Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
DINAS A'R YSTRAD.
DINAS A'R YSTRAD. Mr. Gol.-A gaf, trwy gvfrwng y GWLÀD- GARWR, alw sylw y lleoedd uchod at yr angen- rheidrwydd o gael claddfa yno ? Deallwyf fod cynllun ar droed gogyfer a chael un i ateb pen uchafy cwm, ac y mae pethau yn galw yn uchel am rhyw ddarpariaeth yn y lie hyuy i gladdu y meirw, gan fod rhai o'r lleoedd daddu wedi eu llenwi, ac ereill ar ddarfod. Y mae yma lawer yn teimlo o herwydd hyny ond y mae yn rhaid gvveithio cyn y daw peth o gymaint pwys i derfyniad. Peth dymunol fyddai i weinidogion a swyddwyr gwahanol eglwysi gymeryd y peth mewn Haw i ddech- reu, a gwahodd boueddigion yr ardal i gael sefydlu pwyllgor er cario y peth i weithrediad. Y mae yma barotoi pob peth arall ar gyfer eynydd parhaus y trigolion ond y peth hyn a phe byddai i danchwa druenus gymeryd lie, neu rhyw bla ddyfod i'r gymydogaeth, byddem heb un lIe i gladdu y meirw. On id yw peth fel hyn yn galw arnom i ddeffroi, o'r gwreng hyd at y boneddwr ? Terfynaf ar hyn o bryd, gan obeithio v b dd i'r gymydogaeth gymeryd y peth i fyny fel un gwr. Ni osodaf fy enw wrth y llinellau hyn, gan fod y peth yn dal cysylltiad a phawb, ac ni fyddai hyny yn gosod un pwys ychwan- egol ynddynt. W.
UNOL DALEITHIAU AMERICA.
UNOL DALEITHIAU AMERICA. (ODDIWRTH EIN COHEBYOD CYSON). MEDI 17eg, 1867. Mae amgylchiadau wedi fy lluddias er ys rhai misoedd i anfon gair i'r GWLADGARWR. Hyderwn o hyn allan ddal gohebiaeth lied fynych a'i filoedd ddarllenwyr. Gyda hyn o esgusawd, dywedwn air am ein
HELYNTION GWLADWRIAETHOL.
HELYNTION GWLADWRIAETHOL. Lied derfysglyd yw hi o hyd yn ein gwlad, ac ofnir na cheir rhyw lawer o heddwch hyd nes y byddo'r Llywydd o'i swydd. Efe yw y prif atalfa ar ffordd adferiad yr Undeb. Er iddo gael ei ethol, fel y gwyddus, gan y gwerin- wyr, nid hir y bu yn eistedd yn nghadair y merthyr Lincoln, cyn troi yn fradwr i'r eg wyddorion, ac i'r blaid fu'n achos o'i etholiad. Mae o'r cychwyn cyntaf, wedi syrthio o ddrwg i waeth; ac erbyn heddyw, nid oes unrhyw ddyfnder o fradwriaeth a chamwri nad yw yn agored i syrthio iddo. Buwyd ar y cyntaf yn synu n aruthr at ei weithrediadau, ond mae'r wlad wedi rhoddi fyny synu ato er ys talm, canys gwyr mai gwr dauddyblyg ei feddwl ydyw, anwastad yn ei holl ffyrdd. Y mae mor ansafadwy a dwfr, ac nid oes dim ymddiried yn cael ei roddi ynddo gan gyfaill na gelyn. Ei hoff 'waith \dyw gwrthwynebu y Gyd- gynghorfa, a roddi atalfeydd ar ffordd y deddf- au a basiwyd ganddo. Nid oes amheuaeth na fuasai y Taleithiau gwrthryfelgar yn gyflawn yn yr Undeb er ys talm, ond buasai ei ym- yriadau pechadurus ef a'r eyfreithiau ad-drefn- iadol, a'r anogaethau a roddodd drwy hyny i'r De i wrthwynebu ei dychweliad yn ol ar y telerau a gynygid iddo. Ni feiddia, wrth