Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. "HU GWAN" AG YSGRIFAU'R AIL DDYFODIAU. MR GOL.Gan y dysg Paul ni i fod yn ofalus rhag tramgwyddo y "gweiniaid," "Ac a ddi. fethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di;" a chan eich bod chwithau yn ddigon gonest i ddefnyddio enw nodweddiadol o gynwysiad eich llythyr ataf yn y Celt, Awst 29ain, teimlaf ei bod yn ddyIedswyddarnaf i wneud sylw o'ch ymosodiad ar fy ysgrifau yn y Cronicl a'r Celt, er i chwi wneuthur yn llwfraidd dan y ffug enw "Hu Gwan" Ni raid i chwi grefu maddeuant am dybied mai yr un person ydyw y ddau sydd yn ysgrifenu i'r Cronicl, a'r gwyntylliad o honynt i'r Celt" oblegid y mae fy entv priodol wrth y naill a'r llall. Pe buasech wedi eu darllen yn gyson gwelsech mai amddiffyniad yn ngwyneb ymosodiad dienw yw yr hyn a alwch yn M wyn- tylliad." Cwynwch fy mod yn cymeryd fy mhrawfiad- au o waith awduron Seisnig, y rhai i'ch tyb chwi sydd wibiog a gwyllt ac ansefydlog iawn. Gan i chwi fod yn ddigon gofalusi ddyweud mai eich 11 tyb chwi ydyw hyn, ac na ehynygiwch brofi eich tyb ni raid sylwi yn mhellach ar y gwyn hon. Dywedwch eto, Nid wyf yn ystyried barnau dynion ffaeledig fel fy hunan yn ddigonol sylfaen er adeiladu arno pan y mae Gair Duw yn ben- derfynol ar bobpeth i'm tyb i." Rhaid i chwi gofio frawd Gwan mai nid eich tyb chwi ydyw tyb pawb o'r saint. Diau fod Gair Duw yn ben- derfymol ar bobpeth, ond yr aahawsder ydyw penderfynu pa beth a benderfynir ganddo. An- hawdd genyf gredu fod Hn Gwan mor gryf mewn deall a barn, fel y gall fforddio anwy byddu ynhotlolgyneithiadaa a barnau dysgedigion a duwiolion yr oesau. Credaf mewn ffurfio barn bersonol ac anibynol ond gwneud hyny yn ol rheol resymol a chyson esboniadaeth, ar ol ym- chwiliad gonest a manwl, yn ol y cynorthwyon fyddont o hyd cyrhaedd i ymgynghori a hwynt, ac ar ol gweddi ddwys am oleuni yr Ysbryd Glan. Yna os bydd dyn yn cael ei dueddu i gredn yr un ffordd ag unrhyw feirniaid, mae yn hollol weddus iddo roddi ei farn i'r cyhoedd yn ngeiriau hwnw gan ei gydnabod yn onest. Ond yr ydych yn ddiachos yn aohwyn arnaf am hyn, ac am na buaswn yn rhoddi mwy o'm beirniad- aeth fy hun. Os wyf wedi deall eich meddwl yn iawn di- fynwch yr adnodau canlynol i geisio gwrthbrofi f.v ngosodiadau y bydd yr Iuddewon ddychwelyd i'w gwiad, ac y bydd iddynt gael ei defnyddio eto mewn modd arbenig er bendith i'r byd. Yn gyntaf, Jeremi xix. 11, Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a'r ddinas hon fel y dry Ilia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfanu mwyacb ac yn Tophet y cludir hwynto eisieu He i gladdu." Mae y geiriau byn i'w deall yn ngoleuni eu cysylltiadau. Dechreua alegori y crochenydd yn nechreu y benod flaenorol lie y gwelir fodbygythiad y testyn yn amodol. Oni allaf ti, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, ty Israel ? madd yr Arglwydd. Wele, megis ag y mae y clai yn Haw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy Haw i, ty Israel. Pa bryd bynag y dywedwyf am ddiwreiddio a thynu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth os y genedl bono y dywedais yn ei herbyn a dry oddi- wrth ei drygioni, myfi a edifarbaf am y drwg a amceoais ei wneuthur iddi." Jer. xviii. 6-8. Eri Israel beidio eydymffurfio a'r amod, ac er i'r wladwriaeth gael ei dryllio lawer gwaith felllestr pridd, gwyddom fod yr Iuddewon yn aros yn bobl nei'llduol hydy dydd hwn. Daliai ffigwr y crochenydd a'r Uestr yn amser Paul, ac y mae yn dal i ninau yn yr oes hon. Dywedaf yu ngeiriau Cymro enwog, Pe elem i grochenydd- dy, gallem yno weled y crochenydd yn profi y llestri a'i law, ac yn defnyddio ei lygaid a'i glugtiau i ddigelu y gwallau a phan gaffo lestr diffygiol, tarawa ef megis mewn nwyd, nes y byddo yn deilchion, fel pe byddai wedi dibenu ag ef am byth. Ond ar ddiwrnod nodedig, ceir ei weled yn crynhoi y darnau, ac yn casglu yr ysgyrion yn offtlus i'w malu a'u moldio o'r newydd, a'u pasio yr ail waith drwy y tan, a chynyrchu llestri difai." Rhoddodd yr Arglwydd addewidion i Jeremiah ac eraill o ymweliad cyfFelyb ag Israel yn y dyddiau diweddaf. Ni raid i chwi ond troi dwy neu dair dalen yn mlaen, o'r adnod uchod, cyn dyfod at y geiriau hyn, Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyflawn, a Brenin a deyrnasa ae a lwydda, ac a wna farn a chyfiawoder ar y ddaear. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Judah, ac Israel a breawylia yn ddiegel; a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWN- DER. Am hyny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fynu o wlad yr Aipht; eithr, Byw yw yr Ar- glwydd, yr hwn a ddug i fynu, ac a dywysodd had ty Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lie y gyraswn i hwynt; a hwy a gant aros yn eu gwlad eu hun."—J er. xxiii. 5-8. Eto, "Gwrandewchair yr Arglwydd, 0 gen- hedloedd, mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a'i casgl ef, ac a'i ceidw fel hugail ei braidd." Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a'r ser yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y mor pan ruo ei donau; Arglwydd y nuoedd yw ei enw: Os cilia y defodau hyny o'm gwydd i, medd yr Arglwydd yna had Israel a baid a bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd. Fel hyn y dywed yr Arglwydd: Os gellir mesur y nefoedd oddi- ucbod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oil a wnaethant hwy, medd yr Arglwydd." Jer. xxxi. 10, 35—37. Nis gall geiriau fod yn fwy penderfynol o berthynaa i gadwraetk yr Iuddewon fel cenedl.,neilldnedig tra fyddo haul, a lleuad, a ser. Yn ail, Esay xxx. 14, "Canys efe a'i drylliai hi fel dryllio llestr (costrel) crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer yn mysg ei darnau gragen i gymeryd tan o'r aelwyd, nac i godidwfr o'r ffos?' Nid oes yn yr adnod hon eto ddim yn milwrio yn erbyn yr hyn a ddywedwyd uchod. Bygythiad ydyw o farn amserol ar wladwriaeth Israel, am iddi bwyso ar yr Aipht am gymhorth yn erbyn Assyria. Gwelir cyn diwedd y benod fod trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn, "Ac am hyny y diagwylyr Arglwydd i drugarhau wrthych, ie, am hyny yr ymddyrchaf i doeturio wrthych; canys Duw cyfiawnder yw yr Arglwydd. Gwyn eu byd y rhai oil a ddis- gwyliant wrtho. A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, mewis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rkwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt."— Esay xxx. 18-26. Cyfeiriwco eto at Galarnad iv. 2, Gwerth- fawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y eyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwy law y crochenydd." Er i'r Iudewon gael eu caethiwo y pryd hwnw, dychwelwyd hwynt wedi hyny. Ac er iddynt gael eu gwasgaru gan y Rhufeiniaid dychwelant eto. Cyn diwedd y benod ceirsicrwydd o hyny (adnod 22), Gor_ pheawyd dy gospedigaeth di merch Seion; ni chaethgluda ef e di tawy." Yr ydych chwi, Hu GWaB," fel Uawer, yn edrych ar yr Iuddewon fel gwrthrychau barn Duw, gan anghofio eu bod hefyd yn wrth- ddrychau trugaredd yr Anfeidrol. Os ydynt yn wrthddrychau toster mawr Duw, onid ydynt hefyd yn wrthddrychau daioni mawr Daw ? Mae darn o hen chwedl luddewig wedi dyfod i lawr drwy yr oesoedd am ddau loddew mewn myfyr- dod dwfn, yn nghanol adfeilion Jerusalem yn fuan wedi ei dinystr. Mae un fel Jeremiah yn falarnadu yn ddiatal uwchben y trychineb gan dywedyd: Och, och dyma ddiwedd y cwbl. Ein dinas hardd nid yw mwyach, ein Teml a chwalwyd, ein brodyr ayrwyd i gaethiwed." Y llall gyda mwy o sirioldeb, a etyb Gwir, ond dysgwn oddiwrth wiredd barnau Duw, y rhai a welwn o'n hamgylch, sicrwydd ei drugareddau. Dywedodd efe, 'Myfi a ddinystriaf Jerusalem,' a gwelwn ei fod Ef wedi gwneuthur hyny. Ond oni ddywedodd Efe hefyd, Myfi a