Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

u.>.u hyfrydwch v Ban, y maen Chwyf, a Chiaig yr Esgynfa. Myned yn mlaen felly yn hedd- ychol, heb ofalu rhyw lawer am ganlyn yr oes yn ei rhwysg a'i gorwychedd ond pawb yn byw oreu y gallai, gan ofalu bod y geiniog yn dyfod yn rhwydd ac ami i'r logelL le, dyma fel y bu pethau yn y blynyddau sydd wedi myned hyd ddadleniad ydydd hwnw. Ond yn bresenol, mae hyd yn nod Potypridd am ddangos i'r byd ei bod mewn bod—llawer o ysbryd diwygiad ac anturiaeth wedi ei medd- ianu-y masnachwyr oil yn gwneud cyfne- widiadau er gwell yn eu masnachdai. Mewn gwiriouedd, mae y dref y peth arall yn awr i'r hyn doedd ddwy flynedd ol. Dywedir fod yn y drt-f a'r gymydogaeth tua 7,000 o di'igolion ond dyma oeddwn yn hel ato, ei fod yn achos o "vndod nad oes yma ddim un math o allu i ivoli a threfnu achosiou y dref, ond yn un;g y Board of Guardians, pa rai sydd wedi gweith- i<> yn dra chanmoladwy. G vviiaw« i llawer c\ nyg at sefydlu Bwrdd Ieuhyd yma tua dwy flynedd yn ol ond nid oedd y bobl yn chwenych hyny ar y pryd hwnw, abu ei dynged yn debyg i eiddo y Neuadd Gyhoeddus. Modd bynag, mynu Bwrdd Iechyd a wnawn rhyw dro. Mae y bobl yma yn dyfod yn addfetach at hyny bob dydd, ac ysbryd cli ygiad ya myned ar gyn- ydd. Peth na fu erioed o'r blaeri yn Mhontypridd oedd y cyfarfod cyhoeddus a gynaliwyd yn npuadd y New Inn, nos Wener diweddaf, dan lywyddiaeth y Parch. D. T. Davies. Amcan y cviarfod hwn oedd dadleu v priodoldeb o uno Pontypridd a rhyw dref arall i'w chynrychioli yn y senedd. Yr oedd tua thriugain o brif l'.i-nachwyr y dref yn bresenol, a chafwyd ym- d lyddaniad maith a boneddigaidd ar y pwnc. 1' tdleuai rhai dros uno ein tref a Chaerdydd, tra y golygai y parchus gadeirydd, a nifer lu- osog, mai mwy priodol fyddai ei huno a Mer- thyr—fod Merthyr a Phontypriddd yn debyg i'w gilydd o ran natur y fasnach y ddygid yn mlaen ynddynt. Mai tref borthladdol yw Caerdydd, ond fod Merthyr a Phontypridd rywfodd yn nghanol y gweithfe^dd haiarn a glo, ac y byddai yr un pethau yn debyg o ateb i'r ddwy dref. Deallwn fod y cynygiad o blaid Merthyr wedi ei gyflwyno i'r Cyfar- wvdddwyr yno, ac y bydd iddynt ymweled a'r dref hon yforv, (dydd lau), er ystyried y pwnc yn ei holl gysylltiadau. Hyderwn y bydd i'n masnachwyr a,'n holl etholwyr ymddwyn yn wrol a doeth yn y mater hwn, a chofier mai pwnc gwladol ydyw. MSRTHYR.—Tysteb.