gwrs, ddirymu y cyfreithiau yn uniongvrchol, drwy wrthod yn bendant eu cario i weithred- iad, ond gwna ei oreu i'w dirymu yn anunion- gyrchol, drwy roddi esboniad arnynt hollol groes i'w bwriadau plaen. Y canlyniad yw fod penau swyddogol Sheridan, a Sickles, a Stanton wedi syrthio i'r fasged, a hyny yn erbyn gwrthdystiadau grymus Grant. Dys- gwylir hefyd y bydd i ereill o'r cadfridogion ydynt yn cario allan fesurau y Gydgynghorfa yn y De, gwrddyd a'r un dynged ac y bydd rhai yn cael eu gosod yn eu lie a ufyddhant i Johnson ei hun, ac a fyddant yn offerynau yn ei law i gario allan ei ewyllys ef er gwaethaf pob cyfraith. Beth fydd diwedd y pethau nyn, anhawdd dwedyd eto. Unig iachawd- wriaeth y wlad yw
SYMUDIAD Y LLYWYDD O'R SWYDD.
SYMUDIAD Y LLYWYDD O'R SWYDD. Disgwylir pan ddaw'r Gydgynghorfa yn nghyd yn Tachwedd nesaf, y bydd iddi, yn ol darpariadau'r cyfansoddiad, lunio erthyglan o argyhuddiad yn ei erhyn, ac y bydd i'r Sen- edd heb gollu amser, gymer. d y mater i fynu, a'i brofi. Diau y buasai. hyn wedi cael ei wneud er ys amser, oni buasai ymraniadau yn y blaid Undebol, ac uchel gais rhai o'i har- weinwyr yn y ddau Dy. Mae'r cyfansoddiad yn darparu, os bydd i'r Llywydd ddyfod yn analluogi gyflawni ei swydd, drwy farwolaeth, afiechyd, neu argyhuddiad, fod yr Is-lywydd i gymeryd ei le; acos nabydd yr un Is-lywydd fel vn yr achos prtsenol, fod cadeiryddpro tem y Senedd i lanw y swydd. Yn eisteddiad diweddaf y Senedd, etholwyd yr Anrhydeddus Benjamin Wade, o Ohio, i fod yn Gadeirydd iddo ac efe o ganlyniad a fyddai Llywydd y wlad, pe symudid Johnson a hwyrach, mae efe hefyd a gai ei benodi a'i ethol yn yr ethol- iad c ffredinol nesaf. Gan hyny, y mae rhai o aelodau uchelgeisiol y Senedd, sydd a'u flygaid ar y "Ty Gwyn,"yn erbyn argyhuddo Johason, gan y byddai ei s^MUtllaa ef o'i swydd yn debyg o lwyr ddyrysu eu cynlluniau hwy o barth yr olyniaeth. Er pan y gohir- iwyd y ddau Dy, fodd bynag, ymae'r Llywydd wedi ymddwyn mor ormesol, ac wedi gwarth- ruddo mwyafrif undebol y wlad mor fawr, drwy eymud y cadfridogion ffyddlonaf o'u swydd, &e., fel y mae'r wlad yn galw am argy- huddiad y Llywydd a gwae yr aelod hwnw o'r blaid Undebol yn un o'r ddau Dy, a roddo atalfa ar ffordd hyn. Dysgwylir, gan hyny, gyda chryn bryder am eisteddiad nesaf y Gydgynghorfa—os can- iaifir iddi eistedd o gwbl! Mae peth ofnau ar y pen hwn. Amneidiodd y Washington In- telligencer y dydd o'r blaen, a hyny mewn geir- iau eglur, fod yn amheus a ganiateid i'r Gyd- gynghorfa ddyfod yn nghyd yn Tachwedd. Nid oes amheuaeth na fyddai hyny yn unol ag ewyllys calon Johnson, ac na fyddai iddo gario fallan gynllun Napoleon, drwy coup d' etat a ddychwelai y llywodraeth, pe gwelai y ffordd yn glir ac yn ddyogel iddo ei hun. Er mor resynus a fyddai