Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
MAZZINI A'R CYNGRAIR HEDDWCH.
MAZZINI A'R CYNGRAIR HEDD- WCH. Y mae y llythyr a anfonodd Mr Mazzini i Gynadledd Heddwch Geneva wedi ei gyhoeddi yn rhai o newyddiaduron Itali. V mae efe yn anadluysbrydrhyfel cyffred- inol. Nid oes ganddo ef tf'ydd yn ail- genenliad y gwahanol deyrnasoedd, ond trwy fin y cleddyf; ac y mae yn rhoddi rtag-gynlluniad. yr hwn, pe ei cerid allan trwy ryfel, a gynhyrfai Ewrop am yr haner can mlynedd nesaf.
Y COLERA YN SICILY.
Y COLERA YN SICILY. Y mae gohebydd o Malta yn ysgrifenu f«l y canlyn :—" Y mae y cholera yn cyn- yddu yn Messina, ond wedi lloihau yn ttihob lie arall yn Sicily yn ystod yr wyth- nos. Y mae wedi lleihau yn ninas Palermo 0 88 i 53 yn yr wythnos; yn Catania, o 100 i 84; yn Syracuse, o 87 i 66 ac yn Trapani, o 31 i 22. 0 Messina y mae yr adroddiad fel y canlyn 0 ganol dydd y 18fed hyd ganol dydd y 19eg, cymerwyd 32 yn glaf, a bu farw 15 ar yr 20fed, cymerwyd yn glaf 48, a bu farw 33 yr 2laib, 74 yn glaf, a 47 yn marw; 22ain, 82 yn glaf, a 50 yn marw; 23ain, 108 yn glaf, a 81 yn marw 24ain, 161 yn glaf, a 119 yn marw. Dywed llythyr yn mhellach fod 50,000 wedi ffioi o'r ddinas, yr hon sydd mewn sefyllfa druenus; nad oes ond rhyw bump o shopau y bob cant yn agored, a'r rhai hyny ond am ychydig o oriau yn y dydd. Y rhai hyny o'r trigolion sydd wedi aros, ant i'w cartrefi gyda'r nos, gan gau i fyny eu drysau a'u ffenestri. Y mae llawer iawn yn marw heb alw ar un medd- yg, a hyny am nad oes ganddynt ffydd ynddynt, ond y mae galwad mawr am chlo- rodyne, yr hwn sydd wedi bod yn foddion 1 achub lluaws. Yr ydym yn cael hefyd fod y cholera wedi gwneud ei ymddangosiad yn Malta, lie y mae y gwres yn ddiweddar 'Wedi bod yn fawr iawn."
GARIBALDI.
GARIBALDI. 0 Florence, dydd Mawrth diweddaf, yr ydym yn cael fod y Roman Junta wedi an- ion anerchiad at y cadfridog Garibaldi, wedi ei ddyddio ar y 7fed cyfisod, yn ei hysbysu fod y cynlluniad gwrthryfelgar yn barod, ac yn gofyn am ei gydweithrediad ef. Dywedodd Garibaldi yn ei atebiad, dyddiedig yr 16eg, am i'r Junta weithredu, gan ei sicrhau y bydd i bobl Itali gyd- • Weithredu. Y mae y Nazi one wedi cy- hoeddi hysbysiadau o Orvieto, dyddiedig dydd Llun diweddaf, yn dywedyd fod am- ryw o ddynion icuaine yn croesi yn ddydd- 101 i'r diriogaeth Babyddol. Y mae arfau a gwisgoedd Garibaldaidd hefyd wedi ei trosglwyddo fel pethau masnachol, ac y mae ymrestri cyflym yn cymeryd lie yn nhalaeth Terra di Lavora. lie y mae yr awdurdodau ^edi cymeryd i fyny luaws o arfau.
AMERICA.
AMERICA. Gyda'r Hong City of Boston, yr ydym wedi cael hanesion o'r America hyd y 7fed eyfisol. Yr oedd yn cael ei hysbysu yno y byddai i Mr. Johnson, wedi yr ymgynghor- iadau gohiriedig a'r Cabinet, gyhoeddi, dydd Llun, amnesty cyffredinol, gyda'r eithriad 0 Mr. Davis a Mr. Stephens, aelodau o lywodraeth y gwrthryfelwyr, swyddogion Uchaf yn y fyddyn a'r llynges, rhai a gy- merasant law yn mradlofruddiaeth y Llyw- ydd, a llys-genadau y gwrthryfelwyr. Y mae y democrats wedi cario etholiad California trwy fwyafrif o saith mil, gan ethol Mr. Haight fel Llywydd. Y maent hefyd wedi cael y mwyafrif yn neddfwrfa y dalaeth, yn gystal a dau o dri o aelodau y Cydgyngorfa. Cymerodd 45 o farwolaethau o'r clefyd melyn le yn New Orleans ar y 5ed cyfisol. o Mexico yr ydym yn cael fod Juarez wedi rhanu y wlad i bum dosbarth milwrol. Yr oedd Carlos Miramon, a than ei lywydd- iaeth 3,000 o wyr, wedi saethu 90 o Rydd- frydwyr, er dial marwolaeth ei frawd. 'J:- ¡, <:ó' ¡ ¡
IECHYD LLUNDAIN.