adeiladaf Jerusalem drachefn.' ac oni chredwn ni Ef." Mae yn y chwedl wers i ninau wrth esbonio prophwydoliaethau. Cyhuddwch fi o fod yn ddall i ddarn o ym- ddiddan Iesu Grist gyda'r wraig o Samaria, sef, I, 0 wraig cred fi, mae'r awr yn dyfed pryd nad addoloch y Tad nac yn y mynydd hwn mae yn Jerusalem." Nis gallaf weled fod a fyno "y geiriau hyn a'r mater dan sylw, gan nad wyf wedi haeru nac awgrymu dim yn groes iddynt. Pe buaswn wedi dyweud fod dychweliad a defn- yddiad yr tuddewon y* anghyson ag yspryd yr adnod buasai genych rhyw sail i'ch cyhuddiad. Diolchaf i chwiam ddyweud y byddyndda genych ddarllen fy ysgrifau yn y dyfodol hep ynddynt ddim o'r "pwff Seisnigaidd," ddim ond fy meirniadaeth fy hun. Dymunaf hysbysu naa gallaf addaw peidio pwffian ychydig o'r iaith fain, yn awr ac yn y man, a hyny oherwydd dau reawm. Yn gyntaf, mae fy amser mor brin fel nas gallaf fyned i'r drafferth o gyfieithu llawer o ddyfyniadau, pa. rai a ddeallir yn ddiangan y darllenydd Cym- reig. Ac yn ai), gwyddoch fod Uawer o frawdd- egau mewn iaith yn colli llawer o'u hystyr a'u nherth mewn cyfieithiad. Oherwydd y rheswm olaf gwelir tipyn o "bwff" Aramaeg, &c., yn dyfod i'r golwg yn ysgrifeniadau yr efengylwyr alr apogtolion, megis, "Talitha cwmi," Eli, Eli, lama Sabachthani," Maranatha," &c. Os mynwch i mi egluro neu hysbysu rhywbeth yn mhellach o berthynas i'r pwnc dan sylw, byddaf barod i wneud yn ol y gallu a'r goleuni a roddid i mi; ond teg ydyw i chwithau ddyfod allan dan eich enw priodol, fel boneddwr a Christion. D. WYNNE EVANS. TANYSaniFIADAU AT GRONFA GYNORTH- WYOL MR W C WILLIAMS, BEUDY MAWR. TANYGRISIAU, BLAENAU FFESTINIOG. BHAW I. Dr G J Roberts, Festiniog, Ip Is Parchn. M p Jones, Bala, lp T Rees, eto, 10s; R Evans, Pen- main, 10s; D W Reynolds, Nantyglo, 5s 0 R Owens, Ponkey,5s; D Griffith, Dolgelley, 2s 6c; J Jones, Maesydref, 2s 6c; E Morris, Dynryn, 2s 6c; Cyfaill, 2p 2s; Mri John G Williams, BrOn Haul, 5s John LI. Jones, Votty, &c, Bowydd, 5s; John LI. Jones (ieu.), eto, 5s G Williams, Doly- ddelen, 2s; R J Williams, Leeds-st., 2s; J Jones Garneddwen, 28 6c; R J Davies (Barlwydon), 2a 6c Ed. Jones, Bron View, Is Elias Roberts, Llwynygell, Is; W Jones, Glanydon, Is; Elhs Owen, Bhiw, Is; T E Davies, Cefn Byohan, 2s 6c; Edward Rowlands, Bronhaul, 5s; Edward Hughei, 5s j Owen Hughes, Pantcoeh, 28 6c; Richard Hughes, eto, 2s 6c; Robert Williams, Bethsaida, 6c Mrs Laura Roberts, Penybryn, 2s 6c; Miss L A Roberts, eto, 2s 6e; Mri Thomas Roberts, baker, 3s; Evan Williams, Rhyd, 2s; Thomas Jones, crydd, 2s 6c; Evan Griffiths, asiedydd ac adeilad- ydd, Ip; Cyfaill, 2p Mri J Jones, Maesyneuadd, Is; J. Jones, Factory, 2s S Jones, eto, Is; Hen- adur A Roberts, 5s; M ri 0 0 Morris, London- terrace, 2s; J Jones, Tanygrisiau-terrace, Is cyd- weithiwr, 2p; cymydog, 2p; Mri Phillip Hughes, Cynfal Bach, 5a Robert Morris, Loudon-terrace, Is; 0 Morris, eto, 2s; Daniel Williams, West End, Is; J T Roberts, Tygwyn, Is J T Roberts (ieu.), eto, Is; G Griffiths, Penygroes, Is R E Williams, Doppoc, lp Is; R 0 Jones, Glasfryn House, 2s; David Williams, Cwmorthin, 2s Humphrey Roberts, eto, 2s 60; W H Evans, West End, 2s 60; J E Humphreys, Is; G Jones, London-terrace, 2p; Mrs Jones, eto, 2p cyfanswm. 22p 13s 6c. Trysoryddion—Mri John G Williams, Bryn Hyfryd, Tanygriau, Blaenau Festiniog, a David Williams, Penybryn, Bethania, eto. D.S.—Taer erfyniram i bawb sydd yn ewyllysio yn dda, ac yn bwriadu cj northwyo Mr W C Wil- liams, i aufon eu tanysgrifladau i law un o'r trysoryddion, neu i law Mr W C Williams ei hunan mor fuan ac y byddo yn gyfleus. Diau genyf y cydsynia pawb ag sydd yn adnabod MJP Williams, ei fod yn ddyn 0 gymeriad rhagorol ya mhob ystyr, ac yn wrthddrych gwir deilwng i'w gynorthwyo, a hyny mewn modd sylweddol yn yr amgylchlad helbulus y mae ynddo yn bresenol. W. J. WILLIAMS, Ysg.

Advertising