gweithred felly, credwyf y byddai yn fendith yn y pen draw, gan y byddai i lygaid v wlad gael eu hagoryd yn lletach nag erioed i ganfod gwir ysbryd caeth- wasiaeth ac enciliaeth sydd am ddinystrio y wlad os na all ei rheoli. Dichon y byddai i beth gwaed gael ei dywallt; ond y mae llyw- odraethwyr y Taleithau Gogleddol yn radical- iaid i'r gwraidd, ac ni fyddai raid iddynt ond galw am filwyr i amddiffyn y Cynddrychiol- wyr Undebol, na fyddai miliwn o wyr arfog- hen filwyr profedig-ar eu ffordd i Washing- ton. Hwyrach y rhaid i rywbeth fel hyn gy- meryd lie eto cyn y ceir gwir heddwch, ac yr ad-drefnir y Taleithau gwrthryfelgar.
ETHOLIADAU DIWEDDAR.
ETHOLIADAU DIWEDDAR. Mae Johnson wedi sugno eysur mawr oddi- wrth ganlyniadau yr etholiadau diweddar yn California a Maine. Mae'r Democratiaid wedi gwneud enilliadau mawrion yn y ddwy, yn enwedig yn y flaenaf. Ond enilliadau mewn ymddangosiad yn unig ydynt. Yn California yr oedd y blaid Undebol yn ymranedig. Bainai lluoedd o honi fod cryn lygredd yn bodoli o'i mewn, ac fod y Gynadledd wedi cael ei llwgrwobrwyo i benodi dyn anaddas i redeg am y swydd o Lywodraethwr. Y can- lyniad fu i'r lleiafrif benodi un arall, yr hyn a barodd rwyg. Yn y cyfwng hwn, penododd y Democratiaid gyfreithydd ieuancgalluog oedd wedi enwogi ei hun yn ystod y rhyfel fel pleidydd gwresog i'r Undeb. Rhwng y rhwyg yn mhlith yr Undebwyr, yn nghyd a dymun- iad lluoedd o honynt i geryddu anonestrwydd eu harweinwyr, enillodd y Democratiaid y dydd. Nid yw y many lion wedi dyfod i law eto, ond bernir fod y Ddeddfwneuthurfa yn Ddemocrataidd, yr hyn a rydd i'r blaid hono ddau Seneddwr yn Senedd yr Unol Daleith- au, yn lie un fel vn ddiweddar. Am yr ethol- iad yn Maine, nid un cwestiwn o wladly iaeth genedlaethol a barodd y golled i'r Undebwyr yno, ond cwestiwn y Maine Law." Mae'r Democratiaid fel un gwr yn erbyn pob cyf- raith a gyfynga werthiant diodydd, canys y botel whisci ydyw y fron o ba un y maent hwy oil yn sugno eu maeth. Pe yr alltudiech wirod o'r maes, caent hwy ergyd marwol yn y fan. Gan hyny, gwnant eu goreu yn erbyn pob mesur fyddo'n atal gwerthiant gwirodydd. Acyn Maine, nerthid hwyganluoedd o'r Gwer- inwyr ydynt yn erbyn y ddeddf ataliol nid yn gymaint, hwyrach, yn erbyn y ddeddf ei hun, ond am nas gellir ei rhoddi mewn grym. Nid yw'r ddeddf wedi bod ond llyth- yren farw er pan basiwyd hi, ac amheua llu- oedd o ddynion goreu yr Undebwyr y priodol- deb o basio y cyfryw fesur, ac o geisio ei gario allan. Arosodd miloedd o'r Gwerinwyr gartref hefyd ddydd yr etholiad, yr hyn a barodd fod pleidlais eu hochr yn wanach nag arfer. Er hyny i gyd, mae'r Undebwyr wedi cario y Dalaeth g\ da mwyafrif o tua pymtheng mil, os nad rhagor, a chyda Deddfwneuthurfa digon cref i basio unrhyw fesurau a farnont yn oreu.