IECHYD LLUNDAIN. Nifer y marwolacthau a gofrestrwyd yn Llundain yr wythnos ddiweddaf oedd 1,262. Y mae y marwolacthau trwy y diarea a'r cholera o'r braidd ar gynvdd. Y mae y clefyd hwn yn fwy marwol i'r ieuanc nac unrhyw oedran arall. Bu farw 192 o blant, ac 11 mewn oed, o'r diarea, yr wythnos ddiweddaf, a chofrestrwyd 21 o blant, a phedwar mewn oed o'r cholera.
Y FARCHNAD A'R CYNAUAF.
Y FARCHNAD A'R CYNAUAF. Y mae cryn lawer o waith y cynauaf wedi ei gyflawni yr wythnos hon, a'r rhan- au hyny o'r wlad lie yr oedd cryn doraeth allan yr wythnos ddiweddaf, erbyn hcddyw bron wedi clirio y meisydd. Y mae am- aethwyr y mynyddocdd hefyd wedi gwneud cryn lawer o waith yn ystod yr wythnos, a phe celid wythnos neu naw diwrnod yn ychwaneg o dywydd priodol, ni byddai ond ychydig wedi ei adael heb ei ddwyn i ddi- ddosrwydd. Yr oedd pris ein prif farchnad- oedd yr wythdos hon yn fwy sefydlog, ond os yr un, tueddu i godi yr oedd yr yd. Modd bynag, dywed y rhai sydd yn fwyaf cyfarwydd a helyntion y farchnad, nad oes yr un perygl i'r farchnad fyned nemawr yn uwch nag y mae yn bresenol; ond yn hytrach, os bydd i'r tywydd barhau fel ag i gael y gweddill o'r cynauaf i mewn, a hyny mewn cyflwr da, y gallwn ddisgwyl yr yd ychydig yn is wedi adeg y cynauaf.
[No title]
RHYMNI.—Mae yn dda genym glywed fod Iforiaid y lie hwn wedi agor cyfrinfaoedd new- yddion yn ddiweddar yn Pantywaun, Foch- rhiw, a Chwmyfelin, pa rhai sydd yn dra go- beithiol. Ar y 3ydd o'r mis hwn, daetli yn nghyd amryw o frodyr o'r gwahanol gyfrinfa- oedd cyfagos i ystafell v Bute Arms, Rhymni, er llongytarch cymdeithas o frodyr a arferent ymgynull i'r ystafell uchod. Aethom allan yn orymdaith trwy heolydd Pontlotyn. Wedi dychwelyd awd yn nghyd a'r gorchwyl dy- munol o agor y gyfrinfa yn ol y ffurf arferol. Wedi cael cydsyniad yr ymgeiswyr a deddfau ac arferion y gyfundrefn Iforaidd, derbyniwyd hwy yn roesawgar i'r undeb, dan yr enw I for Hael. Yr oeddym tu 90 mewn rhif.-L. HIRWAUN.—Bydd yn dda gan drigolion y lie hwn glywed fod Mr. Henry Richards wedi addaw mewn llythyr at Mr. D. E. Williams, rhoddi ei bresenoldeb mewn cyfarfod cyhoedd- us, i'w hanerch, pan y bydd yn ymweled a manauereill yn y Fwrdeisdref.
ESGORODD,- !
ESGORODD,- Medi 13, priod y lienor hyglod John J. Davies, (Ieuan Ddu), lltwen, ar ei hail fab, ac yn deil wng o Gymro a choleddwr yr awen, gt-lwir ef Taliesin. TalieBin fo'n fardd tlysawg—Ab Ieuan 0 anian yn enwawg; Yn ddibrin boed gwen i'w gawg-a seigiau Ei gu deidiau oedd dra godidawg. PHYLIP RHYDYFBO. Medi 2, priod Mr. Henry Williams, Hammer- man, Aberdulais, ar fab. Medi 11, priod Mr. D. Jones, Ynyscynon St., Cwmbach, ar fab. Medi 14, priod Mr. D. Davies, Grocer, Cross Inn, ac Arolygwr gwaith Ferellydd Pontaman, ar ferch, a'i chyntafanedig. Medi 15, priod Mr. David Davies, Cross Inn, Mynydd Cynffig, ar ferch. Medi 17, priod Mr. W. T. Rees, (Alaw Ddu), ar ferch. Gelwir hi Deborah.
