Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
ADEIMLWCH YNFLINEDIGNEUWEDITREULIO ALLAN Neu ddyoddef oddiwrth ANNHYMEREDD 0 UNRHYW FATH? Gadewch i mi ofyn i chwi ddarllen y papyr hwn a chymeryd eich hargyhoeddi y gwna Im MOREL'S SOVRAN EICH GWELLA. Gwerthir yn mhobman, 2/9 a 4/6 y botel.
Llythyr Cymeradwyaeth Rahel…
Llythyr Cymeradwyaeth Rahel o Fon. "At Eglwysi Annibynol Cymru. Ryn sydd i hysbyau fod y Chwaer Mrs R. Paynter Davies, Watertown, Wis. (Rahel o Fon) yn aelod rheolaidd a ffyddlou o Gv manfa Annibynol Gymreig Wisconsin, ac wedi ei thrwyddedu gan y Gymanfa i wasanaethu yr eglwysi fel Efengyles pa bryd bynag y ca gyf- leusdra i wneud hyny. Ac yn unol a'i chais atom yn Mehefln am lytbyr cymeradwyaeth at y frawdoliaeth Annibynol yn Nghymru, pen- derfynwyd ein bod fel Cymanfa yn ei chymer- adwyo yn galonog i'ch sylw mwyaf ffafriol, gan erfyn arnoch ei derbynynroesawusynyr Arglwydd, fel chwaer y mae ei chlod yn adna- byddus trwy yr eglwysi, a'i gwasanaeth yn dderbyniol yn gyffredinol yma. Hyderwn y bydd felly yna hefyd tra yr erys yn eich plith. Derbyniwch hi megys y mae yn addas i saint. A Duw a fendithio ei hymweliad a Chymru, ac a'i hamddifEyno ar ei theithiau dros dir a mor. Gras eiu Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oil. Dros y Gymanfa, THOMAS EVANS, Ysg. "Racine, Wisconsin, U.D. America, "Hydrefl4eg, 1895." [Ni a adwaenom ysgrifenydd y llythyr uchod yn dda, a'i lawysgrif hefyd.—GOL.]
4 ; Galwad.
4 Galwad. Cafodd Mr W. Emrys Lloyd alwad holiol unfrydol o eglwysi Penygraig a Rama. Y mae Mr Lloyd yn un o'r pregethwyr mwyaf gobeithiol, yn gymeriad pur, ac yn llawn natur dda. Os bydd yr ateb yn gadarnhaol, gall y driwy eglwys edrycb yn mlaen am ddyfodol dedwydd a llwyddianus.—X
♦— Maencloohog.
♦— Maencloohog. CYMANFA GERDDOROL.—Cynaliodd Annibyn- wyr y cylch uchod eu eymanfa ganu flynyddol eleni yn Hen Gapel, Maenclochog, Gwener y Groglith. Hydref yw yr amser arferol i'w chynal, ond gan ein bod yn dysgwyl y Can- iedydd allan gohiriwyd hi y tro diweddaf hyd yr adeg grybwylledig. Yr arweinydd dewis- edig oedd Mr David Davies, Maengwyn. Hwn oedd y tro cyntaf i Mr Davies arwain cymanfa gerddorol, ond credwn yn sicr mai nid dyma y tro olaf, oblegyd aeth drwy ei waith yn dde- heuig ac effeithiol iawn. Yr oeddem yn gwybod o'r blaen am ei allu fel dadganwr ac arweinydd eisteddfodol, a gallwn bellachddwyntystiolaeth iddo fel arweinydd eymanfaol llwyddianus iawn. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn y cylch newydd a phwysig hwn. Cynaliwyd dau gyfarfod, un yn y prydnawn a'r llall yn yr hwyr. Y plant oedd yn myn'd drwy eu gwaith yn y prydnawn, a chanasant yn swynol a hyfryd dros ben. Yr oedd yr holl donau a ganwyd ganddyut wedi eu dewis o'r "Cauiedydd," yn gystal a thonau yr hwyr. Llywyddwyd cyfarfod y plant gan y Parch. D. Williams (Tabernacl). Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. T. Phil- lips (Hebron), a siaradwyd ganddo ef a Mri. Phillip Davies, Llwynyrhwrdd, a W. Thomas (Nebo). Cafwyd araeth agoriadol hefyd gan y llywydd. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr tua chwech o'r gloch. Ar ol i Mr J. G. Phillips, Prifysgol Caerdydd, ddarllen a gweddin etholwyd y Parch. T. Phillips i'r gadair, yr hwn, ar ol traddodi araeth agoriadol, a alwodd ar yr ar- weinydd at ei waith. Yroedd y canu yn rhag- orol yn y cyfarfod hwn eto. Cafwyd hwyl fawr wrth ganu rhai o'r tonau, ac yr oedd yno arwyddion amlwg fod yr Hwn a gyfanedda yn moliant Israel yn bendithio y gweithred- iadau. Siaradwyd yn y cyfarfod hwn gan Mri W.Melchiar, Llandilo; D. B. Hughes, G.T.S.C. (Tabernacl), a Jon. Perkins (Siloh). Cafwyd cymanfa ragorol o'r dechreu i'r diwedd, a go- belthio y bydd effeithiau daionus lawer yn canlyn. RHYWuN.
