Dysgu wnelo ef o hyd Brif wersi'r byd clasurol; Dringo wnelo'n ail i Handel Mewn cerddoriaeth fry yn uchel, Nes y byddo fel rhyw angel Yn ein hanes ni.
LLANDILO.
LLANDILO. MARWOLAETH.—Boreu dydd Sul, yr 21ain cyfisol, yn 69 mlwydd oed, bu farw Mr. T. Thomas, o firm Thomas a'i Feibion, taneriaid a gwneuthurwyr esgidiau yn y dref hon, a chafodd ei gladdu y dydd Mercher canlynol yn mynwent Capel Isaac. Yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Tabernacl, Llandilo, er's llawer iawn o flynyddoedd, ac yn un a berchid yn fawr yn y capel, a chan bawb a'i hadwaenai. Er fy mod yn bur gyfarwydd a bod mewn angladdau fy hun, nid wyf yn meddwl i mi erioed weled mwy o drigolion wedi ymgynull yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i neb ymadawedig na'r tro hwn. Cauwyd y siopau trwy'r dref, a throdd y masnachwyr allan yn orymdaith gryno, yn cael eu blaenori gan yr offeiriaid a'r gweinidogion canlynol:— Parchn. J. Griffith, D.D., ficer; D. Howell, curad; W. Davies, Tabernacl; D. Morgan, Capel Newydd; D. James, Ebenezer; a D. Thomas, B.A., Capel Isaac. Pregethodd y Parch. W. Davies, Tabernacl, bregeth hynod o bwrpasol ar yr achlysur yn Nghapel Isaac, a rhoddwyd corff yr ymadawedig i huno hyd ganiadyr udgorn olaf.-Ap Puntan.
MAESTEG.
MAESTEG. ANGEU SYDYN.—Dydd lau wythnos i ddoe, fel yr oedd Richard Milward, saer maen, yn gwneyd cyfnewidiadau yn siop Mr. Jenkins, yr ironmonger cymerwyd ef yn glaf yn ddi- symwyth, a bu farw yn mhen ychydig fynud- au yn mreichiau ei gydweithiwr. Yr oedd y trengedig tua chanol oed, a gadawodd wraig ac amryw blant.
TONYREFAIL. |
TONYREFAIL. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn y lie uchod nos Wener, lonawr 19eg, pryd y cymerwyd y gadair gan Mr. Jones. Awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod fel y canlyn :-Canu "Y saith cysgadur," gan Henry Rowlands; ym- ddyddan "Merch Jephtha," rhwng Anne Williams ac Hopcyn Rowlands; canu "Y! Chwarelwr a'r Glowr," gan Walter James a'i gyfaill; canwyd "Life upon the ocean waves," gan T. P. Williams; ton ar y flute gan D. Bussell, yr hwn a ddangosodd fedrusrwydd mawr; canu "Cryd gwag fy mhlentyn yw," ,gan Anne Evans; canu "Taw pia hi boys," gan E. Morris; deuawd "Y ddau forwr," gan H. Rowlands a D. Davies; adrodd "Dechreu y gorchwyl yn haner y gwaith," gan D. Griffiths; deuawd "Y llawryf gwyrdd," gan Anne Evans a Sarah Lewis; ton gan y seindorf; adrodd "Rhanu'r deisen," gan D. James, G. Rowlands, a J. Williams; trio gan W. Williams, T. Williams, T. Rees, ar yr offerynau pres. Terfynwyd y cyfarfod trwy dalu diolchgarwchJ i'r cadeirydd, a thon gan y seindorf. Yn gymaint a bod personau yn traetKU eu meddyliau ar lenyddiaeth y cyfarfodydd uchod, barnasom mai gwell oedd nodi y testynau, fel y caffo darllenwyr y GWLADGARWR farnu drostynt eu hunain, yn hytrach na derbyn honiadau personau sydd -wedi ymchwyddo i'r fath raddau nes tybied eu bod yn deilwng i feirniadu llenyddiaeth y cyfarfodydd uchod; ond gallaf eu sicrhau nad ydynt deilwng i draethu eu lien feirniadol arnynt.-Un o'r nwvllanr.