IPRIODWYD,— I
PRIODWYD,— Medi 14, yn Siloa, Aberdar, gan y Parch. David Price. Mr David John, a Miss Gwenllian Tho- mas, y ddau o Gwmdar. Hir oes a fyddo i'r ddau, A diddan fo eu dyddiau.—MEUDWY. Medi 14, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Castell- nedd, Mr. W. Thomas, mab y diweddar Mr. J. Thomas, (Moses Bach), Alltwen, a Miss Gwenllian Howell, Pandy.
BU FARW,— I
BU FARW,— Medi 12, yn Marcross, Bro Morganwg, Mrs. Mary John, priod Meurig John. Bu marwolaeth ei mab, yr hwn a gofnodasom er's pythefnos yn ol yn y GWLADGAKWB, yn effeithiol i'w gwanychu i fwyfwy, nes y canlynodd ef yn fman i'r dystaw dir. j Dydd Mawrth diweddaf, Medi 17eg, 1867, yn 158 oed, Mr. Henry Price, dilledydd, Maesydref, i Aberdar.
Advertising
PELENAU AC ENAINT HOLLOW AY .— Dyogelwch lechyd Bawl, Beth brnag fyddo yr afiechyd, pa le bynag y (iangnso ei huri, yn t'evmol neu allanol, gall y cystudiiiedig ymddibynu ar feddj gimaeth y Proffeswr Holloway, (jyds chalon llu-wn o obaith y bydd i bob dydf'. ddytbd a rhyw radd o esmwythad iddo. I wellhau briwiau, clwyfaa, dolurinu, rhwygiadau, toriadau-, chwyddiadau, ac an- hwylulderau cyffiedin y gwddf a'r fynwes, nid oes eieieu ond defnyddio yr Enaiut yn ol ycyfarwyddiadau, i sicrhan meddyginiaeth hollol, ac adferiad i iechyd 11 wyr. j I n w -Ai't'l I [A CARD.] REES EYANS, TAILOK & DRAPER, 45, Commercial-street, ABERDARE. ESTABLISHED 1§$0. ABRAHAMFREEDMAN, Pawnbroker, Outfitter, Sfc., 20 Sf 21, Cardiff Sreet, Aberdare, TDEGS most respectfully to tbank the public of Aberdare -iJ and the surrounding neighbourbood, for the liberal pationage he has received from them since he has opened; and begs to inform them that hv has made considerable alterations in his premises, and he will thereby be enabled to extend his business so as to meet the wants of his cus- tomers, and trusts to merit a continuance of their support. The utmost money to any amount will be lent by him upon Watches, Plate, Bedding Furniture, &c. All money advanced in full cash. No tea given. Observe the Address,-20 & 21, CardiffSt., Aberdcvre Klsteddfod y (iloch Las. BYDDED hysbys v cynelir yr Eisteddfod B uchod, dan nawdd Cyfrinfa Ifor Aber- dar," yn Ngbapel y Bedyddwyr, Trenoycn, Tach 4ydd, 1867, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr Uwyddianus mewn Rhyddiaeth, Barddoniaeth, a Cherddoriaeth. Bydd y program/me yn barod yn fuan, yn cynwys yr holl fanylion, am geiniog yr un drwy y post, dwy geiniog; i'w cael gan yr Ysgrifenydd, THOMAS REES, 8, Belle View, Trecynon, Aberdar. Y qyfaifodydd i ddechreu am 10, 2, a 6 o'r gloch. CARTREF I «BraSE3S» YMFFDWYR.