Seion, .Cwmafon.
Seion, Cwmafon. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y capel uchod nos Sadwrn, Ebrill yr lleg., pryd aeth- pwyd drwy y raglen a ganlyn TTnawd i ferched dan 13eg oed, "Jesus, lover of my soul," goreu, rhanwyd ywobr rhwng Misses Lizzie James, Edith Rees a Cassy J Tnomus; unawd i ferched mewn oed, un yn cystadlu, Miss Sarah Thomas, a chafodd y wobr unawd i fechgyll, "Teyrnasoedd y ddaear," saith yn cystadlu, goreu, Mr Thomas Rees; unawd i fechgyn (alto), "Chwinwn taner," goreu, Mr Thomas Rees; pedwarawd, dau barti yn cynyg, goreu, Mr S West; adroddiad, Mae'r nef yr un o hyd," chwech yn cystadlu, rhanwyd y wobr rhwng Miss Jane Evans a'i chwaer (o lwyth Dan) deuawd i denor a bass, Larboard Watch," goreu Mri S West a J Rees adrodd- iad i rai mewn oed, Yn merw'r lli' un yn cystadlu ac yn wir deilwng o'r wobr; chwareu ar y crwth, "Brave old oak," dau yn cystadlu, y wobr gyntaf i Mr Owen LI. Gibbon, a'r ail i Mr Ben Thomas darlien rhyddiaeth ar y pryd, pump yn cystadlu, goreu, Mr John Evans; darllen darn heb atalnodau, pump yn cystadlu, goreu, Mr Thomas Morris cyfansoddi ton ar y mesur 34, ar y gair Bu Crist ar Galfari," un yn ymgeisio, ac yn deilwng o'r wobr, sefMr Leyshon; canu corawl, "Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn," un cor yn cystadlu (arwein- ydd, MrD Welbe), acyn wir deilwng o'r wobr. Pwyswyd y cerddorion a'r cauwyr gan Mr Afanfryn Hill, a'r adroddwyr gan Mr David Nicholas. Mac y pwyllgor yn ddiolchgar i'r boneddigesa11 oil am eu parodrwydd gyda'r cydau gwobrwyo, a hefyd i'n parchns weinidog am ei wasanaeth ihagorol yu ein Ilywyddu yn ystod y cyfarfod. Yr oedd yr elwyn myned i adeiladu festri. Mae tua dau cant o bunau o ddyled arnom yn bresenol, a phan glirir y ddyled, cawn festri.
.♦ Cymanfa Dinbych a Fflint
♦ Cymanfa Dinbych a Fflint Cynelir y Gymanfa uchod eleni yn Mynydd Seion, Ponbey, Llun a Mawrth, Mehefin yr 8fed a'r 9fed, pryd y pregethir gan y Parchedigion H. Elwyn Thomas, Newport, H. Elvet Lewis, Llanelli, 0. R. Owen, Glandwr, ac amryw o weinidogion y cyfundeb.—Parch. 0. J. OWENS, Gweinidog. O.Y.—Ni byddwn yn gyfrifol am lety i neb os na anfonir at yr ysgrifenydd o hyn i Mai 19eg. Springfield Cottage, W. J. HAWKINS. Ponkey, Ruabon. Ysrgrifenydd.
[No title]
Anfoned y beirdd eu cynyrohion i ofal y Parch J. O. Williams (Pedrog), 14, Adderley-street, Liverpool.
