Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
TO THE Electors of the Borough…
TO THE Electors of the Borough OF MERTHYR TYDVIL, ABERDARE, AND VAYNOR. GENTLEMEN,—As soon as it appeared 7* certain that you were to receive from Par- liament the privilege of returning Tfo Repre- sentatives to the House of Commons, I offered Myself to you as a Candidate for the Second Seat. The reception that was given me by the large Public Meetings which I had the honour of addressing, both at Merthyr and Aberdare, and the promises of support that I have since had, have encouraged me to perse- vere in my candidature. I base my hopes of Recess upon the increased power that the new Reform Act has placed in the hands of the People. I believe that they have won for themselves a substantial success, and that the thousands who are now to be called to exercise the Suffrage, for the first time, will not aid, as some have ventured to say they would, in per- petuating the undue influence of one class over Mother in this country, but will unite in se- curing for themselves their complete Political ^dependence. If elected as one of your Representatives, I Jll do all in my power to ensure to the people the fall results of the success that they have achieved. I believe that the BALLOT is Necessary to realize this object, and I pledge Myself to continue to give it my earnest and active support. I am in favour of the total abolition of Church Rates. I should support every effort made in the lIouse of Commons, to place Dissenters on an equal footing with members of the Established Church in our National Universities. I am of opinion that the Irish Church should at once receive the attention of Parliament, aQd that the cause of the just complaint of the Majority of our fellow subjects in Ireland, with ^gard to the anomalous position of the Church Establishment in that country, should be re- moved. p, All questions that affect the Religion or the Education of the People, I will consider with the view of promoting perfect Religious equal- ly and Freedom, and of doing away with all Political distinctions between Churchmen and dissenters. If elected by you, I will do all in my power tO guard and advocate the Rights of Labour. believe that Trades' Unions ought to be ad- ptted within the protection of the law and ^ill aid in promoting fair legislation on this Important subject. There are various measures of Law Reform Qat require attention. Our Superior Courts Common Law, our Courts of Equity and County Courts may be made still more Active in administering Cheap and Ready prtice among the People. The mode adopted °r the Conveyance of land is unnecessarily J-Uubrous and expensive. The last relics of e Law of Promogeniture ought to be re- eved and every facility ought to be given ^the middle and working classes to acquire, ^h the wealth that they have accumulated, ■w1 portion of the land of this country, i -No article, that is a necessary of life, ought taxed. a ^he affairs of this country ought to be man j§ed with greater economy, and this I consider i be consistent with a due regard to the main- ^ance of our national power. believe that the principle of Non-Inter- action ought to be adhered to in our relations to Foreign Countries. *hese are my opinions and, if elected by I will not fail in any effort on my part to }^re for them the acceptance of the Legis- our Local Interests, and the Iron and Coal ^des of your district, shall ever have my suiattention- ted ^r.UnS from yourselves, I am well acquain- ^th your sentiments and requirements; J will always endeavour to do all that in W ,les to foster the growth of enterprize in A and to advance any measure that is typiHfted to promote the well-being of the jsh People. by elections of the future were to be won s^ke game means, and influenced by the w6 Masses, as those of the past, I should not I to offer myself to you as a Candidate for Yo" suffrages. It is because I believe that Ut have the power to return a Member i 8ymPathy with yourselves, that I wFe to address you. It is the ambition of I tat' ^rresPectively of personal advantage, ) %iP-a Prominent part in the advocacy of H D y|ews' and I trust that by your votes at If W g^you will give me the power of showing J i ^ty to them in the House of Commons. Aave the honour to be, k Gentlemen, Your obedient Servant, U B. T. WILLIAMS. Ump Court, Temple, London, -kug 20th, 1867.
! BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. ) W?j'~T^id oes y petrusder lleiaf vn ein f^wl i ddyweyd fod Mr. J. Williams, "nxaf1#011' U^ad Pau y dvwedai Oali ?l y* nwylaw rhywun" oeddych. ,fyd gyfeirioeili *>ys at y Rhywun tair J' a dywedyd "TTi yw y gwr." Am y I ^erli- t diwe<Idaf, mai y Rhywun yma ^o&Jii ^rtlli yn ddil3aid yn gollwng ei y hwn, ac yn gwneud y Hall, fel W K W gwneud ei hun, yn wrthddrych huu y plwyf> y11 ol ei addefiad ei tod rjT a ra* wythnosau yn ol. Rhaid J w beth radically wrong yn mhen a 1 chalon ly Rhywun yma, a chynghorem ei gyfeillion ilo, dw*Lrwvliaclwriaeth faiiwl ar ei na ysgogiadau, rhag y Idygwydd rhvwbeth a fyddo gwaeth iddo. Nid digon hyn i Rhyw- un, ond rhaid iddo gael ereill i'w gynorth- wyo i gyflawni ei fudr-waith. Ac un o honynt ydyw Amicus. Y niaent yn barod i gyflawni pob brwntwaith; nid gormod ganddynt deithio ar eu traed a'u dwylaw drwy laid a budreddi, os bydd gobaith y cyrhaeddant y tap room. Onid gwir hyn y gwalch ? Beth wvr Amicus am yr Ysgolion Sabbothol, ac am y pwyllgorau a gynaliwyd adeg priodas Tywysog Cvmru 1 Dim yn y mesur lleiai, ond can belled ag y camhys- bysir ef gan y Rhywun yma, er cyrhaedd ei amcanion iselwaeL Yr ydym yn credu Am- icus pan v dywed na wyddai mai y diweddar Mr. William Griffiths ydoedd y trysorydd. Nid ydyw ei anwybodaeth ef yn profi dim ond yr hyn a nodwyd genym yn barod. Ond pan y dywed fod v Dr. Price yn dweyd ei fod yntau yn gwbl anwybodus o barth enw y trysorydd hyd yn ddiweddar, yrydym yn dal ein hanadl. Pa gvfrif ellir roddi dros fod cof y Dr. mor anmharus yn ei gy- sylltiad a'r peth hwn. Nid oedd neb a wyddai yn well na'r Dr. mai Mr. Griffiths ydoedd y trysorydd, ac mai iddo ef y tros- glwyddw< d y £15. Ai nid y Dr. Price a enwodd Mr. Griffiths fel trysorydd ? ac oni dderbyniodd ysgolion Sabbothol Bedydd- wyr, Cwmaman, Abercwmbov, a Gwawr Aberaman, eu cyfran ar y pryd o ddwylaw y trysorydd. Y mae hyfdra a beiddgarwch y Dr. Price a'i was bach, Amicus, yn anny- oddefol. Paham y mae Amicus yn siarad am yr ysgolion Sabbothol ? y mae fel pysg- odyn ar dir sych. Y mae y gwalch hwn yn llawer mwy hyddysg ogynwysiad y faril na gweithrediadau Ysgolion Sabbothol. Yr ydym wedi rhoddi enw priodol Amicus i Mr. Williams, a dywedasom wrtho ar y pryd, nad oes ar y ci ond ei groen." AT Y DERBYNWYR. Cofied ein derbynwyr fod y Tymor Talu i fyny gyda'r rhifyn hwn. Na esgeuluser!
Advertising
Pob Archebion a Thaliadau i'w gwneud i Walter Lloyd, GWLADGARWR Office, Aberdar."
Y SAESON A'R CYMRY.