. MERTHYR.
MERTHYR. Cyfarfod Uongyfarchiadol y buddujwyr yn Eistedd- fod Caerfyrddin. Prydnawn dydd Iau, Medi 26ain, cynaliwyd cyfarfod yn y Neuadd Ddirwestol, er llongyfarch y cor ac ereill fuont yn fuddugwyr yn Eisteddfod Caerfyrddin. am 4 o'r gloch, cafwyd te a theisen o'r fath creu. Ar ol mwynhau ein hunain a'r dan- teithion, cafwyd cyfarfod dyddorol iawn i;r perwyl, o dan lywyddiaeth y Parch. Dr. Emlyn Jones, Tabernacl, Merthyr, yn al»senoldeb Mr. Fowler, ynad heddwch. Cafwyd anerchiadau byr a phwr- pasol gan y llywydd, gan gyfeirio at y dull afier o ranu gwobrwyon a wnaed yn Nghaerfyrddin. Dy- wedai, os mai cor Merthyr oedd y goreu, paham na chawsent y wobr i gyd ? Ac os oedd rhyw gor arall yn gyfartal, paham na ranesid y wobr rhyng- ddynt yn gyfartal ? > r un modd gyda golwg ar y traethodau. Dyna y traethawd ar hanes Sir Gaer- fyrddin, gwobr, X15 a thlws aur, pryd y rhoddwyd zeto a'r tlwsiMr. A. Evans, a £5 i'r ail. Dyna hefyd y traethawd ar hanes A berdaugleddyf cy- nygi wyd gwobr o £ 100 am dano, pryd y bu Mr. Fowler yn oreu, ond ni chafodd ef ond jE60, a X40 i un arall, sef Mr. Williams, Aberhonddu, er, meddai, fy mod yn gymaint cyfaill i Mr. Williams a neb, eto, os Mr. Fowler oedd y goreu, efe ddylas- ai gael y wobr i gyd. Sylwodd hefyd ar yr an- inhriodoldeb o gael estroniaid i garni yn y cyng- herddau, tra y mae genym dalentau yn ein plith ein hunain yn alloog i wneud y gwaith, ac hefyd fod y Saeson yn dyfod o bwrpas i wrando ar eiu canu, a thrwy hyny eu bod yn cael eu siomi. Ar ol ychydig eiriau fel hyn, eisteddodd i lawr uy nghanol cymeradwyaeth, pryd galwodd ar y cor i ganu Through the Day," yr hyn a wnaeth- ant yn feistrolgar. Yna galwodd y llywydd ar Tydfylyn i roddi an- erchiad, yr hwn a wnaeth syjwadau sydd yn werth en cofnodi. Sylwodd ar y gwelliant sydd wedi bod mewn cysylltiad a cherddoriaeth yn Merthyr a'r cymydogaethau yn y blynyddoedd diweddaf. Cyfeiriodd hefyd at eu llwyddiant yn Chester, a'i bod wedi dygwydd yr un fath yn Nghaerfyrddin. Dywedodd ei bod yn anhawddach iddynt guro yn Nghaerfyrddin nag yn Nhaerlleon, yn gymaint a'u bod yn cystadlu a'u cymydogion, y rhai ag oeddynt wedi cael eu gwrteithio fel hwythau, tra nad oedd yr un cor ag oedd wedi ei wrteithio wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol o'r blaen, ac wrth weled hyny y darfu iddo ef eu cymhell i fyned i Chester. Yna sylwodd ar y peth sydd yn rhoddi gwir werth ar y cyfarfod, ac yn deilwng o gael y cyhoeddusrwydd mwyaf, hyny ydyw, eu bod yn bwriadu cychwyn llyfrrfa i'r dosbarth gweith- iol. Sylwodd fod genym lyfrfa o'r fath oren yn Mer- thyr, ond mae ychydig mewn cymariaeth oedd o'r dosbarth hwn yn dyfod yno ac felly fod angen sefydlu un ar raddfa is a mwy cyffredinol iddynt. Bwriedir, hefyd yn nglyn a hyn, gael syfydliadau celfyddydol, fel y gall dynion ieuainc gael myfyr- io y gwahanol