Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

ADGOFION BORAU OES.

News
Cite
Share

ADGOFION BORAU OES. Alaw,- Toriad y Dydd. I lawr o'r mynydd hanawg, Dylifai cornant fach, Lle'r ymddifyrais lawer awr, Ar hyd ei glanau n iach; A gwrando ar ei murmur < n mhlith yr heag a r brwyn, Gan blethu r rhai'n yn geinciau pert, Wrth fon rhyw ddeiliog lwyti; A chodi am bell gareg, Er gwel'd y pysgod man, A nofient yn eu helfen fyw, Trwy r dwfr gloew glan. Mor fawr bu yr edmygu Ar frwyn a'r deiliog goed, Tra hithau'n ddrych i'm wel'd y nef Serencg dan fy nhroed. Ac eilwaith mi symudwn I ben y bryn gerllaw, I wel'd dysgleirdeb lliwiau pur Yr haul wrth fachlud draw, A gwrando'r cor adeiniog, Ar gangau ir y gwydd, I'w Crewr yn rhoi hwyrol fawl Mor ber ar derfyn dydd 'Nol hyny mi ddychwelwn v n ol i'm bwthyn Had Cyn byddai nos a i lleni du Yn dyfod dros y wlad; A gwelwn ambell seren Fry yn yr wybren dlos, Yn datgan gwir ogoniant Duw, Mor bur ar ddechreu'r nos. A minau ar ol myned I mewn i m bwthyn mad, I gydymbyncio efo'r plant Ar aelwyd hoff fy nhad; 0 aelwyd fendigedig, Lie ni ches dderbyn cam; Lie ces gyngorion fil a mwy Mor dirion gan fy mam A chodwn ambell forau Ar doriad gwawrddydd dlos, I wel'd yr haul o'r dwyrain draw, Yn ymlid gwyll y nos; Chwareuwn ar y lanerch, Yn mhlith y blodau blydd, Tra'r Huan glan yn sychu ffwrdd Y dagrau 'ddiar eu grudd. Pa le mae'r lluaws hyny Fu gyda mi mor lion, Yn chwareu ar lanerchi heirdd, Cyn cael gofidiau'r fron ? Mae rhai'n eu beddau'n huno, A'r lleill ar draws y byd, Gan donau amser cariwyd hwy O'm golwg oil i gyd; A minau sy fel estron Fo 'mhell o dir ei wlad, Yn gwel'd gelynion yma thraw, Sy n mynych wneud eu brad; Ond ah mae swn y cornant, A cherddi'r adar iach, Yn aros yn fy ngalon i Fel pan yn blentyn bach. Llanwyno. F. ALAW.

ELIZA.

Y CYMRY YN NGOGLEDD LLOEGR.

[No title]

---^AT Y BEIRDD.

[No title]

I'R GWEFR-HYSJJYSYDD.

411 SEFYDIAD MR PROBERT, BOD-RHY…

I EFEILLESAU MR LEWIS LEWIS,…

PEDWAR ENGLYN

- YSGOL SABBOTHOL, TONYPANDY.

ENGLYN I'R CELWYDDWR.

.Y NOS.

ENGLYNION