Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
A ix £ YK Y PARCH. DR. THOMAS,…
A ix £ YK Y PARCH. DR. THOMAS, COLEG PONTYPOOL Ymddangosodd y llythyr canlynol, o eiddo y PARCH. DR. THOMAS, Prif Athraw Coleg Pontypool, yn y Merthyr Express, Sadwrn di- weddaf, a chan ei fod ar bwnc y dydd, ac wedi ei ysgrifenu gan un o ddynion blaenaf ein cen- edl,-un o gymeriad a dylanwad yn mhlith ymneilduwyr egwyddorol Cymru, credasom y buasai yn dda gan ein darllenwyr Cymreig gael ei farn ar y bwnc hwn gobeithiwn hefyd na ddarfu i un wneud dim yn groes i ewyllys yr awdwr parchus wrth geisio rhoddi cyfieith- iad o hono yn ein colofnau.
"YR AELOD NEWYDD I MERTHYR."
"YR AELOD NEWYDD I MERTHYR." "At Olygydd y Merthyr Express." "Syr, Fel brodor o sir Forganwg, ac etholwr yn y sir, yn gystal ag Ymneillduwr, yr hwn, am dros ddeg mlynedd ar hugain yn Nghymru, sydd wedi gwneud a dyoddef cryn lawer yn achos rhyddid gwladol a chrefyddol, cania- tewch i mi eich cydnabod yn ddiolchgar am eich herthygl arweiniol am ddydd Sadwrn di- weddaf, ar gynrychiolaeth eich bwrdeisdref yn y Senedd, ac am eich sylwadau blaenorol ar gymhwysderau uchel ein cydwladwr enwog Mr Henrv Richard. Y mae yn rhaid fod eich holl ddarllenwyr rhyddfrydol yn cymeradwyo eich sylwadau ar yr ymyriad tybiedig a elwir cefnogaeth" Aberdar, Dowlais, Cy- farthfa, a Plymouth. Os ydyw yr etholiadau i'w penderfynu gan yr hyn a wna cefnog- aeth y rhai hyn, buasai yn llawer gwell, a buasai yn achub trafferth dirfawr, pe buasai i'r Arsawd Diwygiadol, yn hytrach nag estyn yr etholfraint i'r dosbarth gweithiol, gael ei gyfyngu i'r Fothergills, y Crawshays, &c., yn nghyda'u meibion, eu goruchwylwyr, a'u gweision. Ar yr un egwyddor, gallwn ninau, miloedd etholwyr y sir, ymddiried cynrychiol- aeth Morganwg i ddoethineb a chyfiawnder cefnogaeth Margam a Chastell Caerdydd a ninau hefyd, caethion a serfs tylodion sir Fynwy, gallwn ymlawenhau fod genym Ar- glwydd Tredegar, a Due Beaufort, i wneud ein gwaith etholiadol i ninau, ac i anfon i'r Senedd bob o aelod o'u teuluoedd eu hunain i bleidleisio yn erbyn braidd bob mesur a thu- edd ynddo i wella'r bobl. Yn wir, yn ol y drefn hon, buasai cystal i lowyr a mwnwyr, celfyddydwyr a shopwyr, yn nghyda'u bugeil- iaid Ymneillduol, diaconiaid, aelodau a gwran- dawyr, o ran eu hawliau etholiadol, fod yn gy- nifer o filoedd o negroaid ar etifeddiaethau y diweddar gaethfeistri yr America. Ond, nid oes ynwyf amheuaeth na cheir prawfyn fuan, fod y ihai. yr estynwyd yr etholfraint iddynt, yn deall eu sefyllfa newydd, ac wedi teimlo eu nerth eu hunain, chwarddant i warth a dir- myg honiadau uchelgeisiol y meisiri haiarn mawrion, yn gystal a'r tai-feddianwyr ar- glwyddgar, ac yr etholant y dynion a farnant hwy a'u cynrychiolant oreu, yn gystal a'r genedl, yn Nhy y CyfFredin. Bydd i ddynion eich bwrdeisdref fawr, yn ddiameu, roddi pob dyledus barch i'w meistri, fel y cyfryw ond gwyddant fod rhwymedigaethau meistri a dynion yn