Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
'----RHUFAIN.
RHUFAIN. Deallwn fod nifer o wrthryfelwyr wedi |Wneud eu hymddangosiad yn nhalaeth ^iterbo; ac yr oedd milwyr y Babaeth yn °rysur erlyn ar ea holau. Modd bynag, y tebygolrwydd ydyw, na bydd i wrthryfel ^Uniaidd gymeryd He ar hyn o bryd. Y y newyddiadur a ystyrir yn brif organ Signor Ratazzi, yn gofyn yn ddifrifol i'r Garibaldiaid am ymdawelu am y presenol, trwy ddangos fod y cytundebau presenol yn gWahanl1 Itali a Rhufain, ond y gall y bydd cyfnewidiadau yn cymeryd lie yn fuan a fydd yn newid sefyllfa pethau.
INDIA.
INDIA. Oddiwrth yr adroddiadau a dderbyniwyd ddiweddaf o India, yr ydym yn cael fod yr adroddiadau o'r lleoedd y cymerodd y new- yn le yn para yn dra boddhaol, a bod y derbyniadau o gynorthwy y Llywodraetb Yn lleihau yn ddyddiol. Y mae yr ofnau befyd oedd yn Burmah Uchaf, o barthed i newyn dori allan yno, yn diflanu. Y mae parotoadau yn cael eu gwneud ar gyfer cospi brodorion Ynysoedd Nicobar, al11 eu hymddygiad tuag at ddwylaw llong- au a yrir yn achlysurol ar eu glanau.
AMERICA.
AMERICA. Yr ydym yr wythnos hon wedi derbyn y ttianylion o'r America o barthed i farwol- aeth disymwth Syr Frederick Bruce, yr hwn a ganlynodd Arglwydd Lyons, yn Ebrill 1865, fel Llysgenadwr Prydain yn yr Unol Daleithiau. Yr oedd y boneddwr Nvedi bod yn achwyn am amser fod rhyw anhwyldeb ar ei wddf, ac un diwrnod, tra yn aros yn Narraganset, ymaflodd yr an- Wyldeb ynddo gydag egni adnewyddol. Gadawodd y lie hwnw ganol dydd y 18fed o'r mis diweddaf, a chyrhaeddodd Boston am oddeutu haw yr un noson. Ceisiwyd cynorthwy meddygol yn uniongyrchiol, ond yr oedd y clwyf wedi myned yn rhy bell i gynorthwy meddygol wneathur un- rhyw les iddo, a bu farw oddeutu dau o'r gloch y boreu canlynol. Mor gynted ag i Syr Frederick gyraedd Boston, anfonwyd am Mr Sumner, y Seneddwr Americanaidd, a chyfaill mynwesol i Syr Frederick, ond ni allwyd deall dim a geisiai ei ddywedyd o herwydd natur ei afiechyd. Yr ydym wedi derbyn y newydd anny- naunol hefyd fod y clefyd melyn yn ym- daenu i ganolbarth Louisiana. Hyd yn hyn, yr oedd ei effeithiau dinystriol wedi eu cyfyngu yn benaf i New Orleans.
GARIBALDI.
GARIBALDI. Er na chymerodd unrhyw derfysg pwysig le pan y cymerwyd Garibaldi i fyny, eto y mae yr arddangosiadau a gymerasant le yn holl Itali yn rhwym o fod wedi argyhoeddi llywodraetb y wlad hono fod yr achos oedd ganddo mewn llaw yn achos y genedl. Yr oedd yr arddangosiadau a gymerasant le yn Florence yn gryf, a buwyd yn gorfod dangos a bygwth arfau i'r dyben o roddi y teimlad i lawr, ac o'r braidd yr oedd hyny yn ddigon effeithiol. Yr ydym yn cael na chafodd Signor Ratazzi ei bun ond o'r braidd ddianc rhag cael ei wneud yn ar- ddangosiad cyhoeddus o anfoddlonrwydd ymddygiad y llywodraeth at Garibaldi. Y mae yn wir yr addefa cyfeillion goreu y Cadfridog fod y llywodraeth mewn amgylch- adau cyfyng ond trwy mai uniad Itali ydyw pwnc y dydd yn Itali, y mae yn rhaid i'r llywodraeth ddangos y gallant ddwyn hyn i ben eu hunain cyn y bydd i dawelwch gymeryd lie. Y mae Garibaldi wedi dychwelyd i Cap- rera yn hollol ddiamodol, a gall ymddiddan oddiyno a'i gydwladwyr bron cystal a phe yn Florence.