LLANFABON.
LLANFABON. Yr ydym ni tua Llanfabon yn teimlo ein bod wedi cael colled mawr wrth golli gohebydd fel Mr. William Jones. Darfu iddo, fel y mae llawer yn gwybod, symud i'r Bargoed. Yr oeddym bob amser yn teimlo ei fod yn oheb- ydd gwir (Ida-yn anfon y gwir i gyd, heb dderbyn wyneb, a dim ond y gwir. Mae ambell lith yn cael ei anfon o Lanfabon i'ch newyddiadur yn awr; ond nid wyf yn meddwl fod haner dwsin o bobl yn y plwyf yn eu dar- llen, os nad oes rhai yn gwneyd hyny o gyw- reinrwydd, ac ereill er mwyn cael fnn. Mae llawer o son ynddynt am gyfarfodydd ymad- awol, am y derbyniad a'r parch y mae ambell un yn ei gael ar hyd a lied y wlad gan y dynion mawr yna, a phob un o honynt yn cael eu seboni yn glever; ond yr un yw gogon- iant pob cyfarfod, ac achosydd pob gwir fawredd, a'r un yw ffynonell a tharddiad pob peth mawr sydd yn d'od i'r golwg yn mhob cyfarfod. Dydd Nadolig, pan gododd ar ei draed i "ddweyd gair a chanu penill" yn eisteddfod Dowlais, distawodd y dorf, ac ad- ferwyd trefn ar unwaith Dylai y pwyllgor fod yn ddiolchgar i'r ysgrifenydd am yr "hippy thought" o alw ar y fath ddyn. Wel, wel, meddai rhywun, gan fod cynifer o gyfar- fodydd ymadawol i'r un hynod yn cael eu cynal ar hyd a lied y wlad, fe fydd yna ryw gyfarfod rhyfedd tua Llanfabon. Cewch ei hanes yn llawn ar ol iddo fod. Nid yw o un use dweyd dim yn gyhoeddus am dano cyn ei gynal, am mai neuadd fechan yw y fwyaf sydd yma. Un pwynt sydd yn sylfaen ei ymfudiaeth yw "fod ein cenedl yno yn fwy anwyl a pharchus o'u gilydd nag yma," ac "fod talent yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy yno hefyd." Fel un sydd yn gwybod rhyw- beth am America, dymunaf ddweyd cymaint a hyn wrth y brawd. Y mae ein cenedl yn barchus o'u gilydd yno, ac yn hynod felly; ond y maent yma hefyd. Y mae talent yn cael ei gwerthfawrogi yno, ac y mae yma hefyd. Nid wyf yn foddlawn i neb ddweyd, yn gyhoeddus beth bynag, fod ein cenedl yn y wlad hon yn dibrisio talent mewn unrhyw ddyn. Codi dynion talentog welaf fi ein cenedl yn barhaus, ac heb ddibrisio neb. Cofied y brawd gymaint a hyn er fod ein cenedl yn America, a'r Americaniaid, yn gwerthfawrogi talent, nid ydynt yn gwneyd hyny yn annibynol ar gymeriad. Y maent yn ffieiddio pob dyn heb gymeriad da, ac nid ydynt yn gwneyd mwy o sylw o hono na phe byddai heb fod yn y wlad o gwbl. Ond, o'r tu arall, os bydd iddo gymeriad da ac yn dalentog, bydd yn sicr o gael lift ganddynt. Pwy ofala am yr hwn nad yw yn gofalu am dano ei hun? Y mae yn groes i arferiad, cysondeb, a rheswm i neb ddisgwyl am hyny. -Carwr Gwirionedd.
