Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Mawr ddiolch i'n Gohebwyr am eu ffydd- londeb. Bydded hysbys iddynt eiu bod yn anfon y sypyn cyntaf i'r Swddfa ar nos Sad- wrn, a,r sypyn diweddaf boreu dydd Mawrth. Byddwn yn dechreu cysodi boreu dydd Linn, Felly, bydd gohebiaethau y sypyn cyntaf yn dra sicr o gael lie yn rhifyn yr wythnos hono. Ac ni anfonir dim at y rhifyn yr hwnw a dder- bynir yn ddiweddarach na boreu dydd Mawrth. Anfoner y gohcbiaethau hyn oil i Gol. Y CELT, Caerfyrddin (Carmarthen) y cynyrchion barddonol i Rev. J. O. WILLIAMS, 11, Adderley Street, Liverpool; a phob arian ac archebion i Mr D. JAMBS DAVIES, CELT Office, Llanelli.
Cynadledd .Castellnedd.
Cynadledd Castellnedd. Galwyd cyfarfod yno' o gyfeillion addysg ar ddydd la u, Ebrill 9fed, i gym- eryd dan ystyriaeth y cwrs goreu i'w ddilyn i wrthwynebu mesur newydd y Weinyddiaeth Doriaidd ar Addysg. Cyd- unem oil ei fod yn fesur dinystriol, yn llwyr ddrygionus wreiddyn a ohangen. Ond pa fodd i'w lethu a'i ladd—dyna bwnc y Gynadledd hon. Treuliwyd y prydna-wn mewn cynghor, a'r hwyr mewn cyfarfod cyhoeddus. Dechreuwyd gweith- rediadau y prydnawn drwy anerchiad eglnr a miniog gan y cadeirydd, yr Hen- adur Thomas Williams, Ysw., Gwaelody- garth. Cwynai o berwvdd ei lesgedd na allai wneiid cyfiawnder a'r pwnc. Er hyny rboddodd i ni oleuni mawr ar ddrygedd y mesur Toriaidd. Y mae'n rhyfedd fod ei iechyd yn dal gystal ac yntau yn mynychu cynifer o bwyllgorau man a mawr ar hyd a lied y wlad trwy'r blynyddoedd. Yna cynygiwyd penderfyniad con- demniol ar y mesur addysg newydd gan Mr George, Castellnedd. Rhoes anerch- iad tanllyd, a galwodd sylw y rhai oedd yn bresenol at y ffiitb. fod mor ychydig o'n Haelodau Seneddol yn y Gynadledd. Ar ei ol ef cawsom Mr James, Bryn Bank, Sir Benfro. Yr oedd efe yn gallu rhoddi i ni lawer o wybodaeth, o'i brofiad ei hun-ei lafur cyson yn acbos addysg. Cododd ereill, drwy gymhelliad taer, i ymhelaethu ar y penderfyniad. Wedi hyny galwyd ar Towyn Jones i gynyg y penderfyniad gweithiol-sef fod pwyllgor i gael ei benodi yn mhob ethol- aeth yn y Deheudir i oleuo a chyffroi y bobl yn erbyn y mesur drygionus hwn. Wedi pasio hwn, aed at y gwaith o ethol y pwyllgorau hyny. Yn yr hwyr eawsom fynegiad teg ar wir ddybenion y mesur gan y cadeirydd, Mr Brynmor Jones, A.S. Efe ac S. T. Evans oedd yr oil a gawsom o'r saith Aelod a ddysgwylid i'r cyfarfod hwn. Yr oedd cynrycliiolaeth helaeth o sir- oedd y De yn y Gynadledd y prydnawn. Ond synetn weled mor ychydig o gyn- rychiolwyr o lawer ardal boblog. Yr oedd Llanelli bron yn anweledig. ac Aberdar hefyd. Daeth Caerfyrddin allan yn dda, a byny i'w briodoli yn ddiau i ffyddlondeb ei hysgrifenydd, Mr Mills, i alw pwyllgor lleol bythefnos yn mlaen, ac i ddarparu tocynau rhadlon ary rheil- ffordd. Brwydr fawr a sicrhaodd i ni fesur addysg Mr Foster yn 1870, a' chofied pawb mai drwy frwydrau poeth. ion hefyd y mae'n rhaid i ni ddal medd- iant yn ein breintiau. Nid oedd llawer o ysbryd siarad yn Nghynadledd Gwyn Hall, ond pawb yn dysgwyl yn bryderus bm "weledigaeth eglur" o rywle i'n tywys trwy yr argyf- wng eto yn achos addysg. Yr oedd yn amlwgi ni eisoes mai lladd y Byrddau Ysgolion, can Ymneillduwyr allan o fod yn athrawon, a nycha a thagu Ymneill- aeth yn y pen eithaf yw gwir amcan y mesnr drygionus hwn. Adsefydlu off- eiriaid Eglwys Lloegr a'r offeiriaid pab- aidd yn llywodraethwyr addysg gref- yddol ein gwlad. A gaiff hyn fod ?