CYFARFOD SEFYDLU Y PARCH.…
CYFARFOD SEFYDLU Y PARCH. T. D. EVANS YN TYRHOS, CHWEFROR 27, 1896. Rhyw ddydd hir gofir yn y He,— Nid yn y lie yn unig,- Ond dydd sydd lawr ar lyfrau'r Ne' Cyn hyn yn argraffedig,- Dydd y gwasgarwyd enfawr 'stor O'r hen newyddion dedwydd, Aebosent gynt gantorion lor I ganu mewn llawanydd. Ca'w'd clywed heddyw gewri'r Gro's, Gwyr mawr eu dysg a'u doniau, Yn gwa'dd tyrfaoedd yn Tyrhos I restru yn ei rhengau, Gan ddangos fod galluoedd lor, Ei gariad a'i dynerwch, A'r lacbawdwriaetb fel y Mor, Yn fwy na'r byd a'i degwch. I ymdrech deg ymroddetit hwy, Yn nerth y Dwyfol Ysbryd, Er cynyg anrheg sydd yn fwy Ei gwerth na'r holl gyfanfyd; Y oynllun weithiodd Iesn Grist I achab pechaduriaid, A chodi fry yr enaid trist I gwmni y Cerubiaid. Hwy darfent anwybodaeth draw, £ gorent ddrws doetbineb; A ohlo dirgelion byd a ddaw A ddryllient mewn rhwyddineb Amlygu wnaent y llwybr cul, Sy'n arwain draw i'r bywyd- Rhagoraeh ydyw lawer mil Na damniol lwybrau'r ynfyd. Dpsgrifient hwyyrerchylllid A ddeil y rhai afradlon; Ac hefyd beth ar ddiwedd byd Fydd tynged annuwiolion; Dangosent mor dywodlyd yw Y tir dan sail airheuaeth Dangosent freintiau plentyn Duw, A'i bawl i'w etifeddiaeth. Desgrifient harddwch Canaan Wlad, A seiniau'r aur detynan A thelynorion Ty ein Tad, Oil ar eu gorseddfeingciau,— Yn taro can na dderfydd mwy Mewn undeb a'r angelion Heb unrhyw ofid, poen, na chlwy, Oil yn eu gynau gwynion. Eneidiau oedd mewn caddug nos Yn rbodio llwybrau marwol, A welsant heddyw yn Tyrhos Belydrau'r Caridod Dwyfol; Calonau celyd, aethent ffwrdd Oddiwrth ein Duw a'i dyrfa, A doddwyd beddyw yn y cwrdd, Gan allor-wres Calf aria. Y Nef opdd vito'n gwenu'n lion, Gan wasgar ei bendithion, Er balmio'r edifeiriol fron, A gobaith a chysuron A da gan bawb o fewn y ty Oedd gweled Davies yno, Yn eistedd dan y pwlpud cu, Ac olion brwydrau arno. Am flwyddi raaith arweiniai'n ddewr Dan faner deg yr Iesu Ni wyddai beth oedd rhoddi lawr Ei arfan cyn gorchfygu Yn mlaon, yn mlaen, yn mlaen o hyd," Oedd arwyddair y gwroa, Yn mlaen," nes achub yr boll fyd- Pob enaid o'u peryglon. Ah! pallu mae y nerth yn wir, A'r llais sydd heddyw'n egwan, Fu gynt yn treiddio trwy y tir Fel nno" feib y daran Ond os yw'r corff yn myn'd i lawr Dan bwysan mawr yr ornes," Mae'n amlwg 'nawr fod calon oawr Yn euro yn ei fynwea. Diosgwyd yr arfogaeth dyn Gan y cadfridog ffyddlon- Angenrhaid ydyw gwneuthur hyn Cyn gellir gwisgo'r goron Ei fantell hardd, a'i arf di-ail, Drosglwyddodd i'w olynydd, A'i weddi oedd i hwnw gael Cymdeithas y Dyddanydd. Ei ddyddiau yntau ar y ddae'r Fo'n wynion glaer a dedwydd, Oedd sibrwd dymiihiadau taer Pawb yn y cyfarfodydd Nes ato daw cerbydau hedd, 0 breswyl anfeidroldeb, I'w gyrchu draw i lll.w'i sedd Yn nheyrnas anfarwoldeb. Tyrhos fo'n dringo byth i'r lan, Gan ledu ei changenan, A'i gweinidogaeth fyddo dan Arddeliad Duw y duwiau; Er yehwanegu tyrfa gref I uno yn yr anthem Sy'n cael ei chanu Iddo Ef," Nes adsain tref Caeraalem. Cilgerran. G. B. THOMAS.
---GAIRDROSY "CELT."