TRYCHINEB OFNADWY YNRWSIA.
TRYCHINEB OFNADWY YNRWSIA. Cymerodd damwain echrydus le yn Kin- eschma, yn Rwsia. Yr ydoedd oddeutu cant o bersonau o bob, oedran. yn dychwelyd yn llawen o ffair a gynaliwyd yn y pentref a enwyd uchod, a'c aethant i lestr er mwyn eroesi yr afoni fynediYelga* Yr ydoedd y llestr yn anghyffredin o lawn, a phan oeddynt wedi agoshau at y lan yr ochr arall, gofynodd y meddianydd am dal y cludiad. Taflwyd y teithwyr i gryn gyffro, adymchwelodd y llestr. Boddwyd cymaint a thrigain a thri o bersonau. Yr oedd yr olygfa dranoeth, pan ddygid y bobl anffor- tunus i'r lan yn dorcalonus i'r eithaf.
TAN DINYSTRIOL YN ABERTAWE.
TAN DINYSTRIOL YN ABERTAWE. Boreu dydd Mercher diweddaf, cymerodd tan dinystriol le yn Abertawe. Y lie y torodd y tan allan oedd Brynymor, palas Mr. Robert Eaton, yr hwn a saif wrtho ei hun, ar wahan i'r adeiladau cymydogaethol. Rhwng haner awr wedi 12 ac un o'r gloch, yr oedd Mrs. Eaton yn ei hystafell wely, a chlywodd rhyw swn fel pe buasai coed yn cael eu tori. Wedi gwrando, a chlywed y swn eilwaith, aeth i ystafell un o'i gwasanaethferched, gan ei di- huno, a'i hysbysn ei bod yn credu fod yspeil- wyr yn y ty. Aeth hono ar nnwaith i ystafell y butler, yr hwn a redodd i lawr i steiriau. Wedi cyraedd y llawr, gwthiodd yn agored ddrws y pantry, o'r hwn Ie y daeth colofn o fwg ac a lanwodd y neuadd. Rhedodd i fyny a hysbysodd fod y ty ar dan, ac wedi galw y gwasanaethyddion oil, aeth i adeilad arall, a chanodd y gloch alarwm. Y peth cyntaf a wnawd oedd symud y plant, pump mewn rhif, idy cymydog, ac aeth Mrs. Eaton yno gyda hwynt. Yr oedd Mr. Eaton yn Llundain ar y pryd, a Miss Eaton hithau oddicartref. Yr oedd v tan wedi cyraedd nerth mawr cyn i'r peirianau ddyfod, fel y methwyd llwyddo i'w ddarostwng cyn i'r elfen ddinystriol bron yn gyfangwbl ei anrheithio. Modd bynag, llwydd- wyd i achub llawer o'r pethau gwerthfawrocaf, megys darluniau, llestii arian, &c. Ni wyddus pa fodd y dechreuodd y tan. Deallwn fod y meddianau oil wedi eu inswrio i ryw gymaint.
IECHYD LLUNDAIN.
IECHYD LLUNDAIN. Y mae yn dda genym ddeall fod y marw- olaethau o'r diarrhoea yn ein trefydd mawr- ion yn lleihau, er ei fod eto cryn lawer yn fwy nag y mae yn arfer bod ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Y nifer am y pedair wyth- nos ddiweddaf yn Llundain ydoedd 191, 203, 114, a'r wythnos hon yn 108. Cofrestryd marwolaeth 15 o bersonau o'r cholera yr wythnos ddiweddaf. Yn yr wythnos gyferbyniol y flwyddyn ddiweddaf, y marwolaethau o'r diarrhma oeddynt 67, ac o'r cholera 117.