gylch-gyfnewidiol, ac nad all y meistri ofyn gan y dynion ond diwrnodcyflawn o waith am gyflog priodol, ac nad oes gan- ddynt fwy o hawl i bleiclleisiau eu gweith- wyr nag sydd ganddynt i'w gwragedd a'u plant, eu cydwybodau a'u heneidiau. Fel y mae oreu, y mae y meistri yn awr mor ymddibynol ar y gweithwyr ag ydyw y gweithwyr ar y meistri, ac ni faidd y rhai olaf ymwneud yn awdurdodol a hawliau etholiadol a dyled- swyddau y blaenaf. Nis gallaf gredu, er iddo gael ei hysbysu ar yr awdurdod goreu," y bydd i neb o feistri mawr eich cymydogaethau ddarostwng eu hunain mor bell, yn ol arfer ein pendefigaeth lygredig, fel ag i ymyru, na chaniatau i'w goruchwylwyr ymyraeth a braint etholiadol yr etholwyr newyddion. Ond os ydynt yn alluog i ddianrhydeddu eu hunain ac achos rhyddid yn y fath fodd, yr ydwyf yn adnabod digon o'r bobl cyffredin a'r Ym- neillduwyr, yn enwedig y Bedyddwyr, o Droed- yrhiw i dop Dowlais, i gredu y bydd iddynt godi yn un corff, a llefain gyda llais mal taran, wrth eu gloddestwyr rhyfygus, Dwylaw oddi ar arch rhyddid gwladol a chrefyddol! Nid ydwyf yn dywedyd dim am hawliau Hruce a Fothergill, er y credwyf fod y cynrychiolydd presenol yn gystal Aelod Seneddol ag y gall Eglwyswr fod. Ond os bydd i Mr Henry Richard sefyll, fe roddir cyfleusdra na chaf- wyd ei bath i'r gwahanol bleidiau Ymneilldu- ol, yn nghyda'r dosbarth gweithiol yn gyffred- inol, i osod esiampl i Gymru penbaladr o iawn ddefnydd eu pleidleisiau. trwy ethol un o'r dynion goreu a fagwyd erioed yn ein gwlad Cristion cydwybodol a difrifol, dyn calon- agored ac ansectyddol, ac yn alluog, yr hyn nad oes neb yn y Ty yn bresenol, i ddeall golygiadau crefyddol Cymru, a chymeriad a gwasanaetb ei diwygwyr, o Vavasor Powell a'i j»ydoeswyr, i lawr at Christmas Evans, Wil- liams o'r Wern, John Elias, a'i dad ei hun, yn gystal a dynion yr oes bresenol—un o ddysg- eidiaeth uchel, yn ysgrifenwr campus ar bync- iau gwladol, ac yn siaradwr ffraeth yn Gy- mraeg a Saesonig-yn amddiffynwr gwrol a galluog o gymeriad, dysgeidiaeth, a chretydd ei wlad yn erbyn cam adroddiadau y Dirprwy- wyr Addysg, ac enllibiaeth diweddarach y Wasg Saesonig, am vr hwn wasanaeth y der- byniodd diolchgarwch gwresog llawer o'n pobl yn y Gogledd a'r Deau-yn hollolgydnabydd- 118 a lioll bynciau politic-idd, ac yn adnabydd- us a pharchus gan ddi nion blaenaf pob plaid yn y wladwraeth trwy ei wasanaeth mawr mown cysylltiad a heddwcli, cynildeb, caeth- fasnach, addvs^, a ehydraddoldeb crefyddol. Byddai y fath ddyn yn anrliydedd fel cyn-, jychiolyid Cymru, ac yn gynrychiolydd teg o Aughydffurfiaeth Cymreig yn mhlith ein, deddfroddwyr. Nid ydwyf yn gwybod pa Ie y gallem gael ei gyffelyb. Byddai ef i Gymru yr hyn ydyw John Bright i Loegr. Y mae y drychfeddwl o osod i fyny Whig rhyddfrydol, Eglwyswr, Saes ac alwar fawr, diwalledig trwy y Truck, yn erbyn y fath ddyn a Henry Richard, yn wrthun Yr eiddoch yn gywir, Coleg Pontypool, THOS. THOMAS. Medi yr 16eg, 1867.