—Nos Fercher, Medi y 25ain, ymgynullodd nifer o gyfeillion i'r Tem- ple of Health, sef y Turkish Bath, yn y lie hwn, i gynal cyfarfod, i'r dyben, yn fwyaf neillduol, o gyflwyno tysteb i Mr. Thomas Atkins, Ceidwad y Bath, fel cydnabyddiaeth fechan lluaws o fynychwyr y lie, am ei dde- heurwydd gyda'r gwaith, a'i serchogwydd i'r ymwelwyr. Cymerwyd y llywyddiaeth ar yr achlysur gan E. Roberts, Vsw., Plymouth, yr hwn yn ei anerchiad agoriadol, a sylwodd yn arbenig ar gymwysder neillduol Mr. Atkins i'r swydd-ei fod yn deall ei waith yn dda, ac yn ei gyflawni bob amser i foddlonrwydd—ei fod yn deall pa fodd i ymwneud a gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas, a chan ei fod yn Gymro trwyadl, wedi ei godi i fyny yn y dref, ei fod yn adnabod y rhan fwyaf o'r ymwel- wyr, ac yn gallu croesawu y Cymry a'r Saeson yr un fath. Yn ganlynol, anerchwyd y cvfar- fod gan Mr. H. W. Southey, Golygydd y Merthyr Express, W. Rees, Parliament Lock, W. Llewelyn, Engineer, &c., a chafwyd y barddoniaeth canlynol gan Alawydd o Lyw- el i felysu'r wledd Arwydd parch i raddau pell.— yw y rbodd Ga'dd i'w ran, heb gymhell; DeUiodd hon o ffynonell Noda gun ddymuniad gwell. Atkins fwyn a'i wen swynawl •• ei ddullwedd A'i allu rhagorawl I'w swydd, a ddenLT,, ei hawl Ef i gad wen fygedawl. Yr oedd y dysteb yn cael ei gwneud i fyny o gadwen oriawr, pel, allwedd, a locket, i gyd yn aur pur. Cyfiwynwyd y dysteb i Mr Atkins gan y llywydd; a dychwelodd yntan ei ddi- olchgarwch i'w gyfeillion mewn ychydig eiriau pwrpasol. Er bod yn meddu cyfoeth A phob manteision s"dc1 mewn golud, Fc a'r ded \ryddwch oil i'r llawr Mewn amser byr dan law afiechyd; Gan hyny, dylem rivwilio am Y feddygiiiiaeth fwyitf llesicl, Rhag cael ein cyrif yu go idnf cam A chwrdd ag aiigau'n nnamserol. M&e'r Turkis!* Hiith, fel tyetia Uu, Yn feddygi,,iaott, •mtiaeledij*, At amryw o'r clefydaii fit Yii herio gallu pob rhyw feddyg. Fe well ddolurialL'r pen ar fyr, A'r Ddueg brudd, a'r dittytf treuliad, A gwell y Khefrwst gas, a tryr Y gwenuid o'r holi gyfansoddiad. Fe wna i'r anwyd gl r.o n glau, A di dyniadau y gewyniim. A holl glfydaul Vgefu", a i- iiu, Y clelii poeth, a chlwy'r marchogioH, Qnd er cael Turkish Bath, n s bydd Fawr g'veith heb gael uweinyddwr medrus; <3iwn dystiolaetha i nos a dydd, Fod genym yma ddyn diesgus- Mi glywais deithwyr lawer pryd, Yn d'weyd bo t Atkins yn rhagori Ar bawb a welsant yn y byd— Mae hyny'n uchel glod i Gymru. A chlod parhaol i,tdo'i hUll, Am ei ddehourwydd, a'i ffyddlondeb; Mae'n hm ddywediad gan boh un Fod Atkins yn teilyngu Tysteb. Anrhegwn ef a chad wen h .rdd, I'w rhoi yn addurn ar ei ddwjfron, Fel arwydd o'r teimW:au dardd Yn ffi wd o fronau ei gym'dogion. Nawr, wele'r Dysteb iddo ef, Ond mae hi'n egwan i arnlygu Parodrwydd yr ewyllys gref, Fel gwna'r gwynebau Hon o'm deutu. ABERDAB.—Damimin Angeuol.-Medi y 87ain, cyfarfvddodd James Thomas a'i ddi- wedd drwy i ddarn o 10 syrthio amo yn ngwaith AbemanL ALLTWEN.