Bwrdd y Lienor.
Bwrdd y Lienor. GAN CYMRO JONES. Ynyr Eurgr awn am y mis hwn, rhoddi r canmoliaeth uchel i'r Llaw!yfrBedydd gan D. S. D. Dyrna rai o'i eiriau:- "Hwn yn sier fydd y gwaith Cymraeg safonol ar fedydd pan orphenir ef. Y n y gwaitli gwerthfawr hwn, wele arfdy i ni fyned i mewn iddo am ddigon o arfau, nidyn unig er amddiffyn uin hamddiffynfa ein hunain, ond er cario dinystr i wersyll y gelynion." Llefara y Parch. Thomas Levi yn uchel am dano yn Trysorfa y Plant, ac una a'r lluaws i osod "Ystyr Bedydd yn ben ar holl lyfrau bedydd. Daeth y Llusern i'r Bwrdd, yn gyf- ochrog a blasus. Mae'r ysgrifau, y nodiadau, y farddoniaeth a'r gwersi, yn anrhydedd i gylchgrawn ceiniog y mis. Dyma ddau englyn o awdl Hunan- aberth" gan Tafolwg yn y Lienor am Ebrill Dyoddef yn holl gystuddiau—ei frodyr Wua'n haelfrydig Feichiau Rhyfedd ing yr nfuddhau A'i rhyngom ni a'rangau. Rhy isel aeth yr lesu-dan weli Dynoliaeth yn pechu, 11m ddofn demtasiwn ddu-brofa dyn Yru ei gwenwyn yn is na'r gwanu. Nid oedd neb yn deilwng ar ddrama Ednyfed Fychan" yn eisteddfod Gwrec- sara, er fod chwech o ymgeiswyr. Rhoddir yr un testyn eto yn yr eistedd- fod nesaf, a £ 4 gyda'r gadair i'r goreu. Dyma wirionedd chwerw i'r beirdd(o'r Oerddor am JLbrill);— Yn ol llyfchyr Dafydd Morganwg yn y Drych, 'rwy'n gwel'd mai tueddu i gwyno y mae rbai o'r beirdd, am eu bod, meddynt, yn cael eu hanwybyddu fel awdwyr y geiriau i ddarnau, a'r cyfansoddwr yn cael ar y mwyaf o'r pres a'r bri. Edrych a llygaid hiraethus wed'yn wna y eyfansoddwr yn et dro, ar y symiau a delir i gantorion. Madtlme Patti yn derbyn £800 y gyngherdd yn America, a Mr Edward Lloyd £ 200 Miss Eames yn cael yr un swm am ganu dwy gan mewn cyngherdd breifat Madame Savina, y prima donna Kwssiaidd, yn derbyn £75) fel ei rhan o fudd-gyngherdd yn St. Petersburg; a Miss Clementina de Vere y swm o jE900 y flwyddyn am ganu yn eglwys Dr. Paxton, New York tra mae Mr Albert Chevalier yn ei ffordd ef, yn gwneud dros £ 100 yr wythnos rhwng canu a'r hyn a ga mewn royalties ar ei ganeuon." Rhaid i'r bardd druan ganu am ddim, y cerddor am ychydig, a'r canwr am fortune! Y beirdd ofalodd am Hanes- yddiaetb, a hefyd Gerddoriaeth cyn ac wedi dyddiau Dafydd ab Gwilym, ond gallant lefaru adnod wrth y cerddorion heddyw, Eraill a lafuriasant, a chwithau a aethocb i mewn i'w llafur bwvnt." Rhwng yr holl awelon croes, nis gall y bardd lai na chwyno, a hynod yw ei fod wedi dal heb hongian ei delyn ar yr belyg. Hawlia y cerddor ei gadair eisteddfodol, ac yn fynych hawlia yr oil o'r Eisteddfod hefyd! A oes cledd yn perthyn i'r Orsedd ? Dylai fod trweh 6 gywilydd ar ei fin 01 Llawer gwell fyddai troi 'nol at yr hen ffasiwn wreiddiol, a rhoddi ei gadair i'r bardd (ond cadair aur neu arian), telyn (aur neu arian) i'r cerddor, crwth (aur nea arian) i'r crythwr, a thafod (aur neu arian) i'r dadganwr. Ac na rodder urddall i neb ond y teilwng. O'r ddau, y mae Urddau Gorsedd yn bethau salach na'r