CYDYMDEIMLAD A GARIBALDI.
CYDYMDEIMLAD A GARIBALDI. Nos Fawrth diweddaf, yn Neuadd St. James, cynaliwyd cyfarfod er datgan cyd- ymdeimlad a'r Cadfridog Garibaldi. Yr oedd y neuadd yn orlawn, a'r gynuHeidfa yn ffrwdfrydig iawn. Llywyddwyd gan Mr. Edmund Beals. Derbyniwyd Signor Ricciotti Garibaldi gydag uchel gymerad- wyaeth, yr hwn a barhaoedd am rai myn- ydau. Siaradodd efe yn Seisnig, a hyny gvda chryn fedrusrwydd a hyawdledd. Derbyniodd cryn lawer o'i anerchiad gyd- ymdeimlad gwresog, tra y bydd i ran arall o honi achosi cryn lawer o ddadleu. Cy- tunwyd yn uufrydol fod anerchiad i'w an- fon oddiwrth y cyfarfod i Garibaldi.
CYNRYCHIOLAETH BRADFORD.
CYNRYCHIOLAETH BRADFORD. Cynaliwyd cyfarfod mawr yn Bradford, dydd Llun diweddaf, er penderfynu ar ) m- geisydd i gynrychioli y fwrdeisdref hono. Cafodd pedwar o enwau eu coffau, y rhai a roddwyd oil i bleidlais. Y mae yn dda genym allu hysbysu mai Mr. Edward Miall a ddewiswyd fel yr ymgeisydd rhyddfrydol. Y mae anerchiad Mr. Miall yn dra chymer- adwy, ac nid oes ond ychydig amheuaeth nad efe a etholir. Cymer yr etholiad Ie, y mae yn debyg, rhyw ddiwrnod yr wythnos nesaf. Y mae Mr. Miall yn awr yn Brad- ford, a thra thebyg y bydd iddo aros yno hyd ar ol yr etholiad.
[No title]
1 Y FAKCHNAD.—Er fod cryn lawer o brys: urdeb wedi bod gyda gwaith y cynhauaf yn Ngogledd Lloegr, yn gystal ac yn Ysgot- land, y mae y fasnach mewn gwenith wedi dangos llawer o sefydlogrwydd, ac mewn rhai amgylchiadan yr oedd prisiau yn tu- eddu atgodi. Yn ffodus i'r wlad, y mae y gwenith newydd wedi cael ei gario i mewn, a'r cyflwr yn rhagorol. Pe buasai ansawdd y cynyrch yn wael, fel ag yr oedd yn 1866, buasai y prisiau erbyn hyn wedi cyfodi llawer. Buasai cyfodiad chwanegol yn rhwym o ddwyn swm chwanegol oddiar led; ond nid ydym yn dysgwyl am unrhyw symudiad o bwys am rai wythnosau. Ar yr un pryd, dylem gofio fod yr ystor o hen wenith wedi darfod, a bod y cnwd newydd wedi dechreu cael ei ddefnyddio yn llawn mor fuan ag arfer. Y mae marchnadoedd y Cyfandir yn dal yn bui 3efydlog am bob math o wenith, am ychydig o godiad yn y prisiau. Yr oedd haidd, a phob cynyrch arall, yn gwerthu am brisiau eithafol. Y mae newyddion o America yn dangos fod yno brisiau uwch am bob math o gynyrch. Gan hyny, y mae allforion i Brydain wedi syrthio ymaith.