MR. HENRY RICHARD YN D'OD…
MR. HENRY RICHARD YN D'OD Os byw ac iach, y mae y boneddwr uchod wedi addaw talu ymweliad a ni yn fuan. Y mae yn werth i ni aros tipyn i gael golwg ar un o'r dynion goreu ag y bu haul Duw yn ty- wynu arno. ( ymered y dynion yna sydd fel gwibiaid yn cerdded o dy i dy gynghor, a dyma fo-Na foed i chwigvmeryd enw Mr. Richard i ymdrin dim ag ef, o herwydd y mae ei enw yn rhy gysegredig i genawon halogedig. Beth sydd a wnelo y busy bodies yma ag enwau y Meistri Richard a Bruce ? Diau y dylai fod rhyw derlynau* i haerliugrwydd a beiddgarwch dynion Wel, a dweyd y gwir i chwi," ebe un o honynt, yr ydym am roddi peiffaith chwareuteg i bawb i ddewis eu dau ddyn eu hunain; byddwn ni drwy hyny yn hebgor llawer o drafferth a thraul i bwyllgor Mr. Richard, o herwydd y cewch chwi nifer yr addewidion genym ni! Wel, mewn difrif, beth ydych yn feddwl am danoch eich hun- ain ? Ni waeth genyf fi fymryn ddweyd wrthych beth yr wyf fi yn feddwl o honoch- cold bath, cold bath. Llunier haner gair i gall." Fy ngbyd-drethdalwyr, byddwch yn filoedd yn y man na chymerwch eich hud- ddenu gan ddeiliaid taledigaeth y gwobrwy. Dywedwch wrthynt, (os rhaid iddynt gael gwybod), Mr. Henry Richard i ni, a neb arall. Gofalwch beidio rhoddi un math o addewid i'r heidiau yna sydd yn tywyllu eich drysau y dyddiau presenol. Daw aelodau pwyllgor Mr Richard heibio i chwi yn y man. Y mae ys- brydoedd y ddwyjil yn gwylio ein symudiad- au. A gant ddysgwyl yn ofer wrth Ymneill- duwyr Aberdar a Merthyr 1 HOMO.
CELF A GWYDDOR.
CELF A GWYDDOR. Mr. Gol.Anaml iawn y byddaf yn ys- grifenu dim i'ch newyddiadur rhyddgarol, y GWIJADGABWR, er fy mod yn dderbyniwr cvson o bono bob wythnos. A 'does dim braidd ynddo wedi tynu mwy o'm sylw yn yr wyth- nosau diweddaf na'r ysgrifau galluog a ym- ddangosodd ynddo gan Mr. J. Williams, Tre- cynon, ar "Celf a Gwyddor." Ymddengys i mi fod Mr. Williams yn lenyddwr addfed; a dangosa ei hun yn eithaf cyfarwydd a'r celfau a'r gwyddorau, cyn y gallasai eu gosod allan mor syml, manwl, a dyddorol. Rhodda gof- nodiad byr o ddechreuad a chynydd y celfau a'r gwyddorau, yn nghyd a pherthynas y naill a'r llall o honynt. Rhodda hefyd ddarnodiad cryno a chywir o bob un o honynt ar wahan oddiwrth eu gilydd; gan eu cvmeryd yn ol- ynol y naill ar ol y Hall, byd nes diweddu gan yr orchestwaith ddiweddaf o honynt, sef yr ATLANTIC CABLE. Yn awr, gan fod yr ysgrifau hyn mor werthfawr, ac yn llanw un o'r diffygion pwysicaf yn ein llenyddiaeth, a fyddai yn ormod i ni fel Cymry, yn enwedig darllenwvr y GWLADGARWR, i roddi cefnogaeth i Mr. Williams i ddwyn allan yr ysgrifau dan sylw yn un llyfryn bychan. (iallasem feddwl y byddai hyny yn gaffaeliad mawr i ni y Cy- mry, oblegyd ychydig iawn sydd wedi ei ys- grifenu ar y celfau a'r gwyddorau yn yr iaith ag ydym yn ei phroffesu. Nid ydwyf, Mr. Gol., ond awgrymu fy nheimlad mewn cy- sylltiad a'r ysgrifau dan sylw, gan obeithio y bydd i rywun neu rai rai mwy galluog gymer- yd y peth i sylw. Cymaint a hyna yn bresenol, gan ddymuno pob llwyddiant i'r GWLADGARWR yn eifrwydr- au rhyddfrydol presenol. Rhymni. T. MATHEWS.