D.D. Americanaidd! Nid oes yr un amddiffyniad-yn werth yr enw-wedi dyfod allan eto i Orsedd y Beirdd," ac os na ddaw ergyd magnel o rywle, rhaid cydnabod fod yr Athraw Morris Jones yn debyg i fyddin Prydain Fawr yn ddiweddar-yn myned allan i ymladd, ond yn cymeryd y cwbl o'i blaen heb yr un gwrthwynebiad. Clywir llawer yn cwyna am ysgrifau Mr Morris Jones, a thyngant. fod urddas yn perthyn i'r Orsedd," ac mai colled fyddai ei thynu i'r Hawr Wel, yn onw Ceridwen, os ydyw yn rhyw fantais i'r Eisteddfod, ac os nad oes gorphenoi yn perthyn iddi, ouid gwell dechreu byd o'r newydd ? Gadawer i'r hen orsedd baganaidd i syrthio, a sefydler un arall yn ei lie yn deilwng o'r Eisteddfod, yn fantais i lenyddiaeth; a heb fod yn wawd i'r byd ac yn sarhad ar Gristionogaeth. Digon hawdd cael gwell yr hen, sef gorsedd- nid i'r beirdd yn unig, ond i'r traethodwr, y nofelydd, yr banesydd, y cerddor, &?., fel y gellir uno i gyd i godi yr hen wlad yn ei hol."
Chwedlau TEsop.
Chwedlau TEsop. GAN DEIO BACH. Y LLEW A'R YCHAIN. Cydborai tri o yehain ar y cae gan fwynhau yr heddwch a'r cyfeillgarwch mwyaf. Gwyliai y new hwynt am ysbaid maith mewn gobaith gwneud ysglyfaeth o honynt, ond deallodd fod hyny yn anmhosibl iddo tra y cadwent gyda'u gilydd. Er cyrhaedd ei amcan taenodd chwedlau. allan fod y naill yn ymosod ar y Hall, a bu hyny yn foddion i gynyrchu gelyniaeth rhyngddynt, a chadwasant draw oddiwrth eu gilydd. "Ynawr," ebe'r Ilew, dyma gvfleusdra i mi gyr- haedd fy amean a gwneud gwledd o honynt." Wedi eu cael oddiwrth eu gilydd, syrthiodd arnynt bob yn un ac un a difaodd hwynt.
IGWERS.
GWERS. Cynhenau Cyfeillion yw Cyfleusderau Gelynion Gwneir llawer o gyfeillion mynwesol yn elynion am oes drwy chwedlau disail a chelwyddog. Tra yn unol a'u gilydd gwnant waith llwyddianus, tra yn ffraeo a'u gilydd c'ant hwy a'u gwaith eu dinystrio. Ni ddylai neb wrando ar chwedlau celwyddog. Tuedd dynion yw gwrando a chredu pob stori ddrwg. Tuedd dynion hefyd yw bod yn rhy amheus o'u gilydd. Dyiid lladd pob chwedl sy'n ceisio gyru rhwng cyfeillion a'u gilydd; hwy eu hunain (fel yr ychain), gaiff y gwaethaf wrth wrando arnynt. Mae'r wers yn gymhwysiadol iawn at gyflwr Rhyddfrydwyr ein gwlad y dydd. iau hyn, ac at amryw o'n Haelodau Seneddol. Tra maent yn anghytuno a'u gilydd, ac yn ymladd yn nghylch y Cymru Fydd," y Cynghrair Cenedl- aethol," a phethau cyffelyb, deilyToriaid fantais ar y peth a gwthiant eu cynlluniau anachaidd ar y wlad. Nid rbyfedd mai'r llywodraeth Doriaidd sydd mewn grym! nid rhyfedd eu bod wedi adenill nerth! Y Rhyddfrydwyr fu mewn anghydfod ac annhrefn. Aduner y rhengoedd, ac yna fe fetha y llew Toriaethyn ei gynlluniau. Mae'r un peth yn gymwys i'r enwadau. Tra yr ymladdant a'u gilydd caiff y gelyn yr oruchafiaeth; tra byddant mewn undeb, heddwch a chydweithrediad, caiff y gelyn y gwaethaf Gwers fuddiol i'r oes hon ei dysgii ydyw, Mewn undeb mae nerth." «
[No title]
Crybwyllir am y ci 33 o weithiau yn y Beibl.