Y SAESON A'R CYMRY. Y MAE gelyniaeth farwol yn aros yn myn- wesau rhai o genedl y Saeson atom ni a'n gwlad, er na wnaethom ddim iddynt. Y maent am ein llyncu ni yn fyw, pe gallent; a chrafu holl olion ein hiaith oddiar wyneb y dywysogaeth ond cant weled fod hyny yn ormod gorchwyl iddynt, er cael ambell fradwr Cymreig i'w cynorthwyo. Ni welem ni yn ein byw yr arwyddion a gan- fyddant hwy, fod y Gymraeg yn darfod. Myned yn gryfach, gryfach, yr ydym ni yn ei chanfod yn barhrus. Gwelsom lawer o Saeson yn dyfod i Gymru, o dro i dro, yn nghorff y deng mlynedd a deugain diwedd- af; ond yn lie iddynt hwy ein llyncu ni a'n hiaith, nyni sydd wedi eu llyncu hwy, fel nad oes gair o son am danynt fel Saeson, yn y wlad lie y maent yn byw. Nid ydym yn gweled arwyddion difodiad arni er dy- fodiad Saeson i'n mysg. Yr ydym yn cofio mewn tref yn y Gogledd, Saeson a hiliog- aeth Saeson, ac yn lie i'r iaith Gymreig roddi ffordd i'r Saeson, yr oeddynt hwy yn cael eu toddi i lawr i'r Gymraeg. Yr oedd dynion o'r enwau canlynol yn siarad Cym- raeg mewn tref mor fach a Dinbych, sef, William Storey, Robert Luke, John Mel- ling, Robert Bassett, James Clough, John Wright, William Mellish, Robert Dolben, Richard Cummings, John Shackfield, John Twiston, Hugh Dry hurst, John Minshall, Judith Wood, Edward Myddleton, John Mason, John Bland, Robert Burns, John Hilditch, Samuel Robinson, Paul Dainty, William Batten, Hugh Carter, John Bart- ley, James Cochryn, Richard Thorn, Wil- liam Lunt, John Dunn, R. Chambers, Wil- liam Simner, John Gains, J. Bailey, James Home, William Hooks, Joseph Sturgies, William Breerton, T. Kenshaw, Robert Knowles, Thomas Kelly, William Harker, Robert Yaughan, James Joy, Thomas Gee, James Ogden, Wm. Hoskins, Samuel Dew, John Walters, Samuel Walker, Roger Roden, Robert Jeffreys, James Green, Wm. Moore, George James, J. 'Shillitoe, Thos. Smedley, Roderick Patrick, Edward Bell, Robert Andrew, James Cotton, Robert Git- tins. Yr oedd yno hefyd Peak, Gillard, Howard, Emanuel, Smith, a Miller, ac am- ryw cyffelyb ond ni wnaethant ddim eyf- newidiad yn y Gymraeg; ond toddwyd y rhan fwyaf o honynt hwy yn Gymry glan gloew. Ond er lladd ar ein hiaith, a cheisio genym ddvsgu Sacsonaeg, ni wnant ond ein gwawdio ar y tir hwnw, a chwerthin am ben y Cymro. Goddefant i Ysgotyn craslyd gael arfer ei barabl garw a sych heb ddy- weyd gair yn ei erbyn, ond ni oddefant yr acen Gymreig byth Y mae amryw o'r Newyddiaduron Seisnig yn ceisio gwneud gwawd o'n Heisteddfodau, a'n galw yn genedl o farbariaid anwar ond nid ydyw hyny yn rhyfedd wedi'r cwbl; canys nid all ant hwy gasglu cynifer o'r dosbarth gweithiol at eu gilydd gyda llenyddiaeth, er gwneuthur eu goreu, ag a all y Cymry. I weled ceffylau a mulod yn rhedeg, a dyn- ion yn rhedeg mewn tfetanau, yn dringo polion ired, yn ymladd, ac yn rhwygo en gilydd fel own ac eirth, y gallant hwy gasglu y werinos yn nghyd; ac y mae y dosbeirth gweithiol yn eu mysg hwy mor anwybodus am fyd arall ag ydyw yr anifeil- iaid a ddyfethir. Ceisiodd Mr Yates droi ein barddoniaeth i wawd drwy gollfarnu y 93 o gyfansodd- iadau Seisnig, a anfonwyd iddo i'w barnu, fel rhai annheilwng o sylw. Ni welsom gymaint ag un o'r cyfansoddiadau ond y mae yn anhawdd genym gredu nad oedd yn eu plith