Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PENOD X.

News
Cite
Share

PENOD X. Yn mben tua mis wedi darganfyddiad y bedd, aetb y son ar led fod rhy wun wedi gweled braich plentyn yn s fn un o fytheuaid Mr. Price o Barcyryn. Dechreu ad y chwedl oedd mai asgwrn tebyg i asgwrn bon braich plentyn a welsid-ganddo ond casglodd yr ystori nerth a maintioli cvnyddol wrth dreigiio yn mlaen o wefus i wefus, nes o'r diwedd yr aeth, nid yn unig yu fraich gyflawn o gnawd ac asgwrn, a gwythenau a gwaed," ond y fraich a fuasai wrth gorff Ralph Jones, a'r tri ysmotyn du yn amlwg arni, yr hyn oedd brawf penderfynol mai ei gorff ef ordd tyr un a gawsid yn y wern dywyll Cymerodd y gwr o Faesyderlwyn ddyddordeb neillduol yn y pwnc y pryd hwn. Dilynodd y chwedl yn ofalus a manwl o faes i faes, trwy ugeiniau o eneuau, gan holi pob un gyda man- ylwcb mawr pbeth a glvwsai, gan bwy y clywsai, &c., nes o'r diwedd y daeth at yr hen Nani o Nantylluest, yr hon a glywsai Shon y haledwr yn dweyd iddo ef weled bon braich plentyn yn cael ei gnoi gan un o gwn Mr. Price, ond nad aflonyddodd ar yr anifail, rhag cael ei gnoi ganddo Wrth holi caed fod yr hen Shon wedi gadael y gymydogaeth er's bron tair wythnns. Ond dilynwyd ynteu o beritref, ac c dref i dref nes o'r diwedd y caed banes ei fod wedi marw yn ddisymwth ar y ffordd rh-wng Aberhonddu a'r Feni, yn mhen tua pytbefnos wedi ei fyned o'r lie y gwelsai y ci yn cnoi yr asgwrn, ac ni chaed banes ei fod wedi adrodd y chwedl wrtb neb ond modrybAnn o'r Nant. Felly o herwydd marwolaeth ddisyfyd yr .hen ddatganwr, ac nad ystyrid yr holl a ddy- wedai yr hen Ann bob amser yn sylfsenedig ar y graig, methwyd hyd y dydd heddyw a dyfod i benderfyniad ar y pwnc. Casglwyd yn nghyd rhai canoedd o fan es- gyrf, y rhai agaed vn wasgaredig ar byd meus- ydd y gymydogaeth ond methwyd cael yn eu plith un tebyg iawn i asgwrn braich plentyn. Dadleuai Shon y calchwr a Siencyn o'r Cwm- llwyd yn gadarn dros fyned a chonseriwr gan- ddynt i fynwent Llansantffraid, Iley claddesid y baledwr, a'i godi, fel y codasai y ddewines o Endor Samuel, ac y darfu i Edward Kelly godi rhywun yn Lloegr yn mhen mwy na dwy fil a haner o flynyddoedd wedi hyny, ac yna y ceid y gwir gan yr ysbryd. Yr oedd y bobl hyn wedi clywed am rhyw ddyn tua Rhydychain, yrhwn a fedrai rheoli ysbrydion o bob matb, a chael ganddynt y wybodaeth a fynai, a mynent ymofyn ag ef; ondbuanrhoddo dyboneddig- ion daw ar ffolineb (,'r fath hvny, ac yr oedd y wers a gawsai Daniel gan Mr. Humphreys, y gwr hysbys, wedi gwanycliu ei ffydd ef, ac eiddo llawer o'r eymydogion mewn consierwyr a cbonsieriaeth. Felly gorfu ymfoddloni ar adael y tro hynod hwn eto yn mhlith y dirgel- edigaethau ac o dipyn i dipyn, darfu i'r son fel adsain eioch leihau ac ymgolli mewn dys- tawrwydd ac anghof. PENOD XI. Yn mhen pedair blynedd wedi yr amgylchiad a nodwyd yn y benod fer ddiweddaf, cymerwyd Sara, gwraig John James, yn glaf iawn mewr twymyn boeth. Bu am fwy na phythefnos mewn gwresmawr, a'i gruddiau mor goched a'r ceuros, heb fod ond ambell fynyd yn ei hiawn bwyll. Ymofynwyd a meddygon pell ac agos, ond methwyd a chael dim i rhagflaenu y dwym- yn; ond dywedodd y Doctor Howells wrth Shon fod yn rhaidi'r dwymyn redeg ei chwrs, ac mai yr un g gwestiwn oedd, a fyddai yn ei chyfanscddiad ddigon o nerth i ymadferu wedi i'r dwymyn ei gadael. Yn mhen pythefnos a lIau ddiwrnod gadaw- odd y dwymyn hi; ond yr oedd mor waned erbyn hyny, fel nas medrai ond o'r braidd symud ei dwylaw, cbwaethach ymdroi yn ei gwely, a pbrin y