PENYBRYN, SIR BENFRO.
PENYBRYN, SIR BENFRO. Rhai dyddiau yn ol, cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod. Llywydd y cyfarfod oedd Asa J. Evans, Ysw., Pen'rallt- cadogan, gan yr hwn y cafwyd anerchiad campus; a'r arweinydd oedd Dudochfab, yr hwn a alwodd yn gyntaf ar gor Penybryn yn mlaen i ganu "Cydgan y Morwyr." Cawsom yn nesaf y feirniadaeth ar y llawysgrifau; goreu o'r bechgyn oedd Mr. W. J. Williams, Pen'ralltddu; ac o'r merched, Miss S. J. Griffiths, Cilgerran. Can "Down the River," gan Miss Evans, merch y llywydd. Darllen byrfyfyr (i rai dan 15eg oed); goreu, Mr. T. Joshua, Cilgerran. Beirniadaeth ar y "Cyf- ieithiad o'r Gymraeg i'r Saesneg;" goreu, Mr. M. Jones, Cilgerran. Am y chwe' penill i'r "Freni Fawr," (sef y mynydd uchaf yn y gymydogaeth); goreu, Cymro, ond nid ateb- odd i'w enw. Can "Y bwthyn yn nghanol y wlad," gan Miss Thomas, Cilgerran, a chafodd encore. Beirniadaeth ar y traethodau i'r Ysgol Sabothol;" rhanwyd y wobr rhwng Mr. J. Thomas, Rhiw, a Mr. D. Phillips, Bridell. Darllen byrfyfyr; goreu, Mr. T. J. Lloyd, Cilgerran. Chwareuodd Miss Lewis, Aberteifi, yn feistrolgar iawn ar yr harmonium. Can "Yr afonig fechan," gan Miss Lloyd, Cilgerran. Araeth ddifyfyr ar y "Goleuni;" goreu, Mr. Griffiths, Bridell. Adrodd "Y cadno a'r ceiliog;" goreu, Mr. W. Hughes, Penybryn. Datganu "Y gwcw;" goreu, Miss Thomas, Cilgerran. Beirniadaeth ar yr "Englyn i bont Aberteifi;" ni atebodd y buddugwr i'w enw. Beirniadaeth ar y Llyth- yrau;" goreu, Mr. J. P. George, Cilgerran. Deuawd gan Misses Evans a Lloyd, y ddwy o Aberteifi. Beirniadaeth y traethawd ar "Hanes bywyd Joseph; goreu, Mr. J. Vaughan, Felinganol. Canu yr anthem" Gor- phenwyd;" daeth dau gor yn mlaen, sef cor Penybryn a chor Cilgerran, a'r goreu oedd yr olaf, dan arweiniad Mr. T. Jenkins. Ar ol talu y diolchgarwch arferol, terfynwyd trwy ganu yr anthem genedlaethol, ac aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni.