rai yn haeddu amgen sylw nag a wnaed o honynt. Adwaenem rai o'r ym- geiswyr, a gwyddom y bycldai yn lied ffiaidd ganddynt feddwl arddcl lluaws mawr o'r rhimynau mcinion a dienaid, sydd yn cael pasio yn mysg y Saeson fel barddon- iaeth bur o'r iawn argraff. Nid ellir pri- odoli ymddygiad o'r fath yn y beirniad, i ddim ond rhagfarn a dallbleidiaeth a phe gellid profi fod yr holl gynyrchion yn an- nheilwng, ac fod yr holl ymgeiswyr yn Gymry, ni phrofai hyny ddim na feddwn ni farddoniaeth yn yr iaith Gymreig a ddeil ei chydmaru a'r rhan fwyaf sydd wedi ymddangos yn mhlith y Saeson yn ddiweddar canys nid Milton a Shakspeare, Cowper a Pope, Byron a Coleridge, Young a Grey, yw pob un sydd wedi cyfansoddi yn Saesonaeg. Rhoddwn ni her i E. Yates i ddwyn yn mlaen 93 o Saeson; ie, 12 o Saeson drwy y byd oil, a allent gyfansoddi yn Gymraeg ganiadau yn cynwys un ran o gant o deilyngdod ag sydd yn y caniadau a wrthododd efe gyda dirmyg! Yr oedd gan nifer fawr o'r cyfansoddwyr i ymwneud ag iaith estronol hollol; gan hyny, dylasent gael rhyw gydymdeimlad amgen nag a ddangoswyd ond nid ydyw fod yr ymgeis- wyr aflwyddianus hyn wedi ffaelu cael ffafr yn ngolwg Mr. Yates yn un prawf nad oes Cymry glan wedi ymddangos yn Lloegr y buasai yn anrhydedd i lawer ysgogyn o Sais gael datod esgidiau eu traed canys dysgasant eu hiaith hwy yn llawer purach, ac yn fwy digoll, na'r nifer fwyaf a gymerant arnynt fod yn ysgol- eigion clasurol; o'r hyn lleiaf rhoddasant fwy o anadl einioes yn ei geiriau nag a allodd un o bob cant o'r Saeson eu hunain ei roddi erioed. O'n rhan ni ein hunain, ni fyddai a wnelem ni a'r Saeson, ond ar dir crefydd a masnach gadawem bwynt i'w mympwyon eu hunain gyda golwg ar eu meddyliau mawr am eu rhagoriaethau, fel beirdd a cherddorwyr; ac elem yn mlaen yn ein ffordd Gymreig gyda ein Heisteddfodau heb ofyn i Sais profiesiadol byth dywyllu un o'n cynteddoedd. Byddai yn fwy o amheuthun o lawer i'r Saeson a ddel- ent i'r Eisteddfodau i glywed ac i weled, gael clywed lleisiau Cymreig a thelyn gwlad y bryniau, na gwrando ar y dynion sydd yn perthyn i Lotgr yn myned dros yr un peth drosodd drachefn, a thrachefn, a thrachefn, heb gynyg dim newydd. Pa sawl gwaith y mae v gwyr a ddaeth o Loegr i Gaerfyrddin, wedi cael eu talu o'r blaen am yr un peth, hyd yn nod yn Nghymru, heb son am Loegr, a lleoedd ereill ? Gallwn fod yn ddigon sicr, os gall y Saeson ein llyncu ni a'n hiaith mai hyny a wnant; ond yr ydym yn meddwl fod y Wyddfa a Chader Idris yn ormod o damaid iddynt, er eu holl ymffrost a'u bloddest. Y mae rhai yn ceisio dyweyd fod adeiladu capeli Seisnig yn Nghymru yn rhan o gynllun tuag at ddifodi yr iaith Gymreig ond pa fodd bynag am hyny, y mae yn debyg fod cynulleidfaoedd Cymreig, mewn trefydd poblog, yn debyg o gael mwy o golled o'u her- wydd nag a gaiff yr iaith canys byddant yn llochesau gwych i haner Cymry diegwyddor ffoi ar ol digio wrth eu gweinidogion eu hun- ain yn enwedig, os bydd hyny yn foddion iddynt gael eu hystyried yn rhy "genteel" i ddilyn y vulgar Welsh." Pwy a all ddyweyd, wedi'r cwbl, nad oedd mwy na haner y 93 aflwyddianus yrr Saeson ? neu nad oeddynt yn Saeson i gyd o fewn i ryw haner dwsin ? Onid oes llawer o fenywod genteel" yn Nghymru am fod yn farddones- au 1
AMAETHWYR.
