Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

----------I Nodiadau Golygyddol.…

News
Cite
Share

Nodiadau Golygyddol. i BRWYDR ADDYSG, Blin genym weled ein cydwladwyr Cymreig a'n cyd-ddinasyddion Ymneill- duol yn Lloegr yn dechreu deffro a chyffroi yn erbyn y mesur creulawn a gynygir gan y Llywodraeth Doriaidd bresenol. Po mwyaf o ystyriaeth a roddir i fesur addysg Syr John Gorst, mwyaf oil jw'r gwrthwynebiad a deimlir ato. Nid oes dim i'w glywed trwy yr holl wlad ond bloedd Udgorn Rhyddid yn galw i'r gad. A brwydr ddifrifol a fydd yn fuan. Nid yw ein Ehyddid gwladol na chrefyddol yn ddyogel pan fyddo off- eiriaid Eglwys Lloegr yn teyrnasti, Yr tin hen bwnc sydd yn awr yn ein cyn- hyrfu—yr un hen ddadl rhwng yr Eglwysi Rhyddion a'r Eglwys Wladol- a'n dyledswydcl arbpnig, a dyledswydd am ein bywyd Ymneillduol, yw Ilethu yr ytadrech wrthryfelgar hon ar ran yr Eglwys Wladol. Anturiwn broffwydo, ac ar seiliau da, er fod yr Eglwys wedi cloddio pwll i Ymneillduaeth, mai yr offeiriadaeth wladol ei hunan a syrthia iddo yn fuan neu yn hwyr-yn fuan go- beithiwn. Yn 1814 ffurfiwyd y "Gymdeithas Grenedlaethol i sicrhau addysgiad y Tlod- ion yn egwyddorion yr Eglwys Sefydl- edig," ac o hyny hyd yn awr eu hamcan lzawr a'u hymdrech barhaus yw gwneu- thur yr ysgolion eyhoeddus yn fagwrfa Eglwys "Wladol. Hyd y flwyddyn 1870 cawsant eu ffordd eu hunain yn dra dirwystr. Y pryd hwnw ffurfiwyd y 13Yrddau Ysgolion, etholedig gan y bobl hunain yn uniongyrchol: ar ol hyny oedd ysgolion yr Eglwys Wladol yn colli tir-a cholli tir y maent hyd yn trese-not Ysgolion Gwirfoddol y gal- "Want y dosbarth hxn, ond Ysgolion «J?lwys Lloegr yw eu gwir enw. Ysgol- Gwirfoddol, am na feddent awdurdod 1 Sodi trethi i'w cynal. Enw tlws iawn "Ysgolion Gwirfoddol," a gellid mai ar gyfraniadau gwirfoddol elJ. pleidwyr y dibynent, ond yr oeddent derbyn gan y Llywodraeth bedair o bump y swm a dderbyniai y ^rddau. A'u hunig reswm dros aros "W'ahan ydoedd er mwyn dal yn eu v^ylaw y gallu i ddysgu'r plant yn Shatecismau yr Eglwys, ac i broselytio Plallt yr Ymneillduwyr. I Y mae dan eu hawdurdod yn bresenol Avth mil i ddeng mil o ysgolion, a 9 yfartaledd dirfawr o Ymneillduwyr en ^eoe^ gwledig yn gorfod anfon Plant atynt neu eu gadu heb addysg gwbl* Mae'n hysbys ddigon fod y riaut bwn yn allu mawr yn n^ylaw | 0;Seiriaid. Er y cwbl, eolli tir yr oeddent. A chynllun melldigedig o "1 gyfrwys yw mesur Syr John Gorst i ladd y Byrddau Ysgolion ac adfer gallu yr offeiriaid dros holl ysgolion cyhoeddus Lloegr a Chymru. 0 herwydd neilldu- olion ein sefyllfa wleidyddol, ni allai y mesur hwn fod mor niweidiol i Gymru yn uniongyrchol ag i Ymneillduwyr Lloegr. Ond rhaid i ni, er ein mwyn ein hunain yn y pen draw, sefyll yn ddewr yn y frwydr gyda ein Brodyr Ym- neillduol yn Lloegr, oblegid nis gallant hwy gael eu niweidio heb i hyny fod yn golled uniongyrchol i ninau. Yr enw budoliaethus a roddant ar eu cais Jesuitaidd yw—" Rhoi yr un chwa- reteg i'r Ysgolion Gwirfoddol ag a roddir i Ysgolion y Bwrdd." Y mae hwn yn ym- ddangos yn dra diniwed, ond diniweid- rwydd y golomen yw'r pellaf oddiwrtho a ehyfrwysdra y sarff yw ei enaid. Pwy sydd yn erbyn rhoi chwareteg i ysgolion yr Eglwys Wladol ? Os ewyllysiant gael yr un chwareteg paham na ddeuant dan yr un ddeddi ? Yr anghyfiawnder yn eu cais yw, hyn—eu bod yn ceisio eu cynaliaeth yn hollol gan y cyhoedd, a chau y cyhoedd yn llwyr allan o bob ar- olygiaeth ar yr ysgolion hyn!! Da genym weled fod rhai esgobion yn cyd- nabod hyn yn gais anonest ac anwladgar. 9 Mae ysgolion v Bwrdd yn cael eu cynal gan y trethi, ond y mae pob awdurdod arnynt yn nwylaw y trethdalwyr eu hun- ain. Dyna yr unig chwareteg a ddylent hwythau ei geisio, a'r unig chwareteg a ganiateir iddynt yn sefydlog. Trethi i'r ysgolion, a'r trethdalwyr yn eu llywodr- aethu. Eu cais ynfyd hwythau drwy y mesur presenol yw-Trethi i ysgolion yr Eglwys Wladol, a'r offeiriaid i'w llyw- odraethu yn hollol fel y mynont. Arian drwy drethi, ond tawed y trethdalwr am byth. Ai chwareteg yw hyn ?

. Bloedd Caernarfon.|

. Yr Arch-ddiacon Howel yn…