Advertising
AT V GLOWfB. (HYSBYSIAD). Dymunir ar i ddau ddyn o leiaf o bob pwll trwy ddyffryn Aberdar, ddyfod i'r Lamb and Flag Inn, Aberaman, am 7 o'r gloch nos Fercher nesaf. D.S.—Gofalwch fechgyn am ddyfod. GW4WL-LVSKABTH, (Photography). HYMUNA DAVID PHILLIPS, Wind Street, Aberdar, hysbysu eifgymydogion a'r wlad yn gyffredinol, ei. fod wedi ymaflyd yn y gelfyddyd I uchod, ac y caiff pawb a ewyllysiant, eu lluniau wedi eu gwneud yn y dull goreu, ac am brisiau rhesymol. Imfudwyr Cymrelgr, dLewcl# at y Cymro! JOHN MORGAN, Goruchwyliwr Ymfudol Trwyddedig, 94, Thomas Street, Merthyr Tydfil. A DDYMUNA hysbysu pawb a fwriadant Ym- ^fudo, ei fod yn BOOKIO gyda'r Ager a'r Hwyl longau goreu i bob rhan o'r America ac Awstralia, a hyny am Brisoedd ISELAF LIVERPOOL. Telir sylw uniongyrchol i lythyron, a rhoddir i bob ymfudwr Hints to Emigrants neu yr Emi- grants' Guide yn rhad. Ymfudwyr yn chwenych cadw eu hunain rhag cael eu eymeryd i mewn a'u twyllo, pan yn Liverpool neu New York, a ddylent ymofyn a'r Goruchwyliwr uchod o barthed i'r fordaith. KilM FFURFWEDBIir jLHUDBHCHOC}." YMCHWILIAD i Drefn Gwasanaeth a osodwyd mewn grym gan Weithred Un- ffurfiol, 1662, gan y Parch. EBENEZER DAVIES, Caledonian Road Chapel, Llundain wedi ei gyfieithu gan John Williams, Trecynon. Dyma eto un o Draethodau gwerthfawrocaf y dydd. Y mae ei awdwr yn feistr mewn Saesnee, ac yn medru Cymiaeg. Ac os cymerir gan Y LLANC, y maey rhai hyny, megrs Mr. Henry Richard, a Mr. Ebenezer Davies, yn gyfansoddwyr llawer mwy coeth, eglur, a nerthol, yn yr iaith Saesonaeg, na'r rhan fwyaf o'r Haeson eu hun- ain.Y Croldcl. "Awdwr yr hwn ydyw ein cydwladwr galluog. Nid rhaid i ni ddywedyd ei fod wedi cael ei ysgrifenu yn nerth- ol o ran rbeswm, yn brydferth o ran iaith, ac yn Gristion. ogol o ran ysbryd.F Dysgedydrf. Pris Tair Cciniog. Trwy'r Post, Pedair Ceiniog. Ar Werth gan TV. Lloyd, Swyddfa'r GWXADGARWR, Aberdar. GILOBES! GIOBEI!! Terrestrial & Celestial, containing all the mot recent discoveries. The cheapest ever brought before the Public. T be had at 2s. 6d., 3s. 6d., 8s., 15s., 21s., a upwards, at the GWLADGARWR Office, Aberdare BABBBOISXAETH TEI.. TWOG. mae ychydig gopiau &r werth gan Mr. Lloyd, Swyddfa'r Gwladgarwr, Aberdar. Pris 2s. 6e,; gyda'r Post, 2s. 8c. JSWYBWAII A MANTAIS FAWR I BAWB. DYMUNA E. H. EVANS, Cloth Hall, Aberdar, hysbysu i'r cyhoedd fod ganddo ar werth yn bresenol luaws mawr o Shawls Gwlenyn, a hyny am brisoedd hynod o rad. Ceir Shawls a arferid eu gwerthu am £1 10s., yn awr am 19s.; rhai a werthid am £1, am 14s. 6d.; rhai a werthid am 12s., am 8s. 6.; rhai a werthid am 10s., am 6s. 9d., ac ereill