Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Trochiad (?) John Jones, Llangollen.

News
Cite
Share

Trochiad (?) John Jones, Llangollen. MR. GOL.,—YD y rhifyn o Seren Cymru fis Mawrth 13 ymddangosodd ysgrif dan, ypenawd uchod, wedi cael ei chodi o'r Drych Americanaidd. Rhaid i mi ^ethu ar hynawsedd Mr Gol. y CELT am gongl fechan i geisio rhoddi ychydig eg., Whad ar yr ysgrif gableddus uchod. 13liaswn yn ysgrifenu yr atebiad i'r Seren, ond gwyddwn mai ofer a. lyddai i tni fyned i'r drafferth, am nad ydyw fy ysgrif yn "bluen at liw y dwr gan ol- ygydd y papyr hwnw. Yr wyf fl, a chanoedd ereill, yn diolch am y CELT, yr llwri sydd yn ddigon rhyddfrydig* ac agored i dd erbyn unrhyw ysgrif a fo o dUedd i daflu goleuni ar unrhyw bwnc, 1?a.un bynag ai Trochwr ai Taeneliwr fo yn yjjgrifenu. Er mwyn lluosog ddarllenwyr y CELT, etiyniaf am gyhoeddi yr ysgrif bob gair fel yr ymddangosodd yn y Seven, gael | lddynt weled y fath stwff sydd yn bodd- loni rhai pobl mewn papyrau ereill. Ar Un pryd, credwyf mai nifer fechan o'r tledyddwyr sydd yn ddigon ehud a di- cWaeth ac aughrefyddol i ymborthi ar gelaneddau eu gelynion. Dymunaf gredu 0(1 miloedd lawer yn mhlith enwad parchus y Bedyddwyr yn ddynion digon §°Wedig, rhyddfrydig, a chrefyddol, i ^eiddio ysgrifau o'r natur uchod ond Had oes, gellir dweyd nad oes y fath eth a chrefydd ysbrydol yn bod. Os oedd John Jones, Llangollen, yn drech 1)1t'r Bedyddwyr mewn dadl ar fedydd, angen oedd bod yn ddig wrtho am ^y, fel ag i ddwyu arno braidd bob o enwau cabledd bron am ystod 6llgain mlynedd wedi iddo fyned i'w 6(H ? 0 fyn'd i ddadl o gwbl, yr oedd rhaid i iyw un fod yn orchfygwr. Pe ^ai y Bedyddwyr fuasai wedi gorchfygu dadl y pryd hyny, cyfrifem y ^euellwyr yn annheilwng o ddynion a ^efyddwyr pe buasent yn arferyd geir- :Q cableddus a bryntion am y Bedydd- 3'1' ar ol hyny. Dichon mai nid i'r gallu yn John Jones yn gwbl mae yn aid priodoli ei Iwyddiant mewn dadl y yd hyny. Dichon mai i'r achos oedd ei amddiffyn y gellir cyfrif llawer am lwyddiant, hyny yw, fod ganddo well sYlfeini i adeiladu arnvnt. Qyda hyna o ragymadrodd, af yn aea i wneud ychydig sylwadau ar yr th^ ^akleddus uchod, yn nghyd a W^6t^U ye^y^ig am John Jones am ys- ei fywyd byr ar ol myned i'r ^erica. y rhifyn o'r Drych am Mai 'st0l,-af Uu e^eu gwybod a oes gwir yn yr hen y J°nes> Llangollen, ymuno a Saint y diau Diweddaf. Mae yr hen 'stori yna mor wir a bod ei enw yn Johu Jones, er y di- chou nad oes tystion wedi bod i'w fedydd ond yn unig Dan, ei frawd, ac yntau, ac y mae y ddau wedi marw er's blynyddau lawer. Yn nechreu v flwyddyn 1854 yr oeddwn yn parotoi i dd'od i America. Cyn cychwyn dy- wedodd un wrthyf fod John Jones, Llangollen, yn coleddu egwyddorion y Saint. Ffwrdd a fie Byddai yn llawer rhy faith dweyd am y mor a'r afonydd ond cyrhaeddais i'r gwersyll yn agos i Kansas City mewn ychydig arnser, a daeth llawer o'r Saint yno, ac yn eu plith can- fyddais John Jones, Llangollen. Un bore cef- ais hamdden i siarad a Mr Jones, a dywedais wrtho fy mod yn rhyfeddu iddo ef i ymuno a'r Saint, wedi iddo ddarlithio cymaint yn eu her- byn hwy a'r Bedyddwyr, am eu bod yn credi ae arfer bedydd trochi. "Ydwyf," meddai, "wedi darlithio llawer, ond yn erbyn fy nghydwybod i gyd yn ddiweddar. Yr oeddwn wedi credu mewn bedydd trochi er's llawer o amser, a Dan, fy mrawd, yn ormod i mi mewn dadl." "Beth am Frad y Droch yn awr, Mr