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. SHOP Y CADNO.—Cynaliwyd cyfarfod cyn- redinol y gymdeithas uchod yn ysgoldy Pant- teg, nos Wener, y 26ain cyfisol, pryd y dar- llejiwyd taflen y cyfrifon am y chwarter diweddaf. Dangosai y daflen fod y gwerth, iadau yn £3,084 Is. 8 c., a'r elw, ar ol talu pob treulion, yn ddau swllt y bunt ar eu pryniadau. Yr oedd hefyd yn ngweddill i'w gosod at y building fund, C23 18s., yn nghyd a 1:1 lis. 9c. at y 'reserve fund. Y mae y gymdeithas yma yn parhau mewn agwedd fiodeuog yr oedd y gwerthiadau yn y chwarter diweddaf yn fwy o C713 Is. 8e. na'r un o'r chwarterau blaenorol, ac mi a obeithiwn mai yn fwy yr a eto, oherwydd gellir dweyd yn hyf nad oes yr un gymdeithas well wedi dangos ei phen yn Ystalyfera erioed, nid yn unig i'w haelodau, ond i bawb yn gyffredinol. Y mae hon wedi cyneu tan cystadleuaeth yn y lie, a thrwy hyny ostwng Ilawer ar bris y bwydydd; y mae hefyd wedi dwyn gwell nv 'dau i'r lie, ac wedi rhyddhau ugeiniau .J fasnachwyr parchus y lie. Dyma undeb gwerth galw undeb arno, nid oes gwahaniaeth pa un a fydd strike yma neu peidio, talu allan y mae hon o hyd. Gydweithwyr, unwch a'r rhengau yma, ac. yn mhob 'man arall, nid oes dim dal y ffordd yn well i chwi. Y mae yn anrhydedd mawr i bwyllgor, ysgrifenydd, a siopwr y gymdeithas uchod fod y sefydliad yn blodeuo o dan eu dwylaw. Daliwch ati, fechgyn, bydded cyfiawnder a gwirioneddlyn. darian i chwi yn erbyn pob malais, cenfigen, a chelwydd. Bum bron annghofio dweyd un path pwysig, sef fod y gymdeithas uchod wedi talu i'w haelodau yn ystod y pum' mlynedd diweddaf bum' mil o Imuau.-Dafydd y Gof.
TREBOETH.
TREBOETH. Yn y GWLADGARWR ychydig amser yn ol, gwelais awgrym am gael meddyg sefydlog i'r ardal boblogaidd uchod. Y mae yn hollol amlwg fod cyfnewidiad yn y trefniant presen- ol yn angenrheidiol. Ni fynwyf, er dim, ddweyd yn fach am fedrusrwydd ein gwein- yddwyr presenol fel meddygon, oherwydd barnwyf eu bod yn gwbl alluog i gyfarfod a phob achos a ddaw ger eu bron eithr eu dirfawr ddifaterwch sydd yn peri i ni i rwg- nach. Y mae yn rhy ddrwg, pan fyddo galwad am feddyg, na ellir cael ganddo i ddyfod yn union, heb orfod myned i'w ym. ofyn dair a phedair o weithiau, ac ni wiw myned ond ar surgery timefelly, y mae pedair siwrnau yn cynwys dau ddiwrnod. Mae hyn yn amser lied faith i'r claf sydd yn bryderus wrando am swn y meddyg yn dyfod, ac yn gweled dau ddiwrnod cyhyd a phedwar. Gwir nad ydyw pawb yn cael cymaint o ofid, ond y mae gormod o lawer o'r engreifftiau hyn ar gael; ac os nad ydym i gael meddyg sefydlog, paham ynte nas gallwn gael surgery mewn rhyw fan cyfleus, heb orfod teithie cymaint o ffordd am dair neu bedair Honed llwy gawl o'r cymysgedd dyfredig? Mae damweiniau yn dygwydd i'r gweithiwr yn ami, a'r poen sydd yn canlyn yn fawr a phe cedwid ond ychydig olew wrth law, gellid lleddfu rhyw gymaint ar y poenau sydd yn canlyn pan wedi llosgi ond nid ydyw hwn i'w gael, mwy na llawer o beth a b drafferth mawr. Dylent gofio fod ein hamser mor brin a'r eiddynt hwy. Carem wybod, pe dygwyddai i blentyn neu wraig un ohonynt, trwy ryw anffawd, losgi ychydig, a hoffai efe gerdded pedair milltir bob nos a boreu aml'yr olew bob yn beint. Tybiwyf na hoffai. Gobeithiwyf y cymerir yr achos mewn llaw o ddifrif, fel y byddo i ni gael diwygiad. Ter- fynaf gyda dweyd, os siaradwn ein meddyliau. yn eglur, y mae diwygiad yn sicr.