yn gySelyb. Hefyd y mae ganddo y Stock areu o wlanem o wneuthuriad cartrefol a fedd Cymru, am brisoedd rhad iawn. CLOTH HALL, }':i I 8, Commercial St., Aberdare. L1YFBAU IEWYUDIOS CYHOKDDEDIO AC AR WJSTTTH GAN HUGHES AND SON, WREXHAM, Y TESTAMENT BACH 4§X2i gyda chyfeiriadau, cy- sondeb yr Efengylau, mynegai daearyddol, tat., &c. Roan gilt edges, pris swllt; gilt rims and clasp 2s. 6d. Traethodau Bacon. Amlen Is. Gweithrediadau Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calflnaidd, 1864. Amlen Is. Etholedigaeth a Galwad yr Efengyl, gan y Parch R. Thomas, Bangor. Amlen Is. Fy Nhad, gan y Parch R. Thomas, Bangor. Amlen 3c. Duwinyddiaeth i Blant, gan y Parch J. Todd. Amlen 6e. Dirgelion y Beibl, gan y Parch J. M'Cosh. Amlen 6c. Yr Eisteddfod, 1864. Cloth 5s. Hanes Bywyd Dafydd Rolant, Llidiardau: casgledig gan y Parchedigon, Robert Thomas, Llwydiardau, ac O. Jones, B.A., Bala. Amlen Is. 6c.. Cofiant a Detholion o Bregethau y diweddar Barch 3. Hughes, Liverpool. Llian, 5s. Traethawd ar Swper yr Arglwydd, gan y Parch David King, LI. D. Pris 2s.; Llian, 2s. 6c. Y Sabboth yn Etifeddiaeth Dyn gyda sylwadau chwan- egol. Gan y diweddar Barch. J. Hughes, Liverpool. Mewn amlen. Is. Perffaith Gyfraith Rhyddid: gan y Parch D. Jones, Treborth. Amlen 2s. Yr Eglwys; gan y Parch D. C. Davies, M.A. Mewn amlen, Is. Yr Efengylau gan y Parch Griffith Parry, yn y wasg. Gramadeg Areithyddiaeth: yn cynwys Rheolau a Chyfarwyddiadau i gyrhaedd rhwyddineb a chywirdeb yn y gelfyddyd bwysig o Siarad yn gyhoeddus. Gan y Parch Thomas Thomas. Amlen, Is. 6c.; llian, 2s. Gwnewch y Goreu o Hono, neu Gyfarwyddiiadau ddefnyddio gwahanol fanteision, ac ymwellhau trwy wa- hanol ddygwyddiadau bywyd. Gan y Parch John Pugb, B.A. Amlen, 6c. Y Gwasanaeth Priodasol, yn Gymraeg a Saesoneg; Ffurf i'w ddefnyddio mewn Gwasanaeth Priodasol, wedi ei drefnu yn unol a gotynion y Weithred 7fed William IV. Llian, 9c. Detholiad Priodol Rhywogaeth a Meithriniad Anifeil- iaid. Amlen 6c. Meddyg Anifeiliaid. Gan John Edwards, argrafflad newydd yn y wasg. Pris yn rhwym, 4s. 6c. Yn barod yn Ngorphenaf. Anerch i leuenctyd Cymru. Llian, 4s. Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Genedlaetho Conwy, &c. (362 o dudalenau.) Amlen, 2s. 6c.; llian, 3s. 6c. Y Trefniedydd Cyfreithiol, neu Law-lyfr ar Wneuthur- iad Ewyllysiau. AmlC',n, 6c.; llian, Is. Yr Athrawydd Parod: sef Hyfforddwr i Ddarllen, Yie- grifenu, &c. Argraffiiad newydd gydag ychwanegiadau. Amlen, 6c.; drwy y Post, 7c. Taith y Pererin Darluniadol gyda Nodiadau. Addurnir ef a 110 o ddarluniau ysblenydd, y rhai y bu y gost i'w hardebu a'u cerflunio yn £1200. Lliain, gorwych