Jones P" Wei, yr oedd llawer yn Mrad y Droch nad oeddwn yn ei gredu." Wedi amser maitb yn y gwersyll, dyma ni yn cychwyn ar y gwastadedd. Aeth dau ddiwrnod heibio. Nid oedd gwedd a wagen gan Mr Jones ei hunan. Unwyd a rywrai y trydydd boreu, a gwelwn Mr Jones yn eistedd ur eu gist (trunk) ar ochr yr heol, a'i ddryll yr, ei law. "Beth sydd yn awr, Mr Jones V' Wei, yr wyf wedi dargaufod mynydd o fwn copr, ac mor fuan ag y gallaf werthu y mynydd dof yn mlaen ar eich ol chwi." Dyna yr olwg ddiweddaf gefais arno. Derbynier hyn o wirionedd fel y mae, a'r diweddaf am John Jones, Llangollen, oddi- wrthyf u.—Yr eiddoch, DAVID CHARLES. St. John, Tooele Co., Utah, 16, 6, '92. (O'r -Dryelt am Ionawr). Sicrha yr ysgrif uchod fod John Jones wedi ymuno a Seintiau y Dyddiau Di- weddaf, ac wrth gwrs, wedi cael ei drochi. A hyn sydd yn wledd ddanteithiol i'r dosbarth isaf o Fedyddwyr. Ac hefyd, mae fod John Jones wedi ymuno a'r Mormoniaid yn gosod urddas mawr ar y gymdeithas lygredig hono. Ond hyn sydd ryfedd-nis gellir cael yr un tyst i hyny erioed gymeryd lie—dim ond fod David Charles, o Utah, yn dweyd hyny. Os yw y David Charles hwn yn debyg i'w frodyr Mormonaidd y daethum i gysyllt- iad a hwynt, ni roddaf ddim pwys ar ei dystiolaeth. Dywed David Charles yn mhellach fod John Jones wedi dweyd wrtho ei fod wedi darganfod "mynydd o fwn copr." Olywais lawer gwaith am saith ryfeddod y byd; yn sicr, dyma yr [ wytnfed! Pregethwr tlawd o Ferthyr 9 Tydfil, ar ei waith yn myned am y tro cyntaf trwy wyllt-diroedd America, yn darganfod mynydd o gopr! Er mor alluog ydoedd John Jones, credwyf fod peth fel hyn yn ormod hyd y nod iddo yntau. Dywedir mai un cloff iawn ydyw celwydd. Credwyf y byddai yn well i David Charles fod yn fwy gofalus y tro nesaf y bydd yn ysgrifenu, os ydyw am i'r byd gredu fod John Jones wedi ym- uno a Seintiau y Dyddiau Diweddaf, neu bydd y byd yn aicr o'i restru mor gel- wyddog a Joseph Smith, tad y Mormon- iaid. Yn y dyddiau boreuol hyny, set yr adeg yr aeth John Jones i'r America, yr oedd Hawer o'r Seintiau yn ymfudo i Ddyffryn y Llyn Halen. Yr oedd yn eymeryd amser maith iddynt i wneuthur y daith, am eu bod yn gorfod teithio am dros fil o filldiroedd heb yr un reilffordd ac nid oeddynt wedi darganfod y ffordd feraf 'chwaith, am nad ydoedd y Cad- fridog Ffrimont wedi canfod y bwlch oedd yn myned trwy y Mynyddoedd Creigiog, trwy oa uny mae Rheilffordcl y Tawelfor yn awr yn myned. Trwy fod y daith mor hir a blinderus, yr oedd y teithwyr Mormonaidd yn gorfod aros yn hir ar y ffordd, a chanoedd o honynt yn marw cyn gweled Canaan eu go. beithion, sef Dyffryn y Llyn Halen. Ar yr adeg pan oeddcyrchu mawr tuagyno, aeth brawd i John Jones, yr hwn oedd Formon, yn nghyd a rhai Cymry, tuag yno; a bu orfod ar frawd John Jones, fel llawer ereill, aros ar y ffordd. Yr oedd hyny heb fod yn mhell o lan yr afon fawreddog Missouri, yn nhiriogaeth Ne- braska. Yn rhywle yn y cymydogaethau hyn darganfyddodd brawd John Jones fwn copr, a danfonodd at ei frawd, sef John Jones, i Ferthyr Tydfil, gan ei hys- bysu o'r darganfyddiad, ac am iddo ddyfod yno ato ef ar unwaith, y byddai iddo gael rhan o'r darganfyddiad. Wedi i Jones gyrhaedd at ei frawd, aeth ar ei hynti edrych am ei drysorau, Pan yn myned trwy yr anialdir cymerwyd ef yn garcharor gan yr anwariaid cochion, a thrwy ei fedr a'i gyfrwysdra y gallodd ddianc am ei fywyd oddiwrthynt. (Ni pherthyn