gellid clywed ei sisial gwan- aidd pan geisia lefaru ambell air. Boreu dranoeth, aeth Shon tua Ll--i at y Doetor Howells a gwybodaeth pa fodd yr oedd ei briod wedi cymeryd y botelaid ddiweddaf o foddion a gawsai, ac i edrych a allai y meddyg roddi rhywbeth at ei cbryfhau. Yr oedd y bachgen eu mab gartref o'r ysgol o achos afiechyd ei fam, ac am nad oedd erioed wedi bod vn LI i, mynodd fyned gyda ei dad i weled y dref. Tuag unarddeg o'r gloch y boreu, pan oedd Sara newydd lyncu rhyw lonaid llwy gawl o sucan, ae yn cael ei dal ar ei lledorwedd gan glustogau, a Mawdi, gwraig Daniel, yn eistedd g) da hi wrth y gwely, dymahen ddyn, bychan o gorffolaeth, yn galw wrth y drws, acyn gofyn yn fwvnaidd a oedd Mr. James gartref, i'r hyn yr atebodd Mawdi nad oedd, ac na ddeuai ues y byddai yn hwyr. Wedi cael ei hysbysu fod Mrs. James yn isel iawn ar ei gwely, dywedodd fod ganddo lythyr i John James, a'i fod wedi ymrwymo y byddai iddo ei ddarllen i Shon neu i'w wraig yn gyf- rinachol cyn y rhoddai ef o'i law ac os byddai Mrs. James mor garedig a chaniatau iddo y deuai at yinyl ei gwely ac y darllenai ef iddi. Sicrhai iddi nad oedd dim allan o le yn nghy- nwysiad yr epistol, ac y byddai iddo wedi ei ddarllen ei adael yno i Mr. James ei hunan gael ei ddarllen. Wedi i Mawdi ymneillduo i'r pen arall, nes- baodd y dyn bychan at ymyl y gwely, a llefar, odd yn debyg i hyn:— Y mae yn ddrwg iawn genyf am eich an- wyldeb, Mrs. James, ond gobeithio eich bodar wellhad yn awr wedi cael gwaredigaeth oddi- wrth y dwymyn. Yr wyf wedi fy anfon a'r Uythyr hwn i chwi, er cyflawni addewid a wnaed i chwi gan hen foneddiges er's mwy na saith" mlytiedd yn ol. Pan fu y foneddiges ieu- anc hond yn rhoddi genedigaeth i fab bychan, yr hwn wed: *'ni,a.iietEi'ar goll, addawodd yr hen foneddiges oedd gyda hi y caeeb eglurhad cyflawn o'r holl amgylchiadau. Yr wyf yn meddwl fod y llytbyr hwn ysi "ynwys yr eg- lurbad hwnw, ac yr wyf ar ty llw y byddai i mi ei ddarllen i Mr. James neu i ehwi, ac am nad yw ef gartref, dymunaf arnoch chwi wrando arnaf yn ei ddarllen, ac yna byddaf yn ei adael i chwi." Yna aeth yn ei flaen a darllen y llythyr yn Saesoneg, ac wedi gorphen ei ddarllen, galwodd ar Mawdi i mewn, ac yn ei gwydd hi plygodd a,seliodd ef, a rhoddodd ef yn llaw Sara yn y gwely, ac ymadawodd. Yr oedd Mawdi wrth v gynor tray hn yr hen ddyn yn darllen y llythyr, \n gwrando fel am ei bywyd, a'r drws yn gulagored ond o herwydd ei fod yn Saesoneg, ac yntau yn dar- lien yn go ddystaw, a thipyn yn frysiog, meth- odd ddal gymaint ag un frawddeg, na braidd un gair cyfan. Yr oedd Sara, er nad oedd yn deall ond yehydig Saesoneg, wedi dal peth o'r chwedl, ac wedi cael ei synu yn fawr ond o berwydd ei gwendid methodd ag adrodd dim; ac heblaw hyay, nid oeddyntyn gofalu llawer am y peth, gan fod y llythyr ar gael i Shon, trwy yr hwn v caent yr holl ddirgelion. Yr oedd yn naw o'r glooch yn yr hwyr cyn i Shon a'i fab ddyfod adref, ac erbyn hyny yr oedd Sara wedi cyfnewid er gwaeth yr oedd gwrid coch wedi codi i'w gwyneb or newydd -ei gruddiau yn gwisgo rhosynau, er nad mor danbaid ag o'r blaeu. Yr oedd ei rheswm wedi cymeryd ei aden eilwaith, a chyn saith o'r gloch dranoeth yr oedd ei hysbryd wedi myned at yr hwn a'i rhoes. Estynwyd y llythyr at John James yn union y daeth i'r ty, ond parodd eyflwr gwael ei briod iddo ei roddi heibio heb ei agor dan glo gyda yr arian gweddill a ddygasai yn ol o £1, ac yno y bu hyd dranoeth i'r angladd. Yr oedd Daniel a'i wraig ar ymdori, fel y dywedir, am gael gwybod o leiaf