wyddorau. fliau y gellir gwneud llawer iawn o ddaioni drwyddynt. Y mae hyn wedi bod yn ddiffygiol iawn yn ein plith fel cenndl. A r ol cael yr anerchiad hwn, galwodd y llywydd ar y cor i ganu The Vale of Towi." Wedi hyny, canwyd And Thou shalt break them," gan Mr. Robert Rees, yr hyn a wnaeth, yn deilwng o hono ei hun, a galwyd am ail ganu, pryd y canodd Y Bwthyn yn nghanol y wlad," gan A law Ddu. Yna galwyd ar y cor eto i ganu, In going to my dreary bed." Yna, galwydar C. D. Lewis, (Cerdd- or Gwalia) i roddi anerchiad, yr hwn a sylwodd ar lwyddiant y cor, eu bod wedi cael cymeradwyaeth yr awdurdod uchaf yn y deyrnas; sef Mr. HtDry Lesley ac er fod siomedigion yn grwgnach, eitod ef yn credu ei fod wedi beirniadu yn ei Ie. Y na, sylwodd ar y ddadl fawr mewn cysylltiad a'r awdl a'r bryddest. Dywedodd fod yr anrhydedd oddi- wrth y cynllun a fu yn fuddugoliaethus, wedi dyfod i Ferthyr, yn mherson Tydfylyn. Dywed- odd hefyd, mae Mr. Thomas Williams, 1! owlaia, fu yn fuddugol ar y Scholarship, ac i un o'r beirniaid. Mr. Cummings, sylwi, nad oedd ond chwech yn y deyrnas yn meddu ar well quality o lais na Mr. Williams ac fod hyny yn glod i ni fel cenedl, fod un oedd yn enill ei fara beuuyddiol drwy chwys ei wyneb, wedi cael y fath gymeradwyaeth oddiwrth ganwr proffesedig o Lundain. Yna galwyd ar Mr. Williams i ganu, pryd y canodd "Sound an Alarum," a chafodd yntau ei alw i ganu yr ail waith. Wedi hyny, cafwyd anerchiad gan Mr. John Beynon (Ieuan Lwyd) yna galwyd ar y cor i ganu, 'lAxcake, Awake." Bu rhaid iddynt hwythau i ganu yr ail waith. Ar ol talu diolchgarwch i'r llywydii, a'r rhai oedd yn gweinu ymadawodd pawb wedi cael gwledd. MERTHYRIAN.
People's Hall, Pontypridd,…
People's Hall, Pontypridd, ft Mew Slayley's Arms, lfgtradL. iolin CEOCKET1, Clock, Watch, and Cabinet Maker, Millpuff, Feather, and Iron Bedstead Warehouse, Pontypridd. II AVK you been to J. Crockett's Furnishing Warehouse, People's Hall, Pontypridd? If not, go and buy for CASH ONLY, A good Iron Bedstead 0 16 0 A good Millpuff Bed and Bolster 0 18 0 A good Palliasse for ditto 0 10 0 A good Mattress 0 18 0 A solid Mahogany Front Chest of Drawers. 3 5 0 A good useful Pembroke Table 1 2 0 A good Eight-day Timepiece. 150 A good American Clock 0 16 0 A good Kitchen Chair 0 8 6 A good Mahogany Bottom Chair 0 5 0 Observe this particularly,- A. patent Lever Watch, Warranted 4 4 0 Do. Do. J. C. best make 5 5 0 Silver and Gold Chains & Alberts equally low. Good Geneva Watches 1 5 0 Do. Stiongly recomended 1 15 0 Furnishing Department,—Saucepans, Tea Kettles, Tenders, Fire Irons, Brushes, &c., &c. UNDERTAKING DEPARTMENT. Men's Full Sized Coffins 1 50 Children's lined with Blue outside 0 7 6 The above Prices for Ready Money only. Carpets, Floor Cloths, Hearth Rugs, Pianos & Harmoniums. All goods delivered home free of charge, for 12 miles rouud.
