Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Yr Wythnos.

News
Cite
Share

Yr Wythnos. HANES ADDYSG. Nid yw hanes addysg ein gwlad o ddechreu y ganrif hyd yn awr, ond hanes brwydr rhwng yr Ymneillduwyr a'r Eglwys, y cyntaf yn ymladd dros addysg anenwadol, a'r llall yn ymladd dros addysg sectol. Dau ddyn wnaethant lawer dros addysg oedd Joseph Lancaster ac Andrew Bell. Ymffurfiodd dilynwyr Lancaster yn Gymdeithas, o dan yr enw Y Gymdeithas Frytanaidd a Thramor," yn 1808, a buont yn offerynol i godi Ysgolion Brytanaidd (British Schools) ar hyd a lied y wlad. Ymffurfiodd dilynwyr Bell yn Gymdeithas dan yr enw Y Gymdeithas Genedlaethol yn 1811, gyda'r dyben o godi Ysgolion Eglwysig i gydymgeisio a'r Y sgolionBrytanaidd; oni b'ai fod Ysgolion Brytanaidd wedi eu codi, nid yw yn debyg y buasai unrhyw awydd am godi Ysgolion Eg- lwysig. Yr oedd addysg yr Ysgolion Brytanaidd yn hollol anenwadol, a gallesid dysgwyl y buasai'r Eglwyswyr yn cynorthwyo yr ysgolion hyn, ond na, rhaid iddyut hwy oedd cael ysgolion eu hunain i ddysgu catecismau'r Eglwys i'r plant. Bu'r ysgolion hyn, Brytanaidd ac Eglwysig, mewn bodolaeth hyd 1833 cvn caelyrun rodd oddiwrthy Llywodraeth, y pryd hwnw cawsant £ 20,000. Gwnaeth y Llywodraeth cyn hyn ymgeisiadau i ddelio a chwestiwn addysg,ond anmhosibl iddynt oedd setlo ar delerau fuasai yn boddhau yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr yr un pryd. Yn 1839, cynyddwyd y rhodd o £ 20,000 i £ 30,000, a sefydlwyd Adran Addysg yn nglyn a'r Llywodraeth. Yr adeg yma gwnaeth y Llywodraeth ymgais i genediaetholi addysg a'i dwyn allan o grafangau enwadaeth, drwy ddwyn cynllun yn mlaen i sefydlu Coleg Normalaidd i ddysgu athrawon. Gwrth- wynebodd yr EglwysWladôl ef am ddau reswm: yn gyntaf, am fod hawl yn ol y y cynllun gan fyfyrwyr Ymneillduol i gael addysg grefyddol yn unol ag egwyddorion ac a chredo YmneiUduaeth, tra 'roedd yr un hawlyn cael eiganiatau i fyfyrwyr yr Eglwys. Yr oedd yr addysg fydol i fod yn gyffredin rhyng- ddynt, tra 'roedd yr addysg grefyddol i fod yn ol dewisiad y myfyriwr. Yr ail Teswm am ei gwrthwynebiad oedd, ei bod yn honi mai ganddi hi oedd yr hawl i ddysgu athrawon a'u trwyddedu i addysgu mewn ysgolion. Seiliai ei honiad i'r hawl yma. ar Ganonau 1604, ac felly nid oedd y Llywodraeth wrth geisio cael Coleg Normalaidd i ddysgu athrawon, ond ymyryd a'i hawliau hi fel eglwys. Efallai y bydd yr ymddygiadau hyn yn gynorthwy i ni ddeall yr Eglwys Wladol 9 yn y cyfwng presenol. Aeth yr ymgais hon o eiddo y Llywodraeth yn fethiant oblegyd gwrthwynebiad yr Eglwys. Yn 1843, daeth Sir James Graham a" Bil y Llaw-weithfeydd yn mlaen, ac yn hwn cynygiai nad oedd neb i fod yn athraw yn ysgolion y Llaw-weithfeydd heb ei fod Niedi cael ei gymeradwyo gan yr Esgob; rhaid oedd i bob athraw berthyn i Eglwys Loegr. Yr oeddyr holl yegolion i foddanlywodraeth yr offeiriaid. Trefnai y Bil i saith ymddiriedolwr fod i bob ysgol, ac yr oedd v trefniant wedi ei weithio yn y fath fodd fel ag i sierhau mwyafrif o Eglwyswyr yn mhob ysgol. Cododd yr Ymneillduwyr fel un gwr yn erbyn y Bil hwn a gorchfygwyd ef. Ar ol hyn bu'r Ymneillduwyr yn ddrwg- dybus iawn o'r Llywodraeth a daethant i'r penderfyniad hwn, "fod yn anmhosibl i'r Llywodraeth, tra 'roedd Eglwys Sef- ydledig yn y wlad, gy north wyo addysg heb ymyryd a rhyddid crefyddol." Ym- ddygasant yn ol eu credo, a chyf ranasant yn anrhydeddus at euhysgolion eu hunain. Cyfranodd yr Annibynwyr yn unig £100,000 at yr ysgolion. Am chwarter canrif dangosodd yr Ymneillduwyr y fath sel, haelioni, ac aiddgarwch yn nglyn a'r ysgolion hyn, nad oes ei gyffelyb i'w gael yn nglyn ag addysg fydol anenwadol yn hanes ein gwlad. Tybed na rydd y benod yma o hanes ein Tadau ysbryd- iaeth i ni gyflawnu ein dyledswyddau yn yr oes hon ?

MESUR ADDYSG 1870.

[No title]

Y BIL ADDYSG PRESENOL.

EIN DYLEDSWYDD.I