| 14, Galton Street, Liverpool. ELIAS J. JONES, AC N. M. JONES, (Cnrno GWYLLT), ADDYMUNANT hysbysu pawb a fwriad- ant Ymfudo. o Gymru, y ceir pob hysbys- rwydd a chyfarwyddyd am brisoedd y cludiad, gydag Hwyl neu Ager Longau, i America, a gwa- hanol wledydd y byd, drwy anfon llythyr, yn Gy- mraeg neu Saésonaeg, yn cynwys postage stamp, i'r cyfeiriad ucdod. Gall yr ymfudwr gael lie cysurus i letya mewn ty tawel am bris rhesymol. Hyderir, drwy y wybodaeth a feddant o'r Fasnach V mfudol yn y wlad hon ac yn America y byddant yn alluog i gyflawni eu dyledswyddau yn deilwng o bob ymddiried a chefnogaeth. Cymeradwyir y ty a'r Goruchwylwyr i sylw y Wlad gan y Boneddigion canlynol:— Parch. Samuel Davies, gweinidog y Wesleyaid a chadeirydd y Dalaeth Ogleddol. Parch. Isaac Jones, Liverpool. Parch. John Thomas, Liverpool. Parch Jonah Morgan, Cwmoach, Aberdar. Parch John Rees, Treherbert, Pontypridd. Colier y cyfeiriad,—Messrs. Jones, & Co., 14, ('alton Street, Liverpool. D.S.—Cyfarfyddir a phawh a ymddiriedaut en gofal i'r Goruchwylwyr uchod ar eu dyfodiad i Liverpool. ZEE. WABR, CONFECTIONER, &c., No. 1, Commercial Street, Aberdare. BEGS to inform the public that he is now prepared to execute all orders for TEA PARTY CAKES, Buns, &c., &c., on the most reasonable prices. Mark the Address :— H, WARR, CONFECTIONER, 1, Commercial Street, Aberdare. BEEHIVE SHOP, YSTRAD, RHONDDA! At bawb sydd berclien TEAPOT!! X JE TEn T 15 Dim ond treial ar y TE, Chwi ddywedwch DYMA FE TE Rhagorol am 2s. 4c. y pwys. Danfonir chwech pwys—Carriage Paid, i unrhyw ran o'r deyrnas. DRAPERY o bob math am brisoedd Llun- dain. Blankedi, Counterpanau, a Chanfasau o bob math. Stock newydd o wlaneni pryd- ferth at grysau. Cotau Blankedi o bob math. ggy Cofier yr Address,— OWEN MORGAN, Beehive Shop, Ystrad, Rhondda. __n_ _n EVAN THOMAS. IRONMONGER, Safety Lamp Manufacturer, 7, Cardiff Street, Aberdare, The only maker in the Principality Davy Lamps, 4s. 3d. Clany Lamps, 5s. 3d. Clany Glasses, 5d. each. Miners' Lamps Repaired. Special Quotation for large quantities. !J —• i.i'J t"L:I l.' « EISTEDDFOD FAWREDDOG TABERNACL, MERTHYR A gynelir Ar JDdydd Nadolig, 1867, YN Y DBILL SIJLLIL, pRYD y gwobrwyir yr jmgeiswyr llwwyddianus mewn adrodd, canu. ac areithio. I'r cor, heb fod dan 30 o nifer olr un gynulleidfa, a gano yn oreu I-Ar Don o flaen Gwyntoedd," gan J. Parry, America, £20. Y mae y Progjamme yn awr yn barod, ac i'w gael gan yr ysgiifenydd, W. Williams, 6, Pleasant View, Grawen Terrace, Merthyr, ac hefyd gan y Trysorydd, D. Davies, jun., 3, Glebeland, Meithsr. Beirniad, LlewLlwyvo.
TO BE SHOT FOB,
TO BE SHOT FOB, At the Royal Oak Inn, Mountain Ash, ON MONDAY, SEPTEMBER 30, 1867. 1st Prize, Two Pig& 2nd Prize, One Pig. 3rd Prize, 10s. Tickets, 6d. each. No. 6 shots. Dist. 45 yards.