-Cynaliodd yr ysgolion Sabboth- ol y lie uchod eu cyfarfod chwarterol dydd Sul diweddaf, pryd y cafwyd areithiau bywiog, ac adroddiadau pwrpasol, gan ieuenctyd y gwahanol ganghenau. Yr oedd yr ysgolion yn nghyd vn rhifo tua thri chant, a phob cangen wedi llafurio yn helaeth. Da genyf gael lie i gasglu fod amryw o honynt yn fech- gyn talentog a gobeithiol, ac yn debyg o fod yn ddynion defnyddiol yn y dyfodol. Maent yn deilwng o ganmoliaeth am eu hymdrech i drysori pethau da yn eu cof; ac mae eu parch- edig weinidog, P. Griffiths, yn haeddu clod am ei ymdrech dflino o blaid yr Ysgol Sab- othol yn ei hen ddyddiau.-TEITHIWR. MYNYDD CYNFFIG.-Penny Readings.-Nos Fawrth, y 24ain, yn ystafell "Iorwerth Goch," cynaliwyd un o'r cyfarfodydd uchod, a daeth cynulleidfa barchus yn nghyd. Cymerwyd y < gadair gan Llyfnwy, pryd y darllenwyd, yr adroddwyd, ac y canwyd gan y gwahanol ber- sonau yn ardderchog. 11 < AP COCH.-Dydd Llun, yr 16eg o'r mis diweddaf, cynaliwyd gwyl de gan y Gobeithlu perthynol i'r Annibynw) r y lie hwn. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngherdd, pryd y canwyd acyr adroddwyd amrywiol ddarnau gan E. Powell a'i gyfeillion, yn nghyd a'r Gobeithlu. Chwareuwyd hefyd amryw ddarnau yn dda gan Mr Joshua Davies, ar y perdoneg. Ter- fynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." TREDEGAR. — Damwain Angeuol. — Boreu dydd Llun, Medi y 23ain, cyfarfu dyn a'i ddi- wedd yn nglofa Ty-Trytt, trwy i ddarn o lo syrthio arno a'i ladd yn y fan. Ei enw oedd Edward Lewis gadawodd wraig a dau o blant i alaru ar ei ol. Deallwyf mai brodor o Lan- idloes oedd.—R. M. AWR YN NGHYFEILLACH HEN DOMOS.—Nid oes yr un o Staff y GWLADGARWR yn fwy ad- nabydilus yn ngwahanol baithau y byd na Hen Domos. Siaradir llawer am dano yn y byd mawr gorllewinol, ac nid ydyw hefyd yn wr dyeithr yn y parth gwrthdroediol i ni; ond yn Nghymru, y mae ei enw yn air teulu- aidd, a phob plentyn deg oed yn gwybod am dano. Hiraethais ganwaith am gael trem ar yr hen bererin gor-enwog, a chael cyfnewid ychydig frawddegau ag ef; ond er gwaethaf gwg, twrf. ac belyntion y byd, cefais hyny o fraint y 22ain o'r mis diweddaf, er fy mawr foddhad. Y mae efe yn wr dysgedig, coeth o feddwl, ac yn orlawn o ffraeth eiriau. Yr. wyf yn sicr na ddarfu i mi dreulio awr yn ystod gyrfa fy mywyd, mor bleserus a'r awr a dreuliais yn nglumdeithas Hen Domos. Bydded iddo ef gofio ei addewid a mi, sef gwthio ei gorpws i fy mwthyn clyd yr amser a nododd.-UN 0 YSTALYFERA. PENYCAE, GER ABERAFAN.-Nos y 24ain o Fedi, rhwng wyth a deg o'r gloch, torwyd i mewn i dy Mr. Thomas Griffiths, tra yr oedd yn berafan yn y cyfarfod, dygwyd oddiyno o £ 27 i 30 o arian, ac oriawr arian dda. Nid ydys hyd yn hyn, wedi dyfod o hyd i unrhyw wybodaeth am y lleidr neu'r lladron. Y mae amgylchiadau yn arddangos fod y drwgweith- redwyr yn ddigou cv far wydd a'r He. Hyderwn y deuir o hyd gafael iddynt yn fuan.