People's Hall, Pontypridd,…
People's Hall, Pontypridd, A Mew Bayley's Arms, Ystrttid. JOHH CROCKETT, Clock, Watch, and Cabinet Maker, Millpuff, Feather, and Iron Bedstead Warehouse, Pontypridd. HAVE you been to J. Crockett's Furnishing Warehouse, People's Hall, Pontypridd ? If not go and buy for CASH ONLY, A good Iron Bedstead 0 16 0 A good Millpuff Bed and Bolster II 18 0 A good Palliasse for ditto 0 10 0 A good Mattress 0 18 0 A solid Mahogany Front Chest of Drawers. 850 A good useful Pembroke Table 1 20 A good Eight-day Timepiece l 50 A good American Clock 0 16 0 A good Kitchen Chair 0 8 6 A good Mahogany Bottom Chair 0 50 Observe this particularly,- A patent Lever Watch, Warranted 4 40 Do. Do. J. C. best make 5 50 Silver and Gold Chains & Alberts equally low. Good Geneva Watches 1 5 0 Do. Stiongly recomended 1 15 0 Furnishing DepaT tment,-Saucepans, Tea Kettles, lenders, Fire Irons, Brushes, &c.. &c. UNDERTAKING DEPARTMENT. Men's Full Sized Coffins 1 5 0 Children's lined with Blue outside 0 7 6 The tibove Prices for Ready Money only. Carpets, Floor Cloths, Hearth Rugs, Pianos & Harmoniums. All goods delivered home free ef charge, for 12 miles round.
COFFINJAILT BRA-B!
COFFINJAILT BRA-B! GAN WILLIAM PRICE, TREHERBERT. I ddyn yn ei lawn faint-wedi ei addurno yn hardd y tu faes, a'i orchuddio a gwlanen dda oddi- fewn •• 1 0 0 Eto, wedi ei orchuddio oddiallan a Coburg Du, a Registered Trimmings 1 12 Eto, wedi ei French Polisbo 1 11 0 Eto, gyda Brethyn Du, a Hoelion Duon 2 7 Eto, gyda Brethyn Du, a Britannia Mettle „! 3 8 (1 Eto, gyda'r Biitannia Mettle goreu 3 10 I Blentyn chwe' mis oed. 0 6 0 g^Dymuna W. Price, roddi ar ddeall i'r cyhoedd hefyd jrr ymgymera efe a Chladdedigaetliau yn gyfangwbl am bris is el cyfatebal i'x nehod.
Advertising
GREAT eduction In Drain Pipes. Mr. Hugh Prichard, 27, Cardiff St., Aber dare, Licenced Valuer. HAS been appointed gent to one of the largest makers in the trade, and is prepared to sell at a great reduction, W. C. Pans, Sink Traps, Chimney Tops, and all sorts of Terra Cotta Statuary. Agent to the Exeter Building Society. Money lent on House Property. At y lleirdd. RHODDIR GWOBR, sef "GWEITHIAU IAGO EMLYN," gan Mr. T. T. Yorath, am y 40 llinell goreu, yn unrhyw o'r Mesurau Caethion, ar ABIGAIL. Y Cyfansoddiadau i'w hanfon i'r Beirniad- Creidiol, Pontypridd, erbyn Hydref 28, 1867. !!t WY IDMV AS HI A MANTAIS FAWR I BAWB DYMUNA E. H. EYANS, Cloth Hall, Aberdar, hysbysu i'r cyhoedd fod ganddo ar werth yn bresenol luaws mawr o Shawls Gwlenyn, a hyny am brisoedd hynod o rad. Ceir Shawls a arferid eu gwerthu am £1 10s., yn awr am 19s.; rhai a werthid am £1, am 14s. 6d.; rhai a werthid am 12s., am 8s. 6.; rhai a werthid am 10s., am 6s. 9d., ac ereill yn gyffelyb. Hefyd y mae ganddo y Stock oreu o wlaneni o wneuthuriad cartrefol a fedd Cymru, am brisoedd rhad iawn. CLOTH HALL, 8, Commercial St., Aberdare.
MHOS, Iffl©U»TAIS AS®.
