Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

SYLW AR YSGRIF "UN O'R GRAIG."

News
Cite
Share

SYLW AR YSGRIF "UN O'R GRAIG." Wrth sylwi ar ysgrif eiddilaidd Un o'r Graig," yn y GWLADGARWR am y 24ain cyfisol, meddyliais ei fod yn rhy wan i ymddangos drachefn ond er fy syndod, dyma y gwalch. trwy gymhorth ffyn baglau, wedi ymlusgo un- waith "eto i faes y GWLADGARWR. Da genyf weled ardal yr Alltwen yn cael ei dyrchafu i gymaint sylw y dyddiau presenol. Y mae ei henw i'w weled yn argraffedig agos ar bob newyddiadur, a phersonau ag sydd wedi bod yn ceisio ei gwarthruddo ar gyhoedd gwlad yn gorfod dweyd yn dda am dani. Yn y GWLADGARWR er's ychydig wythnosau yn ol, cawn Un o'r Graig yn ceisio pardduo y lie, a'i osod yn waeth nag un o ranau tywyll Affrica ond yn y GWLADGARWR diweddaf yn ei godi drachefn i'r uehelion, trwy ddweyd nad oes ond tair o'r rhyw degyn ei aflonyddu, a'r rhai hyny yn enedigol o wledydd estronol, ac wedi derbyn eu haddysg foreuol tu allan i Gymru. Ymddengys yn amlwg nas gall" Un o'r Graig" gerdded tir canolog ac unol a rheswm. Rhaid yw iddo ef fyned i eithafion v naill ochr neu v Hall, drwy ddangos cymer- iad lie n eithaf gwyn a difrycheulyd, neu i'r ochr arall, ei osod allan cyn ddued a'r gloyn. Gwel y cyhoedd nad gwiw iddynt ffurfio un- rhyw farn am gymydogaeth na pherson oddi- wrth ei y sgrifau, oddigerth ei berson ei hun- an,- A rhwydd y dengys y dyn 0 ba radd y bo'i wreiddyn." Pan y mae yn myned i gyflawni dyledswydd deuluaidd, yr wyf yn ystyried ei fod yn ymylu ar dir rhy gvsegredig-ymddengys fel un yn cellwair. Y mae yr hyn a'i cynhyrfodd i addoli, ei ddull yn cyflawni'r ddyledswydd, yn nghyd ag anufydd-dod rhai o'r teulu yn dangos ar unwaith ei fod vn anghynefin a'r iau. Y mae yn ddifyr genyf wrando arno yn brolio cymhwysder ei ysgrifau, yn nghyd a'r effeithiau dymunol a gynyrchant. Druan o hono Pa les ddichon sothach o'r fath gy- nyrchu ? Y mae yn amlwg nad ydynt o ran cyfansoddiad ond ffrwyth meddwl eiddilaidd, yn llawn malais a dichell, wedi eu cyfansoddi tua chvmydogaeth y brecu, yn gymhwysiadol i fod yn destyn chwerthin i rai o brif swydd- ogion temlau Bachus. Gan fy mod yn ber- ffaith adnabyddus o'r gwr o'r Graig a'i fuch- edd, yr wyf yn rhyfeddu ar ei ddigywileidd- dra-un nad yw yn debyg ei fod erioed wedi wylo dagrau edifeiriwch am ei bechod ei hun- an-yn medru ffugio y fath deimlad dros ei gymydogion, nes tori allan trwy ei lais asen- aidd i oernadu ar gyhoedd gwlad. Och fi satan yn ceryddu pechod-un a thrawstiau yn ei lygaid yn ceisio bwrw allan y brychau. 0, rhagrithiwr! bwrw allan y trwst o'th lygad dy hun yn gyntaf, yna y gweli yneglur i fwrw y brycheuyn o lygad dy frawd. Trwsia dy anedd dy hun yn gyntaf, wedi hyny bydd yn ddigon cynar i ti chwilio i lochesau dy gy- mydogion; a chais adnabod dy hun, yn nghyd a'r fan wyt yn sefyll, rhag i'r graig dybiedig dan dy draed i droi allan yn sylfaen dywod- lyd. UN O'R LLE.

"L" AC EISTEDDFOD Y GLOCH…

EISTEDDFOD ADULLAM MERTHYR,…

EISTEDDFOD ADULLAM, DRILL…

FY LLITH OLAF AT MR. SLICK.

I EISTEDDFOD CWMAFON.

AT MR. ISAAC THOMAS.

AT DANIEL YN NGWLADGARWR MEDI…

GWLADYCHFA GYMREIG YN PALESTINA.