i ni i hysbysu y moddion a ddefnyddiodd i gyrhaedd hyny). Gwel- odd yr ben Jones mai dyogelwch iddo ydoedd gadael gwyllt-diroedd y gor- llewin a throi ei wyneb i rai o daleithiau y dwyrain a gosododd ei nod ar dalaeth Pennsylvania ac Ohio. Ni bu iddo fyw fawr gyda dwy flynedd ar ol dychwelyd I i'r dwyrain. Gorphenodd ei yrfa yn Cin- cinnati, Ohio, a chladdwyd ef yno; a dyna ddarfod am dano. Nage, gallwn feddwl na chaiff lonyddwch yn ei fedd. Tebyg pe buasai yr hen fachgen byw, na feiddiasai ei elynion fod mor hyf ar ei enw. Dyma fi wedi crwydro oddiwrth yr hanes. Wedi i Jones ymsefydlu yn y dwyrain, fel y nodais, pregethai yn y gwahanol eglwysi ar hyd y sefydliadau Cymreig. Hefyd, ymgymerodd achyhoeddi misolyn o'r enw Atolygydd" (os wyf yn cofio ei enw yn iawn). Yr oedd yn ychydig yn fwy o faint na'r u Dysgedydd." Yr wyf wedi cael y fraint o ddarllen amryw rifynau o hono. Yr oedd ei gynwysiad yn amrywiol, fel mae cyhoeddiadau misol yn gyffredin. Esbonio gwahanoI. ranau dyrys o'r Bibl, megys y cre- adur" yn yr wythfed o'r Rhufeiniaidy oedd yn cael lie amlwg ynddo. Hefyd, yr oedd ei hoff bjrnc, sef y Droch, yn cael sylw neillduol. Onid yw yn beth hynod fod yr hen Jones yn para i ddyrnu mor drwm ar y Droch ac yntau ei hun newydd gael ei drochi gin y Seintiau, fel y dywedir I! Onid yw yn beth rhyfedd na fuasai rhai o'i luosog elynion y pryd hwnw yn codi y peth i'r gwynt, a rho'i taw trag'wyddol ar ei geg II! Na, Did oedd na lief na neb yn ateb." Cafoddyr hen Jones y maes i gyd iddo ei hun y pryd hwnw; ond yn mhen ychydig amser ar ol iddo farw, cyhoeddodd rhai o'r Bedyddwyr—yr wyf yn dweyd rhai am nad wyf yn credu nac yn dewis meddwl fod y goreuon o'r Bedydd wyr yn euog o'r fathfudrwaith-ie, meddaf, cy- hoeddodd rhai o'r Bedyddwyr, yn fuan ar ol marwolaeth John Jones, ei fod wedi gwnead cyfaddefiad ar ei wely marw mai trochi sydd yn iawn, ac mai yn groes i'w gydwybod yr oedd wedi dweyd a gwneud y cwbl yn erbyn y Bedyddwyr, ac mai hwy sydd yn eu lie, ac nas gallasai farw gan gnofeydd cydwy bod euog heb wneu- thur dadganiad o hyny. Parodd cyhoeddi yr uchod lawenydd mawr yn ngwersylly Droch y pryd hwnw. Pan yn nghanol eu gorfoledd, dyna dristwch, drwy i ferch John Jones ysgrifenu i'r Drych i ddweyd mai celwydd, heb un gair o wirionedd, oedd y Bedyddwyr wedi ei gyhoeddi am ei thad. Dywedai fed ei thad yn para i gredu yn gadarn hyd ei farwolaeth yn yr egwyddorion a broffesai yn ei fywyd, yn enwedig pwnc y Bedydd. Ar ol cyhoeddi yr uchod bu tawelwch mawr am hir amser. Os oedd John Jones wedi cael ei drochi gan y Seintiau, pa angen oedd i'r Bedyddwyr ar ol hyny i fyned i'r fath ffwdan i ddyfeisiocelwydàau gyda'r amcan o gael gan y bobl gredu ei fod wedi addef pan ar wely marw mai trochi sydd yn iawn ? Yn wir, mae pethau rhyfedd yn cymeryd lie yn y byd yma 11 Ie, llawer rhy ryfedd i neb i'w credu heblaw y Seintiau a'r Bedyddwyr!! Gwelaf fod fy ysgrif yn myned yn faith a chwmpasog; felly, terfynaf rhag i'r Gol. ddefnyddio y siswrn. Dyma i ddarllenwyr Iluosog y CELT fraslun am John Jones, Llangollen, yn treulio ei fywyd byr a helbulus pan ydoedd tu draw i'r Atlantic. Aberteifi. D. D. B. [" Er y dichon nad oes tystion wedi bod i'w fedydd "—dyna gyfaddefiad y Mormon cowardaidd. Ac eto, mae tystiolaeth fel hon yn ddigon da i Seven Cymru i'w harddangos yn ei chol- ofnau 'nawr ac eilwaitb, er difyrwch twyllodrus i'r rhai gorgoelus o'i dar-