COFFIN A AU :nUA-D!
COFFIN A AU :nUA-D! GAN WILLIAM PRICE, TREHERBERT. I ddyn yn ei lawn faint-wedi ei addurno yn hardd y tu faes, a'i orchuddio a gwlanen dda oddi- fewn 1 0 0 Eio, wedi ei orchuddio oddiallan a Coburg Du, a Registered Trimmings 1 12 Eto, wedi ei French Polisbo 1 11 0 Eto, gyda Brethyn Du, a Hoelion Duon 2 7 Eto, gyda Brethyn Du, a Britannia Mettle 3 0 0 Eto, gyda'r Britannia Mettle goreu 3 10 I Blentyn chwe* mis oed .060 niirdymuna W. Price, roddi ar ddeall i'r cyhoedd hefyd vr ymgymera efe a Chladdedigaethau yn gyfangwbl am bris isel cyfatebol i'r uehud.
Advertising
EISTEDDFOD, KSF/raa cwhafov. NADOLIG, 1867. XESVirH YCHWAKEOOl. Am y Deg Penill goreu o Glod i Mr. D. Thomas, Colliery Agent, Cwmafon, am ei welliant pwysig ar Fandrelu ei Lowyr, (Patent Mandrill.) Gwobr gan Gyfeillion 10 0 ust Published with numerous Maps, Engra/ve- ings, <&c., pritie Is. 6d. Bacon's Descriptive Hand book of America. rpHIS book embraces a far wider range of topics than any book yet published in America—nothing has been ommitted likely or interest the Statesman, Tourist, Capitali eta to Emigrant. Sold at Lloyd's Aberdar. [A CARD.] REES EYANS, TAILOR & D-RiFER, 45, Commereial-street, ABERDAKE. "W CONFECTIONER, &c., No. 1, Commercial Street, Aberdare. TDEGS to iniform the public that he is now JL-0 prepared to execute all orders for TEA PARTY C A ICES, .Buns, &c., &c., on the most reasonable prices. Mark the Address:— H, WARR, CONFECTIONER, 1, Commercial Street, Aberdare. Newydd ei gyhoeau, pt-a 6c, drwy Ir post, 7 stIJAWP, Cydymaiih yr Adroddwr, A Llawlyfr y DarUeniad au Ceiniog. Gan J. THOMAS, Tredegar. CTNWTSIAD :—Ymddiddanion a Dadleuon rhwng y M°rj grygynVr Ceiliop^Rhedyn-Twm Benfras a Mrs. Ceim^. —Morgan a'i -wn-aig Y Fuweh a'r Asyn -William a — V Cybydd a'i Wraig Y Gacynen a'r Wenynen—* a'r Haul-Y Pin a'r Nodwydd—Y Gwybedyn a'r rrJ gopyn—Bachgen ac offririad Pabaidd—Y nant a'r dwfr—Y badd a'r anifeiliaid-Alexander a'r lleidr-D y byb dybacco. Cenadwri Daftdd at Abner, Dafydd a Goliath, y Sol.fa, Pa fodd i wneud y goreu, Rhodd y crynwr, y P° dilwm anfoddus, Die Shon D fydd, Nadolie hen LaD' &c., &c. Allan o'r Wasg yr 2il Han, pris Is. 6ch., TTKLIX CTDØU, Sef detholiad o ddarnau Cerddorol, o natur foeS"[u difyr, yn gynwysedig o Ganianau {Gle s) Cylehdo«» Alawon Cymreig, &c., at wasanaeth y DarlleW Ceiniog, Eisteddfo'lau, Cymdeithasau Llenyddol, »c" gan J. THOMAS, Trede :ar.. ,ie CANIG,- Deuwch sn lIon. Caru'r gwir. GLKE,—^ Pigs. DEUAWII.