-R.M. TONGWYNLAS.—Nos Wener, Medi 27ain, ymwelwyd a'r He uchod gau yr athrylithgar S. J. Rees ((ranogwen.) Cawsom y fraint o'i gwrando yr ail waith yn traddodi un o'i hoff darlithiau, sef Elfenau Dedwyddwch." Nid oes eisieu yr un llythyr canmoliaeth ar Miss Rees. Y mae ei chlod bellach yn hysbys trwy Gymru a Lloegr. Yr oedd ei llais treidd- gar a'i dull gwreiddiol yn gorchymyn gwran- dawiad pan yn gosod ger bron rhyddid elfen fawr dedwyddwch, yn neillduol pan yn dar- lunio y cymeriad gwrthwyneb i rhyddid, sef y cymeriadau sydd mewn caethiwed beunydd- iol, sef meddwyn, diogyn, cybydd, a'r nwyd- wyllt. Yr oedd yn fendigedig pan yn ein harwain i ben y bryn, fry i'r nefbedd, ac yn hynod ddesgrifiadol o'r orsedd wen, fawr, yr hon oedd mor ddysglaer a'r haul; ie, meddai, yn ganmil dysgleiriach, a digon o eangder i ddyn gael rhyddid am dragywyddoldeb. Yr oedd yn hynod lwyddianus hefyd yn gosod allan y cyfryngau i gyrhaedd dedwyddwch, ac yn cynghori yr ieuenctvd i osod eu nod mor uchel apherffeithrwydd. Yr oedd ar ei huchel- fanau trwy yr holl ddarlith. Llywyddid yn fedrns a deheuig gan Mr. Davies, Gland wr ac er gwneud y ddarlith yn llawD, rhoddodd Glee Party y lie eu presenoldeb, trwy ganu amryw ddarnau. Cafwyd anerchiad barddon- 01 gan y gwresog Gwilvm Brycheiniog. Yr oedd yr elw at leihau dyled Hermon. Llwydd- iant i Miss Rees i fyned yn mlaen mewn gwneuthur daioni.—GWILYM DDU 0 WENT. Y STRADGYNLAIS.-A nmkrydlondeb Claddu. —Dydd Mercher, Medi y 25ain, cyniexodd claadedigaeth Miss Margaret Williams le, merch Mr. Rees Williams, crydd, o'r lie uchod, yr hon oedd yn eneth barchus iawn gan bawb yn yr ardal. Mae'n ofynol yn ol y rheolau sydd ar ddrws yr eglwys, i bob angladd fod ar y fynwent erbyn haner awr wedi pedwar, yn y tymor hwn o'r flwyddyn. Cychwynodd yr angladd yn brydlon, ac yr oedd yno ychydig cyn yr amser, yna dechreuodd y gloch ganu, a chanu wnaeth am hir amser; ond nid oedd yno un ofleiriad i'w chlywed, er mawr siom- edigaeth i amryw berthynasau a chyfeillion yr ymadawedig. Felly parhaodd y gloch i ganu yn awr ac eilwaith hyd nes aeth yn nos, ac yna am wyth o'r gloch, fe ddaeth yn llawn brys i gyd ar dori ei wynt!—" Ymweliad ag America."—Nos Fercher, Medi y 25ain, yn nghapel Sardis, yn y lie uchod, traddododd y Parch. T. Levi, Treforis, ddarlith ddyddorol ar "Ymweliad ag America." Cymerwyd y gadair am saith o'r gloch, gan y Parch. H. Rees. Wedi anerch y gvnulleidfa, galwodd ar Mr. Levi at ei orchwyi. Yna dechreuodd y darlithydd ar ei orchwvl, a pharhaodd am yn agos i dair awr, a'r rKai hyny yn myned aeibio fel j ctydig fynydan, Hofiwn ya fawr ei glywed am haner diwrnod; ac yr wyf yn meddwl y buasai hyny yn rhy fach iddo i'w gorphen. "Barddoniaeth."