MHOS, Bydded hysbys y cynelir EISTEDDFOD Yn y lie uchod, Dydd Kadolig-, 186S, DAN NAWDD YR ANRHYD. H. A. BRUCE, A.S., Pryd Y ewobrwyir yr yragciswyr ilwyddianus ar y testynau canlynol: TRAETHODAU. 1. Am y Traethawd goreu ar y Long Wall Work (long work fel ei gel- wir) yn Neheudir Cymru, ynghyd a'i ddechreuad yn ngwythien y 4air troedfedd, pwll uchaf Cwmpenar, Mountain Ash. Gwobr gan G. Wil- kinson, Ysw., a Mr James Edwards, Cwmpenar. 5 0 0 Awdwr y buddugol i w gyfieithu i'r Saenonaeg. 1. Cynildeb" • • ..150 2. "RhagorfreintiauyrOes" 0 15 0 3. Am y dernyn mwyaf cyffrous ac addas i'w adrodd yn yr Ysgol Sab- botholar"Ymadawiad" 0 10 0 BARDDONIAETH. 1. Awdl goffadwriaethol i'r diweddar fardd a llenor, Mr. Lewis James (Iago Mynwy). Mountain 1, sh 3 3 0 2. Pryddest ar Lifeiriant," dim dros 250 o linellau 1 10 0 3. Llinellau ar y Ty ar Diln," dim dros 60 o linellau.0100 4. Englyn unodl union i'r Fwyell ''026 C <NIADAETH. 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, dim dan 30 o rif, a gano yn oreu Hale- luwia Chorus." o'r Messiah; gwel y geiriau ar y programme 12 0 0 2. I'r cor or un gynulleidfa, dim dan 30 o rif, a gano yn oreu Fy Ngwlad," o'r Cerddor Cymreig 3 0 0 D S.-Caniateir, er mantais i'r corau, iddynt ddewis eu harweinydd. 3. I'r cor, 15 mewn rhif, a gano yn oreu Y Wawr," gan Alaw Ddu, o'r Cerddor Cymreig 1 10 0 4. I'r 10 a gano yn oreu "Yr Alarch GwVD, o Oeinciau'r Gerdd." gan Alaw Ddu .100 5. I'r 8 a gano yn oreu V Bardd yn ei Awen," trefniad Pencerdd Gwalia 0 12 0 6. I'r 4 a gano yn oreu, (merch i ganu yr unawd), Y Dderwen," o'r Cerddor Cymreig gwobr gan Mr. Mr. J. Thomas 0 5 0 7. I'r ddau wryw a gano yn oreu "Fy Nhad," o Gantawd Mab Afradlon, gan Gwilym Gwent 0 10 0 8. I r ddwy ferch a gano yn oreu Yr Hen Wr," o Gydymaith y Cerddor 0 5 0 9. I'r gwryw a gano yn oreu Ysgyd- wnlaw, A b Einion," o Gantawd fuddugol Abertawy 0 10 0 10. Am y Don Gynulleidfaol oreu, 7au, 4 llinell 0100 Bevrniad y Traethodau, y Farddoniaeth, yr Ad- roddiadau, &c.. y Parch. D. Edwards (Dewi Isan) Caerdydd. Beirniad y Canu, Mr. Griffith Jones, (Caradoc), Aberdar. AMODAU. Y cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo y pwyllgor. Ni wobrwyir oni fydd teilyngdod ac os bydd, ni atelir unrhyw wobr am absenoldeb, ond cedwir o honi pris tocyn blaensedd. Yr holl gyf- ansoddiadau i'w hanfon yn ddidraul erhyn Rhagfyr lOfed, gyda ffugenwau yn unig, i Mr. Richard Richards No. 1, Clyngwyn-street, Miskin, Moun- tain A sh, gyda yr hwn hefyd gellir cael p■rogrammes; gyda y post, dwy geiniog yr un. Y corau, y can- torion, &c., i anfon eu henwau i'r ysgrifenydd erbyn Rhagfyr 20fed. Y cyfarfodydd i ddechreu am 10 a 2. ByddCyngherddynyrhwyr. Gwelir y gweddill o'r testynau ar y programme. Tocynau i'r eisteddfod a'r gyngherdd,—Blaenseddau, Is. 6c.; olseddau, Is. I'r gyngherdd yn unig,-Blaensedd- au, Is.; olseddau, 6c. Yr elw at leihaa dyled Capel y Rhos. Dros y Pwyllgor, RICHARD RICHARDS, v sgrifenydd.