Briwsion o "Carmen Sylvia."…
Briwsion o "Carmen Sylvia." CARIAD. Yr haul ydyw cariad cyntaf pob blo- deuyn. Haul llawer geneth yw hen lusern fyglyd bron llosgi allan. Sut y gellir dysgwyl iddynt flaguro ? Mae cariad fel gwiwer, yn feiddgar ar, ofnus yr un pryd. Mae dyn mewn cariad yn debyg i'r estrys tybia nad yw yn cael ei weled am nad ydyw ef yn gwelod. Greddf ydyw cariad mamol, ond y mae greddfau ydynt yn anadlu o'r dwyfol. Nid dyfod yu fam y mae benyw. 1- mae yn fam o'i genedigaeth. Digoni ei hawyddfryd wna teulu lluosog, ac nid ei greu. Mae eiddigedd mewn cariadfab yfl deyrnged, ond mewn gwr yn sarhad. Ty heb blant sydd fel cloch heb dafod- Byddai yna awn digon dymunol pe byddai rhywbeth i'w ddeffro. ELI Yr ydych yn cashau y fenyw y buasai yn dda genych fod hawl i'w dyddanu- Dylai cysgod o garwriaeth barhau 0 hyd rhwng gwr a gwraig. CaLt yr eos ac ysgrech y gath ydyrf ddau ddull o fynegu yr un teimlad ond nid yw y creadariaid hyn yn deall eH gilydd.
DEDWYDDWOH.'
DEDWYDDWOH. Nid oes ond un dedwyddweh-Dyled' swydd. Nid oes ond un dyddanweh- Gwaith. Nid oes ond un mwynhad-Y Prydferth. Gobaith sydd flinder, yn gorpheH mewn siomiant. Mae dedwyddwch fel yr adsain-mae yn ateb, ond nid yw'n dyfod. Mae eisieu canoedd o ddail aml-liwiog, peraroglus, i wneud rhosyn, a llawer0 lawenydd i greu dedwyddwch. A yw'r tawelwch ydych wedi feddian11 yn brawf o gynydd nerth neu gynydd gwendid ? Ceisiwch ddyddanwch mewn pethal1 anfarwol yn unig, mewn natur; ac mev?11 meddwl. Y gallu o wneud gweithred dda sy'tl, ddigon o ddedwyddwch.
CYFEILLGARWCH.
CYFEILLGARWCH. Cyfeillgarwch wedi ei seilio ar yJ1l: deimlad oddyledswyddyn unig sydd #" gwawl-lun (plwtograph)-gydag aTBS0* ■. mae yn diflanu. j Mae cydymdeimlad yn fynych y"l ^s £ yn ar y galon fel ag y gwna dyf^ ynau dwfr ar frasder berwedig. iddo dasgu a chynhyrfu. | Rhaid cael gwir wroldeb i cyfeillion. Y mae fel diffodd ein taaO'i.. er mwyn aros yn yr oerfel. I Mae cyfeillgarwch yn lleihau pan få gormod llawenydd ar un tu a goroo blinderau y tu arall. Mae arfer twyll yn greulondeb. ifrwd cyfeillgarwch felJy oddiwrth ?rel ag y gallasai wneuthur daioni iddynt. Cyfieithwyd gan DEWI YTCHA^-
[No title]
Y" Y mae symudiad ar droed yn Bedvddwyr i ddathlu coffadwriaeth y t weddar Dr. Gethin Davies.