—Canfyddaf drwy'r amser. Yn mlaen. DEUAWD,—Boreugwaith o Fai. Yr haf. TRIAWB,—O come let us sing. TKIAWD Gwanwyn. TRIAWD,—Gwlith y boreu. TIUAWU," goflon mebyd, TRIAWD,— WLat shall we sing. ,r DONAU,—Durham cries, Old Chairs to mend, hwyr SOLO, Dinodded ydwyf fi. CHORUS, dewch yn mlaen. CHORUS, Rhowch fawl ar gan ^\K,h ON, C\MRKIG,Hob y deri dando. Y Gelynen. Rhuddlan. Toriad y dydd. Gyda'r wawr. Aberdyfl. Megan a gollodd ei gardas. Bugail CwW' &c., &o. Dwy Anthem, Clywch tebycaf clywaf lais, a ceiiwc" Arglwydd. gan J. Ttiomis. Ail Atgraffiad. Pris Is. Y Cyfansoddiadau Buddugol yn Eisteddfodau Aberd" am 1859, 1860, a 1861. Pris Is. 6c. Y TREN gan D. H. THOMAS. Pris 6ch. t Anf nir unrhyw Lyfr yn ddidraul drai ylir pos ief anfon ei werth mewn Stamps i'r Cyhoeddwr. Cyfiir J. Thom, s, "Tredegar Times Office," Tredegar. Apprentice a Turnover yn eisiau. AN iPPREMTICE T E. GEORGE, CHEMIST, Member of the Pharmaceutist • Society of Great Britain, has a vacancy for a educated youth as apprentice. He will have every fa""1 of gaining a thorough knowledge of his profession. Apply, J. E.GEORGE, Pharmaceutical Chemist, eo Hirwain, Aberdare- TO BE LET, A DOUBLE-LICENSED PUBLIC HOVSJ, and may be entered upon immediately. Apply to Mr John Jones, Wheat Sheaf, Street, Aberdare. EISTEODFon FAWREDDOG TABERNACL, MERTH^ A gynelir Ar Ddydd Nadolig, 1867, YN T ID -E^IXjUJ HALL, „ "DRYD y gwobrwyir yr jmgeiswvr llwwyddianus Dlelfo adrodd, canu, ac areithio. I'r eor, heb fod dan nifer o'r un gynulleidfa, a gano yn oreu Ar Don o 'P Gwyntoedd," gan J. Parry, America, £ 20 a V mae y Programme yn awr yu barod, ac i'w gael ?r, yr ysgrifenydd, W. Williams, 6. Pleasant View, Gra^e. Terrace, Merthyr, ac hefyd gan y Trysorydd, D. jun-, 3, Glebeland, Merthsr. Beirniad, Llew Llwyvo^^ TO RESHOT FOR, At the Royal Oak Inn, Mountain .Ash, ON MONDAY, SEPTEMBER 30, 1867. 1st Prize, Two Pigs. 2nd Prize, One Pig. 3rd Prize, 10s. Tickets, 6d. each. No. 6 shots. Dist. 45 yaT^ CARTfSEF I YMFIIDWYR,^ 14, Galton Street, Liverpool. ELIAS y. JONES, AC N. M. JONES, (CYMRO GWYLLT), A DDYMUNANT hysbysu pawb a ant Ymfudo o Gymru, y ceir pob hy^JT rwydd a chyfarwyddyd am brisoedd y cludi*01 gydag Hwyl neu Ager Longau, i America, a %1' hanol wledydd y byd, drwy anfon llythyr, yn P mraeg neu Saesonaeg, yn cynwys postage BTPO i'r cyfeiriad ucdod. Gall yr ymfudwr cy8urus i letya mewn ty tawel am bris rhesym0*' ,f