GAIRDROSY "CELT." Cael" eto ini yw'r CELT enwog-daeth, A'r dwthwn i anog Yw'r prydlawn, rhoi'n llawn ein Hog, Er ei gynal a'r geiniog. Ei lwgu drwy gloi y logell—fyddai Yn feddal, wael ddichell: Ffyna fe—ni wyddaf well— Drwy gwmwd a'r dre'i gymhell. Tra y byddo ter iawnderau—dan draed, Hen drwm faich i'n gwarau Ac alon poen Gwalian pau, I'th ysol diu daw'th eisiau Yn a fu, ti fa yn rhoi'i fedd-i frad, Pan efrydai ddrygedd Yn a ddaw, er hylaw hedd, Cymorth unioni'r camedd. Gyda'i law deg, & dy 01. di,—rhana Dy riniol fwrdd ini Hyf ysbryd, a nwyf asbri, Dwy oes deg i D. S. D. Ar ddawn y brawd o Gaerfyrddin, bron-nad Anhawdd nudi'r ceinion; Erys ei hawl i'r oes hon,— Del gawraidd dalog wron. Gallu hafal cawr Llangollen—ar bwnc, Hir y bu dadl benben: Rhoes gorph yr hen anorphen I tactics y Classics clen Boed fel S. R. ar ei orau,-gonetlt Dros geinwych iawnderau Nid yn ffel i hel a hau Di-ddawr felfedaidd eiriau. A'r call Sion Gymro," nid amrwd-ei lea Ef, ond glanwych, dirwd C'i lawn fron a'i galon frwd, Ail gemau o'r del gwmwd. Cwyd lais fel 'storm a ryddormes-i lawr, A'i ddoluriog hanes: Rhoi'n y pridd'r hy' wyneb pres A'th anoga i'th neges Tebyg wyneb culni crebach,-hunanedd Mewn enwad gwna'n sitrach Hanfod ei fod rho' i fach Babyn-Did yw ond bwbach • Codi'r oes mewn moes, drwy ro'i maeth— 0 hufen Cri&t'uogaeth [hefyd^ Ac eled ffrwd teg glod ffraeth- Hwn ni edwyn enwadaeth Lerpwl. GORWYST.
_> — . MARWOLAETH.
_> — MARWOLAETH. Jmns.-Ebrilllleg, am 6 o'r gloch yn yrhwyrr Eluned Tegid, anwylyd Mr. a Mrs. L. D. Jones, Garth, Bangor, yn 3t mlwydd oed, ar ol 12 awr o gystudd.
Advertising
Sawel Memorial Academy, Llansawel ESTABLISHED 1875. WANTED, a HEAD-MASTER to take im- mediate charge of the above School.— For terms apply to Rev. D. LLOYD EVANS, Rev. D. LLOYD EVANS, 2, Castle Terrace, Llansawel, Llandilo, Carm. MEAT WELSH LONG CORE. COLTSFOOT ELIXIR. MARVELLOUS SUCCESS. Cures Coughs, Colds, Asthma, Brouchits, Influenza COLTSFOOT ELIXIR. The Great Pulmonary remedy is prepared from extracts of Balsamic Plants. Spoken by all who have tried it to be a Great Remedy, and the most certain1 CURE OF COUGHS AND COLDS. Old Lung affections readily yield to its treatment,, also the Best Medicine' for Chiliren. Testimonials from all parts of the' Kingdom. Sold by all Chemists and Patent Medicine Vendors in bottles at Is. lid., 2s. 9d., and 4s. 9d.each, or can be obtained, Post Free, direct from Laboratory of Inven- tor and Introducer, MORGAN W. JAMES, Manufacturing Chemist, Llanelly, South W le» Y Tadau, pa, le y maent hwy." Y TADAU ANNIBYNOL. Bwriedir cyhoeddi .f Y Tadau" mewn Deuddeg Rifynau, Pedair Ceiniogyr no, pob Rhan yn ynddi ei hnn, y Cymeriaoau wedi eu dewis o Dde • Goulodd, a'r Geir-ddarluniau wedi eu tynu gan wahano* bersonau fel y gwelir isod:— 1. ARTHUR JONES, D.D. Mr. L. D. Jones. iAllan o'r Wasg.) REES, Llanelli Dr. Herber Evans. 3. D. DAVIES, Aberteifl Y Parch. T. Eynon. Davies. 4. LEWIS POWELL, Caerdydd.. Y Parch. J. Bowen Jones, B.A. 5. LLEWELLYN SAMUEL, Mr. W. J. Parry. Bethesda. 6. BENJAMIN JONES, Pwllheli Y Parch. Ellis 7. GEOKGE LEWIS, D.D. Y Pareh. Evan T. D»v* 8. R. HUGHES, Groes Wen Y Parch. C. Tawalw1 Thomas. 9. OWEN THOMAS, Carrog Y Parch. O.L. ROBERTS' 10. MCIIGAN JONES, Trelech Y Parch D. G. 11. SAMUEL ROBEBTS. M.A. Y Parch 12. D. Price, Aberdar .|Y Parch D. Silyn Evans- Anfoned y sawl a ddymuno gael y deuddeg rhifyn at; y Cyhoeddwr yn brydlon. Gellir cael y Rhanau am 4$d. yr un, neu 3s. £ dwsin drwy'r post oddiwrth Mr. SAMUEL Hua» Argraflydd, Bangor; drwy y LLTPRWEKTHWB oddiwrth y GOLYGTDD, L, D. JONES, 3r Edge » Garth, Bangor.