AMAETHWYR. Dywed un o bapurau Llundain fod y Saeson yn cael eu hystyried gan genedl- oedd ereill, yn bobl hwyrdrwm o ran eu meddyliau, ac fod hyn mewn amryw ystyr- iaethau yn wirionedd. Ond o'r holl ddos- beirth o Saeson, yr amaethwyr yw'r dos- barth mwyaf hwyrdrwm. Nid ydynt yn cymeradwyo gwelliaint; y maent yn groes i gyfnewidiadau; y maent yn hoff o wneu- thur pethau megis y gwelsant eu tadau yn gwneuthur. Y mae, pa fodd bynag, eithr- iadau yn bod. Y mae llawer o wyr an- turiaethus ac egniol yn mhlith amaethwyr Prydeinig ond arafwch ac aros yr un fath byth yw y linell fwyaf eglur yn y meddwl amaethyddol. Y maent yn groes iawn i roddi cyfrif am y cynyrch y maent yn ei gael oddiwrth eu tiroedd. Yr ydym, o herwydd hyny, yn gorfod dibynu ar gyfrif- iadau llac papurau newyddion, y rhai sydd naill ai yn cael eu rhoddi gan yr amaeth- wyr eu hunain, neu gan bersonau na wydd- ant ond mewn rhan am y fath beth. Y mae hyn yn gadael pethau i raddau yn an- sicr gyda golwg ar ddefnydd yr ymborth, ac yn gwneuthur drwg mawr i fasnach. Y mae yr amaethwyr yn sefyll yn eu goleuni eu hunain yn ddirfawr, wrth gadw y mater mor dywyll. Y maent wedi ym- roi i ladd ar y cnydau; yr ydym yn clywed, flwyddyn ar ol blwyddyn, flwycldyn ar ol flwyddyn, fod y cnydau islaw cyfartaledd. (" under an average ") a chan fod hyn yn myncd yn mlaen gyda golwg ar y cyfartal- Z, Z, edd, y mae yn rhaid fod y cyfartaledd yn myned yn is, is a rhaid fod un o ddau beth yn cymeryd lie, sef, naill ai bod cy- nyrch ein maesydd yn myned yn llai, neu nad oes dim cool i'w roddi ar v cyfartaledd (" arcrage "); y mae y frawddeg yn colli ei hystyr, ac nid all fod o nn math o gyfar- wyddyd. Y mae yr amaethwyr yn dychy- mygu eu bod, drwy beidio rhoddi cyfrif teg, a'u bod yn achwyn bob amser ar y enwd, en bod yn gallu twyllo eu mcistri tir, ac yn cadw rhenti i lawr ac ar yr un pryd dir- gelu pethau oddiwrth y wlad a chadw pris- iau i fyny. Ond y macnt yn twyllo eu hunain yn y ddau beth hyn. Gall perch- enog y tir gael y Ileth allan yn fuan, os myn, drwy ei oruchwyliwr; a chodi ei rent yn ol hyny. Heblaw hyny nid ydyw y bobl y mae efe yn masnachu a hwynt, sef, y masnachwyr yd, y melinyddion, y pob- yddion, ac ereill, mor hawdd eu twyllo. Y ffordd oreu fyddai i'r amaethwyr roddi cyfrif teg dihoced o'u cynyrch; byddai hyny yn well ar les y wlad ac ar eu lies hwy eu hunain hefyd.
[No title]
ABERDAR. — Damwain Angeuol. — Dydd Mercher diweddaf, yn glofa No. 9, Abernant, cyfarfyddodd Mr. David Howell s, Prince of Wales, 34 oed, a'i ddiwedd yn dra disymwth, trwy i ran o nen y lofa syrthio arno. Yr oedd yn ddyn a berchid yn fawr gan ei gydweith- wyr, a phawb a'i adwaenai. Gadawodd wraig a dau o blant i alaru ar ei ol. MERTHYR TYDFIL.—Gwyl De Fawreddog yr Ysgol Prytanaidd.-Dydd Llun, Medi 23ain, oedd y diwrnod apwyntiedig i gynal yr wyl hon mewn cysylltiad a'r Ysgol Frytanaidd am y waith gyntaf yn y lie hwn. Yr oedd deg mil o docynau wedi eu hargraffu, a phasiwyd y rhan fwyaf o honynt. Cymerwyd rhan neillduol yn yr anturiaeth wiwglodus hon gan bob enwad yn ddiwahaniaeth gwnaeth pawb eu goreu gyda'r achos gwir deilwng hwn, a throdd allan yn wir lwyddianus. MERTHYR.