—Nos Wener, y 27ain o Medi, yn nghapel Bethlehem, ger y lie uchod, traddododd y Parch. R. Williams, (Hwfa Mon), ddarlith wir addysgiadol ar y testyn uchod. Y Parch. 0. Jones, Ystalyfera, yn v gadair. Uncoiled mawi i'r ardal oedd fod mor lleied ohonyntyneigwrando; yr oedd yn werth aberthu ychydig er mwyn ei chlyw- ed. Tanchwa.—Borem dydd Sadwrn, Medi yr 28ain, yn ngwaith Waunclawdd, perthynol i gwmpeini Ystalyfera, cymerodd tanchwa Ie, pryd y llosgodd dau lowr yn bur ddrwg; ond y maent yn argoeli gwella eto. Goleu noeth sydd ganddynt oil yn y gwaith hwn, a dyma rhybudd eto i fod vn wyliadwrus gyda'r awyr Jfyrdd.—E. C. 4 NAZARETH, ABERDARE.—Prydnawn dydd lau, Medi 26ain, cynaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu gwyl de flynyddol yn vestry y lie uchod, pryd y daeth lluaws yn nghyd i ddifyru ar y bara brith a ffrwyth y ddeilen ddu. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod ad- roddiadol yn y capel. Llywyddwyd ar yr ach- lysur gan y Parch E. Pugh, Cvvmbach, yr hwn orchwyl a gyflawnodd gyda'r manylrwydd mwyaf. Anerchwyd ef gan Ap Jeffrey a Chadogfab. Wedi hyny, awd yn mlaen gyda'r cyfarfod ac y mae yn dda genyf ddyweyd i ni gael cyfarfod lluosog a llewyrciius dros ben. Yr oedd y canu a'r adrodd mewn cymaint o berffeithrwydd, nes yr oedd yn peri i'r holl wrandawyr i lamu o lawenydd. ( WMBACH. Damwain A ngeuol. Nos Fercher, Medi v 25ain, yn nglofa Mri Lewis & Co., fel yr oedd dyn o'r enw David Evans yn dvfod i fyny o'r pwll ar ol gorphen ei ddiwrnod waith, syrthiodd o'r cerbyd i lawr nes y bu farw yn y fan. Gadawodd weddw a dau o blant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn aelod proffes- edig yn Mryn Seion, Cwmbach. GLOFA HENDREFORGAN.-Medi y 30ain, anrhegwyd gweithwyr y glofa uchod a gwledd o'r danteithion a'r moethau rhagoraf a gyn- yrcha natur, gan Alexander Bain, Ysw., y perchenog, ar yr achlysur o helaetbiad y gwaeth, trwy groesi y mesurau, a chael dalen- au newyddion o lo a mwn. Yr oedd yn gweini yr arlwyaeth y boneddigion canlynol: Y Parch. Owen Jones, Capel y Wern, Ystal- yfera Mr White, arolygydd Camlas Cwm- tawe, a'i gydmares Mr. Petherick, Ynysced- wyn, a'i gydmares Mr. Ace, Ystalyfera, a'i gydmaies Mr. Jones, o'r un lie, a'i gydmares; Mr. R. Abraham, Contractor, a Mr. Lewis, Cwmllynfell. Gwedi i bawb ymddigoni i foddlonrwydd natur, symudwyd yllieiniau, ac etholwyd y Parch. O. Jones i'r gadair lywydd- ol. Er cael gwledd o nodwedd mwy neillduol, sef gwledd adlonol i'r meddwl. Anerchwyd y cyfarfod gan y cadeirydd yn Gymraeg a Seis- nig, a dilynwyd ef gan amryw o'r gweithwyr, a chan y boneddigion a enwyd uchod, yn nghyd ag anerchiadau dyddorol iawn gan A. Bain, Ysw. ei hun. C anwyd amryw ddarnau yn swynol iawn, gan gor plant y lie, dan ar- weiniad T. L. Rowlands, u Cymru lan," ac