Advertising
"EO FFUBFWEDDIAlJ ALLDOKBCHO^ YMCHWILIAD i Drefn Gwasanaeth a osodwyd mewn grym gan Weithred Un- ffurfiol, 1662, gan y Parch. EBENEZER DAVIBS, Caledonian Road Chapel, Llundain: wedi ei gyfieithu gan John Williams, Trecynon. Dyma eto un o Draethodau gwerthfawrocaf y dydd. Y mae ei awdwr yn feistr mewn Saebneg, ac yn medru Cymraeg. Ac os cymerir gan Y LLANC, y mae y rhai hyny, megys Mr. Henry Richard, a Mr. Ebenezer Davies, yn gyfansoddwyr llawer mwy coeth, eglur, a nerthol, yn yr laith Saesonaeg, na'r rhan fwyaf o'r Saeson eu hun- ain."—Y Crouicl. Awdwr yr hwn ydyw ein cydwladwr galluog. Nid rhaid i ni ddywedyd ei fod wedicael ei ysgritenu yn nerth- ol o ran rheswm, yn brydferth o ran iaith, ac yn Gristion- ogol o ran ysbryd. Y Dysgedydd. Pris Tair Ceiniog. Trwy'r Post, Pedair Ceinioy. Ar Werth gan TV. Lloyd, Swyddfalr GWLADGARWII, Aberdar. TO JB IB lifcT. A DOUBLE-LICENSED PUBLIC HOUSE, and may be entered upon immediately. Apply to Mr John Jones, Wheat Sheaf, Mill Street, Al-erdare. CANIG,— Deuwch sn lion. Caru'r gwir. GLEE,-Little Pigs. DEVAWD.— Canfyddaf drwy'T amser. IJEUAWD,— Yn mlaen. DKUAWD,—Boreugwaith o Fai. TKIAWU,— Yrhaf. XRIAWD,— 0 come let us sing. TKIAWB,—Y Gwanwjn. TKIAWD,—Gwlith y boreu. TEIAWD,— Ad- gofion mebyd, TRIAWD,- WLat shall we sing. CYIXH- DONAV,—Durham cries, Old Cliairs to mend, Clychau7 hwyr Soi,o,-Dinodded ydwyf fi. CHOIILS, ijewch, dewch yn mlaen. CHORUS, Rhowch fawl ar gan. ALAW- ON, CYMRfjG,Hob y den dando. Y Gelynen. MorEa Rhuddlan. Toriad y dydd. Gyda'r wawr. Clychau Aberdyfl. Megan a gollodd ei gardas. Bugail Cwmdyli, &c., &c. Dwy Anthem, Clywch tebycaf dywaf laia, a cenwch i'r Arglwydd. gan J. Tuomas. Ail Ar graffiad. Pris Is. Y Cyfansoddiadau Buddugoi yn Eisteddfodau Aberdar am 1859, 1860, a 1861. Pris Is. 6c. Y TREN gan D. H. THOMAS. Pris 6ch. Anf nir itgtt hyw 1.yf,. yn ddidraul post omt anfon ei werth. mev.,n Stamps i'r Cyhorddwr. Cyf irier J. Thomr s, "Tredegar Times Oijice," Tredegar. Apprentice a Turnover yn eisiau. AN APPRENTICE: WASTED T E. GEORGE, CHEMIST, Member of the Pha; maceutical • Society of (/i eat Britain, has a vacancy for a well- educated youth as apprentice. He will have every facility of gaining a thorough knowledge of his profession. Apply, J. E. GEORGE, Pharmaceutical Chemist, Hirwain, Aberdare. Neicydd ei gyhoeddu, pi-is 6c.,drwy'r poit, 7 stamp. tydymmith yr idroddwr, A Llawlyfr y Darlleniadau Ceiniog. Gan J. THOMAS, Tredegar. CYNVTYSIAD Ymddiddanion aDadleuon rhwng yMor- grygynVr CeiliogiRhedyn—Twm Benfras a Mrs. Ceimach •Morgan a'i wraig Y Fuwch a'r Asyn William a Mari — Y Cybydd a'i Wraig — Y Gacynen a'r Wenyren—Y Mar a'r Haul-Y Pin a'r Nodwydd-Y Gwybedyn a'r Pryf gopyn-Bachgen ac offeiriad Pabaidd—Y nant a'r Uyn dwfr Y badd a'r anifeiliaid—Alexande; a'r lleidr-Dadl y byb dybacco. Cenadwri Dafvdd at Abner, Dafydd a Goliath, y Tonic Sol.fa, Pa fodd i wneud y goreu, Rhodd y crynwr, vpen- dilwm anfoddus, Die Sbon D. fydd, Nadolig hen Lane, &c., &c. Allan o'r Wasg yr 2il Han, pris Is. 6ch., TBLTI CYMIRLU, lief dctholiad 0 ddnmau Cerddorol, o natur foesol a difyr, yn gyrtuysedig Ganianau (Gle s) Cylchdonam, Alavon Cym. mg, &c., at wasanaeth y Darlleniadau Ceiniog, Jiisteddfodau, Cymdeithasau Llenyddol, &r., gan J. THOMAS, Tredejar. CYNELIR CYSTA.DI.E'lJA.ETH CrEBDDOBOX. YN ABERTAWE, TACH. 18, 1867. I'r Cor heb fod dan 60 o rif, a gano yn oreu "We never will bow down," o Judas Mm- cabceus, Handel. Owobb £ 15. Mae programmes i'w cael drwy anfon 2 stamp i'r Ysgrifenydd,— D. JONES, 5, Christina Street, Swansea. jjjii u