gor- euredig, 10s. 6c. Myfyrdodau Esgob Hall ar ranau hanesiol y Testament Newydd. Llian, 4s. 6c. Yr Ysgol Sabbothol a'r Oes. Mewn amlen, Is. Chwedlau, neu Ddamegion JEsop. Gan Glan Alun. Byrddau, Is. Hanes y Due Wellington fel milwr, o'i gychwyniad allan hyd frwydr fawr Waterloo, &c. Byrddau, Is. 6c. Y Beibl Darluniadol—Y Testament Newydd. Gan J. Kitto, D.D., F.S.A. Gyda lluaws o Nodiadau chwanegol, gan y Parch O. Thomas, Llundain. Addurnedig ag oddeutu 200 o gerfluniau ysblenydd, a dau fap ar ddur. Rhanau, Is. Rhan 1 hyd 13 yn barod. s. c. Esboniad Dr. Lewis ar y Testament Newydd, ar y llyfrau hyn—loan a'r Actau, yn un llyfr (848 o dudalenau) 5 0 Ephesiaid, Philipiaid, Colosiaid, 1 a'r 2 Thes-) aloniaid, 1 a'r 2 Timotheus, Titus, a Phile- >50 mon, un llyfr (835 o dudalenau) Hebreaid, Iago, 1 a'r 2 Petr, 1, 2, a'r loan, a ) 4 0 Judas yn un llyfr, (700 o dudalenau) t Y Datguddiad, gydag Atodiad (tros 100 o duda- lenau,) yn cynwys amryw Dafleni buddiol, yn > 2 0 un llyfr, (380 o dudalenau) J fjiw- Y Pedair Cyfrol am 15s. Esboniad Henry a Scott, o Genesis hyd i ddiwedd Es- ther, gyda Sylwadau a Nodiadau o weithiau wyth a thri- ugain o wahanol awdwyr ereill. Y ddwy gyfrol un yna am s.; (pris cynteflg 12s.) Esboniad ar Lvfr y Dadguddiad, gan diweddar Barch. S. Lloyd, B.A.. Bala Mewn llian, 3s. 6c. (yn lie 5s. 6c. Wedi ei gyfrwymo fig sboniad Dr. Lewis ar y Dadgudd- iad Mewn llian, 6s. Y Beibl Ttuluaidd o Genesis hyd i diwedd Malachi, gyda Chyfeiriadau a Nodau allan o waith Scott a Henry Rhaiau 10.; rhwym. 17s (pris cyntefig, 42s.) Beibl Peter Williams, yn cynwys Sylwadau Eglurhad Mewn 21 o rifynau 2s. Rhwym, 28s. GREAT Reduction in Brain Pipes. Mr. Hugh Prichard, 27, Cardiff St., Aberdare, Licenced Valuer. AS been appointed -gent to one of the largest makers in the trade, and is prepared to sell at a great reduction, W. C. Pans, Sink Traps, Chimney Tops, and all sorts of Terra Cotta Statuary. Agent to the Exeter Building Society. Money lent on House Property. At y Beirdd. RHODDIR GWOBR, sef "GWEITHIAU IAGO EMLYN," gan Mr. T. T. Yorath, am y 40 llinell goreu, yn unrhyw o'r Mesurau Caethion, ar ABIGAIL. Y Cyfansoddiadau i'w hanfon i'r Beirniad- Creidiol, Pontypridd, erbyn Hydref 28, 1867. At Gymdeithasau Dirwestol. Yn awr yn barod, pris 58. 6c. y cant, "r post, 6s. HARDEN YR ARDYSTIAB, yn Gymraeg, wedi ei gerfio ynddurnedig, a'i weitMo allan yn hardd, a nil- aws o arwyddeiriau priodol. Mae hwn yn un o'r tlysaf a drlaeth allan erioed yn Gymraeg. Mae eisioes wedi derbyn bymeradwyaeth mawr gan Gymdeithasau Ueol Aberdar. I'V del GII WALTSB LLOYD, Swyddfa'r GWLADQABWR, Aberdar.