Hyderir, drwy y wybodaeth a feddant 0 Fasnach Y mfudol yn y wlad hon ac yn AmOtio I y byddant yn alluog i gyflawni eu dyledswydda yn deilwng o bob ymddiried a chefnogaeth. y Cymeradwyir y ty a'r Goruchwylwyr i sylvi Wlad gan y Boneddigion canlynol:— aid Parch. Samuel Davies, gweinidog y Wesley a chadeirydd y Dalaeth OgleddoL Parch. Isaac Jones, Liverpool. Parch. John Thomas, Liverpool. Parch Jonah Morgan, Cwmoach. Aberdar. Parch John Rees, Treherbert, Pontypridd. Cofier y cyfdriad,—Messrs. Jones, & Co., 14, Galton Street, UverpooL Q D.S.-Cyfarfyddir a phawb a ymddiriedant e gofal i'r Goruchwylwyr ochod ar eu dyfodiad i Liverpool. EisteddfodV OlochXas* BYDDED hysbys y cynelir yr Eisteddf^ uchod, dan nawdd Cyfrinfa Ifor Aber. dar, yn Nghapel y Bedyddwyr, Trenoyen, Tacb 4ydd, 1867, pryd y gwobrwyir yr ymgeis^ llwyddianns mewn Rhyddiaeth, Barddoniaetb» Cherddoriaeth. Bydd y programme yn barod J fuan, yn cynwys yr holl fanylion, am geamogi un; drwy y post, dwy geiniog; i'w caelfganT Ysgrifenyddi THOMAS BBBS, » 8, Belle View, | Trecynoo, Aberdat. Y cyfatfodydd i ddechreu am 10, 2, a 6 o'r g^' KstaMislied 1959. ABRAHAM FREEDMAN, Pawnbroho, Outfitter, Sfc., 20 Sf 21, Cardif Srset, ] Aberdare, T>EG8 most respectfully to thank the public of Aberd^ and the surrounding neighbourhood, for the pationage he hag received from them since he has °Pen^|e and begs to inform them that he has made alterations in his premises, and he will thereby be enao»> to extend his business so as to meet the wants of his tomers, and trusts to merit a continuance of their supP^L, The utmost money to any amount will be lent by 01 upon Watches, Plate. Bedding Furniture, &o. All momey adyanoed in fulloash. Ne tea gives. i Observe the Addrefs—20 «fc 21, Cardiff St., Aberdffl*
LERPWL.
ddeall iod y wlad yn un berw drwyddi gan gynhyrfiadau y frawdoliaeth Ffeniaidd, ac y mae pob peth yn dangos y mynant wneud gorchestion cyn y terfynant. Gallem lenwi amryw golofnau gyda helynt y treialon; ond i ba ddyben y gwastraffwn ein hamser i'w dilyn yn mhellach. Rhaid cyfaddef fod llawer o bethau cyflym a hynod yn perthyn i'w symudiadau; ond gan nad ydym yn canfod un daioni yn yr hyn a wneir ganddynt, nis gallwn ar un cyfrif ganmol eu gweithredoedd. Gwell genyf ddull yr hen Gymry, sef bod yn dawel ar bwnc rhyfel, y cleddyf, a'r bidog, ac amcanu creu diwygiad yn y senedd, fel y byddo daioni i ddeilliaw i'r werin heb ladd na drygu neb. Hynyna gan yr eiddoch, G.