Advertising
CONFECTIONER, &c., No. 1, Commercial Street, Aberdare. BEGS to inform the public that he is now prepared to execute all orders for TEA PARTY CAKES, Buns, &c., &c., on the most reasonable prices. Mark the Address:- H, WARR, CONFECTIONER, 1, Commercial Street, Aberdare. Newydd ei gyhoeddu,pris 6c, drwy'r post, 7 stamp Cydymaith yr Adroddwr, A Llawlyfr y Darlleniadau Ceiniog. Gan J. THOMAS, Tredegar. CYNWYSIAD —Ymddiddanion a Dadleuon rhwng y Mor- grygyn:a'r Ceiliog^Rhedyn-Twm Benfras a Mrs. Ceiinacb -Morgan a'i wraig Y Fuwch a'r Asyn- William a Mali Y Cybydd a'i Wraig Y Gacynen a'r Wenynen—Y Mor a'r Haul- Y Pin a'r Nodwydo—Y Gwybedyn a'r Pryf gopyn-Bachgen ac ofieiriad Pabaidd-Y nant a'r lIya dwfr- Y badd a'r anifeiliaid—Alexander a'r lleidr-Dadl y byb dybacco. Cenadwri Dafydd at Abner, Dafydd a Goliath, y Tonic Sol.fa, Pa fodd i wneud y goreu, Rhodd y crynwr, y pen- dilwm anfoddns, Die Shon Difydd, Nadolig hen Lana, &c., &c. Allan o'r Wasg yr 2il Man, pris Is. 6oh., TELYlI (";YlJIBU, Sef detholiad o (Idarnaii Ocvddorol, o natur foesnl f, difyr, yn gynwysedig n Ganianau (Glc si Cylchdonau. Alawon Cymreig, &c., at wasanaeth v Darlleniadau Ceiniog, Eisteddfortau, Cymdeithasau Llenyddol, &c., gan J. THOMAS, Tredeaar. CANIG,— Deuwch sn lion. Caru'r gwir. GMF.,—Uttle Pigs. DEUAwD.-Callfyddaf drwY'l amser. DEUAWD,— Yn mlaen. DEUAWD,—Boreugwaith o Fai. TRIAWD,- Yr haf. TIIIAWD,—O come let us sing. TRIAWD.-Y Gwanwjn. TKXAWD,—Gwlith y boreu. TRIAWD,— Ad- goflon mebyd, TRIAWJ>,—WLat shall we sing. CYLCH- DONAU,- Durham cries, Old Chairs to mend. Ciychau'r hwyr SoLo,-Dinodded ydwyf ti. CHOEIS, Deweh, dewcli yn mlaen. CHORUS, Rhowch fawl ar gan. ALAW- ON, CYMREIG,Hob y deri dando. Y Gelynen. Morfe Rhuddlan. Toriad y dydd. Gyda'r wawr. Clychao Aberdyfl. Megan a gollodd ei gardas. Bugail CwmdylW &c., &c. Dwy Anthem, Clywcb tebycaf clywaf lais, a cenwch i'r Arglwydd. gan J. Ttiomas. Ail Aigrafflad. Pris Is. Y Cyfansoddiadau Buddugol yn Eistcddfodau Aberdar am 1859, 1860, a\18Gl. Pris Is. 6c. Y TREN gdil D. H. THOMAS. Pris 6ch. An J nir unrhyw Lyfl" yn ddidraul driiy'r post otid anfon ei werth mewn Stamps i'r Cyhoeddwr. Cyf irier J. I'homi,s, "Tredegar Times Offi-ce," Tredegar. Apprentice a Turnover yn eisiau. AN APPRKXTICE WASTES* T E. GEORGE, CHEMIST, Member of the Pharmaceutical ° Society of Great Britain, has a vacancy for a well- educated youth as apprentice. He will have every facility of gaining a thorough knowledge of his profession. Apply, J. E. GEORGE, Pharmaceutical Chemist, Hirwain, Aberdare. TO BE JtLUTT." A DOUBLE-LICENSED PUBLIC HOUSE, and may be entered upon immediately. Apply to Mr John Jones, Wheat Sheaf, Mill Street, Aberdare. eiitsddfod FAWREDDOG TABERNACL, MERTHYR A gynelir Ar Ddydd Nadolig, 1867, YN Y DRILL HALL, PRYD y gwobrwyir yr jmgeiswvr llwwyddianus mews adrodd, canu, ac areitliio. I'r cor, heb fod dan '30 (t nifer o'r un gynulleidfa, a gano vn oreu "ArDon orfiaer! Gwyntoedd," gan J. Parry, America, £2') Y mae y Pro, ,i a.