Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MOUNTAIN ASH.

News
Cite
Share

MOUNTAIN ASH. Nos Lun, Medi 23ain, cynaliwyd Pwyllgor eto yn Bethania, Cae <-iarw, mewn cysylltiad ag etholiad y Parch. Henr, Richard, pryd y dewiswyd personau i ranu y lie yn ddosbarth- iadau, er mantais i wybod pa nifer o ymneill- duwyr Mountain Ash sydd vn barod i ddod allan i'r ymdrechfa ddyfodol dan fanerau ym- neillduaeth. Mae teimlad y sawl sydd yn cymeryd rhan yn y cyfarfodydd hyn yn peri i ni gredu y bydd ) mddygiad v canoedd pleid- leisw\ r newyddion yn deilwng o honynt eu hunain, yn anrhydedd i Gymru, ac yn ogon- iaut i'r grefydd a broffesant. Gobeithio y cynydda y teimlad yma Des delo pawb allan fel un gwr o blaid Mr. Richard. Ymneilldu- wyr Mountain Ash, cofiwch fod adeg ger llaw y bydd galwad arnom i roddi atebiad pender- fynol i'r gofyniad-Pa un ai Mr. Fothergill neu Mr. Richard sydd i'n cynrychioli yn Senedd Prydain Fawr 1 A chofiwch hefyd y bydd ein hatebiad yn bwysig dros ben i ni fel ymneillduwyr! Fel rhai sydd yn proffesu credit na ddylai crefydd gael ei chysvlltu a'r wladwriaeth, ni fyddwn yn arswydus o anghy- son a'n hunain drwy gryfhau y cysylltiad hyny yn etholiad Mr. Fothergill, yn lie ceisio ei ddatod drwy etholiad Mr. Richard, truenu os bydd neb o honom yn euog o hyn. Da fyddai i ni ystyried beth yr ydym yn proffesu gredu, a'r pwys o ddangos hyny mewn gweitbredu. Bydd cyfarfod eto nos Wener nesaf, yn Bryn Seion, a gwahoddir pawb i ddyfod yno. Terfynwyd y cyfarfod gyda diolchgarwch i'r cadeirydd (Mr. Williams, Abercwmboy), ac ymadawodd pawb mewn ysbryd llawn o sel, brwdfrydedd, a gweithgarwch. CYDWEITHREDWR.

GWAUNCAEGURWEN.

[No title]

[No title]