—Ymadawiad y Parch. Y. Tho- mas, yn nghydj a'i deulu, i'r America.- Y mae yn wybodus i lawer o ddarllellwyr y GWLAD- GARWR fod Mr. Thomas wedi symud o'r lie hwn i Ogledd Lloegr, er ys rhai blynyddau. Bu yn aros yn Witton Park yn hir, ond yn ddiweddar yn Darlington. Tra y bu yma, yn gystal ag yn Lloegr, ymdrechodd gyda dirwest I C, trwy areithio ac ysgrifenu, &c. Yr oedd yn un o drustees y Temperance Hall yn y lie hwn (Merthyr), a bu yn aelod yn nghlwb y dirwestwyr am yn agos i ugain mlynedd, heb dderbyn allan y peth nesaf i ddim yn ystod yr amser hwnw. Yr oedd yn awr a theulu lluosog ganddo, ac wedi gweled llawer o galedi yn amser y strikes diweddar yn Lloegr. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn, bu ei gyfeill- ion yn ceisio gan ei frodyr dirwestol i'w gy- northwyo ar ei ymadawiad i'r America, ond syndod fyth ni roisant ddim iddo Wrth ys- tyried yr ymddygiad hwn o'u heiddo, ynghyd a phethau eraill, aid rhyfedd bod dirwest yn colli tir yn gyflyni yn y wlad. Y mae llawer o'r dynion hyn yn broffeswyr crefydd, ac yn ddyngarwyr proffesedig! Ond "wrth ei ffrwyth yr adnabyddir y pren."—CYFAILL. CASTELLNEWYDD EMLYN.—N os Lun, y 23ain cafwyd cyngherdd ardderchog gan Llew Llwyvo a'i gwmni, yn yr Assembly Rooms. Yr ydymyn tystio na chawsom erioed well treat. Yr oedd y cynulliad yn anrhydeddus, y gwran- dawiad yn siriol, a'r cantorion yn eu hwyliau goreu. Yr oedd Miss Llwyvo Lewis yn synu ac yn gwefreiddio yr holl dorf a'i chanu teim- ladol. Canodd v Llew fel efe ei hun, er gwaethaf llysnafedd y taranwr o Lundain.
[No title]
GANWYD, Priodwyi), A Bu Farw.—O herwydd y nifer mawr a anfonant benillion, englynion, &c., mewn cy- sylltiad a'r hysbysiadau hyn, a llawer o honynt yn hynod wael, yr ydym wedi penderfynu na ollyngir o hyn allan un linell ond yr hysbysiad ei hun, heb dalu 3c. am bob llineU ychwanegol.] ESGORODD,— Awst 30ain, priod Mr. C. J. Thomas, (Alberti), London House, Cwmaman, ar fab, sef eu cyntaf- anedig. Medi 9fed, priod Mr. Benjamin Evans, Llwyn- rhidie Farm, ar ferch, eu cyntafanedig. Medi 21, priod Mr. Jonah Morgans, Engineer* Station Street, Cross Inn, ar fab ac etifedd. Gel- wir ei enw ef Henry. PRIODWYD,— Medi 19eg, trwy drwydded, yn nghapel y Ta bernacl, Aberystwyth. gan y Parch. G. Davies, North Parade, y Parch. W. Williams, Pembrey, ag Anne, merch henaf Mr. Rees, Cloth Hall, Llan- ymddyfri. Medi 21ain, yn eglwys Cwmaman, gan y Parch. Thos. Thomas, Mr. Daniel Harris, Cwmdrysien, a. Miss Catherine Thomas, Glwyd, Gwauncaegur- wen.
Advertising
PELENAU AC Enaint Hollowat.—Dyogehoch lechyd BawO.—Beth bynag fyddo yr aflechyd, pa le bynag y dangoso ei hun, yn fewuol neu allanol, gall y cystuddiedig ymddibynu ar ffddyginiaeth y Proffeswr Holloway, gyda chalon Uawn o obaith y bydd i bob dydd ddyfod a rhyw radd o esmwythad iddo. I wellhau briwiau, clwyfau, doluriau, rhwygiadau, toriadau, chwyddiadau, ac an- hwvlulderau cytfiedin y gwddf a'r fynwes, nid oes eisieu ond defnyddio yr Enaint yn ol yoyfarwyddiadau, i sicrhau meddyginiaeth hollol, ac adfcriad i iechyd llwyr.