Hen Wlad fy Nhadau," gan John Thomas, a'r dorf yn eyduno yn y cydganau. Y mae parch yn ddyledus i A. Bain, Ysw. am ei ddull doeth yn rhoddi gwleddoedd sylweddol i gorff a meddwl, yn hytrach na'r dull annoeth a arferir yn dra chyffredin, sef rhoddi diodydd meddwol hyd fesur anghymedrol ar achlysuron fel yma. Y mae bwydydd danteithiol, a dogn cymedrol o'r diodydd gyda hwy, yn tra rhag- ori, heb law yr adeiladaeth adlonol i gorph a meddwl sydd yn gysylltiedig a'r gwleddoedd yr hyn sydd yn tueddu yn uniongyrchol at feithrin cariad ac undeb rhwng y meistri a'r gweithwyr at eu gilydd. Ymadawyd trwy roddi diolehiadau i'r perchenog am y wledd, a'r boneddigesau am eu presenoldeb a'u gwas- anaeth a phawb yn tystio eu boddlonrwydd i'r adloniant corfforol a meddyliol a dderbyn- iwyd yn y lie, gyda dymuniad am hir oes a llwyddiant i A. Bain, Ysw, a'i hynaws garedig gydmares.—L. ROWLANDS. BETHLEHEM, ABERCRAVE.—Nos Wener y 27ain a Fedi, traddodwyd darlith yn y capel uchod, gan Hwfa Mon, ar farddoniaeth. Y Parch. 0. Jones, Ystalyfera, yn y gadair. Nid oedd y cynulliad yn lluosog iawn, o herwydd rhyw amgylchiadau. Nid oes amgen dweyd fod y traddodiad yn wir dda wrth neb a gafodd y fraint o glywed y darlithiwr pobl- t>gaidd hwn, a chlywais ryw un yn dweyd wrth ddyfod adref, rhywbeth yn debyg i hyn Gan Hwfa ni gawn hufen. E gwyd y gwir lCyda gwen. Barddoniaeth yn hur ddawnu—-a draethodd, Dn 8 nrofiwy ei wetu> Ei drafod wnaeth yn urefnus; Llusgai rawn, a Uosgai'r us. Diamheu y gwerthfawrogir y ddarlith hon gan bawb a'i cly wsant, ac y bydd n golfed i'r rhai fethasant fod yn bresenol. Yr oedd yr elw yn myned at leihau dyled y capel.—UN O'R LLE. NANTOABW —Dydd LIan, Medi 23ain, oedd ddiwrnod a hir ddysgwylid gan ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol yn y lie hwn, ac wedi hir ddyegwyl, fe ddaeth y dydd, ac ni gawsom wledd ragorol o de a bara brith ac wedi i bawb gael eu gwala a'u gweddill, awd i gael gwledd o natur arall, sef cyf- arfod adroddiadol, acerbyn saith o'r gloch yr oedd yr addoldy yn orlawn o bobl. Wedi i Mr. Beynon gymefyd y gadair, awd at waith y cyfarfod. 1. Canu Elliot. 2. Adrodd Two Sisters" gan John. 3. Adrodd Trefn vr lachawdwriaeth gan SalathieL 4. Arodd Bedd fy Mam gan Davies. 5. 1 drodd "Mynydd Calfaria" gtn XLewis. 6. Ymddyddan am y Testament New- ydd gan Davies a Thomas. 7. "Adrodd "Fy Mrawd Bach" gan Llewelyn. 8. adrodd "Llwydd- iant yr Efengyl" gan Lewis. 9 Adrodd "Y Teulu Dedwydd" gan Rosser. 10. Adrodd "Y Duwiol gan Mathews. 11. Adrodd "Merch Jeptha gan Jenkins. 11." Iesn yn Wylo gan Morgans. 14. Adrodd Y Cristion a'r Rhagrith- lwr" gan Thomas a Jenkins. 14. Adrodd hanes Jonah o'r Cronicl. Wedi cael ton gau y cor, YW- adawodd pawb wedi eu llwyr boddlonL

[No title]