achau Ralph bach, ac meddynt,- u Beth wys nad yw y llythyr yn dweyd pa beth ddaeth o hono pan ei cymerwyd oddiwrth ym ni, a phwy a wyr, feallai, os oedd yn fab i ferch o deulu uchel, nad yw ef gyda mamaeth gyfrifol yn Llundain, neu rhyw le mawr arall, yn cael ei godi fel gwr boneddig," &c. Odd o herwydd mawr alar Shon ar ol ei hen gydmares, ni ddywedasant air wrtho yn ei gylch byd brydnawn dranoeth i'r angladd. Pan yr agorodd Shon y drawer, cydiodd yn y llyth- yr, ac y torodd ei glo ond er ei syndod, yn lie papyr ysgrifenedig, cafodd y ewbl yn wyn ond y dydd o'r mis ar ben uchaf y lieu ac enw ei hunan ar y godreu. Trueni i chwi fod mor esgeulus a gadael i'r hen sharper newid y papyr, waith dyna y gwnaeth ef," ebai Shon. "Newid! naddo, mi wnaf fy llw," ebe Mawdi, il waith mi welais ef yn ei gauad ef. Yr oedd wedi ei ysgrifenu yn fan drosto i gyd, a dwy neu dair o linellau yn groes iddo hefyd, ac fe debygwn hefyd y gallat dyngu mai hwna yw y papyr, bid beth ddaeth o'r ysgrifen oedd arno. Wel," ebe Daniel, "ar fy ngair gwir i, y drafodaeth ryfeddaf ag a welais ae y clywais am dani yw y drafodaeth yma o'r dechreu i'r diwedd hyd yn hyn o leiaf." "Y mae yma ddynion ag sydd agos mor hened a ni ein dau, a dodi oedran ein dau gyda eu gilydd," ebe Shon, "ae ni chlywaf fi fod neb wedi gweled na chlywed son am y fath gyfres o ddirgeledigaethau o'r blaen." "Wel," ebe Daniel, "mae'n debyg mai yn y tywyllwch y rbaid i bethau fod; ond mawr cystt-1 fuasai genym ni gael gwybod beth ddaeth o'r plentyn, a gadael y cwestiwn pwy oedd ei dad a'i fam yn llonydd." Fe gofia y darllenydd i'r hen foneddiges hono a fu yn trefnu lie i fam Ralph orwedd i mewn, fel y dywedir, addaw wrth John James a'i wraig y buasent yn sier o gael eglurhad rhywbryd ar yr holl amgylchiadau. Y mae yn debyg fed y llythyr a nodais yn cynwys yr eg- lurhad hwnw, a bld ei ddarlleniad i Sara yn ei chyflwr gwauaidd, aPhyny, feallai yn fwriaded- ig yn absenoldeb ei gwr, yn fath o gyflawniad o'r addewid hono, mewn ystyr gyfreithiol, ond nid mewn ystyr foesol, oblegyd pe buasid am roddi goleuni ar y pwnc, paham nas gallasai v dvn aros i Shon ddyehwelyd ? Y mae gwahanol farnau yn nghylch y llyth- yr seliedig a adawy d i Shon. Y mae rhai yn tybied i'r dyn wedi darllen y llythyr i Sara, a'i ddangos i Mawdi, iddo, meddynt, trwy gynil- deb, ei osod o'r neilldu yn un o'i logellau, a chymeryd papyryn arall darparedig i'r perwyl, a'i selio i fyny er ei adael ar ol i Soon. W rth gwrs, mynai rhai mai un arall o dir y tyiwyth tegydoedd. Ond dywedai Mr. Davies, yr ys- golfeisitr, fod dynion cymhwys yn medru gwneuthur ink i ysgrifenu ag ef o'r fath ag a ddiflanai yn llwyr oddiar y papyr mewn pedair awr ar ugain. Dywedai yr adwaenai efe ddyn a roddasai fenthyg ugain punt i ryw gyfrwys- ddyn, yr hwn a rhoddodd iddo ysgrifrwym am y swm. Cymerodd y dyn y note, a gosododd ef heibio yn ofalus dan glo ond pan aeth i edrych arno yn mhen dau ddiwrnod wedi hyny, nid oedd ganddo ond dernyn o bapyr gwyn, a gwadodd y ddyled. Darfu i'r twyllwr ar ei wely angeu, meddai Mr. Davies, gyfaddef y twyll, a dywedodd o ba ddefnyddiau y gwnaeth- ai yr ysgrifrwym diflanadwy, ac nid oedd yr amheuaeth lleiaf yn meddwl Mr. Davies mai felly y gwnaetbai ysgrifenydd y llythyr hwn. Fel yua gadawyd pobl dda cymydogaeth y Wern mewn cymaint dywyllwch ag erioed am rhieni ein harwr, apha beth a ddaethai o hono wedi ei ddygiad ymaith o dy Daniel. (l'w barhau.)

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD DDIR.…

GWLADYCHFA GYMREIG YN PALESTINA.