-nme yn awr yn barod, ac i'w gael gan yr ysgrifenydd, W. Williams, fi, Pleasant View, Graweu Terrace, Merthyr, ac hefvd gan y Trysorydd, D. Davies, jun., 3, Glebeland, Merthsr. Beirniad, Llew Llwyvo. TO BE SHOT FOR, At the Royal Oak Inn, Mountain AslL¡ ON MONDAY, SEPTEMBER 30, 1867. 1st Prize, Two Pigs. 2nd Prize, One Pig. 3rd Prize, ios. Tickets, 6d. each. No. 6 shots. Dist. 45 ycirdu, CAIsTMEF 1 «¥1FUIIW¥K "v 14, Galton Street, Liverpool. ELIAS J. JONES, AC N. M. JONES, (CYMRO GWYLLT), A DDYMUNANT hysbysu pawb a fwriad- A ant Ymfudo o Gymru, y ceix pob hysbyg- rwydd a chyfarwyddyd am brisoedd y cludiad, gydag Hwyl neu Ager Longan, i America,, a gwa- hanol wledydd y byd, drwy anfon llythyr, yn Gy- mraeg neu Saeaonaeg, yn cynwys postage stamp, i'r cyfeiriad ucdod. Gall yr ymfudwr gael lie cysurus i letya mewn ty tawel am bria rhesymoL Hyderir, drwy y wybodaeth a feddant o'r Fasnach Ymfudol yn y wlad hon ac yn America y byddant yn alluog i gyfiawni eu dyledswydaaa yn deilwng o bob ymddiried a chefnogaeth. Cymeradwyir y ty a r Goruchwylwyr i sylw jr Wlad gan y Boneddigion canlynol:— Parch. Samuel Davies, gweinidog y Wesleyaid a chadeirydd y Dalaeth Ogleddol. Parch. Isaac Jones, Liverpool. Parch. John Thomas, Liverpool. Parch Jonah Morgan, Cwmhach, Aberda4 Parch John Rees, Treherbert, Pontypridd. Cofier y cyfeiriad,—Messrs. Jones, & Co., 14, Galton Street, LiverpooL D.S.-Cyfarfyddir a phawt) a ymddiriedant ea gofal i r Goruchwylwyr uchod ar eu dyfodiad i Liverpool. Eisteddfod y (.Ioch JLas. "O YD OED hysbys y cynelir yr Eisteddfod B uchod, dan nawdd Cyfrinfa (t Ifor Aber- dar," yn Nghapel y Bedyddwyr, Trenoycn, Tack 4ydd, 1867, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr Ilwyddianus mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, a Cherddoriaeth. Bydd y programme yn barod yn fuan, yn cynwys yr holl fanylion, am geiniog yr un drwy y post, dwy geiniog; i'w cael gan yr Ysgrifenydd, THOMAS REES, 8, Belle View, Trecynon, Aberdar. Y cyfaifodydd i ddechreu am 10, 2, a 6 o'r glock Established is-so. ABRAHAM FREEDMAN, Pawnbroker Outfitter, Sfc., 20 9" 21, Cardiff Sreet, Aberdare, BEGS most respectfully to tbank the public of Aberdare and the surrounding neighbourhood, for the liberal pationage he has received trom them since he has opened; and begs to inform them that he has made considerable alterations in his premises, and he will thereby be enabled to extend his business so as to meet the wants of his cus- tomers, and tiusta to merit a continuance of their support. The utmost money to any amount will be lent by him upon Watches, Plate, Bedding Furniture, &o. All money advanced in full cash. No tea given. Observe the Address,—2d d; 21, Cardiff St., Aberdam