Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y Wers Sabbathol.

News
Cite
Share

Y Wers Sabbathol. Ebrill 19eg. —" CAEL T COLLEDIG."—Luc xv. 11.24. Testyn Euraidd: Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwyid angylion Duw am un pecbadur a edifarhao."—Luc xv. 10. Dengys Luc gyfaddasder yr efengyl i'r cenedloedd, a darlunia Crist yn barhaus yn y cymeriad o Fab y Dyn. Crist fel Messiah.—Brenin yr luddew; dyna welir yn yr Efengyl yn ol Matthew. Sylwer fel y mae yr ymadroddion, Teyrnas Dduw, Teyrnas nefoedd, yn britho yr Efengyl yn ol Matthew. Oristfel Gweithiwr. —Dyna welir ynMarc. 0 ganlyniad, rhydd efe hanes y gwyrthiau yn lIed gyftawn, heb roddi oncl ychydig o'r damegion. Sylwer ar yr ymadroddion Yn y fan," Yn blvgeinol iawn," a'r cyffelyb, y rhai a ddyncdant brysurdeb Crist yn ei waith. Crist fel Mab y Dyn.-Dyna rydd Luc. Olrheina ei linach i Adda ac nid i Abraham, i ddangos ei fod yn Fab y Dyn ac nid yn luddew yn unig. Rhydd gronicliad 11a wnach o weddiau Crist na'r un o'r efengylwyr ereill, a rhydd rai dattiegion-megya dameg y mab afradlon-na cheir gan un o'r lleill. Crist fel Mab Duw welir yn fwyaf neilldu- 01 yn yr Efengyl yn ol loan. Dengys loan ddwyfoldeb Person y Messiah, a'i undeb a'r Tad. Anwyl iawn i bechadur ydyw dameg y Mab Afradlon. Pe byddai yn iawn i wneud rhagor rhwng nn ac ereill o ddamegion Crist, nid ydym yn petruso na roddid yn gyffredinol y goron ar ben y ddameg brydferth hon. Bellach, nid oes raid i'r pechadur penaf aros mewn anobaith. Y mae y rheswm am gadwedigaeth pob dyn yn nghariad Duw ac nid yn nghymeriad dyn. Rhydd yr ail adnod yn y benod yr ahwedd i agor y ddameg A'r Phariseaid a'r Ysgrif- enyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt." Ceir yn y ddameg dri cyrneriad-y tad a'i ddau fab. Cynrychiola y tad" ein Tad nefol, yr hwn sydd o hyd yn barod i dderbyn y pechadur ar ei wir edifeirwch. Cyorychiola y "mab ieuengaf" y dyn anfoesol sydd yn rhodio yn ffyrdd ei galon ac yn ngolwg ei lygaid. Cynrychiola y "mabbynaf" y Pharisead hunangyfiawn, pechod parod yr hwn ydyw edrych ar ei rinwedd ei hun yn hytrach nag ar gariad Duw. Yn ol dyfarniad hanes, yr oedd y mab ieuengaf" yn fwy peshadur na'r "mab hynaf." Ni. chredwn yr awgrymir hyn yn y ddameg. O'r tu arall, credwn mai tuedd y ddameg, a thuedd dysgeidiaeth Crist yn gyffredinol, ydyw mai y mab hynaf oedd y pechadur mwyaf. Y mae cenfigen yn Waeth nag anfoesoldeb, a phechod yr ysbryd yn waeth na phechod y corff. ADN. 12.—"A'r ieuengaf o honynt a ddywedodd wrth ei dad," &c. A'r ieuengaf. "Y mae yn hyn fyd o ystyr" (medd Dr. Parker), "ffwl y teulu "— yr ieuengaf. Dipyn yn galed yw hyn ar ben yr ieuengaf. Y mae i'r ieuengaf mewn teulu fodd bynag ei beryglon neillduol. Yn fynych, gwna pob un o'r teulu ei oreu i'w droi allan yn blentyn afradlon—yn spoiled child. Yr oedd rheswm neillduol dros wneud y "Dlab ieuengaf" yn "fab afradlon" y ddameg hon. Yn ol y gyfraith Iuddewig, l'll pherthynai i'r ieuengaf o ddau fab ond y drydedd ran o etifeddiaeth ei dad. Tuedd Muriel y gyfraith hon oedd gwneud i'r leuengaf ddi-ystyru ei hun oblegyd y mae Y teirnlad o gyfrifoldeb yn gyffredin yn o] g"erth y meddianau. Gwelir yn nirywiad Y. tnab afradlon wahanol risiau-pechod yn '('1 dqarostwng o ddrwg i waeth. 1. Gwelir ynddo ddiffyg hunan-lyvjodraeth. Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddygwydd o'r 'da." Gofyna am ei ystad cyn dyfod i oed ?ia gall aros ei amser. Meddylia llawer dyn Jeuanc mai gogoneddus o beth ydyw bod yn teistr arno ei hunan, heb ystyried dim o ^Qhawsderau hunan-ly wodraeth. Gyda llaw, annoeth y bu y tad yn ei ymddygiad— r?oddi y cwbl i'w blant yn ystod ei ddydd 61 hun Ac efe a ranodd iddynt ei fywyd." ADN. 13.—" AC ar ol ychydig ddyddiau y ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd," &c. jf.aro1 ychydig ddyddiau. Arwydd arall o *ffyg hunan-ly wodraeth. Mor ddiamynedd y mae dyn ieuanc wedi ei swyno gan bleser Pechod. 2- Gwelir eiffolineb. Cymeryd ei daith i viad bell. Myned i rywle heb ofalu am 101 ond bod yn ddigon pell o gartref. Yna s^asgaru ei dda. a byw yn afradlon, hyd nes tre«Ho y cwbl. ADN. 14. —" Ac wedi iddo drenlio y cwbl," &c. Mor greulawn ydyw pechod nid ym- foddlona nes cael y cwbl. Dinystrio yr amgylchiadau, dinystrio ycymeriad, dinystrio yr enaid, ac nis gall pechod ei hun fyned yn mhellach na hyn. Y cododd newyn mawr trwy y wlad hono. Sylwer ar gydgyfarfyddiad yr amgylchiadau Pan y mae ef yn fwyaf antnharod ar gyfer y newyn—wedi treulio ycwbl—y maey newyn yn dyfod. Mor garedig y mae Rhagluniaeth -gofala ddwyn oddiamgylch y fath gyfuniad o amgylchiadau ag fydd yn fwyaf tebyg i effeithio edifeirwch yn y pechadur. 3. Ei drueni. Gwahanol raddau Angeu. "Ac yntau addechreuodd fod mewn eisieu (14). Yna, hunan-ddiraddiad (gweler adn. 15). Ac yu olaf caledi eithafol ac anobaith (adn. 16). Yn nesaf, cawn ddarlun oadferiad y mab afradlon. Gwahanol raddau etc. 1. Ystyriaeth ei gyflwr. A phan ddaeth ato ei hun" (17). Dyn allan o'i iawn- bwyll, ac wedi gadael ei hun, yw dyn o dan lvwodraeth pechod. 2. Adgof am amser gwell. "Pa sawl gwas 1-1 eyflog;" &c. Y mae cofio am gartref da mebyd wedi dwyn ami i afradlon yn ol o'r wlad bell. 3. Penderfyniad i ddychwelyd. Mi a godaf, ac & af at fy nhad," &c. 4. ^Gostyngeiddrwydd meddwl. Collodd drwy bechod le mab yn y teulu. Gofyna yn 01 am le y gwas cyflog. 5. DychweJyd gartref. "Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad." Y mae gwerth edifeirwch teimlad yn y cymhelliad rydd i weithred. Diwygiad buchedd ydyw gwir edifeirwch. Arwynebol iawn ydyw edifeir- wch teimlad yn unig. Gwna fwy o niwed nag o les drwy gellwair a natur yn lIe rhoi gwaredigaeth. Cawn eto ddarlun prydferth iawn o dder- byniad y mab gan ei dad. Bu ei dad yn llawer gwell iddo nag oedd efe yn ddysgwyl. Y mae Duw yn llawer gwell na'n syniadau goreu ni am dano. Ni chawn siomedigaeth yn Nuw ond ar yr ochr oreu. Cynorthwyodd y tad ei fab i ddychwelyd drwy redeg ynei erbyn. Y mae Duw yn barod i gynorthwyo pob tuedd at ddaioni mewn dyn. Ni cha yr edifeiriol ddychwelyd yr oil o'r ffordd heb ryw arwydd o'r cydymdeimlad dwyfol. Yr oedd y mab wedi parotoi cyffes-rban o honi yn unig a ddywed wrth ei dad. Edifeirwch yn codi oddiar ofn fu yn parotoi y gyffes; edifeirwch yn codi oddiar gariad fu yn cyflwyuo ygyffes i'r tad. Gwnaeth y cyfnewidiad hwn fyrhau ei gyffes. Yn ngwydd ei dad, cyffesodd y mab ei bechod; ond ni soniodd am le y gwas cyflog gwnaeth yr arnlygiad o gariad ei dad hyny yn ddi- angenrhaid. Pe byddai'r pechadur yn deall mor dda ydyw Duw, ac mor dda ydyw ei gartref, byddai y wlad bell yn llai poblog nag y mae. Rbwydd hynt i'r dylanwadau dwyfol i'n tynu oil i dre. Capel-y-Wig. LEWIS EVANS. —;—,

Mount Stuart Docks, Caerdydd.…

Tysteb i'r Parch. W. Thomas,…

Cymmer, Cwm Rhondda.

. '♦: Aberdar a'r Cylch.

Y Dosbarth Gramadegol.