—Baxter.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Cynaliwyd yma gyfarfod misol llewyrchu8 iawn o ran doniau pregethwrol a chynulliad- au, ond ni alwyd society ar ol am, o bosibl, nad ydyw y capel newydd ddim yn barod i dderbyn neb iddo. Bu yr Alleghanians a'r Bell Players yma ddwy noswaith yn cynal cyngherddau yn y Public Rooms. Ceir pobl mor enwog yn ein tref fel nad oedd cyfrwng priodol i'w cyfarch ond drwy y swn a gadwent (gwel yr Herald Gymrdg). Yr ydym newydd gael cynllun newydd i wthio beirniad ar gefn eisteddfod, sef fod i'r cyfryw feirniad ddewis geiriau i gyfansoddi anthem angladdol arnynt-bod yn feirniad arni, onide na rhydd y cynlluniwr mo'i 6 gini am y cyfansoddiad goreu, pa un sydd i fod yn eiddo i'r cynlluniwr. Cymered pwyllgorau dipyn rhagor o bwyll, a pheidient gadael i bersonau ystrywgar eu marchau yn eu gwylltaddoliaeth afreidiol. Parhau mewn cyflwr o ail-farweidd-dra y mae'r Temlau Da yn ein tref. DYRCHAFIAD EGLWYSIG.—Bu y Parch. Evan Lewis, B.A., mor ffodus a chael ei raddio yn Canon dro yn ol. Prisir y swydd i 350p.
GOHEBIAETH 0 DOWLAIS.
GOHEBIAETH 0 DOWLAIS. DARLiTH.—Noa Lun, yr 22ain cyfisol, bu y Parch. Robert Jones, gweinidog y Trefnydd^ ion Calfinaidd yn Nhreherbert, yn traddodi darlith yn nghapel Hermon, ar y "Caeth- gludiad Babilonaidd," a gallwn sicrhau eich darllenwyr lluosog i ni gael darlith ragorol, ac y byddai yn werth i bawb ei chlywed. Hon oedd y ddarlith gyntaf o gyfres a fwriedir eu traddodi yn ystod y gauaf i bobl ieuainc y lie hwn. CANADA.-Nos Fercher, y 24ain cyfisol, bu S. Capper, Ysw., Manceinion, yn traddodi darlith ar y testyn uchod, yn y Neuadd Gy- hoeddus. Cafwyd ganddo grynodeb da iawn o hanes Canada fel ag y mae. Llywyddwyd gan y Parch. D. Rees, Bethania. Yr oedd hefyd ar y llwyfan Mr. J. Bowen, Merthyr. POPULAR ENTERTAINMENT.—Nos Iau, y 25ain cyfisol, cynaliwyd cyfarfod o'r natur uchod yn ysgoldy y Methodistiaid Calfinaidd, Cae Harris. Canodd Miss M. Davies, Mri. D. S. Powell, J. Lewis, D. Price, J. Jones, yn nghyd a glee party Libanus, yn dda iawn. Adroddodd Mri. J. Y. Evans, D. J. Davies, ac amryw ereill, yn dda iawn hefyd; ond yr hyn a dynodd fwyaf o sylw oedd y perfformiad o "Joseph yn yr Aifft;" cafwyd perfformiad rhagorol ohono. Y cadeirydd oedd Mr. D. R. Lewis. DARLLENIADAU CEINIOG.—Y mae amryw gyfarfodydd o'r natur hwn yn cael eu cynal yn y lie bob nos Sadwrn, mewn gwahanol fanau, a diameu eu bod yn cadw pobl ieuainc rhag mynychu tafarndai a lleoedd o'r fath. Hyderwn y gwna pwyllgorau y cyfarfodydd hyn eu goreu i'w gwneyd yn adeiladol i bobl ieuainc. Deallwn fod y Parch. R. Evans, gweinidog y Wesleyaid Cymreig yn y lie hwn, yn glaf er's ychydig wythnosau, a< qi fod wedi myned gartref i Aberystwyth. rwn ei fod yn •ywella. —